Angen Help?

Ymgynghoriad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd: Tlodi Tanwydd yng Nghymru

A hob burning

Ymgynghoriad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd: Tlodi Tanwydd yng Nghymru

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i ymgynghoriad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ar Dlodi Tanwydd yng Nghymru.

 

Cyflwyniad

Mae tlodi tanwydd yn broblem sy’n effeithio ar nifer sylweddol o bobl hŷn ar draws Cymru. Mae’n anodd gwybod faint yn union o bobl hŷn sy’n cael eu heffeithio oherwydd diffyg data diweddar. Mae rhagamcanion yn seiliedig ar Arolwg Byw yng Nghymru 2008 ac Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18:o 1 Hydref 2021, roedd 22% o aelwydydd lle ceir un pensiynwr, a 13% o aelwydydd lle ceir pâr o bensiynwyr yng Nghymru mewn tlodi tanwydd.[1]

Mae pobl hŷn wedi cysylltu â’r Comisiynydd i godi ystod o faterion sy’n ymwneud â thlodi tanwydd fel byw mewn tai hŷn a llaith sy’n anodd i’w gwresogi; byw oddi ar y grid a dibynnu ar olew neu wres LPG a hefyd yr anawsterau o ran deall biliau ynni, yn enwedig wrth dderbyn amcangyfrifon. Mae hyn yn achosi caledi, rhwystredigaeth a thrallod sylweddol i bobl hŷn sy’n profi’r problemau hyn.

Clywodd y Comisiynydd hefyd wrth nifer o bobl hŷn ynglŷn ag effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i gyfyngu ar y Lwfans Tanwydd Gaeaf i’r rhai sy’n derbyn Credyd Pensiwn yn unig y gaeaf hwn. Mae’r penderfyniad hwn yn debygol o olygu y bydd y nifer y bobl hŷn sydd mewn tlodi tanwydd a thlodi tanwydd difrifol yn cynyddu, gyda niwed sylweddol i iechyd a llesiant corfforol a meddyliol o ganlyniad.

Cyhoeddwyd Cynllun Mynd i’r Afael â Thlodi Tanwydd Llywodraeth Cymru “Trechu Tlodi Tanwydd  2021 i 2035”[2] ym mis Mawrth 2021 i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru ac i gefnogi’r rhai  “sy’n ei chael hi’n anodd talu am eu hanghenion ynni domestig”.  Ymatebodd swyddfa’r Comisiynydd i’r ymgynghoriad ar y Cynllun, gan ddatgan bod yr amserlen ar gyfer newid yn rhy eang ac yn galw am darged i ddileu tlodi tanwydd ymhlith pobl hŷn erbyn 2026. Mae dal diffyg amlwg o ran targedau interim yn y cynllun. Mae’n hanfodol bod targedau interim yn cael eu cyflwyno er mwyn canolbwyntio ar y broblem hon. Mae cyd-destun tlodi tanwydd wedi newid yn sylweddol ac yn gyflym ers cyhoeddi’r cynllun gwreiddiol am y tro cyntaf.

 

A oes darlun cywir o dlodi tanwydd yng Nghymru?

Mae’r ymgynghoriad yn nodi’r ddibyniaeth ar Arolwg Byw yng Nghymru 2008 ac Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18. Nid yw hyn felly yn rhoi darlun cywir o dlodi tanwydd yng Nghymru, gan fod yr arolygon yn seiliedig ar ddata sydd wedi dyddio. Mae nifer o ffactorau wedi effeithio ar incwm cartrefi a chostau byw ers hynny, fel chwyddiant, newidiadau mewn patrymau cyflogaeth, ac effaith COVID-19 a Brexit. Mae’r ffactorau hyn yn dylanwadu ar dlodi tanwydd, gan wneud unrhyw ddata hŷn yn llai perthnasol a dibynadwy.

Ers 2021, gwelwyd cynnydd sylweddol yng nghostau ynni a dyled ynni.  Yn yr un modd, bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i gyfyngu ar y Lwfans Tanwydd Gaeaf i’r rhai sy’n derbyn Credyd Pensiwn yn unig heb gael ei ystyried.

Serch hynny, mae Cymru wedi gwneud camau breision wrth ôl-osod cartrefi gyda gwell insiwleiddio, systemau gwresogi mwy effeithlon, a mesurau eraill sy’n lleihau’r defnydd o ynni. Ni fyddai hyn wedi’i gofnodi’n llawn mewn arolygon a gynhaliwyd sawl blwyddyn yn ôl.

Mae angen darlun mwy cywir o dlodi tanwydd yng Nghymru, yn enwedig o gofio bod gan Gymru y stoc dai hynaf yn y DU,[3]  sy’n golygu bod nifer o dai wedi’u hinswleiddio’n wael, gan arwain at gostau ynni uwch a thlodi tanwydd. Mae tlodi tanwydd yn arwain at gartrefi oer, sy’n cyfrannu at farwolaethau ychwanegol y gaeaf ac at ystod o salwch symptomatig. Mae pobl hŷn yn debygol o gael eu heffeithio’n anghymesur gan newidiadau mewn tymheredd a achosir gan dywydd oer.
Mae 75% o farwolaethau ychwanegol y gaeaf yn bobl 75 oed a hŷn.[4] Mae’r person hŷn cyffredin a gefnogir gan Gofal a Thrwsio (elusen sy’n helpu pobl hŷn i fyw’n annibynnol drwy atgyweiriadau, addasiadau a chynnal a chadw cartrefi) yn gwario 19% o’u hincwm ar gyfleustodau dros y gaeaf.  Yn ystod gaeaf 2022/23, roedd cleientiaid gwasanaeth cyngor ar dlodi tanwydd ac ynni Gofal a Thrwsio yn gwario 25% o’u hincwm ar gyfleustodau ar gyfartaledd.

Gall tywydd oer a byw mewn cartref oer effeithio a gwaethygu cyflyrau anadlol a chylchrediad, clefyd cardiofasgwlaidd ac anafiadau damweiniol.[5] Mae ymchwil hefyd yn dangos cysylltiad rhwng tymereddau cartrefi oer ac iechyd meddwl gwaeth. Mae hen stoc dai Cymru ac effeithlonrwydd ynni gwael yn arwain at gostau sylweddol i’r GIG yng Nghymru: yn 2019, amcangyfrifodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod effaith oerfel gormodol yn cynyddu’r costau i’r gwasanaeth iechyd sy’n gysylltiedig â thai o ansawdd gwael tua £41M, gyda chyfanswm o bron i £100M y flwyddyn.[6]  Mae mynd heb fwyd neu beidio â bwyta digon yn arwain at gamfaethiad dros amser, sy’n cynyddu’r risg o eiddilwch, cynyddu ymweliadau â meddygon teulu, derbyniadau i’r ysbyty a hyd arhosiad yn yr ysbyty.[7]

 

Effeithiau newidiadau i’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Taliadau Tanwydd Gaeaf ar dlodi tanwydd yng Nghymru

Bydd y penderfyniad i gyfyngu ar daliadau Lwfans Tanwydd Gaeaf, hyd at £300 y flwyddyn, i’r rhai sy’n derbyn Credyd Pensiwn yn unig yn cael effaith negyddol ddifrifol ar rai o’r bobl hŷn tlotaf ledled Cymru, gan wthio mwy tuag at dlodi tanwydd. Bydd pawb sydd â hawl i Gredyd Pensiwn, ond nad ydynt yn ei hawlio ar hyn o bryd, bellach yn colli allan ar Lwfans Tanwydd Gaeaf hefyd. Mae hyn yn peri pryder, gan y bydd yn effeithio ar filoedd o bobl hŷn ledled Cymru, mewn cyfnod lle bo dyledion ynni ar gynnydd.

Mae tua 50,000 o aelwydydd cymwys yng Nghymru ddim yn hawlio’r Credyd Pensiwn y mae ganddyn nhw hawl i wneud cais amdano, sy’n golygu bod tua £117 miliwn heb ei hawlio yn hytrach na chyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf.[8]  Bydd newidiadau Llywodraeth y DU o ran bod yn gymwys am y Lwfans Tanwydd Gaeaf ond yn cynyddu nifer y rhai sydd ddim yn hawlio yng Nghymru.

Mae gan Gymru fwy o bobl hŷn, yn gymesur, na rhannau eraill o’r DU ac felly bydd effaith newid y meini prawf cymhwysedd i’w theimlo’n sylweddol yng Nghymru. Pobl dros 60 oed yw 28.2% o’r boblogaeth yng Nghymru, o’i gymharu â 24.7% yn Lloegr a 24.9% yn y DU drwyddi draw.[9] Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn amcangyfrif bod 33% o ddynion sengl hŷn sy’n gymwys, 33% o fenywod sengl hŷn sy’n gymwys a 31% o gyplau cymwys ddim yn hawlio Credyd Pensiwn y mae ganddynt hawl iddo.

Mae Credyd Pensiwn hefyd yn gweithredu ‘ar y dibyn’, lle mae incwm rhywun yn pennu naill ai bod ganddo/ganddi hawl neu ddim hawl i gymorth – nid oes tapr. Mae hyn yn golygu bod rhywun nad yw’n gymwys am Gredyd Pensiwn o ganlyniad i fod dros y trothwy cymhwysedd o ychydig geiniogau hyd yn oed yn colli allan ar yr holl gymorth arall sydd heb ei gloi, sydd bellach yn cynnwys y Lwfans Tanwydd Gaeaf.

Mae’r amserlen dynn ar gyfer y newidiadau hefyd yn destun pryder. Cyhoeddwyd y newid polisi ar 29 Gorffennaf gyda’r wythnos yn cychwyn 16 Medi 2024 yn cael ei ddefnyddio fel yr wythnos gymwys ar gyfer taliadau’r Lwfans Tanwydd Gaeaf. Er y gellir ôl-ddyddio taliadau Credyd Pensiwn, sy’n golygu y gall ceisiadau erbyn 21 Rhagfyr 2024 dal i fod yn gymwys am Lwfans Tanwydd Gaeaf, mae hon yn dal i fod yn amserlen dynn iawn ar gyfer ceisiadau i gael eu gwneud gan bobl hŷn cymwys nad ydynt yn hawlio ar hyn o bryd. Bydd pobl hŷn hefyd yn cael hyd at £600 yn llai y gaeaf hwn o’i gymharu â’r llynedd mewn cymorth gan Lywodraeth y DU gyda’u biliau gwresogi, oherwydd bod y taliadau costau byw a gyflwynwyd dros dro gan Lywodraeth flaenorol y DU bellach wedi dod i ben.

Dangosodd data arolwg o farn y cyhoedd a thueddiadau cymdeithasol SYG Mehefin 2024 fod pobl hŷn (70+) yn fwy tebygol o ddweud bod cost eu biliau ynni wedi codi (53%) o’i gymharu â grwpiau iau a’u bod yn defnyddio llai o nwy a thrydan i fynd i’r afael â hyn[10] Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru wedi nodi’n ddiweddar bod 25% o’r rhai rhwng 65 a 74 oed a 17% o’r rhai sydd dros 75 oed yn dweud eu bod nhw weithiau neu wastad yn cael trafferth talu biliau.[11]

Mae pobl hŷn wedi cysylltu â’r Comisiynydd gyda phryderon am y newid i feini prawf cymhwysedd y Lwfans Tanwydd Gaeaf, er enghraifft: “Mae’r cyhoeddiad wedi fy siomi ac wedi fy arswydo … bod y taliadau Tanwydd Gaeaf i ddiflannu i bensiynwyr ar wahân i’r rhai ar fudd-daliadau. Fel pensiynwr sydd wedi gweithio ar hyd fy oes ac wedi cynilo ar gyfer fy ymddeoliad, nid oes gen i  hawl i unrhyw fudd-daliadau sy’n destun prawf modd. Serch hynny, yn y blynyddoedd diwethaf mae’r Taliad Tanwydd Gaeaf wedi bod yn achubiaeth wrth fy helpu i dalu am hyd yn oed y lefel  isaf o wres (tair awr y dydd ar 15°). Rydw i’n byw mewn ardal wledig felly mae fy nghartref yn ddibynnol ar danwydd LPG sy’n gostus iawn.”

Mae pobl hŷn eraill wedi cysylltu â’r Comisiynydd i ddweud bod y taliadau Tanwydd Gaeaf wedi bod yn achubiaeth wrth helpu i dalu am hyd yn oed y lefel isaf o wres.  Esboniodd un person hŷn sut roedd hi wedi hepgor un pryd y dydd mewn ymgais i allu fforddio gwresogi ei chartref.  Mae unigolion hefyd wedi sôn am yr effaith ar bobl sy’n fwy agored i’r oerfel o ganlyniad i gyflyrau’r galon a chymryd meddyginiaeth i deneuo’r gwaed, er enghraifft. Mae tynnu’r taliad yn ôl ar fyr rybudd wedi achosi pryder.

 

Rhaglen Cartrefi Clyd

Darparodd Datganiad Polisi Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2023 grynodeb defnyddiol o bwrpas a dull y Rhaglen Cartrefi Clyd newydd.[12]  Croesewir newidiadau i’r meini prawf cymhwysedd am gymorth gyda mesurau effeithlonrwydd ynni o dan y cynllun newydd. Mae’r symudiad o gymhwyso yn seiliedig ar dderbyn budd-daliadau prawf modd i drothwy incwm isel yn lle hynny, er enghraifft, yn bositif. Serch hynny, er bod yr angen i flaenoriaethu anheddau sydd â sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) o E ac is yn ddealladwy, efallai y bydd pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi â sgôr EPC sy’n uwch nag E yn dal i brofi afiechyd o ganlyniad i dlodi tanwydd ac yn byw mewn cartrefi oer. Mae’n ddefnyddiol y bydd unigolion sydd â chyflwr iechyd cydnabyddedig (fel cyflwr anadlol cronig, cylchrediad y gwaed neu gyflwr iechyd meddwl) sy’n byw mewn cartref ag EPC o D hefyd yn gymwys.

Yn yr un modd, mae’r newid i ganiatáu mwy nag un cais fesul cartref, sy’n golygu, os yw aelwyd a gefnogwyd gan ymyrraeth cynllun Cartrefi Clyd yn y gorffennol yn parhau i fod mewn tlodi tanwydd ac yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd, y gallant wneud cais am gymorth ychwanegol, hefyd yn ddatblygiad buddiol.

Mae blaenoriaethu technolegau carbon isel lle mae’n gwneud synnwyr, ochr yn ochr â sicrhau bod gan y Rhaglen Cartrefi Clyd rywfaint o hyblygrwydd i gefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas o dan amgylchiadau eithriadol, yn rhesymol.

Serch hynny, yn ymarferol, nid yw’n ymddangos fel pe bai’r hyblygrwydd hwn yn rhoi ystyriaeth i realiti llawer o stoc dai Cymru ac amgylchiadau nifer o bobl hŷn sy’n byw mewn tlodi tanwydd. Gall opsiynau carbon isel fod yn brin ar gyfer stoc dai hŷn. Gall fod yn anoddach ôl-osod cartrefi o’r fath ac yn ddrutach i’w huwchraddio. Nid yw canllawiau Cartrefi Clyd bellach yn sôn am atgyweirio neu newid boeleri fel opsiwn ar gyfer y gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’r cartref sydd ar gael am ddim.[13]

O ystyried yr argyfwng hinsawdd a’r angen i drosglwyddo i Sero Net, mae datganiad Llywodraeth Cymru y bydd ‘buddsoddiad hirdymor mewn systemau gwresogi tanwydd ffosil ond yn cael ei ganiatáu o dan y Rhaglen Cartrefi Clyd newydd’ yn ddealladwy.[14]  Mae’r enghraifft a roddir yn y Datganiad Polisi o flaenoriaethu boeleri nwy sy’n effeithlon o ran ynni, lle byddai symud o danwydd ffosil i system wresogi drydan yn achosi cynnydd sylweddol mewn costau rhedeg, yn bragmataidd.

Felly mae’r Comisiynydd yn hynod o bryderus i ddeall, ar gyfer 2024-25, hyd yn oed mewn sefyllfa o ‘argyfwng’ lle nad oes gan aelwyd system wresogi a dŵr poeth sy’n gweithio a bod unigolyn yn gymwys am gymorth o dan y Rhaglen Cartrefi Clyd, mae set ychwanegol o feini prawf cymhwysedd y mae angen eu bodloni cyn y gellir atgyweirio boeleri.  Ar y cyfan, mae’r meini prawf hyn yn adlewyrchu rheolau Ofgem ar gyfer gosod mesuryddion rhagdalu anwirfoddol.[15]  Byddai hyn yn cyfyngu ar gymorth atgyweirio boeleri yng Nghymru o dan y Rhaglen Cartrefi Clyd i:

  1. i) aelwydydd gyda phreswylwyr 75 oed a throsodd neu
  2. ii) aelwydydd gyda phlant o dan 2 oed neu

iii)       aelwydydd gyda phreswylwyr â phroblemau iechyd difrifol gan gynnwys y rhai sydd â dibyniaeth feddygol ar gartref cynnes – un o’r cyflyrau iechyd sy’n bodoli’n barod. Os oes aelwyd yn gymwys am Nyth oherwydd cyflwr iechyd, maent yn gymwys ar gyfer y llwybr argyfwng hwn neu

  1. iv) aelwydydd gyda phreswylwyr â salwch angheuol.

Er bod y Comisiynydd yn derbyn mai bwriad Llywodraeth Cymru yw monitro’r sefyllfa, mae’n gwbl annerbyniol i unrhyw gartref cymwys fod heb system wresogi a dŵr poeth sy’n gweithio ac i beidio â chymryd unrhyw gamau os nad yw atebion carbon isel yn ymarferol neu’n briodol eto.

Dylai atgyweiriadau i foeleri (neu rhai newydd mewn amgylchiadau angenrheidiol) fod ar gael i bob ymgeisydd cymwys sydd heb wres neu ddŵr poeth sy’n gweithio lle nad yw gwresogi carbon isel yn ymarferol/addas eto, waeth beth fo’u hoedran a’u hiechyd.

Mae’n siomedig mai atgyweiriadau i foeleri, a hyd yn oed rhai newydd, allai’r ateb mwyaf priodol fod mewn llawer mwy o achosion nag a fyddai’n ddymunol wrth i Gymru geisio pontio at Sero Net. Er hynny, ni ddylai’r opsiwn arall o adael pobl heb wres a dŵr poeth am gyfnod amhenodol gael ei ystyried yn unrhyw fath o opsiwn ymarferol neu dderbyniol, yn enwedig wrth i’r gaeaf agosáu.

Dylai Llywodraeth Cymru egluro ar fyrder a rhoi cyhoeddusrwydd i’r ffaith bod atgyweirio ac ailosod boeleri yn dal i fod yn weithgaredd sy’n cael ei ganiatáu o dan y Rhaglen Cartrefi Clyd. Mae hyn yn arbennig o wir o ystyried penderfyniad Llywodraeth y DU i gyfyngu ar daliadau’r Lwfans Tanwydd Gaeaf i bobl hŷn sy’n derbyn Credyd Pensiwn yn unig, a thrafodir effaith hynny uchod.

Yn enwedig yn y misoedd oerach, mae’n rhaid i’r flaenoriaeth fod ar sicrhau bod cartrefi pobl sy’n agored i niwed, y bydd llawer ohonynt yn bobl hŷn, yn gynnes, yn ddiogel ac yn effeithlon o ran ynni. Mae cartrefi oer yn fygythiad sylweddol i iechyd pobl hŷn. Mae paratoi i wneud cartrefi’n barod am garbon isel, wrth reswm, yn agwedd bwysig o’r Rhaglen Cartrefi Clyd ond rhaid i’r prif bwyslais cychwynnol fod ar fesurau i sicrhau bod cartrefi’n gynnes, yn ddiogel, yn effeithlon o ran ynni ac yn diogelu iechyd pawb sy’n byw ynddynt. Ni ddylai unrhyw berson cymwys gael ei adael mewn sefyllfa o argyfwng heb system wresogi a dŵr poeth sy’n gweithio.

Mae pryderon eraill gyda’r Rhaglen Cartrefi Clyd yn cynnwys maint y cynllun (yn enwedig o ystyried prisiau ynni cynyddol a’r argyfwng costau byw), lefelau cyffredinol y cyllid a ddarperir i ymgymryd â gweithgareddau, a’r prosesau monitro, gwerthuso ac adrodd ar gynnydd. Mae angen monitro a chofnodi ceisiadau gan bobl na chawsant gymorth pan oeddent yn gymwys i wneud hynny, yn ogystal â phobl nad ydynt yn dod o fewn y meini prawf cymhwysedd i ddeall a oes angen newidiadau. Efallai y bydd rhai aelwydydd yn cael eu gadael heb gymorth oherwydd na fydd y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y rhaglen yn cynnwys pawb sydd mewn angen.

 

Effeithiolrwydd mathau eraill o gymorth

Mae’r cymorth sydd ar gael i aelwydydd sy’n profi tlodi tanwydd neu mewn perygl o wynebu tlodi tanwydd yn cynnwys Cronfa Cymorth Dewisol (DAF) Llywodraeth Cymru a chymorth drwy’r Sefydliad Banc Tanwydd. Nid oes taliad Tanwydd Gaeaf penodol ar gael wrth Lywodraeth Cymru erbyn hyn.

Mae niferoedd y bobl hŷn sy’n defnyddio’r DAF yn isel o’i gymharu â grwpiau oedran eraill. Mae’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer bod yn gymwys ar gyfer taliadau yn gul, er enghraifft ‘byddwch mewn caledi ariannol eithafol, er enghraifft rydych wedi colli’ch swydd, wedi gwneud cais am
fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf neu heb arian i brynu bwyd, nwy a thrydan’.[16]  Mae hyn yn diystyru pobl hŷn sydd angen cymorth o ganlyniad i dlodi tanwydd ond nad ydynt mewn argyfwng llwyr. Mae’r ffigurau DAF diweddaraf (Mehefin 2024)[17] yn dangos bod 810 o bobl rhwng  69 a 69 oed yn derbyn cymorth drwy’r llwybr hwn, tra bod y niferoedd ar gyfer pobl dros 70 oed hyd yn oed yn is, gyda 160 o daliadau’n unig. Mae hyn yn cyferbynnu â 2,235 o bobl rhwng 50 a 59 oed.

 

Llywodraeth Cymru yn cydweithio â Llywodraeth y DU ar dlodi tanwydd

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai’n ehangu’r Gronfa Gymorth i Aelwydydd yn Lloegr i helpu aelwydydd sy’n cael trafferth gyda biliau a chostau hanfodol dros y gaeaf, gyda symiau canlyniadol cysylltiedig Barnett i Gymru.[18] Mae’n hanfodol bod rhai o’r adnoddau ariannol ychwanegol sydd ar gael yn cael eu defnyddio i roi cymorth penodol i bobl hŷn sy’n ei chael hi’n anodd o ganlyniad i’r newidiadau i’r Lwfans Tanwydd Gaeaf. Ni ddylai cyllid ychwanegol gael ei ychwanegu at sianeli cymorth presennol fel DAF lle mae’n annhebygol o gyrraedd yr holl bobl hŷn sydd ei angen.

Drwyddi draw, mae’r darlun o sut bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn dal i ddod i’r amlwg. Efallai y bydd cyfleoedd yn y dyfodol. Er enghraifft, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno’r Bil Great British Energy lle mai un o’r amcanion a nodir yw ‘gwelliannau mewn effeithlonrwydd ynni’. Nid yw’n glir eto beth y gallai hyn ei olygu i Gymru yn y blynyddoedd i ddod. Mae angen mwy o fanylion am sut mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn bwriadu mynd i’r afael â thlodi tanwydd.

 

Casgliadau

Mae tlodi tanwydd yn broblem ddifrifol sy’n effeithio’n andwyol ar iechyd a llesiant nifer sylweddol o bobl hŷn ar draws Cymru. Mae effaith cyfyngu ar daliadau’r Lwfans Tanwydd Gaeaf yn ystod 2024-25 yn debygol o wthio mwy o bobl hŷn tuag at dlodi tanwydd. Hoffai’r Comisiynydd dynnu sylw at y meysydd canlynol:

  • Yr angen i Gynllun Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru gyflawni cydbwysedd gwell rhwng pontio at Sero Net a rhoi mesurau effeithiol ar waith i wneud cartrefi’n gynnes, yn ddiogel ac yn effeithlon o ran ynni yn y byr dymor. Rhaid i hyn gynnwys darpariaeth atgyweiriadau ac ailosod boeleri pan mai dyma’r opsiwn gorau sydd ar gael, ac ni ddylai unrhyw gartref cymwys gael ei adael heb wres neu ddŵr poeth.
  • Rhaid rhoi eglurder i bawb sy’n ymwneud â’r Rhaglen Cartrefi Clyd, gan gynnwys asiantaethau atgyfeirio a’r cyhoedd, am yr ystod lawn o fesurau cymorth sy’n cael eu caniatáu.
  • Dylid casglu data am dlodi tanwydd yng Nghymru sy’n well, yn ddibynadwy ac yn fwy cyfoes sy’n caniatáu i brofiadau gwahanol grwpiau o ddinasyddion gael eu deall yn hawdd. Yn ddelfrydol, byddai hyn yn cynnwys bandiau oedran pum mlynedd i allu asesu profiadau gwahanol grwpiau o bobl hŷn. Rhaid i’r adolygiad eilflwydd o berfformiad tuag at amcanion 2035, a oedd yn ymrwymiad yn y cynllun “Trechu tlodi tanwydd 2021 i 2035”, gael ei gyhoeddi’n brydlon yn y dyfodol.
  • Dylai’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno targedau interim sy’n seiliedig ar effeithlonrwydd ynni i fynd i’r afael â thlodi tanwydd gael ei gyflawni gan Lywodraeth Cymru a’i roi ar waith erbyn diwedd tymor cyfredol y Senedd yn 2025.
  • Dylai cymorth penodol i bobl hŷn sy’n wynebu tlodi tanwydd (neu fwy o dlodi tanwydd) o ganlyniad i gyfyngu ar y Lwfans Tanwydd Gaeaf gael ei roi ar waith ar frys gan Lywodraeth Cymru, gyda chyllid parhaus wedi’i nodi yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26.

 

Enw: Sion Wyn Evans

Swydd: Arweinydd Polisi ac Ymarfer, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Cyfeiriad e-bost: sion.evans@olderpeople.wales

[1] Llywodraeth Cymru (2023) Amcangyfrifon tlodi tanwydd yng Nghymru. (Mehefin 2023). Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/tlodi-tanwydd-dangosfwrdd-rhyngweithiol

[2] Llywodraeth Cymru: Trechu tlodi tanwydd 2021 i 2035. Cynllun i helpu pobl sy’n ei chael hi’n anodd talu am eu hanghenion ynni domestig. Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/pdf-versions/2023/3/2/1678206501/trechu-tlodi-tanwydd-2021-i-2035.pdf

[3] Arolwg Cyflwr Tai Cymru (prif ganlyniadau: Ebrill 2017 i Mawrth 2018. Ar gael yn:

https://www.llyw.cymru/arolwg-cyflwr-tai-cymru-prif-ganlyniadau-ebrill-2017-i-mawrth-2018

[4] Gofal a Thrwsio (2024) Pobl Hŷn yng Nghymru: Tlodi yn y Gaeaf. Ar gael yn: careandrepair.org.uk/winter-report/

[5] Public Health England/UCL Institute of Health Equity (2014), Local action on health inequalities: Fuel poverty and cold home-related health problems, p. 4. Ar gael yn: Briefing7_Fuel_poverty_health_inequalities.pdf (publishing.service.gov.uk)

[6] S, Garrett H, Woodfine L, Watkins G, Woodham A. (2019). Cost lawn tai gwael yng Nghymru, Building Research Establishment Ltd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru.  Ar gael yn: Cost_lawn_Tai_Gwael_yng Nghymru (phwwhocc.co.uk)

[7] UK Government (2017), Impact assessment: Helping older people maintain a healthy diet: A review of what works. Ar gael yn: Helping older people maintain a healthy diet: A review of what works – GOV.UK (www.gov.uk)

[8] Independent Age (2019) https://www.independentage.org/sites/default/files/2019-07/Credit%20where%20its%20due%20report_0.pdf

[9]StatsCymru (2024) Amcangyfrifon poblogaeth lefel cenedlaethol fesul blwyddyn, oed a gwlad y DU. Ar gael yn:  https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Population-and-Migration/Population/Estimates/nationallevelpopulationestimates-by-year-age-ukcountry

[10] SYG (2024) https://www.ons.gov.uk/releases/publicopinionsandsocialtrendsgreatbritainjune2024

[11] Llywodraeth Cymru (2023) Arolwg Cenedlaethol Cymru Ebrill 2022 – Mawrth 2023  Arolwg Cenedlaethol Cymru: dangosydd canlyniadau | LLYW.CYMRU

[12] Llywodraeth Cymru (2023) Rhaglen Cartrefi Clyd Newydd: datganiad polisi, Rhaglen Cartrefi Clyd Newydd: datganiad polisi [HTML] | GOV.WALES

[13] Gweler Canllawiau Nyth: Cewch welliannau effeithlonrwydd ynni i’r cartref am ddim gan Nyth | GOV.WALES

[14] Llywodraeth Cymru (2023) Rhaglen Cartrefi Clyd Newydd: datganiad polisi, Rhaglen Cartrefi Clyd Newydd: datganiad polisi [HTML] | GOV.WALES

[15] Gweler Ofgem (2023), Rheolau newydd ar gyfer gosod mesuryddion rhagdalu anwirfoddol.  Ar gael yn: Rheolau newydd ar gyfer gosod mesuryddion rhagdalu anwirfoddol | Ofgem

[16] Canllawiau Cronfa Cymorth Dewisol (DAF). Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf/cronfa-cymorth-dewisol-cymhwysedd

[17] Cronfa Cymorth Dewisol yn ôl oedran – Data misol (o Ebrill 2023). Ar gael yn: https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Community-Safety-and-Social-Inclusion/discretionary-assistance-fund/discretionaryassistancefund-by-age-monthly

[18] Gellir ei weld yn: https://www.gov.uk/government/news/government-support-extended-to-help-struggling-households-with-bills-and-essential-costs-over-winter

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges