Datganiad: Comisiynydd Pobl Hŷn yn ymateb i Adroddiad Modiwl 2 Ymchwiliad Covid-19 y DU
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Er y bydd yn cymryd amser i fynd drwy ddwy gyfrol adroddiad yr Ymchwiliad heddiw ac ystyried ei ganfyddiadau llawn yn fanwl, dyma ddarparu fy ymateb cychwynnol, o ystyried yr effaith sylweddol ac anghymesur a gafodd y pandemig ar fywydau llawer o bobl hŷn a’u hanwyliaid ledled Cymru.
“Fel y nodir yn yr adroddiad, roedd methiannau sylweddol, ar lefel Cymru a’r DU, wedi arwain at lefelau salwch a marwolaeth y gellid bod wedi’u hosgoi, ac wedi achosi niwed cymdeithasol dinistriol ar yr un pryd.
“Rwy’n ategu barn y Cadeirydd sef er y gallai camgymeriadau fod yn anochel yn ystod cyfnod o argyfwng na welwyd ei debyg o’r blaen, anfaddeuol oedd ailadrodd y camgymeriadau hyn ac roedd wedi costio llawer o fywydau gwaetha’r modd.
“Mae pedwar gair yn amlwg yn yr adroddiad, sef ‘dim digon, rhy hwyr’ – a dylai hyn fod yn destun cywilydd mawr i’r rhai a oedd yn llunio polisïau ac yn gwneud penderfyniadau, oherwydd mae eu ‘diffyg brys’ wedi effeithio ar fywydau miliynau o bobl.
“Testun pryder hefyd yw ei bod yn ymddangos bod dewisiadau gwleidyddol wedi dylanwadu ar rai penderfyniadau yn ystod y pandemig, er gwaethaf sicrwydd drwy’r amser ynghylch ‘dilyn y wyddoniaeth’. Er y byddai angen defnyddio ffactorau eraill o bosibl i siapio’r ymateb i ddigwyddiadau fel y pandemig, mae’n hanfodol fod llywodraethau’n agored ac yn onest gyda phobl am y sail ar gyfer gwneud penderfyniadau.
“At ei gilydd, mae’r canfyddiadau a’r hanesion yn yr adroddiad yn ein hatgoffa’n ddamniol o’r graddau y cafodd pobl hŷn, a llawer o grwpiau eraill, eu siomi gan y llywodraethau a’r systemau yr oeddent yn troi atynt am arweinyddiaeth ac arweiniad ac y dylent fod wedi gallu dibynnu arnynt i’w hamddiffyn a’u cefnogi.
“Rwy’n croesawu argymhellion y Cadeirydd, a oedd yn nodi amrediad o gamau ymarferol a fyddai’n sicrhau ymateb mwy effeithiol mewn amgylchiadau o argyfwng. Fodd bynnag, mae gennyf rai pryderon y bydd pobl hŷn a’u teuluoedd ledled Cymru yn teimlo nad ydynt yn mynd yn ddigon pell o ran sicrhau y byddai atebolrwydd am fethiannau neu benderfyniadau gwael yn y dyfodol.
“Edrychaf ymlaen at weld ymatebion gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn nodi sut byddant yn cyflawni’r camau gweithredu y gofynnir amdanynt. Ond os byddaf yn teimlo nad yw’r ymatebion hyn yn cyrraedd y nod mewn rhai meysydd, neu lle mae’n ymddangos nad yw lleisiau a phrofiadau pobl hŷn wedi cael eu hystyried yn ddigonol, ni fyddaf yn oedi cyn mynegi fy mhryderon wrth Weinidogion yng Nghaerdydd neu San Steffan.”