Rhagair
Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, mae fy rôl wedi’i gwreiddio mewn hyrwyddo a diogelu hawliau pobl hŷn a sicrhau bod eu lleisiau a’u profiadau’n cael eu clywed ac y gweithredir arnynt.
Mae cydraddoldeb a hawliau dynol yn ganolog i fy rôl. Nid un grŵp unffurf yw pobl hŷn: mae ein profiadau o heneiddio yn cael eu siapio gan lawer o ffactorau, gan gynnwys oedran, anabledd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, y Gymraeg, amgylchiadau economaidd-gymdeithasol, lle rydym yn byw, ac agweddau eraill ar hunaniaeth a phrofiad bywyd.
Mae fy Nghynllun Cydraddoldeb Strategol yn nodi sut y byddaf yn defnyddio fy swyddogaethau statudol, fy nylanwad, fy ngwasanaethau a’m rôl fel cyflogwr i helpu i leihau anghydraddoldeb a hyrwyddo hawliau pobl hŷn yn eu holl amrywiaeth. Mae’n cysylltu ein hamcanion cydraddoldeb â’m strategaeth ehangach ac yn egluro’r canlyniadau a’r dystiolaeth y byddwn yn eu defnyddio i ddeall a ydym yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon.
Mae’r Cynllun yn canolbwyntio ar fy nghylch gwaith ac yn gymesur a’r adnoddau sydd ar gael i’m swyddfa. Ond mae hefyd yn glir am fy nisgwyliadau: rhaid i gydraddoldeb lywio pob penderfyniad, prosiect, gwasanaeth a pherthynas waith. Byddwn yn parhau i wrando ar bobl hŷn, gweithredu ar dystiolaeth a gweithio’n adeiladol gydag eraill. Byddwn hefyd yn agored am ein cynnydd, yr heriau sy’n ein hwynebu a’r meysydd lle mae angen gwneud mwy.
Rhian Bowen-Davies // Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Ynghylch y Comisiynydd
Rôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yw gwarchod a hybu hawliau pobl 60 oed a hŷn ledled Cymru, gan graffu a dylanwadu ar amrywiaeth eang o bolisïau ac arferion er mwyn gwella eu bywydau.
Mae’r comisiynydd yn darparu cymorth a chefnogaeth yn uniongyrchol i bobl hŷn drwy’r gwasanaeth Cyngor a Chymorth, ac mae hi’n gweithio i rymuso pobl hŷn a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ac y gweithredir ar yr hyn y maen nhw’n ei ddweud.
Mae cylch gwaith y Comisiynydd wedi ei nodi yn Neddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2026, a sefydlodd y swydd.
Cylch gwaith statudol y Comisiynydd yw:
- Hybu ymwybyddiaeth o fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru a’r angen i ddiogelu’r buddiannau hynny
- Hyrwyddo’r cyfleoedd a ddarperir i bobl hŷn yng Nghymru, a dileu rhagfarn yn eu herbyn
- Hybu’r arferion gorau o ran y ffordd y mae pobl hŷn yn cael eu trin yng Nghymru
- Parhau i adolygu digonolrwydd ac effeithiolrwydd y gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru
Gwerthoedd ac Ymddygiad
Mae gwerthoedd ein sefydliad yn disgrifio’r diwylliant rydym am ei feithrin a’r newid rydym am ei arwain. Maen nhw wedi cael eu siapio gan bwy ydym ni a’r hyn rydym ni’n credu ynddo.
Maen nhw’n darparu sylfaen sy’n llywio sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd a chydag eraill ar ran pobl hŷn, gan ein cefnogi i weithredu gydag uniondeb, trugaredd a phwrpas.
Ein gwerthoedd:
- Mentrus ac Uchelgeisiol
- Yn barod i Addasu ac Ymateb
- Teg a Chynhwysol
- Parchus ac yn Canolbwyntio ar y Person
- Gonest ac Atebol
Ein fframwaith cyfreithiol a pholisi
Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus, wrth arfer eu swyddogaethau, roi sylw dyledus i’r canlynol:
- Dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi’i wahardd dan y Ddeddf Cydraddoldeb
- Hyrwyddo cyfleoedd cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a’r rhai nad ydynt yn ei rhannu
- Meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai nad ydynt yn ei rhannu
Mae’r ddyletswydd gyffredinol yn cwmpasu’r nodweddion gwarchodedig canlynol:
- Oedran
- Rhyw
- Hil – gan gynnwys tarddiad ethnig neu genedlaethol, lliw neu genedligrwydd
- Anabledd
- Ailbennu rhywedd
- Beichiogrwydd a mamolaeth
- Cyfeiriadedd rhywiol
- Crefydd neu gred – gan gynnwys diffyg cred
- Priodas a phartneriaethau sifil (ond dim ond o ran y gofyniad i roi sylw dyledus i’r angen i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle)
Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol i Gymru
Roedd Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 yn mynnu bod cyrff rhestredig yn gosod ac yn adolygu amcanion cydraddoldeb; yn paratoi ac yn adolygu Cynllun Strategol; yn ymgysylltu â phobl sy’n cynrychioli grwpiau gwarchodedig; yn defnyddio gwybodaeth berthnasol am gydraddoldeb; yn asesu effaith; yn casglu ac yn cyhoeddi gwybodaeth am gyflogaeth; yn ystyried cydraddoldeb yn y broses caffael; yn darparu hyfforddiant; ac yn adrodd ar gynnydd.
Cydraddoldeb yn ei gyd-destun
Poblogaeth
Mae’r amcangyfrifon diweddaraf yn dangos bod 908,728 o bobl dros 60 oed yn byw yng Nghymru, a rhagwelir y bydd y ffigur hwn yn codi i 993,000 erbyn 2030. Yr amcangyfrif presennol yw bod 331,023 o bobl dros 75 oed, 179,635 dros 80 oed ac 86,057 dros 85 oed. Rhagwelir y bydd nifer y bobl dros 75 oed yng Nghymru yn codi i 361,000 (11.2% o’r boblogaeth) yn 2026 ac i 384,000 (11.8% o’r boblogaeth) erbyn 2031.
Rhyw
Ar draws y boblogaeth hŷn, mae 53% yn fenywod a 47% yn ddynion. Rhwng 60 a 69 oed, mae’r rhaniad bron yn gyfartal (51% a 49%) ond mae hyn yn newid ar gyfer grwpiau hŷn. Mae’r grwpiau oedran 85-89 oed a 90 oed a hŷn yn cynnwys 59% a 67% o fenywod yn y drefn honno.
Ethnigrwydd
Ychydig o amrywiaeth ethnig sydd yn y boblogaeth hŷn yng Nghymru, gyda 97.8% o bobl hŷn yn nodi eu bod yn Wyn Prydeinig. Fod bynnag, mae rhagamcanion yn dangos y bydd hyn yn newid dros amser: Mae 98.8% o bobl dros 75 oed yn nodi eu bod yn Wyn Prydeinig, o’i gymharu â 97.2% o bobl 60-74 oed.
Cyfeiriadedd rhywiol
Yng nghyfrifiad 2021, nododd 87.8% o bobl dros 65 oed eu bod yn heterorywiol. Nododd 0.5% o bobl dros 65 oed eu bod yn Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol neu Arall, a dewisodd 11.7% beidio ag ateb. Roedd pobl 75 oed a hŷn yn llai tebygol o ystyried eu hunain yn LHD+ na phobl 65-74 oed (0.2% o’i gymharu â 0.7%), ac roeddent yn llai tebygol o ateb y cwestiwn (14.9% o’i gymharu â 8.9%).
Nodi rhywedd
Yng Nghyfrifiad 2021, nododd 1,276 o bobl dros 65 oed yng Nghymru eu bod yn ystyried eu rhywedd yn wahanol i’r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni.
Yr Iaith Gymraeg
Yn ôl Cyfrifiad 2021, mae 116,788 o bobl dros 60 oed yn gallu siarad Cymraeg. Mae hynny’n cyfateb i 13.6%. Mae 28% o siaradwyr Cymraeg rhugl dros 65 oed – amcangyfrif o 21.00 o bobl hŷn – yn teimlo’n fwy cyfforddus yn siarad Cymraeg na Saesneg.
Niwrowahaniaeth
Nid oes unrhyw ystadegau sy’n dadansoddi faint o bobl hŷn sy’n niwrowahanol yng Nghymru. Ar sail amcangyfrifon byd-eang o niferoedd, gallai rhwng 15% ac 20% o bobl hŷn yng Nghymru fod yn niwrowahanol (174,00 o bobl).
Y ffordd y gwnaethom ddatblygu’r cynllun
Mae Amcanion Cydraddoldeb y Comisiynydd ar gyfer 2026-30 yn adeiladu ar y gwaith a wnaed mewn blynyddoedd blaenorol a’r ymrwymiad i hyrwyddo hawliau grŵp o bobl hŷn sy’n dod yn fwy amrywiol.
Er mwyn sicrhau bod cydraddoldeb yn rhan annatod o holl waith y Comisiynydd, mae’r Amcanion Cydraddoldeb yn adlewyrchu gweledigaeth a gwerthoedd y sefydliad yn agos, yn ogystal ag amcanion strategol y sefydliad.
Mae ymgysylltu â phobl hŷn yng Nghymru yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o lunio gwaith a blaenoriaethau’r Comisiynydd. Ym mis Mawrth 2025, cafodd ymgynghoriad ‘Dweud eich Dweud’ y Comisiynydd dros 400 o ymatebion, gyda sesiynau grŵp ffocws yn cael eu cynnal gyda gofalwyr hŷn di-dâl, pobl sy’n byw gyda dementia, a Hynafgwyr Windrush.
Yn ystod 2025-26, ymwelodd y Comisiynydd a’r tîm â 114 o grwpiau ledled Cymru, gan roi cyfle i ni gwrdd â dros 4,000 o bobl hŷn o gefndiroedd a chymunedau amrywiol. Roedd y gweithgaredd hwn yn cynnwys ymweld â grwpiau a chlybiau gweithgareddau a chymdeithasol, grwpiau cymorth (fel y rhai ar gyfer gofalwyr a phobl sy’n byw gyda dementia), cynlluniau tai gofal ychwanegol a chartrefi gofal. Fe wnaethom hefyd gwrdd â fforymau pobl hŷn ledled Cymru, yn ogystal â grwpiau eraill fel Sefydliad y Merched, Men’s Sheds, a Merched y Wawr.
Mae’r Comisiynydd yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd â Chadeiryddion sefydliadau pobl hŷn cenedlaethol – Cymru Egnïol, Cynghrair Pobl Hŷn Cymru, y Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol – i edrych ar y materion allweddol, gwrando ar brofiadau eu haelodau, a rhannu gwybodaeth a diweddariadau allweddol.
Mae’r Comisiynydd a’r tîm yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o sefydliadau sy’n rhanddeiliaid ledled Cymru, y DU ac yn ehangach i ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer, tynnu sylw at faterion y mae pobl hŷn yn eu codi a rhannu gwybodaeth a thystiolaeth. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod profiadau pobl hŷn yn cael gwrandawiad, dealltwriaeth ac ymateb.
Ymgysylltwyd yn rheolaidd â chyrff cyhoeddus a sefydliadau allweddol fel Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Cydffederasiwn GIG Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Cymerwyd y camau canlynol:
- Adolygiad o’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol blaenorol a’r adroddiadau monitro cydraddoldeb blynyddol
- Adolygiad o ddata’r cyfrifiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol
- Dysgu o’n gwaith ein hunain a’r adroddiadau a gynhyrchwyd; fel ‘Heneiddio yng Nghymru: Safbwyntiau Pobl Hŷn Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol’
- Ymgysylltu â phobl hŷn
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid
- Ymgynghori â’r sefydliad
Ein dull gweithredu
Seiliedig ar hawliau
Byddwn yn dadlau bod gan bobl hŷn hawliau a bod gan gyrff cyhoeddus ddyletswydd i’w cynnal. Byddwn yn defnyddio egwyddorion hawliau dynol yn ein gwaith.
Croestoriadedd
Byddwn yn ystyried sut mae oedran yn cyfuno â nodweddion ac amgylchiadau eraill, yn hytrach na thrin pob mater ar wahân.
Cynllunio hygyrch
Byddwn yn sicrhau o’r cychwyn bod popeth yn hygyrch, ac yn cynnig dewisiadau amgen ystyrlon na fydd yn creu allgau digidol.
Seiliedig ar dystiolaeth
Byddwn yn cyfuno data, gwybodaeth am Gyngor a Chymorth, ymchwil a phrofiad bywyd.
Cydweithredol
Byddwn yn gweithio gyda phobl hŷn, sefydliadau cynrychioladol a gwasanaethau cyhoeddus, gan gadw ein hannibyniaeth ar yr un pryd.
Cymesur
Byddwn yn paru gweithgarwch â’n cylch gwaith a’n hadnoddau.
Amcanion Cydraddoldeb
Amcan 1: Cynyddu hygyrchedd, cynhwysiant a dylanwad
Canlyniad rydym yn gobeithio ei gyflawni
Mae pobl hŷn yn eu holl amrywiaeth yn deall rôl y Comisiynydd, yn gallu cael gafael ar wybodaeth y Comisiynydd, ac yn gallu dylanwadu ar flaenoriaethau gwaith.
Camau Gweithredu Blaenoriaeth
- Cynyddu ymwybyddiaeth a chyrhaeddiad ymysg pobl hŷn a chymunedau sy’n llai tebygol o wybod am y Comisiynydd neu ymgysylltu ag ef
- Nodi a defnyddio sianeli cyfathrebu effeithiol ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol
- Cynnal a datblygu gwybodaeth ddwyieithog hygyrch, gan gynnwys fformatau y tu hwnt i’r cynnig safonol lle mae tystiolaeth yn dangos bod angen
- Darparu amrywiaeth o ffyrdd cynhwysol i bobl hŷn rannu profiadau a gwybodaeth
- Adolygu amrywiaeth a chyrhaeddiad daearyddol yr ymgysylltu
Sut byddwn yn gwybod ein bod yn gwneud cynnydd
- Cyrhaeddiad drwy sianeli a phartneriaethau wedi’u targedu
- Argaeledd a defnydd o fformatau hygyrch
- Amrywiaeth a chyrhaeddiad daearyddol yr ymgysylltu
- Enghreifftiau’n dangos sut mae profiadau bywyd wedi newid blaenoriaethau, argymhellion neu ymarfer
- Adborth gan bobl hŷn
Amcan 2: Cynyddu cyrhaeddiad ac effaith cyngor a chymorth
Canlyniad rydym yn gobeithio ei gyflawni
Mae mwy o bobl hŷn yn ymwybodol o’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth ac yn gallu ei ddefnyddio, ac mae dysgu o ymholiadau yn cryfhau tystiolaeth a dylanwad ehangach y Comisiynydd.
Camau Gweithredu Blaenoriaeth
- Cynyddu ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth ymysg pobl hŷn, teuluoedd, eiriolwyr a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru
- Gweithio gyda phartneriaid yn y sector statudol a’r trydydd sector i gyrraedd cymunedau a grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli gystal ymysg ymholwyr
- Gwella’r broses o gipio data ar gydraddoldeb ac esbonio’n glir pam y gofynnir am yr wybodaeth, sut y caiff ei defnyddio a bod datgelu’r wybodaeth yn wirfoddol
- Dadansoddi gwybodaeth i ganfod rhwystrau, problemau sy’n codi dro ar ôl tro ac anghydraddoldebau posibl o ran mynediad, profiad a chanlyniadau
- Ailgynllunio a gweithredu systemau a phrosesau sy’n gwella ansawdd data ac effeithlonrwydd gweithredol
- Defnyddio’r wybodaeth a gesglir i lywio gwaith polisi a dylanwadu ehangach
Sut byddwn yn gwybod ein bod yn gwneud cynnydd
- Llwybrau atgyfeirio ac ymwybyddiaeth
- Proffil yr ymholwyr a chyfraddau datgelu
- Themâu a materion cydraddoldeb a nodwyd drwy ymholiadau
- Gwelliannau o ran prosesu a chapasiti
Amcan 3: Hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb
Canlyniad rydym yn gobeithio ei gyflawni
Mae cyrff cyhoeddus yn cydnabod ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb sy’n gysylltiedig ag oedran
Camau Gweithredu Blaenoriaeth
- Cynnal dealltwriaeth sefydliadol o gydraddoldeb, hawliau dynol, gwrth-hiliaeth, cynnwys pobl anabl a chroestoriadedd drwy ddysgu parhaus.
- Datblygu meysydd gwaith penodol i sicrhau bod asesiadau effaith cydraddoldeb yn parhau i fod yn gytbwys
- Hyrwyddo adnoddau e-ddysgu y Comisiynydd ar oedraniaeth ar draws gwasanaethau cyhoeddus a monitro’r nifer sy’n eu defnyddio ac yn eu cwblhau
- Defnyddio tystiolaeth a dylanwad i leihau anghydraddoldebau o ran mynediad, profiad a chanlyniadau pobl hŷn
Sut byddwn yn gwybod ein bod yn gwneud cynnydd
- Cwblhau a gwerthuso’r dysgu perthnasol
- Ansawdd ac amserlenni asesiadau effaith ar gydraddoldeb
- Defnydd a chyrhaeddiad y modiwl dysgu ar oedraniaeth
- Enghreifftiau o newid mewn polisi ac ymarfer y dylanwadwyd arnynt gan y Comisiynydd
Amcan 4: Hyrwyddo a chefnogi amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gweithlu
Canlyniad rydym yn gobeithio ei gyflawni
Mae’r holl staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi, eu trin yn deg a’u bod yn gallu cyfrannu’n llawn. Mae ein harferion cyflogaeth yn gynhwysol, yn dryloyw ac yn seiliedig ar dystiolaeth.
Camau Gweithredu Blaenoriaeth
- Parhau i adolygu effeithiolrwydd yr holl bolisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol
- Adolygu arferion recriwtio a dethol er mwyn canfod a chael gwared ar rwystrau diangen ac ehangu cyrhaeddiad
- Monitro a chyhoeddi’r wybodaeth ofynnol am gyflogau’r gweithlu a’r bwlch cyflog rhywedd
- Defnyddio adborth staff a’r arolwg pobl blynyddol i nodi blaenoriaethau a monitro diwylliant
- Parhau i gefnogi ffordd ystwyth o weithio sy’n bodloni anghenion sefydliadol ac sy’n cydnabod gwahanol amgylchiadau
- Cynnal llwybrau hygyrch i staff godi pryderon, gofyn am gymorth a chyfrannu syniadau
- Sicrhau mynediad teg at gyfleoedd dysgu a datblygu
Sut byddwn yn gwybod ein bod yn gwneud cynnydd
- Canfyddiadau arolwg staff a thystiolaeth o weithredu dilynol
- Monitro amrywiaeth o brosesau recriwtio yn dangos amrywiaeth eang o ymgeiswyr
- Effeithiolrwydd addasiadau i’r gweithle
- Staff yn cymryd rhan gadarnhaol yn yr arolwg pobl blynyddol
- Hyrwyddir dysgu a datblygu a chytunir ar geisiadau
Cyflawni, llywodraethu, atebolrwydd
Mae cyflawni’r Amcanion Cydraddoldeb yn gofyn am ddull gweithredu tîm cyfan. Bydd pob aelod o staff felly’n cyfrannu at gyflawni’r amcanion.
Er ein bod yn cydnabod yr atebolrwydd cyffredinol hwn o fewn y sefydliad, bydd y cynnydd yn erbyn Amcanion Cydraddoldeb y Comisiynydd a’r camau gweithredu a nodwyd yn cael ei fonitro’n ffurfiol gan y Prif Swyddog Gweithredu.
Mesur cynnydd ac adrodd
Byddwn yn cyhoeddi adroddiad cydraddoldeb blynyddol yn disgrifio cynnydd, tystiolaeth a gwybodaeth am y gweithlu, a fydd yn cyfuno tystiolaeth ansoddol a meintiol.
Bydd hwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Comisiynydd, bydd ar gael mewn fformatau eraill a bydd ar gael ar gais.
Atodiad 1: Data proffil y gweithlu
Yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, bydd y Comisiynydd yn parhau i gasglu data ar broffil ei gweithlu mewn perthynas â’r meysydd a restrir isod.
Gwybodaeth cyfrif pennau
Rhaid i gorff cofrestredig yng Nghymru gasglu a chyhoeddi’n flynyddol nifer y bobl a gyflogir gan yr awdurdod ar 31 Mawrth bob blwyddyn, yn ôl nodwedd warchodedig:
- Oedran
- Ailbennu rhywedd
- Rhyw
- Anabledd
- Beichiogrwydd a mamolaeth
- Cyfeiriadedd rhywiol
- Hil – gan gynnwys tarddiad ethnig neu genedlaethol, lliw neu genedligrwydd
- Crefydd neu gred – gan gynnwys diffyg cred
- Priodas a phartneriaeth sifil
Rhaid i gorff rhestredig yng Nghymru gasglu a chyhoeddi’n flynyddol nifer y dynion a’r menywod a gyflogir, wedi’u rhannu yn ôl y categorïau canlynol:
- Swydd
- Cyflog a Graddfa
- Math o Gontract
- Patrwm Gwaith
Recriwtio
Rhaid i gorff rhestredig yng Nghymru gasglu a chyhoeddi’n flynyddol nifer y bobl sydd wedi ymgeisio am swyddi gyda’r sefydliad dros y flwyddyn ddiwethaf.
Rhaid i gorff rhestredig yng Nghymru gasglu a chyhoeddi’n flynyddol nifer y gweithwyr sydd wedi gwneud cais i newid swydd o fewn yr awdurdod, gan nodi sawl un a fu’n llwyddiannus yn eu cais a sawl un a fethodd.
Dysgu a Datblygu
Rhaid i gorff rhestredig yng Nghymru gasglu a chyhoeddi’n flynyddol nifer y gweithwyr sydd wedi gwneud cais am hyfforddiant a sawl un fu’n llwyddiannus gyda’u cais.
Rhaid i gorff rhestredig yng Nghymru gasglu a chyhoeddi’n flynyddol nifer y gweithwyr a gwblhaodd yr hyfforddiant.
Gweithdrefnau Cwyno
Rhaid i gorff rhestredig yng Nghymru gasglu a chyhoeddi’n flynyddol nifer y gweithwyr sy’n ymwneud â gweithdrefnau cwyno naill ai fel achwynydd neu fel unigolyn y gwnaed cwyn yn ei erbyn.
Gweithdrefnau Disgyblu
Rhaid i gorff rhestredig yng Nghymru gasglu a chyhoeddi’n flynyddol nifer y gweithwyr sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau disgyblu.
Ymadawyr
Rhaid i gorff rhestredig yng Nghymru gasglu a chyhoeddi’n flynyddol nifer y gweithwyr sydd wedi gadael cyflogaeth awdurdod.
Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau
Rhaid i gorff rhestredig yng Nghymru gasglu a chyhoeddi’n flynyddol data ar y bwlch cyflog rhywedd.