Angen Help?
Elderly people road sign against a black backdrop illuminated by a bright spotlight

Sylw i Oedraniaeth

i mewn Newyddion

Sylw i Oedraniaeth

Mae ein dealltwriaeth ni fel cymdeithas o ragfarn a gwahaniaethu a’u heffaith ar fywydau pobl wedi datblygu’n fawr.

Ond, er gwaetha’r cynnydd hwn, mae oedraniaeth yn parhau’n gyffredin (mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod gan 1 o bob 2 o bobl ledled y byd safbwyntiau sy’n gwahaniaethu ar sail oedran), ac mae’n aml yn cael ei ddiystyru, ei drin fel jôc, neu ei ystyried yn dderbyniol.

Mae iaith a delweddau sy’n gwahaniaethu ar sail oedran yn gyffredin iawn o hyd ar y cyfryngau, mewn hysbysebion ac o fewn trafodaethau cyhoeddus. Yn aml mae henaint yn cael ei gyfleu fel cyfnod o salwch, dirywiad ac eiddilwch, ac mae heneiddio’n cael ei gyflwyno fel rhywbeth y dylid ei ofni, yn hytrach na’i ddathlu.

Mae hyn yn atgyfnerthu’r agweddau negyddol a’r stereoteipiau sy’n bodoli am bobl hŷn, ac yn gallu arwain at unigolion yn wynebu gwahaniaethu mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys yn y gweithle ac wrth gael gafael (neu wrth geisio cael gafael) ar wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, a gwasanaethau cyhoeddus eraill, fel y mae corff cynyddol o dystiolaeth yn tynnu sylw ato.

Mae tystiolaeth hefyd yn dangos bod oedraniaeth yn achosi amrywiaeth o niwed, gan effeithio ar iechyd a llesiant pobl, diogelwch ariannol, allgáu cymdeithasol, yn ogystal â chyfyngu ar gyfleoedd pobl i fyw ac i heneiddio’n dda.

Felly, mae’n bwysig iawn ein bod yn cymryd camau i herio ac i atal oedraniaeth.

Er mwyn helpu i benderfynu beth yw’r ffyrdd mwyaf effeithiol o weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu trin yn deg, mae’n bwysig ein bod ni hefyd yn deall y ffyrdd y mae oedraniaeth yn amlygu ei hun ym mywydau bob dydd pobl hŷn yng Nghymru.

Dyna pam fy mod i wedi gwahodd arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ac arbenigwyr eraill sy’n gweithio mewn sectorau allweddol yng Nghymru i edrych ar y materion hyn o’u safbwynt nhw, fel rhan o’r gyfres, Sylw i Oedraniaeth.

Rwyf i eisiau i’r gyfres hon dynnu sylw at realiti oedraniaeth yng nghyd-destun Cymru, ac annog pobl i weithredu a newid drwy dynnu sylw at faterion a themâu trawsbynciol, yn ogystal â’r camau gweithredu sydd angen eu cymryd i ddarparu datrysiadau effeithiol.

Gan gofio sut gall oedraniaeth effeithio ar ein cyfleoedd i heneiddio’n dda, mae themâu’r cyfraniadau yn cyd-fynd yn fras ag 8 maes Oed-Gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd.

Bydd canolbwyntio ar y meysydd allweddol hyn yn helpu i sicrhau bod y materion sy’n cael eu harchwilio wedi’u gwreiddio’n gadarn ym mhrofiadau’r bobl hŷn sy’n byw yn ein cymunedau a bod y datrysiadau sy’n cael eu cynnig yn canolbwyntio ar weithredu mewn ffordd ymarferol i wella bywydau bob dydd pobl hŷn.

Byddaf yn cyhoeddi’r cyfraniadau bob yn dipyn dros y misoedd nesaf, cyn rhannu fy sylwadau a’m galwadau innau, felly cadwch lygad am y wybodaeth ddiweddaraf.

Steve Milsom, Ysgrifennydd Cynghrair Pobl Hŷn Cymru, ac Ymddiriedolwr Age Cymru sydd wedi ysgrifennu’r cyfraniad cyntaf. Mae Steve wedi casglu amrywiaeth eang o wybodaeth a data allweddol sy’n ymwneud ag oedraniaeth a’i effaith, er mwyn rhoi trosolwg defnyddiol o’r ffyrdd y mae oedraniaeth yn effeithio ar bobl hŷn mewn meysydd polisi allweddol.

 

Darllenwch gyfraniad Steve at y gyfres Sylw i Oedraniaeth

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges