Angen Help?

Gwella Cefnogaeth a Gwasanaethau i Ddynion Hŷn sy’n Profi Cam-drin Domestig – Adroddiad Diweddaru Awst 2023 (HTML)

Eisteddodd dyn hŷn ar soffa mewn ystafell fyw, gan edrych allan ar draws yr ystafell. // Older man sat down on a sofa in a living room, looking out across the room.

Gwella Cefnogaeth a Gwasanaethau i Ddynion Hŷn sy’n Profi Cam-drin Domestig – Adroddiad Diweddaru Awst 2023

Rhagymadrodd

Mae atal cam-drin pobl hŷn yng Nghymru yn flaenoriaeth allweddol i Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru (CPHC).1 Yn 2020 sefydlodd CPHC grwpiau ‘Gweithredu ar Atal Cam-drin’ a ‘Llywio’ mewn ymateb i bryderon bod cam-drin pobl hŷn yn debygol o gynyddu drwy gydol pandemig Covid-19.2 Dywedodd rhai aelodau o’r grwpiau hyn eu bod wedi gweld cynnydd yn nifer y dynion hŷn sy’n ceisio cymorth oherwydd cam-drin domestig.

Mae ffigurau diweddar yn awgrymu bod y tebygolrwydd y bydd dynion yn profi cam-drin domestig yn cynyddu wrth iddynt fynd yn hŷn3, eto prin fu’r ymchwil ar gam-drin domestig dynion
hŷn.4 Mae hyn yn golygu mai ychydig iawn sy’n hysbys am brofiadau dynion hŷn sy’n byw gyda cham-drin domestig a’r heriau posibl a wynebir wrth gael mynediad at wasanaethau a chymorth. Er mwyn helpu i wella dealltwriaeth yn y maes hwn, comisiynodd CPHC Opinion Research Services (ORS) i archwilio profiadau o gam-drin domestig ymhlith dynion hŷn. Cynhaliwyd yr ymchwil rhwng Rhagfyr 2021 a Mawrth 2022 ac roedd yn cynnwys unarddeg o gyfweliadau â dynion hŷn a oedd wedi profi cam-drin domestig, a deuddeg cyfweliad â chynrychiolwyr o
sefydliadau cymorth arbenigol. Cyhoeddwyd canfyddiadau’r ymchwil hwn mewn adroddiad ym mis Gorffennaf 20225 ac fe’u lansiwyd mewn gweminar ym mis Hydref 2022. Datblygodd CPHC gyfres o argymhellion allweddol mewn ymateb i ganfyddiadau’r ymchwil.

Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Yr angen i wella’r broses o gasglu data i ddangos nifer y dynion hŷn sy’n cael eu cam-drin
  • Yr angen i adeiladu’r sylfaen dystiolaeth (ymchwil pellach i wella dealltwriaeth o brofiadau’r dynion hŷn hyn)
  • Yr angen i wella ymwybyddiaeth o gam-drin domestig dynion hŷn ymhlith aelodau’r cyhoedd ac ymarferwyr
  • Yr angen i wella mynediad i wasanaethau
  • Yr angen i sicrhau bod polisi a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu ymwybyddiaeth o brofiadau dynion hŷn o gam-drin domestig ac yn hyrwyddo camau
    gweithredu i gynyddu argaeledd gwasanaethau a chymorth priodol.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd gan GPHC a, lle bo’n briodol, sefydliadau eraill mewn ymateb i argymhellion yr ymchwil. Mae’r camau
gweithredu penodol hyn, sydd wedi’u mapio yn erbyn yr argymhellion, wedi’u nodi isod.

Yr angen i wella’r broses o gasglu data i ddangos nifer y dynion hŷn sy’n cael eu cam-drin

Nid yw’r dulliau presennol o gasglu data bob amser wedi galluogi dealltwriaeth o’r graddau y mae dynion a menywod hŷn yn profi cam-drin domestig. Mae CPHC eisoes wedi gwneud gwaith
sylweddol i wella’r broses o gasglu data sy’n ymwneud â cham-drin pobl hŷn. Mae hyn wedi cynnwys galw am ddileu’r ‘terfyn oedran uchaf’ yn Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (CSEW)
er mwyn dangos yn well nifer y bobl hŷn sy’n ddioddefwyr trosedd. Roedd ymateb CPHC i’r ymgynghoriad ar ailgynllunio’r Arolwg Troseddu ar gyfer Cymru a Lloegr (Awst 2022)6 yn galw
am welliannau pellach yn y ddarpariaeth o ddata sy’n gysylltiedig ag oedran ynghylch trosedd a cham-drin. Amlygodd yr ymateb bwysigrwydd ‘cloddio’ y data sydd ar gael i ddangos nifer y dynion a menywod hŷn sy’n profi cam-drin ac i amlygu presenoldeb nodweddion gwarchodedig eraill, megis ethnigrwydd a rhywioldeb, a allai gynyddu’r bregusrwydd i gamdriniaeth a chynyddu anawsterau profiad pobl hŷn o ran cyrchu darpariaeth gwasanaeth.

Darparodd CPHC hefyd ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Drafft i Atal Cam-drin Pobl Hŷn yng Nghymru, a’r strategaeth VAWDASV (Trais
yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, a Thrais Rhywiol) ar ei newydd wedd.7 Defnyddiwyd y prosesau ymgynghori hyn fel cyfle i alw am systemau casglu data gwell a fydd yn cefnogi gwell
dealltwriaeth o nifer yr achosion o gam-drin domestig a brofir gan ddynion a menywod hŷn.

Yr angen i adeiladu’r sylfaen dystiolaeth (ymchwil pellach i wella dealltwriaeth o brofiadau’r dynion hŷn hyn)

I ailadrodd, prin iawn yw’r ymchwil ar brofiadau dynion hŷn sy’n byw gyda cham-drin domestig. Mae’r astudiaeth hon wedi bod yn gam pwysig ymlaen. Mae canfyddiadau’r astudiaeth yn dangos bod cam-drin domestig nid yn unig yn ‘fater person iau’ a bod dynion hŷn, yn ogystal â menywod hŷn, yn gallu cael eu heffeithio’n sylweddol gan niwed cam-drin domestig. Fodd
bynnag, mae angen ymchwil pellach o hyd.

Rhaid cydnabod bod yr holl ddynion hŷn a gymerodd ran yn yr astudiaeth yn eu 50au a’u 60au. Er gwaethaf ymdrechion gorau’r tîm ymchwil, nid oedd yn bosibl cynnwys dynion hŷn, er enghraifft, yn eu 80au a’u 90au yn yr astudiaeth. I’r dynion hŷn hyn, gallai’r profiad o gam drin domestig a’u heriau o ran cael cymorth, fod wedi bod yn wahanol iawn. Mae angen deall y gwahaniaethau hyn er mwyn datblygu ystod o gamau gweithredu priodol i gefnogi anghenion amrywiol dynion hŷn sy’n byw gyda cham-drin domestig. Nid yw dynion hŷn yn grŵp homogenaidd a rhaid cydnabod hynodrwydd profiadau dynion hŷn o grwpiau ymylol pellach, y rhai o grwpiau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig neu’r gymuned LHDTC+ er enghraifft. Nid oedd y tîm ymchwil yn gallu recriwtio dynion hŷn o grwpiau o’r fath i’r astudiaeth hon.

Mae CPHC wedi galw am ymchwil pellach ar gam-drin domestig dynion hŷn mewn cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid allweddol a thrwy gyflwyniadau mewn cynadleddau yn y misoedd ers
cyhoeddi’r adroddiad. Er enghraifft, cyflwynwyd canfyddiadau’r ymchwil yng Nghynhadledd ‘Ddoe, Heddiw ac Nesaf’ Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru. Amlygwyd pwysigrwydd ymchwil pellach i gynyddu dealltwriaeth o anghenion a phrofiadau dynion hŷn sy’n dioddef cam-drin domestig. Defnyddiwyd prosesau ymgynghori ar gyfer Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Drafft Llywodraeth Cymru hefyd fel cyfle i alw am ymchwil bellach i archwilio profiadau dynion hŷn sy’n byw gyda cham-drin domestig.

Mae llawer o ffyrdd o gasglu tystiolaeth i ddeall yn well anghenion dynion hŷn sy’n byw gyda cham-drin domestig. Mae CPHC yn parhau i weithio’n agos gydag aelodau’r grwpiau
Gweithredu a Llywio, y mae llawer ohonynt yn ddarparwyr gwasanaeth ac felly â chysylltiad uniongyrchol â phobl hŷn sy’n profi cam-drin domestig. Mae aelodau’r grŵp hyn yn helpu i
ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i GPHC ynghylch tueddiadau a materion allweddol. Mae CPHC hefyd wedi bod yn gweithio i ymgysylltu’n uniongyrchol â mwy o ddynion a menywod hŷn sydd â phrofiad o gam-drin domestig. Yn ystod ymweliad diweddar â Gwasanaeth Cam drin Domestig Gorllewin Cymru, disgrifiodd dyn hŷn ei brofiadau o gam-drin domestig a’r heriau
a wynebodd wrth gael mynediad at gymorth priodol. Mae sgyrsiau o’r fath wedi bod yn hynod werthfawr; yn darparu mwy o fewnwelediad i brofiadau dynion hŷn sy’n byw gyda cham-drin
domestig, sydd yn ei dro yn helpu i lywio gwaith parhaus yn y maes hwn.

Gwella ymwybyddiaeth o gam-drin domestig dynion hŷn ymhlith aelodau’r cyhoedd ac ymarferwyr

Yn aml nid yw cam-drin pobl hŷn yn cael ei gydnabod gan y cyhoedd, nac yn wir gan rai o’r ymarferwyr hynny sy’n gweithio gyda phobl hŷn. Mae’r diffyg cydnabyddiaeth hwn yn peri pryder
mawr. Mae’n rhaid i’r ffaith bod pobl hŷn yn profi’r un mathau o gam-drin â’r rhai o fewn grwpiau oedran iau ac y gallent fod mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin mewn rhai achosion, fod ar ‘radar’ pawb. Heb ymwybyddiaeth o’r fath, mae’n annhebygol y bydd y cwestiynau cywir yn cael eu gofyn i bobl hŷn mewn sgwrs; bydd hyn yn ei dro yn cyfyngu ar y cyfleoedd sydd gan bobl hŷn i siarad am eu profiadau a bydd yn lleihau eu siawns o gael mynediad at ofal a chymorth priodol.

Mae canfyddiadau’r ymchwil yn dangos y gallai’r graddau y mae cam-drin dynion hŷn yn cael ei gydnabod fod hyd yn oed yn fwy cyfyngedig. Fel cymdeithas, gall fod rhai disgwyliadau ar ddynion; syniadau clir am y modd y credir y dylai ac y dylai dynion weithredu ac ymddwyn. Yng ngeiriau un cyfranogwr a gymerodd ran yn yr astudiaeth: “mae dynion yn cael eu nodweddu fel unigolion nad ydynt yn agored i niwed. Y naratif o amgylch dynion yw eu bod yn gymwys ac yn abl”. Mae canfyddiadau o’r fath yn golygu bod dynion yn cael eu hystyried yn gyffredinol i fod yn gyflawnwyr (ac nid yn ddioddefwyr) cam-drin domestig. Nid oes amheuaeth mai menywod sy’n dioddef cam-drin domestig yn bennaf. Wedi dweud hynny, ni ddylid byth gymryd yn ganiataol nad yw dynion yn profi cam-drin domestig. Roedd y rhan fwyaf o’r dynion hŷn a gymerodd ran yn yr astudiaeth yn destun patrymau cam-drin domestig cymhleth; fe brofon nhw sawl math gwahanol o gamdriniaeth ar yr un pryd (er enghraifft, cam-drin corfforol ac ariannol ac ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol).

Roedd cyhoeddi adroddiad ymchwil CPHC ym mis Mehefin 2022 yn gam sylweddol ymlaen o ran codi ymwybyddiaeth o’r mater pwysig hwn. Yn fuan ar ôl ei gyhoeddi, roedd aelod o’r teulu yr oedd ei thad ei hun wedi profi cam-drin domestig o fewn perthynas bersonol wedi cysylltu â Gwasanaeth Cyngor a Chymorth y Comisiynydd. Soniodd yr aelod hwn o’r teulu am y ffyrdd yr oedd canfyddiadau’r adroddiad yn atseinio â’i phrofiad ei hun a disgrifiodd yr heriau o gael cymorth ar ran ei thad. Ym marn yr aelod hon o’r teulu, byddai’r gefnogaeth a gynigiwyd wedi bod yn wahanol iawn pe bai wedi bod yn datgelu pryderon am gam-drin aelod benywaidd o’r teulu. Dywedodd yr unigolyn hon ei bod yn anodd iawn darbwyllo gweithwyr proffesiynol i
gymryd pryderon o ddifrif.

Mynychwyd gweminar ar y pwnc (a gynhaliwyd ym mis Hydref 2022) gan 188 o bobl ac roedd y sylwadau a wnaed yn y digwyddiad yn amlygu ei effaith sylweddol. Roedd cyfraniad dyn hŷn yn siarad yn y weminar am ei brofiadau ei hun o gam-drin domestig yn gymhellol. Disgrifiodd llawer o’r mynychwyr effaith clywed goroeswr yn siarad mor bwerus a chyda chymaint o ddewrder am ei brofiadau ei hun. Yn dilyn y weminar, cysylltodd sefydliadau fel EYST (Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid, Cymru) â ChPHC, a oedd am drafod eu profiadau eu hunain o weld mwy o ddynion hŷn yn cysylltu â’u gwasanaeth oherwydd cam-drin domestig. Wrth gyfarfod â chynrychiolwyr o EYST, bu’n bosibl archwilio ffyrdd ymlaen o ran amlygu mater cam drin domestig ymhlith dynion hŷn o fewn cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Mae cryn dipyn o waith wedi’i wneud gyda’r cyfryngau i godi ymwybyddiaeth o ganfyddiadau’r ymchwil. Cafodd yr adroddiad sylw ar y teledu (BBC Wales Today ac ITV Wales Today); ar y radio (Radio Wales Drive a Global Radio); ac ar-lein (BBC Wales News Online a ‘Today’s Family Lawyer’ (ar-lein)’. Rhannwyd canfyddiadau’r ymchwil hefyd drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol, gydag effaith sylweddol.Cafodd deunaw neges am yr adroddiad eu cofnodi ar ‘Twitter’, a welwyd 13,885 o weithiau, a 33 o negeseuon ar ‘Facebook’ (gyda chyrhaeddiad o 817). Rhannwyd canfyddiadau’r astudiaeth ymhellach a chodwyd ymwybyddiaeth o gam-drin domestig dynion hŷn yn rhyngwladol, trwy gyflwyno ymateb i Alwad Arbenigwr y Cenhedloedd Unedig am Dystiolaeth ar y Cam-drin o Bobl Hŷn.

Er mwyn sicrhau bod canfyddiadau’r astudiaeth yn cael eu rhannu mor eang â phosibl, cynhaliodd CPHC gyfarfodydd â Chomisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr a
Chomisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr; y mae gan y ddau gyfrifoldeb dros sicrhau arfer gorau gyda’r rhai sydd wedi profi cam-drin. Y nod oedd sicrhau bod y Comisiynwyr Cam-drin
Domestig a Dioddefwyr yn cyfrannu at godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig dynion hŷn trwy gamau a gymerir o fewn eu gwaith eu hunain.

Er mwyn codi ymwybyddiaeth broffesiynol o gam-drin domestig dynion hŷn, cyfarfu CPHC â sefydliadau ac ymarferwyr sy’n debygol o fod yn gweithio gyda dynion hŷn. Cynhaliwyd
trafodaethau gyda chynrychiolwyr o sefydliadau allweddol, megis Coleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru a Chyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu. Anogwyd sefydliadau o’r fath i feddwl am ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o ganfyddiadau’r ymchwil ymhlith aelodau o’u gweithlu. Arweiniodd cyfarfod gyda chynrychiolwyr o Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu at wahoddiad i siarad yng nghynhadledd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yr Heddlu. Yma cyflwynwyd yr ymchwil i swyddogion rheng flaen, mewn ymdrech i gynyddu
ymwybyddiaeth o brofiadau dynion hŷn sy’n byw gyda cham-drin domestig.

Cyflwynwyd canfyddiadau’r ymchwil hefyd mewn cyfarfod â Rheolwyr Busnes y Byrddau Diogelu Rhanbarthol yng Nghymru a chawsant eu trafod â gweithwyr proffesiynol a oedd yn debygol o ddod i gysylltiad â dynion hŷn yn ystod eu gwaith o ddydd i ddydd. Er enghraifft, rhoddwyd cyflwyniad i aelodau rhwydwaith EROSH (Rôl Hanfodol Tai Gwarchod). Yn ogystal, amlygwyd yr ymchwil mewn sawl cynhadledd bwysig arall sy’n canolbwyntio ar ymarferwyr; roedd y rhain yn cynnwys Cynhadledd Eiriolaeth Gobaith (Age Cymru), ac fel y nodwyd yn flaenorol, Cynhadledd Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru ym mis Mawrth 2023. Ers cyflwyno yng Nghynhadledd Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru, mae Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST) wedi cysylltu â ChPHC, a gofyn am gyflwyniad ar y pwnc yn eu cynhadledd ddiogelu sydd i ddod (Mehefin 2023).

Yn arwyddocaol, mae canfyddiadau’r ymchwil wedi bod yn ddylanwadol wrth lunio gwaith y rhai sy’n gyfrifol am hyfforddi ymarferwyr. Er enghraifft, yn dilyn cyhoeddi’r ymchwil, cysylltodd cynrychiolydd o Hafan Cymru â ChPHC (ar hyn o bryd mae gan Hafan Cymru gyfrifoldeb am ddarparu llawer o hyfforddiant ‘Gofyn a Gweithredu’ Llywodraeth Cymru, ynghyd â Bywydau Diogelach). Ar ôl darllen yr adroddiad, trafododd yr Arweinydd Hyfforddiant fod eisiau sicrhau bod yr hyfforddiant a ddarparwyd yn cynnwys anghenion dynion hŷn a brofodd gam-drin domestig, yn ogystal â menywod hŷn.

Dywedodd swyddog hyfforddi prosiect HOPE (‘Helpu Eraill i Gyfranogi ac Ymgysylltu’) Age Cymru fod yr ymchwil ar gam-drin domestig ymhlith dynion hŷn wedi dylanwadu’n sylweddol
ar yr hyfforddiant a gynigir i’w heiriolwyr. Mae canfyddiadau’r ymchwil wedi’u cynnwys yn hyfforddiant diogelu ‘HOPE’, ynghyd ag ‘astudiaethau achos’ i hwyluso dealltwriaeth o gam drin domestig dynion hŷn. Y nod fu sicrhau bod pob eiriolwr yn gallu ymateb yn broffesiynol i sefyllfaoedd lle mae dynion hŷn yn datgelu cam-drin domestig.

Ers cyhoeddi’r ymchwil, mae CPHC hefyd wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Ofal Cymdeithasol Cymru (Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n gyfrifol am reoleiddio a hyfforddi’r gweithlu gwaith
cymdeithasol a gofal cymdeithasol). Yn ystod y cyfarfod hwn, trafodwyd canfyddiadau’r ymchwil a’u heffaith bosibl ar waith ymarferwyr gofal cymdeithasol. Arweiniodd y drafodaeth hon at Gofal Cymdeithasol Cymru yn ysgrifennu blog i dynnu sylw at yr ymchwil a’i bwysigrwydd ac i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig dynion hŷn ymhlith ymarferwyr gwaith cymdeithasol a
gofal cymdeithasol.

Mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig dynion hŷn nid yn unig ymhlith sefydliadau ac ymarferwyr, ond hefyd ymhlith dynion hŷn eu hunain. Efallai na fydd rhai dynion
hŷn yn cydnabod eu bod yn dioddef cam-drin domestig yn enwedig os yw wedi bod yn rhan o’u profiad bywyd ers amser maith. Efallai y bydd eraill eisiau ceisio cymorth ond efallai y
byddant yn teimlo gormod o embaras i wneud hynny neu efallai nad ydynt yn ymwybodol bod cymorth ar gael. Mae CPHC bellach wedi dechrau gweithio gyda sefydliadau y mae dynion hŷn
yn ymweld â nhw’n rheolaidd, fel ‘Men’s Sheds’.8 Mae tua 70 o’r Siediau yma ledled Cymru. Er mwyn sicrhau bod canfyddiadau’r ymchwil yn cael eu rhannu ar draws y Siediau amrywiol, mae goroeswr hŷn, gwrywaidd o gam-drin domestig yn gweithio ar y cyd â ChPHC i gynhyrchu fideo byr. Bydd y fideo yn amlinellu profiadau’r dyn hŷn hwn o gam-drin domestig a’r gobaith
yw y bydd hyn yn annog eraill mewn sefyllfaoedd tebyg i geisio cymorth a chefnogaeth. Mae canfyddiadau’r ymchwil hefyd wedi’u rhannu â phobl hŷn fel rhan o waith ymgysylltu parhaus
ledled Cymru, a thrwy drafodaethau â Chadeiryddion y Fforymau Pobl Hŷn.

Gwella gwasanaethau a chefnogaeth

Mae gwaith blaenorol a wnaed gan GPHC yn dangos bod llawer o bobl hŷn yn cael anhawster i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen i ffoi rhag perthnasoedd camdriniol. Er bod llu o
wasanaethau arbenigol wedi’u hanelu at gefnogi pobl sy’n profi cam-drin ledled Cymru, nid yw pobl hŷn yn cael mynediad cymesur i’r gwasanaethau hyn.9

Drwy godi ymwybyddiaeth o ganfyddiadau’r astudiaeth, y nod yw gwella’r gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael i ddynion hŷn sy’n dioddef cam-drin domestig. Dangosodd yr ymchwil fod angen cymorth ymarferol ac emosiynol ar ddynion hŷn sy’n dioddef cam-drin domestig. Mae anghenion y dynion hŷn hyn wedi cael eu hamlygu mewn trafodaethau gyda sefydliadau
ymarferwyr, mewn cyflwyniadau cynhadledd ac mewn cyfarfodydd gydag aelodau Grŵpiau Gweithredu a Llywio. Mae darparwyr gwasanaethau wedi cael eu hannog i feddwl am y
gwasanaethau y maent yn eu cynnig ac i fyfyrio ar eu priodoldeb i ddiwallu anghenion dynion hŷn sy’n profi cam-drin domestig. Mae darparwyr gwasanaethau hefyd wedi cael eu herio i
feddwl am y ffyrdd y maent yn hysbysebu eu gwasanaethau. Mae’n hanfodol bod dynion a menywod hŷn yn gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli yn y deunyddiau cyhoeddusrwydd ar gyfer gwasanaethau a chymorth cam-drin domestig.

Polisi

Mae gan GPHC rôl graffu bwysig; anelu at sicrhau bod polisïau a gynhyrchir ar lefel genedlaethol yn cynnwys profiadau pobl hŷn. Mae CPHC felly wedi bod yn weithgar yn amlygu sefyllfaoedd lle nad yw’n ymddangos bod cam-drin dynion hŷn wedi cael sylw digonol. Wrth ymateb i Ddull Iechyd y Cyhoedd o Atal Trais ar Sail Rhyw y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol diweddar10, tynnwyd sylw’n benodol at yr ymchwil ar gam-drin
domestig ymhlith dynion hŷn. Mae angen ehangu cylch gorchwyl yr ymchwiliad i sicrhau ystyriaeth lawn i anghenion dynion hŷn (yn ogystal â menywod hŷn) sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu’n cael eu cam-drin.

Mae CPHC wedi trafod canfyddiadau’r adroddiad ymchwil gyda’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, yn ogystal â swyddogion
Llywodraeth Cymru. Mae’r trafodaethau wedi bod yn gadarnhaol ac yn adeiladol, ac mae tystiolaeth o gynnwys dynion hŷn ym mholisi a strategaeth Llywodraeth Cymru.

Mae Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru i Atal Cam-drin Pobl Hŷn yn cynnig cyfle hollbwysig i godi ymwybyddiaeth o ddynion hŷn sy’n profi cam-drin domestig a hyrwyddo camau gweithredu i’w cefnogi. Bydd CPHC yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru wrth i’r cynllun gael ei ddatblygu a bydd yn mynd ati i chwilio am gyfleoedd i sicrhau bod camau gweithredu penodol yn cael eu datblygu i wella bywydau dynion hŷn sy’n profi cam-drin domestig.

Mae gwaith ar y strategaeth VAWDASV ar ei newydd wedd gan Lywodraeth Cymru wedi hen ddechrau. Yn dilyn galwadau gan GPHC ac eraill, sefydlwyd is-lif penodol i ganolbwyntio ar
anghenion a phrofiadau pobl hŷn sy’n destun VAWDASV. Cynrychiolir CPHC ar y cyfarfodydd bwrdd partneriaeth cydweinidogol trosfwaol ar gyfer y gwaith hwn ac ar yr is-ffrwd. Bydd yr angen i ystyried profiadau ac anghenion dynion a merched hŷn wrth ddatblygu blaenoriaethau ar gyfer gweithredu yn parhau i gael ei amlygu. Mae gwaith y Strategaeth yn cynnig
cyfleoedd pwysig i fwrw ymlaen â llawer o argymhellion yr ymchwil ar lefel genedlaethol (codi ymwybyddiaeth, comisiynu ymchwil pellach a gwella a datblygu gwasanaethau).

Camau nesaf

Mae gwella gwasanaethau i ddynion hŷn sy’n profi cam-drin domestig yn waith sydd ar y gweill i raddau helaeth. Er mwyn atal cam-drin o’r fath a sicrhau bod gwasanaethau priodol ar gael i ddynion hŷn, rhaid cael ymrwymiad parhaus gan yr holl asiantaethau a sefydliadau partner.

Yn ystod y misoedd nesaf bydd CPHC yn parhau i godi ymwybyddiaeth o’r ymchwil trwy gyfarfodydd a drefnwyd gyda sefydliadau perthnasol. Mae cyfarfodydd wedi’u cynllunio gydag
un o Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru, a chyda sefydliadau ‘nad ydynt yn sector’ (fel sefydliadau chwaraeon ‘ymbarél’) y gallai dynion hŷn ymweld â nhw .

Bydd canfyddiadau’r ymchwil yn parhau i gael eu hamlygu yng ngwaith CPHC gyda sefydliadau ymarferwyr a chyrff hyfforddi ymarferwyr; y nod fydd annog datblygiad rhaglenni hyfforddi
ymarferwyr, sy’n cynnwys ffocws penodol ar gam-drin dynion hŷn yn y cartref. Bydd gwaith i ddylanwadu ar ddatblygiad polisi Llywodraeth Cymru mewn ffyrdd sy’n cefnogi datblygiad
gwasanaethau priodol ar gyfer dynion hŷn sy’n profi cam-drin domestig hefyd yn parhau.

Cyfeiriadau

1. Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Blaenoriaethau’r Comisiynydd. Ar gael yn: https://comisiynyddph.cymru/blaenoriaethaur-comisiynydd/
2. Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Ar gael yn: https://comisiynyddph.cymru/grwp-gweithredu-ar
atal-cam-drin/
3. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 2022. Trosolwg o gam-drin Domestig yng Nghymru a Lloegr (Tachwedd 2022). Ar gael yn : https://cy.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/
crimeandjustice/bulletins/domesticabuseinenglandandwalesoverview/november2022
4. Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2022. Gwella’r gefnogaeth a’r gwasanaethau i ddynion hŷn sy’n cael eu cam-drin yn ddomestig. Ar gael yn: https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2022/08/Gwellar-gefnogaeth-ar-gwasanaethau-i-ddynion-hyn-syn-cael-eu-cam-drin-yn-ddomestig.pdf
5. Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2022. Gwella’r gefnogaeth a’r gwasanaethau i ddynion hŷn sy’n cael eu cam-drin yn ddomestig. Ar gael yn: https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2022/08/Gwellar-gefnogaeth-ar-gwasanaethau-i-ddynion-hyn-syn-cael-eu-cam-drin-yn-ddomestig.pdf
6. Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2022. Ymateb i’r Ymgynghoriad: Ailgynllunio Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr. Ar gael yn: https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2022/08/
Redesign-of-the-CSEW-220729-final-for-submission-CYM.pdf
7. Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2022. Ymatebion Ymgynghori – Diweddaru’r Strategaeth Genedlaethol ar ‘Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol’ 2022 2026. Ar gael yn: https://olderpeople.wales/library/Consultation_Responses/Consultation_
Responses_2022/OPCW_VAWDSAV_Response_220128_final_Welsh.pdf
8. Men’s Sheds. Ar gael yn: https://menssheds.org.uk/
9. Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2021. Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy’n Profi Camdriniaeth yng Nghymru. Ar gael yn: https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2022/08/Gwasanaethau-Cymorth-i-Bobl-Hyn-syn-Profi-Camdriniaeth-yng-Nghymru.pdf
10.Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2023. Ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Atal Trais ar sail Rhywedd drwy Ddulliau Iechyd y Cyhoedd. Ar gael
yn: https://comisiynyddph.cymru/ymchwiliad-y-pwyllgor-cydraddoldeb-a-chyfiawnder-cymdeithasol-atal-trais-ar-sail-rhywedd-drwy-ddulliau-iechyd-y-cyhoedd/

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges