Angen Help?

Rhaglen Waith y Comisiynydd 2026-27 (Fersiwn HTML)

Wooden signpost on mountain at sunset

Cyflwyniad

Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, fy ngweledigaeth yw Cymru sy’n arwain y ffordd o ran grymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda.  

Er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon, mae angen i ni weld cynnydd yn erbyn nifer o flaenoriaethau cenedlaethol pwysig, sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod pobl hŷn: 

  • Yngallucael gafael ar y wybodaeth, y gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt 
  • Ynteimlo’nddiogel yn eu perthnasoedd, eu cartrefi a’u cymunedau 
  • Yncaeleu trin yn deg, a bod eu cyfraniad yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi 
  • Yncaelllais, ynghyd â dewis a rheolaeth dros eu bywydau 

Cymru’n arwain y ffordd?

Mae’n wir dweud bod Cymru wedi arwain y ffordd o safbwynt llunio polisïau sy’n ymwneud â phobl hŷn mewn sawl ffordd, ac mae sefydlu rôl y Comisiynydd – y rôl gyntaf o’r fath yn y byd – yn enghraifft dda o hyn.

Ond yn fwy na hynny, ceir enghreifftiau o bolisïau a deddfwriaeth, yn genedlaethol ac yn lleol, sy’n ceisio sicrhau bod gwasanaethau’n canolbwyntio ar yr unigolyn, bod lleisiau pobl yn cael eu clywed a bod eu hawliau’n cael eu cynnal. Mae enghreifftiau hefyd o Gymru’n ceisio gwneud mwy na’r ‘hyn sy’n ofynnol’ ar lefel y DU, gyda mwy o ddyletswyddau mewn meysydd allweddol i alluogi atebion sy’n canolbwyntio mwy ar yr ardal leol.

Fodd bynnag, gellid cwestiynu i ba raddau mae’r polisïau a’r ddeddfwriaeth wedi gwneud gwahaniaeth amlwg i fywydau pobl hŷn o ddydd i ddydd, a hynny ar sail amrywiaeth o dystiolaeth sydd ar gael ac, yn bwysicach byth efallai, adroddiadau uniongyrchol gan bobl hŷn ledled Cymru yr wyf wedi siarad â nhw neu sydd wedi cysylltu â’m Gwasanaeth Cyngor a Chymorth.

Profiadau Pobl Hŷn

Mae pobl hŷn yn aml yn defnyddio iaith negyddol wrth ddisgrifio eu profiadau (neu brofiadau eu hanwyliaid), gan dynnu sylw at amrywiaeth o bryderon, problemau a heriau.

Mae llawer o bobl hŷn hefyd yn dweud wrthyf eu bod yn teimlo bod dirywiad o ran hygyrchedd ac ansawdd gwasanaethau, a’u bod yn teimlo fwyfwy eu bod yn cael eu cau allan ac nad ydynt yn cael eu clywed oherwydd eu hoedran.

Mae profiadau fel hyn yn awgrymu bod bylchau sylweddol – bylchau a allai gynyddu – rhwng y dyheadau mewn polisi a deddfwriaeth a realiti arferion ar lawr gwlad.

Mae hyn yn golygu bod pobl hŷn yn colli allan ar wasanaethau, cymorth a mesurau diogelu a ddylai fod ar gael, gan gynyddu’r risg y byddant yn wynebu heriau neu argyfwng, yn enwedig os ydynt yn agored i niwed yn barod.

Ar ben hynny, mae’r mathau hyn o fylchau mewn perygl o greu anghydraddoldebau dyfnach ymysg gwahanol grwpiau mewn cymdeithas a rhyngddynt, heb sôn am chwalu hyder mewn cyrff cyhoeddus, gwasanaethau a sefydliadau pan na fydd pobl yn cael yr hyn a addawyd iddynt.

Mae’r materion hyn yn arwain at gostau sylweddol, nid yn unig o ran creu pwysau y gellid ei osgoi ar wasanaethau, ond hefyd o ran y costau personol y mae pobl yn eu hwynebu pan fydd methiannau’n effeithio ar eu hiechyd, eu hannibyniaeth ac ansawdd eu bywyd.

Cau’r bwlch

Felly, mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth i fynd i’r afael â bylchau rhwng polisi ac ymarfer – er mwyn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau a bod hawliau pobl hŷn yn cael eu cynnal – ac mae’n sicr yn ffocws allweddol yn fy Rhaglen Waith ar gyfer 2026-27. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Adolygu’r gwaith o ddarparu gwasanaethau a chymorth allweddol
  • Sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed a thynnu sylw at eu profiadau
  • Dylanwadu ar gamau gweithredu a phrosesau gwneud penderfyniadau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
  • Cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth ar draws cyrff a gwasanaethau cyhoeddus
  • Darparu cyngor a chymorth i bobl hŷn ledled Cymru

Adolygu’r gwaith o ddarparu gwasanaethau a chymorth allweddol

Gwella mynediad, codi safonau a sicrhau bod hawliau’n cael eu cynnal

Wrth i ni heneiddio, mae gallu cael gafael ar wasanaethau a chymorth yn aml yn chwarae rhan gynyddol bwysig i’n cefnogi i fyw a heneiddio’n dda.

Fodd bynnag, fel y nodwyd uchod, mae llawer o bobl hŷn wedi disgrifio’r heriau maen nhw’n eu hwynebu’n aml wrth geisio cael gafael ar y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw – ac y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw mewn llawer o achosion – gan rannu pryderon am safonau sy’n mynd yn fwyfwy gwael yr un pryd.

Adolygiadau Ffurfiol

Dyna pam y byddaf yn defnyddio fy mhwerau cyfreithiol fel Comisiynydd yn 2026-27 i gychwyn Adolygiadau ffurfiol ar draws meysydd allweddol.

  • Mynediad pobl hŷn at wasanaethau iechyd meddwl
  • Darparu gwasanaethau eiriolaeth annibynnol i bobl hŷn

Canfyddiadau ymchwil gofal cymdeithasol

Byddaf yn cyhoeddi canfyddiadau fy ymchwil i brofiadau pobl hŷn o ofal cymdeithasol, ar sail tystiolaeth a gasglwyd gan dros 260 o unigolion, a oedd yn pwyso a mesur a yw safon y cymorth gofal cymdeithasol y mae pobl yn ei gael yng Nghymru yn adlewyrchu’r safonau mewn polisi a deddfwriaeth.

Ochr yn ochr â’m canfyddiadau, byddaf yn cyflwyno cyfres o argymhellion i Lywodraeth newydd Cymru, yn ogystal â chyrff cyhoeddus perthnasol eraill, yn galw am weithredu i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd a chyflawni’r gwelliannau y mae angen i bobl hŷn eu gweld.

Profiadau pobl hŷn o ddigartrefedd

Byddaf yn dadansoddi data ar ddigartrefedd a gasglwyd gan awdurdodau lleol, gan archwilio patrymau, tueddiadau a ffactorau cyfrannol pwysig sy’n effeithio ar unigolion hŷn sy’n wynebu ansicrwydd o safbwynt tai.

Ochr yn ochr â hyn, byddaf yn mapio’r prosesau, y gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael, gan gynnwys darpariaeth statudol a darpariaeth trydydd sector, i ddeall sut mae unigolion yn cael gafael ar gymorth ac yn symud drwy’r system.

Drwy’r gwaith hwn, byddaf yn canfod bylchau a rhwystrau, yn ogystal â meysydd lle mae angen gwelliannau, er mwyn gallu datblygu dulliau mwy effeithiol, hygyrch ac ymatebol o atal digartrefedd ymysg pobl hŷn, a mynd i’r afael â’r broblem.

Gwneud addasiadau i gartrefi’n gynt

Byddaf yn gweithio gyda Llywodraeth newydd Cymru ac awdurdodau lleol i sicrhau bod camau gofynnol yn cael eu cymryd, yn sgil cyhoeddi fy adroddiad diweddar ar ddarparu addasiadau i gartrefi drwy Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl.

Roedd yr adroddiad yn dweud bod pobl hŷn mewn sawl rhan o Gymru yn wynebu amseroedd aros hir i addasiadau hanfodol gael eu gwneud i’w cartrefi.

Mae oedi fel hyn yn peryglu iechyd, diogelwch ac annibyniaeth pobl hŷn, a gall arwain at dderbyniadau y gellid eu hosgoi i ysbytai neu gartrefi gofal..

Dylanwadu ar bolisi ac ymarfer ledled Cymru ac yn ehangach

Rhannu gwybodaeth, cryfhau ymarfer a galluogi newidiadau ystyrlon

Mae amrywiaeth o gyrff cyhoeddus yn gyfrifol am gyflawni’r newidiadau a’r gwelliannau y mae pobl hŷn am eu gweld, ac am sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu polisi a deddfwriaeth – ond mae hyn yn gallu creu rhwystrau sy’n atal craffu ac atebolrwydd effeithiol.

Dyna pam y byddaf yn gweithio gyda llywodraethau a chyrff cyhoeddus allweddol ar bob lefel drwy gydol 2026-27 i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed, bod eu profiadau’n cael eu deall a bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd.

Dylanwadu ar Lywodraeth newydd Cymru

Bydd ffurfio Llywodraeth newydd i Gymru yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai 2026 yn creu cyfleoedd ar gyfer amrywiaeth eang o gamau gweithredu newydd. Byddaf yn ymgysylltu â Phrif Weinidog Cymru ac aelodau’r Cabinet i siapio eu blaenoriaethau a’u cynlluniau, yn syth drwy’r Rhaglen Lywodraethu, ac yn y tymor hwy hefyd.

Bydd hyn yn cynnwys:

  • Galw am gynllun gweithredu cyhoeddedig sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r argyfwng gofal mewn coridor yng Nghymru er mwyn sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i warchod diogelwch ac urddas pobl hŷn – sef y rhan fwyaf o gleifion ysbyty – ac atal niwed.
  • Cyflwyno canfyddiadau ac argymhellion fy ymchwil i brofiadau pobl hŷn o ofal cymdeithasol.
  • Defnyddio tystiolaeth a data o ymchwil ac adroddiadau diweddar a gyhoeddwyd gan fy swyddfa i alw am weithredu i fynd i’r afael â materion allweddol eraill sy’n effeithio ar bobl hŷn – gan gynnwys tlodi, addasu cartrefi, deintyddiaeth ac oedraniaeth ddigidol.

Galluogi mwy o graffu ac atebolrwydd yn y Senedd

Bydd derbyn mwy o Aelodau o’r Senedd hefyd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer mwy o graffu ac atebolrwydd, a byddaf yn gweithio gydag Aelodau o’r Senedd ar draws pob plaid i alluogi hyn.

Byddaf yn darparu data, tystiolaeth a gwybodaeth allweddol arall i lywio trafodaethau a dadleuon, gan sicrhau bod ymateb i faterion sy’n effeithio ar fywydau pobl hŷn yn parhau i fod ar frig yr agenda wleidyddol yng Nghymru.

Mapio cynnydd yn erbyn ymrwymiadau ar allgau digidol

Gan weithio’n ehangach gyda chyrff cyhoeddus yng Nghymru, byddaf yn cyhoeddi diweddariad pellach ar y camau a gymerwyd mewn ymateb i ‘Dim Mynediad’, yr adroddiad ar allgau digidol a gyhoeddwyd gan fy swyddfa ym mis Ionawr 2024.

Bydd hyn yn cynnwys mapio cynnydd yn erbyn ymrwymiadau i gyflawni gwelliannau a nodi meysydd lle gallai fod angen cymryd camau pellach.

Gwneud Cymru yn genedl oed-gyfeillgar

Mae gwneud cymunedau ledled Cymru yn gymunedau oed-gyfeillgar yn hanfodol er mwyn cefnogi pobl hŷn i fyw a heneiddio’n dda, ac yn wir, rydym wedi gweld cynnydd da dros y blynyddoedd diwethaf. Erbyn hyn, mae 67% o bobl hŷn yn byw mewn awdurdodau lleol sy’n aelodau o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-Gyfeillgar, gan gydnabod y camau maen nhw’n eu cymryd neu wedi’u cynllunio i alluogi a chefnogi pobl hŷn mewn rhannau allweddol o’u bywydau.

Gan adeiladu ar hyn drwy gydol 2026-27, byddaf yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol wrth iddynt ddatblygu a chyflawni eu cynlluniau i wneud cymunedau ledled Cymru yn fwy oed-gyfeillgar. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi awdurdodau lleol a’u partneriaid nad ydynt eto wedi ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar i ddatblygu eu cynlluniau a’u ceisiadau oed-gyfeillgar.

Byddaf hefyd yn pwyso ar Lywodraeth nesaf Cymru i barhau i fuddsoddi mewn seilwaith a gweithgareddau oed-gyfeillgar ledled Cymru.

Mae’r buddsoddiad hyd yma eisoes wedi cael effaith gadarnhaol, ond mae potensial i gyflawni mwy eto, yn enwedig gyda mwy o sicrwydd ynghylch cyllid yn y tymor hwy, sef rhywbeth y byddaf yn parhau i alw amdano.

Ar ben hynny, mae cyfleoedd sylweddol i ddangos effaith gadarnhaol arferion oed-gyfeillgar yma yng Nghymru. Byddaf yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid – gan gynnwys yn rhyngwladol drwy’r Rhwydwaith Byd-eang – i dynnu sylw at enghreifftiau o Gymru’n arwain y ffordd i wneud cymunedau’n oed-gyfeillgar, ac annog mwy o ymgysylltu a chyfranogiad gan unigolion a sefydliadau.

Cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth ar draws y sector cyhoeddus

Gwella gwasanaethau, mynd i’r afael ag oedraniaeth a sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu cynnal

Mae profiadau pobl hŷn o gael gafael ar wasanaethau sy’n cefnogi eu hiechyd a’u lles, eu hannibyniaeth a safon eu bywyd, a defnyddio’r gwasanaethau hynny, yn cael eu siapio gan nifer o ffactorau sy’n effeithio ar y ffordd mae gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u darparu.

Elfen allweddol o hyn yw gwybodaeth a dealltwriaeth staff sy’n gweithio ar bob lefel ar draws cyrff cyhoeddus a gwasanaethau. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau y cydnabyddir anghenion pobl hŷn, yn ogystal â’r problemau a’r rhwystrau y gallent eu hwynebu, ac yr ymatebir iddynt yn effeithiol, o safbwynt cynllunio a darparu gwasanaethau a chynnal hawliau pobl.

Yn yr un modd, gall profiadau pobl hŷn hefyd gael eu siapio gan dybiaethau neu agweddau oedraniaethol sy’n dal yn gyffredin iawn. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae gan 1 o bob 2 o bobl yn fyd-eang safbwyntiau oedraniaethol.

Felly, byddaf yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi, ynghyd ag adnoddau defnyddiol a luniwyd i wella gwybodaeth a dealltwriaeth mewn meysydd allweddol a chefnogi camau ymarferol, gyda’r nod o wella ymarfer..

Modiwl Hyfforddiant Gweithredu yn Erbyn Oedraniaeth

Byddaf yn lansio adnodd hyfforddiant ar-lein newydd, sy’n agored i bawb ond wedi’i dargedu’n bennaf at staff y sector cyhoeddus. Bydd hwn yn eu helpu i adnabod a herio oedraniaeth yn ei wahanol ffurfiau. Bwriedir i’r hyfforddiant hefyd geisio grymuso staff i gymryd camau yn eu sefydliadau eu hunain i sicrhau nad yw polisïau ac arferion yn gwahaniaethu’n annheg yn erbyn pobl hŷn, boed hynny’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

Byddaf yn gweithio gyda chyrff a sefydliadau cyhoeddus allweddol i gyflwyno’r hyfforddiant mor eang â phosibl i staff ar bob lefel. Bydd yn cael ei gynnal ar lwyfan OpenLearn y Brifysgol Agored er mwyn gwneud yr hyfforddiant mor hwylus â phosibl.

Deall anghenion pobl hŷn niwrowahanol

Er nad oes llawer o ddealltwriaeth o anghenion pobl niwrowahanol mewn cymdeithas yn gyffredinol, mae mwy a mwy o dystiolaeth bod pobl hŷn sy’n niwrowahanol yn aml yn wynebu mwy o rwystrau wrth gael diagnosis a chymorth.

Felly, byddaf yn dwyn ynghyd arbenigwyr ar niwroamrywiaeth, pobl hŷn sydd â phrofiad uniongyrchol o hynny, a staff allweddol sy’n gweithio ar draws y sector cyhoeddus ar gyfer gweminar. Y nod yw archwilio’r materion sy’n wynebu pobl hŷn niwrowahanol ar hyn o bryd, yn ogystal â heriau yn y dyfodol, a thrin a thrafod sut gallwn ymateb i’r rhain yn effeithiol i sicrhau gwell cefnogaeth i unigolion.

Ochr yn ochr â hyn, byddaf hefyd yn estyn allan yn ehangach at ymarferwyr ac arweinwyr y sector cyhoeddus ledled Cymru, gan rannu adroddiad cryno sy’n cynnwys y dystiolaeth a’r ymchwil ddiweddaraf ar brofiadau pobl hŷn niwrowahanol, yn ogystal ag argymhellion ar gyfer gweithredu.

Atal oedraniaeth ddigidol

Mae anfantais, rhagfarn a stereoteipio ar sail oedran mewn cyd-destunau digidol – sy’n dod i’r amlwg drwy lwyfannau a ddyluniwyd yn wael neu systemau deallusrwydd artiffisial rhagfarnllyd, er enghraifft – yn creu rhwystrau mewn sawl agwedd ar fywyd i bobl hŷn, gan gynnwys cael gafael ar wasanaethau, recriwtio a chyflogaeth, cyfleoedd dysgu a gweithgareddau cymdeithasol hyd yn oed.

Yn y pen draw, mae oedraniaeth ddigidol yn golygu bod pobl hŷn mewn perygl sylweddol o gael eu heithrio’n ehangach, fel y nodir yn fy adroddiad diweddar ar y mater hwn.

Felly, byddaf yn cynnal gweminar i feithrin rhagor o wybodaeth a dealltwriaeth ynghylch y mater pwysig hwn sy’n dod i’r amlwg, gyda’r nod o ysbrydoli camau gweithredu i helpu i sicrhau cydraddoldeb digidol i bobl o bob oed.

Yn ogystal â chyfraniadau craff gan banel o siaradwyr arbenigol, bydd cynrychiolwyr sy’n gweithio ar draws y sector cyhoeddus yn cael cyfle i drin a thrafod materion ac atebion ymarferol yn fanylach, yn ogystal â ffyrdd o gydweithio i sicrhau bod hawliau pobl hŷn i gael gafael ar wasanaethau a gwybodaeth yn cael eu cynnal.

Sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed

Troi tystiolaeth yn weithredu, ysgogi newid a gwella canlyniadau

Mae pobl hŷn yn dweud wrthyf yn aml eu bod yn teimlo nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed oherwydd eu hoedran. Mae hynny’n gallu gwneud iddynt deimlo’n ddi-rym ac nad ydynt yn gallu dylanwadu ar y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau neu ar eu cymunedau.

Efallai y bydd rhai unigolion, yn enwedig y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig, hefyd yn wynebu rhwystrau ychwanegol sy’n atal eu lleisiau rhag cael eu clywed. Mae hynny’n golygu nad yw’r rhai sy’n llunio polisïau ac yn gwneud penderfyniadau yn gallu gweld eu hanghenion, eu profiadau na’u dymuniadau.

Fel Comisiynydd, mae gennyf rôl allweddol i’w chwarae i helpu i sicrhau bod pob person hŷn yn cael cyfle i gael ei glywed, er mwyn gallu defnyddio profiadau i siapio polisïau ac arferion a sicrhau bod gwasanaethau ac adnoddau’n cael eu targedu mewn ffordd deg ac effeithiol.

Ymgysylltu â phobl hŷn mewn cymunedau ledled Cymru

Bydd cwrdd â phobl hŷn a siarad â nhw mewn lleoliadau a mannau cymunedol ledled Cymru – gan gynnwys grwpiau cymorth, clybiau cymdeithasol a gweithgareddau eraill, tai gofal ychwanegol a chartrefi gofal – yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i mi a’m tîm yn ystod 2026-27.

Mae’r ymgysylltu hwn yn fy ngalluogi i glywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn, gan ddarparu gwybodaeth werthfawr a thystiolaeth allweddol am yr heriau a’r rhwystrau sy’n effeithio ar fywydau pobl, y gwelliannau mae pobl eisiau eu gweld – yn lleol ac yn genedlaethol – ac arferion da sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Yn ogystal ag arwain a llywio fy ngwaith fy hun, mae hefyd yn caniatáu i mi rannu gwybodaeth allweddol â chyrff cyhoeddus eraill ochr yn ochr â galwadau am weithredu, newid a gwella pethau.

Y llynedd, ymwelodd fy nhîm a minnau â dros 100 o grwpiau a digwyddiadau ledled Cymru, gan gwrdd â dros 4,000 o bobl hŷn a chael cyfle i siarad â nhw.

A byddwn hefyd yn parhau i ymgysylltu â phobl hŷn ledled Cymru drwy gydol 2026-27 i sicrhau bod ganddynt gyfleoedd i leisio’u barn.

Byw yng nghefn gwlad Cymru

Gan weithio ar y cyd â phartneriaid, byddaf yn estyn allan at bobl hŷn sy’n byw mewn cymunedau gwledig ledled Cymru, gan gasglu eu profiadau o fywyd i ddysgu mwy am y ffyrdd penodol y mae materion allweddol yn effeithio arnynt ac am y rhwystrau ychwanegol y maent yn eu hwynebu’n aml iawn, o ran cael gafael ar wasanaethau, trafnidiaeth, ynysu cymdeithasol a chysylltedd digidol.

Bydd y gwaith hwn yn rhoi cipolwg defnyddiol ar brofiadau pobl o heneiddio yng nghefn gwlad Cymru, gan fy ngalluogi i alw am weithredu i fynd i’r afael ag unrhyw faterion rwy’n eu nodi, er mwyn sicrhau bod anghenion pobl hŷn yn cael eu diwallu a bod eu hawliau’n cael eu cynnal.

Rhoi’r Chwyddwydr ar Leisiau LHDTC+

Bydd pobl LHDTC+ yn myfyrio ar eu profiadau eu hunain, yn ogystal â phrofiadau eu hanwyliaid a’u teuluoedd dethol, i ystyried y ffyrdd y gallai cymorth a gwasanaethau fod yn fwy cynhwysol a sut gallwn sicrhau nad oes neb yn wynebu gwahaniaethu oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol wrth iddynt heneiddio.

Bydd uwch arweinwyr o grwpiau a chyrff LHDTC+ hefyd yn edrych ar sut mae bylchau rhwng polisïau ac arferion yn effeithio ar y bobl maen nhw’n eu cefnogi, ac yn ystyried atebion i’r problemau maen nhw’n eu hwynebu.

Darparu cyngor a chymorth i bobl hŷn

Grymuso pobl hŷn, sefyll dros hawliau a gwella profiadau

Bob blwyddyn, mae fy Ngwasanaeth Cyngor a Chymorth yn rhoi help, cefnogaeth a gwybodaeth i gannoedd o bobl hŷn a’u hanwyliaid ledled Cymru.

Mae’r tîm yn aml yn delio â materion cymhleth a/neu sensitif, gan gynnig cyngor a chymorth cyfrinachol ar amrywiaeth eang o faterion er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i bobl hŷn a bod eu hawliau’n cael eu cynnal.

Mae’r adborth gan bobl hŷn bob amser yn gadarnhaol ac yn dangos eu bod wir yn gwerthfawrogi cefnogaeth y tîm. Mae llawer o bobl hŷn hefyd wedi dweud wrthyf eu bod wir yn gwerthfawrogi gallu siarad â rhywun sy’n eu cymryd o ddifri ac sy’n gwrando ar eu pryderon er mwyn deall problem a chanfod atebion posibl.

Yn ogystal â chefnogi unigolion, mae’r wybodaeth a’r dystiolaeth a gasglir gan bobl hŷn yn amhrisiadwy wrth dynnu sylw at yr heriau a’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu, yn ogystal â materion sy’n dod i’r amlwg sydd angen sylw, gan helpu i lywio fy ngwaith a galwadau i weithredu.

Rwyf am sicrhau bod hyd yn oed mwy o bobl hŷn ledled Cymru yn gwybod am y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael gan fy swyddfa. Drwy gydol 2026-27, byddaf yn gweithio gyda phartneriaid cymunedol i hyrwyddo’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth, gan dargedu’n benodol yr ardaloedd lle mae’r tîm yn cael y lleiaf o alwadau ar hyn o bryd. Byddaf hefyd yn gweithio gydag Aelodau newydd y Senedd i hyrwyddo’r gwasanaeth ymhlith eu hetholwyr.

Bydd fy Nhîm Cyngor a Chymorth hefyd yn ymgysylltu â phobl hŷn yn eu cymunedau, gan fynychu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a diwrnodau gwybodaeth i ddarparu cymorth wyneb yn wyneb a dosbarthu taflenni gwybodaeth defnyddiol ac adnoddau eraill, ochr yn ochr â darparu gwybodaeth mewn mannau cymunedol a gweithio gyda’r cyfryngau lleol i estyn allan at unigolion nad ydynt ar-lein.

Mesur effaith a chanlyniadau

Fel y nodwyd yn Strategaeth 2025-2028, byddaf yn defnyddio cyfuniad o ddulliau i olrhain y cynnydd sy’n cael ei wneud yn erbyn y canlyniadau cenedlaethol a welir ar ddechrau’r ddogfen hon, yn ogystal ag effaith fy ngwaith fy hun fel Comisiynydd.

Bydd hyn yn cynnwys archwilio’r data sydd ar gael, yn ogystal â phrofiadau bywyd pobl hŷn. Un mesur allweddol fydd i ba raddau y mae polisi ac ymarfer ledled Cymru yn adlewyrchu hawliau ac anghenion pobl hŷn.

Mae hyn yn cynnwys craffu ar ddeddfwriaeth, canllawiau, penderfyniadau a darpariaeth gwasanaethau ar draws meysydd, gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, trafnidiaeth a gwasanaethau yn y gymuned.

Bydd rhan o hyn yn cynnwys craffu ar amlygrwydd a chynhwysiant lleisiau pobl hŷn mewn polisïau a phrosesau gwneud penderfyniadau i sicrhau bod gwaith cyd-gynhyrchu’n ystyrlon.

Bydd clywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn yn ganolog i’r ffordd y byddaf yn mynd ati i fesur effaith a chanlyniadau, a byddaf yn gwneud hynny drwy ymgysylltu’n barhaus ledled Cymru, yn ogystal â drwy ddigwyddiadau arbennig, grwpiau ffocws, arolygon ac ymgynghoriadau.

 

Lawrlwythwch Raglen Waith y Comisiynydd 2026-27 (Fersiwn PDF)

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges