Llywodraeth Cymru: Canllaw Ymarfer ar Hunan-esgeuluso
Gorffennaf 2024
Rôl Comisiynydd Pobl Hŷn annibynnol Cymru yw amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn yng Nghymru. Mae atal pob math o gam-drin pobl hŷn yn flaenoriaeth allweddol i Gomisiynydd Pobl Hŷn.
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru o ddrafft ‘Canllaw Ymarfer ar Hunan-esgeuluso’. Mae ymchwil yn dangos bod pobl hŷn mewn perygl penodol o hunan-esgeulustod [i]. Gall y ffactorau sy’n arwain at hunan-esgeulustod fod yn gymhleth ac yn amrywiol [ii]. Fodd bynnag, mae llawer o bobl hŷn yn canfod eu hunain mewn sefyllfaoedd lle mae mwy o debygolrwydd o hunan-esgeulustod. Er enghraifft, gwyddom fod teimladau o unigrwydd yn cynyddu’r risg o hunan-esgeulustod, ac mae pobl hŷn yn fwy tebygol o fyw ar eu pen eu hunain a bod yn ynysig yn gymdeithasol neu’n unig [iii]. Mae lefelau hunan-esgeulustod hefyd yn uwch ymhlith y rheini â dementia [iv]. Mae’n bwysig cydnabod y gall canlyniadau hunan-esgeulustod fod yn arbennig o niweidiol i bobl hŷn hefyd, gan arwain at iechyd corfforol a meddyliol gwaeth, a chyfraddau uwch o farwolaethau [v]. Yn 2020, sefydlodd y Comisiynydd y Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin[vi]. Mae aelodau’r grŵp hwn hefyd wedi codi pryderon ynghylch y cynnydd yn nifer y bobl hŷn sy’n hunan-esgeuluso.
Mae’r heriau sy’n wynebu ymarferwyr wrth weithio gyda phobl hŷn sy’n hunan-esgeuluso yn arbennig o uchel. Wrth weithio mewn sefyllfaoedd o’r fath, mae ymarferwyr yn wynebu llawer o gyfyng-gyngor moesegol a chymhleth, fel yr angen i gydbwyso hawl unigolyn i ymreolaeth yn ofalus â risgiau a allai fod yn ddifrifol i’w lesiant corfforol ac emosiynol. Cydnabyddir bod gan Fyrddau Diogelu Rhanbarthol unigol eu canllawiau a’u gweithdrefnau eu hunain yn aml ar gyfer gweithio gyda phobl sy’n hunan-esgeuluso. Fodd bynnag, mae’n ddefnyddiol cael y canllawiau ehangach hyn i ymarferwyr, a fydd yn helpu i sicrhau cysondeb o ran dulliau ymarfer.
Dymuna’r Comisiynydd wneud y pwyntiau canlynol mewn perthynas â’r canllawiau:
Mae egwyddorion y canllawiau’n adlewyrchu’r arferion gorau ar gyfer gweithio gyda’r rheini sy’n hunan-esgeuluso. Er enghraifft, mae’n tynnu sylw at yr angen i ymarferwyr weithio mewn ffyrdd sy’n seiliedig ar berthynas, ac ymgysylltu â dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae hyn yn ystyried bywgraffiad / hanes, personoliaeth, anghenion a dewisiadau pobl hŷn.
Mae’r canllawiau’n tynnu sylw at bwysigrwydd ymarferwyr yn cydweithio ar draws ffiniau ac adrannau sefydliadol os ydynt am weithio’n effeithiol gyda’r rheini sy’n hunan-esgeuluso. Fodd bynnag, mae ymarfer cydweithredol ac amlasiantaethol bob amser yn her ym maes gwaith diogelu. Dyma pam y byddai’n ddefnyddiol pe bai’r canllawiau’n cael eu hategu gan hyfforddiant aml-asiantaeth, sy’n helpu i hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth o hunan-esgeulustod (ffactorau risg a niwed), ac sy’n hwyluso dulliau cyson o weithio gyda’r rheini sy’n hunan-esgeuluso.
Cyfeirir yn aml at bryderon ynghylch ystyried rhannu gwybodaeth fel rhwystr rhag cael arferion diogelu effeithiol. Mae’r Comisiynydd yn ymwybodol o fwriad Llywodraeth Cymru i gynhyrchu canllawiau i ymarferwyr ar ‘Rannu Gwybodaeth’ (ymrwymiad yn y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Atal Cam-drin Pobl Hŷn yng Nghymru [vii]). Bydd yr adnodd hwn yn atodiad defnyddiol i’r canllawiau ar hunan-esgeulustod.
Mae’n bwysig iawn bod ymarferwyr yn meithrin perthynas â phobl hŷn sy’n hunan-esgeuluso. Yng nghyd-destun y perthnasoedd hyn, gall ymarferwyr wedyn ddechrau nodi’r rhesymau dros ymddygiad(au) yn ymwneud â hunan-esgeuluso. Bydd deall y rhesymeg dros ymddygiad(au) o’r fath yn hanfodol i gynnwys pobl hŷn mewn ymyriadau, lleihau risg ac, os yw’n bosibl, hyrwyddo newid yn y tymor hir. Mae gwaith o’r fath yn debygol o gymryd llawer o amser, ac mae’n gadarnhaol bod y canllawiau’n tynnu sylw at yr angen i fudiadau ddyrannu’r amser a’r lle sydd eu hangen ar ymarferwyr i weithio gydag unigolion yn y sefyllfaoedd hyn. Dylid rhoi cyfle i ymarferwyr fyfyrio ar effeithiolrwydd eu dulliau o weithio gyda phobl sy’n hunan-esgeuluso ac archwilio cyfyng-gyngor moesegol, o fewn goruchwyliaeth broffesiynol.
Mae’r canllawiau’n glir o ran pwysigrwydd ymarferwyr yn cydbwyso dymuniadau / dewisiadau pobl hŷn yn ofalus a’r angen i ymyrryd / peidio ag ymyrryd. Byddai’n ddefnyddiol gwneud datganiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd sgiliau cofnodi cadarn mewn perthynas â’r prosesau penderfynu hyn.
Mae’r canllawiau’n nodi’n gwbl gywir y gall anwybyddu arwyddion o hunan-esgeulustod arwain at ganlyniadau difrifol [viii]. Fodd bynnag, mae’r arwyddion o hunan-esgeulustod yn y canllawiau yn eithafol o ran y ‘senario’ hunan-esgeulustod. Byddai’n ddefnyddiol dweud bod hunan-esgeulustod yn digwydd ar gontinwwm, ac y gall yr arwyddion cychwynnol o hunan-esgeulustod fod yn fwy cynnil. Mae angen i ymarferwyr fod yn gallu adnabod arwyddion cynnar o hunan-esgeulustod os ydynt am gymryd rhan mewn ymarfer ataliol, sy’n helpu i leihau risg yn y tymor hwy [ix].
Dylai pobl hŷn fod yn gallu cyfathrebu yn yr iaith o’u dewis wrth dderbyn gwasanaethau gofal a chymorth. Mae iaith yn ffynhonnell o hynodrwydd a hunaniaeth; felly mae’n elfen hanfodol o ddull personol o ddarparu gwasanaethau [x]. Yn ystod cyfnodau o straen emosiynol, gall pobl hŷn ei chael yn llawer haws disgrifio eu sefyllfaoedd a thrafod eu hofnau, eu pryderon a’u dewisiadau i gael cymorth yn eu hiaith gyntaf. Fodd bynnag, mae’n destun pryder bod nifer yr ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gallu gweithio’n gymwys drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfyngedig iawn ar hyn o bryd [xi]. Bydd angen gweithredu i fynd i’r afael â’r mater hwn yn y tymor hwy.
Mae’r canllawiau ar asesu ar gyfer galluedd meddyliol yn glir ac yn ddefnyddiol, ac mae gwahaniaeth pwysig rhwng galluedd meddyliol gweithredol a phenderfyniadol.
Mae’r adnoddau ymarferol y cyfeirir atynt yn y canllawiau (er enghraifft, yr adnodd asesu risg) yn ddefnyddiol iawn. Fodd bynnag, byddai’n fuddiol ychwanegu at y canllawiau gyda chyfleoedd hyfforddi eraill i ddarparu ar gyfer gwahanol arddulliau dysgu ac i hyrwyddo cymhwysedd a hyder ymarferwyr yn eu gwaith yn y maes hwn.
Casgliad
Yn gyffredinol, mae’r canllawiau’n tynnu sylw’n effeithiol at natur hunan-esgeulustod, y ffactorau risg rhagdueddol, niwed posibl yn ymwneud â hunan-esgeulustod, a’r heriau sy’n wynebu ymarferwyr wrth weithio gyda’r rheini sy’n hunan-esgeuluso. Mae’r canllawiau hefyd yn nodi’n glir y goblygiadau niweidiol posibl os bydd ymarferwyr yn methu cymryd rhan mewn ymyriadau amserol, priodol a chymesur mewn sefyllfaoedd o’r fath. Yn gryno, awgrymir y camau canlynol:
- Byddai’r canllawiau’n gweithio orau pe baent yn cael eu cynnig ochr yn ochr â chyfleoedd eraill ar gyfer hyfforddi ymarferwyr a chael trafodaeth fyfyriol.
- Dylai hyfforddiant ar hunan-esgeulustod fod yn aml-asiantaethol – bydd hyn yn hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth o hunan-esgeulustod a bydd yn hwyluso cydweithio ac ymarfer rhyngasiantaethol effeithiol ar y cyd.
- Dylid ategu’r canllawiau ar hunan-esgeulustod â chanllawiau ymarferwyr ar rannu gwybodaeth (eto, i hyrwyddo cydweithio effeithiol, rhyngasiantaethol)
- Dylai’r canllawiau dynnu sylw at bwysigrwydd ymarferwyr yn dogfennu prosesau a chanlyniadau o ran gwneud penderfyniadau wrth weithio mewn sefyllfaoedd yn ymwneud â hunan-esgeulustod. Rhaid nodi’n glir y rhesymeg / cyfiawnhad dros ymyrryd / peidio ag ymyrryd.
- Dylai’r canllawiau dynnu sylw at ddangosyddion cynnar (yn ogystal â’r arwyddion diweddarach) o hunan-esgeulustod. Bydd hyn yn annog ymarferwyr i gymryd rhan mewn ymyrraeth gynnar a gwaith ataliol.
- Dylai pobl hŷn fod yn gallu cyfathrebu yn yr iaith o’u dewis wrth ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Byddai tîm y Comisiynydd yn fwy na pharod i drafod unrhyw un o’r sylwadau hyn ymhellach.
[i] Day, M.R. et al. 2015. Self-Neglect: A Case Study and Implications for Clinical Practice. Care of the Older Person 20(3).
[ii] Dahl, N. et al. 2018. Self-Neglect in Older Populations: A Description and Analysis of Current Approaches. Journal of Aging and Social Policy 32(6).
[iii] ONS (2020). People living alone aged 65 years and over, by specific age group and sex, UK 1996-2019. Ar gael yn: People living alone aged 65 years old and over, by specific age group and sex, UK, 1996 to 2019 – Office for National Statistics (ons.gov.uk)
[iv] Day, M.R. et al. 2015. Self-Neglect: A Case Study and Implications for Clinical Practice. Care of the Older Person 20(3).
[v] Day, M.R. et al. 2015. Self-Neglect: A Case Study and Implications for Clinical Practice. Care of the Older Person 20(3).
[vi] Sefydlwyd y Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin i ymateb i bryderon y byddai lefelau cam-drin sy’n effeithio ar bobl hŷn yn cynyddu drwy gydol pandemig Covid-19. Mae’r grŵp yn parhau i gyfarfod bob deufis, ac mae cynrychiolwyr o fwy na thri deg o wahanol fudiadau yn mynd i’r cyfarfodydd hyn.
[vii] Llywodraeth Cymru. 2024. Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Atal Cam-drin Pobl Hŷn. Ar gael yn: Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Atal Cam-drin Pobl Hŷn [HTML] | LLYW.CYMRU
[viii] Noblett, K. 2019. Clinical Implications of Self-Neglect Among Patients in Community Settings. Care of the Older Person 24(11).
[ix] Dong, X. 2017. Elder Self-Neglect: Research and Practice. Clinical Interventions in Ageing (12)
[x] Madoc-Jones, I. a Dubberley, S. 2005. Language and the provision of health and social care in Wales. Diversity in Health and Social Care (2), tt. 127-134.
[xi] Madoc-Jones, I. 2004. Linguistic sensitivity, indigenous peoples and the mental health system in Wales. International Journal of Mental Health Nursing (13), tt. 216-224