Angen Help?

Strategaeth y Comisiynydd 2025-28 (Fersiwn HTML)

Image of jigsaw pieces being assembled to form a map of Wales

CYMRU SY’N ARWAIN Y FFORDD I BOBL HŶN: Strategaeth y Comisiynydd 2025-28

Rhagair

I lawer o bobl hŷn, mae heneiddio yng Nghymru yn brofiad cadarnhaol – maen nhw’n gallu cael gafael ar yr wybodaeth, y gefnogaeth a’r gwasanaethau y mae arnyn nhw eu hangen, maen nhw’n teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi a’u cymunedau, yn cael eu trin yn deg ac yn gallu lleisio eu barn.

Ond nid yw hyn yn wir i bawb, ac mae heriau a rhwystrau amrywiol mewn sawl agwedd ar fywyd bob dydd pobl yn effeithio ar eu hiechyd, eu lles a’u hannibyniaeth, gan achosi iddynt deimlo eu bod yn ddiwerth, yn cael eu cau allan, a’u gadael ar ôl, ac mae hynny’n effeithio ar eu cyfleoedd i fyw a heneiddio’n dda.

Mae’r Strategaeth hon yn amlinellu’r amcanion strategol y bydd fy ngwaith yn canolbwyntio arnynt yn ystod y tair blynedd nesaf er mwyn mynd i’r afael â’r materion a’r pryderon y tynnwyd fy sylw atynt gan bobl hŷn a hybu’r newid a’r gwelliannau y mae arnyn nhw eisiau eu gweld. Yn ogystal, rwyf wedi cyhoeddi fy Rhaglen Waith, sy’n seiliedig ar y Strategaeth hon ac sy’n nodi’r camau penodol y byddaf yn eu cymryd yn y flwyddyn sydd i ddod.

Mae’n hollbwysig hefyd bod llunwyr polisïau a phobl sy’n gwneud penderfyniadau yn gweithredu, gan ddefnyddio’r dulliau ysgogi newid sydd ar gael iddynt, er mwyn gwella gwasanaethau a chefnogaeth i bobl hŷn ac ymateb yn fwy effeithiol i’w lleisiau.

Mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn ei fonitro’n ofalus fel Comisiynydd, ac ni fyddaf yn petruso cyn galw cyrff cyhoeddus i gyfrif lle bo angen os byddaf yn teimlo nad ydynt yn gwneud digon o gynnydd.

Drwy weithio gyda’n gilydd, mae gennym gyfleoedd i greu Cymru lle mae pob person hŷn yn cael ei werthfawrogi, ei gynnwys a’i gefnogi i fyw ag urddas ac annibyniaeth. Drwy wrando, gweithredu, a hybu newid ystyrlon, gallwn adeiladu cymdeithas lle mae heneiddio’n rhywbeth i’w ddathlu – Cymru sy’n arwain y ffordd i bobl hŷn.

Rhian Bowen-Davies // Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Fy rôl fel Comisiynydd

Fy rôl i fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yw bod yn llais annibynnol a hyrwyddwr i bobl hŷn ledled Cymru, sefyll drostynt a siarad ar eu rhan, gan sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu cynnal, dylanwadu ar bolisi ac ymarfer a chraffu ar weithredoedd a phenderfyniadau’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus, a’u galw i gyfrif lle bo angen.

Mae Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 yn amlinellu pedair swyddogaeth allweddol sy’n sail i’m rôl:

  • Hybu ymwybyddiaeth o fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru a’r angen i ddiogelu’r buddiannau hynny;
  • Hyrwyddo’r cyfleoedd a ddarperir i bobl hŷn yng Nghymru, a dileu rhagfarn yn eu herbyn;
  • Hybu’r arferion gorau o ran y ffordd y mae pobl hŷn yn cael eu trin yng Nghymru;
  • Parhau i adolygu digonolrwydd ac effeithiolrwydd y gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

Cefnogir fy rôl gan set o bwerau cyfreithiol unigryw, sy’n fy ngalluogi i wneud adolygiadau ffurfiol, cyhoeddi canllawiau i gyrff cyhoeddus a rhoi cymorth i bobl hŷn.

Mae fy ngwaith, â chymorth tîm bach, yn canolbwyntio ar sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed a bod eu profiadau’n cael eu deall er mwyn hybu newid a gwelliannau a mynd i’r afael â’r materion sy’n gallu ein hatal rhag byw a heneiddio’n dda.

Rwyf hefyd yn cymryd camau i rymuso pobl hŷn drwy ddarparu gwybodaeth ac adnoddau am hawliau a’r gefnogaeth a’r gwasanaethau y mae gennym hawl iddynt wrth i ni fynd yn hŷn, yn ogystal â thrwy roi cyngor a chymorth uniongyrchol i bobl hŷn sy’n cysylltu â’m swyddfa i ofyn am gymorth a chefnogaeth.

Ein Gwerthoedd

Mae ein gwerthoedd yn disgrifio’r diwylliant y mae arnom eisiau ei adeiladu a’r newid y mae arnom eisiau ei arwain, ac maen nhw’n seiliedig ar bwy ydyn ni a beth rydyn ni’n credu ynddo.

Maen nhw’n darparu sylfaen sy’n llywio’r ffordd rydym yn gweithio gyda’n gilydd a chyda phobl eraill ar ran pobl hŷn, gan ein cefnogi i weithredu â gonestrwydd, tosturi a phwrpas.

  • Beiddgar ac Uchelgeisiol
  • Hyblyg ac Ymatebol
  • Teg a Chynhwysol
  • Yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn Barchus
  • Agored ac Atebol

Fy Ngweledigaeth

Fy ngweledigaeth yw Cymru sy’n arwain y ffordd er mwyn grymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda.

Fel Comisiynydd, byddaf yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o wireddu’r weledigaeth hon drwy ddarparu rhaglen waith gadarn ac ymatebol sy’n seiliedig ar leisiau a phrofiadau pobl hŷn.

Ond mae hefyd yn hollbwysig bod cyrff a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn cymryd camau er mwyn ymateb i’r heriau a’r rhwystrau amrywiol a wynebir gan bobl hŷn ac yn sicrhau’r newid y mae ar bobl hŷn eisiau ac angen ei weld, gan adeiladu ar gynnydd er mwyn sicrhau dyfodol mwy cynhwysol a chefnogol i bawb.

I gefnogi hyn, rwyf wedi nodi pedwar canlyniad a fydd yn darparu ffocws cenedlaethol strategol i’r camau sydd eu hangen, yn seiliedig ar y materion a’r pryderon y tynnwyd fy sylw atynt gan bobl hŷn ledled Cymru.

  • Mae pobl hŷn yn cael eu trin yn deg, ac mae eu cyfraniad yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi
  • Gall pobl hŷn leisio eu barn, ac mae ganddynt ddewis a rheolaeth dros eu bywydau
  • Gall pobl hŷn gael gafael ar yr wybodaeth, y gwasanaethau a’r cymorth y mae arnynt ei angen
  • Mae pobl hŷn yn teimlo’n ddiogel yn eu perthnasoedd, eu cartrefi a’u cymunedau

Bydd yr amcanion strategol a nodir isod a’r camau rwy’n eu cymryd drwy fy rhaglen waith yn cyfrannu at gyflawni’r amcanion hyn, sydd hefyd yn gosod fframwaith i lywio’r camau a’r penderfyniadau a wneir gan wasanaethau a chyrff cyhoeddus ar hyd a lled Cymru.

AMCANION STRATEGOL

Hybu newid er mwyn gwneud Cymru yn wlad lle gall pobl fyw a heneiddio’n dda  

Mae’n hollbwysig bod pobl hŷn yn cael y cyfleoedd a’r gefnogaeth y mae arnynt ei hangen i wneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw a byw bywydau iach, annibynnol a bodlon.

Mae hyn yn golygu sicrhau bod anghenion pobl hŷn yn cael eu hadlewyrchu mewn polisi ac ymarfer ledled Cymru, cydnabod y gallai anghenion pobl newid wrth iddynt fynd yn hŷn a sicrhau bod hawliau pobl yn cael eu parchu beth bynnag eu hoed.

Yn ogystal â hyn, rhaid i wasanaethau a chefnogaeth allweddol – o iechyd a gofal cymdeithasol, i drafnidiaeth gyhoeddus, a gwasanaethau cymunedol ehangach, mwynderau a gweithgareddau – fod yn hygyrch, yn ymatebol ac yn cyrraedd y safonau uchaf bob amser.

Mae hefyd yn bwysig nad yw pobl hŷn yn cael eu cau allan neu eu gadael ar ôl mewn byd cynyddol ddigidol lle mae technoleg yn chwarae mwy fyth o ran yn ein bywydau bob dydd.

Ond mae pobl hŷn yn aml yn dweud wrthyf eu bod yn wynebu anawsterau a rhwystrau wrth geisio cael gafael ar y gwasanaethau a’r gefnogaeth y mae arnynt ei hangen er mwyn byw a heneiddio’n dda. Mae hyn yn aml yn cael effaith sylweddol ac annerbyniol ar iechyd a lles pobl, ac mewn rhai achosion mae’n arwain at argyfyngau y gellid eu hosgoi.

O ganlyniad, bydd fy ngwaith dros y tair blynedd nesaf yn canolbwyntio ar y canlynol: 

  • Dylanwadu ar bolisi a herio arferion gwael er mwyn gwella gwasanaethau, cefnogaeth a chyfleoedd i bobl hŷn
  • Craffu ar weithredoedd a phenderfyniadau cyrff a gwasanaethau cyhoeddus er mwyn sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu cynnal ac nad yw pobl hŷn yn cael eu cau allan neu eu gadael ar ôl
  • Sicrhau bod pobl hŷn yn cael mynediad teg at wasanaethau sy’n cefnogi eu hiechyd, eu lles a’u hannibyniaeth
  • Gwneud ymchwil ac adolygiadau er mwyn gwella tystiolaeth a data sy’n ymwneud â phrofiadau pobl hŷn er mwyn hybu newid a gwelliannau
  • Gweithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau eraill er mwyn gwneud cymunedau’n fwy Oed-gyfeillgar
  • Cefnogi camau sy’n galluogi pobl hŷn i gadw eu hannibyniaeth a gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw

Grymuso pobl hŷn  

Mae deall ein hawliau a’r mathau o gefnogaeth y mae gennym hawl iddynt os oes arnom eu hangen yn bwysig iawn i bob un ohonom, ond gall fod yn bwysicach fyth wrth i ni fynd yn hŷn.

Efallai y byddwn yn canfod ein hunain yn ymwneud yn amlach â chyrff a gwasanaethau cyhoeddus, er enghraifft, neu mewn sefyllfaoedd lle mae’r hawliau hyn yn dod yn bwysicach er mwyn helpu i sicrhau ein bod yn cael ein trin yn deg neu i’n cadw ni’n ddiogel ac yn iach.

Yn yr un modd, mae ar bob un ohonom eisiau cyfleoedd i leisio ein barn am benderfyniadau sy’n effeithio ar ein bywydau, gan gynnwys penderfyniadau am newidiadau i wasanaethau neu yn ein cymunedau. Mae teimlo bod ein lleisiau’n cael eu clywed – a bod ein barn yn cyfrif – yn hollbwysig mewn cymdeithas deg a chynhwysol.

Fodd bynnag, bydd pobl hŷn yn dweud wrthyf yn aml eu bod yn cael anhawster i leisio eu barn, ac nad yw llunwyr polisïau a phobl sy’n gwneud penderfyniadau yn aml iawn yn deall eu profiadau a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu. Mae hyn yn gallu gwneud heneiddio’n anos ac effeithio ar ansawdd bywyd pobl. Mae pobl hŷn hefyd yn dweud eu bod yn aml yn cael anhawster i ddod o hyd i wybodaeth hollbwysig i’w cefnogi yn eu bywydau bob dydd, sy’n gallu achosi i bobl deimlo eu bod yn ddi-rym, ac yn cael eu cau allan.

O ganlyniad, bydd fy ngwaith dros y tair blynedd nesaf yn canolbwyntio ar: 

  • Ymgysylltu â phobl hŷn ledled Cymru er mwyn clywed o lygad y ffynnon am y materion sy’n effeithio ar eu bywydau a’r rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu
  • Rhannu materion a phryderon sy’n cael eu rhannu gan bobl hŷn â Gweinidogion y Llywodraeth, Uwch Arweinwyr a llunwyr polisïau a phobl sy’n gwneud penderfyniadau
  • Sicrhau bod pobl hŷn yn cael cyfleoedd i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau a’u cymunedau mewn ffordd ystyrlon
  • Datblygu gwybodaeth ac adnoddau sy’n galluogi pobl hŷn i gael gwell dealltwriaeth o’u hawliau a herio gwasanaethau neu driniaeth wael
  • Darparu cymorth a chefnogaeth yn uniongyrchol i bobl hŷn ledled Cymru drwy fy ngwasanaeth Cyngor a Chymorth
    Rhannu a hyrwyddo arferion da sy’n cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl hŷn

Newid y naratif am bobl hŷn a heneiddio 

Mae Oedraniaeth yn un o’r mathau mwyaf cyffredin o wahaniaethu mewn cymdeithas, sy’n aml yn cael ei anwybyddu. Mae’n effeithio ar y ffordd y mae pobl hŷn yn cael eu gweld, eu trin a’u gwerthfawrogi, ac mae’n cyfyngu ar y cyfleoedd sydd ar gael i ni wrth i ni fynd yn hŷn.

Yn rhy aml o’r hanner, mae heneiddio’n cael ei weld mewn termau negyddol yn unig. Mae’n cael ei gyflwyno fel rhywbeth i’w ofni, ac yn cael ei gysylltu â dirywiad a dibyniaeth, sy’n gallu arwain at wahaniaethu ac agweddau oedraniaethol.

Yn ychwanegol at hyn, nid yw sgiliau, gwybodaeth a phrofiad pobl hŷn, a’r cyfraniad sylweddol maen nhw’n ei wneud, yn cael ei gydnabod, er eu bod yn dod â chymaint o fudd i’n bywydau mewn llawer o wahanol ffyrdd.

Mae’r materion hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y sgyrsiau rydw i wedi eu cael â llawer o bobl hŷn ledled Cymru, sy’n dweud wrthyf eu bod yn aml yn teimlo’n anweledig ac nad yw eu bywydau’n cyfrif, neu nad yw’r ffordd y mae heneiddio’n cael ei bortreadu yn y cyfryngau ac mewn cymdeithas yn adlewyrchiad o’u bywydau a’u profiadau nhw.

Mae herio rhagdybiaethau niweidiol a stereoteipiau am bobl hŷn a newid y ffordd y mae cymdeithas yn meddwl ac yn siarad am heneiddio yn hanfodol os ydym am adeiladu Cymru decach a mwy cynhwysol lle mae pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi oherwydd pwy ydyn nhw ac yn cael eu galluogi i fyw a heneiddio’n dda.

O ganlyniad bydd fy ngwaith dros y tair blynedd nesaf yn canolbwyntio ar y canlynol: 

  • Gwella polisi ac ymarfer er mwyn atal gwahaniaethu ar sail oedran
  • Herio rhagdybiaethau a stereoteipiau am bobl hŷn a heneiddio a allai gyfyngu ar gyfleoedd i bobl heneiddio’n dda
  • Tynnu sylw at y cyfraniad sylweddol y mae pobl hŷn yn ei wneud i’n bywydau
  • Dathlu amrywiaeth pobl hŷn yng Nghymru sydd â gwahanol gefndiroedd, profiadau a hunaniaethau
  • Darparu llwyfannau i alluogi pobl hŷn i rannu eu storïau a’u profiadau personol
  • Cefnogi camau gweithredu sy’n dod â chenedlaethau at ei gilydd er mwyn cryfhau parch a dealltwriaeth

Effaith a chanlyniadau

Byddaf yn defnyddio cyfuniad o ddulliau i dracio’r cynnydd sy’n cael ei wneud tuag at y canlyniadau cenedlaethol a nodwyd ar ddechrau’r ddogfen hon, drwy fy ngwaith fy hun fel Comisiynydd a chan gyrff a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Bydd hyn yn cynnwys archwilio data sydd ar gael, yn ogystal â phrofiadau personol pobl hŷn.

Un mesur allweddol fydd y graddau y mae polisi ac ymarfer ledled Cymru yn adlewyrchu hawliau ac anghenion pobl hŷn. Mae hyn yn cynnwys craffu ar ddeddfwriaeth, canllawiau, penderfyniadau a’r ffordd y darperir gwasanaeth mewn gwahanol feysydd, gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, trafnidiaeth a gwasanaethau cymunedol. Rhan o hyn fydd craffu ar welededd a chynhwysiant lleisiau pobl hŷn wrth lunio polisïau a gwneud penderfyniadau er mwyn sicrhau cydgynhyrchu ystyrlon.

Bydd clywed gan y bobl hŷn eu hunain yn ganolog i’m dull o fesur effaith a chanlyniadau, drwy ddigwyddiadau ymgysylltu rheolaidd, yn ogystal â digwyddiadau arbennig, grwpiau ffocws, arolygon ac ymgyngoriadau.

Bydd gwybodaeth a gofnodwyd drwy fy Ngwasanaeth Cyngor a Chymorth hefyd yn darparu dealltwriaeth werthfawr o’r heriau a wynebir gan bobl hŷn, i ba raddau y maen nhw’n gallu cael gafael ar wasanaethau hanfodol, a yw hawliau pobl yn cael eu parchu ac i ba raddau maen nhw’n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu cymunedau.

Yn ogystal, byddaf yn ymchwilio i faterion penodol, yn edrych ar brofiadau pobl hŷn, materion sy’n effeithio ar eu bywydau ac effaith camau sy’n cael eu cymryd er mwyn canfod bylchau posibl a meysydd lle mae’n bosibl bod angen gwneud rhagor o waith.

Byddaf hefyd yn casglu gwybodaeth a thystiolaeth gan bartneriaid a rhanddeiliaid, yn enwedig sefydliadau sydd â dealltwriaeth dda o’r sefyllfa ‘ar lawr gwlad’, megis mudiadau trydydd sector a darparwyr gwasanaeth.

Yn fwy cyffredinol, byddaf yn monitro agweddau tuag at bobl hŷn a heneiddio yn y cyfryngau ac yn y drafodaeth a’r ddadl sy’n sail i’r sgwrs gyhoeddus.

Bydd yr holl ddulliau hyn yn fy helpu i fesur effaith fy ngwaith, ac i ba raddau y mae Cymru yn grymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda.

 

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges