BRIFFIO: Effaith Pwysau GIG yr adroddwyd amdanynt ar fynediad pobl hŷn at wasanaethau iechyd
Mae’r papur briffio hwn yn rhannu canfyddiadau allweddol sy’n ymwneud â safbwyntiau a phrofiadau pobl hŷn o wasanaethau iechyd yng Nghymru, a gasglwyd fel rhan o arolwg ymchwil a gynhaliwyd gan y Comisiynydd yn ystod mis Mawrth 2023.
Cefndir
Mae’r GIG yn darparu triniaeth a gwasanaethau hanfodol i bobl hŷn yng Nghymru, llawer ohonynt yn dioddef o iechyd gwael, fel sy’n cael ei ddangos gan y ffaith bod disgwyliad oes iach mor isel â 59 mewn rhai mannau a bod dwy ran o dair o bobl 65 oed a hŷn yn dweud eu bod yn byw gyda salwch hirsefydlog.1
Felly, mae mynediad rhwydd a phrydlon at y GIG yn bwysig i lawer o bobl hŷn, yn enwedig o ystyried yr effaith y gall oedi wrth gael gafael ar wasanaethau ei chael ar amrywiaeth o ffactorau
fel ansawdd bywyd, dirywiad mewn cyflyrau a morbidrwydd.
Pwysau ar Wasanaethau’r GIG
O dan bwysau sylweddol yn barod o ganlyniad i’r pandemig, roedd y GIG yng Nghymru wedi wynebu heriau pellach ‘nad oedd modd eu rhagweld’2 yn ystod y gaeaf, a dywedodd Conffederasiwn GIG Cymru ei fod mewn sefyllfa fregus o ran ei allu i ymdopi oherwydd effaith Covid a’r ffliw, yn ogystal â lefelau salwch ymysg staff.3
Yn anffodus, roedd hyn yn golygu nifer o broblemau i gleifion, gan gynnwys apwyntiadau wedi’u canslo, arosiadau hir am ambiwlansys, prinder gwelyau ac oedi cyn gweld gweithwyr meddygol proffesiynol. Roedd pwysau hefyd wedi arwain at un bwrdd iechyd yn datgan digwyddiad critigol yn ystod y cyfnod hwn, yn ogystal â negeseuon rheolaidd gan fyrddau iechyd yn dweud mai dim ond ar gyfer salwch ac anafiadau brys neu sy’n peryglu bywyd y dylai cleifion geisio triniaeth.
Roedd y Comisiynydd yn bryderus y gallai’r materion hyn fod yn atal pobl hŷn rhag gofyn am driniaeth, ac roedd yn defnyddio rhan o arolwg ymchwil i archwilio sut roedd pwysau’r GIG yn
effeithio ar benderfyniadau pobl i gael gafael ar wasanaethau iechyd allweddol.
1https://olderpeople.wales/wpcontent/uploads/2023/04/Understanding-Wales-ageing-population5.4.pdf
2 https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-64126632
3 https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-64151141
Canfyddiadau’r Arolwg Ymchwil
Roedd arolwg ymchwil y Comisiynydd yn cynnwys 503 o gyfweliadau dros y ffôn gyda sampl gynrychioladol o boblogaeth Cymru sy’n 60 oed a hŷn, a gynhaliwyd rhwng 28 Chwefror a 17
Mawrth 2023.
Yn yr arolwg, gofynnodd y Comisiynydd gyfres o gwestiynau am sut gallai’r pwysau sydd ar y GIG fod yn effeithio ar benderfyniad pobl hŷn i gael gafael ar wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau meddygon teulu ac adrannau damweiniau ac achosion brys, a gwasanaethau ehangach fel deintyddiaeth ac optometreg.
Mae’r canfyddiadau’n dangos bod dros 40% o’r bobl hŷn yn yr arolwg wedi dweud eu bod yn llai tebygol o ymweld â’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, ceisio cael apwyntiad â meddyg
teulu, neu gysylltu â gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau o ganlyniad i’r pwysau sydd ar y GIG ar hyn o bryd.
Mae hyn yn peri pryder oherwydd efallai na fydd nifer sylweddol o bobl hŷn yn gofyn am gymorth meddygol pan fyddan nhw ei angen, hyd yn oed mewn achosion a allai fod yn ddifrifol lle gallai fod angen ymweld â’r adran ddamweiniau ac achosion brys.
Os yw pobl hŷn yn cael eu rhwystro rhag gofyn am gymorth meddygol angenrheidiol, gallent fod yn peryglu eu hiechyd, boed hynny yn ystod cyfnod o argyfwng, neu yn y tymor hir.
Roedd canran y bobl sy’n llai tebygol o gael gafael ar wasanaethau iechyd ehangach yn llai amlwg, er ei bod yn bwysig nodi bod tua 1 o bob 3 o bobl hŷn wedi dweud eu bod yn llai tebygol o gael triniaeth ddeintyddol, a dywedodd 1 o bob 4 eu bod yn llai tebygol o gysylltu â gwasanaeth 111 y GIG, sy’n darparu gwybodaeth a chymorth dros y ffôn.
Mae’r Comisiynydd yn cydnabod bod staff ar draws y GIG wedi bod yn gweithio’n eithriadol o galed i ddelio ag amrywiaeth eang o bwysau yn ystod misoedd y gaeaf, ond mae’n hanfodol nad yw pobl hŷn yn cael eu hannog i beidio â chael gafael ar y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt gan y GIG.
Gweithredu Angenrheidiol
Mae’r Comisiynydd wedi rhannu ei chanfyddiadau a’i phryderon â’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan AS, ac mae wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda byrddau iechyd i estyn allan
at bobl hŷn i roi sicrwydd bod gwasanaethau’r GIG yn agored ac yn hygyrch, ac y dylai pobl gysylltu â nhw os oes ganddynt bryderon am eu hiechyd.
Mae’r Comisiynydd am i unrhyw gyfathrebu sydd wedi’u cynllunio, boed drwy lythyr neu’n ddigidol, bwysleisio’r negeseuon hyn, rhywbeth y gellid ei gefnogi drwy gamau pellach yr ymgyrch ‘Helpwch ni i’ch helpu chi’.
Mae’r Comisiynydd hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod disgwyliadau ar fyrddau iechyd mewn cyfarfodydd a thrafodaethau yn y dyfodol sy’n annog pob partner i gymryd camau i fynd i’r afael â’r prif naratifau a allai fod yn atal pobl hŷn rhag gofyn am driniaeth.
Ar ben hynny, mae’r Comisiynydd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd bod Llywodraeth Cymru yn ystyried sut gallai negeseuon eraill, fel hyrwyddo dull ‘digidol yn gyntaf’ o ymdrin â’r GIG yng Nghymru, atal rhai grwpiau o bobl hŷn ymhellach rhag gofyn am help, o ystyried nad yw tua thraean o bobl hŷn yn defnyddio ffonau clyfar yn ôl canfyddiadau ei harolwg (gan gyrraedd 39% ymysg pobl 70 oed a hŷn), ac nad oes gan tua thraean o bobl 75 oed a hŷn fynediad at y rhyngrwyd.4
Felly, mae angen i unrhyw gamau tuag at ddigideiddio pellach mewn gofal iechyd gael mynediad hawdd a chyfartal at opsiynau nad ydynt yn ddigidol, fel y nodwyd yn flaenorol mewn canllawiau statudol a roddwyd i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol gan y Comisiynydd.5
Yn ogystal â galw am y camau hyn gan Lywodraeth Cymru, mae’r Comisiynydd yn gofyn i bobl hŷn gysylltu â’i swyddfa i rannu eu profiadau o gael gafael ar wasanaethau iechyd a’u defnyddio, yn enwedig lle gallai pwysau’r GIG fod wedi achosi oedi neu atal rhywun rhag gofyn am driniaeth neu gael triniaeth.
Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth ychwanegol i’r Comisiynydd am y materion penodol y mae pobl hŷn yn eu hwynebu er mwyn helpu i nodi unrhyw gamau pellach penodol sydd eu hangen gan
Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd.
4 https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2023/04/Understanding-Wales-ageing-population-5.4.pdf
5https://comisiynyddph.cymru/adnodd/sicrhau-mynediad-at-wybodaeth-a-gwasanaethau-mewn-oes-ddigidol-canllawiau-ar-gyfer-awdurdodau-lleol-a-byrddau-iechyd/