Sylw i Oedraniaeth: Cadw’n Heini
Pippa Britton, Cadeirydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae cadw’n heini wrth i ni fynd yn hŷn yn golygu mwy na dim ond ffitrwydd. Mae’n borth i gyfeillgarwch newydd, hwyliau gwell, a theimlo’n rhan o rywbeth mwy, ac yng Nghymru rydyn ni eisiau annog mwy o bobl dros 60 oed i gymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden drwy raglenni arloesol sy’n herio stereoteipiau am heneiddio.
Yn lleol, mae gennym ni gyfleoedd gwych i oedolion hŷn fwynhau ymarfer corff a chwaraeon drwy’r Cynllun Hamdden Egnïol 60+, sy’n cynnig mynediad am ddim neu am bris gostyngol i ganolfannau hamdden, lleoliadau cymunedol, a mannau awyr agored ledled y wlad, i unrhyw un dros 60 oed.
Nid mater o iechyd yn unig yw hyn; ond herio oedraniaeth, meithrin cynhwysiant, a chryfhau’r cysylltiadau sy’n dal cymunedau at ei gilydd.
Ac eto, nid yw’r daith tuag at ffordd egnïol o fyw bob amser yn syml. Mae llawer o oedolion hŷn yn wynebu rhwystrau gwirioneddol: gall cyfyngiadau trafnidiaeth, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, ei gwneud yn anodd cyrraedd gweithgareddau. Gall y gost, a’r ffaith fod llai o sesiynau rhad neu am ddim ar gael, fod yn her, ac yn aml mae diffyg ymwybyddiaeth o’r pethau sydd ar gael yn lleol. Gall pryderon iechyd, fel ofn cael codwm neu gyflyrau cronig, atal pobl rhag cymryd rhan, yn enwedig pan nad yw gweithgareddau’n cael eu haddasu ar gyfer anghenion unigol. Ac mae rhaglenni sy’n symud ar-lein yn golygu bod allgáu digidol yn gallu gadael rhai pobl ar ôl.
Wedi dweud hynny, mewn rhai enghreifftiau rhagorol gall pobl gael mynediad i leoliadau lleol, neuaddau cymunedol, a chanolfannau byw’n annibynnol. Gwyddom fod cysylltiad cymdeithasol yn gymhelliant pwerus, ac mae cymorth gan gyfoedion, gweithgareddau grŵp, a sesiynau dan arweiniad gwirfoddolwyr yn helpu pobl i deimlo bod croeso iddyn nhw a’u bod eisiau cymryd rhan. Mae lle i bobl fel meddygon teulu a phresgripsiynwyr cymdeithasol gyfeirio pobl, ac mae llawer o grwpiau cymunedol yn gweithio’n galed i sicrhau bod dewisiadau ac anghenion diogelwch oedolion hŷn yn cael eu parchu.
Mae’r niferoedd yn dangos effaith yr ymdrechion hyn yn amlwg. Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru (2022-23), mae 70% o bobl ifanc rhwng 16 oed a 24 oed yn bodloni Canllawiau Gweithgarwch Corfforol y Prif Swyddog Meddygol, ond mae hyn yn gostwng i ddim ond 38% ar gyfer pobl 75 oed a hŷn. Mae lefelau gweithgarwch yn aml yn gostwng wrth fynd yn hŷn, ac mae hyn yn tynnu sylw at yr angen am dargedu cymorth.
Ers lansio’r Cynllun Hamdden Egnïol 60 oed a hŷn yn 2021, mae wedi darparu dros 10,750 o sesiynau, gan ddenu 154,500 o ymweliadau. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, cymerodd 5,552 o bobl ran mewn 125 o wahanol fathau o ymarfer corff, sy’n profi bod y rhaglen yn mynd yn fwy a mwy poblogaidd. Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda Chwaraeon Cymru, ac mae ar gael ym mhob un o’r 22 o awdurdodau lleol. Gwyddom nad mater o iechyd corfforol yn unig yw hyn chwaith – mae cymryd rhan mewn gweithgareddau yn helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, ac mae pobl yn dweud bod eu llesiant meddyliol yn well a bod ganddynt gysylltiadau cymdeithasol cryfach drwy gymryd rhan yn rheolaidd.
Ond nid ystadegau yw popeth, ac mae clywed gan bobl yn dweud pethau fel “Fel arfer ar ddiwedd diwrnod prysur, byddaf mewn poen gyda fy nghefn. Dydw i ddim yn cael hynny mwyach.“ neu ”Roeddwn i’n meddwl y byddai ymarfer corff yn gwneud pethau’n waeth… ond na, nid felly mae hi. Mae wedi bod yn agoriad llygad.” neu hyd yn oed “Mae wedi newid fy mywyd ac rydw i’n gwneud pethau nawr na allwn i fyth eu gwneud yn fy 30au a’m 40au.” yn dweud stori anhygoel wrthym ni.

Mae unigrwydd yn ffactor risg mawr ar gyfer dementia, strôc a chlefyd y galon, ond mae’r cynllun 60+ yn sicrhau bod cyfranogiad cymdeithasol yn rhan o bob gweithgaredd. Mae’r cynllun hefyd yn herio stereoteipiau am heneiddio. Gyda gweithgareddau’n amrywio o bêl-bicl a dringo i ioga a phêl-droed cerdded, mae oedolion hŷn yn profi nad yw hi byth yn rhy hwyr i roi cynnig ar rywbeth newydd. Mae cyfranogwyr yn dweud bod ganddynt fwy o hyder, gwell iechyd meddwl, ac ymdeimlad newydd o bwrpas. Fel y dywedodd un person, “Yn sicr mae stereoteip ei bod yn rhy hwyr i ddechrau dringo… roedd y sesiwn hon wedi chwalu’r disgwyliad hwnnw.”
Yr hyn sy’n gwneud y Cynllun Hamdden Egnïol 60+ yn wirioneddol arbennig yw sut mae’n cyd-fynd ag wyth Maes Oed-Gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd. Mae gweithgareddau mewn parciau a chanolfannau hamdden yn gwneud mannau’n hygyrch ac yn groesawgar, mae cyfleoedd lleol yn lleihau rhwystrau trafnidiaeth, mae partneriaethau â chymdeithasau tai yn dod â gweithgareddau’n nes at adref, ac mae gweithgareddau grŵp yn meithrin cysylltiad a chynhwysiant.
Wrth edrych i’r dyfodol, mae angen i arweinwyr yng Nghymru fynd i’r afael â rhwystrau ar bob lefel – unigolion, cymunedau a pholisïau. Gall cydnabod yr effaith ar fwynhad, cysylltiad cymdeithasol a chynwysoldeb helpu i symud y naratif draw oddi wrth ddull sy’n canolbwyntio ar iechyd yn unig tuag at un sy’n dathlu llawenydd a chymuned gweithgarwch corfforol.
Mae Cymru’n sicr yn ceisio arwain y ffordd o ran cefnogi oedolion hŷn i gadw’n heini, yn gysylltiedig ac yn iach. Drwy chwalu’r rhwystrau a meithrin rhaglenni cynhwysol sy’n cael eu gyrru gan y gymuned, gall pob un ohonom weithio tuag at sicrhau bod pawb yn cael cyfle i ffynnu ni wnaeth beth fo’u hoedran.
Pippa Britton, Cadeirydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Sylw i Oedraniaeth
Mae Spotlights on Ageism yn gydweithrediad rhwng arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ac arbenigwyr eraill o sectorau allweddol yng Nghymru, sy'n anelu at daflu goleuni ar effaith oedraniaeth ar fywydau beunyddiol pobl hŷn a'r rhwystrau sylweddol y mae hyn yn eu creu i unigolion a chymdeithas.
Darganfod mwy