Angen Help?

PAPUR BRIFFIO: Gwahaniaethu ar sail Oedran a Cham-drin Pobl Hŷn

PAPUR BRIFFIO: Gwahaniaethu ar sail Oedran a Cham-drin Pobl Hŷn

Cyflwyniad

Swyddogaeth Comisiynydd Pobl Hŷn annibynnol Cymru (OPCW) yw amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn sy’n byw yng Nghymru. Mae atal cam-drin pobl hŷn o bob math yn flaenoriaeth
allweddol i’r Comisiynydd Pobl Hŷn.

Yn ddiweddar, nododd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) fod gwahaniaethu ar sail oedran yn “ffactor risg mawr” wrth gam-drin pobl hŷn 1. Os ydym am atal a stopio cam-drin pobl hŷn yng Nghymru, rhaid inni fynd i’r afael â’r gwahaniaethu ar sail oedran sy’n sail i gymaint o’r cam-drin hwnnw ac yn ei ganiatáu.

Mae’r papur briffio hwn wedi’i lywio gan drafodaethau gyda grŵp bach o gydweithwyr o’r byd academaidd, ac o’r trydydd sector arbenigol. Mae’n dechrau gyda throsolwg byr o gam-drin pobl hŷn; ac yna adran ar ‘wahaniaethu ar sail oedran’ (yn archwilio beth a olygir gan wahaniaethu ar sail oedran ac archwilio’r ffyrdd y mae gwahaniaethu ar sail oedran yn cael ei amlygu o fewn cymdeithas). Mae’r papur briffio wedyn yn archwilio’r cysylltiadau rhwng gwahaniaethu ar sail oedran a cham-drin pobl hŷn ac yn ystyried rôl gwahaniaethu ar sail oedran wrth lunio ymatebion sefydliadol i’r cam-drin hwnnw. Yn yr adrannau olaf mae rhai cwestiynau adfyfyriol, i annog ymarferwyr a sefydliadau i feddwl yn ddyfnach am rai o’r materion a godwyd. Mae rhai adnoddau defnyddiol a darllen pellach wedi’u cynnwys hefyd i annog adfyfyrio ar y materion a godwyd yn fanylach.

Cam-drin Pobl Hŷn

Gellir diffinio cam-drin pobl hŷn fel “gweithred unigol neu ailadroddus, neu ddiffyg gweithredu priodol, sy’n digwydd o fewn unrhyw berthynas lle mae disgwyliad o ymddiriedaeth, sy’n achosi
niwed neu drallod i berson hŷn”2.

Gall pobl hŷn brofi cam-drin o fewn cyd-destun sawl math o berthnasoedd, a gallai camdriniwr fod yn “bartner, plentyn neu berthynas arall, ffrind neu gymydog, gweithiwr gofal cyflogedig neu
wirfoddol, gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol neu weithiwr proffesiynol arall”3. Gall cam-drin ddigwydd naill ai yng nghartref y person hŷn ei hun neu mewn lleoliad arall (fel ysbyty neu gartref
gofal) 4.

Mae pobl hŷn yn profi’r un mathau o gam-drin â’r rheini mewn grwpiau oedran iau, gan gynnwys cam-drin corfforol, emosiynol, ariannol a rhywiol. Gall cam-drin hefyd gynnwys esgeulustod, lle
mae gofalwr yn methu â diwallu anghenion person hŷn. Mae rheolaeth orfodol fel arfer yn elfen o’r holl fathau eraill o gam-drin a restrir. Mae rheolaeth orfodol yn digwydd o fewn perthnasoedd “sy’n gysylltiedig yn bersonol” a gellir ei ddiffinio fel ymddygiad sy’n arwain at berson yn teimlo dan reolaeth, yn ddibynnol, yn ynysig, wedi’i fychanu, ac yn ofnus5.

Mae llawer o ffactorau a all arwain at gam-drin pobl hŷn. Gall rhai o’r ffactorau hyn fod yn gysylltiedig â newid mewn amgylchiadau wrth i berson dyfu’n hŷn. Pan fydd pobl hŷn yn teimlo’n unig, er enghraifft, mae mwy o risg o gael eu cam-drin 6. Er y gall salwch fel dementia effeithio ar bobl iau, mae’r tebygolrwydd y bydd person yn datblygu dementia yn cynyddu gydag oedran 7. Mae pobl hŷn sy’n byw gyda dementia yn aml mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin, yn enwedig pan fyddant yn dibynnu ar eraill am ofal 8. Mae hefyd yn bwysig cydnabod, fodd bynnag, y gallai rhai pobl hŷn fod wedi byw mewn perthynas gamdriniol ers blynyddoedd lawer; mae hwn yn bwynt a archwilir ymhellach isod.

Er ei bod yn amhosibl gwybod yr union niferoedd, credir bod miloedd lawer o bobl hŷn sy’n byw yng Nghymru yn profi cam-drin. Mae data yn ymwneud â phrofiadau pobl hŷn o gam-drin yn aml yn anghyson ac yn groes. O ganlyniad, mae pobl hŷn yn aml yn ‘anweledig’ o ran llunio polisïau a datblygu gwasanaethau 9. Nid yw llawer o bobl hŷn yn datgelu eu profiadau o gam-drin oherwydd, er
enghraifft, eu bod yn dymuno cadw eu perthynas â’r cyflawnwr; yn enwedig os yw’r person hwnnw’n aelod o’r teulu, neu os yw’n unig neu’n ynysig yn gymdeithasol 10. Nododd adroddiad ‘Safe Lives’ a
gyhoeddwyd yn 2016 fod pobl hŷn, ar gyfartaledd, yn goddef cam-drin am ddwywaith mor hir â’r rhai o fewn grwpiau oedran iau cyn ceisio cymorth neu gefnogaeth. 11. Mae ymchwil a wnaed gan OPCW yn dangos y gall datgelu cam-drin fod yn arbennig o heriol i rai grwpiau o bobl hŷn. Mae ymchwil gan y Comisiynydd yn dangos bod y gall dynion hŷn fod yn gyndyn iawn i roi gwybod am gam-drin oherwydd normau rhywedd ynghylch gwrywdod a hunanddibyniaeth12. Mae pobl hŷn Du, Asiaidd ac Ething Leiafrifol, neu’r rhai o gymunedau LHDTC+, hefyd yn aml yn wynebu heriau ychwanegol wrth brofi cam-drin; efallai eu bod yn fwy amharod i dderbyn cymorth oherwydd profiadau negyddol yn y
gorffennol wrth ymdrin â gwasanaethau cyhoeddus 13. Mae pobl hŷn o fewn y gymuned LHDTC+ wedi adrodd, er enghraifft, dod ar draws gweithwyr proffesiynol sydd â dealltwriaeth gyfyngedig o gam-drin o fewn perthnasoedd LHDTC+. Mae’r diffyg dealltwriaeth hwn wedi cyfyngu ar eu mynediad at ymyrraeth effeithiol 14.

Gall cam-drin gael canlyniadau dinistriol i berson hŷn. Gall pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin gynnal lefelau uchel o anafiadau corfforol; gall rhai hyd yn oed farw oherwydd cael eu cam-drin 15. Rhwng Mawrth 2020 a Mawrth 2021, cofnododd y Prosiect Dynladdiad Domestig 16 gyfanswm o 145 o farwolaethau a ddosbarthwyd fel lladdiadau teuluol oedolion neu laddiadau partner agos (40 o ddynladdiadau teuluol oedolion a 105 o ddynladdiadau partner agos). O’r 145 o farwolaethau hyn,
roedd 36 (25%, un o bob pedwar) o ddioddefwyr yn 65 oed a hŷn17. Mae cam-drin hefyd yn arwain at ganlyniadau emosiynol sylweddol i berson hŷn, a all brofi teimladau o gywilydd, gwarth, ofn, pryder, straen ac iselder. 18 19.

Gwahaniaethu ar sail Oedran

Mae oedran yn un o’r naw nodwedd warchodedig na ellir eu defnyddio fel rheswm i wahaniaethu yn erbyn rhywun o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 20. Eto i gyd, mae gwahaniaethu ar sail
oedran (y stereoteipio, rhagfarn a/neu wahaniaethu yn erbyn pobl ar sail eu hoedran neu eu hoedran canfyddedig21), yn parhau i fod yn ffurf ar ragfarn “a dderbynnir yn gymdeithasol” i raddau
helaeth22. Un o’r rhesymau dros dderbynioldeb gwahaniaethu ar sail oedran yw ei fod yn cael ei weld yn aml yn ‘dipyn o hwyl ddiniwed’. Meddyliwch am y llu o gardiau pen-blwydd, sy’n defnyddio delweddau negyddol o heneiddio fel ffurf ar hiwmor, er enghraifft. Y neges o fewn y cardiau hyn yw bod henaint yn rhywbeth i’w osgoi; mae pobl hŷn yn aml yn cael eu portreadu fel rhai “cysglyd, ceintachlyd, a gwan” 23. Mae’r mathau hyn o gardiau ym mhobman ac – er efallai nad ydym yn sylweddoli hynny – mae’r negeseuon sydd ynddynt yn dylanwadu ar sut mae pobl yn meddwl.

Mae’r cyfryngau hefyd yn dylanwadu ar y ffordd y mae pobl yn meddwl am henaint, gan bortreadu pobl hŷn mewn goleuni negyddol yn aml 24. Yma, yn hytrach na dathlu’r ffaith ein bod yn byw’n hirach, mae henaint yn cael ei ddarlunio fel cyfnod o eiddilwch, dirywiad, a dibyniaeth. Mae’r naratif ynghylch heneiddio’r boblogaeth yn un o ‘argyfwng’, gyda phobl hŷn yn cael eu disgrifio mewn ffyrdd sy’n awgrymu eu bod yn faich neu’n straen ar gymdeithas (nid yw termau fel “bom amser demograffig” 25 yn anghyffredin). Mae portreadau o’r fath yn dweud wrthym fod mynd yn hŷn yn rhywbeth i’w ofni. Mae cyflwyno pob person hŷn yn y fath ffyrdd, wrth gwrs, yn annheg iawn; mae’n methu â chydnabod y gwahaniaethau rhwng pobl hŷn, a’u cyfraniadau amhrisiadwy i gymdeithas trwy, er enghraifft, ddarparu gofal di-dâl neu gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddol 26.

Mae gwahaniaethu ar sail oedran yn gymaint o ran o gymdeithas bob dydd, fel ei bod yn aml yn gallu bod yn anodd ei adnabod. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae gan un o bob dau o bobl yn fyd-eang agweddau sy’n gwahaniaethu ar sail oedran yn erbyn pobl hŷn 27. Ni fyddai’r un ohonom yn hoffi meddwl ein bod ni’n gwahaniaethu ar sail oedran – ac eto wrth archwilio’r hyn sydd wrth wraidd rhai o’r ymadroddion bob dydd y gallai pobl eu defnyddio (“Allwch chi ddim dysgu triciau newydd i hen gi,”, er enghraifft, neu “Dwi’n cael moment oedrannus”, neu “Rydych chi’n edrych yn dda ar gyfer eich oedran”), mae’r graddau y mae agweddau a rhagdybiaethau negyddol tuag at oedran hŷn wedi’u hamsugno a’u dylanwad yn amlwg.

Ymhell o fod yn ddiniwed, mae gwahaniaethu ar sail oedran yn gwadu eu hawliau dynol sylfaenol i bobl hŷn28 ac yn cael effeithiau negyddol sylweddol ar lesiant corfforol ac emosiynol 29. Yn ôl
Sefydliad Iechyd y Byd, mae gwahaniaethu ar sail oedran yn bodoli ar dair lefel: sefydliadol, rhyngbersonol neu hunangyfeiriedig” 30. Mae gwahaniaethu ar sail oedran sefydliadol yn cyfeirio at
gyfreithiau, polisïau ac arferion sefydliadau, sy’n rhoi pobl o dan anfantais yn systematig oherwydd eu hoedran. Mae gwahaniaethu ar sail oedran rhyngbersonol yn codi yn y rhyngweithiadau rhwng
unigolion. Mae gwahaniaethu ar sail oedran hunangyfeiriedig yn digwydd pan fyddwn yn mewnoli agweddau a rhagdybiaethau negyddol ar sail oedran ac yn cyfyngu ar ein cyfleoedd ein hunain31.

Gwelir niwed gwahaniaethu ar sail oedran yn gliriach wrth ystyried sut mae’n gweithredu ar y lefelau gwahanol hyn. Cymerwch, er enghraifft, y mater o gyflogaeth. Pan fydd gwahaniaethu ar
sail oedran sefydliadol yn bresennol mewn arferion recriwtio a chyflogi, mae llai o bobl hŷn yn cael gwaith. Gall gwahaniaethu ar sail oedran olygu bod y bobl hŷn hynny sydd mewn cyflogaeth yn
destun sylwadau sy’n gwahaniaethu ar sail oedran yn ystod eu rhyngweithio ag eraill (gall eraill ragdybio gallu person i wneud ei swydd, ar sail ei oedran). Mae pobl hŷn sy’n mewnoli’r sylwadau
sy’n gwahaniaethu ar sail oedran hyn, yn debygol o golli hyder yn eu gallu eu hunain. Gallant brofi teimladau o straen a gorbryder, sydd wedyn yn niweidiol i’w llesiant emosiynol32.

Mae gwahaniaethu ar sail oedran yn bodoli mewn sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol a gall arwain at niwed corfforol yn ogystal ag at niwed emosiynol. Dengys ymchwil, oherwydd
gwahaniaethu ar sail oedran sefydliadol, nad yw pobl hŷn yn cael cynnig mynediad cyson i’r un triniaethau gofal iechyd â phobl iau â’r un cyflyrau 33. Oherwydd teimladau mewnol o wahaniaethu
ar sail oedran, efallai na fydd pobl hŷn yn herio anghydraddoldebau o ran mynediad at ofal iechyd a gallant deimlo bod y rheini sy’n iau yn fwy haeddiannol o dderbyn triniaeth a chymorth. Mae’n bwysig cydnabod bod gwahaniaethu ar sail oedran yn aml yn croestorri ac yn rhyngweithio â mathau eraill o stereoteipiau, rhagfarn a gwahaniaethu, gan gynnwys gwahaniaethu ar sail galluogrwydd, rhywiaeth, a hiliaeth. Mae hyn yn cynyddu’r lefelau o anfantais a wynebir gan rai pobl hŷn 34. Mae pobl hŷn Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn aml yn profi lefelau uwch o dlodi ac yn wynebu anghydraddoldebau o ran darparu gwasanaethau fel tai, er enghraifft. Mae’r ffactorau hyn, yn eu tro, yn cael effaith andwyol ar iechyd a llesiant 35. Mae pobl hŷn o’r grwpiau hyn yn adrodd “ansawdd bywyd gwaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd” 36, ond eto’n ei chael yn fwy heriol i gael mynediad at wasanaethau iechyd na’u cymheiriaid gwyn 37.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd bellach yn cydnabod gwahaniaethu ar sail oedran fel problem iechyd byd-eang ac mae’n gweld “datblygu ymyriadau i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ar sail oedran …
fel elfen hanfodol o heneiddio’n iach” 38. Mae ymyriadau’n cynnwys addysgu gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd, gwaith rhwng cenedlaethau (sy’n annog cyswllt rhwng pobl hŷn a phobl
iau) ac ymdrechion arbrofol i newid agweddau” 39.

Gwahaniaethu ar sail Oedran a Cham-drin Pobl Hŷn

Mae sawl ffordd y mae gwahaniaethu ar sail oedran yn effeithio ar brofiadau pobl hŷn o gam-drin:

Mae gwahaniaethu ar sail oedran yn cyfyngu ar ein Dealltwriaeth o Gam-drin Pobl Hŷn

Fel y nodwyd yn flaenorol, efallai y bydd rhai pobl hŷn yn gyndyn o ddatgelu cam-drin; gall pobl ofni na fydd neb yn eu credu os ydyn nhw’n dweud wrth eraill beth sy’n digwydd. Mae gwahaniaethu ar sail oedran hefyd yn cyfrannu at ddiffyg dealltwriaeth ynghylch cam-drin pobl hŷn. Nid yw profiadau pobl hŷn o gam-drin wedi bod yn flaenoriaeth ar gyfer ymchwil academaidd 40. Mae diffyg amlwg hefyd o ran ymchwil sy’n gwerthuso effeithiolrwydd ymyriadau wedi’u targedu, o ran atal cam-drin pobl hŷn. 41 Gall gwahaniaethu ar sail oedran olygu bod diffyg brys wrth fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar bobl hŷn. Mae cyllid ymchwil yn aml yn gyfyngedig ac yn gystadleuol a gellir ei ddyrannu i fynd i’r afael â materion sy’n denu sylw cyhoeddus a gwleidyddol mwy uniongyrchol. Tybir weithiau hefyd fod cam-drin yn llai o broblem i
bobl hŷn nag i bobl iau (sy’n golygu nad yw profiadau pobl hŷn felly’n cael eu blaenoriaethu mewn ymchwil). Er enghraifft, er bod rhai pobl hŷn wedi dioddef cam-drin rhywiol, credir yn gyffredin bod y risg o drais rhywiol yn lleihau gydag oedran 42 (tybiaeth sy’n aml yn deillio o syniadau sy’n gwahaniaethu ar sail oedran o bobl hŷn fel pobl anrhywiol 43).

Mae hefyd yn bwysig nodi, hyd yn oed pan gaiff ei gynnal, bod pobl hŷn yn aml yn cael eu heithrio o ymchwil ar gam-drin oherwydd, er enghraifft, y gwneir rhagdybiaethau ynghylch eu gallu i gymryd rhan mewn ymchwil. 44 Mewn cyferbyniad, mae ymchwil ar gam-drin menywod iau wedi cydnabod pwysigrwydd clywed lleisiau goroeswyr sy’n ddioddefwyr wrth fynd i’r afael â cham-drin.
Mae’n anochel bod dealltwriaeth o brofiadau byw pobl hŷn o gam-drin yn gyfyngedig oherwydd eu diffyg ymwneud uniongyrchol ag ymchwil sy’n archwilio’r materion hyn.

Gall cymryd bod pobl hŷn yn llai tebygol o gael eu cam-drin gael canlyniadau niweidiol. Gall y tybiaethau hyn olygu, er enghraifft, nad yw profiadau pobl hŷn o gam-drin yn cael eu cynnwys mewn ystadegau swyddogol. Tan yn ddiweddar nid oedd Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn casglu data ar gyfer nifer y bobl dros 74 oed sy’n profi cam-drin. Roedd hyn yn golygu ei bod yn amhosibl pennu gwir faint y troseddau a gyflawnir yn erbyn pobl hŷn. Aethpwyd i’r afael â’r anghysondeb hwn ers hynny ac yn dilyn galwadau gan y Comisiynydd ac eraill, mae data pob oedran wedi bod ar gael ers 2023.

Mae hefyd yn wir nad yw gwasanaethau arbenigol bob amser yn casglu data’n systematig ar nifer y bobl sy’n ceisio eu cymorth. Yn aml, comisiynir gwasanaethau ar sail tystiolaeth (er enghraifft, ar ystadegau sy’n dangos pa mor gyffredin yw’r cam-drin sy’n effeithio ar boblogaeth benodol). Heb y dystiolaeth hon, mae perygl y bydd profiadau pobl hŷn o gam-drin yn parhau i fod yn anweledig wrth gynllunio a darparu gwasanaethau. Mae hefyd yn bwysig bod data’n cael ei ddadgyfuno ymhellach i roi darlun mwy cynnil o lefelau a phrofiadau cam-drin ymhlith gwahanol adrannau o’r boblogaeth hŷn – er enghraifft, i ddangos faint o ddynion a menywod hŷn sy’n cael eu cam-drin ac i bennu mynychder cam-drin. Mae’n hysbys bod y tebygolrwydd y bydd dynion yn cael eu cam-drin yn cynyddu gydag oedran 45, ac eto mae dynion hŷn yn wynebu heriau sylweddol wrth gael mynediad at wasanaethau a chymorth i’w helpu i ddianc rhag sefyllfaoedd o gam-drin domestig46. Mae angen gwell dealltwriaeth hefyd o gyffredinrwydd cam-drin ymhlith pobl hŷn Du, Asiaidd a Ethnig Leiafrifol a phobl hŷn o’r gymuned LHDTC+. Nid yw pobl hŷn yn grŵp homogenaidd. Mae deall pa mor unigryw yw profiadau pobl hŷn yn hanfodol i sicrhau bod aelodau penodol o’r boblogaeth hŷn yn cael eu hamddiffyn ac i gynnal effeithiolrwydd ymyriadau ymarferwyr.

Mae Gwahaniaethu ar sail Oedran yn Parhau Cam-Drin Pobl Hŷn

Mae gwahaniaethu ar sail oedran yn creu’r math o hinsawdd negyddol sy’n addas ar gyfer cam-drin pobl hŷn47 48; mae’n debygol felly o gynyddu’r lefelau o gam-drin a brofir gan bobl hŷn. Nid yw gwahaniaethu ar sail oedran wedi’i chynnwys ar hyn o bryd mewn cyfreithiau troseddau casineb yng Nghymru a Lloegr, ac eto mae yna adegau pan fydd pobl hŷn wedi dioddef ymosodiadau dieflig, digymell gan ddieithriaid; ymosodiadau sy’n ymddangos eu bod wedi’u hysgogi’n benodol gan wahaniaethu ar sail oedran 49.

Er nad yw pob gweithred o gam-drin yn cael ei hysgogi’n benodol gan wahaniaethu ar sail oedran, mae’n bwysig gwerthfawrogi bod gwahaniaethu ar sail oedran yn parhau’r agweddau cymdeithasol sy’n dibrisio pobl hŷn; felly mae’n sail i gymaint o brofiadau pobl hŷn o gam-drin. Pan fydd pobl hŷn yn cael eu hystyried yn “werth isel neu’n annheilwng…, mae eraill (yn teimlo’n fwy abl) i’w cam-drin heb fawr o atebolrwydd neu ataliaeth” 50. Yn drasig, mae rhai pobl hŷn wedi cael eu cam-drin mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn y ffyrdd mwyaf brawychus ac arswydus. Roedd ‘Adroddiad Flynn’ (2015) ar ymchwiliad ‘Ymgyrch Jasmine’ yn dangos tystiolaeth o ochr eithafol cam-drin ac esgeulustod mewn cartrefi gofal yng Nghymru51. Bu’r ymchwiliad yn archwilio amgylchiadau marwolaethau chwe deg tri o bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yn ne-ddwyrain Cymru.

Mae gwahaniaethu ar sail oedran yn dangos ei hun yn yr “anfoesgarwch, diystyriaeth, difaterwch, anwybyddu, gwrthrychiad, goddefgarwch, ymyrraeth, cyfyngiad (a) labelu” a gyfeirir at bobl hŷn mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae agweddau o’r fath yn caniatáu ar gyfer ymddygiadau sydd, er nad ydynt yn cael eu hystyried yn amlwg gamdriniol, serch hynny, yn hynod
niweidiol i bobl hŷn gan eu bod yn gwadu eu hawliau dynol sylfaenol. Gall ymarferwyr wneud rhagdybiaethau am alluoedd person hŷn i wneud penderfyniadau, er enghraifft. Yn seiliedig ar y
tybiaethau hyn, mae’n bosibl y gwrthodir hawl pobl hŷn i hunanbenderfyniad 52. Mae hunanbenderfyniad (yr hawl i wneud eich penderfyniadau eich hun) yn hanfodol i lesiant emosiynol a meddyliol ac mae llesiant emosiynol person hŷn yn debygol o ddioddef pan na chaiff y penderfyniadau cywir am eu hanghenion gofal a chymorth eu hunain eu hamddifadu. 53

Gall ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol hefyd weithredu mewn ffyrdd sydd â bwriadau da, ond sy’n parhau i fod yn niweidiol i berson hŷn oherwydd eu bod wedi’u gwreiddio mewn
agweddau a thybiaethau sy’n gwahaniaethu ar sail oedran. Defnyddir y term “ gwahaniaethu ar sail oedran yn dosturiol” weithiau i gyfeirio at weithredoedd sy’n cael eu hysgogi gan ewyllys da, ond sy’n codi o deimladau o gydymdeimlad neu dosturi tuag at berson hŷn. Mae’r camau hyn wedi’u seilio ar ragdybiaethau negyddol am oedran hŷn; bod pob person hŷn yn eiddil, yn
ddibynnol ac angen cymorth ychwanegol54. Mae agweddau o’r fath yn debygol o arwain at ymarferwyr yn anwybyddu cryfderau a sgiliau pobl hŷn a gall pobl hŷn gael eu hunain mewn sefyllfa o dderbyn cyngor a chymorth digymell.

Gall gwahaniaethu ar sail oedran hefyd gynyddu lefelau goddefgarwch tuag at gam-drin pobl hŷn, sy’n golygu bod eraill yn llai tebygol o ymyrryd i gefnogi person hŷn. Mewn arolwg a gynhaliwyd gan yr elusen Hourglass, nid oedd 1 o bob 3 o ymatebwyr yn ystyried gweithredoedd rhywiol amhriodol tuag at bobl hŷn fel cam-drin; nid oedd bron i draean (30%) yn ystyried “gwthio, taro neu guro” person hŷn fel cam-drin; ac nid oedd bron i draean (32%) yn gweld “cymryd eitemau gwerthfawr o gartref perthynas heb ofyn” fel cam-drin 55. Mae’r ystadegau brawychus hyn yn dangos bod ymddygiadau a fyddai’n cael eu hystyried yn gamdriniol o’u cyflawni yn erbyn pobl iau, rywsut yn cael eu hystyried yn fwy derbyniol o’u cyflawni yn erbyn pobl hŷn.

Mae Gwahaniaethu ar sail Oedran yn Dylanwadu ar Ymatebion Ymarferwyr i Gam-drin Pobl Hŷn

Yn hollbwysig, gall gwahaniaethu ar sail oedran effeithio ar y ffyrdd y mae gweithwyr proffesiynol yn ymateb i gam-drin pobl hŷn. Gellir anwybyddu cam-drin yn llwyr oherwydd, er enghraifft, y
gwneir rhagdybiaethau ynghylch achos anaf corfforol person hŷn. Gellir tybio bod clais neu anaf corfforol wedi digwydd oherwydd eiddilwch corfforol, ac felly ni ofynnir y cwestiynau priodol, a allai
arwain at nodi cam-drin.56 57.

Mae’n destun pryder, hyd yn oed pan fydd cam-drin yn cael ei adnabod a hyd yn oed lle ymchwilir i sefyllfaoedd o’r fath, bod ymarferwyr weithiau’n ymateb i gam-drin pobl hŷn yn wahanol iawn o’i gymharu â cham-drin person iau. Cyfeirir yn aml at gam-drin person hŷn fel “cam-drin yr henoed”. Mae’r term ‘cam-drin yr henoed’ yn broblematig oherwydd ei fod yn fframio heneiddio neu fynd yn hŷn fel y broblem sylfaenol wrth gam-drin pobl hŷn. O’i weld o’r safbwynt hwn, her heneiddio sy’n achosi cam-drin (mae cam-drin pobl hŷn yn aml yn cael ei ystyried yn ganlyniad straen ar ofalwyr). Mae’r ddadl yn nodi, wrth i bobl heneiddio, eu bod yn anochel yn dod yn fwy eiddil ac yn fwy dibynnol ar eraill i ddiwallu eu hanghenion; mae’r ddibyniaeth hon yn ei thro, yn achosi lefelau
uchel o straen a blinder ar ofalwyr, a all arwain at ymddygiad difrïol neu esgeulus. Mae sut y meddylir am fater yn siapio’r ymateb. Os gwelir cam-drin o ganlyniad i straen ar ofalwyr, bydd yr
ymyriad yn canolbwyntio ar liniaru’r straen hwnnw. Gellir cynnig gwasanaethau fel gofal dydd neu ofal seibiant i’r person hŷn (y ‘straenwr’), sy’n eu tynnu o’r cartref ac yn lleddfu’r straen ar y
gofalwr.

Mae’n bwysig cydnabod, mewn gwirionedd, mai ychydig iawn o’r cam-drin a gyflawnir yn erbyn pobl hŷn sy’n ganlyniad straen ar ofalwyr. Er y gallai straen ar ofalwyr fod yn ffactor wrth gam-drin
nifer fach o bobl hŷn, mae’n bwysig nad yw ymarferwyr yn rhagdybio amgylchiadau cam-drin person hŷn. Efallai bod rhai pobl hŷn wedi byw gyda cham-drin ers degawdau a’r hyn y mae
ymarferwyr wedyn yn ei weld yw parhad o drais teuluol 58. Mae angen ymateb gwahanol iawn gan ymarferwyr ar bobl hŷn sy’n byw mewn sefyllfaoedd camdriniol hirdymor; un sy’n canolbwyntio ar
gynigion o lety brys a chynllunio diogelwch, er enghraifft 59. Mae’r ymateb ‘seiliedig ar les’ 60 i gam-drin pobl hŷn yn gweld pobl hŷn fel rhai sydd angen gofal ac amddiffyniad.

Yn hollbwysig, pan fydd cam-drin pobl hŷn yn cael ei weld drwy lens ‘straen ar ofalwr’, mae ymarferwyr yn aml yn methu ag ystyried manteision yr ystod lawn o wasanaethau a allai fod ar gael yn eu hardaloedd daearyddol. Wrth sôn am ‘gam-drin pobl hŷn’, mae gweithwyr proffesiynol fel arfer yn disgrifio’r un mathau o ymddygiad camdriniol sydd wedi’u cynnwys o fewn diffiniadau
ehangach o ‘VAWDASV’ (Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol). Ac eto nid yw llawer o’r bobl hŷn hynny a fyddai’n elwa o gael eu hatgyfeirio at wasanaethau VAWDASV arbenigol (fel IDVA – Eiriolwyr Trais Domestig Annibynnol) yn cael mynediad at gymorth o’r fath.

Mae hefyd yn wir bod troseddoldeb y cam-drin a brofir gan bobl hŷn yn aml yn cael ei anwybyddu, pan gaiff ei gysyniadoli fel “cam-drin yr henoed” 61. Anaml y caiff euogfarnau troseddol eu dwyn yn erbyn y rhai sy’n cam-drin pobl hŷn 62. Gall ymarferwyr gymryd yn ganiataol na fydd pobl hŷn eisiau ymgysylltu â’r system cyfiawnder troseddol oherwydd y straen, neu gallant benderfynu (heb ymgynghori â pherson hŷn), na fyddent am erlyn camdriniwr a allai fod yn aelod o’r teulu 63. Yn 2018, nododd Prif Erlynydd Cymru ar y pryd, o’r 35,000 o droseddau a erlynwyd yng Nghymru yn y flwyddyn flaenorol, mai dim ond 250 oedd yn droseddau yn erbyn pobl hŷn 64. Canfu ymchwil a oedd yn canolbwyntio ar fynediad pobl hŷn at gyfiawnder sifil neu droseddol i’w hamddiffyn rhag cam-drin domestig, nad oedd ymarferwyr yn trafod opsiynau cyfiawnder troseddol neu sifil gyda dwy ran o dair o ddioddefwyr hŷn65.

Crynodeb:

Mae pobl hŷn yn profi’r un mathau o gam-drin â’r rhai mewn grwpiau oedran iau

Gall pobl hŷn fod mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin oherwydd ffactorau fel unigrwydd neu ynysigrwydd cymdeithasol, neu oherwydd eu bod yn dibynnu ar eraill am ofal

Gall cam-drin arwain at niwed corfforol ac emosiynol sylweddol i bobl hŷn. Gall hefyd gynyddu cyfraddau marwolaethau ymhlith pobl hŷn

Gwahaniaethu ar sail oedran yw’r stereoteipio, rhagfarn a/neu wahaniaethu a gyfeirir at bobl hŷn ac sy’n seiliedig ar eu hoedran neu eu hoedran canfyddedig. Mae gwahaniaethu ar sail oedran yn
gyffredin iawn mewn cymdeithas – nid yw llawer o bobl hyd yn oed yn ei adnabod

Mae gwahaniaethu ar sail oedran yn effeithio ar y ffordd y mae data am gam-drin yn cael eu casglu – felly mae’n cyfyngu ar ddealltwriaeth o’r lefelau cam-drin sy’n effeithio ar bobl hŷn

Mae gwahaniaethu ar sail oedran yn cynyddu cam-drin pobl hŷn oherwydd ei fod yn creu hinsawdd lle mae pobl hŷn yn cael eu dibrisio a’u diystyried

Mae gwahaniaethu ar sail oedran yn cynyddu goddefgarwch o gam-drin pobl hŷn. Mae hyn, yn ei dro, yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd eraill yn ymyrryd pan fydd person hŷn yn cael ei gam-drin.

Mae gwahaniaethu ar sail oedran yn llywio ymatebion ymarferwyr i gam-drin person hŷn. Tybir yn aml fod cam-drin pobl hŷn yn digwydd oherwydd ‘straen ar ofalwr’ ac mae’n fwy tebygol o gael
sylw trwy ‘systemau diogelu’. Anaml y caiff manteision posibl gwasanaethau arbenigol VAWDASV ehangach eu hystyried.

Gweithredu

Mae atal y cam-drin sy’n difetha bywydau cynifer o bobl hŷn yn golygu herio a mynd i’r afael â’r gwahaniaethu ar sail oedran sy’n sail iddo. Mae mynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran, a’i
berthynas â cham-drin pobl hŷn, yn dasg enfawr. Fodd bynnag, mae llawer y gellir ei wneud o fewn sefydliadau i ddechrau herio’r berthynas rhwng gwahaniaethu ar sail oedran a cham-drin pobl hŷn. Fel man cychwyn, mae’r Comisiynydd yn galw ar sefydliadau i:

  • Creu a gweithredu polisïau sy’n mynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran a cham-drin. Dylid amlygu’r polisïau hyn fel rhan o brosesau recriwtio a’u trafod / adolygu’n rheolaidd gyda staff
  • Hwyluso sesiynau rheolaidd i staff, gan archwilio cysyniadau gwahaniaethu ar sail oedran a cham-drin pobl hŷn. Dylai’r hyfforddiant hwn ganolbwyntio ar gam-drin pobl hŷn a rôl
    gwahaniaethu ar sail oedran wrth ganiatáu a pharhau â’r cam-drin hwnnw.
  • Dylai hyfforddiant fod ar sail amlasiantaeth, lle bynnag y bo modd, gan hyrwyddo dealltwriaeth gyffredin o’r ffyrdd y mae gwahaniaethu ar sail oedran yn llywio ac yn effeithio ar gam-drin pobl hŷn ac annog ymdrechion ar y cyd i fynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran a cham-drin pobl hŷn. Dylai fod integreiddio agosach hefyd rhwng diogelu a hyfforddiant VAWDASV, i sicrhau bod pobl yn elwa ar yr ystod lawn o wasanaethau arbenigol.
  • Sefydlu gweithdrefnau adrodd clir a chyfrinachol ar gyfer amheuaeth o gam-drin ac ymddygiad gwahaniaethol
  • Ymgorffori arfer adfyfyriol mewn cyfarfodydd tîm a goruchwyliaeth rheolaidd. Dylai cyfarfodydd goruchwylio / tîm roi cyfleoedd i ymarferwyr archwilio eu dealltwriaeth o
    wahaniaethu ar sail oedran, ac ystyried sut y gallai ddylanwadu ar eu gwaith gyda phobl hŷn
  • Hyrwyddo dull gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n parchu unigoliaeth ac urddas pobl hŷn
  • Sicrhau bod gwerthusiadau ac adolygiadau o berfformiad ymarferwyr yn ystyried sut mae ymarferwyr yn ymdrin â materion yn ymwneud â gwahaniaethu ar sail oedran a cham-drin.

Cwestiynau Allweddol

Gall y cwestiynau canlynol fod yn ddefnyddiol i sefydliadau wrth annog ymarferwyr i adfyfyrio ar wahaniaethu ar sail oedran a cham-drin yn eu gwaith. Gallant hefyd gael eu defnyddio gan
ymarferwyr, i helpu i herio eu meddwl a’u rhagdybiaethau eu hunain, ac i amlygu natur llechwraidd gwahaniaethu ar sail oedran a’r ffyrdd y gallai effeithio ar eu gwaith.

  • Sut mae eich agweddau chi tuag at heneiddio yn dylanwadu ar eich gwaith?
  • Beth yw rhai stereoteipiau cyffredin yr ydych wedi dod ar eu traws am bobl hŷn? Ydy’r rhain wedi dylanwadu ar eich canfyddiadau chi?
  • Allwch chi gofio adeg pan allech chi fod wedi gwneud rhagdybiaethau am berson hŷn ar sail ei oedran? Sut effeithiodd hyn ar eich rhyngweithio â nhw?
  • Pa gamau allwch chi eu cymryd i sicrhau bod eich gwaith yn rhydd o dueddiadau sy’n gwahaniaethu ar sail oedran? Sut ydych chi’n asesu eich ymarfer eich hun ar hyn o bryd ar
    gyfer agweddau sy’n gwahaniaethu ar sail oedran?
  • Sut ydych chi’n meddwl y gallai agweddau sy’n gwahaniaethu ar sail oedran mewn cymdeithas effeithio ar lesiant pobl hŷn?
  • Beth yw rhai ffyrdd y gall gwahaniaethu ar sail oedran ddod i’r amlwg mewn iechyd neu wasanaethau cymdeithasol? Sut gallai hyn effeithio ar ansawdd y gofal a ddarperir?
  • Pa strategaethau allwch chi eu defnyddio i herio agweddau sy’n gwahaniaethu ar sail oedran yn eich ymarfer a’ch cymuned eich hun? Pa mor hyderus fyddech chi? Beth fyddai’n helpu?
  • Sut ydych chi’n meddwl bod agweddau sy’n gwahaniaethu ar sail oedran yn cyfrannu at gyffredinrwydd cam-drin ymhlith pobl hŷn a’i dderbyn?
  • A allwch chi roi enghraifft o ble y credwch y gallai gwahaniaethu ar sail oedran fod wedi
    cuddio neu esgusodi ymddygiad camdriniol?
  • Pa hyfforddiant neu adnoddau fyddai’n eich helpu i ddeall a mynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran yn eich ymarfer yn well?
  • Pa gamau personol a phroffesiynol allwch chi eu cymryd i wella’ch dealltwriaeth a’ch triniaeth o’r materion hyn yn barhaus?
  • Sut gallwch chi eiriol dros newidiadau systemig i amddiffyn pobl hŷn yn well rhag cam-drin a gwahaniaethu ar sail oedran?
  • Pa rôl allwch chi ei chwarae wrth eiriol dros newidiadau polisi sy’n mynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran ac yn amddiffyn pobl hŷn rhag cael eu cam-drin?Adnoddau Ychwanegol
  • Taflen Mynnwch Help Cadwch yn Ddiogel a gynhyrchwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru: Ar gael yn: Taflen Wybodaeth Mynnwch Help Cadwch yn Ddiogel – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  • Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru – Cyfeirlyfr Ar-lein. Ar gael yn: Cyfeirlyfr Cymorth – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  • Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru – Gweithredu yn erbyn Gwahaniaethu ar sail Oedran. Ar gael yn: Gweithredu yn erbyn Oedraniaeth – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  • Sefydliad Iechyd y Byd. 2021. Global Report on Ageism. Ar gael yn: Global report on ageism (who.int)
  • Centre for Aging Better (2024) – Age Without Limits. Ar gael yn: Age Without Limits | Centre for Ageing Better (ageing-better.org.uk)
  • Old School – Anti-Ageism Clearing House. Ar gael yn: Old School: Anti-Ageism Clearinghouse
  • Resources on Compassionate Ageism (Dr. Mervyn Eastman): Is ‘Compassionate Ageism’ the Curse within Social Work and Social Care? Ar gael yn:
    https://socialworkwithadults.blog.gov.uk/2020/01/10/is-compassionate-ageism-the-cursewithin-social-work-and-care/
  • Centre for Ageing Better & Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Canllawiau i’r Cyfryngau ar gyfer Gohebu ynghylch Heneiddio a Henaint. Ar gael yn: Canllawiau i’r Cyfryngau ar gyfer Gohebu ynghylch Heneiddio a Henaint (olderpeople.wales)
  • Centre for Aging Better. 2021. Challenging Ageism: A Guide to Talking about Ageing and Older Age. Ar gael yn: Challenging ageism: A guide to talking about ageing and older age | Centre for Ageing Better (ageing-better.org.uk)

Diolchiadau

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ddiolchgar i’r canlynol am gyfrannu at y trafodaethau, a
helpodd i lunio’r papur hwn:
Sarah Kirkpartick – Prif Weithredwr, Cymorth i Fenywod Cymru,
Carrie Bower – Arweinydd Cam-drin Domestig, Age UK National,
Louise Hughes – Pennaeth Diogelu ac Eiriolaeth, Age Cymru,
Deborah Morgan – Canolfan Heneiddio Arloesol, Prifysgol Abertawe,
Sarah Wydall – Athro Troseddeg Critigol, Prifysgol Abertawe
Bridget Penhale – Darllenydd Emerita, Prifysgol East Anglia

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn llais ac yn eiriolwr annibynnol ar gyfer pobl hŷn ledled Cymru.

Mae’r Comisiynydd yn gweithredu i diogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn, rhoi diwedd ar oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran, atal cam-drin pobl hŷn, a galluogi pawb i heneiddio’n dda.

Mae’r Comisiynydd yn gweithio i sicrhau Cymru lle mae pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi, lle mae hawliau’n cael eu cynnal a lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Sut i gysylltu â’r Comisiynydd:

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Adeiladau Cambrian
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5FL
Ffôn: 03442 640 670
E-bost: gofyn@comisiynyddph.cymru
Trydar: @comisiwnphcymru
Gwefan: www.comisiynyddph.cymru

 

1 Sefydliad Iechyd y Byd. 2022. Tackling the Abuse of Older People. Ar gael yn: Tackling abuse of older people: five
priorities for the United Nations Decade of Healthy Ageing (2021–2030) (who.int)
2 Sefydliad Iechyd y Byd. 2024. Abuse of Older People. Ar gael yn: Abuse of older people (who.int)
3 Andrews, J. 2017. Abuse of Older People: The Responsibilities of Community Nurses. British Journal of Community
Nursing 22(5), pp. 224-225.
4 Andrews, J. 2017. Abuse of Older People: The Responsibilities of Community Nurses. British Journal of Community
Nursing 22(5), pp. 224-225.
5 Cymorth i Fenywod Cymru (2019). What is Coercive Control? Ar gael yn: Beth yw rheolaeth trwy orfodaeth? :
Cymorth i Fenywod Cymru (welshwomensaid.org.uk)
6 Mysyuk, Y., Westendorp, R.G.J. and Lindenberg, J.2016. How Older Persons explain why they become victims of
abuse. Age and Ageing (45), pp. 695-702.
7 Brown Wilson, C. 2017. Caring for People with Dementia: A Shared Approach. London:Sage.
8 Manthorpe, J. 2015. The abuse, neglect and mistreatment of older people with dementia in care homes and
hospitals in England: The potential for secondary data analysis: Innovative Practice. Dementia 14(2), tt. 273-279.
ix Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2021. Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy’n Profi Camdriniaeth yng
Nghymru. Ar gael yn: Support_Services_for_Older_People_Experiencing_Abuse_in_Wales.pdf (olderpeople.wales)
x Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2021. Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy’n Profi Camdriniaeth yng
Nghymru. Ar gael yn: Support_Services_for_Older_People_Experiencing_Abuse_in_Wales.pdf (olderpeople.wales)
11 Safe Lives (2016). Safe Later Lives: Older People and Domestic Abuse. Ar gael yn: Safe Later Lives – Older people
and domestic abuse.pdf (safelives.org.uk)
12 Kosberg, J.I. 2009. The Abuse of Older Men: Implications for Social Work. Australian Social Work 62(2), pp. 202-
215.
13 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2021. Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy’n Profi Camdriniaeth yng
Nghymru. Ar gael yn: Support_Services_for_Older_People_Experiencing_Abuse_in_Wales.pdf (olderpeople.wales)
14 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2021. Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy’n Profi Camdriniaeth yng
Nghymru. Ar gael yn: Support_Services_for_Older_People_Experiencing_Abuse_in_Wales.pdf (olderpeople.wales)
15 Mysyuk, Y., Westendorp, R.G.J. and Lindenberg, J.2016. How Older Persons explain why they become victims of
abuse. Age and Ageing (45), pp. 695-702.
16 Vulnerability, Knowledge and Practice Programme: Domestic Homicide Project. Ar gael yn: Domestic Homicide
Project – VKPP Work
17 Hoeger, K. et al. 2022. Domestic Homicide Project: Spotlight Briefing No. 2 – Older Victims. Ar gael yn: Domestic
Homicide Project – Older Victims Feb 2022 AC (vkpp.org.uk)
19 Penhale, B. (2003). Older Women, Domestic Violence, and Elder Abuse: A Review of Commonalties, Differences
and Shared Approaches. Journal of Elder Abuse and Neglect 15(3-4), pp. 163-183.
20
Centre for Ageing Better. 2023. Ageism: What’s the Harm? Ar gael yn: Ageism-harms.pdf (ageing-better.org.uk)
16
21 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2021. Gweithredu yn erbyn Oedraniaeth. Ar gael yn: Gweithredu yn erbyn
Oedraniaeth – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
22
Centre for Ageing Better. 2023. Ageism: What’s the Harm? Ar gael yn: Ageism-harms.pdf (ageing-better.org.uk)
23 Changing the Narrative: Ending Ageism Together. Ar gael yn: Anti-Ageist Birthday Cards – Changing the Narrative
(changingthenarrativeco.org)
24 Pobl Hŷn Cymru. 2021. Portread o bobl hŷn yn y cyfryngau newyddion. Ar gael yn: Canllawiau i’r cyfryngau ar gyfer
gohebu ynghylch heneiddio a henaint (olderpeople.wales)
25 Centre for Ageing Better & Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Canllawiau i’r Cyfryngau ar Adrodd Heneiddio a
Henaint. Ar gael yn: Media guidelines for reporting on ageing and older age (olderpeople.wales)
26
Centre for Aging Better. 2024. The enormous contributions older people make to society – and the barriers holding
them back. Ar gael yn: The enormous contributions older people make to society – and the barriers holding them back
| Centre for Ageing Better (ageing-better.org.uk)
27 Sefydliad Iechyd y Byd. 2021. Global Report on Ageism. Ar gael yn: Global report on ageism (who.int)
28 Brownell, P. Social Issues and Social Policy Response to Abuse and Neglect of Older Adults. Yn Gutman, G. and
Spencer, C. Aging, Ageism and Abuse: Moving from Awareness to Action.
30 Sefydliad Iechyd y Byd. 2021. Global Report on Ageism. Ar gael yn: Global report on ageism (who.int)
31 Sefydliad Iechyd y Byd. 2021. Global Report on Ageism. Ar gael yn: Global report on ageism (who.int)
32
Centre for Aging Better. 2023. Ageism: What’s the Harm. Ar gael yn: Ageism-harms.pdf (ageing-better.org.uk)
33 The King’s Fund. 2000. Age Discrimination in Health and Social Care. Ar gael yn: Age Discrimination In Health And
Social Care | The King’s Fund (kingsfund.org.uk)
34 Sefydliad Iechyd y Byd. 2021. Global Report on Ageism. Ar gael yn: Global report on ageism (who.int)
35 Centre for Aging Better. 2023. State of Aging. Ar gael yn: The State of Ageing 2023-24 | Centre for Ageing Better
(ageing-better.org.uk)
35i Sefydliad Cydraddoldeb Hiliol. 2022. Older People: Briefing Paper. Ar gael yn: Layout 1
(raceequalityfoundation.org.uk)
37
Pobl Hŷn Cymru. 2024. Heneiddio yng Nghymru: Safbwyntiau pobl hŷn Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Ar gael yn:
Heneiddio yng Nghymru: Safbwyntiau pobl hŷn Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
38 Sefydliad Iechyd y Byd. 2021. Global Report on Ageism. Ar gael yn: Global report on ageism (who.int)
39
Centre for Aging Better. 2023. Ageism: What’s the Harm? Ar gael yn: Ageism-harms.pdf (ageing-better.org.uk)
40 Fang, B. a Yan, E. 2018. Abuse of Older Persons with Dementia: A Review of the Literature. Trauma, Violence and
Abuse 19(2), pp. 127-147.
41 Baker, P., Francis, D.P., Hairi, N. Othman, S. and Choo, W.Y. 2016. Interventions for preventing abuse in the
elderly (review). Cochrane database of Systematic Reviews
17
42 Bows, H. 2018. Sexual violence against older people: A review of the empirical literature. Trauma, Violence and
Abuse 19(5), pp. 567-583.
43 Bows, H. (2019). The other side of late-life intimacy? Sexual violence in later life. Australisian Journal on Ageing
pp. 65-70.
44 Hightower, J. Abuse in Later Life: When and How does Gender Matter? In Gutman, G. and Spencer, C. 2010.
Aging, Ageism and Abuse.
45 Swyddfa Ystadegau Gwladol 2021. Trosolwg cam-drin yn y cartref yng Nghymru a Lloegr (November 202):
Trosolwg o gam-drin domestig yng Nghymru a Lloegr – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk)
46 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2022. Gwella’r Gefnogaeth a Gwasanaethau i Ddynion Hŷn sy’n Cael eu Cam-drin
yn Ddomestig. Ar gael yn: https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2022/08/Gwellar-gefnogaeth-argwasanaethau-i-ddynion-hyn-syn-cael-eu-cam-drin-yn-ddomestig.pdf
47 Phelan, A. 2008. Elder Abuse, Ageism, Human Rights and Citizenship: Implications for Nursing Discourse. Nursing
Inquiry 15(4), pp. 320-329
48 Chang et al. 2021. Impact of structural ageism on greater violence against older persons: a cross-national study of
56 countries. British Medical Journal (11).
49 Owen, C. 2024. Gran left screaming and writhing in agony after terrifying Porthcawl funfair attack. Ar gael yn: Gran
left screaming and writhing in agony after terrifying Porthcawl funfair attack – Wales Online
50 Phelan, A. 2008. Elder Abuse, Ageism, Human Rights and Citizenship: Implications for Nursing Discourse. Nursing
Inquiry 15(4), pp. 320-329
51 Flynn, M. 2015. In search of accountability – a review of the neglect of older people living in care homes
investigated as Operation Jasmine (2015). Ar gael yn: in-search-of-accountability-a-review-of-the-neglect-of-olderpeople-living-in-care-homes-operation-jasmine_1.pdf (gov.wales)
52 Ekelund et al. 2014, Self-Determination among Frail, Older Persons – A Desirable Goal Older Peoples’ Conceptions
of Self-Determination. Quality in Ageing and Older Adults 15(2)
53 Bolenius, K. et al. 2023. Older adults’ experiences of self-determination when needing homecare services – an
interview study. BMC Geriatrics (23).
54 Wong et al. 2023. Negative ageism and compassionate ageism in news coverage of older people under Covid-19:
how did the pandemic progression and public health responses associate with different news themes. Heneiddio a
Chymdeithas.
55 Hourglass. 2021. Safer Aging Press Release. Ar gael yn: https://wearehourglass.org/safer-ageing-press-release
56 Ward, D. 2000. Ageism and the Abuse of Older People in Health and Social Care. British Journal of Nursing 9(9),
pp. 560 – 563.
57 McGarry, J., Simpson, C. and Hinchliff-Smith, K. 2011. The Impact of Domestic Abuse for Older Women: A Review
of the Literature. Health and Social Care in the Community 19(1), pp. 3-14.
59 Hightower, J., Smith, M.J. and Hightower, H.C. (2006). Hearing the Voices of Abused Older Women. The Journal of
Gerontological Social Work 46 (3-4) pp. 205-227.
18
60 Williams, J. 2012. Elder Abuse: Criminological Perspective. Yn Brookman, F.D., Maguire, M., Pierpoint, H. a
Bennet, T. Handbook on Crime. Dawson Books
61 Hightower, J., Smith, M.J. and Hightower, H.C. (2006). Hearing the Voices of Abused Older Women. The Journal of
Gerontological Social Work 46 (3-4) pp. 205-227.
62 HMCPSI and CPS. 2019. The Poor Relation: The Police and Crime Prosecution Service’s Response to Crimes
against Older People. Ar gael yn: https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/wp-content/uploads/crimes-againstolder-people.pdf
63 Hightower, J., Smith, M.J. and Hightower, H.C. (2006). Hearing the Voices of Abused Older Women. The Journal of
Gerontological Social Work 46 (3-4) pp. 205-227.
64 Rees, J. BBC. 2019. Prosecutor wants more convictions for crimes against the elderly. Ar gael yn: Prosecutor wants
more convictions for crimes against elderly – BBC News
65 Clarke, A., Williams, J. a Wydall, S. 2016. Access to justice for victims / survivors of elder abuse: A qualitative
study’. Social Policy and Society 15(2), pp. 201-220

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges