Mae’r papur hwn yn rhoi crynodeb o effaith a chyrhaeddiad gwaith y Comisiynydd yn ystod 2025-26. Mae Adroddiad Blynyddol llawn y Comisiynydd ar gael yma: https://comisiynyddph.cymru/adroddiad-blynyddol/adroddiad-blynyddol-a-datganiadau-ariannol-2025-26/
Cyflwyniad gan y Comisiynydd
2025-26 oedd fy mlwyddyn lawn gyntaf fel Comisiynydd Pobl Hŷn, ac roeddwn yn falch o allu cyflawni ystod o waith i sbarduno newidiadau a gwelliannau i bobl hŷn o Fôn i Fynwy, fel sy’n cael ei amlygu yn yr adroddiad hwn.
Mae lleisiau a phrofiadau pobl hŷn wedi parhau i fod wrth galon fy ngwaith, wedi’u cofnodi ar draws fy ymchwil a’m hadroddiadau, yn ogystal â thrwy ddigwyddiadau ymgysylltu a’r cyswllt â’m Gwasanaeth Cyngor a Chymorth. Mae hyn yn amhrisiadwy i arwain y camau rwy’n eu cymryd ac yn galw amdanynt, i ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer ac mae’n fy ngalluogi i ymateb yn effeithiol i faterion sy’n dod i’r amlwg sy’n effeithio ar bobl hŷn.
Fel y gwelwch isod, roedd fy ngwaith yn canolbwyntio ar bedwar amcan cenedlaethol allweddol, sydd nid yn unig yn sail i’r hyn rwy’n ei gyflawni fel Comisiynydd, ond sydd hefyd yn rhoi fframwaith ar gyfer y camau gweithredu sy’n ofynnol gan wasanaethau a chyrff cyhoeddus i fynd i’r afael â’r amrywiaeth o heriau a rhwystrau sy’n wynebu pobl hŷn a chyflawni’r gwelliannau sydd eu hangen:
- Mae pobl hŷn yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth, y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt;
- yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi, yn eu cymunedau ac yn eu perthnasoedd;
- yn cael eu trin yn deg a bod eu cyfraniad yn cael ei gydnabod; ac
- yn gallu sicrhau bod eu lleisiau’n cael gwrandawiad ac mae ganddynt ddewis a rheolaeth dros eu bywydau.
Un agwedd hanfodol ar fy ngwaith yn ystod 2025-26 oedd sicrhau bod llunwyr polisïau a phenderfyniadau yn deall realiti heneiddio o ddydd i ddydd yng Nghymru, yn enwedig i unigolion sy’n wynebu anawsterau a’r rhai sydd mewn sefyllfaoedd agored i niwed.
Roedd hyn yn cynnwys tynnu sylw at faterion allweddol sy’n effeithio ar lesiant ac ansawdd bywyd pobl hŷn a galw am newid a gwelliannau ystyrlon gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus.
Roedd mynd i’r afael ag oedraniaeth hefyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ochr yn ochr â pharatoi a dosbarthu adnoddau defnyddiol i rymuso pobl hŷn yn uniongyrchol a sicrhau bod eu hawliau’n cael eu diogelu.
Rwyf hefyd wedi parhau i hyrwyddo agweddau cadarnhaol heneiddio a’r cyfraniad sylweddol y mae pobl hŷn yn ei wneud i’n cymunedau i herio stereoteipiau a thybiaethau, gan weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill ledled Cymru i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cynlluniau, gweithgareddau a chyfleoedd oed-gyfeillgar.
Wrth symud ymlaen, mae llawer o gyfleoedd i sicrhau newid a gwelliannau ystyrlon i bobl hŷn, gan adeiladu ar sylfeini cadarn, a manteisio ar yr egni a’r momentwm a gynhyrchir gan Lywodraeth newydd Cymru.
Ac eto, mae’r dystiolaeth gafodd ei chasglu drwy fy ymchwil, fy ngwaith ymgysylltu a’m gwaith o ddydd i ddydd hefyd yn dangos bod gormod o bobl hŷn yn parhau i brofi bwlch rhwng uchelgais ac ymarfer, sy’n golygu nad yw eu profiadau’n cyrraedd yr hyn y dylent allu ei ddisgwyl. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod dealltwriaeth dda o lawer o’r heriau sy’n wynebu pobl hŷn, a bod y camau sydd eu hangen i fynd i’r afael â nhw yn glir.
Dyna pam y byddaf fel Comisiynydd, yn dal ati i fod yn llais cryf ac annibynnol ac yn hyrwyddwr dros bobl hŷn, gan sbarduno newidiadau a gwelliannau drwy fy rhaglen waith a dwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif i sicrhau bod ymrwymiadau’n cael eu trosi i fod yn gamau gweithredu, bod polisi da yn cael ei drosi i fod yn ymarfer da fel bod pobl hŷn ledled Cymru yn gallu byw a heneiddio’n dda, gyda’r urddas, yr hawliau a’r cyfleoedd maen nhw’n eu haeddu.
Rhian Bowen-Davies
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
MYNEDIAD AT WYBODAETH, GWASANAETHAU A CHYMORTH
Un o brif elfennau gwaith y Comisiynydd yn ystod 2025-26 oedd casglu tystiolaeth am brofiadau pobl hŷn o gael gafael ar wybodaeth, gwasanaethau a chymorth i sicrhau bod y materion a’r heriau maent yn eu hwynebu yn cael eu cydnabod, eu deall ac yn cael ymateb gan lunwyr polisïau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.
Profiadau pobl hŷn o wasanaethau gofal cymdeithasol
Fe wnes y Comisiynydd gysylltu â phobl hŷn sy’n cael gwahanol fathau o ofal cymdeithasol ledled Cymru i weld beth sy’n gweithio’n dda, yn ogystal â lle gellir gwell.
Fe waneth dros 260 o bobl hŷn ac aelodau o’u teuluoedd ymateb drwy holiadur, ac fe wnaeth cyfweliadau manwl dros y ffôn gynnig cyfleoedd i archwilio materion gyda rhai cyfranogwyr yn fanylach.
Bydd y Comisiynydd yn cyhoeddi ei chanfyddiadau yn yr haf, gan ddisgrifio’r camau gweithredu sydd eu hangen mewn meysydd allweddol a sut gellid blaenoriaethu hyn yn effeithiol.
Barn pobl hŷn ar fynediad at gyfleusterau parcio ceir yng Nghymru
Fe wnaeth y Comisiynydd archwilio i effaith y defnydd cynyddol o systemau talu digidol ac apiau mewn meysydd parcio, sy’n aml yn gweithredu fel rhwystr i bobl hŷn, gan effeithio ar eu llesiant o ran annibyniaeth a’u gallu i gymryd rhan mewn bywyd cymunedol.
Fe wnaeth adroddiad y Comisiynydd hefyd dynnu sylw at rwystrau ychwanegol y mae pobl hŷn yn eu hwynebu, sy’n aml yn golygu bod pobl yn dibynnu ar bobl eraill neu ddim yn teimlo’n hyderus o ran parcio’n annibynnol mwyach.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys nifer o gamau ymarferol er mwyn i awdurdodau lleol ymateb i’r materion y tynnwyd sylw atynt, gan gynnwys cadw amrywiaeth o opsiynau talu, a gwella’u ffyrdd o gyfathrebu er mwyn hyrwyddo’r ffaith bod modd talu mewn ffyrdd ar wahân i ddulliau digidol.
Mynd yn hŷn heb blant
Fe wnaeth ‘Adroddiad pobl hŷn sydd heb blant’ y Comisiynydd amlygu, er bod i heneiddio heb blant lawer o fanteision mae pobl sydd heb blant hefyd yn gallu teimlo’n anweledig, eu bod ar y cyrion a’u bod yn cael eu hanwybyddu yn ystod trafodaethau am heneiddio mewn cymdeithas sy’n canolbwyntio ar deuluoedd.
Fe wnaeth yr adroddiad ganfod hefyd fod llawer o bolisïau a gwasanaethau’n tybio bod rhyw fath o gymorth gan deulu yn bresennol ac yn nodi ystod o gamau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau bod gwasanaethau a chymunedau’n gynhwysol ac yn addas ar gyfer y dyfodol.
Er mwyn archwilio’r canfyddiadau a’r ffyrdd mae gwasanaethau cyhoeddus yn gallu bod yn fwy cynhwysol yn fanylach, fe wnaeth y Comisiynydd gynnal gweminar lle roedd dros 150 o gynrychiolwyr yn bresennol, a wnaeth gynnwys cyfraniadau gan bobl hŷn ac arbenigwyr eraill.
TEIMLO’N DDIOGEL
Roedd gwaith y Comisiynydd o dan y flaenoriaeth hon yn ystod 2025-26 yn canolbwyntio ar ddeall yn well y risgiau y mae pobl hŷn yn gallu eu hwynebu, yn enwedig mewn sefyllfaoedd lle gallent fod yn arbennig o agored i niwed, ac ar weithio gyda phartneriaid i nodi a bwrw ymlaen â’r camau sydd eu hangen i atgyfnerthu’r cymorth, gwella ymatebion a sicrhau bod pobl hŷn yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn.
Amseroedd aros ar gyfer addasiadau i’r cartref
Fe wnaeth y Comisiynydd gomisiynu canfyddiadau ei hymchwil i amseroedd aros ar gyfer addasiadau hanfodol i gartrefi, gan dynnu sylw at y ffaith bod yr amser aros cyfartalog wedi cynyddu bron i 80% mewn llai na degawd.
Fe wnaeth adroddiad y Comisiynydd ganfod fod y systemau a’r prosesau sy’n ymwneud ag addasiadau i gartrefi yn gallu bod yn gymhleth, yn anghyson ac yn anodd eu defnyddio, sy’n creu rhwystrau, tra bo galw a chostau cynyddol yn creu rhagor o bwysau.
Mae’r Comisiynydd yn gweithio gyda Llywodraeth newydd Cymru, yn ogystal â gydag awdurdodau lleol ledled Cymru, i sicrhau bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd a bod gwelliannau’n cael eu gwneud.
Gwella ymatebion gwasanaethau i brofiadau pobl hŷn o drais a cham-drin rhywiol
Fe wnaeth y Comisiynydd ddwyn ynghyd arbenigwyr a chynrychiolwyr o sefydliadau allweddol i archwilio sut gellid gwella’r ymatebion gan wasanaethau pan geir amheuaeth neu adroddiadau o drais neu gam-drin rhywiol.
Yn ystod y digwyddiad, fe wnaeth y cyfranogwyr nodi’r angen am amrywiaeth o gamau gweithredu mewn nifer o feysydd allweddol ac fe wnaethant ymrwymo i gefnogi cynnydd ar draws y rhain.
Mae’r Comisiynydd hefyd yn chwarae ei rhan drwy weithio gydag aelodau o’i Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin, Llywodraeth Cymru a sefydliadau allweddol eraill i gryfhau dealltwriaeth, dylanwadu ar bolisi, canfod yr arferion da a chefnogi ymatebion gwell.
Gwneud Cymru’n Genedl o Gymunedau Oed-gyfeillgar
Daliais ati i weithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i gefnogi amrywiaeth o gamau gweithredu i wneud cymunedau’n fwy oed-gyfeillgar, gan gynnig cymorth ymarferol i ddatblygu strategaethau a chynllunio heneiddio’n dda yn lleol.
Gyda fy nghefnogaeth i, ymunodd tri awdurdod lleol arall yng Nghymru â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar yn ystod 2025-26. Mae hyn yn golygu bod dwy ran o dair o bobl dros 60 oed yng Nghymru bellach yn byw mewn ardal sy’n cael ei chydnabod am ei chynlluniau oed-gyfeillgar.
Cafodd rhagor o waith ei wneud i dyfu a chryfhau Cymuned Ymarfer Oed-gyfeillgar y Comisiynydd, sy’n cynnig lle i’r aelodau gydweithio a rhannu gwybodaeth i gefnogi datblygiadau arloesol ac arferion da.
CYDNABYDDIAETH A THRINIAETH DEG
Roedd rhan allweddol o waith y Comisiynydd yn ystod 2025-26 yn canolbwyntio ar herio oedraniaeth, gwella’r gydnabyddiaeth o brofiadau pobl hŷn a chynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth i roi hwb i weithredu i sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi, eu cynnwys a’u trin yn deg.
Modiwl dysgu gweithredu yn erbyn oedraniaeth
Fe wnaeth y Comisiynydd baratoi modiwl dysgu ar-lein i rymuso pobl ledled Cymru i adnabod a herio oedraniaeth, sy’n ymdrin â nifer o feysydd allweddol lle mae oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran yn gyffredin.
Mae’r cwrs yn cynnig gwybodaeth ymarferol am sut i weithredu yn erbyn oedraniaeth, ynghyd â dolenni at sefydliadau ac adnoddau defnyddiol eraill sy’n gallu rhoi gwybodaeth a chymorth.
Mae’r cwrs wedi’i anelu’n bennaf at staff y sector cyhoeddus yng Nghymru, ond mae ar gael am ddim i unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am y rhan maen nhw’n gallu ei chwarae i fynd i’r afael ag oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran, a pham mae hyn mor bwysig.
Heneiddio yng Nghymru: Cipolwg ar brofiadau pobl hŷn
Fe wnaeth y Comisiynydd archwilio amrywiaeth eang o ddata ac ymchwil sydd ar gael i roi cipolwg ar y problemau, y rhwystrau a’r anghydraddoldebau y mae pobl hŷn yn eu hwynebu ar hyn o bryd, sy’n aml yn cyfyngu ar y cyfleoedd sydd eu hangen ar bobl i fyw a heneiddio’n dda.
Fe wnaeth ei hadroddiad ganfod, er bod mynd yn hŷn yn gyfnod o foddhad i lawer o bobl hŷn ac yn eu grymuso, mae eraill mewn llawer mwy o berygl o gael eu gadael ar ôl neu eu heithrio.
Fe gafodd yr adroddiad a’r galwadau am weithredu eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus allweddol eraill, ac mae’r Comisiynydd yn parhau i ddefnyddio’r dystiolaeth bwysig yn yr adroddiad i gefnogi ei gwaith.
Sylw i Oedraniaeth
Gweithio ar y cyd ag arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ac arbenigwyr eraill i dynnu sylw at realiti oedraniaeth mewn cyd-destun Cymreig, cynyddu ymwybyddiaeth ac annog gweithredu.
Roedd y cyfraniadau’n cynnwys nifer o feysydd allweddol lle gallai pobl brofi gwahaniaethu neu gael eu hallgáu oherwydd eu hoedran, gan dynnu sylw at nifer o bryderon a themâu cyffredin sy’n rhoi cipolwg defnyddiol ar sut gellid blaenoriaethu’r camau gweithredu sydd eu hangen yn effeithiol.
Bydd y dystiolaeth a gasglwyd drwy Sylw i Oedraniaeth yn cryfhau galwadau’r Comisiynwyr am weithredu a’m hargymhellion i gyrff cyhoeddus, yn ogystal ag yn cefnogi ei galwadau ehangach am sgwrs genedlaethol yng Nghymru am oedraniaeth a’i effaith.
Oedraniaeth ddigidol
Fe wnaeth y Comisiynydd edrych ar effaith oedraniaeth ddigidol ar bobl hŷn, gan rybuddio bod y broblem gynyddol hon yn eu rhoi mewn cryn berygl o gael eu hallgáu yn gymdeithasol mewn byd sy’n gynyddol ddigidol.
Roedd y materion allweddol a nodwyd yn adroddiad y Comisiynydd yn cynnwys hygyrchedd a defnyddioldeb llwyfannau digidol, gwahaniaethu o fewn recriwtio a chyflogaeth a rhagfarn o fewn systemau deallusrwydd artiffisial.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â’r sector technoleg a dylunwyr gwasanaethau digidol, ac yn disgrifio’r camau sydd eu hangen i roi sylw i’r materion a welwyd.
LLAIS, DEWIS A RHEOLAETH
Roedd grymuso pobl hŷn i gynllunio a gwneud penderfyniadau am eu dyfodol yn un o’r elfennau pwysig yr oedd gwaith y Comisiynydd yn canolbwyntio arno ystod 2025-26, ochr yn ochr â thynnu sylw at y problemau a’r rhwystrau a all gyfyngu ar y dewisiadau sydd ar gael wrth i ni heneiddio.
Profiadau pobl hŷn o fyw mewn tlodi
Defnyddiodd y Comisiynydd leisiau pobl hŷn, yn ogystal â’r data diweddaraf i dynnu sylw at realiti tlodi yn ddiweddarach mewn bywyd a’r effaith aruthrol y mae hyn yn ei chael ar iechyd a lles pobl.
Roedd adroddiad y Comisiynydd yn galw am amrywiaeth o gamau gweithredu i sicrhau bod pobl hŷn sy’n byw mewn tlodi yn cael eu cefnogi’n well, gan gynnwys camau gweithredu i fynd i’r afael ag ‘ymyl dibyn’ y Credyd Pensiwn, cronfa newydd i bobl hŷn sy’n cael trafferthion ariannol a mwy o fuddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni.
Roedd yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd i adeiladu ar arferion da presennol yn y gymuned ac ehangu cynlluniau eraill fel tariffau cymdeithasol.
Canllaw i gynllunio gofal i’r dyfodol
Fe wnaeth y Comisiynydd lansio canllaw newydd i gynllunio gofal i’r dyfodol, yn cyflwyno amrywiaeth eang o wybodaeth ddefnyddiol am y ffyrdd y gallwn feddwl am ein dymuniadau ar gyfer y dyfodol, eu trafod a’u cofnodi.
Mae’r canllaw yn ymdrin ag ystod eang o bynciau – fel gwneud ewyllys, rhoi organau ac Atwrneiaethau Arhosol – ac mae’n cynnwys dolenni at adnoddau a thempledi, yn ogystal â manylion cyswllt sefydliadau sy’n gallu darparu rhagor o wybodaeth a chymorth.
Mae dros 2,000 o gopïau papur o’r canllaw wedi cael eu dosbarthu i bobl hŷn, gan helpu i sicrhau eu bod yn teimlo eu bod wedi’u grymuso’n well i roi trefniadau ar waith i ddiogelu eu hanghenion a’u dymuniadau i’r dyfodol. Fersiynau Sain, Iaith Arwyddion Prydain a Hawdd eu Darllen, i sicrhau bod cynifer o bobl hŷn â phosibl yn gallu cael gafael ar eu cynnwys.
Canllaw syml i Atwrneiaeth Arhosol
Fe wnaeth y Comisiynydd weithio mewn partneriaeth â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i baratoi fersiwn wedi’i diweddaru o’i chanllaw hwylus i Atwrneiaeth Arhosol.
Wedi’i ysgrifennu mewn iaith glir a hygyrch mae’r canllaw yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am y gwahanol fathau o Atwrneiaeth Arhosol, a’r camau y mae angen i rywun eu cymryd os yw’n dymuno sefydlu Atwrneiaeth Arhosol.
Mae miloedd o gopïau o’r canllaw wedi cael eu dosbarthu i bobl hŷn ledled Cymru, ac mae’r fersiynau hygyrch wedi cael eu llwytho i lawr a’u gweld gannoedd o weithiau, gan ddarparu gwybodaeth hanfodol a chynyddu ymwybyddiaeth.
Darparu Cyngor a Chymorth i Bobl Hŷn ledled Cymru
Yn ystod 2025-26, fe wnaeth Gwasanaeth Cyngor a Chymorth y Comisiynydd gefnogi 707 ymholwyr, gan helpu pobl hŷn a’u cynrychiolwyr i ddeall eu hawliau, eu cefnogi os ydynt yn cael problemau gyda gwasanaethau cyhoeddus (fel iechyd, gofal cymdeithasol neu dai) a chynnig cymorth pan allai rhywun fod wedi cael ei drin yn annheg.
Mae’r Tîm yn rhoi cyngor a chymorth cyfrinachol i bobl hŷn dros y ffôn, drwy lythyr ac e-bost, yn ogystal ag wyneb yn wyneb mewn digwyddiadau ymgysylltu.
Roedd ymholiadau yn ystod 2025-26 yn ymwneud ag ystod eang o gategorïau:
- Gofal
- Iechyd
- Tai
- Ariannol
- Cymuned
- Trafnidiaeth
- Cam-drin
- Gwahaniaethu ar sail oedran
Mae’r wybodaeth a’r dystiolaeth a gasglwyd oddi wrth bobl hŷn yn amhrisiadwy i dynnu sylw at yr heriau a’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu, yn ogystal â’r materion sy’n codi ac y mae angen i lunwyr polisïau a phenderfyniadau roi sylw iddynt. Mae hyn yn helpu i lywio gwaith y Comisiynwyr a’r galwadau am weithredu, yn ogystal ag yn helpu â’r gwaith o greu ei Rhaglen Waith a blaenoriaethau parhaus.
Ymgysylltu â phobl hŷn
Yn ystod 2025-26, ymwelodd y Comisiynydd a’i thîm â 114 o grwpiau ledled Cymru, gan eu galluogi i gwrdd â dros 4,000 o bobl hŷn o gefndiroedd a chymunedau amrywiol.
Roedd hyn yn cynnwys ymweliadau â grwpiau a chlybiau cymdeithasol a gweithgareddau, grwpiau cymorth (fel rhai ar gyfer gofalwyr a phobl sy’n byw gyda dementia), cynlluniau tai gofal ychwanegol a chartrefi gofal, yn ogystal â chyfarfodydd â fforymau pobl hŷn ledled Cymru a grwpiau eraill fel Sefydliad y Merched, Men’s Sheds a Merched y Wawr.
Ar ben hynny, roedd cyfarfodydd rheolaidd yn parhau gyda Chadeiryddion sefydliadau pobl hŷn cenedlaethol i archwilio materion allweddol, clywed am brofiadau eu haelodau a rhannu gwybodaeth a diweddariadau allweddol.
Mae’r Comisiynydd hefyd yn defnyddio dulliau eraill i gysylltu â phobl hŷn, darparu diweddariadau a rhannu gwybodaeth ac adnoddau, gan gynnwys drwy ei chylchlythyr (sy’n cael ei ddosbarthu ar ffurf copi caled), ei gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol.
Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Gwleidyddion
Drwy gydol 2025-26, bu’r Comisiynydd yn gweithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau rhanddeiliaid ledled Cymru a’r DU i ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer, tynnu sylw at faterion sy’n cael eu codi gan bobl hŷn, a rhannu tystiolaeth a gwybodaeth.
Roedd hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn rhwydweithiau a grwpiau cynghori allweddol, dod â sefydliadau at ei gilydd drwy weminarau a thrafodaethau bwrdd crwn, ac ymgysylltu’n rheolaidd â chyrff cyhoeddus a phartneriaid eraill. Fe wnaeth y gweithgareddau hyn helpu i gynyddu dealltwriaeth o faterion pwysig, sicrhau ymrwymiadau i weithredu, nodi cyfleoedd i gydweithio, a chefnogi dulliau cydgysylltiedig o wella bywydau pobl hŷn.
Fe wnaeth y Comisiynydd hefyd barhau i ymgysylltu’n uniongyrchol â gwleidyddion a llunwyr polisïau, gan godi pryderon gyda Llywodraeth Cymru lle nad oedd polisïau neu ymarferion yn diogelu nac yn cefnogi pobl hŷn yn ddigonol. Fe gafodd cyfarfodydd rheolaidd eu cynnal gyda’r Prif Weinidog, Ysgrifenyddion y Cabinet, Gweinidogion, swyddogion, arweinwyr pleidiau ac Aelodau o’r Senedd i rannu tystiolaeth, tynnu sylw at faterion sy’n dod i’r amlwg a phwyso am weithredu.
Ochr yn ochr â darparu tystiolaeth i ymchwiliadau ac ymgynghoriadau pwyllgorau’r Senedd, fe wnaeth y Comisiynydd barhau i ddarparu cymorth ysgrifenyddol i’r Grŵp Trawsbleidiol ar Undod Rhwng Cenedlaethau.
Cyn etholiad y Senedd, fe wnaeth y Comisiynydd gyhoeddi Blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru, gan geisio ymrwymiadau i fynd i’r afael â materion allweddol sy’n effeithio ar fywydau pobl hŷn.
Ar lefel y DU, bu’r Comisiynydd yn ymgysylltu ar faterion sydd heb eu datganoli, gan gynnwys y Cynllun Cynhwysiant Digidol arfaethedig, Trydydd Adolygiad Pensiwn y Wladwriaeth, a galwadau parhaus am newidiadau i bolisi Taliadau Tanwydd Gaeaf a chymorth costau byw ychwanegol i bobl hŷn.
Gweithio gyda’r cyfryngau
Roedd gan y Comisiynydd bresenoldeb cryf yn y cyfryngau drwy gydol 2025-26, a arweiniodd at 172 o eitemau newyddion ar draws cyhoeddiadau cenedlaethol, lleol a ledled y DU, gan arwain at 243,866,373 o ‘gyfleoedd i weld’ darpariaeth yn ymwneud â gwaith y Comisiynydd.
Mae gweithio gyda’r cyfryngau yn galluogi’r Comisiynydd i gynnig gwybodaeth a sylwadau ar amrywiaeth eang o bolisïau ac ymarferion, i godi ymwybyddiaeth o’r heriau y mae pobl hŷn yn eu hwynebu a’r camau y mae angen eu cymryd i sicrhau gwelliannau.
Mae pobl hŷn yn gwerthfawrogi’n fawr y ffaith bod y Comisiynydd yn mynegi pryderon yn gyhoeddus a bod â rhywun sy’n sefyll dros eu hawliau, ac maent yn aml yn cael eu hannog i gysylltu â’n Gwasanaeth Cyngor a Chymorth ar ôl i fater sy’n taro tant â nhw gael sylw yn y cyfryngau.
Edrych ymlaen
Mae Rhaglen Waith y Comisiynydd ar gyfer 2026-27 yn nodi’r amrywiaeth o gamau y bydd yn eu cymryd i sicrhau newid cadarnhaol i bobl hŷn dros y flwyddyn nesaf.
Mae crynodeb o’r gwaith sydd ar y gweill ar gyfer y flwyddyn nesaf i’w weld isod:
Adolygu’r ffordd y caiff cymorth a gwasanaethau allweddol eu darparu i bobl hŷn
Gwella mynediad, codi safonau a sicrhau bod hawliau’n cael eu cynnal
- Adolygiadau Ffurfiol o Fynediad at Wasanaethau Iechyd Meddwl a Gwasanaethau Eiriolaeth
- Cyhoeddi canfyddiadau ymchwil gofal cymdeithasol
- Archwilio profiadau pobl hŷn o ddigartrefedd
- Cyflymu’r broses o ddarparu addasiadau i’r cartref
Dylanwadu ar bolisi ac ymarfer ledled Cymru ac yn ehangach
Rhannu gwybodaeth, cryfhau ymarfer a galluogi newid ystyrlon
- Dylanwadu ar Lywodraeth newydd Cymru
- Galluogi mwy o graffu ac atebolrwydd yn y Senedd
- Mapio’r cynnydd ar olrhain allgáu digidol
- Gwneud Cymru yn genedl oed-gyfeillgar:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gynyddol ar draws y sector cyhoeddus
Gwella gwasanaethau, mynd i’r afael ag oedraniaeth a diogelu hawliau pobl hŷn
- Lansio modiwl dysgu ar oedraniaeth
- Deall anghenion pobl hŷn niwrowahanol
- Atal oedraniaeth ddigidol
Sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed
Troi tystiolaeth yn weithredu, ysgogi newid a gwella canlyniadau
- Ymgysylltu â phobl hŷn mewn cymunedau ledled Cymru
- Prosiect ymchwil Bywyd yng nghefn gwlad Cymru
- Sylw i leisiau Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol
Gallwch ddarllen rhaglen waith lawn y Comisiynydd ar gyfer 2026-27 yma:
Lawrlwythwch Adroddiad Cryno'r Comisiynydd ar Effaith ac Yrhaeddiad (PDF)