CODI’R UCHAFSWM FFI WYTHNOSOL AR GYFER GOFAL A CHYMORTH AMHRESWYL I OEDOLION
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar godi’r uchafswm ffi wythnosol ar gyfer gofal a chymorth amhreswyl i oedolion.
Mae’r Comisiynydd yn cydnabod y pwysau ariannol cynyddol ar awdurdodau lleol ond nid yw’n cefnogi’r cynnydd arfaethedig yn yr uchafswm ffi wythnosol ar gyfer gofal a chymorth amhreswyl i oedolion.
Uchafswm ffi wythnosol
Mae’r ddogfen ymgynghori yn datgan mai dim ond unigolion sydd â’r modd ariannol i dalu uchafswm ffi wythnosol fyddai’n gwneud hynny, ac y byddai hyn yn cael ei bennu gan y prawf modd ariannol arferol a gynhelir gan awdurdod lleol yr unigolyn. Mae’r Asesiad Effaith Integredig drafft sy’n cyd-fynd â’r ddogfen ymgynghori yn cydnabod effaith chwyddiant ar gostau byw bob dydd ac mae’n nodi ystadegau allweddol y Comisiynydd ei hun ar dlodi incwm cymharol a phobl hŷn.
Mae’r Comisiynydd yn deall bod yr isafswm incwm y mae pobl hŷn yn ei gadw o dan y fformiwla gosod ffioedd yn cynyddu’n awtomatig yn unol â chynnydd mewn Credyd Pensiwn a lwfansau eraill. Mae’r cynnydd arfaethedig i’r isafswm incwm yn y fformiwla gosod ffioedd am ofal preswyl i’w groesawu.[1] Fodd bynnag, nid yw’r Asesiad Effaith Integredig drafft ar gyfer ffioedd gofal amhreswyl yn trafod y cynnydd yn yr isafswm incwm ers 2020 ochr yn ochr â’r cynnydd arfaethedig dangosol yn yr uchafswm ffi wythnosol, er mwyn cymharu. Nid yw’r Asesiad Effaith ychwaith yn dangos effaith chwyddiant ar y treuliau craidd y mae’n rhaid i bobl hŷn eu talu o’u lwfans. Dylid modelu hyn a’i ddatgan yn glir, er mwyn sicrhau tryloywder a llywio’r broses o wneud penderfyniadau.
Er y byddai newidiadau i’r swm y mae unigolion yn ei dalu yn seiliedig ar asesiadau ariannol unigol, mae nifer sylweddol o bobl hŷn yn dweud eu bod yn cael trafferth yng ngoleuni’r argyfwng costau byw parhaus. Canfu ymchwil a gynhaliwyd ar ran y Comisiynydd ym mis Mawrth 2023, a oedd yn canolbwyntio ar bobl 60 oed a hŷn yng Nghymru, fod 64% o’r ymatebwyr wedi cwtogi eu gwariant yn ystod y 12 mis diwethaf. Dyma’r tri phrif faes y dywedodd pobl hŷn eu bod wedi cwtogi arnynt:
- Ynni (84%)
- Siopa bwyd (83%)
- Gweithgareddau cymdeithasol (65%).
Wrth i bobl hŷn barhau i dynnu sylw at heriau sy’n deillio o’r argyfwng costau byw, mae’r tebygolrwydd y bydd pobl yn cael eu hatal rhag gofyn am asesiad o’u hanghenion nes bydd argyfwng, fel y nodir yn yr Asesiad Effaith Integredig drafft, yn real iawn.
Nid yw’r manteision cyllido i awdurdodau lleol yn glir ac mae cyfeiriadau yn y dogfennau ymgynghori yn seiliedig ar amcangyfrifon dros dro, gan ddefnyddio data o 2021-22. Dylid ehangu’r Asesiad Effaith Integredig drafft i fynd i’r afael â’r pwyntiau uchod a dylid egluro’r manteision cyllido i awdurdodau lleol a’u deall yn llawn cyn bwrw ymlaen ag unrhyw newid i’r system bresennol.
Mae’r ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad yn gofyn “Pa swm, os o gwbl, fyddech chi’n cynyddu’r ffi hon fesul derbynnydd?” ac mae’n rhestru £15; £20; £25. Nid oes blwch ticio i wrthod cynyddu’r ffi ac mae perygl y bydd hyn yn rhagfarnu’r ymatebion i’r ymgynghoriad.
Mae’r Comisiynydd yn credu y byddai cynyddu’r uchafswm ffi wythnosol yn golygu, fel yr awgryma’r Asesiad Effaith Integredig drafft, y byddai mwy o bobl hŷn yn ei chael hi’n anodd talu costau byw bob dydd yn ogystal â chost gofal ac y byddai mwy o bobl hŷn yn cael eu gorfodi i ddychwelyd pecynnau gofal neu beidio â’u cymryd. Nid yw’r Comisiynydd felly yn ei gefnogi.
Y Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol
“Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod cynyddu’r cap wythnosol uchaf ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth amhreswyl yn gam cyntaf oddi wrth y weledigaeth i greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol ‘am ddim yn y pwynt angen’” ond dywed “y byddai’r refeniw ychwanegol y byddai hyn yn ei greu er mwyn i awdurdodau lleol barhau i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol a chymorth yn sicrhau ein bod yn gallu cynnal ein hymrwymiad i newid cynaliadwy yn y tymor hir.”
Mae’r Comisiynydd yn pryderu nid yn unig bod codi’r uchafswm ffi wythnosol yn gwyro oddi wrth gyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru ond na fyddai unrhyw gynnydd yn mynd i’r afael â materion sylfaenol o ran angen nas diwallwyd yn y system gofal cymdeithasol.
Yn 2019, canfu Archwilio Cymru[2] nad oedd gofalwyr yn cael mynediad cyfartal at ofal cymdeithasol o hyd, ac nad oedd gan yr un awdurdod lleol y cydbwysedd iawn o ran gwariant, asesiadau a Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.
Yn 2021, amcangyfrifodd swyddfa’r Comisiynydd ac Age Cymru, gan weithio ar y cyd ar ddata o ffynonellau gan gynnwys ystadegau’r Gwasanaethau Cymdeithasol, Archwilio Cymru,[3] Arolwg Cenedlaethol Cymru[4] ac Age UK,[5] fod y nifer ychwanegol o bobl y gallai fod angen mynediad arnynt at wasanaethau cymorth, yn ychwanegol at ddefnyddwyr presennol, o fewn ystod o 83,000 (isel) i 119,000 (canolig) hyd at 224,100 (uchel).
Yn hytrach na chymryd cam yn ôl drwy gynyddu ffioedd ar gyfer gofal a chymorth amhreswyl, mae’r Comisiynydd yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gyflymu ei chynllun cyflawni deng mlynedd ar gyfer Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, er mwyn i bobl hŷn ac eraill yng Nghymru allu cael gafael ar y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt, pan fydd eu hangen arnynt.
[1]Llywodraeth Cymru, Memorandwm Esboniadol ar gyfer Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2024, Mawrth 2024, Memorandwm Esboniadol ar gyfer Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2024 (senedd.cymru).
[2]Archwilydd Cyffredinol Cymru, Y ‘Drws Blaen’ i Ofal Cymdeithasol i Oedolion, Medi 2019 Y ‘Drws Blaen’ i Ofal Cymdeithasol i Oedolion (audit.wales)
[3] Archwilio Cymru, Y ‘Drws Blaen’ i Ofal Cymdeithasol i Oedolion, Medi 2019 https://www.audit.wales/cy/cyhoeddiad/y-drws-blaen-i-ofal-cymdeithasol-i-oedolion
[4] Llywodraeth Cymru, Arolwg Cenedlaethol Cymru, Ebrill 2018-Mawrth 2019 https://www.llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-ebrill-2018-i-mawrth-2019
[5] Age UK 2021, “Canfu dadansoddiad newydd fod y pandemig wedi cynyddu angen pobl hŷn am ofal cymdeithasol yn sylweddol” (ar gael yn Saesneg yn unig) https://www.ageuk.org.uk/latest-press/articles/2021/new-analysis-finds-the-pandemic-has-significantly-increased-older-peoples-need-for-social-care/