Angen Help?

Lle i bawb? Barn pobl hŷn ar fynediad i gyfleusterau parcio ceir yng Nghymru (HTML)

Lle i bawb? Barn pobl hŷn ar fynediad i gyfleusterau parcio ceir yng Nghymru

Cyflwyniad

Mae defnyddio’r rhyngrwyd i wneud gweithgareddau bob dydd yn parhau i dyfu, ac er bod llawer o bobl hŷn yng Nghymru yn hyderus wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd, mae llawer o rai eraill nad ydynt yn hyderus ac yn wynebu heriau sylweddol a chynyddol sy’n aml yn arwain at allgau pobl.

Mae pobl hŷn ledled Cymru yn codi materion sy’n ymwneud ag allgáu digidol a’i effaith yn aml gyda’r Comisiynydd mewn digwyddiadau ymgysylltu a thrwy ei gwasanaeth Cyngor a Chymorth. Mae graddfa’r broblem hon yn cael ei hadlewyrchu mewn amrywiaeth o ddata, sy’n dangos nad oes gan tua thraean o bobl 75 oed a hŷn fynediad i’r rhyngrwyd nac yn defnyddio’r rhyngrwyd o gwbl. Mewn cyferbyniad â hynny, dim ond 13% o bobl rhwng 65 a 74 oed a dim un o’r rheini rhwng 25 a 44 oed sy’n dweud nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd.

Mae ymchwil hefyd yn awgrymu nad yw tua thraean o bobl dros 65 oed a 12% o bobl 55-64 oed yn defnyddio ffôn clyfar.[1]

Felly, mae gwasanaethau digidol yn unig yn rhwystr sylweddol i bobl hŷn sydd wedi’u ‘datgysylltu’n ddigidol’ allu cymryd rhan lawn mewn cymdeithas.

Un maes penodol lle mae pobl hŷn yn aml yn codi’r mathau hyn o bryderon yw meysydd parcio, gyda’r defnydd cynyddol o systemau digidol neu apiau, taliadau di-arian a pheiriannau cardiau yn unig. Mae pobl hŷn wedi rhannu eu pryderon a’u rhwystredigaethau am effaith y mathau hyn o newidiadau, sydd wedi gwneud gweithgareddau bob dydd yn anoddach ac, mewn rhai achosion, wedi annog unigolion i beidio â mynd allan yn gyfan gwbl.

I lawer o bobl hŷn, mae gallu parcio’r car yn golygu gallu mynd allan i’w cymuned a gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Mae’n golygu gallu mynd i apwyntiadau iechyd neu apwyntiadau eraill neu gael cyfleoedd i wirfoddoli neu gymdeithasu. Mae’n golygu cael rhyddid ac annibyniaeth, rhywbeth rydyn ni i gyd yn ei werthfawrogi beth bynnag fo’n hoedran.

Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at brofiadau a phryderon pobl hŷn, ochr yn ochr ag archwilio i ba raddau y mae dulliau talu digidol a di-arian yn cael eu defnyddio ym meysydd parcio awdurdodau lleol (nid yw cylch gwaith y Comisiynydd yn cynnwys meysydd parcio preifat), bylchau mewn hygyrchedd a’r canlyniadau i bobl hŷn.

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys cyfres o argymhellion, sy’n nodi’r camau y mae angen eu cymryd i sicrhau bod meysydd parcio yn parhau’n amwynderau y gall pobl hŷn eu defnyddio’n hawdd.

Y Prif Ganfyddiadau

  • The perception that car park payments are now predominantly app-based is impacting on older people’s independence, wellbeing, and the ability to take part in community life. Information shared by local authorities suggests there is some disconnect between older people’s perceptions and practice (no local authorities have moved to app-only payments, for example), indicating a need for clearer communication about the parking options available.
  • While different payment options are often available, the shift towards promoting appbased payments, even as a last resort when parking machines are out of order, is contributing to exclusion for those with limited digital skills or those who lack access to a smartphone. This means older people may be forced to rely on others or risk fines for non-compliance.
  • Older people may also face additional barriers, including the complexity of navigating multiple apps, concerns about data privacy, and unreliable mobile signal – particularly in rural or poorly connected areas. These challenges underscore the urgent need for inclusive solutions that ensure older people are not left behind in an increasingly digital world. The potential impact on older people of removing cash payment options does not seem to have been fully recognised, and older people have not been included in decision-making processes in the ways they should expect, with meaningful opportunities to make their voices heard.
  • Resolving these issues, retaining the use of cash payments, providing reassurance that payment methods that do not rely on smartphones are always available, and communicating this message effectively, will ensure that older people can continue to undertake everyday activities and play a full part in community life. This is central to creating Age Friendly communities, places where people of all ages can live and age well, supported by inclusive design, accessible services, and strong social networks.

Cefndir a chyd-destun

Allgáu digidol

Fel y nodwyd uchod, mae allgáu digidol yn effeithio ar nifer fawr o bobl hŷn yng Nghymru ac mae’n parhau i effeithio ar fywydau pobl mewn amrywiaeth eang o ffyrdd, rhywbeth a archwiliwyd yn fwyaf diweddar gan y Comisiynydd yn ei hadroddiad Dim Mynediad 2024, a oedd yn seiliedig ar brofiadau pobl hŷn.

Mae’r adroddiad yn nodi nad yw allgáu digidol yn fater deuaidd: mae llawer o bobl hŷn yn hyderus wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer tasgau penodol – fel cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau – ond efallai y byddant yn ei chael hi’n anodd (neu’n dewis peidio) cymryd rhan mewn gweithgareddau mwy cymhleth neu sensitif, fel bancio ar-lein, rheoli cyfleustodau, neu gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus. Mae’r eithrio rhannol hwn yn golygu y gallai unigolion fod yn ymgysylltu’n ddigidol mewn rhai meysydd wrth ddal i wynebu rhwystrau sylweddol mewn meysydd eraill.

Roedd yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at rwystrau ehangach sy’n atal pobl hŷn rhag cael gafael ar wasanaethau digidol, gan gynnwys mynediad cyfyngedig at ddyfeisiau digidol, cysylltedd rhyngrwyd annibynadwy neu anfforddiadwy a chymorth annigonol i lywio drwy systemau digidol, materion a amlygwyd hefyd mewn amrywiaeth o ymchwil arall.

Mae’r materion hyn yn pwysleisio, er y gallai digideiddio mwy a mwy o wasanaethau cyhoeddus fod o fudd i lawer o bobl hŷn, y gall hefyd arwain at allgáu nifer sylweddol o unigolion.

Mae hyn yn tanseilio egwyddorion cydraddoldeb, hygyrchedd a dylunio gwasanaethau cynhwysol. Heb ddewisiadau amgen priodol, mae perygl y bydd systemau digidol yn unig yn dwysáu anghydraddoldebau sy’n bodoli eisoes ac yn lleihau gallu pobl hŷn i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas.

Mae allgáu digidol hefyd yn gysylltiedig ag oedraniaeth ddigidol, mater a archwiliwyd gan y Comisiynydd mewn adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2025.[2]

Mae oedraniaeth ddigidol yn cyfeirio at stereoteipio, rhagfarn neu anfantais sydd wedi’i gyfeirio at bobl ar sail oedran mewn cyd-destunau digidol, sy’n effeithio ar unigolion, yn ogystal ag effeithio ar wasanaethau a systemau ehangach. Er enghraifft, gall pobl hŷn wynebu rhwystrau wrth gael gafael ar wasanaethau digidol oherwydd llwyfannau a systemau sydd wedi’u dylunio’n wael ac yn tybio llythrennedd digidol neu sy’n cael eu datblygu gyda defnyddwyr iau mewn golwg.

Roedd adroddiad y Comisiynydd yn tynnu sylw at pam mae cyfleoedd i bobl hŷn gyd-ddylunio gwasanaethau digidol mor bwysig i fynd i’r afael â’r mathau hyn o rwystrau, a pham mae angen llawer mwy o ffocws ar draws gwasanaethau cyhoeddus ar sicrhau bod pobl o bob oed yn gallu cael mynediad at systemau a llwyfannau a’u defnyddio.

Parcio a Hygyrchedd

Mae adborth i’r Comisiynydd drwy ymatebion i’r ymgynghoriad, digwyddiadau ymgysylltu, ac ymholiadau i’w gwasanaeth Cyngor a Chymorth wedi tynnu sylw at bryderon cynyddol ymysg llawer o bobl hŷn ynghylch pa mor hygyrch yw gwasanaethau talu am barcio ceir. Yn benodol, mae’r newid (gwirioneddol ac ymddangosiadol) tuag at systemau talu di-arian neu apiau yn bennaf wedi creu rhwystrau sylweddol i bobl hŷn:

  • Nad ydyn nhw’n berchen ar ffôn clyfar na dyfeisiau symudol
  • Nad oes ganddyn nhw fynediad i’r rhyngrwyd neu ddata symudol Sy’n anghyfarwydd â rhaglenni digidol neu’n methu eu defnyddio
  • Sydd eisiau talu gydag arian parod.

Mae canlyniadau pendant i’r rhwystrau hyn, fel yr archwilir isod. Mae pobl hŷn yn dweud nad ydynt yn gallu teithio’n annibynnol, mynd i apwyntiadau, na chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a chymunedol oherwydd systemau parcio anhygyrch. Mewn rhai achosion, mae unigolion wedi wynebu cosbau ariannol am beidio â chydymffurfio â gofynion talu digidol, gan achosi straen a theimladau o allgáu ymhellach.

Mae profiadau pobl hŷn hefyd yn tynnu sylw at sut mae trawsnewid digidol – yn yr achos hwn cyfyngu neu gael gwared ar opsiynau talu gydag arian parod a cherdyn i systemau ar apiau – yn gallu cyfyngu ar fynediad at wasanaethau hanfodol ac effeithio’n negyddol ar lesiant.

Methodoleg

Datblygwyd yr adroddiad hwn gan ddefnyddio dulliau cymysg, drwy ystyried mewnwelediadau ansoddol yn erbyn casglu data meintiol i helpu i ddarparu dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o’r mater. • Dadansoddi Profiadau Bywyd: Cafwyd gwybodaeth ansoddol o ymgynghoriadau ac ymgysylltiad diweddar â phobl hŷn ac ymholiadau i wasanaeth Cyngor a Chymorth y Comisiynydd. Mae’r adroddiadau hyn yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar yr effaith yn y byd go iawn. • Ymgysylltu ag awdurdodau lleol: Anfonwyd gohebiaeth uniongyrchol at bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn gofyn am ddata ar berchnogaeth meysydd parcio, lleoliad a dulliau talu cyfredol.

  • Ymchwil desg: i systemau talu meysydd parcio ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae’r fethodoleg aml-ffynhonnell hon yn sicrhau bod canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad hwn yn seiliedig ar brofiadau bywyd pobl hŷn a thystiolaeth ystadegol.

Ym mis Mehefin 2025, cysylltodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru â phob un o’r 22 awdurdod lleol i ofyn am wybodaeth am y dulliau talu sydd ar gael mewn meysydd parcio sy’n cael eu rhedeg gan yr awdurdod. Gofynnwyd i Awdurdodau Lleol ymateb i’r cwestiynau canlynol:

  1. Faint o feysydd parcio talu i ddefnyddio sydd gan eich Awdurdod Lleol?
  2. Faint o feysydd parcio yn eich Awdurdod Lleol sy’n cael eu rheoli dan gontract gan drydydd parti?
  3. Pa ddulliau talu sydd ar gael ym mhob maes parcio (e.e. arian parod, cerdyn, ap symudol, taliadau digyswllt, ac ati.)?
  4. Faint o beiriannau talu sydd wedi bod allan o ddefnydd yn ystod y 12 mis diweddaf?
  5. Pa drefniadau sydd ar gael i dderbyn taliadau os yw’r peiriant allan o ddefnydd?
  6. Oes gennych chi gynlluniau ar y gweill i gael gwared yn raddol â thaliadau arian parod? Os felly, a wnewch chi ddarparu’r amserlen a’r sail resymegol dros eich penderfyniad.
  7. Ydy’r awdurdod lleol wedi cynnal unrhyw asesiadau neu ymgynghoriadau ynglŷn ag effaith derbyn taliadau di-arian yn unig?
  8. Pa drefniadau eraill sydd wedi eu gwneud ar gyfer unigolion sydd ddim yn gallu defnyddio dulliau talu digidol (os oes trefniadau eraill)?
  9. Oes consesiwn ar gael yn eich meysydd parcio? Os felly, oes angen i’r defnyddwyr ddangos tocyn neu drwydded ffisegol, neu oes angen defnyddio dulliau digidol?

Ymatebodd pob un o’r 22 awdurdod lleol gan ddarparu’r data y gofynnwyd amdano ar berchnogaeth meysydd parcio, seilwaith talu, a hygyrchedd. Cafwyd pedwar ymateb ar ddeg o fewn y terfyn amser. Derbyniwyd dau arall ar ôl un cyswllt dilynol, pump ar ôl trydydd cyswllt, a’r un olaf dim ond ar ôl ceisiadau dro ar ôl tro.

Profiadau Pobl Hŷn

Mae’r adran hon yn defnyddio profiadau go iawn pobl hŷn a ymgysylltodd â’r Comisiynydd drwy ei hymgynghoriad gosod blaenoriaethau yng ngwanwyn 2025, adroddiad Dim Mynediad (2024), cyswllt uniongyrchol drwy’r gwasanaeth Cyngor a Chymorth, ac ymchwil arall a gynhaliwyd ar ran y Comisiynydd.

Mae’r adroddiadau hyn yn datgelu nifer o faterion a heriau cyffredin y mae pobl hŷn yn eu hwynebu’n aml:

  • Pryderon ynghylch gorfod dibynnu ar apiau symudol fel yr unig ddull talu
  • Diffyg mynediad at ffonau clyfar neu sgiliau digidol cyfyngedig
  • Signal symudol gwael yn rhwystro defnyddio’r ap
  • Peiriannau talu wedi torri neu’n anhygyrch
  • Absenoldeb opsiynau talu ag arian parod

Fel y nodwyd yn y cyfrifon gan bobl hŷn isod, mae’r rhwystrau hyn yn cael amrywiaeth o effeithiau, gan atal unigolion rhag cael gafael ar wasanaethau hanfodol, ymweld â theulu a ffrindiau, a chymryd rhan lawn yn eu cymunedau.

Systemau Talu Digidol

Mae pobl hŷn yn aml yn codi pryderon am nifer cynyddol o feysydd parcio sy’n gweithredu gyda systemau talu sy’n defnyddio apiau’n unig neu systemau talu digidol yn bennaf, sy’n aml yn gofyn am apiau ffonau clyfar, sganio cod ansawdd neu gofrestru ar-lein ymlaen llaw.

Mae pobl hŷn wedi mynegi amharodrwydd i roi manylion talu ar apiau neu lwyfannau ar-lein, gan nodi pryderon am ddiogelwch, defnyddioldeb a mynediad:

“Dydw i ddim yn hoffi’r ffaith bod angen cerdyn neu ap ar fesuryddion parcio weithiau, yn hytrach na darnau arian.”

“Ni fyddwn yn gallu parcio’r car os mai’r unig ffordd o dalu oedd drwy ap.”

“Wrth barcio ym Maes Parcio Heol y Brenin sylwais fod gyrwyr yn defnyddio ffonau clyfar ac apiau, does gen i mo’r rhain. Yn ffodus, roedd yn dal i gymryd arian parod. Os bydd y cyfleuster hwnnw’n diflannu, bydd llawer ohonon ni’n rhoi’r gorau i fynd i’r Wyddgrug a bydd hynny’n arwain at ganlyniadau negyddol i fusnesau lleol.”

“Rydw i wedi’i chael hi’n anodd talu am faes parcio’n ddigidol.”

“Dydw i ddim yn gallu defnyddio’r meysydd parcio gan nad yw’r apiau gen i!”

“Rhaid i fesuryddion parcio gymryd arian parod, nid dim ond cerdyn neu ap.”

“Mae’n fwlio ac yn wahaniaethu gan nad ydyn ni hyd yn oed yn gallu parcio ein car.”

Mae’r dyfyniadau hyn yn dangos yn glir ymdeimlad o allgáu a rhwystredigaeth, yn enwedig ymysg pobl hŷn nad ydynt yn berchen ar ffonau clyfar neu nad oes ganddynt fynediad i’r rhyngrwyd.

Mynegodd pobl hŷn bryderon hefyd am golli’r opsiwn i dalu am barcio gydag arian parod, a’r effaith y byddai hyn yn ei chael ar eu bywydau, gyda rhai unigolion yn galw am i daliadau arian parod fod yn ofyniad cyfreithiol ym meysydd parcio awdurdodau lleol.

Fel y nodwyd yn yr adran nesaf, roedd ymatebion gan awdurdodau lleol yn nodi bod y rhan fwyaf o’r meysydd parcio maen nhw’n eu gweithredu yn cadw o leiaf un opsiwn talu gydag arian parod neu gerdyn, sy’n awgrymu y gallai rhai o’r pryderon a godwyd ymwneud â meysydd parcio sy’n cael eu rhedeg yn breifat.

Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod efallai na fydd llawer o bobl hŷn yn gwahaniaethu fel hyn, a bod hyd yn oed y canfyddiad mai taliadau digidol yw’r unig opsiwn o ran parcio yn dal yn gallu bod yn rhwystr sylweddol.

Hygyrchedd a Defnyddioldeb

Y tu hwnt i allgáu digidol, cododd pobl hŷn bryderon hefyd am hygyrchedd corfforol a gwybyddol peiriannau ac apiau parcio. Dywedodd llawer fod y broses yn ddryslyd, yn cymryd llawer o amser ac yn achosi straen, yn enwedig mewn ardaloedd anghysbell sydd wedi’u goleuo’n wael:

“Mae parcio wedi dod yn broblem mewn rhai meysydd parcio, yn enwedig mewn trefi glan môr. Dylai’r rhifau ar fysellfyrddau ar beiriannau talu fod yn fwy ac wedi’u printio fel nad ydynt yn pylu yng ngolau’r haul.”

“Mae’n anodd gweld y sgrin a deall y cyfarwyddiadau. Rydw i’n gorfod edrych mewn 2 neu 3 lle ar ôl ei gilydd ac erbyn i mi weithio fy ffordd drwy’r cyfan mae fy amser wedi dod i ben ac mae’n rhaid i mi ddechrau eto. Nid yw’n hawdd o bell ffordd gyda bysedd arthritig na chryndod.”

“Mae peiriannau tocynnau meysydd parcio’r cyngor yn rhy ddryslyd. Mae’n pwyso arna i gorfod defnyddio un.”

“Rwy’n hyderus yn ddigidol ond rwy’n cael trafferth gyda’r peiriannau parcio sydd wedi cael eu gosod ledled Cymru yn ddiweddar. Maen nhw’n ddryslyd iawn.”

Dywedodd hyd yn oed y rheini â sgiliau digidol eu bod yn cael trafferth llywio systemau mwy newydd, gan nodi dyluniad gwael a diffyg eglurder. Mynegodd eraill bryder ynghylch diogelwch data a diffyg ymddiriedaeth mewn apiau:

“Mae talu am feysydd parcio ac ati ar-lein yn hawdd iawn os ydych chi’n llwytho’r ap i fyny, fodd bynnag, nid yw rhai pobl hŷn yn gwybod sut i wneud hyn neu maent yn amheus llwytho pethau i fyny ar eu ffonau am resymau diogelwch.”

Roedd y materion hyn yn aml yn cael eu dwysáu gan yr angen i ddefnyddio gwahanol apiau ar draws awdurdodau lleol, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr lawrlwytho a dysgu sut i ddefnyddio mwy nag un system.

Systemau Parcio Anodd

Disgrifiodd pobl hŷn a rannodd eu profiadau gyda’r Comisiynydd yr heriau sy’n cael eu creu gan systemau parcio anhygyrch, a oedd yn aml yn gorfodi unigolion i ofyn am help, dod o hyd i leoliadau parcio eraill, neu roi’r gorau i’w cynlluniau’n gyfan gwbl.

“Os nad ydw i’n gallu talu gydag arian parod – mae’n rhaid i mi chwilio am faes parcio arall.”

“Meysydd parcio – wedi rhoi’r gorau i barcio mewn rhai llefydd gan mai dim ond gyda cherdyn dwi’n cael talu.”

“Pan dwi’n methu cael tocyn parcio i’w roi ar ffenestr flaen y car, dwi’n gorfod rhoi’r gorau i’r syniad o gael diwrnod allan.”

“Ni ddylid defnyddio systemau na all y genhedlaeth oedrannus eu defnyddio. Parcio car, er enghraifft.”

Mae’r mathau hyn o brofiadau wedi gwneud i lawer o bobl hŷn deimlo’n rhwystredig, yn ddi-rym, ac wedi’u hallgáu mewn byd sy’n dod yn fwyfwy digidol. Mae methu talu am barcio mewn ffordd sy’n addas i’w hanghenion wedi atal rhai unigolion rhag cael gafael ar wasanaethau hanfodol, mynd i apwyntiadau iechyd, neu fwynhau gweithgareddau cymdeithasol a hamdden.

Peiriannau wedi Torri a Hygyrchedd

Roedd pobl hŷn yn aml yn dweud bod peiriannau sydd wedi torri neu nad ydynt yn gweithio’n iawn yn creu rhwystrau ychwanegol, yn enwedig i’r rheini sydd â heriau symudedd:

“Mae un o’r ddau beiriant ym maes parcio’r pentref wedi torri ers misoedd, sy’n arwain at giwiau hir ar gyfer y peiriant arall. Gall hyn achosi anawsterau i unigolion a all fod â phroblemau symudedd sy’n gorfod sefyll ac aros.”

Er bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi dweud eu bod yn mynd i’r afael â diffygion yn brydlon, roedd rhai’n cydnabod oedi o dros wythnos.

Un enghraifft gadarnhaol oedd awdurdod lleol sy’n hepgor taliadau parcio pan na fydd peiriannau’n gweithio, gan gynnig dull mwy cynhwysol.

Dirwyon a Gorfodi

Dywedodd nifer o bobl hŷn eu bod wedi cael dirwy pan nad oeddent wedi gallu talu gan fod peiriannau wedi torri neu fod systemau digidol yn anodd eu deall. Mewn un achos:

“Roedd un o’r aelodau wedi cael dirwy gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-ybont ar Ogwr y llynedd ar ôl iddi barcio yn un o’i feysydd parcio. Nid oedd y peiriant talu yn gweithio felly nid oedd yn gallu talu gydag arian parod (y dull o’i dewis) na gyda cherdyn. Pan heriodd Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, dywedwyd wrthi y dylai fod wedi defnyddio’r ap. Dydy hi ddim yn teimlo’n hyderus yn gwneud unrhyw beth gydag apiau, gan gynnwys ei lwytho i lawr neu ei ddefnyddio, felly fyddai hyn byth wedi croesi ei meddwl.”

Mae’r enghraifft hon yn tynnu sylw at fater ehangach sy’n cael ei gydnabod gan nifer o awdurdodau lleol: pan na fydd peiriannau’n gweithio, yr unig ddewis arall yn aml yw talu drwy ddefnyddio ap, heb ganllawiau clir i’r rheini nad ydynt yn gallu cael gafael ar offer digidol na’u defnyddio.

Mae hyn yn tybio llythrennedd digidol cyffredinol a bod yn berchen ar ffôn clyfar, sy’n bell o fod yn wir, rhywbeth nad yw’n dderbyniol.

Heriau gyda Thalu dros y Ffôn

Mewn ardaloedd lle nad yw arian parod, ac weithiau taliadau cerdyn yn bosibl, mae rhai awdurdodau lleol hefyd yn cynnig yr opsiwn i dalu dros y ffôn yn ogystal ag apiau. Er bod hwn yn ddewis arall i’w groesawu, mae’n cyflwyno ei heriau ei hun i rai grwpiau o bobl hŷn:

“Anawsterau defnyddio dull talu dros y ffôn i barcio ar gyfer pobl sydd â nam ar eu synhwyrau – mae gan un aelod nam ar ei glyw ac mae’n ei chael hi’n anodd iawn ‘talu dros y ffôn’, yn enwedig os yw hi y tu allan/ddim yn rhywle tawel.”

Mynegodd unigolion eraill nad oeddent yn gyfforddus yn darllen manylion banc yn uchel mewn mannau cyhoeddus, gan ofni y gallai eraill glywed a chamddefnyddio eu gwybodaeth. Mae’r pryderon hyn yn atgyfnerthu’r angen am nifer o opsiynau talu hygyrch ym mhob maes parcio.

Pwysigrwydd Dewis

Thema a gododd dro ar ôl tro yn adborth pobl hŷn oedd pwysigrwydd dewis wrth dalu. Roedd llawer yn teimlo bod systemau digidol yn unig yn dileu eu gallu i dalu mewn ffordd a oedd yn addas i’w hanghenion nhw:

“Mae dewis wedi cael ei dynnu oddi ar nifer o wasanaethau. Er enghraifft, does dim modd defnyddio meysydd parcio gan mai apiau yw’r unig ffordd o dalu.”

“Pam ddylai rhywun fod angen ffôn clyfar, er enghraifft, i wefru car trydan mewn man gwefru cyhoeddus? Neu i barcio eich car mewn maes parcio cyhoeddus? Dylai hynny gael ei wahardd mewn gwirionedd.”

Mynegodd pobl hŷn bryder hefyd ynghylch y diffyg ymgynghori cyn newid systemau parcio. Dywedodd llawer nad oedd unrhyw ymgynghoriadau, hysbysiadau cyhoeddus na chyfleoedd i fynegi pryderon ynghylch y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig.

Er bod yn well gan lawer o bobl hŷn ddefnyddio arian parod, roedd yn well gan eraill daliadau digyswllt neu gerdyn, gan atgyfnerthu’r angen am amrywiaeth o opsiynau talu cynhwysol.

Nid oes un dull “gorau” – dim ond yr angen am hyblygrwydd a hygyrchedd.

Ymatebion gan awdurdodau lleol

Darparodd pob un o’r 22 awdurdod lleol yr wybodaeth y gofynnodd y Comisiynydd amdani, fel y nodir yn yr adran Methodoleg.

Perchnogaeth a Gweithredu

Roedd nifer y meysydd parcio a oedd yn cael eu rhedeg gan bob awdurdod lleol yn amrywio o wyth ym Merthyr Tudful i 56 yn Abertawe.

Yn benodol, nid oedd yr un o’r awdurdodau wedi rhoi gweithrediadau meysydd parcio ar gontract allanol i ddarparwyr trydydd parti; roedd yr holl feysydd parcio yn eiddo i’r awdurdod lleol ac yn cael eu rheoli’n uniongyrchol ganddo.

Dulliau Talu

Ym Mlaenau Gwent a Thorfaen, mae holl feysydd parcio awdurdodau lleol yn rhad ac am ddim i’w defnyddio bob amser. O’r 20 awdurdod lleol arall, cadarnhaodd 18 fod taliadau arian parod yn dal ar gael yn y ‘rhan fwyaf’ o feysydd parcio.

Yn galonogol, dywedodd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol eu bod yn cynnig sawl opsiwn talu mewn meysydd parcio unigol. Mewn rhai achosion, roedd gan feysydd parcio sawl peiriant yn cynnig gwahanol ddulliau talu, er y gallai hyn fod yn ddryslyd i ddefnyddwyr heb arwyddion clir ac amlwg yn nodi’r opsiynau sydd ar gael.

Fodd bynnag, mae ymatebion o rai ardaloedd yn dangos bod opsiynau i dalu gydag arian parod yn fwy cyfyngedig neu y byddant yn dod yn fwy cyfyngedig yn y dyfodol.

Ym Mro Morgannwg, er enghraifft, nid yw 50% o’r meysydd parcio bellach yn derbyn arian parod, er nad oes cynlluniau i roi’r gorau’n llwyr i barcio gydag arian parod.

Yng Ngheredigion, nid oes opsiwn ar hyn o bryd i dalu am barcio gan ddefnyddio arian parod: rhaid talu gyda cherdyn, yn ddigyswllt neu drwy waled ddigidol, gyda’r ap PayByPhone yn cael ei roi ar waith ar hyn o bryd. Gellir prynu tocynnau tymor ar-lein, dros y ffôn, neu wyneb yn wyneb, sy’n cynnig opsiwn i dalu gydag arian parod neu siec.

Dywedodd Ceredigion fod y penderfyniad i ddileu taliadau arian parod yn llwyr wedi’i wneud yn ystod pandemig COVID-19, gydag Asesiad Effaith Integredig wedi’i gymeradwyo ym mis Rhagfyr 2020.

Roedd yr asesiad hwn yn nodi y byddai’r penderfyniad yn cael effaith gadarnhaol ar bobl dros 50 oed, gyda’r rhesymeg dros hyn yn seiliedig ar gyfraddau perchnogaeth cardiau debyd, y duedd ar y pryd tuag at ddefnyddio llai o arian parod, a mwy o ddiogelwch o ganlyniad i beidio â’i gario.

Oherwydd amseriad a chyd-destun yr Asesiad Effaith Integredig, dywedodd Ceredigion “na fu’n bosibl ymgysylltu nac ymgynghori’n eang nac mewn ffordd ystyrlon cyn rhoi’r newid ar waith” ond bod gweithgarwch ymgysylltu pellach yn cael ei ystyried.

Mae’r Comisiynydd yn dal yn bryderus nad oedd pobl hŷn wedi cael cyfle i roi eu barn am yr hyn a oedd yn newid sylweddol mewn polisi ac na chynhaliwyd ymgynghoriad ar y pryd.

Mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy’n defnyddio arian parod ers 2022, o bosibl o ganlyniad i’r argyfwng costau byw parhaus, sy’n dangos newid posibl yn sylfaen dystiolaeth yr Asesiad. Ar ben hynny, fel y nodwyd yn yr adroddiad hwn, mae adborth yn dangos bod llawer o bobl hŷn yn dal i werthfawrogi arian parod yn fawr iawn, a allai arwain at eu heithrio os nad ydynt yn gallu ei ddefnyddio.

Roedd ymateb Sir Benfro yn nodi bod pob un o’r meysydd parcio yn yr awdurdod lleol yn derbyn arian parod ar hyn o bryd, ond bod cynlluniau dros y tymor hwy i gael gwared ar daliadau arian parod, gan ddechrau gydag agor maes parcio di-arian newydd sydd i fod i agor yn ystod haf 2026 (bydd y maes parcio yn parhau i gymryd taliadau cerdyn).

Rhoddwyd y cynllun hwn ar waith yn dilyn penderfyniad a wnaethpwyd gan aelodau’r Cabinet ac er ei bod yn ymddangos bod effaith hyn wedi cael ei hasesu yng nghyd-destun y nodau llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), gyda rhai cyfeiriadau at nodweddion gwarchodedig, nid oes asesiad ffurfiol o’r effaith ar gydraddoldeb wedi cael ei gyhoeddi. Ar ben hynny, ni chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus penodol ar y mater hwn.

Mae’r Comisiynydd yn disgwyl y bydd penderfyniadau o’r math hwn yn destun ymgynghoriad ystyrlon gan awdurdodau lleol, yn dilyn y canllawiau ffurfiol a gyhoeddwyd gan ddefnyddio ei phwerau cyfreithiol ym mis Mawrth 2025 i wella ymgysylltu ac ymgynghori â phobl hŷn.[3]

Swyddogaethau a Chyfnodau Segur o ran Peiriannau Talu

Pan gasglwyd yr wybodaeth hon gan awdurdodau lleol, nodwyd bod o leiaf 18 peiriant ddim yn gweithio am dros wythnos yn ystod y 12 mis diwethaf, gydag un awdurdod lleol yn dweud bod “nifer fach” o gyfnodau segur ychwanegol. Dywedodd pedwar awdurdod lleol nad oedd ganddynt y data hwn, ac ni ddarparodd un y data.

Gall y cyfnodau segur hyn fod yn sylweddol, gan eu bod yn aml yn effeithio ar y dulliau talu sydd ar gael. Dywedodd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol fod mwy nag un peiriant ar gael, gydag arwyddion clir yn cyfeirio defnyddwyr at ddewisiadau eraill sy’n gweithio. Cyfeiriodd rhai awdurdodau hefyd at apiau gyda gwasanaethau ffôn awtomatig fel dewisiadau wrth gefn, er nad yw’n glir o hyd pa mor dda mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu hysbysebu na pha mor hygyrch ydynt i bobl hŷn.

Eglurodd un awdurdod lleol fod gan “MiPermit sawl dull gan gynnwys ffonio, anfon negeseuon testun, gwefan neu ap,” er nad oedd yn glir a oedd yn rhaid i ddefnyddwyr lwytho’r ap i lawr, cael cyfrif cofrestredig neu ddefnyddio’r rhyngrwyd i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn.

Mesurau wrth gefn

Dywedodd pedwar awdurdod lleol fod parcio am ddim yn cael ei gynnig pan fydd peiriannau wedi torri.

Fodd bynnag, cyfeiriodd chwe awdurdod at apiau fel yr unig ddewis arall, ac roedd un yn cynghori defnyddwyr i “symud i faes parcio arall.”

Dywedodd un arall y gallai defnyddwyr barcio “ar eu menter eu hunain”, gyda swyddog yn gwirio a oedd y peiriant wedi torri go iawn.

Trefniadau Amgen

Pan ofynnwyd, “Pa drefniadau eraill (os o gwbl) sy’n bodoli ar gyfer unigolion nad ydynt yn gallu defnyddio dulliau talu digidol?” ailadroddodd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol fod opsiynau arian parod a cherdyn/digyswllt ar gael i gefnogi cynhwysiant.

Yn y pedwar maes parcio di-arian y tu allan i Geredigion a Sir Benfro, roedd dau yn cynnig cerdyn/digyffwrdd/PaybyPhone, ac ni chyfeiriodd y ddau arall at unrhyw ddewisiadau eraill, sy’n peri rhywfaint o bryder.

Atebodd awdurdod Bro Morgannwg, sydd wedi tynnu’r opsiwn arian parod o 50% o’i feysydd parcio, y cwestiwn hwn gyda dim ond ‘arian parod/cerdyn’, sy’n awgrymu bod taliadau cerdyn ar gael lle nad oes arian parod.

Dywedodd Ceredigion, er ei bod yn bosibl talu am docynnau tymor parcio gydag arian parod neu siec, dim ond i gyfnodau o dri mis neu fwy yr oedd hyn yn berthnasol, ac argymhellodd fod pobl hŷn yn defnyddio cerdyn debyd yn lle hynny. Roedd yn awgrymu y gallai unigolion heb gyfrif banc ddefnyddio ‘cerdyn debyd talu ymlaen llaw’ ac roeddent hefyd yn cyfeirio at nifer cyfyngedig o leoedd parcio am ddim ar y stryd a pharcio am ddim mewn meysydd parcio rhwng 6pm ac 8am.

Consesiynau a Thrwyddedau

Gofynnwyd i awdurdodau lleol hefyd am gonsesiynau ac a oedd angen tocynnau ffisegol neu ddulliau digidol ar gyfer y rhain. Roedd yr ymatebion yn amrywio:

  • Mae rhai awdurdodau’n cynnig parcio am ddim neu am bris gostyngol i ddeiliaid Bathodyn Glas, sy’n gofyn am fathodyn ffisegol.
  • Mae rhai yn darparu trwyddedau sy’n cynnig gostyngiadau o 50% i unigolion dros 60 oed, er nad yw’n glir a yw’r rhain yn rhai ffisegol neu ddigidol, na sut mae cael gafael arnynt. Mae nifer fach o feysydd parcio yn cynnig trwyddedau digidol yn unig, gan gynnwys trwyddedau blynyddol neu drwyddedau preswylwyr.
  • Mewn meysydd parcio sy’n defnyddio system Adnabod Platiau Rhif yn Awtomatig (ANPR), rhaid i ddeiliaid Bathodyn Glas wneud cais am fathodyn digidol.

Amrywiadau mewn Arferion

Mae’r ymatebion gan awdurdodau lleol yn dangos bod amrywiaeth sylweddol ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru o ran gweithrediadau a hygyrchedd meysydd parcio, gan gynnwys yr amrywiaeth o ddulliau talu sydd ar gael; systemau arian parod, cardiau, digyffwrdd ac apiau ac argaeledd a fformat consesiynau, fel gostyngiadau i bobl hŷn neu ddeiliaid Bathodyn Glas.

Mae’r anghysondeb hwn yn creu mynediad anghyfartal ar draws rhanbarthau ac yn cyfrannu at ddryswch ymysg pobl hŷn, yn enwedig wrth deithio rhwng ardaloedd sydd â systemau gwahanol.

Casgliadau ac argymhellion

Mae’r profiadau sy’n cael eu rhannu gan bobl hŷn drwy gydol yr adroddiad hwn yn dangos yn glir sut mae dim ond un agwedd ar allgáu digidol – sy’n aml yn cael ei hystyried yn gymharol fach – yn gallu effeithio ar bobl hŷn mewn nifer o ffyrdd:

  • Cyfyngedig o ran Symudedd: Mae llawer o bobl hŷn yn osgoi canol trefi, atyniadau lleol, neu wasanaethau hanfodol oherwydd systemau parcio anhygyrch.
  • Ynysu Cymdeithasol: Mae gallu cyfyngedig i deithio’n rhydd yn lleihau cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol, gan gyfrannu at unigrwydd a dirywiad mewn llesiant meddyliol.
  • Llai o Annibyniaeth: Mae pobl hŷn yn teimlo’n llai hyderus wrth deithio ar eu pen eu hunain, yn enwedig mewn ardaloedd anghyfarwydd lle tybir bod yn rhaid gwneud taliad digidol. Mae hyn yn cynyddu dibyniaeth ar eraill ac yn lleihau ymreolaeth.
  • Teimladau o Annigonolrwydd ac Allgáu: Mae rhai pobl hŷn yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi gan gymdeithas ac yn credu bod eu hanghenion yn cael eu hanwybyddu gan ddarparwyr gwasanaethau.
  • Risgiau Iechyd a Lles: Gall methu cael gafael ar ofal iechyd, mynd i apwyntiadau, neu gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon arwain at ganlyniadau iechyd gwaeth a mwy o drallod emosiynol.

Er bod y mwyafrif helaeth o awdurdodau lleol wedi cadarnhau y byddant yn parhau i gynnig cymysgedd o opsiynau i dalu am barcio gan ddefnyddio arian parod neu gerdyn, mae’n ymddangos bod y defnydd cynyddol o systemau talu ar apiau a’r gwaith o’u hyrwyddo yn creu’r argraff mai’r gwrthwyneb sy’n wir a bod yr opsiynau hyn yn cael eu dileu’n raddol. Mae hyn yn awgrymu bod methiannau wedi bod o ran cyrraedd pobl hŷn a chyfathrebu’n effeithiol â nhw er mwyn iddynt ddeall yr opsiynau sydd ar gael.

Heb newid y canfyddiadau hyn, mae pobl hŷn (ac eraill) heb fynediad digidol mewn perygl o gael eu gwthio i’r cyrion a’u heithrio, gan danseilio eu hannibyniaeth, ac achosi straen a phryder ynghylch yr hyn a ddylai fod yn dasg syml.

Mae gan awdurdodau lleol rôl hanfodol i’w chwarae yma, ochr yn ochr â sicrhau, yn ehangach, bod pob aelod o’u cymunedau, beth bynnag fo’u hoedran neu eu gallu digidol, yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw, i’w helpu i gymryd rhan lawn. Cam syml ond hanfodol tuag at adeiladu cymunedau cynhwysol sy’n ystyriol o oedran.

Argymhellion i awdurdodau lleol

Mae’r Comisiynydd wedi nodi nifer o gamau ymarferol y dylai awdurdodau lleol eu cymryd i ymateb i’r materion y tynnir sylw atynt yn yr adroddiad hwn a sicrhau eu bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau i sicrhau mynediad cynhwysol:

  • Cynnal opsiynau nad ydynt yn ddigidol (arian parod, cerdyn, ffôn) ym meysydd parcio pob awdurdod lleol i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu talu am barcio heb orfod defnyddio ffôn clyfar.
  • Nodi ffyrdd o gysylltu a chyfathrebu â phobl hŷn i wella ymwybyddiaeth o’r opsiynau talu sydd ar gael ym meysydd parcio awdurdodau lleol, i herio canfyddiadau sy’n ymwneud â thaliadau ‘digidol yn unig’ ac i roi sicrwydd nad oes angen ffôn clyfar – bydd cynnwys pobl hŷn yma yn helpu i sicrhau bod negeseuon yn glir, yn berthnasol ac yn effeithiol.
  • Defnyddio arwyddion clir a gweladwy mewn meysydd parcio i atgyfnerthu negeseuon. Sicrhau bod peiriannau talu ac apiau yn hawdd eu defnyddio – gyda chyfarwyddiadau clir a sgriniau darllenadwy – a’u bod yn hygyrch i bobl hŷn, gan gynnwys y rheini sydd ag anableddau neu nam ar y synhwyrau.
  • Archwilio a chynnal a chadw seilwaith talu meysydd parcio yn rheolaidd ar gyfer hygyrchedd a swyddogaethau, ac ymrwymo i beidio â rhoi dirwyon pan fydd angen talu drwy ap yn unig pan nad yw peiriannau’n gweithio.
  • Ymgysylltu ac ymgynghori’n ystyrlon â phobl hŷn, gan ddilyn y canllawiau a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd ym mis Mawrth 2025 pan fydd newidiadau i wasanaethau’n cael eu hystyried, gan ddefnyddio eu profiadau bywyd i lywio penderfyniadau cynhwysol ac ymatebol.
  • Cynnal a chyhoeddi Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb cyn gwneud unrhyw benderfyniadau i sicrhau bod yr effaith bosibl ar wahanol grwpiau, gan gynnwys pobl hŷn, wedi cael ei hystyried yn llawn.

Gweithredu gan y Comisiynydd

Bydd y Comisiynydd hefyd yn bwrw ymlaen ag amrywiaeth o gamau gweithredu i sicrhau bod y materion y tynnir sylw atynt yn yr adroddiad hwn yn cael eu cydnabod ac yr ymatebir iddynt:

  • Dosbarthu copi o’r adroddiad hwn i Brif Weithredwyr awdurdodau lleol yng Nghymru, gan ailadrodd bod yn rhaid i wasanaethau fel talu am barcio fod ar gael yn hawdd i bobl hŷn a chynnwys opsiwn nad yw’n ddigidol bob amser.
  • Parhau i ymgysylltu â phobl hŷn ledled Cymru i ddeall hyd a lled y mater hwn, tynnu sylw at eu profiadau, a mynd i’r afael â’r heriau sy’n codi.
  • Codi pryderon pobl hŷn gyda Llywodraeth Cymru ynghylch lleihau opsiynau talu heb fod yn ddigidol nac yn ddi-arian parod mewn meysydd parcio a thu hwnt, gan nodi hyn fel mater o gydraddoldeb a chynhwysiant digidol, a’u hannog i gymryd camau rhagweithiol i gefnogi camau gweithredu gan awdurdodau lleol.
  • Defnyddiwch y mater hwn fel enghraifft o’r angen i wasanaethau cyhoeddus gynnal archwiliad o’r gwasanaethau maen nhw’n eu darparu i bobl hŷn i sicrhau eu bod yn ddigidol gynhwysol a bod opsiynau eraill nad ydynt yn ddigidol bob amser yn cael eu darparu i’r un safon â rhai digidol.
  • Tynnu sylw at effaith oedraniaeth ddigidol a’r angen i lywodraethau ar bob lefel – yng Nghymru, yn y DU ac yn lleol – gymryd camau i fynd i’r afael â hyn.

[1] Age UK (2024), Briefing: Facts and figures about digital inclusion and older people.  Ar gael yn:  https://www.

ageuk.org.uk/siteassets/documents/reports-and-publications/reports-and-briefings/active-communities/internet-usestatistics-june-2024.pdf

[2] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (2025), Archwilio Oedraniaeth Ddigidol.  Ar gael yn: https://comisiynyddph.cymru/ adnodd/oedraniaeth-ddigidol/

[3] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (2025), Ymgysylltu ac ymgynghori â phobl hŷn yng Nghymru: Canllawiau i awdurdodau lleol.  Ar gael yn: https://comisiynyddph.cymru/adnodd/ymgysylltu-ac-ymgynghori-effeithiol-a-phoblhyn-canllawiau-i-awdurdodau-lleol/

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges