Angen Help?

Llywodraeth Cymru – Blaenoriaethau drafft ar gyfer Diwylliant yng Nghymru 2024 i 2030

Llywodraeth Cymru – Blaenoriaethau drafft ar gyfer Diwylliant yng Nghymru 2024 i 2030

Awst 2024

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (y Comisiynydd) yn croesawu’r cyfle i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Blaenoriaethau drafft ar gyfer Diwylliant yng Nghymru 2024 i 2030.

Ar y cyfan, mae’r Comisiynydd yn cytuno â’r tair blaenoriaeth, sef ‘Mae diwylliant yn dod â ni ynghyd’, ‘Cenedl diwylliant’, a ‘Mae diwylliant yn gydnerth ac yn gynaliadwy’, a hoffai wneud y sylwadau isod.

Blaenoriaeth 1 – Mae diwylliant yn dod â ni ynghyd

Mae’r pwyslais ar allu diwylliant i gryfhau cysylltiadau rhwng y cenedlaethau (A6) i’w groesawu’n fawr. Gall gweithgarwch o’r fath fod yn ffordd bwysig o adeiladu a chyfoethogi cydberthnasau.

Er enghraifft, yn Sir Ddinbych, bu un prosiect yn casglu straeon gan bobl hŷn a phobl iau ynghylch profiadau bywyd yn Nhrefnant, gan edrych yn ôl ar dreftadaeth gwehyddu’r pentref. Cyflawnwyd gwaith pontio’r cenedlaethau i ddod â phobl hŷn a phobl iau ynghyd drwy ConneXions a’r ysgol leol, gan sicrhau bod modd rhannu a chofnodi straeon ar draws y cenedlaethau.[i] Arweiniodd hyn at gyhoeddi llyfr.

Sylwodd y Rhwydwaith Cydraddoldeb Hil lleol fod tebygrwydd rhwng y prosiect hwn a’r gwaith yr oedd yntau wedi bod yn ei wneud mewn tecstiliau i gofnodi profiadau cymunedau lleiafrifol – yn enwedig y rheini o dras Caribïaidd, lle cafodd llawer o gynhyrchion a wehyddwyd yng Nghymru eu cludo, yn hanesyddol, i’w defnyddio gan gaethweision. Sbardunodd hyn sgwrs rhwng y ddau i drin a thrafod y posibilrwydd o arddangos y llyfr a’r tecstiliau a gynhyrchwyd gan y ddau brosiect. Ariannwyd y gwaith o argraffu’r llyfr gyda chymorth tîm Sir Ddinbych Oed-gyfeillgar.

Mae’r enghraifft hon yn dangos sut y mae diwylliant yn ffordd bwysig o ddod â phobl o wahanol genedlaethau a chefndiroedd ynghyd, gan gyfrannu at greu lleoedd ac at lesiant cymunedol. Mae hyn hefyd yn helpu i fynd i’r afael ag oedraniaeth (stereoteipio, rhagfarn a/neu wahaniaethu yn erbyn pobl ar sail eu hoedran neu eu hoedran tybiedig) drwy annog cysylltiadau a chyfeillgarwch rhwng gwahanol genedlaethau, yn ogystal â chreu cymunedau mwy oed-gyfeillgar ledled Cymru.  Mae hyn yn ategu strategaeth Llywodraeth Cymru, Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio, sy’n cynnwys y nod o wella llesiant ymhlith ei phedwar nod.

Cymunedau sy’n sicrhau bod modd i bobl gadw mewn cysylltiad, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a chael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau lleol yw cymunedau oed-gyfeillgar. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn disgrifio cymunedau oed-gyfeillgar fel lleoedd lle mae pobl hŷn, cymunedau, polisïau, gwasanaethau, lleoliadau a strwythurau yn cydweithio i gynorthwyo ac i alluogi pob un ohonom i heneiddio’n dda.

Mae diwylliant yn agwedd bwysig ar hyn ac mae hefyd yn gydnaws â Dyhead 4 strategaeth ddrafft Llywodraeth Cymru sy’n dweud bod diwylliant yn rhan annatod o greu lleoedd a llesiant cymunedol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i Gymru oed-gyfeillgar sy’n cynorthwyo pobl o bob oed i fyw ac i heneiddio’n dda, gan ddarparu arian wedi ei neilltuo i awdurdodau lleol er mwyn iddynt fwrw ymlaen â’r gwaith hwn.

Dylai’r strategaeth ddrafft ystyried sut y mae’r blaenoriaethau a geir ynddi yn cysylltu â phwrpas a gweledigaeth hirdymor strategaeth Llywodraeth Cymru, Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio, ac yn enwedig y nod o ‘wella llesiant’. Dylai’r strategaeth ddrafft hefyd adolygu sut y gall y dyheadau a bennwyd ar draws pob un o’r tair blaenoriaeth ategu’r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo i ddatblygu cymunedau oed-gyfeillgar ledled Cymru.

Mae’r dyhead i sicrhau bod diwylliant yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn amrywiol (A1) yn glodwiw, ond bydd angen ystyried yn benodol sut y gellir gwireddu hyn ar gyfer pobl hŷn, gan arwain at lunio camau gweithredu, eu dyrannu a’u cyflawni o fewn amserlen ddiffiniedig. Mae trafodaethau â phobl hŷn yn rhan hanfodol o wireddu’r dyhead o sicrhau bod diwylliant yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn amrywiol. Mae Arolwg Cenedlaethol diweddaraf Cymru yn dangos mai pobl hŷn oedd leiaf tebygol o blith yr holl grwpiau oedran o fod wedi mynd i weithgareddau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth, neu gymryd rhan ynddynt, o leiaf dair gwaith y flwyddyn: nid oedd 35% o’r rhai 65-74 oed na 47% o’r rhai dros 75 oed wedi gwneud hynny o’i gymharu ag 20% o’r rhai 25-44 oed.[ii]

O ran digwyddiadau celfyddydol yn benodol, nid oedd dros hanner y bobl dros 65 oed wedi bod i unrhyw ddigwyddiad celfyddydol yn ystod y 12 mis diwethaf (nid oedd 65% o’r rhai dros 75 oed na 50% o’r rhai 65-74 oed wedi gwneud hynny). O ran y rhesymau dros hyn, dywedodd 29% o’r bobl hŷn (dros 60 oed) nad oeddent wedi mynd i ddigwyddiadau o’r fath am nad oedd ganddynt ddiddordeb yn yr arlwy, a dywedodd 25% o’r rhai dros 75 oed nad oedd eu hiechyd yn ddigon da.  Dywedodd 4% pellach o’r bobl hŷn (dros 60 oed) bod diffyg mynediad/cyfleusterau i bobl anabl.  Mae agosrwydd hefyd yn ffactor i bobl hŷn: dywedodd 56% o’r rhai 65-74 oed a 52% o’r rhai dros 75 oed y byddent yn mynd i fwy o ddigwyddiadau celfyddydol pe baent yn nes atynt.

Mae’r canfyddiadau hyn yn dangos yr heriau y mae angen eu goresgyn os yw’r dyhead o sicrhau bod diwylliant yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn amrywiol i gael ei wireddu. Maent hefyd yn dangos y cysylltiad rhwng gallu pobl hŷn i gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol ac iechyd a lleoliad. Mae angen i berfformiadau a lleoliadau diwylliannol fod yn hygyrch. Mae i hyn oblygiadau o ran cynllun gofodau a lleoliadau, tra mae cynllunio digwyddiadau celfyddydol sydd o ddiddordeb i bobl hŷn yn gofyn am i bobl ymgysylltu â nhw a’u cynnwys yn y gwaith. Mae i wella iechyd pobl hŷn, gan sicrhau bod modd i bawb heneiddio’n dda a chynyddu disgwyliad oes iach, fanteision eang, a dim ond un o’r manteision hynny yw’r gallu i gymryd rhan mewn diwylliant a chyfrannu ato.

O ran amrywiaeth, mae’n hollbwysig bod profiadau pobl hŷn o gefndir Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn cael sylw yn niwylliant Cymru ac yn strategaeth ddrafft Llywodraeth Cymru, a bod eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi, gan adeiladu ar Ddyhead 3 – ‘Mae diwylliant yn mabwysiadu dull cynhwysol a chytbwys o ddehongli, coffáu a chyflwyno ein gorffennol’. Mae angen rhoi sylw i leisiau amrywiol pobl hŷn yn y strategaeth ddrafft drwyddi draw.

Blaenoriaeth 2: Cenedl diwylliant

Yn yr un modd â dyheadau eraill y strategaeth ddrafft, prif her y flaenoriaeth hon yw’r ffordd y caiff y dyheadau eu gwireddu a’u mesur. Pan fydd y strategaeth ddrafft wedi’i chwblhau, dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y mae’n bwriadu rhoi’r strategaeth ar waith, gwireddu’r dyheadau, a mesur llwyddiant y strategaeth.

Mae Dyhead 9 – Mae ymgysylltu diwylliannol yn cefnogi llesiant unigolion a chymunedau – yn cydweddu’n dda â’r gwaith sy’n cael ei wneud ledled Cymru gan y Comisiynydd, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid, gan gynnwys, yn holl bwysig, pobl hŷn, i sicrhau bod lleoedd yn fwy oed-gyfeillgar. Mae’r Comisiynydd yn cael ei chydnabod fel Aelod Cyswllt o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar ac mae’n gweithio i hyrwyddo cynnydd oed-gyfeillgar ar lefelau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae Swyddfa’r Comisiynydd yn gweithredu fel catalydd ar lefelau cenedlaethol a rhanbarthol drwy hyrwyddo ffordd oed-gyfeillgar o weithio, yn ogystal â rhoi arweiniad a chymorth i bartneriaethau sy’n cael eu harwain gan awdurdodau lleol sydd am ymuno â’r Rhwydwaith Byd-eang.

Mae’r Rhwydwaith Byd-eang yn darparu cyfleoedd i rannu arferion da, gan gynnwys enghreifftiau lle mae diwylliant yn cefnogi gweithgarwch oed-gyfeillgar. Ceir cyfleoedd drwy’r Rhwydwaith Byd-eang i gefnogi Dyheadau 12 a 13 (A12: Mae diwylliant wedi’i integreiddio yn y ffordd y mae Cymru’n sefydlu ac yn datblygu cysylltiadau rhyngwladol; A13: Codi proffil diwylliant yng Nghymru drwy ddathlu a hyrwyddo diwylliant ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol). Mae Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd eisoes yn cydnabod bod Cymru wedi chwarae rôl bwysig o ran trafodaethau’r Rhwydwaith ac o ran rhannu arferion gorau rhyngwladol. Mae’r strategaeth Blaenoriaethau drafft ar gyfer Diwylliant yn darparu cyfleoedd i barhau i adeiladu ar y cyfnewid diwylliannol hwn o arferion oed-gyfeillgar.

Mae Dyhead 7 – Mae diwylliant yn cefnogi ac yn hyrwyddo’r Gymraeg ac yn adlewyrchu Cymru fel cenedl ddwyieithog ac amlieithog – hefyd yn gyfle i bobl hŷn chwarae rôl allweddol. Yn ôl y Cyfrifiad diweddar, mae 116,788 o’r bobl dros 60 oed yn gallu siarad Cymraeg ac mae 28% o’r siaradwyr Cymraeg rhugl dros 65 oed – rhyw 21,000 o bobl hŷn – yn teimlo’n fwy cyfforddus yn siarad Cymraeg na Saesneg.[iii]  Mae prosiectau, fel Ein Hanes Ni yn Ynys Môn, yn enghreifftiau o arferion da ym maes gweithgarwch diwylliannol dwyieithog, gan ei fod yn dod â phobl hŷn a phobl iau ynghyd mewn ardal i drin a thrafod hanes lleol diweddar. Mae prosiect Ein Hanes Ni yn cynnwys ffilmiau byrion Cymraeg ag is-deitlau Saesneg.[iv] Mae prosiectau fel y rhain yn cyfoethogi ymgysylltu cymunedol a’r rhyngweithio rhwng cenedlaethau, ac maent hefyd yn mynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau sy’n atal pobl hŷn rhag cymryd rhan mewn digwyddiadau celfyddydol drwy sicrhau bod gweithgareddau diwylliannol yn digwydd yn nes at y cartref. Dylai’r hyn y mae prosiectau fel y rhain wedi ei ddysgu helpu i osod sail ar gyfer y strategaeth ddrafft.

Blaenoriaeth 3: Mae diwylliant yn gydnerth ac yn gynaliadwy

Mae angen i’r strategaeth Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant yng Nghymru fod yn gynaliadwy ac mae angen i’r dyheadau a ddisgrifir ynddi fod yn rhai a all lwyddo dros y tymor canolig a’r tymor hirach.

Mae cydnabod gwirfoddoli fel rhan o’r strategaeth ddrafft yn Nyhead 19 (Mae’r sector diwylliant yng Nghymru yn lle gwych i weithio a gwirfoddoli, gyda gweithlu proffesiynol a medrus) yn gyfle da i gydnabod y rôl y mae pobl hŷn eisoes yn ei chwarae drwy wirfoddoli ar draws amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys gweithgareddau diwylliannol. Mae data o 2022-23 yn dangos bod 32% o’r rhai dros 65 oed wedi cymryd rhan mewn rhyw fath o weithgaredd gwirfoddol.[v]  Mae hefyd yn gyfle i ddod â phobl o wahanol genedlaethau ynghyd i gydweithio’n naturiol mewn meysydd lle maent yn rhannu’r un diddordebau neu gyfleoedd dysgu, gan hybu camau i bontio’r cenedlaethau.

Mae’r dyhead am i ddiwylliant gael ei gefnogi a’i wella gan arferion digidol da (A17) yn eang. Tra mae casgliadau ar-lein, fel rhai Amgueddfa Cymru, yn gyfle i bobl weld amrywiaeth eang o bortreadau a delweddau yn eu cartrefi eu hunain, a thra mae prosiectau diwylliannol llai o faint a mwy lleol hefyd yn gallu rhannu eu canfyddiadau ar-lein, gan gynnwys drwy YouTube, mae’n hanfodol nad yw digidoleiddio yn arwain at sefyllfa lle nad yw pobl nad ydynt ar-lein yn gallu cael mynediad at adnoddau diwylliannol.[vi]

Mae rhoi llwyfan i adnoddau diwylliannol ar-lein yn creu cyfleoedd i amrywiaeth ehangach o bobl weld, clywed, rhannu a chymryd rhan. Fodd bynnag, yng Nghymru, nid oes gan 31% o’r rhai dros 75 oed (95,069 o bobl) fynediad at y rhyngrwyd yn eu cartrefi, ac nid yw 33% o’r rhai dros 75 oed (101,200) yn defnyddio’r rhyngrwyd (gan gynnwys teledu clyfar a dyfeisiau llaw).[vii] Mae’n bwysig sicrhau bod arferion digidol da yn gynhwysol ac yn ategu Dyhead 1 y strategaeth ddrafft sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod diwylliant yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn amrywiol.

Mae adroddiad y Comisiynydd, ‘Dim Mynediad: Profiadau pobl hŷn o allgáu digidol yng Nghymru’, yn nodi’r problemau y mae llawer o bobl hŷn yn eu hwynebu wrth i fwy a mwy o wybodaeth a gwasanaethau symud ar-lein.[viii]  Mae’n hanfodol nad yw cymryd rhan mewn diwylliant yn gyfystyr ag allgáu pobl nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd, neu bobl nad ydynt yn gallu ei defnyddio. Mae hyn yn cynnwys materion ymarferol, fel rhoi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau a gweithredu systemau archebu/tocynnau. I fod yn gynhwysol, mae’n bwysig sicrhau nad yw gwybodaeth am ddigwyddiadau diwylliannol ar gael ar-lein yn unig neu bron yn unig, a pheidio â symud at systemau archebu neu docynnau mynediad digidol yn unig. Mae camau o’r fath yn atal pobl nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd, yn ogystal â’r rheini nad oes ganddynt ffôn clyfar, rhag mynd i ddigwyddiadau a lleoliadau diwylliannol. Mae pobl hŷn wedi rhannu eu profiadau o’r rhwystredigaeth sy’n deillio o fethu â chyflawni gweithgareddau bob dydd, a’u hymdeimlad o gael eu cau allan neu eu gadael ar ôl, oherwydd allgáu digidol. Rhaid i ddiwylliant beidio â gwreiddio problemau allgáu digidol yn ddyfnach ac, yn hytrach, dylai fynd ati i hyrwyddo cyfleoedd i bawb gymryd rhan.

Casgliad

Mae’r Comisiynydd yn croesawu strategaeth Llywodraeth Cymru, Blaenoriaethau drafft ar gyfer Diwylliant yng Nghymru 2024 i 2030, ac yn cefnogi llawer o’r dyheadau penodol a geir ynddi. Dylai’r strategaeth ddrafft:

  • Ystyried sut y mae’r blaenoriaethau a geir ynddi yn cysylltu â phwrpas a gweledigaeth hirdymor strategaeth Llywodraeth Cymru, Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio, ac yn enwedig y nod o ‘wella llesiant’.
  • Adolygu sut y gall y dyheadau a bennwyd ar draws pob un o’r tair blaenoriaeth ategu’r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo i ddatblygu cymunedau oed-gyfeillgar ledled Cymru.
  • Pwyso a mesur y cyfleoedd a ddarperir gan Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar i rannu arferion da o ran cefnogi gweithgarwch oed-gyfeillgar drwy ddiwylliant, ac i ddysgu o arferion da rhyngwladol.
  • Sicrhau bod lleoliadau a pherfformiadau diwylliannol yn hygyrch ac yn ddeniadol i bobl hŷn, a bod digwyddiadau diwylliannol yn adlewyrchu diddordebau pobl hŷn yn y dyfodol.
  • Adlewyrchu lleisiau amrywiol pobl hŷn, gan gynnwys pobl hŷn o gefndir Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ac eraill y mae eu safbwyntiau a’u diddordebau yn llai tebygol o gael eu clywed.
  • Dysgu gan brosiectau dwyieithog, fel Ein Hanes Ni, o ran sut y gall y Gymraeg helpu i ddod â chymunedau lleol ynghyd ar draws y cenedlaethau i gydweithio ar weithgareddau diwylliannol.
  • Defnyddio diwylliant i hyrwyddo cyfleoedd i wirfoddoli ymhlith amrywiaeth eang o bobl hŷn, a thynnu sylw at werth y cyfraniad hwn.
  • Sicrhau nad yw diwylliant yn cyfrannu at wreiddio’n ddyfnach y problemau allgáu digidol y mae pobl hŷn yn eu hwynebu, gan gynnwys drwy sianeli a ddefnyddir i roi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau ac i weithredu systemau archebu/tocynnau.

 

Rachel Bowen, Cyfarwyddwr Polisi, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Rachel.bowen@olderpeople.wales

 

[i] Gwyliwch fideo byr o’r prosiect drwy: ConneXions ac Ysgol Trefnant, Sir Ddinbych (youtube.com)

[ii] Llywodraeth Cymru (2024) Arolwg Cenedlaethol Cymru. Ar gael yn: Arolwg Cenedlaethol Cymru prif ganlyniadau: Ebrill 2022 i Fawrth 2023 | LLYW.CYMRU

[iii] Llywodraeth Cymru (2023) Y Gymraeg yn ôl nodweddion y boblogaeth. Ar gael yn: Y Gymraeg yn ôl nodweddion y boblogaeth (Cyfrifiad 2021) [HTML] | LLYW.CYMRU

[iv] Gweler prosiect ‘Ein Hanes Ni’ Menter Iaith Môn yn: Y Gymuned – Menter Iaith Môn (menteriaithmon.cymru)

[v] Llywodraeth Cymru (2024) Arolwg Cenedlaethol Cymru. Ar gael yn: Arolwg Cenedlaethol Cymru prif ganlyniadau: Ebrill 2022 i Fawrth 2023 | LLYW.CYMRU

[vi] Gweler Casgliadau Ar-lein | Amgueddfa Cymru

[vii] Llywodraeth Cymru (2022) Arolwg Cenedlaethol Cymru Ebrill‑Mehefin 2021. Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-dangosydd-canlyniadau

[viii] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (2024) Dim Mynediad: Profiadau pobl hŷn o allgáu digidol yng Nghymru. Ar gael yn: Dim Mynediad: Profiadau pobl hŷn o allgáu digidol yng Nghymru

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges