Angen Help?

Dweud eich dweud a helpu i siapio dyfodol gofal cymdeithasol yng Nghymru

i mewn Newyddion

Dweud eich dweud a helpu i siapio dyfodol gofal cymdeithasol yng Nghymru

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru eisiau clywed gan bobl hŷn am eu profiadau o gael cymorth a chefnogaeth gan wasanaethau gofal cymdeithasol, i ddysgu mwy am yr hyn sy’n gweithio’n dda a lle mae angen gwella.

Bydd y Comisiynydd yn defnyddio’r dystiolaeth a rannwyd gan bobl hŷn i ystyried a yw ansawdd y cymorth gofal cymdeithasol y mae pobl yn ei gael yng Nghymru yn adlewyrchu’r safonau a nodir mewn polisi a deddfwriaeth. Ar sail y materion a’r pryderon a godir gan bobl hŷn, mae’n ymddangos nad yw hynny bob amser yn wir.

Bydd y Comisiynydd yn cyhoeddi adroddiad yn 2026 sy’n nodi ei chanfyddiadau, ynghyd ag argymhellion ar gyfer cymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau y mae’n eu nodi.

Mae gofal cymdeithasol yn cwmpasu amrywiaeth eang o wasanaethau a mathau o gymorth. Gall y rhain gynnwys helpu gyda thasgau bob dydd, fel paratoi prydau bwyd neu ymolchi a gwisgo i alluogi pobl i fyw’n annibynnol gartref; cymorth mewn lleoliad preswyl, fel cartref gofal; neu wasanaethau yn y gymuned, fel canolfannau dydd.

Gall pobl hŷn sydd wedi defnyddio unrhyw un o’r mathau hyn o wasanaethau rannu eu profiadau â’r Comisiynydd drwy lenwi holiadur byr. Gellir llenwi hwn ar-lein neu dros y ffôn. Mae copïau papur ar gael hefyd, a gellir eu dychwelyd i swyddfa’r Comisiynydd drwy radbost. Mae’r arolwg hefyd yn agored i aelodau o’r teulu neu ffrindiau a allai fod eisiau ei lenwi ar ran person hŷn.

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hollbwysig ym mywydau llawer o bobl hŷn ar hyd a lled Cymru, gan gynnig cymorth hanfodol i alluogi pobl i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol, a chael yr ansawdd bywyd gorau posibl.

“Yng Nghymru, mae gennym amrywiaeth o ddeddfwriaeth, polisïau, rheoliadau a safonau sydd wedi’u llunio i sicrhau bod gofal cymdeithasol yn canolbwyntio ar anghenion unigolion ac yn cael ei ddarparu i’r safonau uchaf.

“Ond mae’r problemau cysylltiedig â gofal cymdeithasol a godwyd gyda mi gan bobl hŷn – mewn digwyddiadau ymgysylltu a thrwy fy Ngwasanaeth Cyngor a Chymorth – yn awgrymu nad yw hyn bob amser yn wir, gyda phobl yn cael gofal nad yw’n cyrraedd y safon ddisgwyliedig.

“Dyna pam rydw i am edrych yn fanylach ar y materion hyn, gan ddefnyddio lleisiau pobl hŷn fel fy sylfaen dystiolaeth, i nodi’r anawsterau y mae pobl yn eu hwynebu a’r camau y mae angen eu cymryd i fynd i’r afael â’r rhain.

“Felly, rwy’n annog pobl hŷn sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol, yn ogystal â’u teulu a’u ffrindiau, i gysylltu â’m swyddfa i lenwi arolwg byr er mwyn rhannu eu profiadau.

“Yn ogystal â chlywed am y problemau mae pobl yn eu hwynebu, rydw i’n awyddus i glywed am yr hyn sy’n gweithio’n dda er mwyn i mi allu tynnu sylw at arferion da sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl hŷn.

“Byddaf yn cyhoeddi fy nghanfyddiadau yn 2026, ac yn argymell camau i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill eu cymryd i fynd i’r afael â’r problemau a nodir, a chyflawni’r newid a’r gwelliannau y mae pobl hŷn eisiau ac angen eu gweld.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phobl hŷn a sefydliadau allweddol ym mhob cwr o Gymru i sbarduno newid ystyrlon a helpu i greu system gofal cymdeithasol sy’n grymuso pobl hŷn i fyw’n dda, heneiddio’n dda a chadw mewn cysylltiad – gan sicrhau eu bod yn cael eu trin â’r urddas a’r parch y mae gan bawb yr hawl iddynt.”

Complete the Commissioner's questionnaire

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges