Sylw i Oedraniaeth yn yr Amgylchedd Adeiledig: Dylunio a Chreu Lleoedd mewn Ffordd Gynhwysol
Max Hampton, Cynghorydd Dylunio, Comisiwn Dylunio Cymru
Wrth i sgyrsiau am oedraniaeth ennill momentwm, mae’n bwysig iawn cydnabod sut mae oedraniaeth yn gallu cael ei gwreiddio nid yn unig mewn agweddau ac iaith, ond hefyd yn yr amgylcheddau ffisegol rydym yn eu creu. Mae mannau awyr agored ac adeiladau’n siapio sut mae pobl yn symud o gwmpas, pa mor groesawgar rydym ni’n teimlo, ac a ydym ni’n gallu cymryd rhan lawn mewn bywyd bob dydd. Yn rhy aml, mae’r amgylcheddau hyn yn rhoi pobl hŷn dan anfantais – ac, yn ein tro, ni ein hunain yn y dyfodol – er gwaethaf y realiti bod gan Gymru boblogaeth sy’n heneiddio.
Mae’r ffordd rydym yn cynllunio, yn dylunio ac yn rheoli lleoedd yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o siapio’r canlyniadau hyn. Mae dylunio a chreu lleoedd mewn ffordd gynhwysol yn cynnig ffordd o fynd i’r afael ag oedraniaeth drwy ganolbwyntio ar brofiadau pobl o leoedd yn eu bywydau bob dydd, gan gefnogi annibyniaeth, cysylltiad a llesiant wrth i ni heneiddio. Yng Nghymru, mae Siarter Creu Lleoedd Cymru yn rhoi fframwaith pwysig ar gyfer y dull hwn, drwy roi pobl a chymuned wrth galon y broses o wneud penderfyniadau a hybu ffordd fwy cynhwysol a chyfannol o greu lleoedd.
Pur anaml mae oedraniaeth yn yr amgylchedd adeiledig yn fwriadol. Yn amlach na pheidio, mae’n deillio o brosesau a thybiaethau dylunio sy’n blaenoriaethu cyflymder, effeithlonrwydd, safoni a syniad cul o’r ‘person cyffredin’. Mae strydoedd sy’n rhoi blaenoriaeth i gerbydau yn hytrach na phobl, mannau cyhoeddus heb unman i eistedd neu i gwrdd ag eraill, adeiladau sydd â chynllun cymhleth neu sy’n aneglur, ac amgylcheddau sy’n tybio bod gan bawb lefelau uchel o allu corfforol i gyd yn cyfleu negeseuon anfwriadol ynghylch ar gyfer pwy mae lleoedd wedi’u dylunio – a phwy maen nhw’n eithrio.
Mae’r penderfyniadau hyn yn gallu creu rhwystrau mawr i bobl hŷn. Mae mannau awyr agored heb seddi, llochesi na thoiledau hygyrch yn cyfyngu ar faint o amser gall rhywun ei dreulio’n gyfforddus y tu allan i’w gartref. Mae arwynebau anwastad, goleuadau gwael a chynllun dryslyd yn gallu lleihau hyder, cynyddu’r risg o gwympiadau ac atal pobl rhag gwneud siwrneiau bob dydd. Mae ffyrdd sydd wedi cael eu dylunio i geir yn bennaf, gyda cherbytffyrdd llydan, traffig cyflym neu gyfleoedd i groesi sydd wedi cael eu dylunio’n wael, yn gallu ei gwneud hi’n anodd croesi’n ddiogel a symud o gwmpas yn hyderus. Mae adeiladau sydd â mynedfeydd aneglur neu gynlluniau mewnol dryslyd yn gallu codi ofn neu eithrio rhywun, yn enwedig pobl sydd ag amhariad symudedd, pobl sy’n byw â dementia, neu’r rhai sydd â Parkinson’s neu sydd wedi colli eu golwg.
Mae effaith y rhwystrau hyn yn fwy nag anghyfleus. Pan fydd pobl yn teimlo’n anniogel, nad oes croeso iddyn nhw neu nad ydyn nhw’n gallu symud drwy fannau cyhoeddus, maen nhw’n llai tebygol o adael eu cartrefi, cymryd rhan ym mywyd y gymuned neu gynnal cysylltiadau cymdeithasol. Dros amser, gall hyn gyfrannu at deimlo’n unig ac yn ynysig a dirywiad mewn iechyd corfforol a meddyliol – heriau sydd eisoes yn cael eu cydnabod fel problemau sylweddol i bobl hŷn yng Nghymru.
Yn bwysig, mae oedraniaeth yn yr amgylchedd adeiledig yn effeithio ar fwy na dim ond pobl hŷn. Mae llefydd sy’n anodd symud drwyddyn nhw, sy’n anghyfforddus treulio amser ynddyn nhw, neu sy’n dibynnu ar lefelau uchel o allu corfforol hefyd yn gallu creu anfantais i blant ac i bobl anabl, gan gynnwys pobl sy’n byw â chlefyd Parkinson’s, colli golwg neu anhwylderau hirdymor eraill. Mae dylunio cynhwysol, sy’n rhagweld ystod eang o anghenion a galluoedd o’r cychwyn cyntaf, yn helpu i sicrhau bod llefydd yn gweithio’n well i bawb. Felly mae dylunio mewn ffordd sy’n dileu oedraniaeth o fudd i ystod ehangach o lawer o bobl, gan helpu i greu llefydd sy’n gynhwysol ac yn wydn, ac mae modd eu haddasu dros amser.
Mae mynd i’r afael ag oedraniaeth yn gofyn i ni newid y ffordd rydym yn mynd ati i ddylunio, i gynllunio ac i ddatblygu. Yn hytrach na thrin hygyrchedd neu nodweddion oed-gyfeillgar fel ychwanegiadau neu ofynion ticio blychau, dylid deall bod dylunio cynhwysol yn rhan annatod o ddylunio da. Mae mannau cyfforddus i orffwys, cynlluniau clir ac eglur, strydoedd ar raddfa ddynol, goleuo a llochesi da, ac adeiladau sy’n hawdd mynd i mewn iddyn nhw a chanfod eich ffordd drwyddyn nhw i gyd yn cyfrannu at amgylcheddau lle gall pobl symud yn hyderus ac yn annibynnol.
Mae mannau awyr agored yn chwarae rhan arbennig o bwysig mewn bywyd a llesiant bob dydd. Strydoedd, sgwariau, parciau a llwybrau rhwng adeiladau yw lle bydd pobl yn cwrdd ac yn rhyngweithio ag eraill, yn cael awyr iach ac yn ymarfer corff, ac yn teimlo’n rhan o gymuned ehangach. Pan fydd y gofodau hyn yn cael eu dylunio mewn ffordd sy’n gwahodd pobl i gymryd saib a threulio amser, yn hytrach na dim ond symud drwyddyn nhw – drwy seddi, planhigion, ymylon gweithredol, cysgod rhag yr elfennau a chyfleoedd i chwarae – maen nhw’n creu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol rhwng cenedlaethau. Gall cyswllt anffurfiol a bob dydd fod yn ffynhonnell hanfodol o gyswllt i bobl hŷn.
Mae adeiladau hefyd yn dylanwadu ar ba mor gynhwysol mae lle yn teimlo. Gall mynedfeydd clir, cylchrediad syml, gwelededd da a mynediad at olau naturiol wneud adeiladau’n fwy croesawgar ac yn haws eu defnyddio i bobl o bob oed. I bobl sy’n byw â dementia, gall ffurfiau cyfarwydd, tirnodau mae modd eu hadnabod ac iaith ddylunio gyson gefnogi cyfeiriadedd a hyder, gan alluogi ymgysylltiad parhaus â bywyd cyhoeddus.
Ffordd ddefnyddiol o herio tybiaethau dylunio sy’n gwahaniaethu ar sail oedran yw meddwl am sut mae lleoedd yn gweithio i bobl dros amser. Os bydd mannau awyr agored ac adeiladau’n gweithio’n dda i bobl wrth iddyn nhw heneiddio, byddan nhw’n gweithio’n well i bawb. Mae hyn yn adlewyrchu’r cysyniad 8–80: os yw lle’n gweithio’n dda i blentyn wyth oed ac i oedolyn wyth deg oed, bydd yn gweithio’n well i bawb. Nid cyflwr ymylol yw heneiddio, ond profiad dynol a rennir, a thrwy ddylunio a chreu lleoedd yn dda gall llefydd ymateb i anghenion newidiol pobl drwy gydol eu bywydau.
Yn fy rôl fel Cynghorydd Dylunio yng Nghomisiwn Dylunio Cymru, rwy’n gweld gwerth mynd i’r afael â’r materion hyn yn gynnar yn y broses ddylunio. Drwy ein gwasanaethau Cymorth i Gleientiaid ac Adolygu Dyluniadau, rydym yn gweithio gyda chleientiaid, dylunwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ystyried creu lleoedd, dylunio cynhwysol ac anghenion pobl o bob oed o’r cychwyn cyntaf, gan helpu i siapio mannau awyr agored ac adeiladau sy’n cefnogi cynhwysiant, cysylltiad a llesiant dros amser.
Yn y pen draw, mae mannau awyr agored ac adeiladau yn cyfleu negeseuon pwerus am fywydau pwy sy’n cael eu gwerthfawrogi. Drwy gydnabod a mynd i’r afael ag oedraniaeth yn yr amgylchedd adeiledig, mae gennym gyfle i greu lleoedd ledled Cymru sy’n cefnogi annibyniaeth, cysylltiad a chymuned drwy gydol bywyd, gan sicrhau eu bod yn gweithio nid yn unig i boblogaeth heddiw, ond i’r bobl fyddwn ni gyd yn y dyfodol.