Cyfarwyddwr Polisi a Dylanwadu
Cyflog: £68,441 to £75,045 y flwyddyn
Math o Gontract: Parhaol (Llawn- amser, 37 awr yr wythnos)
Lleoliad: Hybrid (Bae Caerdydd ac O Bell)
Dylanwadu ar ddyfodol pobl hŷn yng Nghymru
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn chwilio am arweinydd profiadol i lywio gwaith y sefydliad drwy ddylanwadu’n strategol ar gyfeiriad polisi cenedlaethol yng Nghymru er mwyn gwella bywydau pobl hŷn.
Fel Cyfarwyddwr Polisi a Dylanwadu, byddwch yn dylanwadu ar Gymru gyfan, gan sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed ar y materion sydd bwysicaf iddynt. Byddwch yn llunio ac yn cyflawni rhaglen waith strategol, yn meithrin cysylltiadau cryf ar draws y llywodraeth, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, ac yn ysbrydoli ac arwain tîm i gyflwyno newidiadau polisi arloesol sy’n seiliedig ar dystiolaeth a phrofiadau go iawn pobl hŷn.
Byddwch yn arweinydd polisi strategol gyda phrofiad o ddylanwadu ar bolisi cyhoeddus yn llwyddiannus a chyflawni newid ystyrlon. Byddwch yn dod â dealltwriaeth gynhwysfawr o dirwedd polisi Cymru a’r materion sy’n effeithio ar fywydau pobl hŷn, a byddwch yn meddu ar sgiliau cyfathrebu ac arwain rhagorol. Ac yn fwy na dim, byddwch yn cael eich cymell i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl hŷn ledled Cymru.
Sut i wneud cais
Darllenwch y disgrifiad swydd a manyleb y person yn ofalus gan fod y rhain yn amlinellu cyfrifoldebau a disgwyliadau’r rôl.
Ystyriwch sut mae eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch profiad yn cyd-fynd â’r hyn rydyn ni’n chwilio amdano, a meddyliwch am enghreifftiau penodol sy’n dangos eich galluoedd.
Anfonwch eich ffurflen gais wedi’i llenwi at recruitment@olderpeople.wales neu drwy’r post i Recriwtio, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL erbyn Dydd Sul 31 Mai 23.59.
Mae croeso i chi wneud cais yn Gymraeg, yn Saesneg, neu yn y ddwy iaith. Ni fydd cais sy’n cael ei gyflwyno yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais sy’n cael ei gyflwyno yn Saesneg. Gellir cyfieithu eich cais i’r Gymraeg neu i’r Saesneg os oes angen.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais, ond bod gennych chi gwestiwn neu fod arnoch chi eisiau trafod y rôl ymhellach? Cysylltwch â ni ar: recruitment@olderpeople.wales.
Cyfweliadau
Os byddwch chi ar y rhestr fer, mae’n rhaid i chi fod ar gael i ddod i gyfweliad ar:
- Cyfweliad Cam Un: 12 Mehefin
- Cyfweliad Cam Dau: 16 Mehefin new 1 Gorffennaf
- Cyfweliad Cam Tri: 6 Gorffennaf
Rydyn ni eisiau i’n gweithlu gynrychioli pob carfan o gymdeithas yn well ar bob lefel yn y sefydliad. Felly, rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan amrywiaeth eang o bobl, o bob cefndir, sydd â llawer o wahanol sgiliau, profiadau a safbwyntiau.
Mae’r Comisiynydd yn gyflogwr sydd wedi ymrwymo i fod yn Hyderus o ran Anabledd ac sy’n mabwysiadu’r model cymdeithasol o anabledd. Mae’r Comisiynydd wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau yn y broses recriwtio er mwyn i ymgeiswyr sydd ag amhariad neu gyflwr iechyd, sy’n niwroamrywiol, neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) allu perfformio ar eu gorau.
Rydym yn gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, ac i unrhyw ymgeiswyr sydd ag amhariad neu gyflwr iechyd, sy’n niwrowahanol, neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain sy’n gwneud cais am y swydd ac sy’n bodloni ei meini prawf hanfodol.
Defnyddio deallusrwydd artiffisial
Efallai y byddwch yn defnyddio offer deallusrwydd artiffisial (fel Copilot neu ChatGPT) i gefnogi eich cais. Os byddwch chi’n penderfynu defnyddio deallusrwydd artiffisial, cofiwch ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n dal i swnio fel chi.
Rydym ni eisiau i’ch cais adlewyrchu’r hyn rydych chi wedi’i wneud, beth allwch chi ei gyfrannu at y rôl, a beth sy’n bwysig i chi yn eich geiriau eich hun. Felly peidiwch â defnyddio deallusrwydd artiffisial i greu neu i or-bwysleisio cymwysterau neu enghreifftiau – ceisiwch sicrhau bod popeth rydych chi’n ei gynnwys yn y cais yn y gywir, ac y gallwch chi ei drafod yn y cyfweliad.
Ni fydd defnyddio deallusrwydd artiffisial yn rhoi mantais nac anfantais i’ch cais. Byddwn yn asesu pob cais yn yr un ffordd, ar sail yr enghreifftiau rydych chi’n eu rhannu a sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf.
Nid ydym yn defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol na dulliau awtomatig o wneud penderfyniadau er mwyn llunio’r rhestr fer. Mae pob cais yn cael ei adolygu gan banel sy’n cynnwys o leiaf dau aelod o dîm y Comisiynydd.
Sut byddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth
Mae’r Comisiynydd wedi ymrwymo i barchu ac i ddiogelu’r wybodaeth bersonol rydych yn ei rhannu â ni. Mae manylion llawn sut byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth a rowch chi i ni ar gael yn ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Recriwtio.