Rhentwyr preifat hŷn – rhan angof o’r genhedlaeth rhent
Mae’r mwyafrif yn derbyn bod Cymru’n wynebu argyfwng tai. Argyfwng sy’n golygu bod mwy na 10,000 o bobl yn ddigartref ac yn gaeth i lety dros dro, mwy na 170,000 (gan gynnwys bron i 16,000 dros 55 oed) yn sownd ar restrau aros am gartref cymdeithasol, a channoedd o filoedd o aelwydydd ar drugaredd sector rhentu preifat nad yw’n addas at y diben.
Mae hwn hefyd yn argyfwng a all effeithio ar unrhyw un, gydag argyfwng costau byw parhaus a phrinder acíwt o gartrefi diogel, addas a fforddiadwy yn rhoi mwy o bobl nag erioed mewn perygl o ddigartrefedd. Fodd bynnag, yn aml wrth feddwl neu siarad am yr argyfwng tai, yr effaith ar bobl iau sy’n denu’r sylw mwyaf.
Gwelwn hyn mewn dadleuon ynghylch perchentyaeth sy’n canolbwyntio ar brynwyr tro cyntaf, ac yn y ffordd y mae sgyrsiau am y sector rhentu preifat yn aml yn canolbwyntio ar bobl ifanc neu deuluoedd ifanc. Wrth gwrs, mae’n iawn bod y cymunedau hyn yn cael eu cydnabod yn yr argyfwng tai ond ar yr un pryd mae’n rhaid i ni hefyd ystyried yr effaith y gall yr argyfwng tai ei chael ar genedlaethau hŷn.
Cymerwch – er enghraifft – y sector rhentu preifat. Ledled Cymru, dyma’r ail fath mwyaf cyffredin o gartref, ac er ei fod yn cael ei ystyried yn draddodiadol fel opsiwn byrdymor i bobl ifanc, mae’n gartref i fwy a mwy o bobl hŷn yn ogystal â theuluoedd.
Yn ôl data Cyfrifiad 2021, mae mwy na 55,000 o aelwydydd rhent preifat yng Nghymru o dan arweiniad unigolyn dros 55 oed.[1] Mae hyn yn cyfateb i oddeutu 1/4 o’r holl gartrefi rhent preifat yng Nghymru.
Mae’r ddibyniaeth ar y sector rhentu preifat i ddarparu cartrefi i bobl hŷn hefyd yn ffenomen gymharol ddiweddar, un sydd wedi dod i’r amlwg dros y ddau ddegawd diwethaf. Yn wir, rhwng 2001 a 2021, cynyddodd nifer yr aelwydydd dan arweiniad rhywun dros 55 oed a oedd yn rhentu’n breifat gan bron i 140%. Mae hyn yn sylweddol uwch na’r twf cyffredinol yn y sector rhentu preifat yn y cyfnod hwn.
Ac mae sefydliadau fel Age UK yn disgwyl i’r niferoedd hyn barhau i dyfu yn y blynyddoedd nesaf wrth i ni brofi effeithiau hirdymor argyfwng tai sydd wedi atal llawer o bobl rhag cael mynediad at gartrefi cymdeithasol neu berchentyaeth.
Er mai dyma’r ail ddeiliadaeth fwyaf, mae Shelter Cymru yn credu bod y sector rhentu preifat wedi torri ar lefel sylfaenol. I lawer o bobl sy’n dibynnu arno, nid yw’n ddim mwy na dewis olaf o ddeiliadaeth, gan fod perchentyaeth a thai cymdeithasol yn ymddangos allan o’u cyrraedd yn llwyr. Mae hefyd yn sector o renti sy’n cynyddu’n gyflym a diffyg diogelwch, gyda landlordiaid yng Nghymru yn cadw’r hawl i droi pobl allan heb reswm (pwerau sydd wedi’u diddymu yn Lloegr a’r Alban).
Mae’r risg hon o gael eich troi allan heb reswm yn rhywbeth y mae Shelter Cymru yn arbennig o bryderus amdano, a chredwn y gallai gael effaith sylweddol ar rentwyr hŷn. Er enghraifft, gwyddom fod llawer o rentwyr ar hyn o bryd yn ofni gofyn i’w landlord neu asiant gosod am atgyweiriadau neu addasiadau i’w cartref gan eu bod yn ofni cael eu troi allan. I bobl hŷn sydd angen addasiadau arbenigol i’w galluogi i barhau i fyw yn eu cartref, gall hyn fod yn bryder mawr, gan y gall landlord sydd heb fawr o ddiddordeb mewn mesurau o’r fath arfer yr hawl honno i’w troi allan, yn hyderus y gall ddod o hyd i denant arall. Ymddygiad a fyddai – ar hyn o bryd – yn gwbl gyfreithlon hyd yn oed pe bai’r tenant ei hun yn hapus i dalu am addasiadau o’r fath.
I berson hŷn mewn achos o’r fath, byddai wedyn yn wynebu’r her o sicrhau cartref newydd, yn ddelfrydol gyda’r addasiadau sydd eu hangen arno. O ystyried y galw presennol am gartrefi yn y sector rhentu preifat, mae siawns go iawn y gallai wynebu digartrefedd; colli tenantiaeth breifat yw’r prif reswm dros bobl yn cael eu derbyn gan awdurdodau lleol fel rhai sydd mewn perygl o ddigartrefedd.
Eto, er gwaethaf y risgiau gwirioneddol y mae’r dirwedd bolisi bresennol hon yn eu hachosi i bobl hŷn, mae llais pobl hŷn a phrofiad pobl hŷn yn aml yn absennol o drafodaethau a dadleuon. Mae hyn yn adlewyrchiad clir o gysylltiad parhaus y sector rhentu preifat, a’r argyfwng tai yn ehangach, gyda chenedlaethau iau yn hytrach na chenedlaethau hŷn.
Hyd yn oed i’r rhai nad oes angen addasiadau arnynt, mae’r her o rentu’n breifat ar adeg o chwyddiant rhent sylweddol yn parhau i fod yn bryder. Mae hyn yn arbennig o wir am rentwyr hŷn yng Nghymru, gan fod Cymru wedi ac yn parhau i weld y lefelau uchaf o chwyddiant rhent o unrhyw genedl ym Mhrydain, gyda rhenti cyfartalog ledled y wlad yn codi 5.7% rhwng Rhagfyr 2024 a Rhagfyr 2025. Mae hyn yn dod ar ben cyfnod parhaus o gynnydd rhent sy’n uwch na chwyddiant.
Yn y pen draw, mae’r holl ddata yma’n dweud rhywbeth syml iawn wrthym, rhywbeth rydyn ni hefyd yn ei wybod o’r gwasanaethau cynghori y mae Shelter Cymru yn eu cynnig ledled Cymru: mae pobl hŷn yn dibynnu fwyfwy ar rentu preifat ac yn cael mwy a mwy o drafferthion oherwydd hynny.
Yn Shelter Cymru, rydyn ni’n galw ar bob plaid wleidyddol yng Nghymru i sicrhau bod diwygio’r sector rhentu preifat fel ei fod yn gweithio i bobl yn rhan allweddol o’u cynlluniau i ddod â’r argyfwng tai i ben. Ac mae sicrhau bod profiadau rhentwyr hŷn yn cael eu cynnwys yn hynny yn hollol allweddol, oherwydd mae dod â’r argyfwng tai i ben yn golygu gwneud hynny i bawb.
Ac rydyn ni’n benderfynol o chwarae ein rhan yn hyn, a dyna pam (gyda chefnogaeth Oak Foundation) rydyn ni wedi ymrwymo i brosiect aml-flwyddyn a fydd yn grymuso rhentwyr preifat ac yn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed gan y rhai sydd â’r pŵer i wneud newid. I gefnogi hyn rydyn ni wedi sefydlu grŵp cynghori sy’n cynnwys rhentwyr preifat a fydd yn ein helpu i ddatblygu’r prosiect hwn. Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud y grŵp hwnnw’n gynrychioliadol o’r sector rhentu preifat – gan sicrhau nad oes unrhyw lais yn cael ei dawelu ac nad oes unrhyw brofiad neu broblem yn cael ei cholli.
Os ydych chi’n rhentwr preifat ac yr hoffech fod yn rhan o’r gwaith hwn, cysylltwch ag Elen, ein harweinydd polisi rhentu preifat, a’r tîm yn Shelter Cymru: policyandresearch@sheltercymru.org.uk
[1] Data o Gyfrifiad 2021, ac eithrio Pen-y-bont ar Ogwr sydd ddim ar gael.