Dyma’ch cyfle i ddweud eich dweud a helpu i sicrhau newid cadarnhaol i bobl hŷn
Rydw i eisiau i Gymru arwain y ffordd o ran grymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a galluogi pawb i fyw ac heneiddio’n dda, ac fel Comisiynydd byddaf yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o wireddu’r weledigaeth hon drwy ddarparu rhaglen waith gadarn ac ymatebol sy’n cael ei llywio gan leisiau a phrofiadau pobl hŷn.
Mae’r sgyrsiau hynod werthfawr rydw i wedi’u cael gyda channoedd o bobl hŷn ledled Cymru, am y newidiadau a’r gwelliannau maen nhw eisiau eu gweld, wedi fy helpu i nodi pedwar canlyniad cenedlaethol allweddol a fydd yn darparu ffocws ac agwedd strategol at y camau y byddaf yn eu cymryd fel Comisiynydd, yn ogystal â’r amrywiaeth eang o gamau gweithredu y mae angen i gyrff cyhoeddus eu cymryd.
Mae’r pedwar canlyniad cenedlaethol rydw i wedi’u nodi yn canolbwyntio ar sicrhau bod pobl hŷn:
- Yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth, y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt
- Yn teimlo’n ddiogel yn eu perthnasoedd, eu cartrefi a’u cymunedau
- Yn cael eu trin yn deg a bod eu cyfraniad yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi
- Yn gallu sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a bod ganddynt ddewis a rheolaeth ystyrlon
Bydd cyflawni’r canlyniadau hyn yn hanfodol i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael ansawdd bywyd da – nawr ac yn y dyfodol – a bod hawliau pobl hŷn yn cael eu cynnal, rhywbeth sy’n dal yn ffocws allweddol i’m ngwaith.
Gwneud yn siŵr bod eich llais chi’n cael ei glywed
Hoffwn glywed gan gynifer o bobl â phosibl am y camau a fyddai’n helpu i wella bywydau pobl hŷn, a’r ffyrdd y gall fy ngwaith gefnogi’r gwaith o gyflawni’r canlyniadau hyn.
Felly, cofiwch gysylltu i rannu eich barn a’ch syniadau, a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed drwy lenwi’r holiadur byr hwn. Fel arall, os byddai’n well gennych siarad am eich profiadau gydag aelod o’m tîm, ffoniwch 03442 640 670.
Gallwch chi dynnu sylw at rywbeth sy’n eich poeni neu yn peri pryder i chi, neu rannu enghraifft o rywbeth sy’n gweithio’n dda ac sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol y gellid ei gyflwyno mewn rhannau eraill o Gymru. Gallai’r hyn rydych chi’n ei rannu fod yn seiliedig ar eich profiadau eich hun, profiadau eich teulu a’ch ffrindiau, neu brofiadau pobl hŷn rydych chi’n gweithio gyda nhw neu’n eu cefnogi.
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am bob un o’r canlyniadau allweddol isod a dweud eich dweud am y camau rydych chi’n credu y dylwn eu cymryd. Mae lle ar y diwedd hefyd i chi rannu unrhyw sylwadau neu syniadau eraill sydd gennych chi, neu i dynnu sylw at newidiadau neu welliannau eraill yr hoffech eu gweld.
Gobeithio y byddwn yn clywed gennych yn fuan!
Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Lawrlwythwch gopi o holiadur y Comisiynydd Cwblhewch holiadur y Comisiynydd ar-lein