Angen Help?

Archwilio Oedraniaeth Ddigidol – Crynodeb Gweithredol (HTML)

Archwilio oedraniaeth ddigidol – Crynodeb Gweithredol

Cyflwyniad

Comisiynwyd OB3 Research gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i gynnal prosiect ymchwil byr i archwilio oedraniaeth ddigidol mewn perthynas â phobl hŷn 60 oed a hŷn.

Mae oedraniaeth ddigidol yn cyfeirio at stereoteipio, rhagfarn neu anfantais wedi ei gyfeirio at bobl ar sail oedran mewn cyd-destunau digidol. Mae’n gweithredu ar lefelau strwythurol, sefydliadol ac unigol, sy’n aml yn croestorri ag anghydraddoldebau eraill fel rhywedd, anabledd, ethnigrwydd a statws economaidd-gymdeithasol.

Mae’r adolygiad llenyddiaeth hwn yn archwilio oedraniaeth ddigidol fel mater systemig sy’n siapio cyfranogiad pobl hŷn ar draws pob agwedd ar fywyd mewn cymdeithas sy’n fwyfwy digidol.

Y Prif Ganfyddiadau

Polisi a fframweithiau cyfreithiol

Mae oedraniaeth ddigidol yn cael ei atgyfnerthu gan fylchau mewn llywodraethu a rheoleiddio. Er bod cyrff rhyngwladol fel y Cenhedloedd Unedig a Sefydliad Iechyd y Byd yn fframio cynhwysiant digidol fwyfwy fel mater hawliau dynol, mae oedran yn dal yn llai amlwg mewn cyfreithiau hawliau digidol a diogelu data na nodweddion fel rhywedd neu anabledd. Yn y Deyrnas Unedig, mae strategaethau tameidiog a’r symudiad tuag at wasanaethau ‘digidol yn ddiofyn’ mewn perygl o wreiddio rhagdybiaethau oedraniaethol am allu digidol defnyddwyr.

Mae’r defnydd cynyddol o ddeallusrwydd artiffisial yn tynnu sylw at ragor o risgiau, gan fod oedolion hŷn yn cael eu tangynrychioli mewn setiau data ac yn anaml y cânt eu hystyried mewn asesiadau effaith algorithmig. Er bod rheoleiddwyr fel Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi dechrau cydnabod rhagfarn oed, mae ymdrechion yn gyfyngedig, gan adael lle i oedraniaeth ddigidol systemig gael ei normaleiddio wrth lywodraethu a darparu gwasanaethau.

Dylunio gwasanaethau digidol

Mae’r gwaith o ddylunio a datblygu systemau digidol yn aml yn esgeuluso anghenion defnyddwyr hŷn. Mae cynnyrch a gwasanaethau’n cael eu siapio o gwmpas ‘brodorion digidol’ iau, sy’n arwain at ryngwynebau cymhleth, nodweddion anhygyrch a gallu cyfyngedig i addasu. Yn anaml iawn mae oedolion hŷn yn cael eu cynnwys yn ystyrlon mewn profion cyd-ddylunio neu ddefnyddioldeb; pan fydd ymgysylltu’n digwydd, mae’n aml yn symbolaidd ac yn hwyr yn y broses. Gall ‘oedraniaeth dosturiol’, sef tybiaethau llawn bwriadau da bod angen adnoddau symlach ar bobl hŷn, gyfyngu ymhellach ar ymreolaeth ac atgyfnerthu stereoteipiau.

Algorithmau a deallusrwydd artiffisial (AI)

Mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio fwyfwy mewn gofal iechyd, cyflogaeth a gwasanaethau cyhoeddus ond mae’n aml yn gwreiddio rhagfarn yn erbyn oedolion hŷn. Mae tangynrychiolaeth mewn setiau data a goruchafiaeth dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc yn arwain at ganlyniadau gwahaniaethol, fel llai o gywirdeb diagnostig mewn gofal iechyd neu arferion recriwtio gwaharddol. Mae’r rhagfarnau hyn yn aml yn cael eu cuddio mewn systemau gwneud penderfyniadau aneglur, sy’n cyfyngu ar atebolrwydd. Er bod gan ddeallusrwydd artiffisial y potensial i wella annibyniaeth a llesiant, mae arferion datblygu cynhwysol sy’n cynnwys oedolion hŷn yn dal yn brin.

Croestoriadedd

Mae oedraniaeth ddigidol yn croestorri ag anghydraddoldebau eraill, gan siapio profiadau amrywiol ymysg pobl hŷn. Mae menywod hŷn yn aml yn wynebu ‘anfantais ddwbl’ oherwydd oedraniaeth a rhywiaeth, gydag incwm is a chyfrifoldebau gofalu yn cyfyngu ar fynediad digidol. Gall cymunedau ethnig lleiafrifol wynebu rhwystrau ieithyddol a diwylliannol, tra bydd pobl hŷn anabl ac yng nghefn gwlad yn wynebu heriau hygyrchedd a chysylltedd. Mae dulliau croestoriadol yn hanfodol i fynd i’r afael â’r gwaharddiadau cymhleth hyn.

Cyflogaeth

Mae gweithwyr hŷn yn wynebu rhwystrau systemig o ran recriwtio, hyfforddi a digideiddio yn y gweithle. Mae cyfeiriadau at ‘frodorion digidol’ mewn disgrifiadau swydd a dibyniaeth ar systemau recriwtio deallusrwydd artiffisial yn atgynhyrchu rhagfarnau oedraniaethol presennol. Nid oes gan lawer o weithwyr hŷn fynediad at hyfforddiant digidol wedi ei deilwra, ac mae diwylliannau yn y gweithle yn aml yn eu stereoteipio fel rhai sy’n gwrthwynebu newid. Mae’r ffactorau hyn yn cyfrannu at allgáu ac ymadael â’r gweithlu’n gynnar. I’r gwrthwyneb, mae dulliau oed-gynhwysol fel dysgu sy’n pontio’r cenedlaethau a hyfforddiant wedi ei gyd-ddylunio yn gwella ymgysylltu, cadw staff a chynhyrchiant.

Cyfranogiad cymdeithasol a hamdden

Mae llwyfannau digidol yn darparu cyfleoedd pwysig ar gyfer cysylltu ac ymgysylltu diwylliannol ond maent yn aml wedi eu dylunio gyda chynulleidfaoedd iau mewn golwg. Mae pobl hŷn yn dod ar draws rhwystrau o ran defnyddioldeb, llai o amlygrwydd mewn algorithmau a cham-drin sy’n gysylltiedig ag oedran ar-lein. Mae allgáu o gyfranogiad hamdden a diwylliannol digidol yn lleihau cyfleoedd cysylltu, llesiant a hunaniaeth. Amlygodd pandemig COVID-19 y bylchau hyn ymhellach, gyda llawer o bobl hŷn yn methu cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol digidol.

Iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant

Mae gwasanaethau iechyd digidol, o systemau archebu ar-lein i ymgynghoriadau teleiechyd, yn aml yn seiliedig ar dybiaethau o lythrennedd digidol uchel a mynediad symudol, sy’n allgáu llawer o oedolion hŷn. Mae perygl y bydd technolegau gwyliadwriaeth mewn lleoliadau gofal yn atgyfnerthu arferion nawddogol ac yn lleihau urddas.

Ym maes deallusrwydd artiffisial gofal iechyd, mae tangynrychiolaeth oedolion hŷn mewn setiau data yn tanseilio cywirdeb a diogelwch diagnostig. Mae allgáu digidol yn cyfrannu at arwahanrwydd, iechyd meddwl gwaeth a llai o ymddiriedaeth mewn gwasanaethau, tra gall dylunio cynhwysol a llwybrau mynediad lluosog liniaru risgiau.

Dysgu gydol oes

Mae sgiliau a hyder digidol yn hanfodol i gynhwysiant a grymuso yn nes ymlaen mewn bywyd. Fodd bynnag, mae dysgwyr hŷn yn wynebu rhwystrau strwythurol, ariannol ac agweddol o ran cyfranogiad, ac mae’r ddarpariaeth yn aml yn anwybyddu eu hanghenion, eu cymhellion a’u harddulliau dysgu. Mae stereoteipiau sy’n portreadu pobl hŷn fel rhai na allant ddysgu yn atgyfnerthu allgáu. Mae tystiolaeth yn dangos bod hyfforddiant wedi ei deilwra ac sy’n grymuso, yn enwedig pan gaiff ei ddarparu drwy gymorth gan gymheiriaid neu fodelau sy’n pontio’r cenedlaethau, yn meithrin hyder, ymreolaeth a chyfranogiad dinesig a diwylliannol ehangach.

Casgliadau

Mae’r dystiolaeth yn dangos nad yw oedraniaeth ddigidol yn bryder ymylol ond yn hytrach yn fater trawsbynciol sydd wedi ei wreiddio mewn llywodraethu, dylunio ac ymarfer. Mae’n siapio mynediad at wasanaethau, cyflogaeth, iechyd, dysgu a chyfranogiad cymdeithasol, ac mae’n croestorri ag anghydraddoldebau ehangach.

Er bod enghreifftiau o arferion da yn bodoli, ychydig o ymyriadau sy’n targedu oedraniaeth digidol yn benodol, gan adael cyfle sylweddol i arloesi a gweithredu. Bydd mynd i’r afael â hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau tegwch, hawliau a chynhwysiant i bobl hŷn yng Nghymru wrth i gymdeithas ddod yn fwyfwy digidol.

Argymhellion

Ar gyfer Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

  1. Codi ymwybyddiaeth o ‘oedraniaeth dosturiol’: arwain ymwybyddiaeth y cyhoedd a chanllawiau polisi ar osgoi tybiaethau nawddoglyd am ddefnydd pobl hŷn o dechnoleg, gan fanteisio ar bob cyfle i annog dylunwyr a rheolwyr gwasanaethau i barchu galluoedd a dewisiadau defnyddwyr hŷn.
  2. Eirioli dros oedran mewn fframweithiau polisi a hawliau digidol: annog Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig a rheoleiddwyr (e.e. Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth) i gydnabod yn benodol oedran mewn deddfwriaeth diogelu data, preifatrwydd a moeseg deallusrwydd artiffisial. Dylai’r Comisiynydd hefyd ymgysylltu a chydweithio â Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru i sicrhau bod gwahaniaethu ar sail oedran mewn lleoliadau digidol (er enghraifft, wrth ddefnyddio deallusrwydd artiffisial) yn cael ei fonitro, ei adrodd a, lle bo angen, ei herio, gan ddefnyddio pwerau rheoleiddio’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ar gyfer Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus:

  1. Grymuso pobl hŷn o ran eu hawliau digidol: gan adeiladu ar y dull seiliedig ar hawliau yn ‘Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio’, dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut gellir ymgorffori materion sy’n ymwneud â sicrhau bod oedolion hŷn yn deall preifatrwydd data, cydsyniad a hawliau gwasanaeth. Gallai hyn fod yn rhan o waith a gyllidir gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol ar gynhwysiant digidol drwy weithdai, taflenni ffeithiau a digwyddiadau partneriaeth, a chynnwys hyfforddi eiriolwyr cymunedol neu ‘hyrwyddwyr digidol’ i gynghori cymheiriaid.
  2. Hyrwyddo cyd-ddylunio gydag oedolion hŷn mewn gwasanaethau cyhoeddus digidol: dylai Llywodraeth Cymru a thimau gwasanaethau cyhoeddus digidol (e.e. y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS)) geisio cynnwys defnyddwyr hŷn amrywiol wrth ddylunio a phrofi’r holl wasanaethau digidol. Dylid hyrwyddo safonau presennol fel Safon Gwasanaeth Digidol CDPS a chanllawiau Llywodraeth Cymru sydd eisoes yn mynnu bod dylunio yn gynhwysol ac y dylid hyrwyddo dewisiadau amgen all-lein yn eang. Dylai cyrff cyhoeddus (fel byrddau iechyd ac awdurdodau lleol) fabwysiadu canllawiau tebyg.
  3. Corffori oedran mewn safonau polisi a chaffael: Dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r holl gynnyrch a gwasanaethau digidol a gomisiynir yn gyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd a defnyddioldeb sy’n gynhwysol i bob oedran. Gellid gwneud hyn drwy sicrhau bod fframweithiau Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn ystyried defnyddwyr hŷn yn benodol. Dylai’r cynllun Cydraddoldeb Strategol a Hawliau Dynol a’i gynlluniau gweithredu cysylltiedig (anabledd, hil, LHDTC+, rhywedd) gynnwys oedraniaeth ddigidol yn benodol (rhagfarn algorithmig o ran oedran, materion mynediad, ac ati). Er enghraifft, pan fydd Llywodraeth Cymru yn adnewyddu’r Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau neu’n drafftio’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl, dylai sicrhau bod oedran yn cyd-fynd ag ystyriaethau technoleg. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau ymhellach bod y Grŵp Cynghori Strategol ar Ddeallusrwydd Artiffisial a’r Swyddfa Deallusrwydd Artiffisial yng Nghymru yn cynnwys cylch gwaith i asesu effeithiau cydraddoldeb oedran wrth ddylunio, caffael, defnyddio a rheoleiddio systemau deallusrwydd artiffisial mewn gwasanaethau cyhoeddus. 
  1. Ymgorffori dull croestoriadol, dwyieithog: Rhaid i holl bolisïau digidol Cymru gydnabod a rhoi cyfrif am yr amrywiaeth ymysg profiadau pobl hŷn – gan gynnwys rhywedd, anabledd, ethnigrwydd, incwm a natur wledig. Mae hefyd yn hanfodol bod y Gymraeg yn cael ei gweld a’i gwreiddio fel iaith deallusrwydd artiffisial, technoleg a digidol.
  1. Gwella cynhwysiant iechyd a gofal digidol: Rhaid i Lywodraeth Cymru a chyrff y GIG sicrhau bod offer teleiechyd newydd yn cael eu cyd-ddylunio gyda defnyddwyr hŷn fel bod symud tuag at ddigideiddio pellach a mwy o ddefnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn osgoi rhagfarn gynhenid. Dylai hyfforddiant staff mewn cyfathrebu digidol sy’n cynnwys pob oed fod yn orfodol – a gallai sefydliadau fel Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Arolygiaeth Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru osod a monitro safonau yn y maes hwn. 
  1. Sicrhau arferion Gwaith Teg wrth recriwtio ar sail deallusrwydd artiffisial: dylai cyrff cyhoeddus yng Nghymru adolygu eu harferion recriwtio a hyfforddi yng ngoleuni’r defnydd cynyddol o ddeallusrwydd artiffisial ac offer digidol. Mae hyn yn cynnwys archwilio llwyfannau recriwtio ac algorithmau ar gyfer rhagfarn oedran bosibl, a chyhoeddi canlyniadau’n dryloyw. Dylent hefyd ddarparu cyfleoedd hyfforddi ac uwchsgilio digidol parhaus sy’n benodol i rôl, wedi eu dylunio ar y cyd â staff o wahanol oedrannau, i sicrhau nad yw gweithwyr hŷn yn cael eu hallgáu o gyfleoedd datblygu na chadw. Gallai Llywodraeth Cymru hyrwyddo hyn drwy’r agenda Gwaith Teg a gofynion caffael cyhoeddus, gan annog cyflogwyr yn y sector preifat a’r trydydd sector i wneud yr un peth. 
  1. Defnyddio rhwydweithiau cymunedol sy’n ystyriol o oedran: lle nad ydynt eisoes ar waith, gallai cydlynwyr Cymunedau Oed-gyfeillgar ym mhob awdurdod yng Nghymru hyrwyddo cynhwysiant digidol yn lleol hefyd. Gallai partneriaethau oed-gyfeillgar mewn awdurdodau lleol gynnal caffis digidol, sicrhau bod gan ganolfannau cymunedol fynediad at y rhyngrwyd, a chynnwys llythrennedd technoleg mewn presgripsiynu cymdeithasol. Gallent annog, cefnogi a thynnu sylw at fentrau sy’n pontio’r cenedlaethau sy’n dod â phobl iau a phobl hŷn at ei gilydd i rannu gwybodaeth ddigidol, gan helpu i leihau stereoteipiau a chryfhau cysylltiadau cymunedol.

Ar gyfer dylunwyr gwasanaethau digidol a’r sector technoleg:

  1. Dylunio cynnyrch yn gynhwysol gyda defnyddwyr hŷn: dylai cwmnïau technoleg a dylunwyr digidol gynnwys pobl hŷn yn y gwaith o brofi a chyd-ddylunio, gan sicrhau bod rhyngwynebau’n osgoi stereoteipiau oedraniaethol. Gallai dylunio cynhwysol gynnig maint testun, cymorth llais neu ddulliau syml yn ddewisol, heb dybio o gwbl bod angen atebion gor-syml ar bob defnyddiwr hŷn. Dylid darparu cymorth drwy’r Gymraeg a rheolaethau preifatrwydd clir hefyd.
  2. Archwilio a lliniaru yn erbyn rhagfarn algorithmig: rhaid i gyrff cyhoeddus a chwmnïau fel ei gilydd, wrth ddatblygu deallusrwydd artiffisial ac offer digidol (e.e. llwyfannau recriwtio, sgoriau credyd) brofi am ragfarn ar sail oedran ac adrodd ar degwch. Pan ganfyddir rhagfarn, dylent fireinio neu ddileu algorithmau troseddol. Mae hyn yn dilyn yr un rhesymeg ag archwiliadau ar gyfer rhagfarnau ar sail rhywedd/hil. Dylai cyrff y diwydiant (fel Sefydliad Diogelwch Deallusrwydd Artiffisial y Deyrnas Unedig) gyhoeddi safonau sy’n rhoi cyfrifoldeb ar y sector technoleg.
  3. Hyrwyddo cynrychiolaeth pobl hŷn: Dylai cyfryngau digidol a llwyfannau ar-lein gynnwys a chyflogi pobl hŷn a chefnogi cynnwys sy’n adlewyrchu eu bywydau. Er enghraifft, gall gwasanaethau ffrydio neu ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol herio stereoteipiau drwy arddangos modelau, lleisiau a straeon pobl hŷn.

 

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges