
Cwrdd â’r Comisiynydd newydd
Dewch i ddysgu mwy am y Comisiynydd newydd Rhian Bowen-Davies a’i chynlluniau a’i blaenoriaethau i sicrhau newid cadarnhaol parhaol i bobl hŷn dros Gymru gyfan.
Dywedwch ychydig wrthym amdanoch chi’ch hun a’ch cefndir…
Rydw i’n falch o fod yn Gymraes. Cefais fy ngeni a’m haddysgu yng Nghymru, ac rydw i’n siarad Cymraeg yn rhugl.
Mae fy ngyrfa hyd yma wedi bod yn amrywiol, o fod yn swyddog heddlu i arwain a datblygu gwasanaethau yn y sector gwirfoddol a fi oedd y Cynghorydd Cenedlaethol cyntaf yng Nghymru ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydw i wedi gweithio’n agos gyda’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector i wella ymatebion i gam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae fy ngwaith wedi’i wreiddio mewn gwrando ar brofiadau pobl, cyflwyno’r achos dros newid a chydweithio i sbarduno polisïau ac arferion gwell.
Mae rhan sylweddol o’m gwaith wedi canolbwyntio ar brofiadau pobl hŷn sy’n profi cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae hyn wedi rhoi gwell dealltwriaeth i mi o’r rhwystrau a’r heriau sy’n wynebu pobl hŷn, eu rhyngweithio â gwasanaethau, beth sydd wedi gweithio’n dda a beth sydd ei angen arnyn nhw i deimlo’n ddiogel ac i fyw a heneiddio’n dda.
Mae fy ngwaith wedi fy ngalluogi i feithrin cysylltiadau cryf ledled Cymru ac rydw i’n edrych ymlaen at gryfhau’r cysylltiadau hyn ymhellach, yn ogystal â defnyddio fy mhrofiad sy’n seiliedig ar ymarfer, dealltwriaeth o bolisi a sgiliau arwain, i sicrhau newid cadarnhaol i bobl hŷn yng Nghymru fel Comisiynydd.
Beth wnaeth i chi fod eisiau ymgymryd â rôl y Comisiynydd?
Mae rôl y Comisiynydd yn gyfle unigryw i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl hŷn, nawr ac yn y dyfodol. Rydw i’n teimlo’n gyffrous am y cyfle i alluogi newid ystyrlon ac i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed. Mae ymdeimlad o bwrpas yn fy nghymell i, ac mae’r rôl hon yn cyd-fynd yn berffaith â’m gwerthoedd, sef tegwch a chydraddoldeb.
Mae gwaith cadarnhaol a blaengar eisoes yn cael ei wneud yng Nghymru, ac rydw i’n awyddus i adeiladu ar y sylfaen hon i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fyw a heneiddio’n dda. Mae rôl y Comisiynydd yn cynnig llwyfan cryf a dylanwadol i sbarduno’r weledigaeth hon ac rydw i’n teimlo’n freintiedig o gael y cyfle hwn.

At beth ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf am y rôl?
Yr hyn rydw i’n edrych ymlaen ato fwyaf am y rôl yw’r cyfle i gwrdd â phobl hŷn o bob cwr o Gymru, siarad â nhw’n uniongyrchol a gwrando ar eu profiadau a’u pryderon. Mae deall beth sy’n bwysig yn eu bywydau o ddydd i ddydd yn rhywbeth rydw i’n teimlo’n angerddol yn ei gylch, gan ei fod yn cynnig cipolwg amhrisiadwy ar sut mae gwahanol faterion yn effeithio ar bobl hŷn. Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at glywed barn pobl hŷn am yr hyn sy’n gweithio’n dda, a sut gellid gwella pethau.
Rydw i’n arbennig o gyffrous am yr amrywiaeth o unigolion y byddaf yn cwrdd â nhw, pob un â’i brofiadau a’i safbwyntiau unigryw ei hun. Drwy wrando a dysgu o brofiadau pobl, rydw i’n edrych ymlaen at gyfrannu at newid ystyrlon a chadarnhaol a fydd yn gwella ansawdd bywyd pobl hŷn yng Nghymru yn uniongyrchol.
Yn eich barn chi, beth fydd rhannau mwyaf heriol y rôl?
Rydw i’n credu mai un o rannau mwyaf heriol y rôl fydd cyrraedd pobl hŷn sydd â’r angen mwyaf am gymorth. Yn aml, yr unigolion hyn yw’r lleiaf tebygol o fod â mynediad at yr adnoddau neu at ddulliau o gysylltu â mi. Mae mwy o risg na fydd eu lleisiau nhw’n cael eu clywed ac na fydd eu hawliau’n cael eu diogelu. Fel Comisiynydd, fy rôl i yw sicrhau bod y lleisiau hyn yn cael eu clywed ac os gallwn gyrraedd y rhai sydd fwyaf mewn angen yn llwyddiannus, bydd yn ein galluogi i fynd i’r afael yn well ag anghenion a diogelu hawliau’r boblogaeth ehangach o bobl hŷn ledled Cymru.
Elfen heriol arall o’r rôl fydd newid normau a stereoteipiau diwylliannol yn sylweddol o ran sut mae pobl hŷn yn cael eu gweld, eu portreadu a’u trin mewn cymdeithas. Mae oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oed wedi gwreiddio’n ddwfn, ac mae newid sut mae pobl hŷn yn cael eu gweld yn hanfodol i sicrhau eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu.
Mae’r ffaith bod y boblogaeth pobl hŷn yn cynyddu yn golygu y bydd cydweithio i gynllunio ac ateb y galw cynyddol am wasanaethau a sicrhau bod pob un ohonom yn cael y cyfle i fyw a heneiddio’n dda, yn her sylweddol ond hanfodol.
Er nad ydw i’n tanbrisio difrifoldeb y materion hyn, byddaf, o’r cychwyn cyntaf fel Comisiynydd, yn llais cryf ar ran pobl hŷn, gan sicrhau bod eu profiadau a’u pryderon yn cael eu cyflwyno’n uniongyrchol i’r rhai sy’n llunio polisïau ac yn gwneud penderfyniadau.
Pa faterion sy’n effeithio ar bobl hŷn ydych chi’n poeni fwyaf amdanyn nhw ar hyn o bryd?
Penderfyniad Llywodraeth y DU i dorri’r taliadau tanwydd gaeaf yw’r mater sy’n peri’r pryder mwyaf i mi ar hyn o bryd. Ochr yn ochr ag effeithiau parhaus yr argyfwng costau byw a chostau ynni cynyddol, mae llawer o bobl hŷn yn wynebu’r dewis anodd rhwng gwresogi eu cartrefi neu fwyta, sy’n gallu arwain at ganlyniadau difrifol i’w hiechyd a’u lles corfforol a meddyliol.
Maes arall sy’n peri pryder yw allgáu digidol, sy’n atal llawer o bobl hŷn rhag cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau hanfodol, gan eu gwneud yn fwy ynysig.
Mae mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol amserol a phriodol hefyd yn bryder mawr, gan fod oedi neu wasanaethau annigonol yn gallu cael effaith uniongyrchol ar ansawdd bywyd pobl hŷn.
Ystyried fy ngyrfa hyd yma, ni fydd yn syndod fy mod i’n dal i boeni am raddfa a chyffredinrwydd cam-drin a brofir gan bobl hŷn.
Mae oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oed yn gwaethygu’r heriau hyn ymhellach, gan fod pobl hŷn yn aml yn wynebu rhagfarn a gwahaniaethu yn eu bywyd bob dydd. Mae mynediad at drafnidiaeth a thai addas hefyd yn chwarae rhan hollbwysig o ran sicrhau bod pobl hŷn yn gallu aros yn annibynnol, ond mae llawer o bobl hŷn hefyd yn wynebu rhwystrau yn y meysydd hyn.
Mae’r meysydd pryder hyn yn arwain at lu o anfanteision i bobl hŷn sy’n ei gwneud yn fwyfwy anodd iddyn nhw gael gafael ar y gwasanaethau a’r gefnogaeth hanfodol sydd eu hangen arnynt ac mae mynd i’r afael â’r materion rhyng-gysylltiedig hyn yn hanfodol i wella bywydau pobl hŷn.

Ar beth y bydd eich gwaith fel Comisiynydd yn canolbwyntio?
Yn fy rôl fel Comisiynydd, byddaf yn canolbwyntio’n bennaf ar wrando ar bobl hŷn, deall y ffactorau sy’n cyfrannu at eu lles a’r pryderon sydd ganddynt. Drwy ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl hŷn, gallaf sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd. Byddaf yn gweithio’n ddiflino i fod yn hyrwyddwr cryf ac annibynnol ar ran pobl hŷn, gan sicrhau bod eu profiadau bywyd a’u heriau yn cael eu cyfleu’n uniongyrchol i’r rhai sy’n llunio polisïau ac yn gwneud penderfyniadau.
Mae bod yn weladwy ac yn hygyrch yn allweddol i’m rôl, a dyna pam fy mod i wedi ymrwymo i fynd i’r mannau lle mae pobl hŷn yn byw, yn gweithio, yn dysgu ac yn cymdeithasu. Er mwyn sicrhau bod eu lleisiau’n llywio fy mlaenoriaethau fel Comisiynydd, cyn bo hir byddaf yn lansio ymgynghoriad ar raddfa fawr i glywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn am yr hyn sydd bwysicaf iddyn nhw.
Yn ogystal â sefyll i fyny a siarad ar ran pobl hŷn ledled Cymru, byddaf yn cydweithio’n agos â chyrff cyhoeddus i hyrwyddo arferion gorau a chefnogi newidiadau ystyrlon a all gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl hŷn. Mae hyn yn cynnwys nodi meysydd lle gellir gwneud gwelliannau a hwyluso atebion sy’n gwella ansawdd eu bywyd yn gyffredinol.
Ar ben hynny, byddaf yn craffu’n drwyadl ar bolisïau ac arferion sy’n effeithio ar unigolion hŷn, gan ddwyn sefydliadau ac unigolion i gyfrif pan fo angen. Fy nod bob amser fydd sicrhau bod unrhyw newidiadau’n arwain at y canlyniadau gorau posibl i bobl hŷn, gan sicrhau bod eu hurddas, eu hannibyniaeth ac ansawdd eu bywyd yn cael eu blaenoriaethu ym mhob agwedd ar lunio polisïau a darparu gwasanaethau.
Sut gall pobl hŷn gysylltu â chi?
Gall pobl hŷn gysylltu â mi mewn sawl ffordd. Gallwch gysylltu â mi drwy’r Llinell Cyngor a Chymorth neu gallwch ffonio, ysgrifennu ataf neu anfon e-bost. Ar ben hyn, mae croeso i chi ddod i siarad â mi wyneb yn wyneb yn ystod fy ngweithgareddau ymgynghori ac ymgysylltu ledled Cymru, lle byddaf yn edrych ymlaen at gwrdd â chi am sgwrs.
Beth ydych chi’n hoffi ei wneud pan nad ydych chi’n gweithio?
Pan nad ydw i’n gweithio, rydw i’n mwynhau bod allan yn yr awyr agored ac fel arfer byddaf yn mynd â’r ci am dro, waeth beth fo’r tywydd! Mae gan Gymru gymaint o lefydd gwych ac rydw i wrth fy modd yn archwilio llwybr yr arfordir, ein parciau cenedlaethol, ein mynyddoedd, ein coetiroedd a’n dyfrffyrdd. Rydw i hefyd yn mwynhau treulio amser gyda theulu a ffrindiau, a phan fyddwn ni’n dod at ein gilydd, mae bwyd bob amser yn chwarae rhan flaenllaw!

Dywedwch rywbeth wrthym amdanoch eich hun a allai synnu pobl…
Yn 2023, es yn ôl i chwarae hoci ar ôl seibiant o 20 mlynedd. Mae’n wych bod yn rhan o dîm gyda chwaraewyr o bob oed a chael hwyl wrth gadw’n heini.