Angen Help?
Delwedd o fenyw hŷn â gwallt gwyn byr, yn eistedd ar soffa, yn edrych allan o'r ffenestr. // Image of an older woman with short white hair, sat on a sofa, looking out of the window.

Ymateb i Ymgynghoriad: Strategaeth Genedlaethol ar Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol yng Nghymru (2025 – 2035)

i mewn Adnoddau

Ymateb i Ymgynghoriad: Strategaeth Genedlaethol ar Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol yng Nghymru (2025 – 2035)

Diolch am y cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad uchod. Mae hi’n hanfodol cymryd camau i wella’r ymateb i brofiadau pobl hŷn o gael eu cam-drin ac mae’n un o fy mhrif flaenoriaethau.

Mae’n bwysig cydnabod pwyslais cadarnhaol y Strategaeth ar effeithiau cam-drin plant yn rhywiol, sy’n gallu eu heffeithio am weddill eu bywyd. Mae hyn yn tynnu sylw at yr angen hanfodol am gymorth a gwasanaethau effeithiol sy’n ystyriol o drawma ar gyfer dioddefwyr sy’n oedolion sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol pan yn blentyn.

Hoffwn dynnu sylw at y materion isod mewn perthynas â’r ymgynghoriad.

Mae pobl hŷn yn profi’r un mathau o gam-drin â’r rhai mewn grwpiau oedran iau, ond yn aml maen nhw’n ei chael hi’n anodd iawn datgelu eu profiadau o gam-drin. Mae ymwybyddiaeth o wasanaethau a chymorth priodol a mynediad atynt hefyd yn her sylweddol i lawer.

Mae’r anawsterau a brofir gan bobl hŷn yn amlwg iawn mewn perthynas â thrais a cham-drin rhywiol. Mae pobl hŷn yn aml yn ei chael hi’n anodd siarad am drais a cham-drin rhywiol oherwydd safonau disgwyliedig eu cenhedlaeth, sy’n atal trafodaeth agored ar bynciau o’r fath, ac sy’n arwain at deimlo cywilydd ac embaras.

Mae agweddau a thybiaethau yn seiliedig ar oedraniaeth hefyd yn golygu bod pobl hŷn fel arfer yn cael eu hystyried yn ‘arywiol’, ac yn annhebygol o fod wedi profi trais neu gam-drin rhywiol. Mae’r agweddau hyn yn arwain at “fannau dall” proffesiynol lle mae ymarferwyr yn aml yn methu â gofyn cwestiynau am drais rhywiol; gan gyfyngu’n anfwriadol ar gyfleoedd person hŷn i ddatgelu a chael mynediad at gymorth.

Yn ddiweddar, trefnais gyfarfod bwrdd crwn amlasiantaethol i drafod yr hyn sy’n hysbys am brofiadau pobl hŷn o drais a cham-drin rhywiol, ac i dynnu sylw at y camau sydd eu hangen i wella ymatebion i bobl hŷn y mae’r math hwn o gam-drin yn effeithio arnynt. Rwy’n bwriadu cyhoeddi trosolwg o’r drafodaeth bwrdd crwn yn nes ymlaen yn yr hydref.

Roedd yn amlwg o’r drafodaeth bwrdd crwn bod y trawma a’r trallod a achosir gan gam-drin plant yn rhywiol yn gallu para drwy gydol oes yr unigolyn; mae rhai pobl hŷn yn cario’r cywilydd o’u profiad am ddegawdau cyn datgelu. Mae cydweithwyr o’r sector arbenigol wedi sôn wrth weithio gyda rhai pobl hŷn, mai dim ond wrth gyrraedd diwedd eu hoes y maent yn dewis rhannu eu profiadau oherwydd bod yr heriau o ddatgelu’r hyn sydd wedi digwydd iddynt mor sylweddol. Mae’r bobl hŷn hyn yn disgrifio’r awydd, bryd hynny, i ddweud wrth rywun am eu profiadau, er mwyn ysgafnhau eu baich emosiynol.

Yn hollbwysig, mae’r camau gweithredu angenrheidiol a nodwyd yn y Strategaeth yn taro tant â’r rhai a godwyd gan gyfranogwyr y trafodaethau bwrdd crwn. Fe wnaeth y rhai a oedd yn bresennol yn y cyfarfod dynnu sylw, er enghraifft, at yr angen i godi ymwybyddiaeth. Tynnwyd sylw hefyd at bwysigrwydd hyfforddiant i ddatblygu cymhwysedd a hyder ymarferwyr yn y maes gwaith hwn, ynghyd â’r angen am wasanaethau effeithiol sy’n ystyriol o drawma, y mae’n rhaid iddynt fod ar gael ac yn hygyrch i oedolion o bob oed sydd wedi dioddef.

Roedd y drafodaeth hefyd yn canolbwyntio ar yr angen am well systemau casglu data i bennu pa mor gyffredin yw profiadau o drais a cham-drin rhywiol ymysg pobl hŷn. Dylid casglu data i dynnu sylw at lefelau cam-drin rhywiol diweddar a cham-drin rhywiol yn y gorffennol, y mae pobl hŷn wedi ei brofi, gan gynnwys y profiad o gael eu cam-drin yn rhywiol pan yn blentyn. Yn benodol, ni ddylid cyfyngu data sy’n gysylltiedig ag oedran i gategorïau eang megis 65 oed a hŷn, ond dylid eu rhannu’n grwpiau llai (e.e. cyfnodau o 5 mlynedd neu 10) er mwyn cofnodi profiadau ac anghenion penodol gwahanol grwpiau oedran yn well. Yn fwy cyffredinol, mae’n hanfodol deall croestoriadedd y ffactorau hyn, gan fod nodweddion sy’n gorgyffwrdd yn gallu dwysáu’r risg a siapio sut mae’r profiad o gael eu cam-drin yn rhywiol pan yn blentyn yn effeithio ar unigolion.

Rydym yn croesawu’r camau gweithredu arfaethedig yn y Strategaeth, sy’n canolbwyntio ar ‘gefnogi oedolion sy’n ddioddefwyr ‘ (3:2). Mae hi’n hanfodol bod pobl hŷn ymysg y rhai sy’n cael cyfle i rannu eu profiadau o gael eu cam-drin yn rhywiol pan yn blentyn. Bydd hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth o effeithiau dwys a hirdymor y math hwn o gam-drin. Dylid hefyd ystyried anghenion penodol pobl hŷn sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol pan yn blentyn, a sut mae hyn yn effeithio arnynt, wrth i hyfforddiant gael ei ddatblygu gan y Grŵp Prosiect Ymholiadau Arferol. Gwyddom, er enghraifft, nad yw pobl hŷn o reidrwydd yn defnyddio’r un iaith a therminoleg â’r rhai mewn grwpiau oedran iau wrth siarad am eu profiadau o gam-drin. Rhaid ystyried materion o’r fath os yw ymarferwyr am gael eu huwchsgilio i ofyn am gam-drin yn rhywiol pan yn blentyn fel mater o drefn, pan fyddant yn sgwrsio ag oedolion. Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu amlygrwydd a rhoi mwy o gydnabyddiaeth i wasanaethau cymorth i oedolion sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol pan yn blentyn, er mwyn i bobl hŷn y mae hyn yn effeithio arnynt allu cael mynediad at y cymorth ymarferol ac emosiynol sydd ei angen i hyrwyddo llesiant ac adferiad.

Nodaf y cysylltiadau a wnaed â pholisïau a meysydd ymarfer cysylltiedig eraill ar draws y llywodraeth. Er bod gwaith Glasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn cael ei gydnabod yn briodol yn yr adran hon, byddwn hefyd yn tynnu sylw at yr angen i gydgysylltu â Chynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru i Atal Cam-drin Pobl Hŷn yng Nghymru. Mae’r cynllun yn tynnu sylw at y camau sydd eu hangen i atal ac i ymateb yn briodol i’r gwahanol fathau o gam-drin (gan gynnwys trais a cham-drin rhywiol), sy’n effeithio ar bobl hŷn.

Mae’r Strategaeth yn cynnig cyfle hollbwysig i godi ymwybyddiaeth o gam-drin plant yn rhywiol, ac i dynnu sylw at ei effeithiau gydol oes posibl. Tynnir sylw at effeithiau parhaus cam-drin plant yn rhywiol drwy sicrhau cydnabyddiaeth benodol o brofiadau ac anghenion pobl hŷn y mae’r math hwn o gam-drin yn effeithio arnynt. Byddwn yn croesawu’r cyfle i barhau i drafod y maes gwaith pwysig hwn ac, fel y bo’n briodol, i aelodau o’m tîm gyfrannu at ffrydiau gwaith perthnasol sy’n ymwneud, er enghraifft, â datblygu fframweithiau hyfforddi a gwasanaethau ymatebol.

Rwy’n gobeithio y bydd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol i chi.  Mae fy nhîm yn fwy na pharod i drafod y materion hyn ymhellach.  Cysylltwch â’m Harweinydd Diogelu, Andrea Cooper, (andrea.cooper@olderpeople.wales) os hoffech chi archwilio unrhyw un o’r meysydd uchod yn fanylach.

Yn gywir,

Rhian Bowen-Davies
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges