Pobl hŷn a thlodi yng Nghymru
Cyflwyniad y Comisiynydd
Mae tlodi ymhlith pobl hŷn yng Nghymru yn fater sy’n peri pryder mawr – un sy’n galw am sylw a gweithredu ar fyrder. Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, rwyf wedi clywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn ar hyd a lled y wlad am yr effaith ddwys y mae caledi ariannol yn ei chael ar eu bywydau: o ymdrechu i wresogi eu cartrefi a fforddio bwyd maethlon, i wynebu rhwystrau wrth geisio cael gafael ar wasanaethau a chymorth hanfodol.
Mae’r adroddiad hwn yn taflu goleuni ar realiti tlodi yn ddiweddarach mewn bywyd, gan dynnu ar ddata a phrofiadau bywyd, yn ogystal ag ystyried y ffyrdd y mae anghydraddoldebau hirdymor yn parhau i siapio bywydau llawer o bobl hŷn.
Mae’r adroddiad hefyd yn pwysleisio bod y costau uwch, incwm annigonol a heriau systemig, er enghraifft bod all-lein a mynediad cyfyngedig at dariffau cymdeithasol ar gyfer gwasanaethau allweddol, yn golygu bod llawer o bobl hŷn yn wynebu’r risg o niwed, ynysigrwydd a dirywiad i’w hiechyd a’u llesiant.
Mae cysylltiad rhwng tlodi ymhlith pobl hŷn ac iechyd corfforol a meddyliol gwaeth, mwy o unigrwydd ac ynysigrwydd, llai o fynediad at fwyd iach, gwresogi a thrafnidiaeth a mwy o ddibyniaeth ar wasanaethau cyhoeddus, fel y GIG a gwasanaethau cymdeithasol.
Mae llawer o bobl hŷn yng Nghymru yn byw ar incwm sefydlog neu gyfyngedig, gan gynnwys pensiynau’r wladwriaeth a hawliadau cymdeithasol. Felly, gall costau byw cynyddol, yn arbennig ar gyfer ynni a bwyd, gael effaith anghymesur. Gall tlodi effeithio ar unrhyw berson hŷn mewn cymdeithas, ond mae rhai grwpiau yn fwy agored i niwed nac eraill, er enghraifft menywod sy’n rhentwyr preifat, pobl anabl, gofalwyr di-dâl, a phobl hŷn Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Gall pobl hŷn mewn ardaloedd gwledig wynebu heriau ychwanegol hefyd.
Mae gormod o bobl hŷn yn byw mewn tlodi yng Nghymru ac mae’n rhaid mynd i’r afael â hyn fel mater o flaenoriaeth – am resymau cymdeithasol, economaidd a moesol.
Er y gall cyfnod diweddarach bywyd fod yn gyfnod o ddiogelwch, urddas a boddhad, a dylai fod felly, i ormod o bobl hŷn yng Nghymru mae’n cael ei nodweddu gan bryder ac amddifadedd. Nid yw hyn yn anochel. Gyda’r polisïau cywir, cymorth wedi’i dargedu ac ymrwymiad i wrando ar leisiau pobl hŷn a gweithredu mewn ymateb i hyn, gallwn wyrdroi’r tueddiadau hyn a sicrhau y gall pawb heneiddio’n dda.
Rhian Bowen-Davies
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Pobl hŷn a thlodi: data ac ystadegau allweddol
Deall tlodi
Yn y DU, mae tlodi wedi’i ddiffinio fel sefyllfa pan nad yw adnoddau person – ariannol yn bennaf – yn ddigon i gyflawni eu hanghenion sylfaenol, gan gynnwys y gallu i gymryd rhan mewn bywyd bob dydd. Un ffordd o fesur hyn yw drwy dlodi incwm cymharol, lle mae person yn byw mewn aelwyd gydag incwm islaw 60% o gyfartaledd y DU. Mesur arall yw tlodi tanwydd, sy’n digwydd pan fydd angen i aelwyd wario mwy na 10% o’i hincwm i gynhesu’r cartref.
Tuedd gynyddol
Ar ôl blynyddoedd o gynnydd yn lleihau tlodi ymhlith pobl hŷn drwy weithredoedd fel cyflwyniad Credyd Pensiwn, Clo Triphlyg Pensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau wedi’u targedu, er enghraifft Taliadau Tanwydd Gaeaf, mae’r sefyllfa wedi gwyrdroi yn y blynyddoedd diwethaf. Datgelodd adroddiadau Cyflwr y Genedl y Comisiynydd ar gyfer 2019 a 2021 anawsterau ariannol cynyddol ymhlith pobl hŷn – sefyllfa sydd wedi’i dwysáu yn y blynyddoedd diwethaf gan y pandemig Covid-19 a chostau byw sy’n cynyddu’n gyflym – a chafodd gwirioneddau’r tueddiadau hyn eu harchwilio yn adroddiad Heneiddio yng Nghymru y Comisiynydd yn 2025, a oedd yn pwysleisio nad oedd bron i 1 o bob 5 o bobl hŷn yn gallu cynilo £10 y mis.1 Cafodd yr anawsterau ariannol hyn eu hamlygu hefyd yn ddiweddar mewn adroddiadau gan Sefydliad Joseph Rowntree ac Independent Age.2,3 Mae ymchwil gan Independent Age yn rhagweld y gallai bron i un o bob pedwar, neu 3.9 miliwn o bobl hŷn fod mewn tlodi erbyn 2040.4
Tlodi yng Nghymru
Ar hyn o bryd, mae 22% o bobl yng Nghymru (700,000 o bobl) yn byw mewn tlodi.5 Mae mwy na 100,000 o’r rhain yn bobl hŷn. Yn frawychus, mae 450,000 o’r rhai sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru mewn ‘tlodi dwfn’, sy’n golygu bod eu hincwm (ar ôl costau tai) yn llai na 50% o gyfartaledd y DU. O gymharu â’r 1990au, mae nifer y bobl mewn tlodi dwfn neu ddwfn iawn wedi cynyddu’n sylweddol, sy’n awgrymu bod tlodi yng Nghymru yn gwaethygu.6 Mae ymchwil gan JRF yn dangos yn 2020–23, roedd bron hanner miliwn o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi dwfn neu dlodi dwfn iawn, gyda’r gyfran o bobl mewn tlodi dwfn iawn yn cynyddu o 33% ym 1994–97 i 47% (tua 310,000 o unigolion) yn 2020–23.7
Tlodi tanwydd
Mae tlodi tanwydd yn parhau i fod yn bryder mawr, yn arbennig i bobl hŷn. Ym mis Hydref, yng Nghymru, roedd tlodi tanwydd yn effeithio ar:
- 22% o aelwydydd pensiynwr unigol
- 13% o aelwydydd cwpl pensiynwyr8
Yn ôl Llywodraeth Cymru, roedd 25% o’r holl aelwydydd (340,000) mewn tlodi tanwydd ym mis Hydref 2024 ac roedd mwy na 4 o bob 5 o’r holl aelwydydd incwm isel (83%) mewn tlodi tanwydd, gyda bron chwarter ‘r rhain mewn tlodi tanwydd difrifol.9
Mae oedolion hŷn yn wynebu risg benodol o faterion iechyd am eu bod yn byw mewn cartrefi oer o ganlyniad i dlodi tanwydd, ac amcangyfrifir bod cost hyn i’r gwasanaeth iechyd tua £41 miliwn y flwyddyn. At hynny, mae pobl 75 oed a hŷn yn cynrychioli 75% o farwolaethau gormodol yn y gaeaf, sy’n aml wedi’u cysylltu â chartrefi oer.10
Er gwaethaf y cap ar brisiau ynni a bennwyd gan Ofgem, mae’r costau’n parhau i fod yn uchel. Ym mis Hydref 2024, cynyddodd Ofgem y cap, a oedd yn golygu y byddai aelwyd nodweddiadol yn talu £1,717 y flwyddyn, cynnydd o £1,568 ychydig fisoedd yn gynharach. Ym mis Gorffennaf 2025, y cap oedd £1,720 ac ym mis Hydref 2025, y cap yw £1,755.11
Yn ôl Gofal a Thrwsio Cymru, sy’n cynorthwyo pobl hŷn i fyw’n annibynnol drwy atgyweiriadau, addasiadau a gwaith cynnal a chadw mewn cartrefi, mae cleient nodweddiadol yn talu 19% o’u hincwm ar filiau ynni yn ystod y gaeaf, gan gynyddu i 25% yn ystod gaeaf 2022–23 i’r rhai a oedd yn derbyn cyngor ar ynni.12
Tlodi incwm cymharol ymhlith pobl hŷn
Yng Nghymru, mae bron 1 o bob 6 o bobl hŷn (16%) yn byw mewn tlodi incwm cymharol.13 Mae rhai grwpiau wedi’u heffeithio’n fwy difrifol nac eraill:
- mae 33% o denantiaid tai cymdeithasol 65+ oed yn byw mewn tlodi, o gymharu â 13% o berchnogion tai hŷn.
- Mae menywod hŷn sy’n byw ar eu pen eu hunain yn cael eu heffeithio’n anghymesur: mae 24% yn byw mewn tlodi, o gymharu ag 11% o gyplau hŷn. Bar chart
- Mae tlodi hefyd yn cynyddu gydag oedran, gan effeithio ar 22% o bobl 85+ oed (er bod data yn gyfyngedig)14
Ymhlith oedolion o oedran gweithio, mae’r cyfraddau tlodi ar eu huchaf ymhlith y rhai 60 oed a hŷn, gyda 26% yn byw mewn tlodi.15
Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru, mae 1 o bob 4 o bobl 65–74 oed ac 1 o bob 6 75+ oed yn dweud eu bod weithiau neu bob amser yn cael anhawster i dalu eu biliau.16
Daearyddiaeth tlodi: Gwahaniaethau trefol a gwledig
Yn draddodiadol, mae tlodi wedi bod yn fwy gweladwy mewn ardaloedd trefol, ac yn aml yn parhau i fod yn fwy cuddiedig mewn rhannau gwledig o Gymru. Gall pobl sy’n symud i ardaloedd gwledig sydd ag incwm uwch guddio brwydrau’r rhai sydd eisoes yn byw yno. Ymhlith yr heriau penodol yng nghefn gwlad Cymru mae:
- Prisiau tai uwch o gymharu ag incwm
- Mynediad cyfyngedig at drafnidiaeth gyhoeddus
- Costau uwch tanwydd a nwyddau hanfodol
- Effeithlonrwydd ynni gwael mewn cartrefi hŷn17
Yn ogystal, mae llawer o gartrefi yng nghefn gwlad Cymru yn wynebu costau ynni uwch am nad ydynt wedi’u cysylltu â’r grid nwy a’u bod yn gorfod dibynnu ar ffynonellau tanwydd drud, heb eu rheoleiddio, er bod yr incwm yn yr ardaloedd hyn yn is nac mewn ardaloedd eraill – yn Sir Benfro, er enghraifft, mae cyflogau £346 y mis yn is na chyfartaledd y DU.18
At hynny, nid yw mesurau tlodi traddodiadol fel diweithdra neu fod yn berchen ar gar bob amser yn adlewyrchu gwirioneddau cefn gwald, lle mae tlodi mewn gwaith a dibyniaeth ar drafnidiaeth yn fwy cyffredin.
Mae Sefydliad Bevan wedi dweud bod aelwydydd gwledig yn wynebu ‘gwasgfa driphlyg’: cyflogau is, costau uwch, a llai o gymorth.19
Tlodi a nodweddion gwarchodedig
Ethnigrwydd
Mae aelwydydd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru yn wynebu cyfraddau tlodi uwch o lawer:
- Mae 47% o aelwydydd ethnig leiafrifol yn byw mewn tlodi, o gymharu â 22% o aelwydydd gwyn
- Ymhlith y rhai mewn tlodi, mae 58% o aelwydydd ethnig leiafrifol mewn tlodi dwys, o gymharu â 43% o aelwydydd gwyn20
Fodd bynnag, oherwydd bod y rhan fwyaf o aelwydydd yng Nghymru yn wyn, mae 96% o bobl mewn tlodi yn dod o aelwydydd gwyn.
Anabledd
- Mae gan Gymru 670,000 o bobl anabl (21% o’r boblogaeth)
- I’r rhai 50+ oed, mae bron 1 o bob 3 (33%) yn adrodd eu bod yn anabl Infographic
- Mae 32% o bobl anabl yng Nghymru yn byw mewn tlodi – 10 pwynt canran yn uwch na’r rhai heb anableddau Infographic
- Ymhlith pobl anabl gyda chyflwr iechyd meddwl cyfyngol, mae tlodi yn cynyddu i 37%21
Wrth i ddiwygiadau arfaethedig diweddar Llywodraeth y DU i fudd-daliadau anabledd a’r Credyd Cynhwysol gael eu hailystyried, mae’n bwysig nodi y gallai’r rhain fod wedi gwaethygu tlodi, yn arbennig ymhlith oedolion anabl hŷn. Amcangyfrifodd Sefydliad Bevan y gallai 190,000 o bobl yng Nghymru fod wedi’u heffeithio, ac y gallent fod wedi cynyddu cyfraddau tlodi mewn rhai grwpiau o 24.5% i 78.3%.22
Gofalwyr
- Mae 1 o bob 8 o bobl yng Nghymru yn ofalwyr di-dâl, a disgwylir i hyn gynyddu i 1 o bob 6 erbyn 2037
- Mae 31% o gyflogwyr di-dâl yn byw mewn tlodi, o gymharu â 22% o bobl nad ydynt yn ofalwyr23
- Mae gan Gymru y gyfran uchaf yn y DU o ofalwyr hŷn a gofalwyr sy’n 50+ awr yr wythnos24
- Mae bron hanner y gofalwyr sy’n derbyn Lwfans Gofalwr wedi torri yn ôl ar hanfodion fel bwyd a gwresogi
- Mae 63% yn poeni am gostau byw a sut y byddant yn ymdopi yn y dyfodol25
Cymorth a Hawliadau
Pensiwn y wladwriaeth
Mae Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol llawn (ar gyfer unrhyw un a oedd yn gymwys cyn 6 Ebrill 2016) yn werth £176.45 yr wythnos ar hyn o bryd, ac mae’r Pensiwn y Wladwriaeth llawn newydd yn werth £230.25 yr wythnos.26 Mae’n bwysig cofio nad yw pawb yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth llawn, naill ai un sylfaenol neu newydd. Mae menywod, a allai fod wedi methu allan ar gyfraniadau o ganlyniad i gymryd amser i ffwrdd i ofalu am deulu neu drwy weithio’n rhan amser, yn debygol iawn o fod wedi’u heffeithio. Yng Nghymru, roedd 646,234 o bobl yn derbyn rhyw fath o bensiwn y wladwriaeth ym mis Mai 2024. O’r rhain, dim ond 213,817 (33%) a dderbyniodd y pensiwn y wladwriaeth newydd.27
Credyd Pensiwn
Mae’r Credyd Pensiwn yn darparu cymorth ariannol allweddol i bobl hŷn ar incwm isel a gall ddatgloi hawliadau ychwanegol gan gynnwys gostyngiad i’r Dreth Gyngor. Fodd bynnag, mae cymhwysedd wedi’i gyfyngu ar hyn o bryd i’r rhai ag incwm o dan tua £12,000 ar gyfer pensiynwyr unigol neu £18,000 i gyplau. Mae hyn yn creu effaith ‘ymyl dibyn’, lle gallai hyd yn oed cynnydd bychan mewn incwm arwain at golli cymorth yn gyfan gwbl. Ym mis Chwefror 2025:
- Roedd 82,360 o bobl yng Nghymru yn derbyn y Credyd Pensiwn
- Roedd dwy ran o dair o’r rhain yn fenywod (54,413 o fenywod o gymharu â 27,948 o ddynion)
Er gwaethaf ei werth, mae’r nifer sy’n manteisio arno yn parhau i fod yn isel, ac mae nifer yr hawlwyr wedi gostwng pob blwyddyn o 2018-2024.28 Amcangyfrifir bod tua 50,000 o aelwydydd yng Nghymru yn colli allan ar y Credyd Pensiwn y mae ganddynt hawl i’w gael, sy’n werth £4,300 y flwyddyn ar gyfartaledd.29
Credyd Cynhwysol
Mae Credyd Cynhwysol yn cefnogi pobl o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth gyda chostau byw ac mae’n disodli Budd-dal Tai, Cymhorthdal Incwm Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA) a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn gysylltiedig ag incwm. Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr oedolion hŷn sy’n hawlio’r Credyd Cynhwysol:
- Roedd 40,225 o bobl dros 60 oed yng Nghymru yn hawlio Credyd Cynhwysol ym mis Gorffennaf 2025
- Mae’r ffigur hwn wedi dyblu mewn tair blynedd – o 20,385 yn 202233
Effaith tlodi ar bobl hŷn yn eu bywydau bob dydd
Mae tlodi yn cael effeithiau gwirioneddol ac uniongyrchol ar bobl o bob oed yng Nghymru. Ym mis Tachwedd 2024:
- Aeth 22% o bobl yng Nghymru heb wresogi
- Aeth 15% heb ymolchi ac roedd 8% yn brin o bethau ymolchi sylfaenol
- Roedd 23% wedi hepgor prydau bwyd neu wedi bwyta llai, ac roedd 5% yn defnyddio banciau bwyd
Y tu hwnt i fwyd a chynhesrwydd:
- Ni allai 18% fforddio dillad newydd
- Ni allai 17% atgyweirio offer mawr
- Roedd 13% yn osgoi teithiau hanfodol
- Nid oedd gan 12% ddodrefn sylfaenol
- Roedd 30% wedi benthyca arian yn y 3 mis diwethaf — bron ddwywaith yn fwy na 2021
- Roedd gan 15% ôl-ddyledion ar o leiaf un bil
Mae tlodi hefyd yn niweidio iechyd:
- Adroddodd 44% effaith negyddol ar iechyd meddwl
- 29% ar iechyd corfforol31
Yr hyn y mae pobl hŷn wedi’i ddweud wrthym
Heriau dyddiol
Mae pobl hŷn ledled Cymru wedi rhannu pryderon difrifol gyda’r Comisiynydd ynglŷn ag effaith gynyddol tlodi ar eu bywydau bob dydd.32 Mae’r effeithiau niweidiol ar galedi ariannol – sy’n cael eu profi mewn meysydd fel tai, iechyd, bwyd a chysylltiad cymdeithasol – yn peri pryder mawr ac yn mynnu sylw ar fyrder. Soniodd llawer o bobl hŷn am yr heriau dyddiol maent yn eu hwynebu. Mae’r lleisiau hyn yn pwysleisio profiadau eang ac anghyfartal yn ddiweddarach mewn bywyd yng Nghymru, a’r angen dybryd am weithredu i sicrhau y gall pob person hŷn fyw gydag urddas a heb ofni tlodi.
Roedd hyd yn oed y bobl hŷn hynny a oedd yn ymdopi’n ariannol yn ymwybodol ac yn bryderus ynglŷn â’r rhai nad oeddynt yn ymdopi. Roedd rhai pobl hŷn yn cydnabod eu bod mewn sefyllfa ffodus ond nad oedd pawb yn gallu ymdopi:
“Rwy’n lwcus bod gen i incwm digonol ond rwy’n dychmygu y bydd y rhai llai ffodus yn cael trafferth anghymesur gyda thai, trafnidiaeth a gofal iechyd, o gymharu â’r boblogaeth gyffredinol.”
Mae tlodi ymhlith pobl hŷn yn cael ei ysgogi gan gyfres gymhleth a rhyng-gysylltiedig o ffactorau. Mae’r rhain yn cynnwys incwm pensiwn annigonol, costau byw uwch, mynediad cyfyngedig at wasanaethau allweddol a chyflyrau iechyd tymor hir, gyda’r rhain i gyd yn cyfuno i greu heriau sylweddol sy’n aml yn gymhleth yn ddiweddarach mewn bywyd:
“Erbyn hyn rydym yn gweld costau byw o ddydd i ddydd, costau treth, Dŵr, trydan, ffôn, costau Iechyd a gofal hefyd, i gyd yn rhoi pwysau ariannol ar y pensiwn.”
Mae llawer o bobl hŷn wedi rhannu eu bod yn cael eu gorfodi i dorri yn ôl ar hanfodion, er enghraifft gwresogi eu cartrefi a phrynu bwyd, dim ond i gael dau ben llinyn ynghyd. Mae’r dewisiadau anodd hyn yn adlewyrchu realiti llym byw ar incwm cyfyngedig a phwysau cynyddol costau sy’n cynyddu’n barhaus:
“Gyda’r cynnydd mewn costau ynni a dim lwfans gwresogi, rydym wedi gorfod diffodd ein system wresogi er mwyn gallu fforddio i dalu costau trydan ac yn y blaen.”
Pan na fydd pobl hŷn yn gallu fforddio i wresogi eu cartref a bwyd maethlon, gall y canlyniadau fod yn ddifrifol a bygwth bywyd hyd yn oed. Mae amlygiad i oerfel yn effeithio ar ystod eang o gyflyrau iechyd ac mae hefyd yn cynyddu’r risg o hypothermia, tra gall maeth gwael waethygu cyflyrau cronig fel diabetes, clefyd y galon ac arthritis. Mae’r risgiau hyn yn arbennig o ddifrifol yn ystod y gaeaf, pan fydd tywydd oer a dietau annigonol yn cyfrannu at gyfraddau marwolaethau sylweddol uwch ymhlith pobl hŷn, fel y nodwyd uchod.
Mae’r Comisiynydd wedi clywed gan bobl hŷn sydd wedi torri un pryd y diwrnod mewn ymgais i allu fforddio i wresogi eu cartrefi. Mae mynd heb fwyd neu beidio bwyta digon dros amser yn arwain at ddiffyg maeth, colli pwysau a systemau imiwnedd gwan, sy’n cynyddu’r risg o eiddilwch, mwy o ymweliadau â’r meddyg, derbyniadau mewn ysbyty a hyd arhosiad mewn ysbyty.33
Mae llawer o bobl hŷn yng Nghymru yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cynnal eu hannibyniaeth a chael mynediad at wasanaethau hanfodol. Fodd bynnag, fel yr adlewyrchwyd yn y pryderon a godwyd gan bobl hŷn gyda’r Comisiynydd, mae heriau fel llwybrau gwledig cyfyngedig, mynediad gwael at wasanaethau prin yn aml yn cyfyngu ar eu symudedd. I’r rhai heb fynediad at drafnidiaeth ddibynadwy, gall cost uchel fod tacsis yn ataliol, gan greu rhwystrau arwyddocaol i fynychu apwyntiadau hollbwysig – gan gynnwys gofal meddygol a deintyddol – a chyfrannu at apwyntiadau’r GIG yn cael eu methu ledled y wlad:
“Cost tacsis i ymweld â’r feddygfa ac ysbytai – oes mae trafnidiaeth ar gael ond mae’n mynd i bob man ac yn creu diwrnod hir iawn os ydych dros 90 oed!”
Mae ymchwil ar drafnidiaeth gan Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos bod 14% of o bobl 65+ oed yn defnyddio’r bws o leiaf unwaith yr wythnos.34 Roedd hyn uchaf o’r holl grwpiau oedran.
Mae’r costau cynyddol yn her sylweddol hefyd i bobl hŷn sydd â’u trafnidiaeth eu hunain:
“Nid oes gen i unrhyw ddewis arall ond gyrru ac mae’r llywodraeth yn gwneud hyn yn anodd h.y. treth car uwch, cost tanwydd, yswiriant ac yn y blaen.”
Gall hyd yn oed pobl hŷn sy’n gallu mynychu eu hapwyntiadau meddygol ac sy’n derbyn gofal iechyd wynebu costau sylweddol, er enghraifft, taliadau am driniaeth ddeintyddol naill ai drwy’r GIG neu ddarparwyr preifat (mwy ar y mater hwn isod) ar gyfer gofal llygaid a sbectol, neu gostau sy’n gysylltiedig ag awdioleg – er enghraifft cymhorthion clyw. Mae’r costau hyn yn cyfrannu at dlodi, yn dwysáu ansicrwydd ariannol ac yn gwaethygu canlyniadau iechyd. Mae hyn yn creu cylch o dlodi ac iechyd gwael.
Mae rhwystrau ariannol y mae pobl hŷn yn eu hwynebu wrth geisio cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd hanfodol yn bryder cynyddol sy’n mynnu sylw polisi ar fyrder. Mae llawer o bobl hŷn yn cael anhawster i fforddio triniaethau sylfaenol ar gyfer materion sy’n cael effaith arwyddocaol ar ansawdd eu bywyd. Mae deintyddiaeth yn parhau i fod yn bryder penodol. Fel y rhannodd un unigolyn:
“Mae gen i ddant sydd wedi torri, mae fy neintydd yn codi £100 i lenwi neu dynnu dant ac £800 i roi cap arno, ac ni alla i fforddio unrhyw un o’r rhain felly mae’n rhaid i mi ddioddef y ddannoedd.”
Nid achos unigol yw hyn.
Mae taliadau deintyddol newydd yn effeithio ar bobl hŷn, yn arbennig oherwydd bod eu hanghenion iechyd y geg yn newid ac yn mynd yn fwyfwy cymhleth. Mae llawer o bobl hŷn angen gwaith cynnal a chadw ac adfer dannedd naturiol a dannedd gosod rhannol sydd wedi’u dylunio’n unigol yn rheolaidd, lle byddai cenedlaethau’r gorffennol wedi bod angen dannedd gosod llawn yn lle pob un o’u dannedd.
Gallai costau uwch gael effaith anghymesur ar bobl hŷn a dylid ystyried y ffyrdd y gellid lliniaru’r effaith ariannol ar bobl hŷn fel mater o frys.
Mae pobl hŷn hefyd wedi tynnu sylw at faich cronnus treuliau parod sy’n gysylltiedig ag iechyd:
“Mae llawer o wasanaethau sy’n gysylltiedig ag iechyd, fel trin traed, sbectol newydd, glanhau clustiau, triniaeth ddeintyddol i gyd yn gostau ychwanegol ac nid yw ein pensiwn yn newid.”
Adlewyrchwyd y pryderon hyn mewn ymatebion gan bobl hŷn i arolwg Beth sy’n Bwysig i Chi? Age Cymru, a oedd yn tynnu sylw at yr heriau sy’n gysylltiedig â chostau byw.35 Disgrifiodd llawer o bobl hŷn faint eu hansicrwydd ariannol, a pha mor ddrud yw byw gyda salwch, pa mor dynn yw eu sefyllfa ariannol a pha mor ddrud y gall fod i fyw gyda salwch. Mae’r argyfwng costau byw parhaus hefyd yn golygu bod rhai pobl hŷn sy’n byw gydag iechyd corfforol gwael yn dioddef gyda’u hiechyd meddwl yn awr hefyd.
Mae’r tystiolaethau hyn yn pwysleisio’r angen am ddarpariaeth gofal iechyd fwy cynhwysol a fforddiadwy i bobl hŷn, yn enwedig mewn ardaloedd nad ydynt wedi’u gwasanaethu’n llawn gan y GIG neu systemau gofal cymdeithasol.
Tlodi Tai a Thanwydd
Mae gallu cadw’n gynnes gartref yn hollbwysig er mwyn atal salwch a all achosi niwed i iechyd a llesiant pobl hŷn. Mae pobl hŷn wedi codi hyn yn aml fel rhywbeth sy’n llawer mwy anodd yn awr oherwydd y costau byw a’r costau ynni cynyddol. Mae’n bosibl bod rhai pobl hŷn yn lleihau eu defnydd o’u cartref neu drydan er mwyn arbed arian, gan gynyddu’r risg o salwch sy’n gysylltiedig ag oerfel, fel hypothermia neu faterion anadlol.
Ym mis Hydref 2024, mae ffigurau Llywodraeth Cymru yn dangos bod 340,000 o aelwydydd yng Nghymru (25%) yn byw mewn tlodi tanwydd.36 Amcangyfrifwyd bod 215,000 o aelwydydd pellach (16%) mewn perygl o brofi tlodi tanwydd. Roedd mwy na 4 o bob 5 o’r holl aelwydydd incwm isel (83%) mewn tlodi tanwydd, ac roedd bron chwarter ohonynt mewn tlodi tanwydd difrifol. Mae hyn yn creu goblygiadau difrifol i iechyd y cyhoedd, yn enwedig i oedolion hŷn a’r rhai â chyflyrau cronig, gan ei fod yn cynyddu’r risg o salwch sy’n gysylltiedig ag oerfel, gofid meddwl, a llai o allu i reoli anghenion meddygol hanfodol gartref.
Mae pobl hŷn yng Nghymru yn llawer mwy tebygol o fyw mewn cartrefi sy’n hŷn ac mewn cyflwr gwaeth nac mewn rhannau eraill o’r DU.37 Mae gan Gymru hefyd y stoc tai hynaf yn y DU, sy’n golygu bod llawer o dai wedi’u hinswleiddio’n wael.38 Mae hyn yn arwain at gostau ynni uwch a thlodi tanwydd. Mae’r amcangyfrifon presennol o dlodi tanwydd yng Nghymru yn seiliedig ar Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18 ond eu bod wedi’u hail-gyfrifo gan ddefnyddio incwm aelwydydd a phrisiau tanwydd rhwng 2017 a Hydref 2024. Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Arolwg Tai Cymru newydd, ond ni fydd y prif ganlyniadau ar gael tan 2028-29. Felly, nid oes darlun cywir ar gael ar hyn o bryd, ac mae llawer o ffactorau wedi cael effaith niweidiol ar incwm a chostau byw aelwydydd ers 2017-18. Mae’r rhain yn cynnwys lefelau sylweddol o chwyddiant, newidiadau i batrymau cyflogaeth ac effaith COVID-19 a Brexit.
Cyfeiriodd nifer o bobl at dlodi tanwydd a thai gwael wrth ymateb i ymgynghoriad y Comisiynydd ar bennu ei blaenoriaethau. Nododd un ymateb:
“Dylai pawb allu fforddio byw mewn cartref cynnes, diogel ac iach. Fodd bynnag, mae cyfuniad gwenwynig o incwm isel, prisiau ynni uchel, a thai annigonol, gwael yn parhau i wadu hyn i gannoedd o filoedd o bobl ledled Cymru, gan gynnwys llawer o bobl hŷn.”
Mae pobl hŷn yng Nghymru yn gwario’n gynyddol ar gostau hanfodol fel biliau cyfleustodau, gofal iechyd a gwasanaethau cynnal a chadw’r cartref o gymharu â blynyddoedd blaenorol. Mae costau gwresogi yn bryder penodol, wrth i fwy o bobl hŷn dreulio mwy o amser yn eu cartref a’u bod yn aml yn byw mewn eiddo sy’n oer neu wedi’u hinswleiddio’n wael.39 Yn ogystal, efallai bod gan unigolion hŷn anghenion ynni uwch oherwydd llai o weithgarwch corfforol neu gyflyrau iechyd sy’n cael eu gwaethygu gan amgylcheddau oer. O ganlyniad, rhaid iddynt gadw eu cartrefi’n gynhesach am gyfnodau hwy er mwyn aros yn gyfforddus ac yn iach, gan roi mwy o straen ar incwm sydd eisoes yn gyfyngedig:
“Gall pobl hŷn fod ag anghenion ynni uwch oherwydd eu bod yn aml yn treulio mwy o amser gartref, efallai eu bod yn llai egnïol yn gorfforol, a/neu fod ganddynt gyflyrau iechyd sy’n cael eu gwaethygu gan yr oerfel.”
Mae rhai pobl hŷn yng Nghymru yn wynebu costau ynni sylweddol uwch oherwydd galw trydan cyfarpar meddygol hanfodol, sy’n rhoi pwysau ariannol ychwanegol ar y rhai sydd eisoes yn byw ar incwm sefydlog. Mae hyn yn tynnu sylw at yr angen brys am bolisïau iechyd ac ynni integredig sy’n cydnabod trydan fel anghenraid meddygol a sicrhau nad yw oedolion hŷn agored i niwed yn cael eu gorfodi i gyfaddawdu eu hiechyd oherwydd tlodi.
“Mae’n teimlo’r oerfel yn waeth na fi oherwydd mae’n llai actif, ond mae’n rhaid i ni gadw golwg ar y wresogi eu cartref oherwydd gallai’r biliau fod yn anfforddiadwy. Mae hefyd yn defnyddio cyfarpar meddygol yn y nos sy’n defnyddio trydan. Mae hyn i gyd yn boen meddwl i ni.”
Mae byw mewn cartrefi oer yn cyfrannu at farwolaethau gormodol dros y gaeaf ac at ystod o salwch symptomatig. Mae pobl hŷn yn fwy tebygol o gael eu heffeithio’n anghymesur gan newidiadau i’r tymheredd sy’n cael eu hachosi gan dywydd oerach a’r ffaith na allant gynhesu eu cartrefi eu hunain. Mae 75% o farwolaethau gormodol dros y gaeaf yn bobl 75 oed a hŷn.40 Yn ystod gaeaf 2022/23, roedd cleientiaid a ymgysylltodd â gwasanaeth cyngor tlodi tanwydd ac ynni Gofal a Thrwsio yn gwario 25% o’u hincwm ar gyfleustodau ar gyfartaledd.
Gall cartrefi sydd wedi’u gwresogi’n wael waethygu cyflyrau iechyd yn sylweddol, cyflyrau fel arthritis, clefyd y galon, a materion symudedd. Mae’r adroddiad “Cartrefi oer yng Nghymru: A yw’r drefn wresogi foddhaol yn briodol ar gyfer iechyd a llesiant?” gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng cartrefi sy’n oerach na 18°C â chanlyniadau iechyd negyddol, yn arbennig i unigolion hŷn a’r rhai ag anableddau neu salwch cronig.41
Mae stoc tai sy’n heneiddio yng Nghymru ac effeithlonrwydd ynni gwael yn cyfrannu at gostau sylweddol i GIG Cymru. Yn 2019, amcangyfrifodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod oerfel gormodol yn ychwanegu tua £41 miliwn i’r costau gofal iechyd blynyddol sy’n gysylltiedig â thai gwael, gan greu cyfanswm o bron £100 miliwn.42
Mae pobl hŷn mewn llety wedi’i rhentu yn wynebu risg benodol o brofi tlodi, gydag Independent Age yn adrodd bod 37% o rentwyr preifat hŷn yn canfod eu hunain mewn tlodi incwm cymharol ar ôl costau tai.43 Mae’n debyg y bydd y mater hwn yn dod yn llawer mwy cyffredin hefyd yn y blynyddoedd nesaf, gyda Chanolfan Gydweithredol y DU ar gyfer Tystiolaeth Tai (CaCHE) yn rhagweld y gallai 18% o bobl hŷn yng Nghymru fod yn byw mewn cartrefi wedi’u rhentu’n breifat erbyn 2040, cynnydd sylweddol o’r lefel bresennol o tua 4%.44
Fodd bynnag, nid yw bod yn berchen ar eiddo yn gwarantu diogelwch ariannol: yn ôl y Ganolfan Heneiddio’n Well, mae 19% o bobl 50 a hŷn sy’n berchen ar eu cartrefi eu hunain yn llwyr – tua 2.3 miliwn o unigolion yn y DU – yn byw mewn tlodi.45 Mae llawer o’r cartrefi hyn mewn cyflwr gwael, ac yn aml iawn nid oes gan berchnogion tai hŷn yr incwm i fforddi’r atgyweiriadau angenrheidiol.
Rhaid edrych ar dai drwy lens cwrs bywyd i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion pobl wrth iddynt heneiddio. Mae Gofal ac Atgyweirio Cymru yn nodi bod pobl hŷn yng Nghymru yn llawer mwy tebygol o fod yn byw mewn cartrefi hŷn, o ansawdd gwaeth nac mewn rhannau eraill o’r DU.46 Gyda 26% o dai yng Nghymru wedi’u hadeiladu cyn 1919, mae atgyweiriadau ac addasiadau yn hanfodol ar gyfer diogelwch a llesiant.
Mae’n bosibl y gall y rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig wynebu heriau ychwanegol o ganlyniad i ddibyniaeth ar fathau o danwydd oddi ar y grid drud, heb eu rheoleiddio fel olew ac LPG, sydd heb y diogelwch a roddir i ddefnyddwyr nwy a thrydan.
“Byddai’n braf pe byddai mwy o help i’r pensiynwyr hynny sydd ychydig dros y trothwy incwm ar gyfer credyd pensiwn ac sydd wedi colli eu taliad tanwydd gaeaf – yn arbennig y rhai sy’n ddibynnol olew gwresogi neu LPG ar gyfer gwresogi.”
Efallai y bydd llawer o bobl hŷn yn canfod eu hunain o dan anfantais yn ariannol wrth iddynt barhau i dalu am ynni ar ôl derbyn biliau yn hytrach na thrwy ddebyd uniongyrchol, dull sydd fel arfer yn golygu costau uwch. Yn 2024, roedd 71,886 o bobl yng Nghymru yn talu eu bil trydan drwy daliad chwarterol ac er nad yw’r data yn datgan yn glir faint ohonynt oedd yn 60+, mae’n debygol bod cyfran uchel o’r grŵp oedran hwn.47
Mae’r dull hwn yn ychwanegu straen ariannol, yn arbennig wrth i brisiau ynni gynyddu, ac mae’r sefyllfa’n cael ei gwaethygu o ganlyniad i gael gwared ar gymhellion fel disgownt talu’n brydlon, a oedd yn helpu defnyddwyr hŷn i reoli eu biliau mewn ffordd fwy fforddiadwy yn flaenorol. Mae hyn yn golygu bod systemau talu sydd wedi dyddio neu sy’n annheg a chostau ynni cynyddol yn dwysáu’r caledi a wynebir gan bobl hŷn, sy’n tynnu sylw at yr angen brys am fwy o bolisïau ynni cynhwysol a chefnogol.
Ar gyfer y bobl hŷn hynny nad ydynt ar-lein neu nad ydynt yn ddefnyddwyr hyderus y rhyngrwyd, gall fod yn anos hefyd i gymharu prisiau ynni a chael mynediad at y cytundebau gorau. Mae allgáu digidol yn creu costau ychwanegol, mater sy’n cael ei drafod ymhellach isod.
Mae tanwydd tlodi yn parhau i fod yn fater sylfaenol yng Nghymru, sy’n amddifadu pobl o’r gallu i gyflawni anghenion dyddiol sylfaenol. Wrth i dlodi ddwysáu ac wrth i gartrefi oer ddod yn anos eu gwresogi, mae llawer o unigolion hŷn yn teimlo bod cymdeithas yn anghofio amdanynt fwyfwy. Mae hyn yn eu gadael nid yn unig yn agored i effeithiau oerfel yn gorfforol, ond hefyd yn ynysig yn emosiynol ac yn anweledig.
Felly, nid yw mynd i’r afael â thai oer, aneffeithlon yng Nghymru yn fater o gyfforddusrwydd yn unig – mae’n rheidrwydd iechyd y cyhoedd sy’n effeithio ar lesiant, sefydlogrwydd ariannol a diogelwch rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
Heriau ychwanegol costau byw
“Mae yna gamsyniad cyffredin y gall pobl hŷn fyw ar bensiwn pitw, a’i bod yn oce i fod yn oer a pheidio gallu talu biliau tanwydd.”
Dŵr
Nid biliau ynni yn unig sy’n peri pryder ac yn cael effaith ar bobl hŷn. Mae biliau dŵr yn bryder cynyddol i lawer o bobl hŷn yng Nghymru. Yn wahanol i ddarparwyr ynni, ni ellir newid cyflenwyr dŵr, sy’n golygu mai opsiynau cyfyngedig sydd ar gael i aelwydydd i leihau costau. Fodd bynnag, mae cynlluniau fel Tariff HelpU Dŵr Cymru yn cynnig rhywfaint o ryddhad drwy gapio taliadau i aelwydydd incwm isel.48
Byddai cyflwyno tariff cymdeithasol ar gyfer biliau ynni a chyfleustodau yn cynnig cymorth ariannol hanfodol i bobl hŷn sy’n byw mewn tlodi, a’u galluogi i fforddio gwasanaethau hanfodol heb gyfaddawdu eu hiechyd neu eu llesiant.
Costau byw a phensiynau a chynilon annigonol
Wrth i gostau byw barhau i gynyddu’n llym, mae llawer o bobl hŷn yn canfod eu hunain mewn sefyllfa o bensiynau annigonol a chynilon sy’n lleihau, a’u bod yn cael anhawster i fforddio hanfodion bywyd pob dydd hyd yn oed.
Nododd ymchwil gan Brifysgol Loughborough a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2024 bod “Safonau byw yn y DU wedi aros yn yr unfan (OBR, 2023) ac mae gan gyfran gynyddol o bensiynwyr incwm sy’n is na’r lefel sydd ei hangen ar gyfer safon byw derbyniol, yr incwm sydd ei angen arnynt i fyw gydag urddas yn y DU.”49
Yn seiliedig ar yr ymchwil gan Brifysgol Loughborough, roedd y Safonau Byw Ymddeol yn nodi tair lefel o’r posibiliadau ar gyfer bywyd ar ôl ymddeol a’r lefelau o wariant blynyddol sydd eu hangen er mwyn gallu fforddio pob un.50 Mae bwlch sylweddol rhwng y safon ofynnol a Phensiynau sylfaenol a newydd y Wladwriaeth, hyd yn oed os ychwanegir Credyd Pensiwn at hyn.
Datblygwyd y Safon Isafswm Incwm (MIS) ar gyfer y Deyrnas Unedig yn 2024 gan Sefydliad Joseph Rowntree ac mae’n darparu meincnod ar gyfer yr hyn y mae angen i aelwydydd ei wario er mwyn cyrraedd safon byw gofynnol a derbyniol.51 Mae’r tebygolrwydd o fyw islaw’r Safon Isafswm Incwm i aelwydydd un pensiynwr wedi mwy na dyblu rhwng 2008/9 a 2022/23.
Felly, mae costau byw uwch yn creu heriau difrifol i bobl hŷn yng Nghymru, yn arbennig oherwydd bod llawer ohonynt yn dibynnu ar incwm sefydlog nad yw’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Mae pobl hŷn wedi pwysleisio i’r Comisiynydd yr effeithiau y mae’r costau byw, sydd wedi cynyddu’n gyflym yn y blynyddoedd diwethaf, yn eu cael ar eu bywydau, gan greu pwysau ariannol a chyfyngu’r dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw.
Nid yw’r Pensiwn y Wladwriaeth a’r budd-daliadau oedran pensiwn presennol yn galluogi i bob person hŷn gael safon byw diogel, iach a chyfforddus yn ddiweddarach yn eu bywydau, gan adael llawer mewn tlodi. Mae’n rhaid i lawer o bobl weithio am gyfnod hwy yn awr cyn y gallant ddechrau derbyn pensiwn y wladwriaeth, sy’n rhoi pwysau ychwanegol ar weithwyr hŷn – yn arbennig y rhai mewn swyddi corfforol heriol, y rhai â phroblemau iechyd neu’r rhai sy’n darparu gofal di-dâl.
“Am na fyddaf yn cael fy Mhensiwn y Wladwriaeth nes y byddaf yn 67 oed, mae’n rhaid i mi weithio er fy mod yn ofalwr cofrestredig ar gyfer fy ngŵr a fy mam hŷn.”
Fodd bynnag, er gwaethaf y ffaith bod angen i lawer o bobl hŷn barhau i weithio fwyfwy, maent yn aml yn wynebu rhwystrau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth oherwydd rhagfarn ar sail oedran a gwahaniaethu ar sail oedran, sy’n gallu ei gwneud yn anodd iddyn nhw barhau neu ddychwelyd i’r gweithle. Mae ffigurau hefyd yn awgrymu bod gweithwyr hŷn yng Nghymru yn wynebu mwy o rwystrau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth: yn ystod 2004-25, roedd y cyfraddau cyflogaeth ymhlith pobl 50-64 oed yn is yng Nghymru nac ym mhob rhan arall o’r DU.52
Allgáu digidol
Tlodi digidol yw un o brif ffactorau anghydraddoldeb ymhlith pobl hŷn yng Nghymru. Gall bod all-lein atal neu ei gwneud yn anos i gael mynediad at hawliadau ariannol, cyfleoedd cyflogaeth a dysgu gydol oes. Wrth i fwy o wasanaethau cyhoeddus, gofal iechyd, bancio a chysylltiadau cymdeithasol symud ar-lein, mae pobl heb fynediad digidol neu’r rhai â sgiliau neu hyder digidol cyfyngedig yn wynebu cael eu hallgáu a chaledi cynyddol.
Mae gan y bwlch digidol ganlyniadau pellgyrhaeddol. Mae’n cynyddu ynysigrwydd cymdeithasol (a drafodir yn fanylach isod), yn cyfyngu ar fynediad at gyfleoedd i arbed costau ac yn cyfyngu ar ymgysylltiad â theleiechyd a gwasanaethau llywodraeth ar-lein. Yn economaidd, mae pobl hŷn heb fynediad i’r rhyngrwyd yn aml yn talu mwy, yn methu â chymharu prisiau na manteisio ar fargeinion digidol yn unig.
“Mae’n golygu bod pobl fel [archfarchnad fawr] ond yn cynnig cynigion i bobl â ffonau clyfar.”
Mae pobl hŷn yn aml yn talu mwy am wasanaethau hanfodol yn syml am nad ydynt ar-lein. Heb fancio ar-lein, er enghraifft, gallai pobl hŷn wynebu ffioedd am gyfriflenni papur, mynediad cyfyngedig at gyfraddau cynilo cystadleuol, ac anhawster i reoli eu harian, yn arbennig wrth i ganghennau banciau ffisegol gau.
Datgelodd adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol 2023, “Left Out: How to tackle digital exclusion and reduce the poverty premium,” bod allgáu digidol yn y DU yn llawer gwaeth na’r amcangyfrifon swyddogol, gan effeithio ar tua 11% o aelwydydd gan ddwysáu’r argyfwng costau byw i unigolion ar incwm isel sy’n talu mwy am nwyddau sylfaenol a gwasanaethau oherwydd diffyg mynediad ar-lein.53
Datgelodd yr adroddiad hwn bod nifer yr aelwydydd heb fynediad i’r rhyngrwyd bron dwywaith yn uwch na’r amcangyfrifon swyddogol a ddarparwyd gan Ofcom, gan nodi bod yr heriau costau byw yn effeithio’n anghymesur ar bobl dlawd a phobl hŷn hefyd. Tynnodd yr adroddiad sylw at yr angen i weithredu ar fynediad at ddyfeisiau, cysylltiad digidol a gallu digidol, gyda ffocws ar bobl o oedran gweithio yn ogystal â phobl hŷn.
Mae mynd i’r afael â’r materion hyn nid yn unig yn fater o degwch – mae’n flaenoriaeth strategol i leihau costau yn yr hirdymor a gwella ansawdd bywyd.
Rhan allweddol o hyn yw lleihau’r costau sy’n aml yn gweithredu fel rhwystr i bobl hŷn allu mynd ac aros ar-lein, sy’n golygu bod cymorth ymarferol fel cynnig tariffau cymdeithasol, yn bwysig iawn.
Fodd bynnag, er gwaethaf eu posibiliadau, ni wneir defnydd digonol o dariffau cymdeithasol band eang. Dim ond tua 9.6% o aelwydydd cymwys ledled y DU sydd wedi cofrestru ar gyfer hyn ar hyn o bryd. Mae ymwybyddiaeth isel, prosesau cofrestru cymhleth a phryderon ynglŷn ag ansawdd y gwasanaeth yn atal llawer o bobl hŷn sy’n byw mewn caledi ariannol rhag elwa ar hyn.
Mae angen adolygiad cynhwysfawr a diwygio’r tariffau hyn ar fyrder, i sicrhau eu bod yn cyrraedd y rhai â’r angen mwyaf – yn arbennig pobl hŷn yng Nghymru sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol oherwydd y gost.
Ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd
Mae tystiolaeth amrywiol yn dangos y cysylltiadau rhwng tlodi ac ynysigrwydd cymdeithasol, sy’n cael ei ddiffinio fel absenoldeb cyswllt gyda phobl eraill, ac yn nodwedd gyffredin o unigrwydd, a all arwain at ystod o broblemau corfforol ac iechyd meddwl negyddol.
Mae llawer o bobl hŷn yn adrodd na allant fforddio gweithgareddau cymdeithasol sylfaenol na thrafnidiaeth i ymweld â ffrindiau a theulu. Mae gallu cyfyngedig i deithio’n rhydd yn lleihau cyfleoedd i gymdeithasu, gan gyfrannu at unigrwydd a dirywiad i lesiant meddyliol. Felly, mae tlodi yn cyfrannu hefyd at orbryder, iselder a theimladau o anobaith.
Mae ymchwil yn dangos y gall unigrwydd gynyddu’r risg o ddementia 50%, strôc 32% a chlefyd y galon 29%. Gall unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol gynyddu’r risg o farwolaeth gynnar hefyd o hyd at 26%.
Er bod cydnabyddiaeth gynyddol bod unigrwydd yn fater allweddol i bobl hŷn ac yn flaenoriaeth iechyd y cyhoedd – mae unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol wedi’u nodi fel un o themâu trawsbynciol Degawd o Heneiddio’n Iach y Cenhedloedd Unedig54– mae llawer o stigma o hyd ynghylch unigrwydd, a all weithredu fel rhwystr i bobl sy’n ceisio cymorth.
Blaenoriaethau pobl hŷn
Cynhaliodd y Comisiynydd waith ymchwil gyda phobl hŷn ym mis Ionawr a mis Chwefror 2025 er mwyn deall yn well yr heriau maent yn eu hwynebu, gan sicrhau bod polisïau a gwasanaethau cymorth yn cael eu hysbysu gan eu profiad bywyd a’u hanghenion.
Gofynnwyd i bobl hŷn “Beth yw’r mater unigol pwysicaf y dylai Comisiynydd Pobl Hŷn newydd i Gymru ganolbwyntio arno?” Cyfeiriwyd at faterion yn ymwneud â thlodi, yr argyfwng costau byw, prisiau ynni a’r penderfyniad i gael gwared ar y Lwfans Tanwydd Gaeaf dro ar ôl tro:
“Prisiau ynni a chostau uchel bwyd.”
“Gwneud yn siŵr bod pensiynwyr yn cael eu bwydo’n dda ac yn cadw’n gynnes yn y gaeaf.”
“Gwneud yn siŵr bod gan bobl hŷn ddigon o arian a darparu ar gyfer eu hunain, maent wedi gwneud cymaint i’r gymuned, pam y dylen nhw orfod brwydro.”
“Canolbwyntio ar y ffaith bod pobl hŷn sy’n derbyn ychydig mwy o arian gyda’u pensiwn ond nid oes ganddynt hawl i unrhyw fudd-daliadau fel credydau pensiwn a bwyleri newydd ac maen nhw’n parhau i orfod talu treth, ac maen nhw’n parhau i gael anhawster gyda biliau yn gyffredinol a dylid edrych i mewn i hyn er mwyn gwneud yn siŵr nad ydynt yn cael eu methu.”
Tirwedd polisi a chymorth
Yng Nghymru, mae pobl hŷn yn wynebu rhwystrau sylweddol wrth geisio cael gafael ar gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a’r DU, er gwaethaf y mentrau polisi sydd wedi’u dylunio i’w helpu. Yn bryderus, mae eraill sydd wedi cynyddu eu hincwm i’r eithaf yn parhau i gael trafferth, heb unrhyw lwybrau ar ôl ar gael iddynt.
Nid yw rhai pobl hŷn yn ymwybodol o’r help sydd ar gael neu maent yn teimlo stigma ynglŷn â hawlio hawliadau. Disgrifiwyd y broses o wneud cais am y rhain fel proses “hir, diflas ac ailadroddus,” sy’n achosi i’r ymgeiswyr deimlo’n “flinedig yn feddyliol” ac wedi digalonni.55 Mae’r rhai heb fynediad i’r rhyngrwyd, sydd â chyflyrau iechyd, neu â llythrennedd isel yn wynebu heriau hyd yn oed yn fwy.
Cyfeiriodd gwaith ymchwil gan Independent Age at natur gymhleth system nawdd cymdeithasol y DU a sut mae’n rhwystro llawer o bobl hŷn rhag derbyn y cymorth ariannol y mae ganddyn nhw hawl i’w gael, gan gynnwys Budd-dal Tai, Lwfans Gweini a Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.56
Yn yr un modd, mae adroddiad Policy in Practice “Missing Out 2025: £24 billion of support is unclaimed” yn awgrymu bod 7 miliwn a mwy o aelwydydd yn y DU yn colli allan ar gymorth, oherwydd tan-hawlio a chymhwysedd newydd.57 Yn ôl yr adroddiad, gall stigma, cymhlethdodau a diffyg ymwybyddiaeth gyfuno gan achosi i bobl fyw mewn amgylchiadau enbyd heb unrhyw syniad o ble i droi neu sut i gael help.
Fel y dangoswyd uchod, mae’r Credyd Pensiwn yn darparu cymorth ariannol hanfodol i bobl hŷn ar incwm isel a gall ddatgloi hawliadau ychwanegol fel gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Fodd bynnag, mae cymhwysedd wedi’i gyfyngu ar hyn o bryd i’r rhai ar incwm o dan tua £12,000 ar gyfer pensiynwyr unigol neu £18,000 ar gyfer cyplau. Mae hyn yn creu effaith ‘ymyl clogwyn’, lle gall hyd yn oed cynnydd bychan i incwm arwain at golli cymorth yn llwyr. Dylid cyflwyno system raddedig, fwy hyblyg, i sicrhau y gall mwy o bobl hŷn gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt.
Er gwaethaf ei bwysigrwydd, mae’r nifer o bobl sy’n hawlio Credyd Pensiwn yn parhau i fod yn rhy isel yng Nghymru. Cyn cyflwyno cyfyngiadau Llywodraeth y DU i’r Taliad Tanwydd Gaeaf yn 2024, amcangyfrifwyd bod tua 50,000 o bobl yn gymwys i gael y Credyd Pensiwn ond nad oeddent yn ei hawlio ar y pryd. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau hefyd wedi amcangyfrif yn y gorffennol nad yw tua thraean o’r rhai sydd â hawl i Gredyd Pensiwn yn ei dderbyn. Gall cymhlethdod y system fudd-daliadau – y rhai gwirioneddol a chanfyddedig – a’r diffyg canllawiau hygyrch hefyd fod yn rhwystrau sy’n atal pobl hŷn rhag derbyn y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo. Felly mae angen cymorth clir a chyson i helpu pobl hŷn i ddeall beth y gallent fod yn gymwys i’w dderbyn a llywio prosesau hawlio, a all fod yn ddryslyd ac yn ailadroddus, ac mewn rhai achosion gyfrannu at ofid emosiynol a chaledi ariannol (lle mae oedi diangen).
Mae angen i’r iaith a ddefnyddir wrth drafod cymorth ariannol symud oddi wrth ‘budd-daliadau’ i ‘hawliadau’, gan ddiddymu unrhyw derminoleg negyddol neu sy’n stigmateiddio.
O ganlyniad i’r newidiadau i’r Lwfans Tanwydd Gaeaf yn 2024, sy’n ei gyfyngu i’r bobl hŷn hynny sy’n derbyn Credyd Pensiwn yn unig, a wnaed ar fyr rybudd, roedd ymgyrchoedd yn canolbwyntio’n ddealladwy ar annog unrhyw berson hŷn a allai fod yn gymwys i wneud cais.
Mae cymhariaeth rhwng y cyfnod o’r cyhoeddiad a wnaed ar 29 Gorffennaf 2024 y byddai’r Taliad Tanwydd Gaeaf (WFP) yn destun prawf modd (29 Gorffennaf 2024 i 25 Mai 2025) gyda’r cyfnod cymharol flwyddyn ynghynt (31 Gorffennaf 2023 i 26 Mai 2024) yn dangos bod y DWP wedi gweld cynnydd o 99% ledled y DU yn nifer yr hawliadau Credyd Pensiwn na chawsant eu dyfarnu (h.y. eu gwrthod).58
Fodd bynnag, mae gan y dull hwn a’r niferoedd uchel dilynol o bobl hŷn a wnaeth hawliadau aflwyddiannus oblygiadau ar gyfer y dyfodol: mae pobl hŷn wedi disgrifio cael eu hatal rhag ceisio gwneud cais am hawliadau ariannol eraill, er enghraifft. Mae angen i negeseuon yn y dyfodol gan lywodraethau a rhanddeiliaid eraill ynghylch cefnogi pobl i wneud y mwyaf o’u hincwm adlewyrchu hyn, gan annog pobl i geisio eto lle bo’n berthnasol, neu dynnu sylw at y ffaith, er na fydd unigolion yn gymwys o bosibl ar gyfer un math o gymorth ariannol, y gallent fod yn gymwys ar gyfer eraill.
Er mwyn gwella mynediad a defnydd, rhaid diwygio’r system i’w gwneud yn haws i bobl hŷn hawlio. Dylid symleiddio ffurflenni cais a phrosesau a gwella dulliau cyfathrebu. Dylid gwneud defnydd mwy effeithiol o ddata hefyd er mwyn targedu pobl hŷn sy’n debygol o fod yn gymwys ond sy’n colli allan ar hyn o bryd. Oherwydd mai Llywodraeth y DU yn gyfrifol am hawliadau ariannol allweddol ar gyfer pobl hŷn, gan gynnwys y Credyd Pensiwn a Lwfans Gweini, dylai Llywodraeth y DU ddatblygu strategaeth gyda thargedau a chamau gweithredu clir i leihau rhwystrau a chynyddu’r nifer o bobl sy’n eu hawlio.
Mae ymwybyddiaeth yn isel hefyd ynghylch y mathau eraill o gymorth a all helpu aelwydydd ar incwm isel, er enghraifft disgowntiau a gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Er bod mentrau, fel ymgyrch ‘Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi’59 Llywodraeth Cymru yn bwysig er mwyn annog pobl hŷn i hawlio’r ystod lawn o hawliadau y gallent eu cael, mae angen dull gweithredu mwy rhagweithiol er mwyn nodi’r bobl hŷn hynny sy’n debygol o fod yn gymwys ac yna eu cynorthwyo i wneud cais.
Gydag incwm ar lefel sefydlog fel arfer ar ôl cyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth, yn aml bydd gan hawliadau ariannol rôl allweddol wrth ddarparu sefydlogrwydd. Ond nid yw pawb yn gymwys i gael Pensiwn llawn y Wladwriaeth ac mae yna wahaniaethau arwyddocaol rhwng gwerth Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol (‘hen’) a’r Pensiwn y Wladwriaeth newydd, fel yr esboniwyd yn gynharach yn yr adroddiad hwn.
Mae hyn yn effeithio ar fenywod yn arbennig, ac maent yn colli allan hawliau llawn yn aml oherwydd amser a dreulir yn gofalu am deulu neu’n gweithio’n rhan-amser.
Mae Adolygiad Oedran Pensiwn y Wladwriaeth Comisiwn Pensiwn Llywodraeth y DU , a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2025, yn darparu cyfle i ystyried y materion hyn a’r camau gweithredu sydd eu hangen er mwyn sicrhau y gall pob person hŷn gael safon byw gweddus.60
Hoffai’r Comisiynydd weld yr adolygiad yn cael ei ddefnyddio fel cyfle i archwilio sut y gallwn greu system gynaliadwy sy’n sicrhau bod gan bobl incwm digonol pan fyddant yn ymddeol. Dylai hyn edrych y tu hwnt i ddisgwyliad oes fel y sail ar gyfer penderfynu ar yr oedran cymwys ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth a rhoi llawer mwy o ffocws ar ffactorau eraill fel disgwyliad oes iach, sy’n effeithio ar ein gallu i weithio wrth i ni heneiddio.
Cyhoeddwyd Ymchwiliad Pwyllgor Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU ar Dlodi Pensiynwyr – “Pensioner Poverty: challenges and mitigations” hefyd ym mis Gorffennaf 2025.61 Yn hytrach na chanolbwyntio’n gul ar y newid i’r Taliadau Tanwydd Gaeaf, cynhaliwyd yr ymchwiliad i ‘dlodi pensiynwyr’ yn ehangach, gan edrych ar yr ystod o gostau y mae pobl hŷn yn eu hwynebu a digonolrwydd yr holl gymorth sydd ar gael. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod anghydraddoldebau iechyd wedi cynyddu, gyda phobl hŷn mewn ardaloedd difreintiedig yn fwy tebygol o fod yn byw gydag eiddilwch. Mae disgwyliad oes y bobl mwyaf tlawd wedi dirywio hefyd yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at dueddiadau pryderus yn y tymor hwy, sy’n bygwth tanseilio digonolrwydd pensiynau, gan nodi’n benodol y cynnydd yn nifer y bobl hŷn sy’n rhentu yn y sector preifat yn ystod eu hymddeoliad yn hytrach na bod yn berchen ar eu cartref eu hunain yn llwyr.
Mae’r adroddiad yn pwysleisio’r angen i gynyddu nifer y bobl sy’n hawlio hawliadau ariannol a’r angen am strategaeth genedlaethol i fynd i’r afael â thlodi pensiynwyr. Mae’n cynnwys cyfres o gasgliadau ac argymhellion, gan gynnwys cael gwared ar drothwy ‘ymyl dibyn’ y tapr Pensiwn Credyd ac mae’n galw ar Lywodraeth y DU i bennu strategaeth i leihau’r gyfran o bobl hŷn sy’n byw ar incwm is na’r swm sydd ei angen ar gyfer safon byw gofynnol, urddasol ac sy’n dderbyniol yn gymdeithasol yn y dyfodol, yn ogystal â lleihau anghydraddoldebau pensiynau.
Yn anffodus, ychydig iawn o gamau pendant a gynigiwyd yn ymateb Llywodraeth y DU ym mis Hydref 2025 ar lawer o argymhellion yr adroddiad.62
Mae cymorth brys hefyd yn rhan o’r dirwedd polisi a chymorth, gan gynnig cymorth hollbwysig i unigolion sy’n wynebu caledi neu argyfwng ariannol. Un ffurf ar hyn a gynigir yng Nghymru yw Cronfa Cymorth Dewisol (DAF) Llywodraeth Cymru, sy’n darparu dau fath o gymorth i bobl yn ystod cyfnodau o argyfwng ariannol:
- Taliadau Cymorth Brys (EAP): taliadau arian parod bychan i dalu am gostau hanfodol.
- Taliadau Cymorth Unigol (IAP): eitemau sylfaenol y cartref i helpu pobl i fyw’n annibynnol.
Er y gallai mynediad at y math hwn o gymorth wneud gwahaniaeth i lawer o bobl hŷn, mae’r nifer o bobl yn y grŵp oedran sy’n ei ddefnyddio yn anghymesur o isel. Mae’r ffigurau diweddaraf o (Mawrth 2025) yn dangos mai dim ond 598 o bobl 60–69 oed a 126 o bobl 70+ a dderbyniodd gymorth, o gymharu â 1,622 o bobl 50–59 oed.63
Mae hyn yn awgrymu nad yw pobl hŷn yn ymwybodol o’r gronfa neu maent wedi’u heithrio oherwydd ei meini prawf cymhwysedd cul, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr fod mewn caledi ariannol eithafol, fel peidio â chael arian ar gyfer bwyd na chyfleustodau.64 Nid yw llawer o bobl hŷn mewn angen yn bodloni’r diffiniad llym hwn o argyfwng, er eu bod yn cael anhawster pob dydd. Mae hyn yn codi cwestiwn ynghylch a yw’r meini prawf yn adlewyrchu’r sefyllfaoedd y mae pobl yn canfod eu hunain ynddynt heddiw, o ystyried y nifer fawr o unigolion sy’n ymddangos eu bod yn cael eu heithrio.
Mae’r ffigurau hyn hefyd yn dangos pam fod angen mathau eraill o gymorth i gefnogi pobl hŷn a allai fod yn agored i niwed yn ariannol. Er enghraifft, gellid sefydlu cronfa gydnerthedd bwrpasol yng Nghymru i gefnogi pobl hŷn sy’n agored i niwed yn ariannol ond sydd y tu allan i feini prawf y Gronfa Cymorth Dewisol ac nad ydynt yn gymwys i gael mathau eraill o gymorth fel Credyd Pensiwn. Mae hefyd yn bwysig bod arfer da yn cael ei gydnabod a’i gyflwyno’n ehangach lle bo’n briodol i greu’r effaith a’r cyrhaeddiad mwyaf.
Er enghraifft, mae platfform Traciwr Teuluoedd Incwm Isel (LIFT) Policy in Practice yn cael ei ddefnyddio yn awr gan dros hanner awdurdodau lleol Cymru er mwyn nodi, estyn allan a chefnogi preswylwyr yn rhagweithiol i hawlio’r hyn y mae ganddyn nhw hawl iddo, gan arwain at gannoedd o filoedd o bunnoedd yn cyrraedd pocedi pobl hŷn hyd yma.65 Byddai ehangu’r defnydd o’r offer hwn i bob awdurdod lleol yn galluogi i fwy o bobl hŷn gael eu nodi a’u cefnogi er mwyn iddyn nhw allu hawlio unrhyw hawliadau y maen nhw’n gymwys i’w cael.
Yn yr un modd, mae Gofal ac Atgyweirio Cymru hefyd yn cynnal gwiriadau budd-daliadau lles fel rhan o’u gwasanaethau cymorth cartref cyfannol ac yn 2023–24 fe wnaethant helpu cleientiaid i hawlio £12.5 miliwn o fudd-daliadau heb eu hawlio.66 Mae hyn yn dangos ymhellach effaith allgymorth a chymorth wedi’i gydlynu a’i dargedu.
Er bod yr enghreifftiau hyn o arfer da yn dangos bod rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud, mae llawer o waith ar ôl i’w wneud, fel y nodir isod.
Cyfrifoldeb a rennir, camau brys
Mae sicrhau nad yw pobl hŷn yng Nghymru yn agored i dlodi a chaledi yn gyfrifoldeb a rennir – un sy’n cwmpasu adrannau’r llywodraeth, awdurdodau lleol, darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, sefydliadau’r trydydd sector a chwmnïau preifat fel cwmnïau ynni neu delathrebu. Fel y dangosir yn yr adroddiad hwn, mae maint a chymhlethdod yr heriau’n galw am ymatebion rhagweithiol cydlynol.
Nid mater o bolisi yn unig yw hyn, mae’n fater o urddas, cydraddoldeb a chyfiawnder. Ni ddylid gadael pobl hŷn i lywio systemau tameidiog nac wynebu ansicrwydd ariannol ar eu pen eu hunain. Mae gan bob rhanddeiliad rôl i’w chwarae wrth ddileu rhwystrau, gwella mynediad at gymorth, a dylunio gwasanaethau sy’n diwallu anghenion pobl hŷn.
Mae’r adran ganlynol yn nodi argymhellion clir ar gyfer gweithredu gan asiantaethau unigol, sy’n tynnu sylw at y newid sydd ei angen a sut y gall pob sefydliad gyfrannu at amgylchedd mwy diogel a chefnogol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- Sefydlu Cronfa Cadernid ar gyfer pobl hŷn sy’n wynebu caledi ariannol difrifol nad ydynt yn gymwys i gael y Credyd Pensiwn na’r Gronfa Cymorth Dewisol.
- Cynyddu buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni, gan sicrhau bod mwy o bobl hŷn yn derbyn cymorth priodol yn gyflym, a bod llai ohonynt yn profi canlyniadau niweidiol sy’n cael eu hachosi gan dlodi tanwydd.
- Dyrannu cyllid i awdurdodau lleol er mwyn gwella’r nifer o bobl sy’n hawlio hawliadau ariannol, sy’n mynd y tu hwnt i weithgarwch codi ymwybyddiaeth a chanolbwyntio ar gymorth wedi’i deilwra a’i bersonoli, gan sicrhau nad yw cynnydd yn nifer y bobl sy’n manteisio ar gymorth fel Gostyngiad y Dreth Gyngor yn arwain at ddiffygion i awdurdodau lleol.
- Parhau i weithio i symleiddio hawliadau yng Nghymru.
- Trin cynhwysiant digidol fel blaenoriaeth strategol drwy ehangu’r mynediad at y rhyngrwyd a dyfeisiadau fforddiadwy, darparu hyfforddiant llythrennedd digidol wedi’i deilwra ar gyfer oedolion hŷn a sicrhau bod dewisiadau amgen nad ydynt yn rhai digidol yn parhau i fod ar gael ar gyfer gwasanaethau hanfodol.
- Lleihau rhwystrau ariannol at ofal iechyd i bobl hŷn, yn arbennig ar gyfer gwasanaethau hanfodol fel deintyddiaeth.
- Gweithio gydag awdurdodau lleol, cyflogwyr ac asiantaethau sgiliau i gynorthwyo unigolion sy’n dod yn anabl yn ddiweddarach mewn bywyd neu sydd angen symud o rolau corfforol i rai gweinyddol. Gall mesurau wedi’u teilwra, er enghraifft ail-hyfforddi, addasiadau yn y gweithle a chymorth ariannol helpu gweithwyr hŷn i aros mewn cyflogaeth, a byw bywydau annibynnol ac urddasol wrth i’w hanghenion newid.
Dylai Llywodraeth y DU:
- Mabwysiadu argymhellion Ymchwiliad y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau ar Dlodi
Pensiynwyr: heriau a mesurau lliniaru”, gan gynnwys gweithredu tapr Pensiwn Credyd er mwyn diddymu’r ‘ymyl clogwyn’.
- Sicrhau bod y broses o wneud cais am hawliadau ariannol yn cael ei symleiddio ymhellach gyda phobl hŷn sy’n debygol o fod yn gymwys i gael budd-daliadau ychwanegol yn cael eu hysbysu ynghylch hyn a, lle y bo’n bosibl, eu pasbortio i’w derbyn.
- Datblygu strategaeth gyda thargedau a chamau gweithredu clir i leihau’r rhwystrau a chynyddu’r nifer o bobl hŷn sy’n gwneud cais am hawliadau ariannol.
- Dynoleiddio prosesau ymgeisio, newid yr iaith o “fudd-daliadau” i “hawliadau” i leihau stigma a sicrhau y gall pobl hŷn gael mynediad at gymorth gydag urddas a rhwyddineb.
- Archwilio a sefydlu pa lefel o incwm sydd ei hangen ar gyfer ymddeoliad urddasol sy’n galluogi pobl i fyw a heneiddio’n dda a nodi cynllun manwl i gyflawni hyn.
- Defnyddio’r Comisiwn Pensiynau ac Adolygiad Oedran Pensiwn y Wladwriaeth fel cyfle i adeiladu system bensiwn gynaliadwy sy’n gwarantu incwm ymddeol digonol, gan symud y tu hwnt i ddisgwyliad oes fel yr unig faen prawf ar gyfer oedran pensiwn, blaenoriaethu disgwyliad oes iach a chydnabod effaith amodau gwaith gydol oes ar y gallu i weithio yn ddiweddarach mewn bywyd.
Awdurdodau Lleol
- Defnyddio data i nodi a chefnogi’n rhagweithiol pobl hŷn sy’n debygol o fod yn colli allan ar hawliadau ariannol, gan adeiladu ar waith gyda Policy in Practice yn ôl yr angen. Parhau i ddefnyddio hybiau cymunedol presennol, fel llyfrgelloedd a mannau croeso cynnes, i rannu gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i oedolion hŷn a’u cynorthwyo i gael mynediad at bob hawliad ariannol cymwys.
Cwmnïau Cyfleustodau
- Cyflwyno tariff cymdeithasol ar gyfer biliau ynni a dŵr i gynnig rhyddhad ariannol hanfodol i bobl hŷn mewn tlodi ledled Cymru, gan eu helpu i fforddio gwasanaethau hanfodol heb beryglu eu hiechyd na’u lles.
Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd
- Sicrhau bod tariffau cymdeithasol band eang wedi’u cyhoeddi’n glir, eu bod yn hygyrch ac effeithiol, oherwydd mae cysylltedd digidol yn gynyddol hanfodol ar gyfer cael mynediad at wasanaethau, cynnal cyswllt cymdeithasol a rheoli bywyd bob dydd.
Casgliad
Mae’r Comisiynydd yn credu y dylai pawb gael y cyfle i fyw’n dda a heneiddio gydag urddas, yn rhydd rhag tlodi ac ansicrwydd ariannol.
Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn cael anhawster i ddod â dau ben llinyn ynghyd, gydag incwm nad yw’n cwmpasu eu hanghenion hanfodol. O ganlyniad, yn aml nid ydynt yn gallu mwynhau bywyd iach, boddhaus a chyfforddus yn ddiweddarach yn eu bywyd. Mae nifer sylweddol yn colli allan ar y cymorth ariannol y maent yn gymwys i’w gael, ac mae gan Lywodraethau Cymru a’r DU gyfrifoldeb i sicrhau bod yr hawliadau hyn yn cyrraedd y rhai sydd eu hangen.
Mae tlodi ymhlith pobl hŷn yng Nghymru yn fater cymhleth ac sydd wedi ymwreiddio’n ddwfn, ac yn fater sydd wedi’i siapio gan ffactorau fel tai annigonol, costau ynni a thrafnidiaeth uwch, allgáu digidol a mynediad cyfyngedig at gymorth ariannol. Er gwaethaf ymdrechion i gynyddu’r nifer o bobl sy’n derbyn budd-daliadau a darparu cymorth wedi’i dargedu, mae llawer o unigolion hŷn yn parhau i wynebu caledi ariannol, ynysigrwydd cymdeithasol a rhwystrau at fyw gydag urddas ac annibyniaeth.
Mae’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad hwn yn amlygu’r angen brys am weithredu cydgysylltiedig ar draws llywodraethau, awdurdodau lleol ac eraill. Trwy fuddsoddi mewn mesurau ataliol, gwella mynediad at hawliadau a dylunio gwasanaethau sy’n adlewyrchu profiadau bywyd pobl hŷn, gall Cymru symud ymlaen i fod yn gymdeithas fwy cyfartal a thosturiol.
Nid mater o degwch yn unig yw sicrhau bod pobl hŷn yn cael cymorth i fyw’n ddiogel, a chyda sicrwydd ariannol – mae’n adlewyrchiad o’n gwerthoedd fel cenedl ac yn ymrwymiad i heneiddio’n dda.
Cyfeiriadau
- Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (2025) Heneiddio yng Nghymru: Cipolwg ar Brofiadau Pobl Hŷn. Ar gael yn: https://comisiynyddph.cymru/adnodd/heneiddio-yng-nghymru-cipolwg-arbrofiadau-pobl-hyn/
- Joseph Rowntree Foundation (2025) Poverty in Wales 2025. Ar gael yn: https://www.jrf.org.uk/ poverty-in-wales-2025
- Independent Age (2024) Keys to the future: Projecting housing tenure and poverty rates in later life. Ar gael yn: https://www.independentage.org/policy-and-research/keys-to-future-report 4 ibid.
- Joseph Rowntree Foundation (2025) Poverty in Wales 2025. Ar gael yn: https://www.jrf.org.uk/ poverty-in-wales-2025
- ibid
- ibid
- Llywodraeth Cymru (2023) Amcangyfrifon wedi’u modelu ar gyfer tlodi tanwydd yng Nghymru. (Mehefin 2023). Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/tlodi-tanwydd-dangosfwrdd-rhyngweithiol 9 ibid
- ONS (2023) Winter mortality in England and Wales https://www.ons.gov.uk/ peoplepopulationandcommunity/birthsdeathsandmarriages/deaths/bulletins/ excesswintermortalityinenglandandwales/2021to2022provisionaland2020to2021final
- Ofgem (2025) Changes to energy price cap between 1 July and 30 September 2025. Ar gael yn: https://www.ofgem.gov.uk/news/changes-energy-price-cap-between-1-july-and-30september-2025
- Care and Repair Cymru (2025) Older People in Wales: Poverty in Winter. Ar gael yn: https:// org.uk/winter-report/
- Pensioner Poverty: challenges and mitigations – Oral evidence – 12 May 2025: https:// parliament.uk/event/24198
- Stats Wales (2024) Pensioners in relative income poverty by age of the head of household. March 2025. Ar gael yn: https://statswales.gov.wales/Catalogue/Community-Safety-and-SocialInclusion/Poverty/pensioners/pensionersinrelativeincomepoverty-by-ageoftheheadofhousehold
- Joseph Rowntree Foundation (2025) Poverty in Wales 2025. Ar gael yn: https://www.jrf.org. uk/poverty-in-wales-2025
- Llywodraeth Cymru (2023) Arolwg Cenedlaethol Cymru Ebrill 2022 i Fawrth 2023: https:// llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-dangosydd-canlyniadau
- Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (2024)Tlodi cudd mewn cymunedau yng Nghymru Ar gael yn: https://wcpp.org.uk/cy/sylwebaeth/tlodi-cudd-mewn-cymunedau-yng-nghymru 18 ibid
- Sefydliad Bevan (2022) The rural cost of living crisis. Ar gael yn: https://www. org/views/the-rural-cost-of-living-crisis/
- Joseph Rowntree Foundation (2025) Poverty in Wales 2025. Ar gael yn: https://www.jrf.org. uk/poverty-in-wales-2025
- ibid
- Sefydliad Bevan (2025) The impact of disability benefit reforms in Wales. Ar gael yn: https:// bevanfoundation.org/resources/impact-of-disability-benefit-reforms-in-wales/
- Gofalwr Cymru (2023) State of Caring in Wales: The impact of caring on finances in Wales. Ar gael yn: https://www.carersuk.org/reports/state-of-caring-survey-2023-the-impact-of-caringon-finances/
- Llywodraeth Cymru (2021) Strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl. Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/strategaeth-ar-gyfer-gofalwyr-di-dal-html
- Gofalwr Cymru (2023) State of Caring in Wales: The impact of caring on finances in Wales. Ar gael yn: https://www.carersuk.org/reports/state-of-caring-survey-2023-the-impact-of-caringon-finances/
- Llywodraeth DU (2025) Pensions calculators. Ar gael yn: https://www.gov.uk/state-pension/ how-much-you-get & https://www.gov.uk/new-state-pension/what-youll-get
- Adran Gwaith a Phensiynau (2024) State Pension. Ar gael yn: https://stat-xplore.dwp.gov.uk/ webapi/jsf/tableView/tableView.xhtml
- ibid
- Llywodraeth DU (2025) Millions of pensioners to receive Winter Fuel Payments from today. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/news/millions-of-pensioners-to-receive-winter-fuelpayments-from-today
- Adran Gwaith a Phensiynau (2025) Stat-Xplore. Ar gael yn: https://stat-xplore.dwp.gov.uk/ webapi/jsf/tableView/tableView.xhtml
- Sefydliad Bevan (2025) A snapshot of poverty in autumn 2025 Ar gael yn: https://www. org/resources/a-snapshot-of-poverty-in-autumn-2025/
- Mae pob dyfyniad yn yr adran hon yn ymatebion i ymgynghoriadau ac ymchwil a gynhaliwyd gan neu ar ran y Comisiynydd
- Llywodraeth DU (2017) Impact assessment: Helping older people maintain a healthy diet: A review of what works. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/publications/helping-olderpeople-maintain-a-healthy-diet-a-review-of-what-works/helping-older-people-maintain-a-healthydiet-a-review-of-what-works
- Llywodraeth Cymru (2024) Trafnidiaeth (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2022 i Fawrth 2023. Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/trafnidiaeth-arolwg-cenedlaethol-cymru-ebrill-2022-ifawrth-2023-html
- Age Cymru (2024) What Matters to You? Survey Results. Ar gael yn: https://www.agecymru.
- wales/siteassets/documents/policy/annual-survey/age-cymru—what-matters-to-you–august-2024.pdf
- Llywodraeth Cymru (2025) Datganiad Ysgrifenedig: Tlodi Tanwydd. Ar gael yn: https://www. cymru/datganiad-ysgrifenedig-tlodi-tanwydd-0
- Care and Repair (2023) The State of Older People’s Housing in Wales. Ar gael yn: https:// org.uk/housing2023/
- Arolwg Cyflwr Tai Cymru (prif ganlyniadau): Ebrill 2017 i Mawrth 2018. Ar gael yn: https:// llyw.cymru/arolwg-cyflwr-tai-cymru-prif-ganlyniadau-ebrill-2017-i-mawrth-2018
- Age UK (2022) Poverty in later life. Ar gael yn: https://www.ageuk.org.uk/siteassets/ documents/reports-and-publications/reports-and-briefings/money-matters/poverty-in-later-lifebriefing-january-2022-.pdf
- Care and Repair Cymru (2024) Older people in Wales: Poverty in Winter. Ar gael yn: https:// org.uk/winter-report/
- Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor (2024) Cold homes in Wales. Ar gael yn: https://phwwhocc.co.uk/wp-content/uploads/2024/11/Cold-Homes-in-Wales-is-the-satisfactoryheating-regime-appropriate-for-health-and-well-being.pdf
- S, Garrett H, Woodfine L, Watkins G, Woodham A. (2019). The full cost of poor housing in Wales, Building Research Establishment Ltd, Public Health Wales, Llywodraeth Cymru. Ar gael yn: https://phwwhocc.co.uk/wp-content/uploads/2020/07/The_Cost_of_Poor_Housing_report_ English_final2-1.pdf
- Independent Age (2023) Hidden renters: The unseen faces of the rising older rental wave. Ar gael yn: https://www.independentage.org/hidden-renters-report
- Williams, R. & Robinson, D. (2024) Projections of housing tenure and poverty in older age in Great Britain, 2022-2040. University of Sheffield. Ar gael yn: https://housingevidence.ac.uk/wpcontent/uploads/2024/07/IA-Report-FINAL-19.07.pdf
- Centre for Ageing Better (2025) Homes: The State of Ageing 2025. Ar gael yn: https://ageingorg.uk/homes-state-ageing-2025
- Care and Repair (2023) The State of Older People’s Housing in Wales. Ar gael yn: https:// org.uk/housing2023/
- Ffigurau a gyflenwyd gan Ofgem
- Dŵr Cymru. HelpU Tariff: https://www.dwrcymru.com/en/help-with-your-bills/helpu-tariff
- Loughborough University – Retirement living standards in the UK in 2023 – February 2024. Ar gael yn: https://www.lboro.ac.uk/media/media/research/crsp/downloads/Retirement%20 living%20standards%20in%20the%20UK%20in%202023_FINAL.pdf
- Pensions and Lifetime Savings Association (2023), Retirement Living Standards https://www.retirementlivingstandards.org.uk/
- Joseph Rowntree Foundation (2024) A Minimum Income Standard for the UK. Ar gael yn: https://www.jrf.org.uk/a-minimum-income-standard-for-the-united-kingdom-in-2024
- Llywodraeth DU (2024) Economic labour market status of individuals aged 50 and over, trends over time: September 2024. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/ statistics/economic-labour-market-status-of-individuals-aged-50-and-over-trends-over-timeseptember-2024/economic-labour-market-status-of-individuals-aged-50-and-over-trends-overtime-september-2024
- Centre for Social Justice (2023) Left Out: How to tackle digital exclusion and reduce the poverty premium. Ar gael yn: https://www.centreforsocialjustice.org.uk/library/left-out
- World Health Organization (2025) UN Decade of Health Ageing. Ar gael yn: https://www.who. int/initiatives/decade-of-healthy-ageing
- Independent Age (2025) Jumping through hoops – Reducing the complexity of the social security system for older people. Ar gael yn: https://www.independentage.org/policy-andresearch/jumping-through-hoops
- ibid
- Policy in Practice (2025) Missing Out 2025: £24 billion of support is unclaimed. Ar gael yn: https://policyinpractice.co.uk/wp-content/uploads/2025/09/MO25-24bnUnclaimedPolicyinPractice-Sept25.pdf
- Department for Work and Pensions (2025) Pension Credit applications and awards. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/statistics/pension-credit-applications-and-awards-may-2025/ pension-credit-applications-and-awards-may-2025
- Llywodraeth Cymru Claim What’s Yours Campaign: https://www.gov.wales/claim-whatsyours-campaign
- Llywodraeth DU (2025) Statement on Launch of the Pensions Commission and the State Pension age Review. Ar gael yn: https://questions-statements.parliament.uk/written-statements/ detail/2025-07-21/hcws859
- Work and Pensions Committee (2025) Pensioner Poverty: challenges and mitigations. Ar gael yn: https://questions-statements.parliament.uk/written-statements/detail/2025-07-21/ hcws859
- Llywodraeth DU (2025) Pensioner Poverty: challenges and mitigations: Government
- Response. Ar gael yn: https://committees.parliament.uk/publications/50103/documents/270214/ default/
- Llywodraeth Cymru (2025) Discretionary Assistance Fund by Age – Monthly data (April 2023
- Onwards). Ar gael yn: https://statswales.gov.wales/Catalogue/Community-Safety-and-SocialInclusion/discretionary-assistance-fund/discretionaryassistancefund-by-age-monthly
- Llywodraeth Cymru (2024) Guidance on the Discretionary Assistance Fund (DAF). Ar gael yn: https://www.gov.wales/discretionary-assistance-fund-daf/eligibility
- Policy in Practice (2025) Llywodraeth Cymru launches country wide benefit take up campaign to improve living standards. Ar gael yn: https://policyinpractice.co.uk/blog/welshgovernment-launches-country-wide-benefit-take-up-campaign-to-improve-living-standards/
- Care and Repair Cymru (2024) Tystiolaeth Ysgrifenedig i Ymchwiliad Pwyllgor Trysorlys Senedd y DU ar Dderbyn Arian Parod. Ar gael yn: https://committees.parliament.uk/ writtenevidence/131576/pdf/