Ymgynghoriad Pwyllgor Cyllid y Senedd: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26
Cyflwyniad
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i ymgynghoriad Pwyllgor Cyllid y Senedd ar gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26.
Hoffai’r Comisiynydd weld y meysydd canlynol yn cael blaenoriaeth wrth wneud penderfyniadau am gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26.
- Atal a lleddfu tlodi, gan gynnwys tlodi tanwydd
1.1 Mae’n hanfodol bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 yn cynnwys mesurau a chyllid digonol i leihau tlodi ymysg pobl hŷn yng Nghymru, ac i wella ansawdd bywydau pobl hŷn. Mae bron i un o bob chwe pherson hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol (16%).[i] Mae hyn yn cynyddu gydag oedran. Mae 17% o bobl 65-69 a 75-79 oed yn byw mewn tlodi incwm cymharol, gan gynyddu ymhellach i 18% i bobl 80-84 oed ac 20% i bobl dros 85 oed.[ii] Mae effeithiau’r argyfwng costau byw yn dal i gael eu teimlo, sy’n golygu nad yw pobl hŷn ar incwm isel yn gallu fforddio gwresogi eu cartrefi na chael digon o fwyd. Mae hyn yn effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol pobl hŷn.
1.2 Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i gyfyngu ar daliadau’r Lwfans Tanwydd Gaeaf wedi cyfyngu ar allu pobl hŷn i wresogi eu cartrefi i dymheredd sy’n eu galluogi i gadw’n iach. Mae’r Lwfans Tanwydd Gaeaf werth hyd at £300 y flwyddyn, ond bellach dim ond pobl sy’n cael Credyd Pensiwn fydd yn cael y taliad. Nid yw tua traean y bobl sydd â hawl i Gredyd Pensiwn yn ei hawlio. Yng Nghymru, nid yw tua 50,000 o bobl gymwys yn ei hawlio. Mae hyn yn golygu bod dros £117 miliwn yn mynd heb ei hawlio bob blwyddyn, yn hytrach na mynd i ddwylo’r bobl sydd ei angen fwyaf.[iii]
1.3 Er bod Llywodraeth Cymru drwy ymgyrchoedd fel Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi wedi bod yn cynyddu’r ymwybyddiaeth o Gredyd Pensiwn a hawliau eraill, rhaid i’r gyllideb ar gyfer 2025-26 gynnwys adnoddau i alluogi a helpu awdurdodau lleol yn benodol i ddefnyddio’r data sydd ganddynt i nodi pobl hŷn sy’n debygol o fod yn gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn ond nad ydynt yn ei hawlio ar hyn o bryd. Dylai’r adnoddau hyn ei gwneud hi’n bosibl defnyddio dull rhagweithiol, wedi’i dargedu, gan ddefnyddio llythyrau, galwadau ffôn ac ymweliadau cartref os oes angen. Dylid blaenoriaethu cyllid ar gyfer gweithgarwch o’r fath dros ragor o weithgarwch codi ymwybyddiaeth mwy cyffredinol ynghylch budd-daliadau a hawliau. Hefyd, dylid defnyddio dull rhagweithiol o nodi budd-daliadau eraill y mae gan bobl hŷn hawl iddynt, fel y Lwfans Gweini, ac o annog a helpu pobl i hawlio.
1.4 Er bod Cronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru’n adnodd pwysig wrth helpu pobl mewn argyfwng, mae nifer anghymesur isel o bobl hŷn yn elwa arni. Ym mis Mehefin 2024, dim ond 160 o bobl dros 70 oed gafodd daliad mewn argyfwng, ac 810 oedd y ffigur cyfatebol ymysg pobl 60-69 oed. Gwahaniaeth mawr rhwng y 3,997 o bobl 40-49 a gafodd daliad, er enghraifft.[iv]
1.5 Fodd bynnag, er y dylid gwneud gwaith i hyrwyddo’r Gronfa Cymorth Dewisol i bobl hŷn, gweithwyr cynghori a phobl eraill sy’n debygol o fod mewn cysylltiad â phobl hŷn ac a allai elwa, mae angen cronfa gymorth benodol i bobl hŷn nad ydynt mewn argyfwng ond y mae angen cymorth arnynt. Mae hyn yn cynnwys pobl hŷn nad ydynt yn gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn oherwydd eu bod ychydig bach dros y trothwy cymhwyso. Gallai cronfa gymorth o’r fath helpu pobl i dalu eu biliau ynni ar ôl colli’r Lwfans Tanwydd Gaeaf. Yn hytrach na dibynnu’n llwyr ar bobl hŷn i hawlio, byddai modd archwilio llwybrau fel taliadau i bobl hŷn sy’n byw mewn eiddo bandiau is y Dreth Cyngor.
1.6 Mae tlodi tanwydd yn bryder uwch ar gyfer y flwyddyn i ddod oherwydd bod cynifer o bobl hŷn yng Nghymru wedi colli’r Lwfans Tanwydd Gaeaf. Mae tlodi tanwydd yn arwain at gartrefi oer, sy’n cyfrannu at farwolaethau ychwanegol yn ystod y gaeaf ac at amrywiaeth o salwch symptomatig. Mae newidiadau mewn tymheredd oherwydd y tywydd oer yn debygol o effeithio’n anghymesur ar bobl hŷn. Pobl dros 75 oed yw 75% o’r marwolaethau ychwanegol yn ystod y gaeaf
1.7 Gall tywydd oer a byw mewn cartref oer effeithio ar amrywiaeth o faterion iechyd a’u gwaethygu, gan gynnwys cyflyrau anadlol a chylchredol, clefyd cardiofasgwlaidd ac anafiadau damweiniol.[v] Hefyd, mae ymchwil yn dangos bod cysylltiad rhwng tymheredd oer mewn cartref ac iechyd meddwl gwaeth. Mae hyn yn arwain at gostau sylweddol i GIG Cymru: yn 2019, amcangyfrifodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod effaith oerfel gormodol yn arwain at gynnydd o tua £41 miliwn i’r gwasanaeth iechyd mewn costau yn gysylltiedig â thai o ansawdd gwael, gan ddod â’r cyfanswm i bron £100 miliwn y flwyddyn.[vi] Mae mynd heb fwyd neu beidio â bwyta digon dros amser yn arwain at ddiffyg maeth, sy’n cynyddu’r risg o fynd yn eiddil, gan olygu bod angen ymweld â’r meddyg teulu a mynd i’r ysbyty’n amlach, a gorfod aros yn yr ysbyty’n hirach.[vii]
1.8 Mae pobl hŷn wedi cysylltu â’r Comisiynydd i fynegi pryderon ynglŷn â’r newidiadau i feini prawf cymhwysedd y Lwfans Tanwydd Gaeaf, gan nodi bod y taliadau tanwydd gaeaf wedi bod yn hollbwysig i dalu am hyd yn oed ychydig bach iawn o wres. Esboniodd un person hŷn ei bod wedi gorfod cael un pryd o fwyd yn llai bob dydd er mwyn ceisio fforddio gwresogi ei chartref. Mae unigolion hefyd wedi disgrifio’r effaith ar bobl sy’n fwy agored i niwed o ganlyniad i oerfel oherwydd bod ganddynt gyflyrau ar y galon ac yn cymryd meddyginiaeth teneuo’r gwaed, er enghraifft.
1.9 Mae tynnu’r taliad gyda chyn lleied o rybudd wedi creu pryder. Mae’n hollbwysig bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yn cynnwys mesurau i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a cholli’r Lwfans Tanwydd Gaeaf.
1.10 Gall y Rhaglen Cartrefi Cynnes chwarae rhan bwysig yn lleddfu tlodi tanwydd ond mae’n hollbwysig taro cydbwysedd rhwng rôl y Rhaglen yn cyflawni’r ymrwymiadau Sero Net a gwneud yn siŵr bod cartrefi pobl hŷn yn gynnes ac yn ddiogel, ac mor ynni-effeithlon â phosibl, hyd yn oed os nad yw’r cartrefi hyn yn addas ar gyfer atebion gwresogi carbon isel ar hyn o bryd. Dylai’r cyllid ar gyfer y Rhaglen Cartrefi Cynnes yn y dyfodol ystyried graddfa’r addasiadau sydd eu hangen ledled Cymru a rhaid iddo fod yn ddigonol i wneud yn siŵr nad oes unrhyw ymgeisydd cymwys mewn argyfwng heb system gwresogi a dŵr poeth sy’n gweithio.
1.11 Mae clywed am feini prawf ychwanegol posibl sy’n cyfyngu ar drwsio boeleri, er enghraifft i gartrefi sy’n cynnwys pobl dros 75 oed neu o dan 2 oed, hyd yn oed os nad oes gwres a dŵr poeth yn y cartrefi, wedi peri pryder i’r Comisiynydd. Mae hyn yn annerbyniol a dylai’r cyllid ar gyfer y Rhaglen Cartrefi Cynnes wneud yn siŵr nad oes unrhyw un yn wynebu cyfyngiadau o’r fath.
- Allgáu digidol
2.1 Mae allgáu digidol yn dal yn bryder allweddol i bobl hŷn, fel y gwelir yn yr adroddiad Dim Mynediad a gafodd ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2024.[viii] Dylai’r Gyllideb Ddrafft wneud yn siŵr bod mesurau i helpu pobl i fynd ar-lein ac aros ar-lein yn cael eu hystyried ym mhob rhaglen a maes polisi. Yn yr un modd, dylai’r cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus wneud yn siŵr bod adnoddau digonol i gynnal gwasanaethau all-lein o ansawdd da, oherwydd nid yw pawb yn gallu neu’n dymuno defnyddio’r rhyngrwyd. Nid oes gan 31% o bobl dros 75 oed (95,069 o bobl) fynediad i’r rhyngrwyd gartref ac nid yw 33% o bobl dros 75 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd (gan gynnwys Setiau Teledu Clyfar a dyfeisiau llaw), o gymharu â 13% o bobl 65-74 oed a 0% o bobl 25-44 oed. Mae hyn yn golygu nad yw tua 101,200 o bobl dros 75 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd.
2.2 Mae contract Llywodraeth Cymru ar gyfer cymorth cynhwysiant digidol drwy Cymunedau Digidol Cymru yn dod i ben fis Mehefin 2025, ond mae’n bwysig bod y cyllid ar gyfer cymorth digidol yn parhau. Mae’r Comisiynydd yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wrthi’n trafod y math o gymorth yn y dyfodol. Mae’n hollbwysig cynnal y cymorth er mwyn annog pobl i ddefnyddio rhagor ar ap GIG Cymru, er enghraifft, neu i gael gafael ar wasanaethau eraill yn ddigidol. Mae peidio â darparu cymorth digidol o ansawdd da yn y ffyrdd y mae pobl am ei ddefnyddio ac yn y mannau y mae pobl yn gallu ei ddefnyddio yn creu risg y bydd y rhai â’r angen uchaf am wasanaethau, gan gynnwys pobl hŷn, yn wynebu’r ansawdd gwaethaf o ran mynediad. Bydd hyn yn dwysáu anghydraddoldebau ymhellach.
2.3 Mae hefyd yn hanfodol gwneud yn siŵr bod cyllid ar gael i ddatblygu gwasanaethau Cymraeg sydd o’r un ansawdd, ac yn dilyn yr un amserlen, â gwasanaethau Saesneg. Yn ôl Cyfrifiad 2021, mae 116,788 o bobl dros 60 oed yn gallu siarad Cymraeg. Mae hynny’n cyfateb i 13.6%. Mae 28% o siaradwyr Cymraeg rhugl dros 65 oed – amcangyfrif o 21,000 o bobl hŷn – yn teimlo’n fwy cyfforddus yn siarad Cymraeg na Saesneg.[ix] Mae’n bwysig bod y Gymraeg yn cael ei chynnwys mewn technoleg ac yn y gwaith o ddatblygu technoleg.
- Atal cam-drin
3.1 Roedd hi’n galonogol gweld Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu cenedlaethol i atal cam-drin pobl hŷn ym mis Chwefror 2024. Mae angen i’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2025-26 wneud yn siŵr bod adnoddau’n cael eu darparu i’w gwneud hi’n bosibl cymryd y camau gweithredu yn y cynllun, a gwneud yn siŵr eu bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl. Mae hyn yn cynnwys: cyllid ar gyfer ymchwil i gael gwell dealltwriaeth o’r math hwn o gam-drin, hyfforddiant i amrywiaeth o wahanol randdeiliaid a gweithwyr proffesiynol, ac ymgyrch cyfathrebu ac ymwybyddiaeth i ategu a chyflawni’r cynllun gweithredu cenedlaethol.
3.2 Hefyd, mae angen gwneud yn siŵr bod meysydd gwaith cysylltiedig Llywodraeth Cymru ar atal cam-drin pobl hŷn yn parhau i gydlynu’n effeithiol. Mae’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) wedi mabwysiadu dull fframwaith glasbrint i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r Strategaeth. Mae anghenion pobl hŷn wedi cael ei nodi fel ffrwd gwaith ac mae’n bwysig bod y gwaith hwn hefyd yn cael adnoddau digonol i wneud cynnydd yn erbyn y pwrpas a’r camau gweithredu lefel uchel sydd wedi’u hamlinellu.[x]
- Darparu gwasanaethau a phwysigrwydd atal
4.1 Mae angen i Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar gamau gweithredu ataliol sy’n galluogi pobl i gadw’n iach, i heneiddio’n dda ac i aros yn eu cartrefi eu hunain am hirach. Gellir lleihau neu ohirio’r galw am rai gwasanaethau drwy alluogi mwy o bobl i heneiddio mor iach â phosibl. Mae buddsoddi mewn atal yn gallu lleihau’r angen am wariant ychwanegol i ddelio â’r problemau a fyddai’n codi fel arall.
4.2 Un o’r agweddau pwysicaf ar y gwaith hwn yw gwneud yn siŵr ei bod hi’n bosibl darparu gwasanaethau yn y cymunedau lle mae pobl hyn yn byw, a chanolbwyntio ar ddarparu gofal yn nes at y cartref. Mae hyn yn golygu buddsoddi mewn gwasanaethau gofal sylfaenol yn yr ystyr ehangaf, felly nid yn unig meddygon teulu ond deintyddiaeth, fferyllfeydd a nyrsio cymunedol, yn hytrach na chanolbwyntio ar ofal eilaidd. Mae angen i wasanaethau fod ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg i wneud yn siŵr bod pobl Cymraeg iaith gyntaf yn gallu cael mynediad cyfartal atynt. Mae’n hollbwysig bod pobl yn gallu cael gafael ar ofal ac iechyd yn arbennig yn eu hiaith gyntaf er mwyn gwneud yn siŵr bod y driniaeth a’r cymorth cywir yn cael eu darparu.
4.3 Mae mynediad at feddygon teulu yn dal yn bryder mawr i bobl hŷn, ond mae cymaint i’w wneud i wella dealltwriaeth pobl o’r amrywiaeth o wasanaethau sy’n cael eu cynnig gan bractisau meddygon teulu a gofal sylfaenol yn ehangach. Roedd adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu, yn dangos eu pwysigrwydd parhaus i bobl hŷn a chymaint mae pobl hŷn yn gwerthfawrogi eu perthynas â meddygon teulu a’r practis. Mae buddsoddi mewn practisau meddygon teulu a gofal sylfaenol, i helpu i nodi a thrin problemau iechyd yn gynnar, yn rhan allweddol o’r gwaith atal.[xi] Ymysg argymhellion yr adroddiad oedd yr angen i helpu practisau i foderneiddio systemau, yn ogystal â symleiddio ac awtomeiddio prosesau gweinyddol rheolaidd i roi rhagor o amser i staff practisau. Byddai hyn yn lleihau straen ac yn gwella profiad y claf. Roedd trafnidiaeth gyhoeddus yn elfen bwysig arall a gafodd ei nodi gan bobl hŷn, ac mae’n hollbwysig bod y Gyllideb Ddrafft yn gwneud yn siŵr bod trafnidiaeth gyhoeddus, a bysys yn arbennig, yn cael digon o adnoddau i ddarparu llwybrau sy’n galluogi pobl hŷn i gael gafael ar wasanaethau, gan gynnwys apwyntiadau gofal iechyd.
4.4 Mae gofal cymdeithasol yn agwedd bwysig ar atal hefyd, ond yn aml, nid yw rôl y gwasanaethau hyn yn cael ei chydnabod yn ddigonol. O ran galluogi pobl hŷn i heneiddio’n dda, mae gofal cymdeithasol yr un mor bwysig â’r gwasanaeth iechyd. Yn ôl ymchwil diweddar gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a oedd yn canolbwyntio ar ei harolwg blynyddol o gyllidebau cynghorau, mae £223m o bwysau ar wariant gwasanaethau cymdeithasol yn 2025-26. Mae hyn yn gynnydd o 9% ar y cyllidebau cyfredol dim ond i sefyll yn yr unfan.[xii] Mae’n rhaid i’r sector gofal cymdeithasol gael cyllid digonol i ddarparu’r cymorth a’r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl hŷn, gan wneud yn siŵr bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd sy’n cynnal ac yn diogelu hawliau pobl. Mae angen i’r Gyllideb Ddrafft ddarparu buddsoddiad digonol mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys cyllid ar gyfer atal a chymorth yn y gymuned.
4.5 Yn yr un modd, rhaid i gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol ystyried cymorth i ofalwyr di-dâl a gwneud yn siŵr bod awdurdodau lleol yn gallu cyflawni eu rhwymedigaethau, fel asesiadau o anghenion gofalwyr. Roedd adroddiad diweddar Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ‘A ydym yn gofalu am ein gofalwyr?’ yn dangos mai dim ond 2.8% o’r gofalwyr yn yr awdurdodau lleol a oedd yn rhan o’r ymchwiliad oedd wedi cael asesiad, ac mai dim ond 1.5% o ofalwyr oedd wedi cael asesiad ac yna cynllun cymorth. Bydd y llawer o’r gofalwyr hyn yn ofalwyr hŷn, sy’n peri pryder arbennig.
4.6 Dylai’r Gyllideb Ddrafft ail-gadarnhau y bydd y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn bodoli yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn arbennig o bwysig oherwydd mae pobl hŷn, gan gynnwys pobl hŷn â dementia, yn cael eu cydnabod fel grŵp poblogaeth blaenoriaethol.[xiii] Hefyd mae angen i Gynllun Gweithredu newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Dementia, sydd ddwy flynedd yn hwyr ond i’w ddisgwyl yn 2025, gael ei ariannu’n llawn. Dylid ystyried yr adnoddau a fydd eu hangen yn y dyfodol i helpu’r GIG i baratoi ar gyfer y genhedlaeth nesaf o driniaethau dementia.
4.7 Mae llawer o gymorth a gwasanaethau, gan gynnwys y rhai sy’n canolbwyntio ar atal, yn cael eu darparu gan ddarparwyr trydydd sector. Mae’r trydydd sector yn hollbwysig o ran darparu nifer o fentrau sy’n rhoi cymorth i bobl hŷn yn eu cymunedau. Yn dilyn cyllideb Llywodraeth y DU, bydd y trydydd sector yn wynebu costau ychwanegol, er enghraifft y cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr. Mae angen i Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â hyn a gwneud yn siŵr bod y trydydd sector yn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau hollbwysig i bobl hŷn mewn cymunedau ledled Cymru.
- Cymunedau Oed-gyfeillgar
5.1 Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r gwaith o ddatblygu Cymunedau Oed-gyfeillgar, fel y gwelir yn ‘Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio’.[xiv] Mae cyllid pwrpasol i awdurdodau lleol i gefnogi Cymunedau Oed-gyfeillgar wedi bod yn werthfawr dros ben, a rhaid ei ddiogelu fel elfen wedi’i chlustnodi o Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru. Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau’r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol, mae’n bwysig nad yw cyllid a roddir i awdurdodau lleol i gefnogi’r gwaith o ddatblygu Cymunedau Oed-gyfeillgar yn cael ei leihau na’i ymgorffori mewn setliadau ariannol ehangach i awdurdodau lleol, ac wedyn yn cael ei golli neu ei ddefnyddio i bwrpas arall.
5.2 Cafodd dull Cymunedau Oed-gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd ei ddatblygu yn 2007 a’i lunio mewn ymgynghoriad â phobl hŷn ar sail y dystiolaeth o’r hyn sy’n cefnogi heneiddio’n iach ac yn egnïol, ac mae’n helpu trigolion hŷn i siapio’r mannau lle rydyn ni’n byw. Mae’r dull hwn yn galluogi rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl hŷn, awdurdodau lleol, busnesau, cymdeithasau lleol a’r sector gwirfoddol i gydweithredu i ganfod a gwneud newidiadau yn yr amgylchedd ffisegol a’r amgylchedd cymdeithasol.
5.3 Mae dull Sefydliad Iechyd y Byd, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn nodi wyth nodwedd hanfodol cymunedau sydd, gyda’i gilydd, yn ein galluogi i heneiddio’n dda. Sef: mannau yn yr awyr agored ac adeiladau; cludiant; tai; cyfranogiad cymdeithasol; parch a chynhwysiant cymdeithasol; cyfranogiad dinesig a chyflogaeth; cyfathrebu a gwybodaeth; a chymorth cymunedol a gwasanaethau iechyd. Mae pob un o’r wyth maes yn bwysig o ran sicrhau bod pawb yn gallu heneiddio’n dda ledled Cymru.
5.4 Mae’r Comisiynydd yn cael ei chydnabod fel Aelod Cyswllt o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar ac mae’n gweithio i hybu cynnydd oed-gyfeillgar ar lefel leol, ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol. Mae Swyddfa’r Comisiynydd hefyd yn gweithredu fel catalydd ar lefel genedlaethol a rhanbarthol drwy hyrwyddo’r dull gweithredu oed-gyfeillgar, yn ogystal â darparu arweiniad a chymorth i bartneriaethau sy’n cael eu harwain gan awdurdodau lleol sy’n dymuno bod yn aelodau o’r Rhwydwaith Byd-eang.
5.5 Mae llawer o enghreifftiau o fanteision camau gweithredu oed-gyfeillgar, sy’n aml wedi’u cynllunio gan bobl hŷn, er mwyn i bobl hŷn fynd allan i’r gymuned, cymdeithasu, ac i leihau unigrwydd ac ynysigrwydd. Er enghraifft, yn Abertawe, roedd digwyddiad Bowls ar y Traeth yn ystod yr haf yn gyfle i nifer o bobl hŷn chwarae bowls gyda’i gilydd. Tynnodd y digwyddiad sylw pobl iau a oedd ar y traeth. Fe wnaethon nhw ymuno yn yr hwyl a gwneud y digwyddiad yn fwy o beth.
5.6 Arweiniodd hyn at gynnal rhagor o sesiynau bowls i bob cenhedlaeth yng nghanol dinas Abertawe fel rhan o ddigwyddiadau City Chill yr haf, mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru, Coleg Gŵyr a nifer o dimau o Gyngor Abertawe fel rhan o gynllun i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ynysigrwydd cymdeithasol, ac i ddod â’r gymuned ynghyd.
5.7 Mae Heddlu De Cymru wedi canmol y gwaith hwn, gan ddweud ei fod wedi cyfrannu’n sylweddol at leihad o 38% mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol dros yr haf, ac mae wedi cael ei gyflwyno ar gyfer Gwobr Cymunedau Mwy Diogel. Dyma un enghraifft o’r gweithgareddau yn Abertawe sydd bellach yn cefnogi tua 500 o bobl hŷn bob wythnos.
5.8 Yn Ynys Môn, cafodd y grŵp Nifty 60s ei ffurfio yn 2019 i leihau faint o bobl hŷn lleol sy’n llithro, baglu a chwympo, a lleihau’r pwysau ar feddygon teulu ac adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae’r grŵp yn gwneud hyfforddiant ymwrthiant a gweithredol i wella cryfder y cyhyrau craidd, hyblygrwydd a symudedd. Mae’r sesiynau wedi mynd o nerth i nerth. Mae 30 o bobl ym mhob dosbarth a 74 yw’r oedran cyfartalog. Mae 132 o aelodau sydd nid yn unig yn gwella eu cryfder, eu symudedd a’u hyblygrwydd, ond eu hiechyd corfforol a meddyliol hefyd. Ar ôl cael cyllid gan y Loteri Genedlaethol, mae’r grŵp yn bwriadu ymestyn y model Nifty 60s ar draws Ynys Môn. Mae’r cynlluniau i lansio yn Llangefni eisoes ar waith.
5.9 Yng Ngwynedd, mae Dementia Actif Gwynedd yn cynnal digwyddiad Boccia ym Mhorthmadog bob mis. Mae dros gant o gyfranogwyr yn cystadlu mewn cynghrair Boccia. Daw’r cyfranogwyr i’r digwyddiad o ardal ddaearyddol eang. Ar hyn o bryd mae 27 o dimau’n cymryd rhan ac mae mwy a mwy o sefydliadau’n cymryd rhan i’w wneud yn weithgaredd cynhwysol iawn.
5.10 Ar hyn o bryd, mae wyth awdurdod lleol yn aelod o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar. Mae cynnydd yn dal i gael ei wneud yn yr awdurdodau lleol sy’n weddill. Mae llawer yn paratoi i gyflwyno cais. Mae arferion da yn cael eu rhannu a’u datblygu gan bartneriaid, ac mae rôl Cymru yn nhrafodaethau’r Rhwydwaith, ac yn rhannu’r arferion gorau ar draws y byd, wedi cael ei chydnabod gan Sefydliad Iechyd y Byd.
5.11 Mae Cymunedau Oed-gyfeillgar yn cyfrannu’n uniongyrchol at atal a mynd i’r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd mewn cymunedau ledled Cymru. Bydd y dull cymunedol hwn, sy’n canolbwyntio ar atal, yn dal yn hollbwysig dros y flwyddyn nesaf a dylid cydnabod ei fod yn cyfrannu at y gwaith o gyflawni strategaeth Cysylltu Cymunedau Llywodraeth Cymru, sy’n anelu at fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd.[xv]
- Oedraniaeth, Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, a datblygu arferion da
6.1 Mae angen i Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 wneud yn siŵr nad yw oedraniaeth yn dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch gwariant a blaenoriaethu adnoddau. Mae oedraniaeth yn golygu stereoteipio, gwahaniaethu a/neu ragfarnu yn erbyn pobl ar sail eu hoedran neu’r hyn y tybir yw eu hoedran. Mae oedraniaeth yn gallu effeithio ar unrhyw grŵp oedran. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif, ar raddfa fyd-eang, bod agwedd un o bob dau o bobl yn dangos oedraniaeth yn erbyn pobl hŷn, sy’n tynnu sylw at faint yr her sydd angen sylw.
6.2 Hefyd, mae angen cydnabod amrywiaeth pobl hŷn mewn penderfyniadau sy’n ymwneud â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru. Mae’n bwysig nad yw pobl hŷn yn cael eu trin fel grŵp unffurf. Mae angen i’r gwaith o ddatblygu polisïau adlewyrchu’r ffaith ein bod yn dod yn fwy amrywiol wrth i ni heneiddio hy o ran profiadau, diddordebau, incwm, iechyd a pherthnasoedd cymdeithasol.
6.3 Mewn sefyllfa ariannol heriol, mae perygl y bydd pobl hŷn yn ysgwyddo baich anghymesur o ganlyniad i doriadau i wasanaethau. Mae angen asesu effaith gyfunol toriadau i wahanol fathau o wasanaethau. Mae hyn yn cynnwys yr angen i ystyried y cyd-destun polisi ehangach, fel effaith cyfyngu ar y Lwfans Tanwydd Gaeaf.
6.4 Wrth lunio dyraniadau cyllideb ar gyfer 2025-26, mae angen i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr bod Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb effeithiol yn cael eu cynnal i ddeall effaith gwariant a newidiadau arfaethedig ar grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys pobl hŷn. Dylid cyhoeddi’r Asesiadau hyn hefyd er mwyn helpu i graffu ar benderfyniadau a wneir a gwneud yn siŵr nad yw oedraniaeth wedi effeithio ar y gwaith o lunio polisïau a gwneud penderfyniadau.
6.5 I gloi, dylai Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru sicrhau bod adnoddau ar gael i ddatblygu modelau ac arferion sy’n dod i’r amlwg fel rhai sy’n effeithiol o ran cefnogi pobl hŷn. Bydd hyn yn cynnwys iechyd a gofal cymdeithasol ond nid yw’n gyfyngedig i hynny: dylid ystyried ymyriadau ar draws meysydd profiad sy’n effeithio ar bobl hŷn. Dylai Llywodraeth Cymru fapio’r gweithgarwch presennol, asesu cynlluniau peilot a’u gwerthuso cyn gynted ag y bo’n ymarferol, gwneud yn siŵr bod cyllid ar gael i ddatblygu, a lledaenu’r rhai sy’n cael effaith gadarnhaol amlwg.
[i] StatsCymru (2024), ar gael yn: Canran yr holl unigolion, plant, oedolion oedran gweithio a phensiynwyr sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol ar gyfer gwledydd a rhanbarthau yn y DU rhwng y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 1995 a FYE 2023 (cyfartaleddau o 3 blwyddyn ariannol) (llyw.cymru).
[ii]StatsCymru (2024) Pensiynwyr mewn tlodi incwm cymharol yn ôl oedran y penteulu Mawrth 2023. Ar gael yn:
Pensiynwyr mewn tlodi incwm cymharol yn ôl oedran y penteulu Sylwch fod y ffigurau sydd ar gael ar gyfer pobl dros 80 oed yn seiliedig ar feintiau sampl cyfyngedig iawn.
[iii] Policy in Practice (2024), Missing Out 2024. Ar gael yn: Adroddiad: Missing out 2024 – Policy in Practice
[iv] StatsCymru (2024), ar gael yn Cronfa Cymorth Dewisol yn ôl oedran – Data misoedd (O Ebrill 2023)
[v] Public Health England/UCL Institute of Health Equity (2014), Local action on health inequalities: Fuel poverty and cold home-related health problems, td. 4. Ar gael yn: read-the-report.pdf
[vi] S, Garrett H, Woodfine L, Watkins G, Woodham A. (2019). Cost lawn tai gwael yng Nghymru, Sefydliad Ymchwil Adeiladu Cyf, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru. Ar gael yn: Cost lawn tai gwael yng Nghymru_adroddiad Cymraeg terfynol2.pdf (phwwhocc.co.uk)
Llywodraeth y DU (2017), Impact assessment: Helping older people maintain a healthy diet: A review of what works. Ar gael yn: Helping older people maintain a healthy diet: A review of what works – GOV.UK (www.gov.uk)
[viii] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (2024) Dim Mynediad: Profiadau pobl hŷn o
allgáu digidol yng Nghymru. Ar gael yn: Dim Mynediad: Profiadau pobl hŷn o allgáu digidol yng Nghymru
[ix] Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2023) Cyfrifiad 2021 Y Gymraeg yn ôl nodweddion y boblogaeth, Y Gymraeg yn ôl nodweddion y boblogaeth (Cyfrifiad 2021) [HTML] | LLYW.CYMRU
[x] Llywodraeth Cymru (2023), Trais yn Erbyn Menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: cynllun gweithredu lefel uchel y glasbrint. Ar gael yn: Trais yn Erbyn Menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: cynllun gweithredu lefel uchel y glasbrint [HTML] | LLYW.CYMRU
[xi] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (2024) Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu yng Nghymru: Profiadau Pobl Hŷn. Ar gael yn: Mynediad-i-Bractisau-Meddygon-Teulu-yng-Nghymru-Profiadau-Pobl-Hyn.pdf
[xii] Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Tachwedd 2024), Datganiad i’r wasg ar gyllid gofal cymdeithasol. Gweler: Sefyllfa gyllidol gofal cymdeithasol yn “anghynaliadwy”, meddai CLlLC – CLlLC
[xiii] Llywodraeth Cymru (2022), Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol – CANLLAWIAU REFENIW 2022–27. Ar gael yn: Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Canllawiau Refeniw 2022–27
[xiv] Llywodraeth Cymru. (2021) Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio. Ar gael yn: Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio [HTML] | LLYW.CYMRU
[xv] Llywodraeth Cymru (2020), Cysylltu Cymunedau: Strategaeth ar gyfer mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a chreu cysylltiadau cymdeithasol cryfach. Ar gael yn: Cysylltu Cymunedau: Strategaeth ar gyfer mynd i’r afael ag unigrwydd