Rhaglen Waith y Comisiynydd
Cyflwyniad
Fel y Comisiynydd Pobl Hŷn dros Gymru, fy ngweledigaeth yw cael Cymru sy’n arwain y ffordd o ran grymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb, a galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda.
Drwy ymgysylltu â phobl hŷn, a’r problemau a’r pryderon maen nhw wedi’u mynegi gyda mi, rydw i wedi nodi pedwar canlyniad cenedlaethol allweddol y mae angen eu cyflawni i wireddu’r weledigaeth hon; gan sicrhau bod pobl hŷn yn gallu gwneud y canlynol
- Cael gafael ar yr wybodaeth, y gwasanaethau a’r cymorth sydd arnynt eu hangen;
- Teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi, yn eu cymunedau ac yn eu perthnasoedd;
- Cael eu trin yn deg a bod eu cyfraniad yn cael ei gydnabod; a
- Gallu sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a bod ganddynt ddewis a rheolaeth dros eu bywydau
Mae’r canlyniadau hyn yn darparu fframwaith ar gyfer y camau y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus a gwasanaethau yng Nghymru eu cymryd i ymateb i’r ystod o heriau a rhwystrau sy’n wynebu pobl hŷn a chyflawni’r gwelliannau mae pobl hŷn eu heisiau a’u hangen.
Maent hefyd yn sail i’m Strategaeth 2025-28, sy’n nodi fy amcanion strategol dros y tair blynedd nesaf, yn ogystal â’r rhaglen waith hon, sy’n nodi’r camau gweithredu penodol y byddaf yn eu cymryd yn ystod y 12 mis nesaf i sicrhau newid cadarnhaol.
Mae lleisiau pobl hŷn o bob cwr o Gymru yn ganolog i’r rhaglen waith hon, ac mae wedi’i llywio drwy glywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn mewn digwyddiadau ymgysylltu a thrwy fy Ymgynghoriad ‘Dweud eich Dweud’, lle cafwyd ymateb gan gannoedd o unigolion.
Rydw i wedi cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’m hymgynghoriad sy’n tynnu sylw at amrywiaeth o faterion sy’n effeithio ar fywydau pobl hŷn, ac i ba raddau y mae llawer o unigolion yn teimlo eu bod wedi’u heithrio neu eu gadael ar ôl oherwydd eu hoedran. Mae’r adroddiad yn anodd i’w ddarllen mewn rhannau ond mae’n dangos pa mor bwysig yw’r camau gweithredu y byddaf yn eu cymryd drwy fy rhaglen waith, yn ogystal â’r camau gweithredu ehangach rydw i’n galw amdanynt gan gyrff cyhoeddus a gwasanaethau.
Bydd parhau i ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl hŷn o amrywiaeth eang o gefndiroedd a chymunedau yn dal yn ffocws allweddol i mi fel Comisiynydd, gan ddarparu gwybodaeth werthfawr a fydd yn cefnogi’r gwaith o gyflawni fy rhaglen waith ac yn fy ngalluogi i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i broblemau a phryderon sy’n dod i’r amlwg. Byddaf hefyd yn defnyddio gwybodaeth a phrofiadau sy’n cael eu rhannu drwy fy Ngwasanaeth Cyngor a Chymorth, a fydd yn darparu cymorth a chefnogaeth i gannoedd o bobl hŷn bob blwyddyn.
Drwy fy rhaglen waith, byddaf yn bwrw ymlaen ag amrywiaeth o gamau gweithredu a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ac ystyrlon i fywydau pobl hŷn ledled Cymru, ond ni fyddaf yn gallu cyflawni’r holl newidiadau sydd ei angen ar fy mhen fy hun.
Dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i greu Cymru lle mae pob person hŷn yn cael ei werthfawrogi, ei gynnwys a’i gefnogi i fyw gydag urddas ac annibyniaeth, a chael cymdeithas lle mae mynd yn hŷn yn rhywbeth i’w ddathlu – Cymru sy’n arwain y ffordd i bobl hŷn.
Rhian Bowen Davies // Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth a’r cyngor sydd arnynt eu hangen
Mae pobl hŷn wedi dweud wrthyf am bwysigrwydd gallu cael gafael ar amrywiaeth eang o wasanaethau cyhoeddus sy’n eu cefnogi i fyw ac heneiddio’n dda: o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, i drafnidiaeth a gwasanaethau eraill yn y gymuned. Nid yw cael gafael ar y rhain bob amser mor hawdd ag y dylai fod, ac mae’n gallu bod yn anodd dod o hyd i’r wybodaeth gywir a diweddar am y gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael.
Mae pobl hŷn sydd wedi’u heithrio’n ddigidol neu nad ydynt yn hyderus ar-lein hefyd yn wynebu heriau a rhwystrau ychwanegol, yn enwedig gan fod amrywiaeth gynyddol o wybodaeth a gwasanaethau cysylltiedig yn defnyddio dull ‘digidol yn gyntaf’.
Gan fod yr argyfwng costau byw yn parhau i fod yn realiti i lawer o bobl hŷn, mae’n bwysig nad yw caledi bob dydd yn cael ei normaleiddio. Rhaid canolbwyntio ar sicrhau bod cymorth ariannol ar gael ac yn cyrraedd pobl hŷn sydd ei angen, ochr yn ochr â mathau eraill o gymorth sy’n galluogi pawb i fyw ac heneiddio’n dda.
Bydd fy ngwaith yn ystod 2025-26 yn cynnwys:
- Casglu tystiolaeth am brofiadau pobl hŷn o ofal cymdeithasol i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu deall, ac i lywio datblygiadau a chynllunio gwasanaethau yn y dyfodol yn y tymor byr a’r tymor hwy.
- Gwella gwasanaethau trafnidiaeth i bobl hŷn drwy ddylanwadu ar gynlluniau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) a sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed.
- Diogelu hawliau pobl hŷn nad ydynt ar-lein i gael gafael ar wybodaeth, gwasanaethau a gweithgareddau bob dydd drwy sicrhau gwell dealltwriaeth o effaith allgáu digidol a’r heriau a’r rhwystrau y mae hyn yn eu creu.
- Cymryd camau i wella mynediad pobl hŷn at gymorth ariannol, yn enwedig mewn perthynas â thlodi tanwydd.
- Galluogi pobl hŷn i fyw ac aros yn iach yn eu cymunedau drwy sicrhau bod profiadau pobl hŷn yn llywio polisi Llywodraeth Cymru ar ofal iechyd ataliol a’u bod yn cael eu hadlewyrchu yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau rheng flaen.
- Archwilio mynediad at wasanaethau deintyddiaeth ac iechyd y geg i bobl hŷn.
- Sicrhau ein bod yn hybu iechyd meddwl a llesiant pobl hŷn, a bod eu hanghenion yn cael eu trin yn deg mewn polisïau a gwasanaethau iechyd meddwl, gan gynnwys craffu ar y camau gweithredu sy’n cael eu cymryd ar ôl cyhoeddi strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd Llywodraeth Cymru.
Sicrhau bod pobl hŷn yn teimlo’n ddiogel yn eu cartref, yn eu cymunedau ac yn eu perthnasoedd
Mae teimlo’n ddiogel yn rhan allweddol o lesiant, ond mae pobl hŷn wedi disgrifio llawer o sefyllfaoedd ac amgylchiadau lle nad ydynt yn teimlo’n ddiogel. Gall hyn fod oherwydd ofn troseddau neu bryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn ogystal â gwahanol fathau o beryglon yng nghymunedau pobl – fel palmentydd anwastad neu oleuadau gwael – neu yn eu cartrefi eu hunain.
Gall cam-drin beryglu diogelwch pobl hŷn hefyd, a gall hyn arwain at ganlyniadau dinistriol. Er bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faint ac effaith cam-drin yn gwella, mae llawer mwy i’w wneud o hyd.
Er enghraifft, nid yw pobl hŷn bob amser yn cael eu hystyried pan fydd gwasanaethau’n cael eu cynllunio, sy’n golygu ei bod hi’n anoddach fyth dod o hyd i gymorth a chefnogaeth pan fydd eu hangen. Ar ben hynny, mae cam-drin pobl hŷn yn aml yn fater o ddiffyg ymchwil a data, yn enwedig o ran cam-drin rhywiol, ac mae angen gwaith i ddeall yn well profiadau pobl a’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddarparu cymorth.
Mae pobl hŷn hefyd mewn perygl o sgamiau ariannol, ac mae’r cynnydd mewn gwasanaethau ar-lein yn creu mwy o gyfleoedd ar gyfer twyll a dulliau sy’n dod yn fwyfwy soffistigedig.
Bydd fy ngwaith yn ystod 2025-26 yn cynnwys:
- Gweithio gyda phartneriaid allweddol ledled Cymru, gan gynnwys Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, i ganfod cyfleoedd i weithredu er mwyn gwella diogelwch cymunedol a mynd i’r afael â materion sy’n gwneud i bobl hŷn deimlo’n llai diogel.
- Nodi cyfleoedd i wella’r cymorth sydd ar gael i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu byw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
- Gwella’r cymorth a’r gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin mewn sawl ffordd drwy arwain gwaith partneriaeth gyda’m Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin i graffu a dylanwadu ar bolisi ac ymarfer, gan gynnwys y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran rhoi’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar waith i Atal Cam-drin Pobl Hŷn
- Dod â sefydliadau allweddol at ei gilydd i sicrhau bod profiadau pobl hŷn o drais rhywiol a’r ffyrdd o ganfod ac atal hyn yn cael eu deall yn well ar draws gwasanaethau cyhoeddus er mwyn gallu datblygu a darparu ymyriadau a chymorth gwell.
Sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu trin yn deg a bod eu cyfraniadau’n cael eu cydnabod
Nid yw oedraniaeth a’i heffaith ar fywydau bob dydd pobl hŷn yn cael eu hystyried mor ddifrifol ag y dylent fod, ac mae profiadau’n aml yn cael eu bychanu. Dylai pawb ddisgwyl cael eu trin yn deg a chael eu gwerthfawrogi wrth iddynt fynd yn hŷn. Er hyn, mae llawer o bobl hŷn wedi dweud wrthyf eu bod yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi, a’u bod yn cael eu hanwybyddu neu eu diystyru, er eu bod yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr mewn sawl ffordd.
Mae angen tynnu llawer mwy o sylw at gyfraniadau pobl hŷn i’r economi a chymdeithas i wrthsefyll naratifau oedraniaethol sy’n awgrymu bod bywyd wrth fynd yn hŷn yn gysylltiedig â dirywio a chreu pwysau ar wasanaethau cyhoeddus, gan fethu â chydnabod y cyfraniad sylweddol a phwysig y mae pobl hŷn yn parhau i’w wneud.
Mae’n bosibl y bydd pobl hŷn yn wynebu rhagor o risg o ddioddef gwahaniaethu yn eu herbyn gan fod technoleg yn chwarae rhan gynyddol yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau. Er bod technoleg newydd a defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) mewn bywyd bob dydd o bosibl yn cynnig amrywiaeth o fanteision, fel symleiddio prosesau gweinyddol er mwyn rhyddhau staff i ddarparu cymorth wyneb yn wyneb, mae’n hanfodol nad yw pobl hŷn yn cael eu heithrio nac yn cael eu gadael ar ôl a’u bod yn cael cyfleoedd i siapio’r datblygiadau hyn.
Bydd fy ngwaith yn ystod 2025-26 yn cynnwys:
- Lansio adnodd hyfforddi newydd ar-lein, a fydd yn cael ei ddatblygu gyda chymorth gan y Brifysgol Agored yng Nghymru, er mwyn gwella dealltwriaeth o effaith niweidiol oedraniaeth a galluogi a grymuso llunwyr polisïau, staff y sector cyhoeddus a’r cyhoedd yn ehangach i’w gydnabod a’i herio.
- Gweithio gyda sefydliadau allweddol yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol i herio oedraniaeth a gwella polisi ac ymarfer i atal gwahaniaethu ar sail oedran.
- Archwilio profiadau pobl hŷn o brosesau cwyno sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus i ganfod cyfleoedd i weithredu er mwyn sicrhau bod hawliau pobl yn cael eu cynnal, bod gwersi sy’n cael eu dysgu drwy’r prosesau hyn yn cael eu rhoi ar waith a bod gwell canlyniadau’n cael eu cyflawni i bawb.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth gynyddol am y manteision, y gwerth ychwanegol a’r sgiliau y mae pobl hŷn yn eu cynnig i’r gweithle.
- Hyrwyddo a dathlu’r cyfraniad sylweddol y mae pobl hŷn yn ei wneud i gymunedau, i’r gymdeithas ac i’r economi.
- Dadansoddi a dylanwadu ar bolisïau a chynlluniau i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed a llywio datblygiadau yn y dyfodol mewn ffordd ystyrlon, gan gynnwys canolbwyntio ar oedraniaeth ddigidol a deallusrwydd artiffisial.
Sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed a bod ganddynt ddewis a rheolaeth dros eu bywydau
Wrth i ni fynd yn hŷn, rydym yn dal i fod eisiau rheoli penderfyniadau sy’n effeithio arnom ni, teimlo bod ein safbwyntiau’n cael eu clywed ac yr ymatebir iddyn nhw, a’n bod ni’n gallu gwneud dewisiadau ystyrlon am ein bywydau bob dydd. Ond mae rhai pobl hŷn wedi dweud wrthyf fod hyn yn aml yn anodd, os nad yn amhosibl. Yn aml, mae ‘dewis’ yn golygu cael cynnig cyfleoedd i fod yn rhan o’r systemau cefnogi presennol, yn hytrach na dylunio systemau sy’n galluogi pobl hŷn i wneud y pethau sydd bwysicaf iddyn nhw. Mae pobl hŷn hefyd yn gallu bod mewn sefyllfa lle nad oes ganddynt lais, yn enwedig pan fyddant mewn sefyllfaoedd bregus. Mae hyn yn cael ei waethygu gan ddarpariaeth eiriolaeth anghyson.
Gall lleisiau pobl hŷn gael eu gwthio i’r cyrion pan fydd cyfleoedd ymgysylltu neu ymgynghori ar gael ar-lein yn bennaf, neu eu hyrwyddo mewn ffyrdd nad ydynt yn cyrraedd yn effeithiol at bobl hŷn.
Yn yr un modd, mae pobl hŷn yn aml yn cael eu gweld fel grŵp unffurf, ond y realiti yw ein bod yn dod yn fwy amrywiol wrth i ni fynd yn hŷn. Felly, mae’n hanfodol bod anghenion, diddordebau a phryderon gwahanol grwpiau o bobl hŷn yn cael eu cydnabod, gan ganolbwyntio mwy ar bobl hŷn fel unigolion.
Bydd fy ngwaith yn ystod 2025-26 yn cynnwys:
- Grymuso pobl hŷn i gynnal rheolaeth a pharhau i fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau am eu gofal drwy ddatblygu a chyhoeddi canllaw ar Gynllunio Gofal Uwch.
- Sicrhau bod mwy o gydnabyddiaeth i’r nifer cynyddol o bobl sy’n heneiddio heb blant, y cyfleoedd cadarnhaol y mae hyn yn ei greu, a’r heriau i unigolion a’r rhai sy’n ymwneud â chynllunio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.
- Nodi cyfleoedd i wella mynediad pobl hŷn at gymorth eiriolaeth a’r defnydd ohonynt fel rhan o brosesau diogelu, er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed yn ystod cyfnodau anodd ac adegau o argyfwng.
- Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod hawliau gofalwyr hŷn di-dâl yn cael eu cynnal a bod eu hanghenion, eu diddordebau a’u pryderon yn cael eu cydnabod ac yr ymatebir iddynt.
- Sicrhau bod lleisiau pobl hŷn sy’n byw gyda dementia yn cael eu clywed a’u bod yn ganolog i’r gwaith o ddatblygu a chyflawni polisïau ac arferion, gan gynnwys yng Nghynllun Gweithredu newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Dementia.
Sicrhau bod rôl cymunedau oed-gyfeillgar yn ein galluogi i fyw ac heneiddio’n dda
Mae’r cymunedau rydym yn byw ynddynt yn chwarae rhan bwysig o ran ansawdd ein bywyd ac o ran y cyfleoedd i heneiddio’n dda. Felly, mae’n hanfodol bod y cymunedau hyn yn cael eu grymuso i ddylunio lleoedd, mannau a gwasanaethau sy’n oed-gyfeillgar, gan ddefnyddio cyfoeth o wybodaeth a phrofiad pobl hŷn i gyflawni hyn.
Mae’r egwyddorion sy’n sail i gymunedau Oed-gyfeillgar yn cysylltu’n agos â diffiniad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a diffiniad Llywodraeth Cymru o atal: meithrin gwytnwch a chreu’r amodau fel na fydd problemau’n codi yn y dyfodol, felly byddaf yn parhau i weithio i gryfhau cymunedau oed-gyfeillgar ledled Cymru.
Mae hyn yn golygu:
- Cefnogi awdurdodau lleol a’u partneriaid sydd heb ymuno eto â Rhwydwaith Byd-eang o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-Gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd i ddatblygu eu cynlluniau a’u ceisiadau oed-gyfeillgar.
- Sicrhau bod awdurdodau lleol sydd eisoes yn aelodau o’r Rhwydwaith Byd-eang yn gallu manteisio i’r eithaf ar fanteision eu haelodaeth drwy fanteisio ar wybodaeth a phrofiadau partneriaid ar draws y byd, gan eu galluogi i ddatblygu ymhellach a pharhau i ddysgu ac ehangu.
- Rhannu a hyrwyddo arferion da sy’n ein helpu i heneiddio’n dda, gan gynnwys drwy fy Nghymuned Ymarfer Oed-gyfeillgar.
- Dylanwadu ar bolisi a strategaeth ar yr wyth maes o gymunedau oed-gyfeillgar, drwy ymgysylltu’n effeithiol â rhanddeiliaid a gwleidyddion er mwyn gwella cyfleoedd i bobl hŷn gael cyfrannu a chydweithio ar fentrau sy’n ein helpu ni i gyd i heneiddio’n dda.
Yr effaith a’r canlyniadau
Fel y nodwyd yn fy strategaeth 2025-28, byddaf yn defnyddio cyfuniad o ddulliau i olrhain cynnydd yn erbyn y canlyniadau cenedlaethol a nodir uchod, gan gynnwys ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl hŷn, craffu ar bolisïau, ymarfer a phenderfyniadau ac ystyried y data sydd ar gael.
Bydd y dulliau hyn hefyd yn fy ngalluogi i fesur effaith y gwaith rydw i’n ei gyflawni drwy fy rhaglen waith flynyddol a sicrhau bod y camau rydw i’n eu cymryd fel Comisiynydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl hŷn.
Yn ogystal â darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn barhaus am fy ngwaith, gan ddefnyddio amrywiaeth o sianeli cyfathrebu i gyrraedd pobl hŷn a rhanddeiliaid, byddaf hefyd yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar Effaith a Chyrhaeddiad fel rhan o’m hadroddiad a’m cyfrifon blynyddol ehangach. Bydd hyn yn galluogi tryloywder ac atebolrwydd, gan helpu i ddangos y gwahaniaeth amlwg mae fy ngwaith yn ei wneud, yn ogystal â meysydd lle gallai fod angen cymryd camau pellach.