Angen Help?

Canllawiau Hwylus ar Atwrneiaeth Arhosol (HTML)

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn llais ac yn eiriolwr annibynnol ar gyfer pobl hŷn ledled Cymru.

Mae’r Comisiynydd yn gweithio tuag at Gymru sy’n arwain y gad o ran grymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda.

Sut i gysylltu â’r Comisiynydd

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Adeiladau Cambrian
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5FL

Ffôn: 03442 640 670
E-bost: gofyn@comisiynyddph.cymru
Gwefan: www.comisiynyddph.cymru
Twitter: @comisiwnphcymru

I gael rhagor o wybodaeth am wneud cais am
Atwrneiaeth Arhosol

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn helpu pobl yng Nghymru a Lloegr i gadw rheolaeth dros benderfyniadau am eu hiechyd a’u cyllid ac i wneud penderfyniadau pwysig dros
bobl eraill sydd ddim yn gallu penderfynu drostynt eu hunain.

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Blwch Post 16185
Birmingham
B2 2WH

Ffôn: 0300 456 0300
E-bost: customerservices@publicguardian.gov.uk
Gwefan: gov.uk/opg

Fformatau Hygyrch

Os ydych chi eisiau cael y cyhoeddiad hwn mewn fformat ac/neu iaith arall, cysylltwch â ni. Mae’r holl gyhoeddiadau ar gael hefyd i’w lawrlwytho a’u harchebu oddi ar ein gwefan mewn sawl fformat gwahanol.

Beth ydy Atwrneiaeth Arhosol?

Dogfen gyfreithiol ydy Atwrneiaeth Arhosol. Mae’n galluogi rhywun rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw i wneud penderfyniadau ar eich rhan ac er eich lles. Mae Atwrneiaethau Arhosol yn rhoi mwy o reolaeth i chi dros beth sy’n digwydd os ydych chi heb ‘alluedd meddyliol’ i wneud penderfyniadau drosoch eich hun neu os ydych chi’n dymuno i rywun wneud rhai
penderfyniadau drosoch chi.

Mae dau fath o Atwrneiaeth Arhosol: mae un yn ymdrin â phenderfyniadau am eiddo ac arian ac mae’r llall yn ymdrin â phenderfyniadau am eich iechyd a’ch lles.

Ystyr ‘galluedd meddyliol’ ydy gallu gwneud penderfyniad pan mae angen gwneud y penderfyniad. Mae pobl yn gallu colli galluedd meddyliol oherwydd cyflwr fel problem iechyd meddwl, dementia neu anabledd dysgu.

Mae person heb alluedd os oes problem gyda’i feddwl neu ei ymennydd yn ei rwystro rhag gwneud penderfyniadau pan fydd angen gwneud penderfyniadau.

Mae’r gyfraith yn dweud bod rhywun sydd wedi colli’r galluedd yn methu gwneud un neu fwy o’r pedwar peth canlynol:

  • deall gwybodaeth sydd ei hangen i wneud penderfyniad penodol
  • dal gafael ar yr wybodaeth honno am ddigon o amser er mwyn gwneud y penderfyniad
  • defnyddio neu ystyried yr wybodaeth er mwyn gwneud y penderfyniad
  • cyfathrebu eu penderfyniad

Meddyliwch beth fyddai’n digwydd pe baech chi wedi cael damwain ddifrifol neu strôc, neu wedi datblygu dementia neu salwch meddwl. Gallech chi golli’r gallu i wneud rhai penderfyniadau neu bob penderfyniad. Bydd gwneud Atwrneiaeth Arhosol yn helpu i’ch paratoi rhag ofn i hyn ddigwydd.

Beth ydy’r gwahaniaeth rhwng Atwrneiaeth Barhaus ac Atwrneiaeth Arhosol?

Cafodd Atwrneiaethau Arhosol eu cyflwyno yn 2007 i gymryd lle Atwrneiaethau Parhaus. Mae Atwrneiaethau Parhaus yn rhoi awdurdodaeth gyfreithiol i rywun weithredu ar eich rhan mewn
mater cyfreithiol neu fater busnes.

Os oes gennych chi Atwrneiaeth Barhaus a dydych chi ddim yn dymuno ei newid, does dim angen i chi wneud cais am Atwrneiaeth Arhosol. Ond fe fydd angen i chi wneud cais am
Atwrneiaeth Arhosol os ydych chi’n dymuno newid Atwrneiaeth Barhaus sydd gennych eisoes.

Pam mae angen i mi gael Atwrneiaeth Arhosol?

Mae llawer o fanteision i wneud Atwrneiaeth Arhosol:

  • Mae’n gyfle i siarad gyda theulu a ffrindiau ynglŷn â sut rydych chi’n dymuno rheoli eich arian a’ch iechyd a’ch lles
  • Bydd yn rhoi tawelwch meddwl i chi fel eich bod yn gallu parhau i reoli eich materion
  • Mae’n gyflymach ac yn rhatach na ffyrdd eraill o ymdrin â’ch penderfyniadau – fel gwneud cais i’r Llys Gwarchod

Pwy sy’n rhan o Atwrneiaeth Arhosol?

Mae dwy brif swydd yn gysylltiedig at Atwrneiaeth Arhosol. Mae’r ‘rhoddwr’ yn gwneud yr Atwrneiaeth Arhosol ac yn penodi un neu fwy o atwrneiod i wneud penderfyniadau drosto.

Pan fyddwch chi’n creu Atwrneiaeth Arhosol, bydd angen i chi hefyd gael rhywun i weithredu fel ‘darparwr y dystysgrif’.

Rôl darparwr y dystysgrif ydy:

  • Cadarnhau bod y rhoddwr yn deall yr Atwrneiaeth Arhosol pan gafodd ei chreu
  • Cadarnhau nad oes twyll na phwysau gormodol wedi cael eu rhoi ar y rhoddwr i wneud Atwrneiaeth Arhosol
  • Cadarnhau nad oes rheswm arall pam nad oes modd gweithredu Atwrneiaeth Arhosol

Gall darparwr y dystysgrif fod naill ai’n:

  • Rhywun sy’n adnabod y rhoddwr yn bersonol ers 2 flynedd o leiaf, fel ffrind, cymydog, cydweithiwr neu gyn-gydweithiwr

NEU

  • Rhywun â sgiliau proffesiynol perthnasol, fel meddyg teulu’r rhoddwr, gweithiwr gofal iechyd proffesiynol neu gyfreithiwr

Dydy’r bobl ganlynol ddim yn gallu bod yn ddarparwr tystysgrif:

  • Atwrnai neu atwrnai wrth gefn a enwir yn yr Atwrneiaeth Arhosol hon neu unrhyw Atwrneiaeth Arhosol neu Atwrneiaeth Barhaus arall sydd wedi cael ei gwneud gan y rhoddwr
  • Aelod o deulu’r rhoddwr neu’r atwrnai (atwrneiod). Mae ‘aelodau o’r teulu’ yn cynnwys gŵr gwraig neu bartner sifil, partner, mab neu ferch, mam neu dad, brawd neu chwaer, nain neu daid, wŷr neu wyres, ewythr neu fodryb a nith neu nai.
  • Partner dibriod naill ai’r rhoddwr neu un o’r atwrneiod (os ydyn nhw’n byw yn yr un cyfeiriad neu beidio)
  • Partner busnes y rhoddwr neu’r atwrnai
  • Y rhoddwr neu un o weithwyr cyflogedig yr atwrnai
  • Perchennog, rheolwr, cyfarwyddwr neu weithiwr mewn cartref gofal lle mae’r rhoddwr yn byw

Gallwch chi hefyd enwi ‘pobl i’w hysbysu’. Byddan nhw’n cael gwybod pan mae’r Atwrneiaeth Arhosol wedi cael ei chofrestru.

Mae pobl i’w hysbysu yn fesurau diogelu ychwanegol i sicrhau bod yr Atwrneiaeth Arhosol wedi cael ei gweithredu heb unrhyw bwysau na thwyll. Gallan nhw fynegi unrhyw bryderon sydd
ganddyn nhw am yr Atwrneiaeth Arhosol.

Pwy alla’ i ei gael yn atwrnai?

Mae angen i’ch atwrnai fod yn 18 oed neu’n hŷn. Gall fod yn un o’r rhain:

  • perthynas
  • ffrind
  • gweithiwr proffesiynol, er enghraifft cyfreithiwr
  • eich gŵr, gwraig neu bartner

Rhaid i chi benodi rhywun sydd â’r galluedd meddyliol i wneud ei benderfyniadau ei hun.

Does dim angen i’ch atwrnai fyw yn y DU na bod yn ddinesydd Prydeinig.

Wrth ddewis atwrnai, meddyliwch am y canlynol:

  • pa mor dda mae’n gofalu am ei faterion ei hun, er enghraifft ei sefyllfa ariannol
  • pa mor dda rydych chi’n ei adnabod
  • os ydych yn ymddiried ynddo i wneud penderfyniadau er eich lles
  • pa mor hapus fydd i wneud penderfyniadau ar eich rhan

Ar gyfer Atwrneiaeth Arhosol sy’n ymdrin â phenderfyniadau ariannol, ni chaiff eich atwrnai fod yn fethdalwr.

Mae’n bwysig sicrhau bod eich atwrneiod yn deall eu swyddogaeth yn llawn a’u bod yn fodlon gweithredu ar eich rhan.

Alla’ i gael mwy nag un atwrnai?

Gallwch. Os ydych chi’n dewis mwy nag un atwrnai, mae’n rhaid i chi benderfynu sut byddan nhw’n gwneud penderfyniadau. Dyma’r dewisiadau:

  • Ar y cyd ac yn unigol – mae hyn yn golygu y gall eich atwrneiod wneud penderfyniadau gyda’i gilydd ac ar eu pen eu hunain
  • Ar y cyd – mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i’ch atwrneiod gytuno ar bob penderfyniad
  • Ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau, ar y cyd ac yn unigol i eraill – mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’ch atwrneiod gytuno ar rai penderfyniadau, a gwneud penderfyniadau eraill yn unigol. Os byddwch chi’n dewis yr opsiwn hwn, rhaid i chi restru’r penderfyniadau sydd angen i’ch atwrneiod eu gwneud ar y cyd ar ail dudalen barhad yr Atwrneiaeth Arhosol (LPA). Mae rhagor o fanylion ar gael isod.

Os byddwch chi’n dewis ‘Ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau, ar y cyd ac yn unigol i eraill’, mae’n bwysig eich bod yn nodi’n glir yn eich ffurflen gais pa benderfyniadau sydd angen cael eu
gwneud ar y cyd. Gallai’r penderfyniadau hyn gynnwys gwerthu eich cartref.

Os byddwch yn dewis ‘ar y cyd ac yn unigol’ neu ‘ar y cyd’, nid oes angen i chi nodi pa benderfyniadau sydd angen eu gwneud ar y cyd. Fe allai hynny achosi cymhlethdodau ac efallai na fydd modd i chi ddefnyddio’r LPA.

I gael rhagor o wybodaeth am y penderfyniadau hyn a sut maent yn gweithio, ewch i ‘Adran 3 -sut y dylai’ch atwrneiod wneud penderfyniadau?’ yng nghanllawiau Swyddfa’r Gwarcheidwad
Cyhoeddus – LP12 – Gwneud a chofrestru atwrneiaeth arhosol : canllaw’. Mae’r canllaw ar gael ar-lein neu gallwch ofyn am gopi papur yn uniongyrchol ganddynt.

https://www.gov.uk/government/publications/make-a-lasting-power-of-attorney/lp12-make-and-register-your-lasting-power-of-attorney-a-guide-web-version.

Beth fydd yn digwydd os dydy fy atwrnai ddim yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau mwyach?

Mae’n syniad da dewis atwrneiod wrth gefn yn eich Atwrneiaeth Arhosol. Mae atwrneiod wrth gefn yno rhag ofn na all un o’ch atwrneiod gwreiddiol wneud penderfyniadau ar eich rhan mwyach.

Yr unig bryd y bydd atwrneiod wrth gefn yn dechrau gweithredu ar eich rhan yw os nad ydy eich prif atwrneiod yn gallu cyflawni’r swyddogaeth mwyach neu os ydyn nhw eisiau rhoi’r gorau i wneud. Unwaith eto, mae’n bwysig eich bod yn nodi wrth lenwi eich ffurflen gais sut rydych eisiau i atwrneiod wrth gefn weithredu. Nid oes rhaid i’ch atwrneiod wrth gefn weithredu yn
union fel eich prif atwrneiod. Chi sydd i benderfynu.

Os ydych chi wedi colli galluedd, a dydy eich atwrneiod ddim yn gallu gweithredu drosoch mwyach, ac os nad oes atwrneiod wrth gefn, bydd yn rhaid canslo eich Atwrneiaeth Arhosol. Gallai hyn olygu y byddai’n rhaid i rywun wneud cais i’r Llys Gwarchod er mwyn gweithredu fel dirprwy i chi.

Pa fath o Atwrneiaeth Arhosol?

O dan Atwrneiaeth Arhosol sy’n ymdrin â materion eiddo a materion ariannol, rydych chi’n penodi atwrnai neu atwrneiod i ysgwyddo cyfrifoldeb am bethau fel:

  • rheoli cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu
  • talu biliau
  • casglu budd-daliadau neu bensiwn
  • gwerthu eich cartref

Does dim rhaid i chi fod wedi colli galluedd meddyliol i ddefnyddio’r math hwn o atwrneiaeth arhosol. Mae modd ei ddefnyddio cyn gynted ag y bydd wedi’i gofrestru, gyda’ch caniatâd chi.

Mae Atwrneiaeth Arhosol iechyd a lles yn ymdrin â phenderfyniadau fel:

  • eich trefn ddyddiol, er enghraifft ymolchi, gwisgo, bwyta
  • gofal meddygol
  • symud i gartref gofal
  • triniaeth cynnal bywyd

Yn wahanol i Atwrneiaeth Arhosol sy’n ymdrin â materion eiddo a materion ariannol, yr unig bryd y gall eich atwrneiod ddefnyddio Atwrneiaeth Arhosol iechyd a lles ydy pan nad oes gennych chi alluedd meddyliol mwyach.

Ar gyfer y ddau fath o Atwrneiaeth Arhosol, gallwch chi benderfynu ba pethau y gall eich atwrneiod wneud penderfyniadau amdanynt a pha bethau all eich atwrneiod ddim gwneud penderfyniadau amdanynt. Mae’n bwysig nodi’n glir unrhyw ddewisiadau a / neu gyfyngiadau ar wneud penderfyniadau.

Pryd mae modd defnyddio Atwrneiaeth Arhosol?

Os oes gennych chi alluedd meddyliol o hyd neu beidio, yr unig bryd y caiff atwrnai ddefnyddio Atwrneiaeth Arhosol yw pan fydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi ei chofrestru. Does
dim modd defnyddio Atwrrneiaeth Arhosol sydd heb gael ei chofrestru.

Gallwch chi wneud Atwrneiaeth Arhosol a’i chofrestru’n ddiweddarach (neu gall atwrnai ei chofrestru ar eich rhan), ond mae’n syniad da cofrestru’r Atwrneiaeth Arhosol yn syth ar ôl ei
chreu.

Mae cofrestru atwrneiaeth arhosol ar unwaith yn golygu bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gallu delio ag unrhyw fân wallau yn eich cais a rhoi gwybod i chi amdanynt. Os bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn sylwi ar fân wallau, byddwch chi’n cael cyfle i’w cywiro. Weithiau, dydy pobl ddim yn cofrestru eu atwrneiaeth arhosol ar unwaith. Os bydd oedi cyn cofrestru, mae perygl y bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn canfod camgymeriadau’n llawer hwyrach, ac fe allai hynny olygu na fydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gallu cofrestru’r LPA.

Cofiwch: Yr unig bryd y bydd Atwrneiaethau Arhosol yn dod i rym ydy os ydych chi wedi colli galluedd meddyliol neu – yn achos Atwrneiaeth Arhosol sy’n ymdrin â materion eiddo a
materion ariannol – pan fyddwch chi’n penderfynu.

Os bydda i’n colli galluedd meddyliol, all rhywun wneud Atwrneiaeth Arhosol i mi yr adeg honno?

Na. Os nad oes gennych chi alluedd meddyliol, ni allwch wneud Atwrneiaeth Arhosol ac ni all neb arall wneud un drosoch.

Yr unig ffordd y gall rhywun arall weithredu ar eich rhan yw os ydyn nhw’n gwneud cais i’r Llys Gwarchod er mwyn bod yn ddirprwy i chi.

Mae gan ddirprwy bwerau tebyg i atwrnai. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ddirprwy anfon adroddiad i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a thalu ffi bob blwyddyn. Bydd eu costau yn dod o’ch asedau chi. Mae’n cymryd llawer mwy o amser ac mae’n ddrutach na chael Atwrneiaeth Arhosol.

Oes angen i mi gyfarwyddo cyfreithiwr?

Does dim angen i lawer o bobl gael cymorth cyfreithiol i lenwi’r ffurflen gais Atwrneiaeth Arhosol. Yn gyntaf, darllenwch y ffurflenni a’r canllawiau er mwyn penderfynu os gallwch chi neu eich atwrnai eu cwblhau a gwneud cais i gofrestru’r Atwrneiaeth Arhosol.

Fodd bynnag, mae Atwrneiaeth Arhosol yn ddogfen gyfreithiol bwysig. Efallai y byddwch chi eisiau cael cyngor cyfreithiol gan rywun sydd â phrofiad o ddelio gydag Atwrneiaethau Arhosol a gweithio gyda phobl hŷn, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’n debygol y bydd costau yn gysylltiedig â hyn.

Beth yw cost gwneud Atwrneiaeth Arhosol?

Y ffi lawn yw £92 am bob math o Atwrneiaeth Arhosol.

Sut i dalu ffioedd:

Talu ar-lein – gallwch chi dalu’n ddiogel ar-lein gyda cherdyn credyd neu gerdyn debyd.

Ar y ffôn gyda cherdyn credyd neu gerdyn debyd – os ydych chi eisiau talu fel hyn, dywedwch hynny yn eich ffurflen gais (Adran 14 – ffi ymgeisio) a bydd rhywun yn cysylltu â chi.

Talu gyda siec – gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus’ ac ysgrifennu enw llawn y rhoddwr ar y cefn.

Efallai y byddwch chi’n gallu talu ffi ostyngol (gostyngiad) neu beidio â thalu ffi o gwbl (esemptiad). Bydd angen i chi (neu’r unigolyn sydd gwneud cais ar eich rhan) anfon prawf o’ch incwm.

Ffi ostyngol (gostyngiad)

Os yw cyfanswm eich incwm blynyddol (gros) cyn treth yn llai na £12,000, efallai y gallwch chi gael gostyngiad o 50% yn y ffi.

Mae eich incwm yn cynnwys:

  • Eich cyflog
  • Budd-daliadau sydd ddim yn dibynnu ar brawf modd
  • Pensiynau
  • Credyd Cynilion Pensiwn
  • Llog o gynilion a buddsoddiadau
  • Rhent o eiddo
  • Credyd Cynhwysol

Bydd angen i chi anfon prawf o’ch incwm blynyddol gros. Gallai hyn fod yn:

  • P60 neu slipiau cyflog am dri mis yn olynol o’ch swydd bresennol
  • llythyr neu hysbysiad swyddogol gan dalwr y budd-daliadau a’r pensiynau sydd ddim yn dibynnu ar brawf modd
  • datganiadau neu dalebau sy’n dangos incwm gros o gyfalaf, stociau, cyfranddaliadau neu fondiau

Ydych chi’n hunangyflogedig? Byddwch angen anfon naill ai

  • eich ffurflen dreth hunanasesiad fwyaf diweddar a chyfrifiad treth CThEM, neu
  • cyfrifon archwiliedig wedi’u hardystio gan gyfrifydd cymwys

Os ydych chi’n derbyn Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi anfon copïau o lythyrau yn dangos eich bod wedi’i dderbyn ar yr adeg y gwnaethoch gais i gofrestru eich Atwrneiaeth Arhosol.

Ni fydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn derbyn cyfriflenni banc fel tystiolaeth.

Os nad ydych chi’n derbyn unrhyw incwm, mae’n rhaid i chi anfon datganiad wedi’i arwyddo yn esbonio sut rydych chi’n cynnal eich hun.

Dim ffi (esemptiad)

Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu ffi o gwbl os ydych chi’n derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau hyn:

  • Elfen Credyd Gwarant o’r Credyd Pensiwn Gwladol
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Tai Lleol
  • Gostyngiadau/Cymorth Treth Gyngor (mae enwau eraill am hyn, nid y disgownt o 25% i berson sengl na’r esemptiad Dosbarth U)
  • Credyd Treth Gwaith ac o leiaf un o’r canlynol: Credyd Treth Plant, Elfen Anabledd o Gredyd Treth Gwaith, Elfen Anabledd Difrifol o Gredyd Treth Gwaith

Bydd rhaid i chi anfon copïau o lythyrau gan eich darparwyr budd-daliadau yn dangos eich bod yn cael y budd-daliadau hyn pan oeddech chi’n gwneud cais i gofrestru. Rhaid i lythyrau
gadarnhau bod y budd-dal yn cael ei dalu i’r rhoddwr, a rhaid iddynt gynnwys manylion wedi’u hargraffu (teitl, enw llawn, cyfeiriad a chod post).

Rhaid i chi dalu’r ffi lawn os ydych chi’n:

  • derbyn y budd-daliadau hyn: Lwfans Byw i’r Anabl, Budd-dal Analluedd, Taliad Annibyniaeth Bersonol
  • wedi derbyn dyfarniad o iawndal anafiadau personol o fwy na £16,000, a gafodd ei anwybyddu pan gawsoch chi eich asesu ar gyfer budd-daliadau

Esemptiad a gostyngiad yn y ffioedd gwneud cais:

Efallai y bydd gan roddwr hawl i gael esemptiad neu ostyngiad yn y ffioedd gwneud cais ar sail ei amgylchiadau ariannol. Dim ond budd-daliadau ac incwm y rhoddwr sy’n bwysig.

I wneud cais, rhaid iddo:

  • lenwi ffurflen LPA120A a llofnodi’r datganiad
  • casglu tystiolaeth ategol
  • anfon ffurflen LPA120A a’ch tystiolaeth at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ynghyd â’ch ffurflenni Atwrneiaeth Arhosol neu Atwrneiaeth Barhaus pan fyddwch chi’n gwneud cais i gofrestru.

Sut mae gwneud cais am Atwrneiaeth Arhosol?

Gall y rhoddwr, ei atwrnai neu ei gyfreithiwr wneud cais ar-lein:

www.lastingpowerofattorney.service.gov.uk/home

Os nad ydy’r rhoddwr neu ei atwrnai yn dymuno gwneud cais ar-lein, gall lenwi’r ffurflenni yn ysgrifenedig a’u hanfon drwy’r post.

Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus anfon y ffurflenni Atwrneiaeth Arhosol atoch chi:

Cysylltwch â nhw dros y ffôn ar 0300 456 0300

Neu drwy’r post yn

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Blwch Post 16185
Birmingham
B2 2WH

Beth fydd yn digwydd ar ôl cyflwyno’r cais ar-lein neu ar ôl postio’r ffurflenni?

Ar hyn o bryd mae’n cymryd rhwng 8 a 10 wythnos i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gofrestru LPA os nad oes camgymeriadau yn y cais.

Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cadarnhau’r cofrestriad gyda chi naill ai drwy’r post neu’r e-bost (yn dibynnu beth sydd orau gennych chi). Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad
Cyhoeddus yn cysylltu â’ch atwrneiod i ddweud wrthyn nhw fod yr Atwrneiaeth Arhosol wedi cael ei chofrestru.

Dylech chi gadw copi o’r Atwrneiaeth Arhosol gofrestredig.

Eisiau gwybod mwy?

Mae Atwrneiaethau Arhosol yn dod o dan ddarn o gyfraith a elwir yn Ddeddf Galluedd Meddyliol. Mae Cod Ymarfer y Ddeddf (ar gael yn www.gov.uk/government/publications/mental-capacity
act-code-of-practice) yn esbonio’r gyfraith yn glir.

I gael rhagor o wybodaeth gefndirol, ewch i www.scie.org.uk/mca-directory

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges