Angen Help?

Swyddog Cyfathrebu

A camera set up in the foreground interviewing a woman who is sitting in a blurred background on a chair in a library

Swyddog Cyfathrebu

Cyflog: £29,668 – £32,697 y flwyddyn

Math o Gontract: Parhaol (Llawn- amser, 37 awr yr wythnos)

Lleoliad: Hybrid (Bae Caerdydd ac O Bell)

Ydych chi’n gyfathrebwr creadigol gyda’r ddawn i ysgrifennu cynnwys diddorol?

Byddwch yn creu cynnwys ysgogol ar gyfer amrywiaeth o sianeli cyfathrebu, gan gynnwys cyfryngau print, cyfryngau cymdeithasol a gwefan y Comisiynydd sy’n codi ymwybyddiaeth o rôl a gwaith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur, agwedd greadigol ac arloesol tuag at ysgrifennu deunydd a dealltwriaeth o amgylchedd gwleidyddol Cymru.

Dyma eich cyfle i ddefnyddio eich sgiliau a’ch creadigrwydd i gael effaith go iawn. Os ydych chi’n frwd dros adrodd straeon ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol, hoffem glywed oddi wrthych.

Sut i wneud cais

Darllenwch y disgrifiad swydd a manyleb y person yn ofalus gan fod y rhain yn amlinellu cyfrifoldebau a disgwyliadau’r rôl.

Ystyriwch sut mae eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch profiad yn cyd-fynd â’r hyn rydyn ni’n chwilio amdano, a meddyliwch am enghreifftiau penodol sy’n dangos eich galluoedd.

Anfonwch eich ffurflen gais wedi’i llenwi at recruitment@olderpeople.wales neu drwy’r post i Recriwtio, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL erbyn 5pm ar ddyd Iau 8 Mai.

Mae croeso i chi wneud cais yn Gymraeg, yn Saesneg, neu yn y ddwy iaith. Ni fydd cais sy’n cael ei gyflwyno yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais sy’n cael ei gyflwyno yn Saesneg. Gellir cyfieithu eich cais i’r Gymraeg neu i’r Saesneg os oes angen.

Os byddwch yn llwyddo i gyrraedd y rhestr fer, mae’n rhaid i chi fod ar gael i ddod i gyfweliad ddydd Iau 22 Mai.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais, ond bod gennych chi gwestiwn neu fod arnoch chi eisiau trafod y rôl ymhellach? Cysylltwch â ni ar: recruitment@olderpeople.wales

Rydyn ni eisiau i’n gweithlu gynrychioli pob carfan o gymdeithas yn well ar bob lefel yn y sefydliad. Felly, rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan amrywiaeth eang o bobl, o bob cefndir, sydd â llawer o wahanol sgiliau, profiadau a safbwyntiau.

Mae’r Comisiynydd yn gyflogwr sydd wedi ymrwymo i fod yn Hyderus o ran Anabledd ac sy’n mabwysiadu’r model cymdeithasol o anabledd. Mae’r Comisiynydd wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau yn y broses recriwtio er mwyn i ymgeiswyr sydd ag amhariad neu gyflwr iechyd, sy’n niwroamrywiol, neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) allu perfformio ar eu gorau.

Rydym yn gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, ac i unrhyw ymgeiswyr sydd ag amhariad neu gyflwr iechyd, sy’n niwrowahanol, neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain sy’n gwneud cais am y swydd ac sy’n bodloni ei meini prawf hanfodol.

Sut byddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth

Mae’r Comisiynydd wedi ymrwymo i barchu ac i ddiogelu’r wybodaeth bersonol rydych yn ei rhannu â ni. Mae manylion llawn sut byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth a rowch chi i ni ar gael yn ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Recriwtio.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges