Angen Help?

Sylw i Oedraniaeth: IECHYD MEDDWL

Unhappy senior woman sitting alone and crying

Rhagfarn oed mewn gofal iechyd meddwl: Pam y mae pobl hŷn Cymru yn haeddu gwell

Gan yr Athro Sharmi Bhattacharyya, Seiciatrydd Henaint Ymgynghorol a Chadeirydd Cyfadran Seiciatreg Henaint Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru.

Mae Rhagfarn Oed yn parhau’n un o’r mathau mwyaf treiddiol o wahaniaethu mewn gofal iechyd, ond ychydig iawn sy’n cael ei wneud i’w herio.

Mewn gwasanaethau iechyd meddwl, mae ei effaith ar oedolion hŷn yn ddwys, yn barhaus, ac yn aml iawn yn anweledig.

Wrth weithio fel seiciatrydd yng Nghymru, rwy’n gweld bob dydd sut mae pobl hŷn sydd â phroblemau iechyd meddwl yn wynebu rhwystrau a fyddai’n annerbyniol i unrhyw grŵp oedran arall. Mae’r rhwystrau hyn yn effeithio ar bobl sydd â dementia, a hefyd ar bobl sy’n byw â salwch meddwl swyddogaethol, megis iselder, gorbryder, anhwylder deubegynol, a seicosis.[1]

Nid mater o brinder adnoddau yn unig yw hyn. Mae’n adlewyrchu agweddau a thybiaethau sydd wedi ymwreiddio, a systemau sydd wedi normaleiddio anghydraddoldeb i bobl hŷn.

Maint yr angen yng Nghymru

Mae Cymru’n heneiddio’n gyflym, ac nid yw hon yn her haniaethol neu bell i ffwrdd. Mae’r ffigurau presennol yn dangos bod 898,383 o bobl dros 60 oed yn byw yng Nghymru, a disgwylir y bydd y nifer yn agos at filiwn erbyn 2030.[2]

Bydd cyffredinrwydd dementia hefyd yn cynyddu, o tua 55,700 o bobl 65 oed a throsodd heddiw i bron i 80,000 erbyn 2040.[3] Mae oedran yn un o’r prif ffactorau risg ar gyfer dementia, ac o ganlyniad mae’r rhagamcanion hyn yn hollbwysig ar gyfer cynllunio gwasanaeth nawr yn hytrach nag yn nes ymlaen.

Ond mae mwy i hyn na dim ond dementia. Mae tri deg y cant o bobl hŷn Cymru yn dweud bod iechyd meddwl neu emosiynol wedi bod yn her iddynt yn y flwyddyn ddiwethaf.[4] Mae hyn yn cynnwys gorbryder, iselder, ymatebion i drawma, galar cymhleth, a seicosis, ynghyd ag anhwylderau gwybyddol. Mae maint yr angen heb ei ddiwallu yn sylweddol.

Unhappy senior woman sitting alone and crying

Sut mae rhagfarn oed yn edrych mewn gofal bob dydd

Mae tystiolaeth yn dangos sut mae agweddau sy’n gysylltiedig â rhagfarn oed a thybiaethau tyngedfenyddol yn parhau i ddylanwadu ar systemau iechyd meddwl, gan olygu nad yw pobl hŷn yn gallu cael cefnogaeth effeithiol.[5] Mae gorbryder ac iselder yn aml yn cael eu normaleiddio fel rhan annatod o fynd yn hŷn, â disgwyliadau isel ar gyfer adferiad.

Yn ymarferol, gall hyn ymddangos fel:

  • Lleihau symptomau, a’u portreadu fel ymatebion dealladwy i heneiddio neu golled.
  • Cysgodi diagnostig, lle mae iselder neu orbryder yn cael ei fethu, neu newid gwybyddol yn cael ei weld fel “dim ond dementia”.
  • Uchelgais therapiwtig is, gyda chynlluniau gofal yn canolbwyntio’n gyfyng ar feddyginiaeth ar draul ymyriadau seicolegol neu gymdeithasol.
  • Anweledigrwydd ar lefel system, gydag oedolion hŷn yn cael eu cau allan o lwybrau wedi’u hailddylunio neu fuddsoddiad newydd.

Mae rhagfarn oed hefyd yn rhywbeth y gellir ei fesur. Mae wyth y cant o bobl hŷn Cymru yn dweud eu bod wedi teimlo eu bod yn rhy hen i gael mynediad at wasanaethau iechyd.[6] Y tu ôl i’r un celwydd ystadegol hwn mae miloedd o brofiadau unigol a ddylai achosi i ni bwyllo a meddwl.

Gwahaniaethau wrth ddarparu gwasanaeth: nid yw dementia yn ddigon

Ledled Cymru, ac yn y DU yn ehangach, mae gwasanaethau iechyd meddwl i bobl hŷn, at ei gilydd, wedi cael eu llunio o amgylch dementia. Er bod y ffocws hwn yn hanfodol, nid yw’n ddigonol. Mae oedolion hŷn sydd â salwch meddwl swyddogaethol yn aml yn wynebu llai o fynediad at ofal, yn enwedig ar drothwyon oedran lle mae cylch gwaith gwasanaethau wedi’u diffinio’n gyfyng.

Mae tystiolaeth yn dangos bod modelau sy’n cwmpasu pob oedran, a rhannu gwasanaethau ar sail oedran, yn gallu rhoi pobl hŷn dan anfantais, gan eu gadael â llai o lwybrau, llai o fewnbwn arbenigol, ac opsiynau mwy cyfyngedig.[7]

Mae’r gwahaniaethau hyn yn adlewyrchu tanfuddsoddi ers blynyddoedd mewn gwasanaethau iechyd meddwl i bobl hŷn. Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru wedi galw droeon am ailgydbwyso adnoddau i adlewyrchu newid demograffig, cymhlethdod clinigol, a lefelau angen.[8]

Rydym hefyd yn ymwybodol o enghreifftiau yn y gorffennol lle cafodd tanwariant mewn gwasanaethau iechyd meddwl oedolion hŷn ei drosglwyddo i feysydd iechyd meddwl eraill er mwyn gwrthbwyso gorwariant yn rhywle arall. Mae perygl i arferion o’r fath ymwreiddio oedraniaeth sefydliadol drwy gyfeirio adnoddau oddi wrth bobl hŷn yn hytrach na’u hailfuddsoddi ar gyfer angen heb ei ddiwallu.

Mae’r effaith i’w weld fwyaf mewn gofal argyfwng, lle mae bwlch cynyddol yn parhau yng nghyswllt mynediad at ddewisiadau eraill buan yn y cartref, mewn cymhariaeth â gwasanaethau i bobl oedran gweithio. Mae hyn yn golygu bod llawer o oedolion hŷn sy’n profi iselder difrifol, gorbryder acíwt, pwl arall o anhwylder deubegynol, neu seicosis yn parhau i wynebu llwybrau tameidiog ac annigonol at gefnogaeth

Elderly man talking to a psychologist at a mental health, psychology and therapy clinic for session. Psychological therapist with clipboard for counseling checklist with senior male patient in office

Therapïau seicolegol: yn rhy brin o hyd

Os ydym o ddifri ynglŷn â chydraddoldeb, rhaid i oedolion hŷn gael mynediad at therapïau seicolegol sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Ond mae mynediad yn gyfyngedig o hyd.

Mae gofal cyfartal yn golygu bod angen mynediad at therapïau siarad statudol a gweithlu medrus ym maes iechyd meddwl i bobl hŷn.[9] Er hyn, mae oedolion hŷn yn llawer llai tebygol nag oedolion oed gweithio o gael eu cyfeirio at therapïau seicolegol, hyd yn oed pan fo lefelau’r angen yn debyg.

Yn wir, mae oedolion iau tua 80% yn fwy tebygol o dderbyn therapi,[10] ac mae anghydraddoldeb yn cynyddu’n gyflym ag oedran. Mae pobl 85 oed a throsodd hyd at bum gwaith yn llai tebygol o gael eu cyfeirio na phobl 55-59 oed.[11]

Mae rhwystrau strwythurol hefyd yn cyfyngu mynediad. Mae pobl hŷn o gefndiroedd hil leiafrifedig, pobl sydd ag anableddau neu gyflyrau hirdymor, a phobl nad ydynt yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf yn llai tebygol o ymwneud â gwasanaethau therapi. Mae’n bosibl bod dylunio gwasanaeth digidol yn gyntaf, gan gynnwys dibyniaeth ar gyfathrebu drwy destun, yn gwneud yr anghyfartaledd hwn yn waeth ymhlith rhai grwpiau o oedolion hŷn.[12]

O’m profiad i, gellir rhagweld y canlyniad: mae pobl hŷn yn cael cynnig meddyginiaeth (droeon weithiau) er bod yr hyn sy’n achosi’r gofid – boed yn brofedigaeth, trawma, unigrwydd, poen cronig, straen gofalwyr, pwysau ariannol, neu anawsterau rhyngbersonol sy’n bodoli ers tro – yn parhau heb eu trin at ei gilydd.

Y tu hwnt i feddyginiaeth: anghenion emosiynol cymhleth pobl hŷn

Mae cydnabyddiaeth gynyddol bod rhai pobl hŷn yn byw ag anghenion emosiynol cymhleth, gan gynnwys cyflwyniadau sy’n gyson ag anhwylder personoliaeth neu drawma cymhleth. Yn hanesyddol, roedd llawer yn cael eu diystyru, eu camlabelu, neu eu cau allan o ymyriadau arbenigol dim ond oherwydd eu hoed.

Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru wedi bod yn glir na ddylid cau oedolion hŷn allan o lwybrau arbenigol, gan gynnwys llwybrau sy’n rhoi sylw i anghenion cymhleth o safbwynt emosiynol. Mae’r Coleg wedi nodi bod angen cryfhau’r sail dystiolaeth ar gyfer therapïau seicolegol i bobl hŷn sydd ag anawsterau iechyd meddwl difrifol neu anawsterau iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â thrawma.[13]

Mae hyn yn bwysig, oherwydd yn aml iawn nid yw meddyginiaeth yn unig yn ddigonol. Yn ddiweddarach mewn oes, mae amlgyffuriaeth a chydafiachedd corfforol yn gwneud gorddibyniaeth ar ragnodi yn aneffeithiol o bosibl neu’n niweidiol. Mae ar lawer o oedolion hŷn angen diogelwch, parhad perthynol, therapïau seicolegol strwythuredig, a chefnogaeth gymunedol barhaus – nid atal symptomau yn unig.

Portrait of a Happy Helpful Older Female Volunteer. Adult Woman in Blue T-Shirt, Smiling, Looking at Camera.

Oedolion hŷn fel cyfranwyr, nid dibynyddion

Un naratif rhagfarn oed sy’n dal i ysgogi tanfuddsoddi yw’r dybiaeth bod pobl hŷn yn llai “economaidd gynhyrchiol”. Nid oes tystiolaeth i brofi hyn:[14]

  • Mae bron i ddau o bob tri unigolyn 65 oed neu hŷn yn talu treth incwm, gan gyfrannu dros £800 miliwn yng Nghymru.
  • Cynyddodd cyfraniadau talu wrth ennill gan weithwyr hŷn dros 10% rhwng 2023 a 2024.
  • Mae bron i ddau o bob tri taid neu nain yn darparu gofal plant, ac amcangyfrifir bod hyn yn werth tua £325 miliwn yng Nghymru.
  • Oedolion hŷn yw’r grŵp oedran mwyaf gweithredol yng nghyswllt gwirfoddoli.
  • Mae tua 275,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn darparu gofal di-dâl, sy’n fwy na hanner yr holl ofalwyr di-dâl.

Mae methu â chefnogi iechyd meddwl pobl hŷn yn anghyfiawn a hefyd yn anwybyddu manteision economaidd. Rhaid i wasanaethau iechyd meddwl adlewyrchu’r rôl ganolog y mae oedolion hŷn yn ei chwarae mewn teuluoedd a chymunedau, ac yn economi Cymru drwy gefnogi cyfranogiad, cyfraniad, ac annibyniaeth i bobl hŷn.

Cyfle o safbwynt polisi: strategaeth a gofal arbenigol i bob oedran

Mae Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol newydd Cymru yn mabwysiadu dull gweithredu ar gyfer pob oedran.[15] Er ein bod yn croesawu hyn, ni ddylid ei ddefnyddio i gyfiawnhau gofal lle mae un maint yn addas i bawb.

Mae anghenion iechyd meddwl pobl hŷn yn wahanol. Mae amlafiachedd, eiddilwch, amhariad ar y synhwyrau, profedigaeth, pryderon yn ymwneud â diogelu, rhyngwynebau cartref gofal, a chynnydd yn nifer y bobl sydd â dementia i gyd yn dylanwadu ar asesiad a thriniaeth.

Mae’n galonogol bod y strategaeth yn cydnabod yr angen am ffocws cryfach ar wasanaethau i bobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth. Cyflawni yw’r her nawr: troi bwriad yn ganlyniadau cyfartal i bobl o bob oed tra’n diogelu arbenigedd arbenigol.

Galwad i weithredu

Mae angen mwy nag ymwybyddiaeth i fynd i’r afael ag oedraniaeth mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Mae angen gweithredu.

  1. Parch cydradd: Datblygu llwybrau argyfwng a llwybrau cymunedol teg i bobl hŷn sydd â salwch meddwl swyddogaethol, nid gofal sy’n canolbwyntio ar dementia yn unig.
  2. Mynediad at therapïau seicolegol: Darparu llwybrau cyfeirio rheolaidd, cynhwysol o ran oedran, ag addasiadau priodol ar gyfer amhariadau a chydafiachedd.
  3. Gallu’r gweithlu: Buddsoddi mewn gweithlu iechyd meddwl ar gyfer pobl hŷn, gan gryfhau cymwyseddau sy’n gysylltiedig â phobl hŷn mewn timau ar gyfer pob oedran.
  4. Ailgydbwyso buddsoddiad: Cysoni adnoddau â newid demograffig ac angen clinigol, gan roi sylw i danfuddsoddi hanesyddol.
  5. Gwell data ac atebolrwydd: Sicrhau adroddiadau mwy cyson am anghenion a chanlyniadau pobl hŷn, gan gynnwys mynediad at therapïau.
  6. Gwasanaethau wedi’u cydgynhyrchu: Cynnwys pobl hŷn, gofalwyr, a chymunedau yn y gwaith o siapio gofal iechyd meddwl effeithiol ar gyfer pobl hŷn.

Mae oedraniaeth yn ffynnu pan fydd disgwyliadau’n isel a gwasanaethau’n brin. Mae’r ateb yn glir – tegwch, uchelgais, a buddsoddi.

Mae pobl hŷn yng Nghymru yn haeddu gofal iechyd meddwl buan, tosturiol, seiliedig ar dystiolaeth, lle nad oes rhagfarn oed. Nes bydd hynny’n dod yn realiti, bydd llawer gormod o bobl yn dal i ddioddef yn dawel – ac mae hyn yn rhywbeth na ddylem ei dderbyn mwyach.

Diolchiadau: Hoffwn ddiolch i Dafydd Huw, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus yng Ngholeg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru, am ei gefnogaeth a’i gymorth wrth baratoi’r blog hwn.

Athro Sharmi Bhattacharyya, Seiciatrydd Henaint Ymgynghorol a Chadeirydd Cyfadran Seiciatreg Henaint Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru.

Cyfeiriadau

[1] Mae’r term salwch meddwl “swyddogaethol” yn ymwneud ag anhwylderau meddyliol ar wahân i dementia, ac mae’n cynnwys salwch meddwl difrifol megis sgitsoffrenia ac anhwylder hwyliau deubegynol. Mae symptomau’r anhwylderau hyn yn aml yn parhau yn ystod henaint neu, yn llai aml, yn dechrau yn ystod henaint. Hatfield, C., a Dening, T. (2011). Functional mental illness. Yn T. Dening ac A. Milne (Gol.), Mental health and care homes (Cyf. 1, tt. 191-204). Gwasg Prifysgol Rhydychen.

[2] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (2025). Heneiddio yng Nghymru: Cipolwg ar brofiadau pobl hŷn (Medi). Ar gael yma: https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2025/09/Heneiddio-yng-Nghymru-Cipolwg-ar-Brofiadau-Pobl-Hyn.pdf

[3] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (2025). Heneiddio yng Nghymru: Cipolwg ar brofiadau pobl hŷn (Medi). Ar gael yma: https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2025/09/Heneiddio-yng-Nghymru-Cipolwg-ar-Brofiadau-Pobl-Hyn.pdf

[4] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (2025). Heneiddio yng Nghymru: Cipolwg ar brofiadau pobl hŷn (Medi). Ar gael yma: https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2025/09/Heneiddio-yng-Nghymru-Cipolwg-ar-Brofiadau-Pobl-Hyn.pdf

[5] Centre for Mental Health ac Age UK (2024). Mental health in later life: Understanding needs, policies and services in England (Mawrth). Ar gael yma: https://www.centreformentalhealth.org.uk/wp-content/uploads/2024/03/CentreforMH_MentalHealthInLaterLife-1.pdf

[6] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (2024). Deall poblogaeth sy’n heneiddio Cymru: ystadegau allweddol (Medi). Ar gael yma: https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2024/09/Understanding-Wales-ageing-population-Medi-24-CYM.pdf

[7] Cyfadran Seiciatreg Henaint a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion (2018). Suffering in Silence: age inequality in older people’s mental health care (College Report CR211). Ar gael yma: https://www.rcpsych.ac.uk/docs/default-source/improving-care/better-mh-policy/college-reports/college-report-cr221.pdf?sfvrsn=bef8f65d_2

[8] Cyfadran Seiciatreg Henaint a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion (2018). Suffering in Silence: age inequality in older people’s mental health care (College Report CR211). Ar gael yma: https://www.rcpsych.ac.uk/docs/default-source/improving-care/better-mh-policy/college-reports/college-report-cr221.pdf?sfvrsn=bef8f65d_2

[9] Centre for Mental Health ac Age UK (2024). Mental health in later life: Understanding needs, policies and services in England (Mawrth). Ar gael yma: https://www.centreformentalhealth.org.uk/wp-content/uploads/2024/03/CentreforMH_MentalHealthInLaterLife-1.pdf

[10] Cooper, C., Bebbington, P., McManus, S., Meltzer, H., Stewart, R., Farrell, M., King, M., Jenkins, R., a Livingston, G. (2010). The treatment of common mental disorders across age groups: Results from the 2007 Adult Psychiatric Morbidity Survey. Journal of Affective Disorders, 127(1-3), tt. 96–101. Ar gael yma: https://doi.org/10.1016/j.jad.2010.04.020

[11] Walters, K., Falcaro, M., Freemantle, N., King, M., a Ben-Shlomo, Y. (2018). Sociodemographic inequalities in the management of depression in adults aged 55 and over: An analysis of English primary care data. Psychological Medicine, 48(9), 1504–1513. Ar gael yma: https://doi.org/10.1017/s0033291717003014

[12] Prosser, R., Dosanjh, L., Jell, G., a Churchard, A. (2024). Which older adults do not opt-in to Talking Therapies and why? The Cognitive Behaviour Therapist, 17, e16. Ar gael yma: https://doi.org/10.1017/S1754470X24000151

[13] Cyfadran Seiciatreg Henaint a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion (2018). Suffering in Silence: age inequality in older people’s mental health care (College Report CR211). Ar gael yma: https://www.rcpsych.ac.uk/docs/default-source/improving-care/better-mh-policy/college-reports/college-report-cr221.pdf?sfvrsn=bef8f65d_2

[14] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (2025). Heneiddio yng Nghymru: Cipolwg ar brofiadau pobl hŷn (Medi). Ar gael yma: https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2025/09/Heneiddio-yng-Nghymru-Cipolwg-ar-Brofiadau-Pobl-Hyn.pdf

[15] Llywodraeth Cymru (2025). Y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol 2025-2035 (Ebrill). Ar gael yma: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2025-04/strategaeth-iechyd-meddwl-a-llesiant-meddyliol-2025-2035.pdf

Elderly people road sign against a black backdrop illuminated by a bright spotlight

Sylw i Oedraniaeth

Mae Spotlights on Ageism yn gydweithrediad rhwng arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ac arbenigwyr eraill o sectorau allweddol yng Nghymru, sy'n anelu at daflu goleuni ar effaith oedraniaeth ar fywydau beunyddiol pobl hŷn a'r rhwystrau sylweddol y mae hyn yn eu creu i unigolion a chymdeithas.

Darganfod mwy

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges