Angen Help?

Helpwch i lunio dyfodol gofal cymdeithasol yng Nghymru

Helpwch i lunio dyfodol gofal cymdeithasol yng Nghymru

Mae’r Comisiynydd yn edrych ar sut y gellid gwella gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac mae eisiau clywed gan bobl hŷn ledled Cymru am eu profiadau o dderbyn gofal a chymorth.

Gallai hyn gynnwys cymorth i fyw’n annibynnol gartref, cymorth wrth fyw mewn cartref gofal, neu gymorth yn y gymuned – fel canolfannau dydd.

Bydd eich adborth – am yr hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn sydd angen ei newid – yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau yn y dyfodol yn canolbwyntio mwy ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig i bobl hŷn.

Y dyddiad cau ar gyfer anfon ymatebion yw 30 Ionawr 2026.

Diolch yn fawr am eich help! 

Cwblhewch holiadur y Comisiynydd

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges