Angen Help?
Senedd Building, Cardiff Bay. Front view with sculpture in the foreground.

Blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru

i mewn Adnoddau, Ddylanwadu ar polisi ac arferion

Blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru: Comisiynydd Pobl Hŷn yn galw am ymrwymiadau maniffesto i leihau tlodi, mynd i’r afael ag allgáu digidol a gwneud Cymru yn genedl o gymunedau sy’n gyfeillgar i oedran

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i gymryd amrywiaeth o gamau gweithredu mewn meysydd allweddol i sicrhau nad yw pobl hŷn yn cael eu heithrio o gymdeithas a’u bod yn cael y cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau iach ac annibynnol.

Mae’r Comisiynydd eisiau gweld pob plaid wleidyddol yng Nghymru yn cynnwys ymrwymiadau yn eu maniffesto sydd ar ddod i fynd i’r afael â materion allweddol sy’n effeithio ar fywydau pobl hŷn a darparu gwasanaethau a chymorth sy’n ymateb i anghenion pobl hŷn yn effeithiol.

Mae dogfen ‘Blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru’ y Comisiynydd, a gyhoeddwyd heddiw (25 Medi) yn cynnwys galwadau i sicrhau nad yw pobl hŷn heb sgiliau digidol yn cael eu heithrio rhag cael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt ac i leihau tlodi ymhlith pobl hŷn trwy ddarparu cymorth i’r rhai sy’n colli allan oherwydd ‘ymyl y clogwyn’ Credyd Pensiwn.

Mae’r Comisiynydd hefyd eisiau gweld camau gweithredu pellach, gan gynnwys buddsoddiad tymor hwy, i wneud Cymru yn genedl o gymunedau sy’n gyfeillgar i oedran, sy’n chwarae rhan hanfodol wrth ein cefnogi i fyw a heneiddio’n dda wrth i ni fynd yn hŷn.
Dywed y Comisiynydd fod cyflawni’r camau y mae’n galw amdanynt yn hanfodol, o ystyried bod disgwyl i nifer y bobl hŷn yng Nghymru barhau i dyfu, gan gyrraedd bron i draean o’r boblogaeth yn ystod tymor nesaf y Senedd.

Mae hi wedi rhannu ei galwadau gyda phob plaid wleidyddol y disgwylir iddynt ennill seddi yn etholiad nesaf y Senedd ac wedi cynnig cyfleoedd iddynt gyfarfod â hi i drafod y rhain yn fanylach wrth i faniffestos gael eu cwblhau yn y misoedd nesaf.
Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Rhian Bowen-Davies:

“Mae gan Gymru boblogaeth sy’n heneiddio, sydd, ochr yn ochr â dod â llawer o gyfleoedd, hefyd yn cyflwyno rhai heriau.

“I lawer o bobl hŷn, mae mynd yn hŷn yn brofiad cadarnhaol ac mae bywyd yn hwyrach yn gyfnod o gyflawniad, sy’n rhywbeth i’w ddathlu.

“Ond i rai, gall mynd yn hŷn gyflwyno problemau a heriau, fel allgáu digidol, cael trafferthion ariannol, neu wynebu rhwystrau wrth gael mynediad at wasanaethau neu gymorth.

“Dyna pam rwyf am weld camau gweithredu mewn nifer o feysydd allweddol gan Lywodraeth nesaf Cymru yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r problemau hyn a chefnogi pobl i fyw a heneiddio’n dda, gan gydnabod amrywiaeth pobl hŷn a’r anghenion a allai fod ganddynt.

“Mae’r camau rwy’n galw amdanynt yn seiliedig ar leisiau a phrofiadau pobl hŷn sy’n byw ledled Cymru rwyf wedi siarad ac ymgysylltu â nhw ers i mi ddechrau yn y swydd, ac rwy’n gobeithio cael y cyfle i archwilio hyn yn fanylach gyda phleidiau Cymru wrth iddynt gwblhau eu maniffestos yn y misoedd nesaf.

“Mae’n bwysig bod ymrwymiadau ar draws y sbectrwm gwleidyddol i gyflawni camau gweithredu i gefnogi pobl hŷn gan y bydd hyn yn golygu, beth bynnag fo cyfansoddiad Llywodraeth nesaf Cymru, y byddwn yn gweld newid, cynnydd a gwelliannau pwysig, gan adeiladu ar y sylfeini cryf sydd eisoes yn eu lle.”

DIWEDD

Darllenwch Blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru (PDF) Darllenwch Blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru (HTML)

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges