Mynediad at Fancio
Mai 2024
Cyflwyniad
Wedi’i sefydlu drwy Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 sy’n cyflwyno’r manylion am rôl a phwerau statudol y Comisiynydd, mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn llais a hyrwyddwr annibynnol dros bobl hŷn ledled Cymru. Rôl y Comisiynydd yw codi ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru, herio gwahaniaethu, annog arferion gorau ac adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae’r Comisiynydd yn canolbwyntio ar bedwar maes gwaith penodol: diogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn, rhoi diwedd ar oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran, atal cam-drin pobl hŷn a galluogi pawb i heneiddio’n dda.
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Materion Cymreig, Mynediad at Fancio ar y Stryd Fawr yng Nghymru. Mae cau canghennau banciau ledled Cymru yn achosi pryder i bobl hŷn am nifer o resymau ac mae’n dal i gael ei godi gyda’r Comisiynydd.
Hoffai’r Comisiynydd gynnig sylwadau ar y meysydd a nodir isod.
Pa grwpiau cymdeithasol sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan gau canghennau banciau ar y stryd fawr?
Mae pobl hŷn yn grŵp cymdeithasol mawr y mae cau canghennau banciau ar y stryd fawr wedi effeithio arnynt. Mae allgáu digidol yn un o’r prif resymau dros hyn.
Allgáu digidol
Mae cau banciau ar y stryd fawr yn effeithio’n arbennig ar bobl hŷn gan fod cyfraddau allgáu digidol ymysg pobl hŷn yn gwneud y newid i fancio ar-lein, yn hytrach na wyneb yn wyneb, fod yn amhosibl i lawer o bobl. Nid oes gan 31% o bobl dros 75 oed (95,069 o bobl) fynediad i’r rhyngrwyd gartref ac nid yw 33% o bobl dros 75 oed (101,200 o bobl) yn defnyddio’r rhyngrwyd (gan gynnwys teledu clyfar a dyfeisiau llaw).[1]
Canfu ymchwil gan Age UK, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2023, mai dim ond 14% o’r grŵp oedran 85 oed a hŷn sy’n bancio ar-lein, gyda 58% yn dibynnu ar fancio wyneb yn wyneb, ac mae 75% o bobl dros 65 oed yn dymuno gwneud o leiaf un trafodiad mewn cangen.[2]
Nid yw allgáu digidol yn fater deuaidd, gyda llawer o bobl hŷn (ac eraill) yn teimlo’n gyfforddus yn defnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer rhai gweithgareddau, fel cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, ond nid ag eraill, fel bancio. Mae adroddiad Dim Mynediad y Comisiynydd (Ionawr 2024) ar brofiadau pobl hŷn o allgáu digidol yn cynnwys llawer o enghreifftiau sy’n ymwneud â bancio ac effaith cau canghennau banciau ar y stryd fawr. Mae pobl hŷn hefyd yn codi’r mater hwn yn rheolaidd gyda gwasanaeth Cyngor a Chymorth y Comisiynydd.
‘Mae arna i ofn bancio ar-lein.’
‘Dyslecsig, ac ofn bancio ar-lein. Mae Banc Lloyds wedi cau ym Mhwllheli, ac mae’n rhaid gwneud popeth dros y ffôn’.
“Rydw i’n cael trafferth gyda’r ffurflenni ar-lein maen nhw’n gofyn i mi eu llenwi, ac mae fy nghangen agosaf dros awr i ffwrdd oddi wrtha i felly rydw i’n dibynnu’n drwm ar eu gwasanaethau ffôn, sydd ddim yn wych.”
Mae cau canghennau banciau mewn cymunedau ledled Cymru, yn adlewyrchu’r duedd ehangach o wasanaethau lleol eraill yn cau, yn cael eu huno neu’n symud ymhellach i ffwrdd, sy’n ei gwneud yn llawer anos i rai pobl hŷn ymgymryd â gweithgareddau arferol.
Dywedodd llawer o bobl hŷn wrthym nad ydynt yn teimlo’n gyfforddus yn bancio ar-lein, neu nad oes ganddynt y dyfeisiau sydd eu hangen i wneud hynny, ac felly maen nhw’n dibynnu ar fancio dros y ffôn er mwyn osgoi gorfod gwneud teithiau hir ac anodd – dros 10 milltir yn aml – i’w cangen agosaf, rhywbeth sy’n aml yn feddyliol ac yn gorfforol flinedig.
“Mae fy manc wedi cyflwyno meddalwedd adnabod wyneb yn ddiweddar fel lefel ychwanegol o ddiogelwch, yn ogystal â nodwedd diogelwch ôl bys. Dwi wedi trio a thrio sawl gwaith, ond dydy’r meddalwedd adnabod wyneb ddim yn fy adnabod. Felly dydw i ddim yn gallu gwneud taliadau drwy drosglwyddiad banc, ac mae hynny’n aml yn golygu bod yn rhaid i mi deithio i’r peiriant ATM i godi arian i dalu’r bil. Dydy hyn ddim yn gyfleus ac mae’n golygu gwneud taith arbennig o tua chwe milltir. Dwi’n cydnabod pryderon y banc am ddiogelwch, ond dwi’n teimlo fy mod i’n arbennig o ymwybodol o ddiogelwch heb yr anghyfleustra hwn.”
Mae gwasanaethau bancio dros y ffôn yn aml yn cael eu hawgrymu fel dewis arall yn lle canghennau banc ffisegol, ond dywedodd rhai pobl hŷn fod y rhain yn amnewidiadau annigonol ar gyfer gwasanaethau wyneb yn wyneb. Mewn rhai achosion, tynnodd pobl hŷn sylw at y ffaith nad oeddent yn gallu clywed y negeseuon dros y ffôn a bod angen help teulu a ffrindiau arnynt er mwyn bancio’n llwyddiannus.
Pa ranbarthau neu gymunedau sy’n cael eu heffeithio fwyaf o ganlyniad i golli canghennau banciau ar y stryd fawr a mynediad at arian parod?
Ardaloedd gwledig
Mae cau banciau ar y stryd fawr mewn ardaloedd gwledig yn broblem benodol i lawer o bobl hŷn, yn enwedig lle nad yw pobl yn gyrru nac yn gallu defnyddio car, a lle gall darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus fod yn anodd neu hyd yn oed ddim yn bodoli. Cysylltodd elusen sy’n cefnogi iechyd a lles pobl hŷn â’r Comisiynydd ynghylch cau’r banc olaf yn Nhyddewi, cangen o Fanc Lloyds. Roedd hyn yn golygu bod y banciau agosaf tua 15 milltir i ffwrdd yn dilyn hynny, gyda thrafnidiaeth gyhoeddus gyfyngedig, ac o ganlyniad, byddai angen i’r elusen geisio lliniaru’r golled hon drwy ddarparu trafnidiaeth i Hwlffordd neu Abergwaun i gael mynediad at wasanaethau.
Amcangyfrifir bod oddeutu 355,000 o bobl dros 60 oed yn byw yn un o’r naw awdurdod lleol gwledig yng Nghymru.[3] Mae nifer y bobl 60 oed a hŷn ym mhob un o’r awdurdodau lleol hyn wedi’i nodi isod, gyda sêr yn nodi ardaloedd lle bwriedir cau canghennau banciau ychwanegol yn 2024.[4] Wrth i fwy o ganghennau banciau gau mewn awdurdodau lleol gwledig, bydd hyn yn effeithio ar fwy a mwy o bobl hŷn.
- Ynys Môn – 24,661
- Gwynedd – 37,975 *Caernarfon
- Conwy – 44,321
- Sir Ddinbych – 32,115
- Powys – 49,919 *Y Drenewydd, *Llanfair-ym-Muallt
- Ceredigion – 24,812
- Sir Benfro – 45,507
- Sir Gaerfyrddin – 62,189 *Llanelli
- Sir Fynwy – 33,555 *Y Fenni.
Hyd yn oed mewn trefi mwy ac ardaloedd mwy trefol, mae colli banciau ar y stryd fawr yn effeithio’n fawr ar bobl hŷn ac mae hynny’n amharu ar fynediad at wasanaethau bob dydd. Mae toriadau i wasanaethau bysiau yn benodol yn ei gwneud yn anodd cyrraedd y gangen agosaf sydd ar ôl, hyd yn oed os nad yw’r pellter daearyddol y mae angen ei deithio mor bell â hynny.
Beth yw effaith colli mynediad i fanciau ar y stryd fawr ar gwsmeriaid a busnesau bach?
Mae pobl hŷn yn dweud nad ydynt yn gallu gwneud gweithgareddau bob dydd fel codi arian, sy’n arwain at ganlyniadau i weithgareddau eraill. Dywedodd rhai pobl hŷn eu bod yn teimlo’n nerfus yn defnyddio ATM neu’n cael cyfarwyddyd i ddefnyddio archfarchnadoedd i gael arian yn hytrach na banciau. Fel y nodwyd uchod, roedd pobl hŷn eraill yn cael trafferth gyda bancio dros y ffôn ac roedd llawer yn poeni’n fawr am geisio defnyddio bancio ar-lein.
Fel rhan o ymchwil y Comisiynydd ar allgáu digidol, dywedodd rhai pobl hŷn fod diogelwch ar-lein yn achosi llawer iawn o bryder, gyda diffyg ymddiriedaeth yn y rhyngrwyd a’r ‘byd rhithwir’. Dywedodd pobl hŷn fod ganddynt bryderon bod sgamiau a gwe-rwydo wedi cynyddu, a’u bod yn teimlo’n fwy diogel wrth beidio â defnyddio’r rhyngrwyd. Mae’r newid ehangach i fyd mwy digidol fyth yn golygu bod colli mynediad i fanciau ar y stryd fawr yn cyfrannu at deimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl, eu heithrio a wynebu straen a phryder o ganlyniad i beidio â gallu ymgymryd â thasgau a gweithgareddau bob dydd a oedd gynt yn syml.
A yw’r amgylchedd rheoleiddio presennol yn sicrhau bod seilwaith bancio ffisegol ar gael i gwsmeriaid yng Nghymru?
Er bod pwerau newydd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) i geisio sicrhau darpariaeth resymol o wasanaethau mynediad at arian parod i’w croesawu, yn ymarferol, nid ydynt yn debygol o fod yn ddigon i atal cau canghennau banciau ar y stryd fawr.
Cyfyngir pwerau newydd yr FCA i fynediad at arian parod ac nid darparu gwasanaethau bancio yn fwy cyffredinol. Nid yw’r pwerau newydd wedi’u cyfeirio at gynnal rhwydweithiau canghennau na rhoi’r gorau i gau canghennau banciau. Yn dechnegol, gallai’r FCA atal cangen rhag cau os mai dyma’r unig ffordd o sicrhau bod mynediad rhesymol at wasanaethau arian parod yn cael ei gynnal. Fodd bynnag, mewn gwirionedd, nid yw hyn yn debygol o fod yn gymesur gan y byddai’n bosibl dadlau y gellir darparu gwasanaethau arian parod yn rhesymol drwy gyfleusterau sy’n costio llai i’w rhedeg na changhennau sy’n cynnig ystod llawer ehangach o wasanaethau.
Yn ddiweddar, ymgynghorodd yr FCA ar Fynediad at Arian Parod, gan gynnig gofynion fel yr angen i gynnal asesiadau o fynediad at arian parod pan wneir newidiadau sylweddol i wasanaethau (nid dim ond i rai canghennau banc unigol, ond unrhyw gyfleuster, gan gynnwys Swyddfeydd Post a changhennau cwmnïau eraill). Byddai hyn yn helpu i ddeall a oes angen gwasanaethau ychwanegol i lenwi bylchau lleol.[5] Byddai angen i fanciau hefyd ymateb i geisiadau gan drigolion lleol, mudiadau cymunedol a chynrychiolwyr i ystyried, asesu a llenwi bylchau o ran mynediad at arian parod, a hefyd sicrhau nad ydynt yn cau cyfleusterau arian parod, gan gynnwys canghennau banc, nes bod unrhyw wasanaethau arian parod ychwanegol a nodwyd ar gael.
Serch hynny, byddai cadw cangen ar agor yn dal yn benderfyniad masnachol i gwmnïau. Mae’r FCA yn dweud y dylai unrhyw benderfyniad i gau cangen barhau i fodloni disgwyliadau ei ganllawiau ar Gau Canghennau ac ATM (FG22/6), a’u Dyletswydd Defnyddwyr sy’n ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau osgoi achosi niwed rhagweladwy i’w cwsmeriaid. Mae canllawiau Cau Canghennau ac ATM yr FCA yn dweud bod yn rhaid i gwmnïau ddadansoddi anghenion cwsmeriaid gan ddefnyddio cangen y bwriedir ei chau (gan gynnwys busnesau bach a chanolig perthnasol a chwsmeriaid mewn amgylchiadau bregus), deall effaith y cau, ac ystyried y dewisiadau eraill y gellid yn rhesymol eu rhoi ar waith i barhau i ddiwallu anghenion y cwsmeriaid hynny.
Mae’r rhaglen barhaus a sylweddol o gau canghennau banciau yn awgrymu nad yw’r amgylchedd rheoleiddio presennol yn ddigonol i sicrhau bod seilwaith bancio ffisegol ar gael i gwsmeriaid yng Nghymru. Bydd hyn yn parhau i achosi problemau i nifer cynyddol o bobl hŷn sy’n debygol o weld eu cangen banc leol ar y stryd fawr yn cau dros y blynyddoedd nesaf.
A yw’r gwasanaethau sy’n cymryd lle banciau ar y stryd fawr ar hyn o bryd (gan gynnwys hybiau bancio, faniau bancio a banciau cymunedol) yn ddigonol ac a ydynt yn rhoi mynediad digonol i gymunedau at arian parod?
Mae’r gwasanaethau sy’n cymryd lle banciau ar y stryd fawr ar hyn o bryd yn anghyson, gyda mynediad yn amrywio ledled Cymru. Mae Banking Hubs (sy’n eiddo i Cash Access UK) yn cynnig gwasanaeth cownter a weithredir gan Swyddfa’r Post, lle gall cwsmeriaid yr holl brif fanciau a chymdeithasau adeiladu wneud trafodion arian rheolaidd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gall Banking Hubs hefyd ddarparu gwasanaeth Bancwyr Cymunedol lle gall cwsmeriaid siarad â’u banc eu hunain am faterion mwy cymhleth, ond mae argaeledd yn amrywio o un Hyb i’r llall. Roedd ymchwil gan Age UK a gyhoeddwyd ym mis Mai 2023 yn dangos y gallai Banking Hubs fod yn ateb i lawer o bobl hŷn, gyda 49% yn dweud y byddent yn gyfforddus yn rheoli eu harian o un ohonynt (gyda 26% ddim yn gyfforddus).[6] Mae Banking Hubs yn cael eu croesawu, ond dim ond naw safle sydd wedi’u rhestru ledled Cymru ac, o’r rhain, dim ond tri sydd ar agor ar gyfer busnes ar hyn o bryd.[7] Mae hyn yn golygu bod nifer sylweddol o bobl hŷn ledled Cymru nad ydynt y cael gwasanaeth digonol.
Ar gyfer pobl hŷn sy’n fwy hyderus yn defnyddio, neu’n ceisio defnyddio, bancio ar-lein, gallai amnewidiadau fel y rheini a ddarperir drwy One Banx fod yn ddefnyddiol. Mae’r rhain yn caniatáu i gwsmeriaid ddefnyddio’r ciosg One Banx i reoli eu harian, gyda staff ar gael i helpu. Fodd bynnag, dim ond un cynllun peilot sydd yng Nghymru ar hyn o bryd (Y Bont-faen), sy’n cael ei gynnal gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality. Nid yw’r dull hwn yn addas ar gyfer pobl hŷn nad ydynt yn gallu bancio ar-lein neu nad ydynt eisiau gwneud hynny.
Mae mynediad at arian parod yn fater ar wahân, er yn gysylltiedig â mynediad at wasanaethau bancio. Gallai cyfrifoldebau newydd yr FCA wneud gwahaniaeth cadarnhaol o ran sicrhau mynediad at arian parod i gymunedau, ond fel y nodwyd uchod, ni fydd yn mynd i’r afael â’r mater o fynediad at wasanaethau bancio ehangach sy’n cael eu gwerthfawrogi gan lawer o bobl hŷn.
Nid yw’r gallu i gael gafael ar arian parod ei hun yn datrys y cynnydd yn nifer y busnesau sy’n mynd yn ‘ddi-arian’ sy’n eithrio’r bobl hŷn hynny sy’n dibynnu ar ddefnyddio taliadau arian parod. Mae’r newid hwn i fusnesau di-arian yn deillio’n rhannol o golli banciau ar y stryd fawr ac anawsterau wrth dalu arian i mewn. Nid oes gofyniad cyfreithiol i fusnesau dderbyn arian parod. Fel y dywed y grŵp defnyddwyr, Which?, “Mae diogelu mynediad at arian parod ond yn ddefnyddiol os oes rhywle i’w wario”. Lansiodd Which? eu Hadduned Cyfeillgar i Arian yn 2020, gan annog busnesau i ymrwymo i addo y byddent yn derbyn arian parod fel dull talu ar gyfer defnyddwyr sydd am barhau i’w ddefnyddio.[8]
Mae Llywodraeth y DU wedi nodi nad yw’n bwriadu gorfodi derbyn arian parod. Fodd bynnag, ddiwedd 2023, dywedodd Consortiwm Manwerthu Prydain fod y defnydd o arian parod wedi cynyddu am y tro cyntaf ers degawd, gan godi i 19% o’r holl drafodion (o 15% yn 2021). Roedd hyn yn cael ei briodoli i’r dewis gan lawer o aelwydydd i ddefnyddio arian parod i gyllidebu’n fwy gofalus yn ystod yr argyfwng costau byw, yn ogystal â dychwelyd yn naturiol i’r defnydd o arian parod ar ôl symud i daliadau digyswllt yn ystod Covid.[9] Mae cynnal y gallu i ddefnyddio arian parod yn galluogi mwy o bobl hŷn a grwpiau eraill sy’n dibynnu ar wasanaethau arian parod i ymgymryd â gweithgareddau o ddydd i ddydd.
Casgliad
Mae cau canghennau banciau ar y stryd fawr yn dal i gael effaith niweidiol ar lawer o bobl hŷn, yn enwedig pobl hŷn nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd neu nad ydynt yn hyderus wrth ddefnyddio bancio ar-lein. Mae cau banciau mewn ardaloedd gwledig yn broblem benodol lle gallai’r banc agosaf sydd ar ôl fod filltiroedd lawer i ffwrdd, heb drafnidiaeth gyhoeddus ddigonol.
Er mwyn mynd i’r afael â’r materion a godwyd gan bobl hŷn, dylid ymchwilio ymhellach i’r meysydd isod.
- Dylai’r Ymchwiliad ystyried sut y gellir mabwysiadu dull mwy cyfannol o ddelio â cholli gwasanaethau (yn hytrach na dim ond mynediad at arian parod) pan fydd cangen banc yn cyhoeddi cynlluniau i gau a pha sefydliadau neu awdurdodau ddylai fod yn gyfrifol am hyn. Dylai’r dull cyfannol hwn gynnwys mapio’r opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael i gael mynediad at y cyfleuster wyneb yn wyneb agosaf.
- Dylid ymgynghori’n uniongyrchol â phobl sy’n byw’n lleol, gan gynnwys pobl hŷn, pan fydd eu banc yn cyhoeddi bwriad i gau er mwyn sicrhau eu bod yn cyfranogi at ddylunio atebion amgen priodol.
- Dylai’r FCA gryfhau ei asesiadau ynghylch a yw cwmnïau’n wirioneddol yn bodloni Canllawiau FG21 yr FCA / Canllawiau 120 i gwmnïau ar drin cwsmeriaid agored i niwed yn deg yng ngoleuni profiadau pobl hŷn ac eraill sydd wedi wynebu problemau sylweddol o ganlyniad i gau canghennau banciau ar y stryd fawr.
- Yn yr un modd, dylai cwmnïau sy’n cael eu rheoleiddio gan yr FCA ddangos yn glir sut maen nhw’n bodloni Canllawiau’r FCA ar drin cwsmeriaid agored i niwed yn deg fel rhan o benderfyniadau ynghylch cau unrhyw ganghennau banciau eraill.
- Dylid cyflymu’r broses o ddarparu Banking Hubs ledled Cymru, gan ystyried adborth ar addasrwydd yr oriau a’r gwasanaethau fyddai ar gael.
- Dylai modelau eraill o fynediad newydd at wasanaethau bancio, fel ciosg One Banx, gael eu datblygu a’u profi gyda phobl hŷn. Dylai hyn gynnwys opsiynau all-lein ac ar-lein.
- Rhaid i wasanaethau bancio dros y ffôn fod yn briodol ar gyfer pobl hŷn sy’n colli eu clyw a/neu gyda namau eraill.
- Dylid cefnogi pobl hŷn a fyddai’n hoffi defnyddio bancio ar-lein ond nad ydynt yn gwneud hynny ar hyn o bryd, gan adeiladu ar wasanaethau presennol sy’n cefnogi cynhwysiant digidol.
[1] Llywodraeth Cymru (2023) Arolwg Cenedlaethol Cymru Ebrill – Mehefin 2023. Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-dangosydd-canlyniadau
[2] Age UK (2023). “You can’t bank on it anymore” The impact of the rise of online banking on older people. Ar gael yn: the-impact-of-the-rise-of-online-banking-on-older-people-may-2023.pdf (ageuk.org.uk), t.4.
[3] StatsCymru (2021). Amcanestyniadau o’r boblogaeth yn ôl awdurdod lleol a blwyddyn. Ar gael yn: https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Population-and-Migration/Population/Projections/Local-Authority/2018-based/populationprojections-by-localauthority-year
[4] Cau banciau yn ôl: Which? (2024). Bank branch closures: is your local bank closing? Ar gael yn: Bank branch closures: is your local bank closing? – Which?
[5] Awdurdod Ymddygiad Ariannol (2023). C23/29: Access to cash. Ar gael yn: CP23/29: Access to cash | FCA.
[6]Age UK (2023). “You can’t bank on it anymore” The impact of the rise of online banking on older people. Ar gael yn: the-impact-of-the-rise-of-online-banking-on-older-people-may-2023.pdf (ageuk.org.uk), p.4.
[7] See: Cash Access UK. Banking Hubs. Ar gael yn: Cash Access UK – Hubs.
[8] Which? (2021). Some of the biggest names in retail take Which?’s Cash Friendly pledge. Ar gael yn: Some of the biggest names in retail take Which?’s Cash Friendly pledge – Which? News.
[9] British Retail Consortium (2023). Cost of living drives return to cash. Ar gael yn: https://brc.org.uk/news/corporate-affairs/cost-of-living-drives-return-to-cash/