Casglu lleisiau a phrofiadau pobl hŷn ledled Cymru
Rhan allweddol o fy ngwaith fel Comisiynydd yw teithio ledled Cymru i gwrdd â phobl hŷn a siarad â nhw mewn amrywiaeth eang o grwpiau a digwyddiadau mewn cymunedau lleol. Mae hyn yn fy ngalluogi i glywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn am y materion sy’n effeithio ar eu bywydau o ddydd i ddydd, yn ogystal â’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Mae’r wybodaeth y mae pobl hŷn yn ei rhannu â mi yn hynod werthfawr, yn helpu i arwain a siapio fy ngwaith, ac yn fy ngalluogi i ymateb yn effeithiol i faterion sy’n dod i’r amlwg.
Mae’r dudalen hon yn rhoi cipolwg ar yr ymweliadau ymgysylltu a fynychwyd gennyf fi a’m tîm, gan dynnu sylw at y llefydd rydym wedi ymweld â nhw, a’r mathau o faterion sy’n cael eu codi gan bobl hŷn.
Rwyf bob amser yn chwilio am gyfleoedd i gwrdd a siarad â phobl hŷn mewn cymunedau ledled Cymru, felly os hoffech i mi ymweld â grŵp, gweithgaredd neu ddigwyddiad rydych chi’n ei drefnu, cysylltwch â ni.
Rhian
Digwyddiad Calan Gaeaf ‘Dros 60’ Glenboi a Fernhill
Cefais gwrdd â chynrychiolwyr o tua chwech o glybiau i bobl dros 60 oed yn nigwyddiad Calan Gaeaf Glenboi a Fernhill yng Nghlwb Cymdeithasol Abercwmboi, Aberdâr. Roedd pawb yn dod o gymunedau bach yn y Cymoedd, ac roedd rhai wedi teithio o bentrefi mor bell ag Abercynon, Perthcelyn a Phenrhiw-ceibr i ddod i’r digwyddiad.
Cefais gyfle i sgwrsio â’r bobl hŷn oedd yn bresennol a chael clywed am y materion oedd yn effeithio fwyaf arnyn nhw. Y prif faterion a godwyd gyda mi oedd cael gafael ar apwyntiadau mewn meddygfeydd lleol a’r rhestrau aros hir ar gyfer apwyntiadau iechyd. Mater arall oedd yn bryder ymysg y bobl hŷn oedd trafnidiaeth gyhoeddus. Nodwyd bod rhai ardaloedd wedi’u cysylltu’n well nag eraill, a bod hynny’n ynysu rhai trigolion yn gymdeithasol, yn enwedig y rhai hynny nad oes ganddynt deulu’n byw gerllaw.
Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i aelodau gael hwyl yn chwarae bingo, gwrando ar berfformiwr yn canu, cymryd rhan mewn raffl a mwynhau’r bwffe arbennig oedd wedi ei baratoi. Dywedodd y bobl hŷn cymaint yr oeddent yn gwerthfawrogi’r grwpiau hyn, yn bennaf oherwydd y cysylltiadau cymdeithasol a’r cyfeillgarwch maent yn eu darparu. Roedd ymdeimlad cryf o gymuned gefnogol yn y digwyddiad, sy’n dangos mor bwysig yw grwpiau lleol fel hyn i’r bobl hŷn sy’n byw yn ein cymunedau.
Dathliadau sy’n Gyfeillgar i Oedran Sir Ddinbych
Braf oedd bod yn ôl yng Ngogledd Cymru lle cefais gwmni tîm Heneiddio’n Dda Sir Ddinbych i ddathlu’r ffaith fod y sir wedi cael ei hychwanegu at Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd Oed-gyfeillgar. Dyma gydnabyddiaeth haeddiannol o’r holl waith caled sy’n cael ei wneud ledled Sir Ddinbych i gefnogi pobl i fyw a heneiddio’n dda.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddysgu mwy am daith Heneiddio’n Dda Sir Ddinbych ac i gael clywed sut y maent wedi llwyddo i ymuno â’r rhwydwaith. Ddiddorol oedd cael dysgu sut aeth y tîm ati i oresgyn yr heriau sydd wedi eu hwynebu ar y daith drwy gydweithio â phobl hŷn a phartneriaid eraill.
Cefais gyfle i sgwrsio am fy ngwaith ac ateb cwestiynau’r bobl hŷn a oedd yn bresennol, yn ogystal â chael clywed ganddyn nhw am y newidiadau a’r gwelliannau yr hoffent eu gweld.
Cynhaliwyd panel pontio’r cenedlaethau hefyd i helpu i leihau’r bwlch rhwng pobl iau a phobl hŷn, a chafwyd trafodaeth ddifyr am wahanol ffyrdd o fyw a heneiddio’n dda. Cefais flas ar y drafodaeth.
Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb yn nhîm Heneiddio’n Dda Sir Ddinbych am roi croeso cynnes i mi. Braf oedd gweld eich llwyddiant yn cael cydnabyddiaeth ar y llwyfan rhyngwladol!
Cynllun Gofal Ychwanegol Llys Awelon
Cefais gwrdd â phreswylwyr yng Nghynllun Gofal Ychwanegol Llys Awelon wrth iddynt ddathlu eu hagoriad swyddogol yn Rhuthun.
Mae’r adeilad ar ei newydd wedd yn cynnwys 56 o fflatiau hunangynhwysol ac amrywiaeth o ystafelloedd cymdeithasol. Mae’n fodern ac yn defnyddio ynni’n effeithlon. Cefais brynhawn cofiadwy iawn yn siarad gyda’r preswylwyr am eu bywydau a’u profiadau nhw.
Bu nifer o’r preswylwyr yn trafod eu profiadau o fyw yn Llys Awelon, gan sôn am y cyfeillgarwch maen nhw wedi ei ffurfio â phreswylwyr eraill a’r cysylltiad maen nhw’n dal i deimlo â’r gymuned leol gan fod yr adeilad mor agos i ganol y dref.
Roedd araith Mr Cyril Jones am ei brofiadau yn Llys Awelon yn deimladwy dros ben. Dywedodd mai’r peth pwysicaf iddo fo oedd ei annibyniaeth, ac mae Llys Awelon wedi rhoi hwnnw yn ôl iddo; yn ogystal â gofal, cysur a chwmnïaeth.
Mae digwyddiadau fel hyn, lle caf gyfle i gwrdd â phobl hŷn, yn parhau i’m rhyfeddu. Roeddwn i wrth fy modd yn cael gwybod am fywydau a phrofiadau amrywiol y trigolion; oedd yn cynnwys cyn-filwyr sydd wedi gwasanaethu ein gwlad, peirianwyr, entrepreneuriaid, perchnogion busnes, a menywod ysbrydoledig oedd yn herio stereoteipiau rhywedd ymhell cyn i’r ymadrodd ‘nenfwd gwydr’ gael ei fathu. Roedd hi’n braf gweld yr ymdeimlad cryf o gymuned ymysg preswylwyr Llys Awelon.
Is-bwyllgor Iechyd, Addysg a Materion Cyhoeddus, Sefydliad Menywod Sir Gaerfyrddin
Fe wnes i ymweld â Llyfrgell Caerfyrddin i gwrdd ag aelodau Is-bwyllgor Addysg, Iechyd a Materion Cyhoeddus Sefydliad y Merched, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o grwpiau Sefydliad y Merched ledled sir Gaerfyrddin.
Yn ystod y cyfarfod, siaradais am fy 12 mis cyntaf fel Comisiynydd, gan gynnwys beth rydw i wedi’i glywed gan bobl hŷn ledled Cymru, a sut mae hyn wedi cyfrannu at ddatblygu fy strategaeth a’m rhaglen waith.
Roedd gan y grŵp ddiddordeb arbennig yn ein gwaith ar ddeintyddiaeth, gofal cymdeithasol, a chael gafael ar apwyntiadau meddyg teulu ac ysbyty. Fe wnaethon nhw ddweud bod y defnydd cynyddol o ap y GIG ar gyfer tasgau fel gwneud apwyntiadau ac archebu presgripsiynau rheolaidd wedi gwneud i lawer o bobl hŷn heb ffonau clyfar deimlo’n ansicr a phoeni am y ffordd orau o gael gafael ar y gwasanaethau hyn.
Dywedodd y grŵp hefyd y gall fod yn arbennig o anodd i’r rhai sy’n byw mewn cymunedau gwledig gael gafael ar wasanaethau bysiau, a bod rhwystredigaeth ynghylch diffyg dibynadwyedd mesuryddion parcio, gan fod gan bob maes parcio reoliadau talu gwahanol fel arfer, sydd wedi gwneud parcio’n broses anrhagweladwy, gan annog llawer o bobl i beidio â mynd allan.
Siaradais â’r pwyllgor am ein gwaith i wneud cymunedau ledled Cymru yn fwy Oed-Gyfeillgar, a chefais drafodaethau cadarnhaol gyda’r grŵp ynghylch sut y gallen nhw chwarae rhan ehangach yn y broses o Sir Gaerfyrddin yn ymuno â Rhwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd. Roedd yn wych gweld bod yr aelodau wedi ymrwymo i wneud Sir Gaerfyrddin yn lle gwell i fyw a heneiddio’n dda.
Cawl a Chân, Barri
Yn ystod fy ymweliad â digwyddiad Cawl a Chân yn y Barri, cefais gyfle i weld â’m llygaid fy hun yr holl waith cydweithio arbennig sy’n digwydd yno rhwng y genhedlaeth hŷn a’r genhedlaeth iau. Mae hyn yn lleihau’r gagendor rhwng pobl iau a phobl hŷn ac yn herio stereoteipiau a rhagdybiaethau oedraniaethol.
Cynhelir y sesiynau Cawl a Chân bob prynhawn Mawrth yn Ysgol Gynradd Tregatwg i roi cyfle i bobl hŷn a phobl ifanc eistedd yng nghwmni ei gilydd a chael powlennaid o gawl (sydd wedi’i wneud gan y bobl ifanc), chwarae gemau bwrdd a sgwrsio.
Dywedodd y gwirfoddolwyr gweithgar sydd yn cynnal y sesiynau bod hyn yn gyfle iddynt wneud cyfraniad i’w cymuned. Dywedodd rhai o’r bobl hŷn sy’n rhan o’r grŵp bod y sesiynau wedi eu helpu i deimlo’n llai unig, yn enwedig oherwydd bod nifer ohonynt heb deulu yn byw gerllaw.
Roedd hi’n braf gweld y bobl ifanc yn sgwrsio, yn dysgu ac yn cymryd diddordeb ym mywydau’r bobl hŷn. Nid oes gan rai o’r bobl ifanc (sydd rhwng 8 a 9 oed) fam-gu neu dad-cu yn byw gerllaw, ac felly mae’r sesiynau hyn yn herio’r rhagdybiaethau oedd ganddynt am heneiddio ac yn rhoi cyfle iddynt fod yng nghwmni pobl hŷn. Roedd hi’n amlwg bod y genhedlaeth iau a’r genhedlaeth hŷn yn elwa o’r sesiynau hyn.
Grŵp Cynghori Pobl Hŷn Rhondda Cynon Taf
Fe wnes i gwrdd ag oddeutu 120 o aelodau o amrywiol fforymau pobl hŷn pan es i ddigwyddiad Grŵp Cynghori Pobl Hŷn Rhondda Cynon Taf yn Linc Cynon, Aberdâr, ddydd Sadwrn 4 Hydref.
Y digwyddiad blynyddol hwn oedd un o’r rhai cyntaf i mi fynd iddo pan ddechreuais yn fy swydd fel Comisiynydd y llynedd, felly roedd yn braf gallu dod yn ôl a siarad am sut rydw i wedi bod yn mynd i’r afael â’r materion a godwyd gyda mi yn y digwyddiad y llynedd – fel mynediad at wasanaethau iechyd a meddygon teulu, trafnidiaeth gyhoeddus, ac allgáu digidol.
Eleni, siaradais am fy mlaenoriaethau gwaith presennol, a sut mae’r rhain yn seiliedig ar yr hyn y mae pobl hŷn o bob cwr o Gymru wedi dweud wrthyf sy’n bwysig iddyn nhw. Soniais hefyd am fy adroddiad diweddar ar Fynd yn Hŷn yng Nghymru, sy’n tynnu sylw at yr heriau sylweddol y mae pobl yn eu hwynebu wrth iddynt heneiddio.
Roedd yr heriau ychwanegol a godwyd gyda mi eleni yn cynnwys delio â systemau cymorth a chael gafael ar wybodaeth berthnasol (yn enwedig wrth gael mynediad at arian y mae gennych hawl iddo), heneiddio heb blant, ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.
Yn y digwyddiad hwn i nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn, roedd ymdeimlad gwirioneddol o ddathlu. Roedd yno ganwr, bingo a raffl, yn ogystal â nifer o ffigyrau nodedig, gan gynnwys Aelodau Cabinet o’r Cyngor a Maer Rhondda Cynon Taf.
Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn (1 Hydref), ymwelais â dau grŵp yn Abertawe i ddysgu mwy am y gwaith maen nhw’n ei wneud i gefnogi pobl i heneiddio’n dda: grŵp Cymdeithasol y Fforwm Anabledd yn y Cwtsh Cydweithio, a grŵp Bowlio Aches and Lanes, yn yr Ale Fowlio Decbinnau ym Mharc Tawe.
Sefydlwyd y cynlluniau hyn drwy Raglen Ymgysylltu Heneiddio’n Dda Abertawe, ac fe’u cynlluniwyd i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, gan alluogi pobl hŷn i fyw a heneiddio’n dda, a ffurfio cymuned o gysylltiadau. Mewn cwta bedair blynedd, mae’r rhaglen wedi tyfu o 30 aelod i ychydig dan 800!
Yn nigwyddiad cymdeithasol y Fforwm Anabledd, siaradais â nifer o aelodau am y rhwystrau ychwanegol maen nhw’n eu hwynebu wrth heneiddio, oherwydd rhagfarn a thybiaethau pobl am eu hanabledd, a’r unigrwydd cynyddol y gall hyn ei achosi. Soniodd yr aelodau pa mor ddefnyddiol yw cael lle diogel iddynt gysylltu dros gemau bwrdd a byrbrydau.
Wrth fowlio gydag Aches and Lanes, siaradodd yr aelodau’n glên iawn am yr effaith gadarnhaol y mae’r rhaglen Heneiddio’n Dda wedi’i chael ar eu bywydau, a sut mae eu calendrau cymdeithasol yn llawn digwyddiadau Heneiddio’n Dda, gan roi bywyd newydd i lawer o bobl. Siaradodd yr aelodau gwrywaidd yn benodol am y manteision y mae’r grŵp hwn wedi’u cael ar eu hiechyd meddwl, gan ganiatáu iddynt siarad wrth gymryd rhan mewn gweithgaredd hwyliog.
Roedd yn wych gweld yr effaith gadarnhaol ac uniongyrchol y mae rhaglen Heneiddio’n Dda Abertawe wedi’i chael ar bobl hŷn, ac rwy’n gobeithio y gall y rhaglen hon barhau i alluogi pobl hŷn yn Abertawe i heneiddio’n dda am flynyddoedd i ddod.
Neuadd Tregroes, Llandysul
Cefais gyfle i gwrdd ag oddeutu 30 o bobl hŷn yn ystod fy ymweliad â Neuadd Tregroes yng Ngheredigion. Hen ysgol y pentref oedd Neuadd Tregroes, ond ar ôl iddi gau ugain mlynedd yn ôl, cafodd y tir ei brynu gan Elwyn, ffermwr lleol sydd wedi gweithio’n galed i adnewyddu’r hen ysgol a’i throi’n neuadd gymunedol i bawb.
Yn ystod fy ymweliad, cododd y bobl hŷn faterion allweddol gyda mi yn ymwneud â chael eu gadael ar ôl wrth i’r byd droi’n fwy digidol, a’r pryder y gallai hyn wneud iddynt fod yn fwy agored i sgamiau ar-lein. Cawsom gyfle hefyd i drafod pa mor anodd yw cael gafael ar wasanaethau fel trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy ac apwyntiadau gyda meddyg teulu wrth fyw mewn cymunedau gwledig. Mae unigrwydd a theimlo’n ynysig yn fater sy’n cael effaith ar nifer o’r trigolion, yn enwedig y rhai hynny sydd ddim yn gallu mynychu digwyddiadau yn y Neuadd.
Mae amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu cynnal yn y Neuadd i roi cyfle i bobl gymryd rhan a chysylltu â’i gilydd. Mae’r gweithgareddau hyn yn cael eu trefnu a’u cydlynu gan bwyllgor ymroddedig o wirfoddolwyr ac yn cynnwys clwb cinio, bore coffi a rali tractor. Mae cyfraniad y pwyllgor yn allweddol at lwyddiant y Neuadd. Mae’n amlwg fod y Neuadd yn cael ei rhedeg gan y gymuned, i’r gymuned, ac mae’r trigolion yn ei gwerthfawrogi’n fawr.
Big Pit, Amgueddfa Lofaol Cymru
Cefais gyfle i gyfarfod grŵp o bobl hŷn o Gartref Nyrsio Glaslyn, i gymryd rhan mewn taith Dementia-Gyfeillgar o amgylch Big Pit, Amgueddfa Lofaol Cymru.
Dechreuodd y daith gyda sgwrs am y llwybr, a rhoddodd ein tywysydd drosolwg clir i bawb o’r hyn i’w ddisgwyl yn ystod yr ymweliad tanddaearol, gan neilltuo amser hefyd i ddod i adnabod pawb yn y grŵp. Roedd y llwybr tanddaearol yn hwylus i bobl mewn cadeiriau olwyn fynd hyd-ddo, a gofalwyd am y grŵp yn gyson i sicrhau bod pawb yn gyfforddus ac yn hapus i fynd ymlaen. Roedd ein tywysydd yn hynod wybodus a diddorol, a rhoddodd ddarlun llawn o fywyd y rhai a arferai weithio yn y pyllau glo.
Ar ôl y daith danddaearol, roedd amser i drafod a myfyrio, a rhannodd y bobl hŷn eu straeon am dyfu i fyny mewn cymunedau glofaol. Roedd yn ddiddorol iawn trafod sut roedd pyllau glo yn ffocws i fywyd cymunedau cyfan, a sut roedd y glowyr a’u teuluoedd yn cael eu cefnogi o fewn y gymuned.
Bydd gan fwyafrif helaeth y bobl hŷn sy’n byw yng Nghymru heddiw atgofion am dyfu i fyny mewn cymunedau glofaol. Bydd cynnal y teithiau Dementia-Gyfeillgar hyn yn Big Pit, Amgueddfa Lofaol Cymru yn helpu i bobl gael profiad o hyn, ac yn fodd i fwy o bobl hŷn gysylltu â’u treftadaeth.
Pencampwriaethau Agored Cymru Pickleball
Ymunais â phobl hŷn o bob cwr o Gymru ym Mhencampwriaethau Agored Pickleball Cyntaf Cymru, lle daeth dros 50 o dimau o bob cwr o’r DU at ei gilydd i gystadlu mewn gwahanol adrannau oed, gan gynnwys categori dros 60 oed.
Yn ystod fy ymweliad, siaradais â chwaraewyr o dimau ledled Cymru, gan gynnwys Ynys Môn, Torfaen a Llantrisant. Roedd llawer o chwaraewyr wedi dod ar draws y gamp ar ôl ymddeol o wahanol dimau chwaraeon eraill, ond doedd gan nifer o chwaraewyr ddim profiad blaenorol o gymryd rhan mewn chwaraeon. Canmolodd yr aelodau’r faith bod Pickleball yn gynhwysol a hygyrch, gan ganmol hefyd y cysylltiadau cymdeithasol y maen nhw wedi’u creu drwy gymryd rhan.
Siaradais â phobl sydd wedi teithio ledled y byd gyda’r gamp, gan fynd i wersylloedd hyfforddi a chystadlaethau yn Sbaen, yr Eidal a Gwlad Thai! Roedd yn wych gweld amgylchedd mor groesawgar ac anogol, sy’n rhoi cyfle gwych i bobl hŷn gymryd rhan mewn rhywbeth newydd a chadw’n ffit. Yn fuan, bydd tîm Cymru dros 50 oed yn mynd i gystadlu ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Rhufain ar Fedi 18, ac rwy’n dymuno pob lwc iddynt!
Bore Coffi Birchgrove
Cefais gyfle i gyfarfod dros 50 o bobl pan euthum i fore Coffi Llwynfedw yn Neuadd yr Eglwys yn Heol Caerffili, Caerdydd. Mae’r bore coffi yn uchafbwynt y mis i lawer, mae’n boblogaidd ac mae nifer fawr yno bob amser.
Cefais fy syfrdanu gan yr amrywiaeth arbennig o gacennau oedd ar gael, a’r ffordd yr oedd pobl yn cael eu hannog i ymlacio a chael sgwrs, gyda phaned a thamaid o gacen. Roedd y bobl y siaradais â nhw yn canmol y bore coffi am ddod â phobl at ei gilydd a rhoi cyfle i ffurfio cyfeillgarwch o’r newydd, yn ogystal â rhoi cyfle i bobl ddysgu mwy am yr hyn sy’n digwydd yn y gymuned leol.
Roedd unigrwydd ac allgau digidol yn ddau fater a godwyd gan y bobl hŷn a oedd yn bresennol. Roedd llawer o bobl yn byw ar eu pennau eu hunain, ac yn cael trafferth cael gafael ar wybodaeth gan yr awdurdod lleol, oherwydd bod gwybodaeth ar gael ar-lein yn bennaf. O ganlyniad roedd rhai’n teimlo eu bod yn cael eu ‘cosbi’ am nad oedd ganddynt y sgiliau digidol diweddaraf.
Ar nodyn mwy cadarnhaol, siaradais â phobl a dynnodd sylw at y gefnogaeth y maen nhw wedi’i derbyn drwy Gyngor Caerdydd i wella eu sgiliau digidol a defnyddio technoleg i gyflawni tasgau bob dydd.
Mae digwyddiadau fel hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd rhwydweithiau gwirfoddoli o fewn cymunedau lleol, a’r gefnogaeth hanfodol y maen nhw’n ei chynnig i bobl hŷn i ffurfio cyfeillgarwch a chreu cysylltiadau.
Chymdeithas Pensiynwyr Llanharan
Fe wnes i gwrdd â dros 40 o bobl hŷn yn ystod fy ymweliad â Chymdeithas Pensiynwyr Llanharan. Mae’r grŵp yn cwrdd yn rheolaidd ar gyfer digwyddiadau a thripiau, ac i rannu gwybodaeth. Yn ystod fy ymweliad, cefais gyfle i glywed yn uniongyrchol am y materion sy’n effeithio ar eu bywydau yn y gymuned leol.
Roedd ymdeimlad cryf ymysg pobl hŷn yn Llanharan fod y cyngor lleol yn aml yn anwybyddu eu lleisiau a’u safbwyntiau. Dywedodd yr aelodau wrthyf hefyd fod cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU am yr adolygiad o ddiogelwch ar y ffyrdd wedi gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu targedu’n benodol oherwydd eu hoedran, a bod hynny wedi’u gwneud yn fwy anniddig.
Codwyd pryderon cyffredinol ynghylch mynediad at wasanaethau deintyddol a meddygon teulu, yn ogystal â’r pellter y mae’n rhaid ei deithio i fynd i apwyntiadau ysbyty. Hefyd, trafodwyd materion penodol ynghylch diffyg safleoedd bws hygyrch, a’i bod yn mynd yn fwyfwy anodd defnyddio arian parod i dalu am barcio. Mynegodd yr aelodau awydd cryf i weddnewid gwasanaethau gofal cymdeithasol yn yr ardal, yn enwedig gwella gwasanaethau gofal i bobl â dementia.
Roedd yn hyfryd clywed sut mae’r grŵp wedi dod yn ganolbwynt go iawn yn y gymuned, a buom yn trafod ffyrdd y gallai aelodau gysylltu ag Arweinydd Cymunedau Oed-gyfeillgar Rhondda Cynon Taf, i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
Sioe Sir Benfro
Yn Sioe Sir Benfro eleni, fe wnes i ymuno ag aelodau o Fforwm 50+ Sir Benfro ar eu stondin, ochr yn ochr â phennaeth fy nhîm Cyngor a Chymorth.
Roedd y diwrnod yn gyfle gwych i siarad yn uniongyrchol â phobl hŷn a hyrwyddo fy Ngwasanaeth Cyngor a Chymorth. Fe wnaethom ddosbarthu amrywiaeth o ganllawiau gwybodaeth ar bynciau fel cael gafael ar feddygon teulu, ac atwrneiaeth arhosol.
Drwy gydol y dydd, cefais gwrdd â nifer o fudiadau trydydd sector, i ddysgu mwy am y gwaith gwerthfawr maen nhw’n ei wneud i wella bywydau pobl leol yn Sir Benfro. Roedd hyn yn cynnwys ymweld â Sefydliad DPJ, lle dysgais am yr archwiliadau iechyd am ddim maen nhw’n eu darparu i bobl mewn cymunedau ffermio gwledig, a’r cyfleoedd maen nhw’n eu rhoi i bobl hŷn siarad am eu hiechyd meddwl.
Cefais sgyrsiau hefyd â nifer o Aelodau o’r Senedd ac Aelodau Seneddol, gan drafod y materion sy’n effeithio fwyaf ar bobl hŷn yn eu hetholaethau, fel unigrwydd ac arwahanrwydd, trafnidiaeth gyhoeddus, a mynediad at ofal iechyd.
Byddaf yn ôl yn Sir Benfro am wythnos ym mis Tachwedd, ac rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â hyd yn oed mwy o sefydliadau cymunedol i weld â’m llygaid fy hun rai o’r arferion da sy’n cael eu darparu i wella bywydau pobl hŷn yn Sir Benfro.
iConnect, Chwrt Hafren
Ochr yn ochr â Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, bûm yn ymweld â Chwrt Hafren yng Nghil-y-coed, i siarad â gwirfoddolwyr ac aelodau iConnect.
Grŵp sy’n rhan o Gymdeithas Tai Sir Fynwy (MHA) yw iConnect, lle mae gwirfoddolwyr a Hyfforddwr Digidol yn cynnig cymorth wyneb yn wyneb i denantiaid MHA – i ddatblygu eu sgiliau digidol mewn meysydd fel defnyddio ffonau clyfar a dyfeisiau tabled, cyfryngau cymdeithasol, apiau a negeseuon e-bost, bancio ar-lein, a chynlluniau cardiau SIM.
Mae Tai Sir Fynwy yn un o ddwy ardal beilot gychwynnol sydd wedi cael grant Safonau Gofynnol ar gyfer Bywyd Digidol (MDLS). Mae’r MDLS yn helpu i sicrhau bod pobl yn gallu cyfathrebu, cysylltu ac ymgysylltu ar-lein yn ddiogel ac yn hyderus – drwy gael rhyngrwyd hygyrch, offer digidol digonol, a gwybodaeth a sgiliau digidol.
Mae’n hollbwysig sicrhau bod gan bobl hŷn lythrennedd digidol digonol, gan ystyried bod gwasanaethau allweddol fel meddygon teulu, deintyddion a banciau yn defnyddio mwy a mwy ar lwyfannau ar-lein. Roedd yn ddefnyddiol iawn siarad â gwirfoddolwyr ac aelodau – rhai ohonynt wedi bod yn ymwneud â’r grŵp ers iddo ddechrau 13 mlynedd yn ôl. Cawsom ddysgu mwy am sut mae’r grŵp wedi gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth ddigidol, gan roi hwb i’w hyder wrth ddefnyddio gwasanaethau ar-lein.
Eisteddfod Genedlaethol 2025
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ymunais â Chomisiynydd y Gymraeg ar eu stondin i siarad â phobl hŷn am sut, pryd a ble maen nhw’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd – yn ogystal â’r rhwystrau sy’n gallu eu hatal rhag gwneud hynny.
Yn ystod fy amser ar y Maes, cefais hefyd gyfle i gwrdd ag amrywiaeth o sefydliadau eraill sy’n darparu cymorth i bobl hŷn, ac i ddysgu mwy am y gwaith maen nhw’n ei wneud i alluogi pobl i fyw a heneiddio’n dda.
Roedd hyn yn cynnwys cyfarfodydd gyda Llais, Sefydliad y Merched, Merched y Wawr, yr Uned Diogelwch Cam-drin Domestig a’r Ganolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol, Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru, a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.
Roedd yr Eisteddfod yn gyfle gwych i glywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn am eu profiadau, i ddysgu ar y cyd, ac i gael sgyrsiau amhrisiadwy gyda sefydliadau allweddol.
U3A Caerfyrddin
Cefais gwrdd â dros 50 o aelodau o grŵp Prifysgol y Drydedd Oes (U3A) yng Nghaerfyrddin, i glywed mwy am y materion penodol sy’n effeithio ar bobl hŷn yng Nghaerfyrddin.
Trafodwyd nifer o faterion penodol gyda mi ynghylch natur anrhagweladwy Ceir Cefn Gwlad, allgáu digidol oherwydd y gwasanaeth ffôn anwadal ar draws yr ardal, a’r ddibyniaeth ar apiau a thaliadau digyswllt mewn meysydd parcio.
Roedd aelodau’n galw am ddatblygu Hwb a fyddai’n helpu pobl hŷn i gyflawni prosesau ar-lein – fel bancio ar-lein a gwneud cais am bresgripsiynau ar wefannau meddygon teulu – yn ogystal â chael gwybodaeth am sut mae osgoi sgamiau sy’n dod yn fwyfwy realistig.
Mae gallu sgwrsio’n uniongyrchol â phobl hŷn mewn ardaloedd lleol yn rhoi gwybodaeth hynod werthfawr i mi am faterion penodol sy’n effeithio ar breswylwyr, gan fy ngalluogi i ddysgu am yr hyn sy’n digwydd ar lefel leol mewn cymunedau.
Fforwm 50+ Llandaf
Cefais gyfle i gwrdd ag aelodau o Fforwm 50+ Llandaf yn Y Gorlan, sef hen floc toiledau blêr a gafodd ei droi’n hwb cymunedol ffyniannus ac amgylcheddol gynaliadwy sy’n defnyddio dŵr wedi’i ailgylchu, llechi solar a phympiau gwres!
Cafodd yr aelodau gyfle i drafod y materion allweddol sy’n effeithio ar bobl yn eu cymuned, ac un o’r materion hyn oedd cael gwared â’r hawl i barcio am ddim am ddwy awr. Mae’r penderfyniad hwn yn peri trafferthion i’r rhai hynny sydd eisiau mynychu apwyntiadau meddyg teulu, ac yn cynyddu’r ddibyniaeth ar apiau a dulliau talu digyswllt mewn meysydd parcio, rhywbeth sy’n allgáu pobl hŷn nad ydynt ar-lein. Cafwyd trafodaeth hefyd am y prinder toiledau cyhoeddus yng Nghymru.
Roedd rhai o’r bobl hŷn y siaradais i â nhw yn aelodau o’r fforwm ers 2007! Roedd ymdeimlad gwirioneddol o berthyn yn y fforwm, ac maent yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau yn y ganolfan dair gwaith yr wythnos, gan gynnwys Tai Chi, Ioga, Celf a Chrefft, ac wrth gwrs mae cyfle i sgwrsio ac ymlacio. Mae awyrgylch arbennig yn y grŵp, ac roedd yr aelodau’n pwysleisio cymaint o hwyl maen nhw’n ei gael yn cymryd rhan yn yr holl weithgareddau amrywiol.
Fforymau 50+ Cwmbrân, Pont-y-pŵl a Blaenafon, Torfaen
Cefais gyfarfod â dros 60 o bobl hŷn pan ymwelais â chyfarfod ar y cyd rhwng Fforymau 50+ Cwmbrân, Pont-y-pŵl a Blaenafon, yn Llyfrgell Cwmbrân. Mae Fforymau 50+ yn darparu llwyfan i bobl hŷn rannu gwybodaeth, dylanwadu ar wasanaethau lleol, a chael trafodaethau gwerthfawr am y materion sy’n effeithio ar eu bywydau.
Yn ystod yr ymweliad, cefais gyfle i siarad am fy rôl fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, gan roi trosolwg o’m blaenoriaethau a’m rhaglen waith, yn ogystal â thynnu sylw at y camau rwy’n eu cymryd i wella bywydau pobl hŷn.
Yn nes ymlaen yn y sesiwn, cefais drafodaethau craff iawn gyda phobl hŷn am y materion allweddol sy’n effeithio ar eu bywydau o ddydd i ddydd. Roedd y rhain yn cynnwys costau byw, taliadau pensiwn, mynediad at wasanaethau gofal iechyd a chartrefi gofal, cau banciau, a hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus. Gwych oedd gweld cynifer o bobl yn dod at ei gilydd i siarad am bynciau mor bwysig.
The Shed at the Pavillion, Llansamlet
Cefais gyfle i gwrdd â thua 30 o bobl hŷn pan ymunais ag aelodau The Shed at the Pavillion yng Ngellifedw, Llansamlet.
Fe wnaeth yr aelodau fanteisio ar y cyfle i drafod materion pwysig yn ymwneud â gwasanaethau lleol ac sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd, pethau fel trafnidiaeth gyhoeddus a thrafferthion wrth gael gafael ar apwyntiadau meddyg teulu, deintyddol ac ysbyty. Cefais gyfle i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith rwyf i’n ei wneud i wella bywydau pobl hŷn ac i hyrwyddo fy ngwasanaethau Cymorth a Chyngor.
Yr enw gwreiddiol ar The Shed at The Pavillion oedd Men’s Shed, ac roedd yn lle pwysig i ddynion hŷn ddod at ei gilydd i weithio ac i sgwrsio am bynciau sy’n aml yn anodd eu trafod wyneb yn wyneb. Y bwriad oedd helpu’r aelodau i drafod eu teimladau’n agored, gan leihau teimladau o unigrwydd.
Ers hynny, mae The Shed wedi ehangu ac yn agored i ddynion a menywod. Ar ddyddiau Llun maent yn cynnal sesiwn ‘Gweu a Chlonc’, ac ar ddyddiau Mawrth mae’r aelodau’n dod ynghyd i wneud gwaith coed a chrefftau eraill.
Roedd yr aelodau’n amlwg yn falch iawn o waith The Shed, ac fe wnaethant dynnu fy sylw at bwysigrwydd y grŵp yn eu bywydau bob dydd fel man sy’n rhoi cyfle iddynt ddod at ei gilydd a chymdeithasu gydag eraill yn y gymuned.
Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, Llanelwedd
Roeddwn i’n falch o fynychu diwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru, gan rannu stondin wybodaeth gyda Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO). Bu’r digwyddiad hwn yn gyfle i ni gael cysylltiad penodol â phobl sy’n byw mewn ardaloedd amaethyddol gwledig yng Nghymru, sydd wedi rhoi cipolwg gwerthfawr ar y materion allweddol sy’n eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd.
Drwy gydol y dydd, siaradais ag amrywiaeth o bobl hŷn o bob cwr o Gymru. Y prif bynciau a drafodwyd oedd mynediad at wasanaethau meddygon teulu, deintyddion a gwasanaethau iechyd eraill, cau banciau, gofalwyr di-dâl, a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Roedd y tîm a minnau hefyd wedi gallu dosbarthu llawer o ganllawiau gwybodaeth i bobl hŷn, yn ogystal â hyrwyddo fy ngwasanaeth Cyngor a Chymorth, sy’n rhoi cymorth ac arweiniad i bobl hŷn ar amrywiaeth o faterion.
Cafwyd cyfle hefyd i gyfarfod a dysgu mwy am y gwaith y mae mudiadau eraill yn ei wneud i gefnogi pobl hŷn mewn cymunedau gwledig, gan gynnwys Ffit i Ffermio, Sefydliad DPJ, Merched y Wawr a Sefydliad y Merched (WI).
Côr Good Vibrations, Caerdydd
Cefais gyfle i wrando ar brynhawn o ganu pan es i ymarfer Côr Good Vibrations yn yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd. Sefydlwyd y côr i gefnogi pobl sy’n byw gyda chlefyd Parkinson, i’w helpu i reoli eu symptomau ac i gwrdd ag eraill sy’n byw gyda’r un cyflwr.
Roedd dros 30 o aelodau yn bresennol, ac roedd ganddynt repertoire amrywiol iawn o ganeuon, fel rhai gan Coldplay, y Beatles, a chlasuron Cymreig fel Calon Lân!
Siaradodd yr aelodau â mi a dweud cymaint maen nhw’n mwynhau dod at ei gilydd i ganu gyda phobl eraill sy’n deall eu cyflwr a’u bod nhw, drwy’r grŵp, yn gallu dysgu am rwydweithiau a digwyddiadau cymorth eraill yn eu hardal leol.