Angen Help?

Y Comisiynydd Pobl Hŷn yn croesawu Hybiau Llesiant Menywod ac yn dweud bod yn rhaid i leisiau menywod hŷn gael eu clywed

i mewn Newyddion

Y Comisiynydd Pobl Hŷn yn croesawu Hybiau Llesiant Menywod ac yn dweud bod yn rhaid i leisiau menywod hŷn gael eu clywed

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad y bydd Hybiau Llesiant Menywod yn cael eu cyflwyno ar hyd a lled Cymru, gyda’r nod o sicrhau bod gwasanaethau a chymorth allweddol yn cael eu darparu i gleifion benywaidd mewn lleoliadau cymunedol, mewn ffordd hyblyg.

“Mae’n hanfodol mynd ati i gefnogi iechyd menywod, o ystyried yr anghydraddoldebau a’r rhwystrau sylweddol rydyn ni’n aml yn eu hwynebu o ran mynediad a chanlyniadau, yn enwedig wrth i ni heneiddio.

“Mae’r ffocws hwn ar gymunedau yn hynod bwysig oherwydd mae llawer o fenywod hŷn wedi dweud wrthyf eu bod wedi’i chael hi’n anodd, os nad yn amhosibl, cael gafael ar wasanaethau iechyd sydd wedi cael eu hadleoli, a’u bod yn aml yn wynebu heriau ychwanegol yn sgil problemau gyda thrafnidiaeth, cyfrifoldebau gofalu neu allgáu digidol.

“Wrth i’r gynlluniau ar gyfer hybiau lleol gael eu cwblhau, rhaid i fenywod hŷn gael cyfleoedd ystyrlon i leisio eu barn er mwyn i’w profiadau siapio’r penderfyniadau a wneir, ac er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau a gynigir – yn ogystal â sut a ble maen nhw’n cael eu darparu – yn adlewyrchu anghenion menywod o bob oed.”

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges