O’r Trysorlys i Dreorci: Cynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn yng Nghymru – Adroddiad Uwchgynhadledd
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn llais ac yn eiriolwr annibynnol ar gyfer pobl hŷn ledled Cymru.
Mae’r Comisiynydd yn gweithredu i diogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn, rhoi diwedd ar oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran, atal cam-drin pobl hŷn, a galluogi pawb i heneiddio’n dda.
Mae’r Comisiynydd yn gweithio i sicrhau Cymru lle mae pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi, lle mae hawliau’n cael eu cynnal a lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.
Sut i gysylltu â’r Comisiynydd:
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Adeiladau Cambrian
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5FL
Ffôn: 03442 640670
E-bost: gofyn@comisiynyddph.cymru
Trydar: @comisiwnphcymru
Gwefan: www.comisiynyddph.cymru
Fformatau Hygyrch
Of hoffech dderbyn y cyhoeddiad hwn mewn fformat arall ac/neu iaith arall, cysylltwch â ni.
Cefndir
Mae bron i 1 o bob 5 o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ac mae’r argyfwng costau byw yn peryglu iechyd llawer o bobl hŷn yn sylweddol. Felly, mae’n bwysicach nag erioed bod pobl yn cael y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo, gan gynnwys Credyd Pensiwn, sy’n gallu cynnig gobaith i rai o bobl hŷn tlotaf a mwyaf agored i niwed Cymru.
Mae Credyd Pensiwn yn rhoi arian ychwanegol sy’n gallu helpu gyda chostau byw pobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar incwm isel, gan gynyddu incwm wythnosol person sengl i £182.60 (£278.70 i gyplau).
Mae credyd pensiwn werth £65 yr wythnos ar gyfartaledd i’r rheini sy’n gymwys. Mae hefyd yn datgloi hawliau eraill sy’n darparu rhagor o gymorth ariannol, gan gynnwys gostyngiadau i’r dreth gyngor a chymorth gyda chostau tai, gofal llygaid a deintyddol am ddim, a Thrwyddedau Teledu am ddim i bobl 75 oed a hŷn. Mae cymorth ychwanegol penodol gyda chostau gwresogi, sydd ar gael i bobl sy’n cael Credyd Pensiwn, yn cynnwys y Disgownt Cartrefi Cynnes (£150), Taliadau Tywydd Oer (£25 am bob wythnos o dywydd oer) a Thaliadau Costau Byw (£650 yn 2022 yn codi i £900 yn 2023).
Ym mis Tachwedd 2022, cyhoeddodd y Comisiynydd bapur briffio, a oedd yn tynnu sylw at y ffaith nad yw hyd at 80,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn cael y Credyd Pensiwn y mae ganddynt hawl iddo. Mae hyn yn golygu bod dros £200 miliwn yn cael ei adael heb ei hawlio yn Nhrysorlys y DU, yn hytrach na chyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf.
Roedd y papur briffio yn galw ar Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol i gymryd camau brys i gynyddu’n sylweddol nifer y bobl hŷn yng Nghymru sy’n cael Credyd Pensiwn, gan dynnu sylw at y rôl hollbwysig y gallai’r trydydd sector ei chwarae wrth fwrw ymlaen â hyn. Mae’r papur briffio hefyd yn nodi’r camau y byddai’r Comisiynydd yn eu cymryd i helpu i sicrhau bod pobl
hŷn yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i hawlio’r Credyd Pensiwn y mae ganddynt hawl iddo.
Un o’r camau gweithredu hyn oedd cynnal Uwchgynhadledd Credyd Pensiwn i ddod â sefydliadau cenedlaethol a chymunedol at ei gilydd ac ysbrydoli a chefnogi camau gweithredu ledled Cymru. Cynhaliwyd y digwyddiad ar-lein hwn ar 8 Rhagfyr 2022. Roedd amrywiaeth o unigolion a sefydliadau allweddol yn bresennol, pob un yn cyfrannu syniadau ac yn addo camau
gweithredu i helpu i gyrraedd mwy o bobl sy’n colli allan ar hyn o bryd.
Un o weithgareddau’r digwyddiad oedd annog unigolion a sefydliadau i wneud Addewid Credyd Pensiwn – cam gweithredu, mawr neu fach, y byddent yn ei gymryd er mwyn annog a chefnogi pobl hŷn sy’n gymwys i hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddynt.
Yr Uwchgynhadledd
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE, oedd cadeirydd yr Uwchgynhadledd a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2022. Ymunodd amrywiaeth o siaradwyr a chyfranwyr â hi yn y
drafodaeth panel:
- Carol a Siw – pobl hŷn sydd â phrofiad o hawlio Credyd Pensiwn;
- Hannah Watson, Cydlynydd Pobl Hŷn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf;
- Heather Ferguson a Nel Price, Age Cymru;
- Paul Phillips, Yr Adran Gwaith a Phensiynau; a
- Paul Neave, Cyngor ar Lesiant Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a thîm Polisi’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Roedd y rheini a oedd yn bresennol yn yr Uwchgynhadledd yn dod o amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys pobl hŷn a chynrychiolwyr o sefydliadau pobl hŷn, partneriaid yn y trydydd sector, sefydliadau cynghori, awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned, grwpiau ffydd, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru.
Prif Themâu’r Uwchgynhadledd
Iaith
Daeth yr iaith a ddefnyddir wrth siarad am a/neu hyrwyddo Credyd Pensiwn i’r amlwg fel thema allweddol gan amrywiaeth o gyfranogwyr. Mae angen osgoi iaith sy’n ymwneud â ‘budd
daliadau’ neu unrhyw beth sy’n awgrymu ‘cael arian am ddim’ a chanolbwyntio’n gyson ar ‘hawl i gael’ a ‘hawliau’, gan annog pobl i beidio â cholli’r cyfle i gael y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl cyfreithiol iddo.
Mae angen i’r iaith sy’n cael ei defnyddio yng nghyswllt Credyd Pensiwn fod yn ‘ddeniadol’ yn hytrach na bod yn fiwrocrataidd neu’n annymunol. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y math hwn o
ddull gweithredu yn sail i ymgyrch ‘Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi’ Llywodraeth Cymru i fanteisio i’r eithaf ar incwm.
“Geirio mewn ffordd sy’n eich gwahodd chi i wneud hyn oherwydd ei fod yno i’ch helpu chi, mae gennych chi hawl i’w gael…ei eirio i annog pobl.” – Siw
Ymwybyddiaeth a chyfathrebu effeithiol
Nid oes digon o ymwybyddiaeth o Gredyd Pensiwn a’r amrywiaeth o hawliau ychwanegol y mae’n eu datgloi o hyd. Dywedodd y cyfranogwyr fod gormod o bobl yn dal ddim yn gwybod ei fod yn bodoli.
“Doeddwn i ddim yn ymwybodol o Gredyd Pensiwn am amser hir nes i mi gael gwybod nad oedd llawer o bobl yn ei gael.” – Carol
Nid yw’r diffyg ymwybyddiaeth hwn wedi’i gyfyngu i bobl a allai fod yn gymwys ond, mewn sawl achos, mae’n ymestyn i’r rheini sydd mewn sefyllfa i dynnu sylw at Gredyd Pensiwn, ac a fyddai’n fodlon gwneud hynny. Er enghraifft, drwy’r digwyddiad ‘sgwrsfot’, dywedodd Cynghrair Henoed Cymru ei fod wedi ysgrifennu at bob cynghorydd yng Nghymru i ofyn iddynt sicrhau bod pob cyswllt yn cyfrif mewn perthynas â chodi ymwybyddiaeth am Gredyd Pensiwn. Derbyniodd y llythyr lawer o ymatebion cadarnhaol a cheisiadau am ragor o wybodaeth.
Mae cynghorwyr lleol mewn sefyllfa dda i helpu i godi ymwybyddiaeth o hawliau ond nid oes modd iddynt wneud hynny os nad ydynt yn gwybod am Gredyd Pensiwn..
Rôl cynrychiolwyr etholedig
Gall cynrychiolwyr etholedig hefyd chwarae rhan fawr yn y broses o gynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn drwy ymgysylltu ag etholwyr.
Yn ddiweddar, ysgrifennodd un AS o Gymru at 6,500 o drigolion yn eu hannog i fynychu Diwrnod Gweithredu ar Gredyd Pensiwn gyda dwy swyddfa Cyngor ar Bopeth leol.
Roedd tua 200 o bobl yn bresennol. Cafodd £200,000 o fudd-daliadau heb eu hawlio (nid dim ond Credyd Pensiwn) eu nodi a gwnaed ceisiadau amdanynt.
Codwyd hefyd y ffaith nad yw llawer o bobl hŷn yn credu y byddant yn gymwys i gael Credyd Pensiwn. Gall rhai pobl hŷn fod yn ‘gyfoethog o ran asedau ond yn dlawd o ran arian’ neu’n tybio nad ydynt yn gymwys am fod ganddynt rywfaint o gynilion neu am eu bod yn cael pensiwn galwedigaethol.
Mae angen cyfleu’n gryfach y neges y gallai pobl barhau i gael Credyd Pensiwn yn yr amgylchiadau hyn. Yn yr un modd, nid yw rhai pobl hŷn yn siŵr a ydynt eisoes yn derbyn Credyd Pensiwn, gan feddwl o bosibl nad ydynt yn colli allan, ond maent yn colli allan mewn gwirionedd. Felly, mae angen iddi fod yn hawdd i bobl weld a ydynt yn gymwys.
“Roedd hyd yn oed fy [mherthynas] sy’n ymwybodol iawn o bethau’n dweud ‘o, bydd gen ti ormod’.” – Siw
Mae cyfathrebu effeithiol wirioneddol yn ystyried y cynulleidfaoedd maent yn ceisio’u cyrraedd. Nododd y rhai a gymerodd ran yn yr Uwchgynhadledd ei bod yn bwysig peidio â dibynnu ar gyfathrebu digidol neu ar-lein. Roedd hyn oherwydd nad yw llawer o bobl hŷn ar-lein, naill ai drwy ddewis, am nad ydynt yn teimlo’n hyderus nac yn ddiogel ar-lein, neu am nad oes
ganddynt yr offer na’r mynediad angenrheidiol i’r rhyngrwyd. Hyd yn oed pan fydd pobl hŷn yn gyfforddus yn defnyddio’r rhyngrwyd i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau neu i gael
gafael ar newyddion, nid yw hyn o reidrwydd yn cynnwys bancio ar-lein na llenwi ffurflenni swyddogol.1
1 Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cydnabod mai dim ond 22% o’r rhai sy’n derbyn Credyd Pensiwn a gafodd eu holi ddywedodd eu bod yn gallu cael gafael ar ddyfeisiau digidol ac, yn bwysig iawn, eu bod yn teimlo’n hyderus i ddelio â’r llywodraeth drwy’r rhyngrwyd. Nid yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cyhoeddi cyfathrebiadau ar-lein i bensiynwyr. Mae’n defnyddio’r post. Mae Gwasanaeth Pensiwn yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi’i adeila du i ddarparu gwasanaeth teleffoni, ond mae hefyd yn darparu ar gyfer y rheini sy’n ffafrio gwasanaeth ar-lein a gwasanaeth post. Mae gwasanaeth testun a Gwasanaeth Cyfnewid Fideo ar gael i unrhyw un sydd ag anghenion cyfathrebu. Yn olaf, mae gan yr Adran Gwaith a Phensiynau wasanaeth ymweld â chartrefi i ddarparu wyneb cyfeillgar i’r rheini sydd ag anawsterau cyfathrebu neu sy’n agored i niwed.
Awgrymwyd hysbysebu ar y teledu a’r radio, gan dargedu rhaglenni neu sianeli y mae pobl hŷn yn fwy tebygol o’u gwylio, fel ffordd effeithiol o ledaenu’r neges am Gredyd Pensiwn. Mae’n
bwysig nodi nad yw hyn bob amser yn ffordd effeithiol o gyrraedd pobl hŷn o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, am nad ydynt bob amser yn gwylio’r un rhaglenni teledu nac yn
gwrando ar y radio, weithiau oherwydd rhwystrau iaith. Nodwyd bod papurau newydd hefyd yn ffordd effeithiol o gyrraedd pobl hŷn, ynghyd â hysbysebu ar fysiau neu drenau.
Adlewyrchwyd y dull hwn gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a gynhaliodd ei ymgyrch ei hun i annog rhagor o bobl i hawlio Credyd Pensiwn yn gynharach eleni, gan gynnwys hysbysebu
mewn papurau newydd ledled Cymru. Unwaith eto, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn defnyddio ei gohebiaeth ynghylch cynyddu gwerth budd-daliadau i dynnu sylw at Gredyd Pensiwn, mewn llythyr a fydd yn cyrraedd 11 miliwn o bobl ledled y DU ym mis Ionawr 2023.
Awgrymwyd defnyddio dulliau cyfathrebu presennol fel ffordd ddefnyddiol ac effeithiol o dynnu sylw at Gredyd Pensiwn ar adeg briodol. Er enghraifft, gofyn i rywun a yw’n dymuno gwneud cais am Gredyd Pensiwn fel rhan o’r wybodaeth a anfonir ato cyn cael Pensiwn y Wladwriaeth.
Fodd bynnag, dro ar ôl tro, pwysleisiwyd pwysigrwydd clywed am Gredyd Pensiwn gan unigolion dibynadwy – gan gynnwys ffrindiau a theulu, sefydliadau cydnabyddedig ac, yn bwysicaf oll, pobl hŷn eraill a oedd wedi hawlio Credyd Pensiwn yn llwyddiannus – a phwysleisiwyd gwerth hyn yn arbennig yng nghyfraniadau Siw a Carol.
Enghraifft o Arfer Da: Canolfannau Croeso dros y Gaeaf Rhondda Cynon Taf
Mewn enghraifft o arfer da, mae Canolfannau Croeso dros y Gaeaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi’u cynllunio fel amgylcheddau braf, yn agos at y cartref, lle gall pobl dreulio cyfnodau estynedig o amser. Darperir diodydd poeth a byrbrydau gyda’r nod o greu man cyfforddus lle gellir cael sgyrsiau am y cymorth sydd ar gael, gan gynnwys Credyd Pensiwn.
Mewn ymateb i adborth gan bobl hŷn y gall fod yn anodd gwybod yn union pa gymorth sydd ar gael, mae partneriaid gan gynnwys Cyngor ar Bopeth, Action for Elders, Gofal a Thrwsio a Chymunedau Digidol Cymru wedi ymweld â lleoliadau lleol i sgwrsio â phobl a thrafod y mathau o gymorth y gallent eu cael.
Roedd ansicrwydd neu ddryswch ynghylch pa gymorth sy’n bodoli – a adlewyrchir yng nghyflwyniadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac Age Cymru yn ogystal â’r drafodaeth gan gyfranogwyr ac fel rhan o’r ‘sgwrsfot’ – hefyd yn thema gyffredin. Mae angen rhoi mwy o bwyslais ar roi gwybodaeth i bobl hŷn, yn hytrach na dim ond dibynnu ar ddulliau sy’n annog pobl i chwilio am wybodaeth. Awgrymwyd rhai ffyrdd arloesol o wneud hyn yn y ‘sgwrsfot’. Er enghraifft, dywedodd un mynychwr a oedd yn ymwneud â darparu prydau poeth y gallai fanteisio ar y cyfle i sôn am Gredyd Pensiwn gyda’r bobl y mae’n danfon prydau iddynt yn y dyfodol. Awgrymwyd hefyd y gellid defnyddio clybiau pobl hŷn yn gyson i ledaenu’r gair am Gredyd Pensiwn.
Rhwystrau – Stigma, embaras ac amheuaeth
Nododd nifer o’r cyfranogwyr fod rhai pobl hŷn yn teimlo cywilydd, embaras neu stigma wrth geisio cymorth, gan gynnwys Credyd Pensiwn, a bod pobl yn gallu teimlo gormod o gywilydd i
ddweud bod angen arian ychwanegol arnynt i ymdopi.
“Rydw i’n meddwl bod pobl naill ai’n meddwl nad ydyn nhw’n mynd i’w gael neu mae ganddyn nhw ormod o gywilydd dweud bod angen yr arian arnyn nhw.” – Carol
Siaradodd gwasanaeth Cyngor Age Cymru am bobl yn ymddiheuro am ofyn pa gymorth sydd ar gael a dweud nad oeddent byth yn meddwl y byddent yn y sefyllfa hon. Canfu’r gwasanaeth Cynghori hefyd gynnydd yn nifer y bobl sy’n cysylltu â nhw’n benodol i ofyn pa gymorth arall y gallent ei gael, boed hynny’n ariannol, ar gyfer atgyweirio’r cartref neu inswleiddio ac ati. Dywedodd y gwasanaeth fod hyn yn gwrthgyferbynnu â’r sefyllfa yn y gorffennol lle gallai cais am gymorth ariannol ddod i’r amlwg wrth archwilio ymholiadau’n fwy manwl. Yn hytrach, mae’r rhain yn cael eu codi ymlaen llaw yn amlach, gan nodi difrifoldeb y sefyllfa o ran yr argyfwng costau byw.
Yn ffodus, fodd bynnag, nid yw’n embaras i bawb, fel y dangoswyd gan Siw a Carol, gyda Siw yn nodi ei bod yn ‘hapus i ddweud wrth bobl fy mod i’n ei gael [Credyd Pensiwn]’.
Byddai’r math yma o rôl fel ‘llysgennad’, i annog pobl i hawlio Credyd Pensiwn, yn chwarae rhan enfawr o ran helpu i herio stigma.
Roedd hefyd yn ddiddorol nodi y gallai effaith ehangach yr argyfwng costau byw, sy’n effeithio ar nifer fawr o ddinasyddion Cymru o bob oed, ac sydd wedi arwain at fwy o drafodaeth am
gymorth y llywodraeth, fod yn cael sgil-effaith o normaleiddio neu sicrhau bod llai o stigma ynghlwm wrth wneud y broses o wirio bod pobl yn gwneud y mwyaf o’u hincwm. Mae pobl sy’n
cysylltu â gwasanaeth Cyngor Age Cymru weithiau’n sôn eu bod wedi gweld materion neu fathau o gefnogaeth yn cael eu crybwyll ar y teledu, sy’n helpu i greu ymdeimlad bod ymchwilio i
gymorth yn fwy derbyniol.
Tynnodd Siw a Carol ill dwy sylw at y ffaith y gallai rhai pobl hŷn ddweud nad oedd angen yr arian arnynt pe bai rhywun yn gofyn iddynt am Gredyd Pensiwn a’r cymorth y gall arwain ato, beth bynnag fo’u sefyllfa, ac nid yw eraill eisiau gofyn am help. Mae hyn yn pwysleisio pam fod yr iaith a ddefnyddir a’r ffordd y mae cymorth yn cael ei bortreadu yn hanfodol i annog pobl i
fanteisio ar eu hawliau ariannol.
Soniwyd hefyd am nifer o rwystrau eraill, gan gynnwys amheuon ynghylch rhywbeth sy’n swnio’n rhy dda i fod yn wir (‘arian am ddim’) a sgamwyr posibl, pryderon ynghylch datgelu gwybodaeth ariannol, neu ymgysylltu ag asiantaethau fel yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Yn yr un modd, roedd rhai pobl hŷn a gysylltodd â gwasanaeth Cyngor Age Cymru yn poeni am y siawns o hawlio Credyd Pensiwn yn llwyddiannus (neu gymorth arall) ond yn dod yn
anghymwys yn y dyfodol ac yn sydyn yn gorfod talu swm mawr o arian yn ôl.2
Mae sefydliadau dibynadwy fel Age Cymru, Age Connects, Cyngor ar Bopeth a llawer o rai eraill yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o weithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pobl hŷn sy’n dymuno trafod materion a chymhwysedd â nhw yn gyntaf cyn cysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau. Ar ben hynny, gan adlewyrchu’r ffaith y gall amgylchiadau pobl newid, mae gallu sefydliadau i gadw mewn cysylltiad â phobl hŷn y tu hwnt i unrhyw hawliad cychwynnol hefyd yn bwysig i fynd i’r afael â’r mathau hyn o rwystrau ac ofnau. Er mwyn darparu’r wybodaeth
a’r gefnogaeth hanfodol hon, fodd bynnag, mae angen cyllid digonol ar gyfer sefydliadau sy’n darparu’r mathau hyn o wasanaethau.
Cyngor a chymorth yn ystod y broses hawlio
Roedd pwysigrwydd cael cefnogaeth drwy gydol y broses hawlio, yn enwedig cymorth wyneb yn wyneb, yn bersonol, yn amlwg yn yr Uwchgynhadledd. Esboniodd Siw sut bu iddi gyfarfod â rhywun o Age Cymru a oedd yn ei chefnogi i wneud cais am Gredyd Pensiwn dros y ffôn, gan ddefnyddio gwasanaeth Cymraeg yr Adran Gwaith a Phensiynau. (Er nad yw Siw yn
siarad Cymraeg, roedd cynrychiolydd Age Cymru wedi nodi ei bod weithiau’n haws cael ateb wrth ddefnyddio’r gwasanaeth Cymraeg). Teimlwyd bod wyneb cyfeillgar, yn bersonol, yn fwy defnyddiol na galwad fideo. Roedd cynnig Gofal a Thrwsio o archwiliad ariannol yn ystod ymweliadau â chartrefi, a amlygwyd drwy’r ‘sgwrsfot’, yn ffordd bwysig arall o gyrraedd pobl hŷn a thrafod cefnogaeth.
Er bod llawer o bobl hŷn yn gyfforddus yn cael gafael ar wasanaethau a ddarperir gan Age Cymru neu Cyngor ar Bopeth ac ati, roedd cael ffrindiau neu deulu sy’n gallu helpu i hawlio
hefyd yn ddefnyddiol iawn. Fodd bynnag, roedd cydnabyddiaeth nad oes gan bawb yr opsiwn hwn, ac y gallai ffrindiau a theulu gael trafferth gyda’r broses eu hunain. Dyna pam mae ffynonellau cyngor eraill yn hanfodol.
Enghraifft o Arfer Da: Archwiliad Cartrefi Iach Gofal a Thrwsio
Mae Gofal a Thrwsio yn elusen dai ar gyfer Cymru gyfan sy’n arbenigo mewn addasiadau i gartrefi a gwaith atgyweirio ar gyfer perchnogion preswyl a rhentwyr preifat dros 60 oed. Fel rhan o wasanaeth y cwmni, cynigir Archwiliad Cartrefi Iach i bob cleient, gan gynnwys archwiliad lles ariannol, i wneud yn siŵr eu bod yn gallu ymdopi gartref a bod y lle’n gynnes, yn ddiogel ac yn hygyrch.
Y llynedd, roedd gwaith manteisio i’r eithaf ar incwm Gofal a Thrwsio, a oedd yn cynnwys tynnu sylw at Gredyd Pensiwn lle roedd hynny’n briodol, wedi helpu 2,173 o unigolion i gynyddu eu hincwm blynyddol, sef £3,865 ar gyfartaledd.
2 Ar ôl yr Uwchgynhadledd, nododd yr Adran Gwaith a Phensiynau nad yw hyn yn ganfyddiad anghyffredin ond hefyd y gall incwm arall pobl hŷn amrywio am i fyny. Pe bai rhywun yn gymwys i gael dyfarniad Credyd Pensiwn bach yn unig, gallai cynnydd mewn pensiwn preifat neu alwedigaethol olygu ei fod yn anghymwys wedyn. Gallai amgylchiadau eraill gynnwys newid sydyn mewn cyfalaf (e.e. etifeddiaeth) neu newid yng nghyfansoddiad yr aelwyd (e.e. gweithio mewn partneriaeth â rhywun dan oed pensiwn) neu fynd dramor am gyfnod hir. Er bod hyn yn golygu bod pryderon o’r fath yn seiliedig rywfaint ar realiti, dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau mai’r unig adeg y byddai’n ceisio ad-daliad fyddai pan fydd tystiolaeth amlwg bod y cwsmer naill ai wedi camarwain wrth wneud hawliad, neu os yw’n peidio â dweud yn ddiweddarach am newid yn ei amgylchiadau a fyddai’n effeithio ar gyfradd y taliad.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnig yr opsiwn o ymweld â chartrefi drwy ei thîm o swyddogion ymweld sy’n gweithredu ledled Cymru. Gall y swyddogion drefnu i weld rhywun o fewn 24 awr, ond, mae’r adnodd hwn yn gyfyngedig iawn ac mae ar gyfer pobl sy’n cael eu hystyried yn agored i niwed yn bennaf. Cyfeiriwyd at yr her o wneud hawliad drwy linell ffôn yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae holl rifau ffôn Credyd Pensiwn yr Adran Gwaith a Phensiynau bellach yn llinellau rhadffôn. Ond nid oedd hyn yn wir bob amser, gan wneud i rai pobl boeni am
gostau posibl. Mae’n bwysig sicrhau bod pobl hŷn a ffrindiau a theulu yn ymwybodol nad oes ffioedd bellach am ffonio’r Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch Credyd Pensiwn. Oherwydd
bod nifer y galwadau’n uchel, gall gymryd amser hir i ddod drwodd i siarad â’r Adran Gwaith a Phensiynau. Ond, mae adnoddau ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith i fynd i’r afael â hyn.
Materion eraill
Codwyd nifer o faterion eraill yn yr Uwchgynhadledd. Roedd y rhain yn cynnwys yr amrywiaeth o fanteision cadarnhaol cysylltiedig o ddod â mwy o arian i gymunedau drwy Gredyd Pensiwn: gall arian sy’n cael ei ddosbarthu mewn cymunedau lleol helpu i gefnogi busnesau a strydoedd mawr lleol sy’n nes at ble mae pobl yn byw.
Yn fwy pryderus, soniodd y cyfranogwyr am y cynnydd mewn problemau iechyd meddwl a’r ffaith bod pobl hŷn yn teimlo’n ynysig yn gymdeithasol gan nad oeddent yn gallu fforddio mynd
allan. Mae Credyd Pensiwn yn gymorth ariannol hanfodol i helpu gyda gweithgareddau bob dydd, a dyna pam mae’n bwysig annog pobl i’w hawlio.
“Rydw i mor ddiolchgar. Mae wedi gwneud byd o wahaniaeth rhwng bod yn bryderus iawn… y pethau ychwanegol sy’n costio, fel mynd i gael sbectol newydd, a mynd at y deintydd os gallwch chi gael un… Mae hynny’n gwneud gwahaniaeth enfawr, y pethau hynny.” – Siw
Yn olaf, ac yn eithriadol o bryderus, yw’r grŵp o bobl hŷn nad ydynt mewn gwirionedd yn gymwys i gael Credyd Pensiwn oherwydd eu bod ychydig bach – ychydig geiniogau weithiau –
dros y trothwy, a thrwy hynny, yn colli allan ar gannoedd o bunnoedd o gymorth ychwanegol.3 Mae angen dod o hyd i ffyrdd o sicrhau bod pobl yn y sefyllfa hon yn cael eu cefnogi mewn
ffyrdd eraill: mae gan y ffin gymhwysedd hon oblygiadau difrifol i iechyd a lles pobl hŷn dros y misoedd nesaf.
3 Mae’r hysbysiad a gyhoeddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i bobl nad ydynt yn gymwys i gael Credyd Pensiwn yn egluro sut mae wedi’i gyfrifo ac yn dangos swm eu hincwm sydd uwchlaw’r trothwy Credyd Pensiwn. Gofynnir i bobl ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os yw’r wybodaeth hon yn anghywir ac i hawlio eto os bydd amgylchiadau’n newid yn y dyfodol. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cryfhau’r neges hon yn y llythy rau dim-dyfarniad diweddaraf i wneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol y gallent fod yn gymwys os bydd eu hamgyl chiadau’n newid. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith bod newid mewn amgyl chiadau, gan gynnwys, er enghraifft, profedigaeth, yn gallu golygu bod pobl yn dod yn gymwys. Felly mae’n bwysig annog pobl i wirio a ydynt yn gymwys eto.
Camau gweithredu a gweithgarwch gan Lywodraeth Cymru a’r Adran Gwaith a Phensiynau
Yn ogystal â’r camau gweithredu a nodir mewn rhannau eraill o’r adroddiad hwn ac mewn diweddariadau ar wahân, nododd yr Uwchgynhadledd fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i
gynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn mewn amrywiaeth o ffyrdd. Er enghraifft, mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen Credyd Pensiwn Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffordd orau o ddefnyddio’r data sydd ar gael – fel y data sydd gan awdurdodau lleol – i dargedu pobl sydd ar hyn o bryd yn colli allan ar Gredyd Pensiwn, yn ogystal â chynnal yr ymgyrch Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi.
Ysgrifennodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau i annog yr Adran Gwaith a Phensiynau i gymryd yr awenau mewn ymgyrch i annog pobl i hawlio ledled y DU. Fel rhan o hyn, byddai angen darparu adnoddau i ddefnyddio’r system fudd-daliadau naill ai drwy wasanaethau
lleol yr Adran Gwaith a Phensiynau neu drwy bartneriaid trydydd sector. Mae’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol hefyd wedi gwneud Addewid Credyd Pensiwn sy’n cynnwys trafodaethau gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau ar gynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn.
Mae hyn yn amserol gan fod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi pwysleisio ei bod yn awyddus i weithio gydag unrhyw un i gyrraedd pobl a ddylai fod yn cael Credyd Pensiwn ond sy’n colli
allan ar hyn o bryd. Er nad oes ateb perffaith, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn derbyn bod angen gwneud pethau’n wahanol er mwyn cyrraedd pobl hŷn yn fwy effeithiol. Tynnwyd sylw at dargedu data, er enghraifft, fel syniad da.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau hefyd yn derbyn bod gan rai pobl ddelwedd negyddol ohoni. Mae’n awyddus i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i helpu i ddangos ei bod
wirioneddol yma i helpu pobl hŷn i gael gafael ar gymorth y dylent fod yn ei gael.
Yn ffodus, mae’r Gweinidog newydd dros Bensiynau, Laura Trott AS, yn awyddus i annog pobl i hawlio Credyd Pensiwn. Bydd y Comisiynydd yn ysgrifennu at Ms Trott, i rannu’r adroddiad
o’r Uwchgynhadledd, gan nodi’r camau y mae angen eu cymryd i hyrwyddo’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn ledled Cymru a cheisio cyfarfod i fwrw ymlaen â hyn fel rhan o waith Llywodraeth y DU yn y dyfodol.
Yn yr un modd â Llywodraeth Cymru, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau hefyd yn cymryd amrywiaeth o gamau nad oedd yn bosibl eu trafod yn yr Uwchgynhadledd. Mae’r rhain yn cynnwys gwella’r broses o gydnabod derbyn hawliadau am Gredyd Pensiwn ac ymdrechion o’r newydd i annog pobl i hawlio cyn y dyddiad olaf ar gyfer cymhwyso ar gyfer taliad costau byw
nesaf Llywodraeth y DU (18 Rhagfyr 2022).
Roedd yr Addewidion Credyd Pensiwn a wnaed gan siaradwyr yn yr Uwchgynhadledd yn cynnwys:
- Parhau i gydweithio, yn lleol ac yn genedlaethol, i hyrwyddo Credyd Pensiwn, gan dargedu grwpiau penodol nad ydynt y debygol o fod yn hawlio digon.
- Newid yr iaith a’r rhethreg sy’n ymwneud â budd-daliadau a chanolbwyntio ar hawliau.
- Gweithio gyda Gweinidog Pensiynau Llywodraeth y DU ar ddefnyddio’r data presennol – er enghraifft budd-dal tai a budd-dal y dreth gyngor – yn fwy arloesol i gynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn.
- Bod yn bwynt cyswllt lle gall pobl hŷn ddychwelyd i holi am unrhyw bryderon sydd ganddynt ynghylch newid cymhwysedd fel eu bod yn teimlo’n hyderus i hawlio.
- Parhau i weithio fel un tîm a dal ati i ganolbwyntio ar sicrhau bod pobl hŷn ledled Cymru yn cael yr holl gefnogaeth y dylent ei chael.
- Rhoi unrhyw reolau sefydliadol o’r neilltu cyn belled ag y bo modd er mwyn chwalu rhwystrau a chael Credyd Pensiwn yng nghyfrifon banc pobl.
Y camau nesaf
Yr Uwchgynhadledd yw cam cyntaf cymryd camau pellach wrth i’r holl randdeiliaid ystyried beth ellir ei wneud yn y tymor byr a’r tymor hwy i sicrhau bod Credyd Pensiwn yn cyrraedd mwy o bobl hŷn sy’n colli allan ar hyn o bryd.
Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei rannu â phawb a gymerodd ran yn y digwyddiad ac mae ar gael yn ehangach ar wefan Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae’r Comisiynydd hefyd yn parhau i annog pawb i wneud Addewid Credyd Pensiwn ac a meddwl am y camau y gallent eu cymryd yn ystod eu bywyd bob dydd – pa bynnag fawr neu fach – i godi ymwybyddiaeth a helpu i sicrhau nad yw pobl hŷn yn colli’r cyfle i gael Credyd Pensiwn.
Dangosodd yr Uwchgynhadledd ymrwymiad unigolion a sefydliadau ledled Cymru i gyrraedd y bobl hŷn hynny sy’n colli allan ar Gredyd Pensiwn ar hyn o bryd, ac mae’n hanfodol cynnal y momentwm hwn yn y misoedd i ddod.
Gweithredu gan y Comisiynydd
Bydd y Comisiynydd yn cymryd nifer o gamau dros y misoedd nesaf:
- Parhau i ymgysylltu â phobl hŷn ledled Cymru er mwyn deall yn well sut mae cynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn, tynnu sylw at eu profiadau a mynd i’r afael â’r heriau sy’n codi yn sgil yr argyfwng costau byw.
- Ysgrifennu at Laura Trott AS, Gweinidog Pensiynau Llywodraeth y DU, yn rhannu’r
adroddiad o’r Uwchgynhadledd, gan nodi’r camau y mae angen eu cymryd i hyrwyddo’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn ledled Cymru a cheisio cyfarfod i fwrw ymlaen â hyn fel rhan o waith Llywodraeth y DU yn y dyfodol. - Parhau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Adran Gwaith a Phensiynau sy’n gallu darparu arbenigedd i’r ymgyrch, gan gynnwys ar brosesau
a data Credyd Pensiwn, gan ganolbwyntio ar sut i ddefnyddio’r data sydd ar gael i fynd ati’n effeithiol i dargedu pobl hŷn sy’n colli allan. - Defnyddio’r holl sianeli cyfathrebu ac ymgysylltu sydd ar gael i estyn allan at bobl hŷn a’u teuluoedd a chodi ymwybyddiaeth am Gredyd Pensiwn a sut mae ei hawlio.
- Annog pobl i wneud a chadw Addewid Credyd Pensiwn gan nodi’r camau y gallant eu cymryd, gan rannu’r Addewidion presennol i ysbrydoli eraill i weithredu.
- Casglu, cyhoeddi a hyrwyddo enghreifftiau o’r camau y mae rhanddeiliaid yn eu cymryd i gynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn, gan ddefnyddio gwefan y Comisiynydd fel canolbwynt ar gyfer gwybodaeth, adnoddau a syniadau.
- Tynnu sylw Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU at y broblem benodol o rai pobl sydd ar y ffin o ran cael Credyd Pensiwn, lle mae’r rhai sy’n anghymwys o ychydig geiniogau yn colli cymorth gwerth cannoedd o bunnoedd.