Cylchlythyr y Comisiynydd: Hydref 2025
Neges Gan Rhian
Roedd 30 Medi yn nodi blwyddyn ers i mi ymgymryd â rôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ac mae’r misoedd diwethaf wedi cynnwys nifer o gyhoeddiadau, digwyddiadau a thrafodaethau bwrdd crwn, sydd wedi helpu i ddatblygu fy nod o alluogi pob person hŷn ledled Cymru i fyw a heneiddio’n dda.
Mae’r chwarter diwethaf wedi arwain at lawer o gyfleoedd i fynd i ddigwyddiadau ymgysylltu cenedlaethol a lleol ledled Cymru, gan gynnwys Sioe Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a Sioe Sir Benfro.
Roedd pob un o’r rhain yn gyfleoedd gwerthfawr i siarad yn uniongyrchol â phobl hŷn, ac ymgysylltu â sefydliadau lleol a chenedlaethol, gan rannu gwybodaeth, cyngor ac arferion da.
Ochr yn ochr â’m gwaith parhaus i ymgysylltu â phobl hŷn ledled Cymru a chlywed ganddynt yn uniongyrchol, rwyf hefyd wedi trefnu a chynnal dau ddigwyddiad bwrdd crwn – un ar brofiadau pobl hŷn o drais a cham-drin rhywiol, a’r llall ar brofiadau pobl hŷn o gyrchu gwasanaethau meddygon teulu – gan ddod â chyrff cyhoeddus allweddol at ei gilydd i gytuno ar gamau gweithredu i gyflawni gwelliannau.
Uchafbwynt arall y tri mis diwethaf oedd cynnal gweminar lwyddiannus ar heneiddio heb blant, lle ymunodd dros 100 o bobl â mi i archwilio canfyddiadau fy ngwaith ymchwil diweddar a chlywed gan bobl hŷn am eu profiadau bywyd.
Mae’r tîm a minnau hefyd wedi bod yn brysur yn cyhoeddi nifer o adroddiadau allweddol, gan gynnwys ‘Heneiddio yng Nghymru’, sy’n rhoi cipolwg ar brofiadau pobl hŷn ar sail y data sydd ar gael, a’m dogfen ‘Blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru’, sy’n amlinellu’r camau rwy’n galw amdanynt gan lywodraeth nesaf Cymru i sicrhau bod gan bobl hŷn yng Nghymru yr hyn sydd ei angen arnynt i fyw a heneiddio’n dda.
A pheidiwch ag anghofio, os oes angen help a chymorth arnoch chi gyda rhywbeth sy’n eich poeni, gallwch chi gysylltu â’m Tîm Cyngor a Chymorth ar 03442 640 670 neu anfon neges e-bost at ask@olderpeople.wales.
Heneiddio yng Nghymru: Cipolwg ar Brofiadau Pobl Hŷn
Mae anghydraddoldebau sylweddol yn effeithio ar iechyd, llesiant ac annibyniaeth llawer o bobl hŷn ledled Cymru, gan greu rhwystrau yn eu bywydau bob dydd a chyfyngu ar gyfleoedd i fyw a heneiddio’n dda.
Dyna ganfyddiadau allweddol adroddiad diweddar y Comisiynydd, ‘Heneiddio yng Nghymru: Cipolwg ar Brofiadau Pobl Hŷn’, a gyhoeddwyd flwyddyn ar ôl i Rhian Bowen-Davies ymgymryd â’r rôl.
Mae’r adroddiad yn edrych ar y data a’r gwaith ymchwil sydd ar gael, gan olrhain tueddiadau dros amser lle bo hynny’n bosibl, er mwyn rhoi cipolwg ar brofiadau pobl o heneiddio ar draws meysydd allweddol o’u bywydau.
Yn ôl yr adroddiad, er bod mynd yn hŷn yn gyfnod o foddhad i lawer o bobl hŷn ac yn eu grymuso, mae eraill yn wynebu amrywiaeth o broblemau a heriau sy’n eu rhoi mewn mwy o berygl o gael eu gadael ar ôl neu eu heithrio.
Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ddata sy’n dangos sut mae materion allweddol yn effeithio ar iechyd a llesiant pobl. Mae hyn yn cynnwys data sy’n dangos y gall pobl sy’n byw yn ardaloedd tlotaf Cymru ddisgwyl byw mewn iechyd gwael am bron i ddegawd yn hwy na’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd mwy cyfoethog.
Mae’r Comisiynydd wedi rhannu’r adroddiad â Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus allweddol eraill, gan dynnu sylw at y camau y mae angen eu cymryd i ymateb i’r materion a nodwyd, a bydd yn defnyddio’r dystiolaeth bwysig a gasglwyd i gefnogi ei galwadau am newid a gwelliannau.
Wrth drafod yr adroddiad, dywedodd y Comisiynydd:
“Mae’n gadarnhaol bod y data yn yr adroddiad yn dangos bod llawer o bobl hŷn yn teimlo’n fodlon, eu bod yn cael eu grymuso a’u bod yn gallu gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.
“Fodd bynnag, mae pobl hŷn eraill yn wynebu anghydraddoldebau sylweddol, sy’n arwain at broblemau a heriau sy’n eu rhwystro rhag byw a heneiddio’n dda. Gall hyn effeithio ar sawl agwedd ar fywydau pobl, gan gynnwys mynediad at wasanaethau a chymorth, teimladau o ddiogelwch a chael eich trin yn deg gan gymdeithas.
“Fel y nodwyd yn yr adroddiad, mae’r materion hyn yn tanseilio iechyd, llesiant ac annibyniaeth pobl, sydd i gyd yn chwarae rhan allweddol yn ansawdd ein bywydau wrth i ni heneiddio.”
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma: https://comisiynyddph.cymru/adnodd/heneiddio-yng-nghymru-cipolwg-ar-brofiadau-pobl-hyn/ neu cysylltwch â ni os hoffech chi gael copi papur.
Heneiddio Heb Blant: Ymateb yn Effeithiol i Dirwedd sy’n Newid
Ym mis Medi, cynhaliodd y Comisiynydd weminar a fynychwyd gan dros 100 o gynrychiolwyr, a oedd yn edrych ar y dirwedd ddemograffig sy’n newid yng Nghymru, lle mae nifer cynyddol o oedolion yn heneiddio heb blant.
Roedd y weminar yn gyfle i archwilio canfyddiadau adroddiad diweddar y Comisiynydd, ‘Pobl Hŷn Heb Blant’, gyda sesiwn dan arweiniad Hannah Rigley o Miller Research, a gynhaliodd y gwaith ymchwil ar ran y Comisiynydd.
Cyfrannodd tri o bobl hŷn – Andrew, Gilly a Jean – at y weminar hefyd, gan rannu eu profiadau bywyd eu hunain o heneiddio heb blant a darparu mewnwelediadau gwerthfawr i’r rheini a oedd yn bresennol.
Cyn trafodaeth panel a sesiwn holi ac ateb, ymunodd Jenny Collieson, Cyd-gadeirydd elusen Heneiddio Heb Blant (AWOC) y DU â’r Comisiynydd, gan rannu ei myfyrdodau ar gamau allweddol y mae angen eu cymryd i sicrhau bod pobl sy’n heneiddio heb blant yn gallu cyrchu’r gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt. Mae’r rhain yn cynnwys dysgu o brofiadau cadarnhaol pobl a chefnogi unigolion i fod yn rhagweithiol o ran cynllunio ar gyfer heneiddio, yn ogystal â gwella’r gwaith o gasglu data i ddeall mwy am beth mae heneiddio heb blant yn ei olygu o ran bywydau pobl o ddydd i ddydd.
Roedd y gweminar yn gyfle pwysig i archwilio ffyrdd ymarferol o fynd i’r afael â’r materion a amlygwyd yn adroddiad y Comisiynydd, a gafodd eu hadlewyrchu ym mhrofiadau’r siaradwyr gwadd a’r panelwyr, gan ddod ag amrywiaeth eang o lunwyr polisïau a gweithwyr proffesiynol a phenderfynwyr eraill at ei gilydd i archwilio pwnc sydd wedi cael ei anwybyddu’n hanesyddol, gan herio rhagdybiaethau blaenorol am heneiddio.
Ar ein gwefan, gallwch hefyd ddarllen blog a ysgrifennwyd gan Rob Hadley, arbenigwr blaenllaw ar ddiffyg plant a heneiddio ymhlith dynion. Mae Rob yn tynnu sylw at ei waith ymchwil i brofiadau dynion o heneiddio heb blant, ac mae’n edrych ar y rhwystrau a’r problemau penodol y gallant eu hwynebu. Mae Rob hefyd yn rhannu ei safbwyntiau am y camau gweithredu sydd eu hangen ar lefel y llywodraeth, y gymuned ac unigolion i drawsnewid y cymorth sydd ar gael gan gymdeithas.
Gallwch ddarllen yr erthygl lawn yma: https://comisiynyddph.cymru/newyddion/blog-gwaddpawss-for-thought-the-hidden-mawfia-men-ageing-without-family-isolated-and-alienated/.
Cymru sy’n arwain y ffordd i bobl hŷn: Blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Nesaf Cymru
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn galw ar lywodraeth nesaf Cymru i weithredu mewn amrywiaeth o feysydd allweddol er mwyn sicrhau nad yw pobl hŷn yn cael eu heithrio o gymdeithas a’u bod yn cael y cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau iach ac annibynnol.
Mae’r Comisiynydd yn awyddus i weld pob plaid wleidyddol yng Nghymru yn cynnwys ymrwymiadau i fynd i’r afael â’r materion sy’n effeithio ar fywydau pobl hŷn yn eu maniffestos, gan ddangos sut y byddent yn darparu gwasanaethau a chymorth sy’n ymateb yn effeithiol i anghenion pobl hŷn.
Mae dogfen y Comisiynydd, ‘Blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru’ (a gyhoeddwyd 25 Medi), yn galw ar y Llywodraeth nesaf i sicrhau nad yw pobl hŷn heb sgiliau digidol yn cael eu hallgau rhag defnyddio’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, ac i leihau tlodi ymysg pobl hŷn drwy roi cymorth i’r rhai sy’n colli allan ar gefnogaeth y Credyd Pensiwn oherwydd bod eu hincwm dros y trothwy.
Mae’r Comisiynydd hefyd eisiau gweld y Llywodraeth yn cymryd camau pellach i wneud Cymru yn genedl o gymunedau oed-gyfeillgar sy’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o’n cefnogi ni i fyw ac i heneiddio’n dda.
Mae’r Comisiynydd yn credu bod y camau gweithredu hyn yn hanfodol, yn enwedig o ystyried bod disgwyl i nifer y bobl hŷn yng Nghymru barhau i godi a chyrraedd bron i draean o’r boblogaeth yn ystod tymor nesaf y Senedd. Mae’r galwadau hyn wedi eu cyfeirio at yr holl bleidiau gwleidyddol y mae disgwyl iddynt ennill seddi yn etholiad nesaf y Senedd, ac mae pob plaid wedi cael cyfle i gwrdd â hi i’w trafod yn fanylach cyn i’r maniffestos gael eu cwblhau yn y misoedd nesaf.
Dywedodd y Comisiynydd: “Rwy’n galw ar lywodraeth nesaf Cymru i weithredu mewn nifer o feysydd allweddol, ac i ganolbwyntio ar fynd i’r afael â materion allweddol drwy gefnogi pobl i fyw a heneiddio’n dda a chydnabod yr anghenion amrywiol sydd gan bobl hŷn.
“Mae’r hyn rwy’n alw amdano yn seiliedig ar yr hyn rwyf i wedi ei glywed ar lawr gwlad gan y bobl hŷn sy’n byw yng nghymunedau Cymru. Rwy’n gobeithio y caf gyfle i drafod y camau gweithredu hyn yn fanylach gyda phleidiau Cymru yn y misoedd nesaf wrth iddynt gwblhau eu maniffestos terfynol.
“Mae’n bwysig bod yr ymrwymiadau hyn i weithredu er mwyn cefnogi pobl hŷn yn cael eu gwneud ar draws y sbectrwm gwleidyddol er mwyn sicrhau y bydd y Llywodraeth nesaf, waeth pwy fydd mewn grym, yn adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd eisoes mewn lle ac yn gweithredu i roi newidiadau, datblygiadau a gwelliannau pwysig ar waith.”
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma: https://comisiynyddph.cymru/adnodd/ blaenoriaethau-ar-gyfer-llywodraeth-nesaf-cymru/ – neu cysylltwch â ni os hoffech chi gael copi papur.
Gwireddu Hawliau i Bobl Hŷn: Y Comisiynydd yn traddodi’r brif ddarlith yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn (1 Hydref), traddododd y Comisiynydd Ddarlith Flynyddol yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol, yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe.
Roedd y ddarlith yn canolbwyntio ar y camau ymarferol sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r bylchau sylweddol rhwng y warchodaeth a’r gefnogaeth y dylai polisïau a deddfwriaeth allweddol eu cynnig, a’r hyn y mae pobl yn ei brofi’n ymarferol.
Tynnodd y Comisiynydd sylw at yr hyn y mae pobl hŷn yn ei ddweud wrthi’n aml: nad ydynt yn teimlo bod eu hawliau’n bwysig, a’u bod yn teimlo bod eu hawliau’n lleihau wrth iddynt heneiddio. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith y gall gwahaniaethu ar sail oedran effeithio ar y ffordd y mae ein hawliau’n cael eu defnyddio yn ein bywydau bob dydd, gan arwain at driniaeth annheg ac allgau.
Un mater allweddol a ystyriwyd gan y Comisiynydd oedd pwysigrwydd mwy o atebolrwydd i gyrff cyhoeddus, er mwyn sicrhau eu bod yn cynnal eu dyletswyddau i ddiogelu hawliau pobl.
Nododd y Comisiynydd hefyd pam y byddai Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Hŷn yn helpu i ddarparu dehongliad cliriach a mwy hygyrch o hawliau dynol cyffredinol yng nghyd-destun profiadau pobl hŷn. Byddai hyn yn darparu fframwaith mwy cadarn ar gyfer mynd i’r afael â’r achosion penodol o dorri hawliau a brofir gan bobl hŷn, gan ganolbwyntio’n benodol ar gynnwys lleisiau pobl mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
Gallwch wylio’r araith gyfan ar-lein yn: https://www.swansea.ac.uk/law/observatory/
Trawsnewid gwasanaethau mewn gofal sylfaenol a chymunedol: Digwyddiad Bwrdd Crwn Mehefin 2025
Mynediad at feddygfeydd yw un o’r materion y mae pobl hŷn yn ei godi amlaf gyda’r Comisiynydd, ac ers cyhoeddi ei Hadroddiad ar Fynediad at Feddygfeydd, mae’r Comisiynydd wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau bwrdd crwn sy’n dod â chyrff iechyd a sefydliadau allweddol eraill at ei gilydd i edrych ar sut mae argymhellion yr adroddiad yn cael eu rhoi ar waith.
Cynhaliwyd y diweddaraf o’r digwyddiadau hyn ym mis Mehefin ac roedd yn gyfle i edrych ar y cynnydd sy’n cael ei wneud, yn ogystal ag ystyried materion sy’n dod i’r amlwg a’r camau sydd angen eu cymryd i fynd i’r afael â’r rhain.
Roedd rhai o’r materion allweddol a drafodwyd yn y cyfarfod bwrdd crwn yn cynnwys:
- Yr heriau parhaus y mae pobl hŷn yn eu hwynebu wrth gyrchu gwasanaethau meddygon teulu, gan gynnwys amseroedd aros hir am apwyntiadau ac allgau digidol.
- Yr angen i ddiogelu’r gweithlu gofal iechyd at y dyfodol yng ngoleuni poblogaeth sy’n heneiddio a phwysigrwydd timau amlddisgyblaethol o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn gweithio gyda’i gilydd yn y gymuned i ddarparu gofal cynhwysfawr i bobl hŷn.
- Effaith trawsnewid gwasanaethau ar bobl hŷn a’r angen i gofnodi a mesur profiadau pobl.
- Pwysigrwydd dilyniant mewn gofal.
- Atal pobl hŷn rhag dirywio yn yr ysbyty.
- Trawsnewid digidol ym maes gofal sylfaenol, gan gynnwys datblygu offer deallusrwydd artiffisial, cofnod gofal integredig, a phwysigrwydd dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr i wella’r gwasanaeth a ddarperir a phrofiad cleifion.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma: https://comisiynyddph.cymru/adnodd/trawsnewidgwasanaethau-mewn-gofal-sylfaenol-a-chymunedol-trafodaeth-bwrdd-crwn-mehefin-2025/ – neu cysylltwch â ni os hoffech chi gael copi papur.
Cyfarfod a Siarad â Phobl Hŷn Ledled Cymru
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae ymweliadau’r Comisiynydd ledled Cymru wedi parhau, gan gwrdd â phobl hŷn a siarad â nhw i glywed yn uniongyrchol am eu profiadau o heneiddio, y problemau maen nhw’n eu hwynebu yn eu cymunedau, a’r newidiadau maen nhw eisiau eu gweld. Mae’r digwyddiadau ymgysylltu hyn hefyd wedi rhoi’r cyfle i ni rannu gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol, a rhoi cyngor a chymorth ar amrywiaeth o faterion.
Rhoddodd pawb rydym wedi ymweld â nhw groeso cynnes iawn i’r Comisiynydd a’i thîm, a diolchwn i bawb a siaradodd â ni am rannu eu profiadau mor agored a gonest, gan ein helpu i nodi materion cyffredin a rhai sy’n dod i’r amlwg sy’n llywio gwaith y Comisiynydd i ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer. Mae gennym lawer mwy o sesiynau ymgysylltu ar y gweill ledled Cymru, ond os ydych chi eisiau i’r Comisiynydd ymweld â’ch grŵp chi, cysylltwch â ni ar 03442 640 670 neu ask@olderpeople.wales.
Dyma gipolwg ar y digwyddiadau ymgysylltu a fynychwyd gan y Comisiynydd a’i thîm yn ystod y chwarter diwethaf:
- Caerdydd – Cynulliad Gofalwyr Di-dâl Caerdydd a’r Fro
- Abertawe – Grŵp Cymunedol Heneiddio’n Dda
- Bro Morgannwg – Diwrnod Cyfeillgar i Ddementia’r Bont-faen
- Conwy – Digwyddiadau Cartrefi Conwy yn Llanrwst a Llandudno
- Abertawe – Trydydd Digwyddiad Blynyddol Gofalwyr Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg
- Ceredigion – Neuadd Tregroes
- Blaenafon – Amgueddfa Lofaol Cymru Pwll Mawr
- Caerdydd – Pencampwriaethau Agored Pickleball Cymru
- Caerdydd – Bore Coffi Llwynfedw
- Llanharan – Cymdeithas Pensiynwyr Llanharan
- Sir Benfro – Sioe Sir Benfro
- Cil-y-coed – iConnect, Cwrt Hafren
- Wrecsam – Eisteddfod Genedlaethol Cymru
- Caerfyrddin – Cymdeithas U3A
- Caerdydd – Fforwm 50+ Llandaf
- Abertawe – Y Sied yn y Pafiliwn, Llansamlet
- Torfaen – Fforymau 50+ Cwmbrân, Pont-y-pŵl a Blaenafon
- Llanelwedd – Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru
SBOTOLAU AR…
Mae’r adran hon yn sbotolau ar wybodaeth ddefnyddiol gan sefydliadau eraill, yn ogystal â chyfleoedd i leisio’ch barn neu gymryd rhan mewn prosiectau sydd ar y gweill.
Sefydliad Dysgu a Gwaith – Dysgwr y Flwyddyn i Oedolion
Bob blwyddyn, mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dathlu dysgu gydol oes ac yn cydnabod cyflawniadau pobl yng Ngwobrau Ysbrydoli!
Eleni, enillydd y wobr ‘Heneiddio’n Dda’ oedd Gloria Beynon o Lanelli, sy’n defnyddio ei sgiliau newydd i gyflwyno gweithdai defnyddiol i gefnogi mamau newydd. Darllenwch stori Gloria isod:
“Mae dysgu wedi ailddeffro fy meddwl y tu hwnt i ofal plant, gan roi hwb i fy hyder a’m llesiant cyffredinol. Mae gwirfoddoli
wedi fy nghyflwyno i gymaint o deuluoedd gwych ac mae CYCA wedi rhoi’r hyder i’m hŵyr ffynnu ymhlith ei gyfoedion. Mae’n brofiad gwych y byddwn i’n ei argymell i unrhyw un o unrhyw oed,” medd Gloria Beynon, a dderbyniodd y Wobr Heneiddio’n Dda yng Ngwobrau Ysbrydoli! 2025.
O wirfoddoli i eiriolydd ysbrydoledig dros ddysgwyr
Mae ymddeoliad Gloria Beynon wedi datblygu i fod yn bennod weithredol sy’n canolbwyntio ar ddysgu gydol oes a gwasanaeth cymunedol. Yn gyn-gynorthwyydd addysgu, dewisodd Gloria edrych ar ei blynyddoedd diweddarach nid fel cyfyngiad, ond fel cyfle i drawsnewid.
Dechreuodd ei thaith ymgysylltu ym meithrinfa CYCA (Cysylltu Ieuenctid, Plant ac Oedolion) Llanelli, yr oedd ei hŵyr yn mynychu. A hithau’n awyddus i gyfranogi, cymerodd ran yn gyntaf mewn cwrs Chwarae a Sgwrsio, a sbardunodd ei hangerdd dros ddysgu ac a’i harweiniodd i gwblhau chwe chwrs achrededig a roddodd hwb sylweddol i’w hyder a’i llesiant.
A hithau bellach yn Llysgennad Gwirfoddolwyr Cymunedol, mae Gloria yn rhoi ei sgiliau ar waith, yn enwedig drwy gynnal gweithdai “Coginio ar Gyllideb” wythnosol yn annibynnol ar gyfer mamau ifanc, gan ei gwneud yn ased amhrisiadwy ac ysbrydoledig i’r gymuned.
Dathlwyd stori Gloria yn Abertawe ar 18 Medi yng Ngwobrau Ysbrydoli!, ochr yn ochr â deg o bobl a phrosiectau ysbrydoledig eraill sydd wedi dangos ymrwymiad i beidio byth â rhoi’r gorau i ddysgu.
Gallwch weld yr holl straeon, a chael rhagor o wybodaeth am y gwobrau ar wefan Wythnos
Addysg Oedolion: https://adultlearnersweek.wales/award-winners/?lang=cy
Helpwch i lunio gwaith ymchwil Shelter Cymru ar rentu preifat
Mae Shelter Cymru wedi lansio prosiect newydd i ddeall yn well brofiadau pobl sy’n rhentu eu cartrefi gan landlordiaid preifat er mwyn i ni allu cyflwyno datrysiadau y gellir eu cyflawni ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth i’r heriau y mae rhentwyr yn eu hwynebu.
Mae Shelter Cymru am i bob cam o’r prosiect newydd hwn gael ei llywio gan bobl sydd wedi bod yn rhentu’n breifat neu sydd ar hyn o bryd yn rhentu’u cartref yn breifat, felly maent wedi creu panel ymgynghorol o rentwyr.
Maent hefyd yn credu ei bod yn hanfodol bod y panel hwn yn adlewyrchu amrywiaeth profiadau pobl sy’n rhentu’n breifat, ac fel rhan o hynny mae clywed barn rhentwyr hŷn yn allweddol. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn cyfarfod panel misol i helpu i siapio’r gwaith hwn, bydden nhw wrth eu bodd yn clywed gennych chi.
Mae opsiwn i gael eich enwi ac i dderbyn diolch yn gyhoeddus am eich cyfraniad, neu i gyfrannu at y panel cynghori yn anhysbys.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect hwn, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â laurenc@sheltercymru.org.uk, neu ffoniwch 07920 752468.
Ein Cylchlythyr
Mae croeso i chi anfon y cylchlythyr hwn at eich cydweithwyr neu unrhyw un arall y gallai fod o ddiddordeb iddo.
Os ydych wedi derbyn y cylchlythyr gan drydydd parti, ac os hoffech i ni roi eich enw ar y rhestr ddosbarthu, cysylltwch â ni (manylion isod). Gallwn hefyd ddarparu copi caled o’r cylchlythyr, neu fersiwn print bras, dim ond i chi ofyn.
Cofiwch gysylltu â ni os ydych am i ni dynnu eich enw oddi ar ein rhestr ddosbarthu.
Eich sylwadau, adborth a storïau
Byddem yn gwerthfawrogi unrhyw adborth ynglŷn â’n cylchlythyr, felly cofiwch gysylltu â ni i rannu eich barn neu i gynnig sylwadau.
Rydym hefyd yn croesawu awgrymiadau ynglŷn â chynnwys posibl ar gyfer y cylchlythyr, felly os oes gennych unrhyw wybodaeth y byddech yn hoffi i ni ei chynnwys mewn rhifyn yn y dyfodol, cofiwch gysylltu â ni.