Cludiant a Rhagfarn Oed: Pam ei fod yn bwysicach nag y byddech chi’n ei feddwl
Beth byddech chi’n ei wneud pe bai diffyg cludiant yn golygu na fyddai modd ichi fynd i apwyntiad yn yr ysbyty, pe na bai modd ichi weithio, neu pe na bai modd ichi adael eich cartref? I filoedd o bobl hŷn yng Nghymru, nid cwestiwn damcaniaethol yw hwn. Dyma’u profiad. Yn dawel bach, mae rhagfarn oed o ran cludiant yn siapio bywydau ac yn cyfyngu ar gyfleoedd bob dydd. Nid dim ond anghyfleuster yw hyn; mae’n rhwystr rhag annibyniaeth, iechyd a chysylltiad cymdeithasol.
Dathlu rôl pobl hŷn mewn Cludiant Cymunedol
Mae Cludiant Cymunedol yn cael ei yrru gan staff, gwirfoddolwyr a theithwyr ymroddedig a bywiog o bob oed, gyda chyfran sylweddol ohonynt yn 55 oed a throsodd. Yn wahanol i lawer o sectorau, rydym yn gwneud mwy na chydnabod cyfraniad pobl hŷn. Rydym yn ei ddathlu. Mae eu gwybodaeth, eu profiad a’u sgiliau’n cyfoethogi ein gwaith bob dydd yn ddiwahân.
Ystyriwch y cyn-filwyr sydd bellach yn rhedeg cynlluniau cludiant lleol â manwl gywirdeb. Meddyliwch am y gyrwyr gwirfoddol sy’n cael modd i fyw o gynorthwyo’u cymdogion, neu’r cyn-reolwyr yn y sector preifat sydd wedi darganfod diben newydd yn y sector gwirfoddol. Ac yna, meddyliwch am y teithwyr a fu wedi’u hynysu yn eu cartrefi, ond sydd bellach wedi’u cysylltu, yn annibynnol, ac yn chwarae eu rhan yn eu cymunedau. Heb bobl hŷn, byddai Cludiant Cymunedol yn llai cyfoethog, yn llai galluog ac yn llawer llai cysylltiedig.
Stori sy’n darlunio’r sefyllfa ar lawr gwlad
Bu i bâr sy’n byw yng nghefn gwlad Powys gysylltu ag un o aelodau’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol i ofyn am gymorth ar ôl i ddementia Mr M waethygu. Wrth i’w iechyd ddirywio ymhellach, roedd hi’n fwyfwy anodd iddo ddefnyddio’r cludiant cyhoeddus cyfyngedig sydd ar gael, ac nid yw Mrs M yn gyrru. Gyda’u hunig ferch yn byw yn Lloegr a dim tacsis ar gael, bu’n rhaid iddynt fethu apwyntiadau pwysig yn yr ysbyty ac roedd eu bywydau’n dechrau dioddef. Bu modd i’r gwasanaeth Cludiant Cymunedol roi cymorth yn ei le, nid dim ond er mwyn iddynt fynd i’r apwyntiadau hanfodol hynny yn yr ysbyty, ond hefyd i’w cynorthwyo i gyrraedd grwpiau cymdeithasol lleol ac i ailgysylltu â’u ffrindiau. Mae Mrs M yn disgrifio’r cymorth y mae’n ei gael fel “pwysau aruthrol oddi ar ei hysgwyddau”.
Pam fod rhaid i lunwyr polisi wrando ar bobl hŷn?
Ers degawdau, mae motonormadoledd – y rhagfarn ddiarwybod sy’n rhagdybio mai bod yn berchen ar gar yw’r norm – wedi siapio penderfyniadau cynllunio a’r gwaith o ddylunio gwasanaethau, ac mae’r arfer hwn o ganolbwyntio ar geir yn gadael y rheini nad ydynt yn gyrru ar ôl. Pa un a yw’n ymwneud â chael mynediad at waith, at ofal iechyd neu at gyfleoedd hamdden, mae llawer o gyrff cyhoeddus yn cymryd yn ganiataol bod pobl yn gallu gyrru neu fod ganddynt deulu neu ffrindiau sy’n gallu mynd â nhw i’r man y mae angen iddyn nhw fynd iddo.
Gyda gwasanaethau bws ledled y Deyrnas Unedig yn dirywio’n sylweddol a miloedd o ddeiliaid cardiau teithio rhatach heb ddychwelyd i’r rhwydwaith cludiant cyhoeddus prif ffrwd ers pandemig COVID-19, nid yw cludiant cymunedol erioed wedi bod yn bwysicach. Rydym yn gwybod mai profiad pobl hŷn o gludiant cyhoeddus yn aml yw siwrneiau hir, cymhleth, hyd yn oed pan fyddant yn teithio pellteroedd cymharol fyr, neu orfod dal ati i yrru oherwydd yr annibyniaeth y gallent ei cholli o roi’r gorau i’w ceir. Rydym hefyd yn gwybod bod colli mynediad at gludiant yn arwain at ddirywiad o ran llesiant, at gynnydd mewn iselder a phroblemau iechyd cysylltiedig, gan gynnwys teimladau o straen ac ynysigrwydd, ac at farwoldeb cynyddol.
Wrth inni lywio’r ffordd drwy drawsnewidiad sylweddol i rwydwaith bysiau Cymru ac i’r ddeddfwriaeth gysylltiedig, mae’n hanfodol bod rhaid i bobl hŷn a’u cymunedau chwarae eu rhan o ran cyfrannu at y newidiadau hyn i sicrhau eu bod yn gweithio i bawb. Er enghraifft, dros yr haf, bu imi gwrdd â phâr a oedd am fynd i’r eglwys ar ddydd Sul ac a oedd yn gorfod teithio i Abertawe ac o’r ddinas eto, gan olygu taith 90 munud o hyd a fyddai fel arfer yn cymryd llai na 15 munud mewn car. Neu’r fenyw a oedd yn torri ei bol eisiau cyrraedd y pantomeim i weld ei hwyres yn perfformio, ond a oedd yn mynd i orfod gadael cyn diwedd y perfformiad i ddal y bws olaf adref. Mae Cludiant Cymunedol yn gallu ymateb i’r anghenion hyn mewn ffordd nad yw cludiant cyhoeddus prif ffrwd braidd byth yn ei hystyried, ac mae hyn yn cael ei sbarduno gan ein cysylltiad â’r cymunedau a wasanaethir gennym.
Os yw Cymru o ddifrif am fod y lle gorau i heneiddio, rhaid i gludiant weithio i bawb. Dylai pob siwrnai agor y drws ar annibyniaeth, urddas a chysylltiad. Gadewch inni sicrhau bod heneiddio yng Nghymru’n golygu byw’n dda, cynnal cysylltiadau, a pheidio byth â chael eich gadael ar ôl.