Angen Help?
Delwedd o fenyw hŷn â gwallt gwyn byr, yn eistedd ar soffa, yn edrych allan o'r ffenestr. // Image of an older woman with short white hair, sat on a sofa, looking out of the window.

Blog y Comisiynydd: Wythnos Ddiogelu Genedlaethol 2025

i mewn Newyddion

Wythnos Ddiogelu Genedlaethol 2025

Mae’r Wythnos Ddiogelu Genedlaethol yng Nghymru yn gyfle gwerthfawr i bawb – gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus, llywodraeth a chymunedau – i edrych ar y ffordd rydym ni’n adnabod pob math o gam-drin, yn ymateb i bob math o gam-drin ac yn atal pob math o gam-drin.

Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, mae diogelu yn rhan bwysig iawn o fy ngwaith. Mae gormod o bobl hŷn yng Nghymru yn dal i gael eu hesgeuluso neu eu cam-drin – yn gorfforol, yn emosiynol, yn ariannol neu’n rhywiol – yn aml gan y bobl y dylent allu ymddiried ynddynt fwyaf. Mae pob ystadegyn yn cynrychioli unigolyn sydd wedi cael ei roi mewn perygl ac sydd wedi colli ei urddas a’i ymreolaeth. Dylai sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed a bod eu hawliau’n cael eu cynnal fod yn flaenoriaeth gyffredin.

Dal Ati i Ganolbwyntio ar Fynd i’r Afael â Cham-drin

Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf fel Comisiynydd, rwyf i wedi ceisio tynnu sylw at y ffordd mae pobl hŷn yn cael eu cam-drin a’u hesgeuluso, er mwyn cryfhau arferion diogelu a sicrhau atebolrwydd pan fo systemau yn methu â diogelu.

Rwy’n cadeirio’r Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin, sy’n dod â phartneriaid o bob rhan o Gymru at ei gilydd i wella’r ffordd rydym ni’n adnabod ac yn ymateb i gam-drin. Mae’r grŵp hwn yn helpu i siapio newidiadau ymarferol – drwy dynnu sylw at faterion sy’n peri pryder, rhannu gwersi a ddysgwyd, herio arferion gwael, a sicrhau bod diogelwch a hawliau pobl hŷn yn rhan ganolog o’n polisïau a’n gweithdrefnau diogelu.

Eleni, mae fy rhaglen waith yn canolbwyntio’n benodol ar wella’r ffordd rydym ni’n ymateb i brofiadau pobl hŷn o drais rhywiol. Mae cam-drin pobl hŷn yn rhywiol yn parhau i fod yn un o’r mathau mwyaf cuddiedig o gam-drin. Prin iawn yw’r ddealltwriaeth yn ei gylch ac yn aml mae dan orchudd stigma, anghrediniaeth a thawelwch. Rwyf i’n benderfynol o sicrhau bod goroeswyr hŷn yn cael y ddealltwriaeth, y tosturi a’r cymorth arbenigol sydd eu hangen arnynt, a bod gweithwyr proffesiynol yn gallu adnabod arwyddion o gam-drin ac ymateb iddynt mewn ffordd briodol.

Dwyn Systemau i Gyfri

Fel Comisiynydd, rwy’n parhau i ddwyn Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i gyfri am y camau maen nhw’n eu cymryd, neu’r camau maen nhw’n methu â’u cymryd, i fynd i’r afael â cham-drin pobl hŷn, neu’r camau maen nhw’n methu â’u cymryd. Er ein bod ni wedi gwneud cynnydd yn y blynyddoedd diwethaf, mae gwaith i’w wneud o hyd i sicrhau bod prosesau diogelu cyson, sy’n canolbwyntio ar y person, yn cael eu rhoi ar waith ledled Cymru.

Mae diogelu pobl hŷn yn gallu bod yn gymhleth. Rhaid ymdrin â materion fel galluedd meddyliol, cydsyniad ac ymreolaeth yn ofalus, gan sicrhau bod y prosesau diogelu yn cyd-fynd â hawl yr unigolyn i wneud penderfyniadau. Mae gwella mynediad pobl hŷn at eiriolaeth annibynnol yn hanfodol i sicrhau bod eu lleisiau yn rhan ganolog o unrhyw benderfyniadau a wneir am eu diogelwch a’u llesiant.

Rhagor o Waith i’w Wneud

Mae cyfrifoldeb arnom ni i gyd i sicrhau nad yw’r un person hŷn yng Nghymru yn cael ei gam-drin na’i esgeuluso, a bod pawb yn gallu cael gafael ar gymorth ar yr adeg iawn. Mae hyn yn golygu dal ati i herio rhagdybiaethau, meithrin hyder proffesiynol a sicrhau bod ein harferion diogelu yn cydnabod yr hyn sy’n gwneud pobl hŷn yn agored i niwed – a’r hyn sy’n eu gwneud yn gryf.

Mae’r Wythnos Ddiogelu Genedlaethol yn gyfle i godi ymwybyddiaeth ac i alw ar bobl i weithredu. Mae’n ein hatgoffa bod gan bawb ran i’w chwarae wrth ddiogelu, a bod yn rhaid i ni i gyd ddal ati i ymdrechu tan y bydd pob person hŷn yng Nghymru yn gallu mwynhau ei henaint yn ddiogel gydag urddas a pharch.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges