Angen Help?

Sylw i Oedraniaeth: STEVE MILSOM

A plastic figurine on a pebble in the foreground and seven plastic figurines in the background standing

Gwahaniaethu Ar Sail Oed yng Nghymru – Rhoi Sylw i Oedraniaeth

Mae Steve Milsom (person hŷn sy’n 70 oed) yn ysgrifennu yma’n annibynnol ond ef yw Ysgrifennydd Cynghrair Pobl Hŷn Cymru. Aelod o Bwyllgor Llywio Grŵp Diddordeb Arbennig Cymdeithas Gerontoleg Prydain ar Oedraniaeth a hefyd Ymddiriedolwr Age Cymru

Cyflwyniad

Mae Gwahaniaethu ar Sail Oed yn gyffredin ac yn treiddio i bob rhan o’n cymdeithas. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi cael ei wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nawr, ar drothwy 2026 – blwyddyn o her wleidyddol a newid posibl yng Nghymru – yw’r amser iawn i weithredu gyda’n gilydd. Mae’r erthygl hon yn rhoi cyflwyniad ar gyfer cyfres o erthyglau dros y misoedd nesaf i dynnu sylw at y problemau a achosir gan oedraniaeth ac i drafod yr atebion posibl.

Diffinio Gwahaniaethu ar Sail Oed

Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO Oedraniaeth) wedi diffinio oedraniaeth fel “stereoteipiau (y ffordd rydyn ni’n meddwl), rhagfarn (y ffordd rydyn ni’n teimlo) a gwahaniaethu (y ffordd rydyn ni’n gweithredu) tuag at ein hunain ac eraill ar sail oedran.” Mae ymchwil y Ganolfan Heneiddio’n Well dros y tair blynedd ddiwethaf yn dangos y ffordd mae oedraniaeth yn achosi niwed dwys a pharhaol i bobl a chymdeithas, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, gan waethygu rhaniadau cymdeithasol ac anghydraddoldebau ac amharu ar ein heconomi.

Codi Ymwybyddiaeth

Yn ystod y degawd diwethaf, gwelwyd amrywiaeth o ddeddfwriaethau a pholisïau i fynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oed. Mae Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn – sydd wedi’u gwreiddio yng nghyfraith Cymru – yn dweud “y dylai pobl hŷn gael eu trin yn deg waeth beth fo’u hoedran, rhyw, cefndir hiliol neu ethnig, anabledd neu statws arall, a chael eu gwerthfawrogi yn annibynnol ar eu cyfraniad economaidd.” Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 ar waith. Mae oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oed wedi bod yn fater ymgyrchu yng Nghymru ers sawl blwyddyn. Mae ein Comisiynydd Pobl Hŷn wedi’i wneud yn elfen ganolog o’i gwaith. Mae gennym Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio sy’n nodi agenda ar gyfer newid. Mae Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio wedi dechrau gweithio ar Drafodaeth Genedlaethol ar Oedraniaeth. Yn fwy cyffredinol, mae Cymdeithas Gerontoleg Prydain wedi lansio Grŵp Diddordeb Arbennig ar Oedraniaeth sydd ag aelodaeth gref o Gymru. Er gwaethaf yr holl ddatblygiadau cadarnhaol hyn, rydyn ni dal i glywed enghreifftiau rheolaidd o sut nad yw ein cymdeithas wedi dangos unrhyw arwyddion sylweddol o newid eto ac mae oedraniaeth yn dal wedi’i wreiddio’n ddwfn ym mywydau llawer o bobl hŷn o ddydd i ddydd. Rhaid i ni weld newid sylweddol o ran codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o wahaniaethu ar sail oed mewn cymdeithas drwy Drafodaeth a Chynllun Gweithredu Cenedlaethol ar y cyd dros y blynyddoedd nesaf.

Mae’r iaith a ddefnyddir yn bwysig yn y drafodaeth hon. Mae defnyddio stereoteipiau (yn anfwriadol hyd yn oed) yn arwain yn hawdd at wahaniaethu – rhaid eu hosgoi. Rwy’n falch bod Grŵp Diddordeb Arbennig Cymdeithas Gerontoleg Prydain yn ceisio codi ymwybyddiaeth o fewnoli heneiddio – sut mae oedraniaeth a stereoteipiau negyddol yn dylanwadu ar ganfyddiad pobl hŷn o’u hunain. Gwelais hynny’n glir gyda fy mam (diweddar) a dreuliodd bron i ddegawd ar ôl ei phen-blwydd yn 90 oed yn tynnu’n ôl o weithgareddau a bywyd. Rhaid i ni wneud mwy i sicrhau bod pobl hŷn a’r gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi yn deall y cysyniad hwn a sut mae osgoi’r canlyniadau negyddol.  Os byddwn yn cyfeirio at “bobl hŷn” heb unrhyw eglurhad nac esboniad, mae’r cyffredinolrwydd hwn yn euog o drin pobl rhwng 60 a 100 oed a hŷn fel petaent i gyd yn yr un categori gyda’r un amgylchiadau, anghenion a dymuniadau. Rhaid i ni ymdrechu i beidio â gorgyffredinoli a rhaid i ni feddwl yn amrywiol, yn feirniadol ac yn gadarnhaol am heneiddio a’r effeithiau ar yr unigolyn, yn enwedig lle mae diffygion lluosog yn gyffredin (croestoriadedd).

Camau Gweithredu Strategol

Mae’n bwysig bod safbwynt strategol yn cael ei gymryd i fynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oed. Dylid ystyried y canlynol:

Cymunedau Oed-gyfeillgar – Wrth ddatblygu Cymunedau Oed-gyfeillgar ledled Cymru, rhaid mynd i’r afael ag oedraniaeth gan ddefnyddio pob un o 8 Parth Sefydliad Iechyd y Byd

Polisïau trawsbynciol – Mae angen polisïau cenedlaethol a lleol ond rhaid cydnabod “rhyngberthnasedd” sawl agwedd sy’n effeithio ar bobl hŷn.

Dylid integreiddio Hawliau Dynol â’r agenda gwahaniaethu ar sail oed i wneud heneiddio yng Nghymru yn llai “anghyfartal” a rhoi diwedd ar yr anghydraddoldebau annerbyniol.

Rhaid sbarduno undod rhwng cenedlaethau drwy strategaeth newydd sy’n adeiladu ar y cryfderau rhwng yr hen a’r ifanc ac sy’n rhoi terfyn ar y tensiynau sy’n cael eu hyrwyddo gan rai.

Ymrwymiad Gwleidyddol – mae’r posibilrwydd o glymblaid mewn Llywodraeth yng Nghymru yn gyfle i sicrhau ymrwymiad trawsbleidiol i wella a blaenoriaethu ymatebion i oedraniaeth.

Memorandwm Cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Chynghorau, Byrddau Iechyd, cyrff cyhoeddus i ddileu gwahaniaethu ar sail oed yng Nghymru erbyn 2030

Cryfhau Cyfreithiau Cymru – ailystyried yr angen am ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth benodol i orfodi rheolau ar wahaniaethu ar sail oed.

Ymchwil – Cynyddu lefel y cyllid ar gyfer ymchwil sy’n gysylltiedig ag oedran yng Nghymru (dim ond 3% o gyfanswm y DU ar hyn o bryd)

Cynrychiolaeth yn y Cyfryngau

Mae pobl hŷn yn aml yn cael eu portreadu yn y cyfryngau fel pobl fregus, ddibynnol, anghofus sy’n cael eu herio’n dechnolegol ac wedi colli gafael ar fywyd go iawn. Gall hyn gynnwys geiriau a lluniau. Mae hyn yn atgyfnerthu stereoteipiau negyddol, gan danseilio cryfderau a phrofiadau pobl hŷn. Mae oedraniaeth fel hyn yn erydu hunan-barch a hunanwerth pobl hŷn. Pan fydd cymdeithas yn dibrisio ac yn ein hymyleiddio ar sail ein hoed yn unig, mae anghenion carfannau o bobl hŷn yn y dyfodol yn cael eu lleihau a’u nacáu. Mae angen rhagor o ddeialog gyda gweithwyr proffesiynol yn y cyfryngau am oedraniaeth a darparu hyfforddiant er mwyn iddynt ddeall yn well beth yw oedraniaeth a’r effeithiau difrifol ar bobl hŷn. Mae hil, menywod ac anabledd wedi cael sylw cadarnhaol, felly beth am oedran hefyd ?

Oedraniaeth yn y Gweithle

Gall oedraniaeth mewn cyflogaeth arwain at oblygiadau sylweddol i bobl hŷn. Os byddwn yn profi gwahaniaethu ar sail oed, efallai y byddwn yn wynebu anawsterau wrth ddod o hyd i swyddi newydd neu efallai y byddwn yn cael ein gorfodi i ymddeol yn gynnar. Gall hyn arwain at lai o incwm, llai o gynilion, a mwy o ansicrwydd ariannol yn nes ymlaen mewn bywyd ac mae’n creu pensiynwyr mewn tlodi yn y dyfodol. Mae adroddiad ymchwil diweddar yn nodi’r problemau’n dda.https://www.thehrdirector.com/business-news/diversity-and-equality-inclusion/new-global-study-reveals-persistent-age-discrimination-workplace/ Dywedodd Cadeirydd y cwmni ymchwil “Mae ein canfyddiadau’n datgelu bwlch clir rhwng yr hyn y mae sefydliadau’n ei ddweud am amrywiaeth a chynhwysiant a sut maen nhw’n ymddwyn tuag at weithwyr hŷn yn ymarferol.” Fel cam cyntaf, mae angen i’n sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru arwain drwy esiampl ac ymrwymo’n agored i roi diwedd ar oedraniaeth yn y gweithle, yn enwedig o ran recriwtio, hyfforddi, datblygu gyrfa, cadw staff ac ymddeol.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Gall rhagdybiaethau oedraniaethol yn y GIG arwain at gleifion hŷn yn cael gofal annigonol. Efallai na fyddwn yn cael ein trin yn ddigonol, efallai y bydd ein symptomau’n cael eu diystyru fel rhan naturiol o heneiddio, neu efallai na fyddwn yn gallu cael gafael ar driniaethau penodol. Mae angen mwy o dryloywder ynghylch y terfynau oedran ar gyfer profion rheolaidd. Yn fy mhrofiad i o ofalu am fy niweddar fam, roedd cael asesiad dementia ysgrifenedig yn amhosibl er bod 3 meddyg wedi dweud wrthyf fod ganddi ddementia.  Rhaid osgoi enghreifftiau mwy amlwg o wahaniaethu ar sail oedran mewn ysbytai a chartrefi gofal, fel mynd i’r toiled a bwydo. Mae angen mwy o godi ymwybyddiaeth a hyfforddiant ar draws y GIG.

Mae oedraniaeth hefyd yn gyffredin ym maes Gofal Cymdeithasol. Mae Grŵp Diddordeb Arbennig Cymdeithas Gerontoleg Prydain ar Oedraniaeth yn edrych yn fanwl ar hyn. Mae oedraniaeth ym maes gofal cymdeithasol yn cynnwys materion fel llai o adnoddau i bobl hŷn y pen na grwpiau cleientiaid eraill, gwasanaethau sy’n cael eu trefnu gan ddewislen yn hytrach na rheolaeth bersonol fel yr addawyd, systemau diogelu yn drech na llesiant, diffyg ystyriaeth o gyfraniad a chyfranogiad (fel yn Neddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant 2014), llai o daliadau uniongyrchol a chymorth i unigolion sy’n ariannu eu gofal eu hunain (gweler Deddf 2014) ddim ar gael. Rhaid i’r rhaglen ddiwygio ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr fynd i’r afael yn gryf â’r rhain ac anghydraddoldebau eraill.

Cymunedau cynhwysol

Mae apiau ar gyfer parcio ceir, prynu tocynnau ar-lein yn unig, cau banciau a siopau o blaid mynediad ar-lein, trefnu apwyntiadau ar-lein, cymdeithas sy’n gynyddol ddi-arian i gyd yn enghreifftiau o wahaniaethu ar sail oed mewn cymdeithas sy’n achosi anawsterau a gofid ym mywydau pobl hŷn ac yn eu gadael ar ôl. Gan weithio gyda’r sector preifat, dylai’r Llywodraeth ar bob lefel ddefnyddio’i phwerau a’i sefyllfa i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Allgáu Digidol ac Oedraniaeth Ddigidol

Mae nifer o rwystrau i bobl hŷn (ac eraill) yn ein byd digidol y mae’n rhaid mynd i’r afael â nhw. Dyma rai o’r atebion posibl:

  • Gwybodaeth a chyngor – sicrhau nad ar-lein mae’r gwasanaethau hyn ar gael a bod pobl hŷn yn gallu cael “copïau caled” yn ogystal â mynediad wyneb yn wyneb at gymorth pan fo angen.
  • Undod rhwng Cenedlaethau – cydweithio â disgyblion a myfyrwyr sy’n mentora pobl hŷn i ddysgu sgiliau TG a’r cyfryngau cymdeithasol.
  • Cymorth a chyngor Canolfannau Cymunedol ar gael yn lleol gyda chymorth i’r rheini sy’n ddefnyddwyr ar-lein newydd neu’r rheini sy’n dymuno dysgu am fynd ar-lein.
  • Ynysu ac Unigrwydd – canfod angen yn gynnar, darparu cynlluniau cymorth a benthyciadau TG neu gynlluniau ‘profi cyn prynu’ gyda chyfrifiadur llechen gan sicrhau nad yw’r gost yn afresymol.
  • Dylai hyfforddiant asesu gallu a darparu hyfforddiant wedi’i deilwra i unigolion, gan sicrhau eu diogelwch ar-lein.

Fel y nodwyd yn ddiweddar gan y Comisiynydd, mae Oedraniaeth Ddigidol yn fater nad yw’n cael ei ystyried yn ddigonol. Mae’n fater sy’n gallu difetha bywydau llawer o bobl hŷn sy’n defnyddio dyfeisiau digidol ond sydd ddim yn hyderus nac yn cael eu cynnwys llawer. Er bod gan dechnoleg sy’n newid yn gyflym lawer o fanteision, mae ei ddyluniad a’i ddatblygiad “yn creu rhwystrau i bobl hŷn ar draws amrywiaeth o feysydd …. yn aml o ganlyniad i lwyfannau a systemau sydd wedi’u dylunio’n wael, sy’n tybio bod gan bobl lythrennedd digidol ac sydd wedi’u dylunio gyda defnyddwyr iau mewn golwg.”

Mae angen ymgyrch newydd wedi’i hanelu at “fusnesau mawr” a’r llywodraeth i godi ymwybyddiaeth o oedraniaeth ddigidol.

Casgliadau

Er fy mod yn cydnabod y camau cadarnhaol ymlaen yn ddiweddar, mae’n rhaid i mi ddweud bod llawer i’w wneud o hyd i sicrhau newid ystyrlon a chael dealltwriaeth cyfartal o ddifrifoldeb ac effaith materion cymdeithasol eraill sy’n creu rhwystrau i gydraddoldeb yn ein cymdeithas. Fodd bynnag, drwy herio stereoteipiau, gorfodi polisïau teg, a meithrin parch rhwng cenedlaethau, gall cymdeithas ddatgloi manteision bywydau hirach. Mae dyfodol heb wahaniaethu ar sail oedran nid yn unig yn decach – ond mae hefyd yn gwneud synnwyr economaidd, mae’n iachach, ac yn creu gwlad fwy cydlynol. Mae’r erthygl hon yn rhoi trosolwg o’r agenda gwahaniaethu ar sail oed, ond mae erthyglau eraill i ddilyn yn ystod y misoedd nesaf yn ymhelaethu ar agweddau allweddol y mae angen gweithredu arnynt.

Cyfeiriadau

Heneiddio’n Dda Reframing-ageing-public-perceptions.pdf

Age Cymru https://www.agecymru.wales/information-advice/money-legal/discrimination-rights/ageism/

Grŵp Diddordeb Arbennig Cymdeithas Gerontoleg Prydain ar Oedraniaeth

Paul Cann a Malcolm Dean (1988) Unequal Ageing – the untold story of exclusion in old age. Policy Press

Y Ganolfan Heneiddio’n Well https://ageing-better.org.uk/ageism

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Y Comisiynydd yn rhybuddio bod pobl hŷn mewn perygl sylweddol o ddioddef oedraniaeth ddigidol ac allgáu cymdeithasol – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Elusen Copa  CAEL GWARED AG OEDRANIAETH A GWAHANIAETHU AR SAIL OED YNG NGHYMRU https://www.copacharity.com/2023/07/17/bannishing-ageism-and-age-discrimination-in-wales-to-history/

Elusen Copa – GWAHANIAETHU AR SAIL OED – ALLGÁU DIGIDOL- https://www.copacharity.com/2024/04/10/age-discrimination-digital-exclusion/

John Williams (2025) Older Persons and the Law Routledge

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges