Angen Help?

Pennaeth Cyllid

Image of Pound coins and banknotes money currency of United Kingdom

Pennaeth Cyllid

Cyflog: £46,005 i £52,774 y flwyddyn (pro rata)

Math o Gontract: Parhaol / Secondiad 24 mis ar gael

Awr: 22 awr yr wythnos

Lleoliad: Hybrid (Swyddfa ym Mae Caerdydd)

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â’n tîm bach mewn rôl bwysig sef Pennaeth Cyllid, gan fod yn gyfrifol am gynnal llywodraethiant a rheolaeth ariannol ardderchog swyddfa’r Comisiynydd. 

Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Uwch Dîm Arwain i sicrhau cynaliadwyedd a chydymffurfiaeth ariannol.

Bydd gennych gymhwyster cydnabyddedig mewn cyfrifeg proffesiynol a phrofiad o reoli system gyllid effeithiol.

I gael sgwrs anffurfiol gyda Kelly Davies (Prif Swyddog Gweithredu) i drafod y rôl, cysylltwch â: recriwtio@comisynyddph.cymru

Sut i wneud cais

Darllenwch y disgrifiad swydd a manyleb y person yn ofalus gan fod y rhain yn amlinellu cyfrifoldebau a disgwyliadau’r rôl.

Ystyriwch sut mae eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch profiad yn cyd-fynd â’r hyn rydyn ni’n chwilio amdano, a meddyliwch am enghreifftiau penodol sy’n dangos eich galluoedd.

 Anfonwch eich ffurflen gais wedi’i llenwi at recruitment@olderpeople.wales neu drwy’r post i Recriwtio, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL erbyn Dydd Sul 29 Mehefin 23.59.

Mae croeso i chi wneud cais yn Gymraeg, yn Saesneg, neu yn y ddwy iaith. Ni fydd cais sy’n cael ei gyflwyno yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais sy’n cael ei gyflwyno yn Saesneg. Gellir cyfieithu eich cais i’r Gymraeg neu i’r Saesneg os oes angen.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais, ond bod gennych chi gwestiwn neu fod arnoch chi eisiau trafod y rôl ymhellach? Cysylltwch â ni ar: recruitment@olderpeople.wales

Rydyn ni eisiau i’n gweithlu gynrychioli pob carfan o gymdeithas yn well ar bob lefel yn y sefydliad. Felly, rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan amrywiaeth eang o bobl, o bob cefndir, sydd â llawer o wahanol sgiliau, profiadau a safbwyntiau.

Mae’r Comisiynydd yn gyflogwr sydd wedi ymrwymo i fod yn Hyderus o ran Anabledd ac sy’n mabwysiadu’r model cymdeithasol o anabledd. Mae’r Comisiynydd wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau yn y broses recriwtio er mwyn i ymgeiswyr sydd ag amhariad neu gyflwr iechyd, sy’n niwroamrywiol, neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) allu perfformio ar eu gorau.

Rydym yn gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, ac i unrhyw ymgeiswyr sydd ag amhariad neu gyflwr iechyd, sy’n niwrowahanol, neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain sy’n gwneud cais am y swydd ac sy’n bodloni ei meini prawf hanfodol.

Sut byddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth

Mae’r Comisiynydd wedi ymrwymo i barchu ac i ddiogelu’r wybodaeth bersonol rydych yn ei rhannu â ni. Mae manylion llawn sut byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth a rowch chi i ni ar gael yn ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Recriwtio.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges