Angen Help?

Amser i Addasu: Archwilio’r amseroedd aros am Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl yng Nghymru (HTML)

Older woman walking up the stairs in her house

Cyflwyniad

Mae ein cartrefi’n chwarae rhan bwysig yn ein bywydau, gan ddylanwadu ar bopeth o’n hiechyd a’n lles i’n hannibyniaeth, i’n teimladau o ddiogelwch a sicrwydd. Ond yn fwy na hynny, mae ein cartrefi hefyd yn ein cysylltu â’n hanwyliaid, â’n cymunedau ac maent yn hanfodol i’n galluogi i fyw a heneiddio’n dda.

Wrth i ni fynd yn hŷn, efallai y byddwn yn gweld nad yw ein cartrefi’n diwallu ein hanghenion yn llawn mwyach neu y gallent hyd yn oed beri risgiau posibl i’n diogelwch, mater y tynnwyd
sylw ato mewn arolygon diweddar a gynhaliwyd gan y Comisiynydd a ganfu fod bron i 1 o bob 5 o bobl 60 oed a hŷn yn cael trafferth symud o gwmpas eu cartrefi, fel gyda grisiau neu
gyfleusterau ystafell ymolchi.

Mae addasiadau i gartrefi yn aml yn hanfodol i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu parhau i fyw gartref (os ydynt yn dymuno gwneud hynny) neu’n gallu dychwelyd adref ar ôl bod yn yr ysbyty neu
mewn cartref gofal.

Mae addasiadau hefyd yn hanfodol i atal damweiniau fel cwympiadau, sy’n gallu achosi anafiadau difrifol, ac i sicrhau bod amgylcheddau cartref yn diwallu anghenion pobl o ran hygyrchedd, symudedd a darparu gofal.

Os penderfynir mai addasiadau bach sydd eu hangen, mae’r rhain yn aml yn cael eu hariannu’n lleol a’u cwblhau gan sefydliadau yn y gymuned fel Gofal a Thrwsio Cymru. Os oes angen gwneud gwaith mwy, gellir eu hariannu drwy Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl (DFG).

Fel arfer, mae’r broses hon yn cynnwys asesiad gan therapydd galwedigaethol (y cyfeirir ato’n aml fel ‘OT’) i gadarnhau bod yr addasiadau arfaethedig yn angenrheidiol ac yn briodol, ac yna prawf modd (ar gyfer oedolion), cyflwyno cais ffurfiol gyda chynlluniau ac amcangyfrifon o gostau, a chymeradwyaeth gan yr awdurdod lleol cyn y gall gwaith ddechrau.

O ystyried pwysigrwydd addasiadau i’r cartref i gefnogi diogelwch, annibyniaeth ac ansawdd bywyd pobl hŷn, mae’n hanfodol bod unrhyw waith angenrheidiol yn cael ei nodi a’i gwblhau mor gyflym â phosibl a bod pobl hŷn yn cael eu cefnogi drwy gydol y broses hon.

Fodd bynnag, mae llawer o bobl hŷn ledled Cymru wedi rhannu eu pryderon a’u rhwystredigaethau â’r Comisiynydd ynghylch faint o amser y gall ei gymryd i wneud addasiadau i gartrefi, yn enwedig wrth ymwneud â’r broses Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl, ac effaith hyn ar eu bywydau.

Mae pobl hŷn wedi rhannu enghreifftiau o fethu â chyflawni tasgau sylfaenol fel ymolchi eu hunain neu fethu symud o gwmpas eu cartrefi’n ddiogel wrth aros am addasiadau, gan eu
gorfodi i ddibynnu ar eraill am gymorth a lleihau eu hannibyniaeth. Mewn rhai achosion, mae arosiadau hir wedi arwain at bobl hŷn yn cwympo neu’n dioddef anafiadau, sydd nid yn unig yn arwain at gostau personol sylweddol i unigolion, ond hefyd yn creu’r angen am ymyriadau iechyd a gofal cymdeithasol costus y gellid bod wedi’u hosgoi fel arall.

Ochr yn ochr â hyn, mae llawer o bobl hŷn wedi dweud wrth y Comisiynydd fod y broses ei hun yn gymhleth ac yn ddryslyd, gan adael pobl yn teimlo dan straen ac wedi’u llethu ar adeg pan
maent eisoes yn delio â dirywiad mewn iechyd neu reoli cyfrifoldebau gofalu.

Mae’r materion hyn hefyd wedi cael eu hamlygu gan sefydliadau, gwasanaethau a grwpiau cymunedol sy’n gweithio gyda phobl hŷn ac yn eu cefnogi, y mae’r Comisiynydd wedi ymgysylltu â nhw ledled Cymru.

Felly, roedd hi’n awyddus i archwilio’r materion hyn yn fanylach, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddeall hyd a lled yr amserlenni y gallai pobl hŷn yng Nghymru fod yn eu hwynebu ar gyfer addasiadau i gartrefi drwy broses y Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl a’r rhesymau posibl dros oedi, er mwyn helpu i nodi lle mae angen gwelliannau a’r camau sydd eu hangen i’w cyflawni.

Er mwyn galluogi hyn, ysgrifennodd y Comisiynydd at brif weithredwyr awdurdodau lleol ledled Cymru ym mis Gorffennaf 2025 i ofyn am wybodaeth am y canlynol:

  • Amseroedd aros o un pen i’r llall o safbwynt y cwsmer
  • Data demograffig ar y rhai sy’n derbyn Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl (oedran, rhyw ac ethnigrwydd)
  • Barn ar rwystrau a heriau sy’n ymwneud â’r system Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl
  • Safbwyntiau ar sut y gellid gwneud y broses Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl yn fwy effeithlon neu effeithiol, yn enwedig o ran lleihau amseroedd aros a gwella profiad
    cyffredinol cwsmeriaid
  • Enghreifftiau o arferion da lleol.

Mae’r wybodaeth a ddarparwyd gan awdurdodau lleol yn sail i Ran 2 yr adroddiad hwn ac mae hefyd wedi cael ei defnyddio i lunio’r argymhellion ar gyfer gweithredu i fynd i’r afael â materion allweddol a gwella profiadau pobl hŷn, sydd wedi’u cynnwys yn yr adran derfynol

Hoffai’r Comisiynydd hefyd ddiolch i Care & Repair Cymru am eu cefnogaeth wrth alluogi cyhoeddi’r adroddiad hwn.

Darparu Grantiau Cyfleusterau
i Bobl Anabl yng Nghymru:

Deddfwriaeth, polisi a pherfformiad

Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl (DFGs)

Mae DFG yn grantiau gorfodol(1) sydd ar gael i helpu pobl i barhau i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i ddarparu DFG, sydd ar gael i bobl sy’n byw ym mhob math o ddeiliadaeth tai, gan gynnwys perchnogion, tenantiaid cynghorau a thenantiaid cymdeithasau tai.

Mae DFGs yn seiliedig ar brawf modd, ac ar hyn o bryd mae uchafswm y grant sydd ar gael yng Nghymru yn £36,000 (llai unrhyw gyfraniad sy’n dibynnu ar brawf modd). Nid oes rhaid i
ymgeiswyr sydd ar y trothwy neu o dan y trothwy ar gyfer budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd gyfrannu, tra bo’r rheini sydd ar incwm isel yn cyfrannu symiau bach. Yn aml, rhaid i
unigolion ar incwm uwch dalu’r rhan fwyaf neu holl gostau’r gwaith.

Mae dull dau gam o bennu gwaith addasu cymwys yn y system DFG / addasiadau:

  • Penderfynu pa waith sy’n ‘angenrheidiol ac yn briodol’ i ddiwallu anghenion unigolyn – asesir gan ofal cymdeithasol awdurdod lleol (drwy dimau therapi galwedigaethol
    gwasanaethau cymdeithasol)
  • Penderfynu pa waith sy’n ‘rhesymol ac ymarferol’, sy’n arwain at anfon rhestr waith at yr ymgeisydd sy’n sail i waith gyda chymorth grant.

Nid yw awdurdodau lleol yn cael cyllid wedi’i neilltuo ar gyfer DFGs. Yn hytrach, maen nhw’n gwneud eu penderfyniadau lleol eu hunain ynghylch faint o gyllid maen nhw’n ei roi i DFGs o’u
cyllideb gyffredinol.

Mae DFGs yn ddarostyngedig i amserlenni statudol, sy’n pennu terfynau amser i awdurdodau lleol benderfynu ar geisiadau ar ôl iddynt gael eu cyflwyno’n ffurfiol. Yn benodol, rhaid i awdurdodau benderfynu ar geisiadau o fewn chwe mis, a dylid cwblhau gwaith cymeradwy o fewn 12 mis i’w gymeradwyo fel arfer.

Fodd bynnag, dim ond o’r adeg y caiff cais ei gyflwyno’n ffurfiol y mae’r amserlenni cyfreithiol hyn yn berthnasol ac nid ydynt yn adlewyrchu’r amseroedd aros llawn o’r dechrau i’r diwedd a
brofir yn aml gan ymgeiswyr.

Yn ymarferol, gall y broses gyffredinol – gan gynnwys ymholiadau cychwynnol, asesiadau therapi galwedigaethol, profion modd a chaffael – gymryd llawer mwy o amser na’r cyfnodau statudol hyn yn unig.

Mae deddfwriaeth ychwanegol yn rhoi mwy o hyblygrwydd a phwerau eang i awdurdodau lleol ategu DFGs gorfodol yn ôl eu disgresiwn. Gallai hyn gynnwys ychwanegu at grantiau dros y
terfyn uchaf, cyflwyno prawf modd lleol ar gyfer grwpiau penodol, neu ddarparu addasiadau mân-gost y tu allan i’r system DFGs.

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn pennu eu blaenoriaethau eu hunain ar gyfer defnyddio’r pwerau hyn, a faint o gyllid y maent yn ei ddyrannu i gefnogi hyn. Mae hyn yn golygu, yn ymarferol, bod gwahanol fathau o gymorth, gyda gwahanol bwyslais, wedi esblygu mewn gwahanol awdurdodau lleol, fel y dangosir gan yr ymatebion i gais y Comisiynydd am wybodaeth ym mis Gorffennaf 2025 ac a archwiliwyd yn fanylach isod.

Ochr yn ochr â DFGs, sydd ond yn cyfrif am 55% o’r gyllideb addasiadau gyffredinol yng Nghymru,(2) mae nifer o ffrydiau cyllido eraill sy’n cefnogi’r gwaith o ddarparu addasiadau i gartrefi (gwaith bach neu ganolig yn aml), fel HWYLUSO, y Rhaglen Addasiadau Brys (RRAP) a’r Grant Addasiadau Ffisegol (PAG).

Mae lefel y gwasanaeth a ddisgwylir gan bob darparwr sy’n ymwneud â darparu addasiadau tai wedi’i nodi yn Safonau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Addasiadau Tai, a gyhoeddwyd yn 2019.(3)

Mae’r Safonau’n cynnwys gwybodaeth am sut dylai darparwyr gyfathrebu â defnyddwyr gwasanaeth, ansawdd disgwyliedig y gwasanaethau a’r offer, a pha wiriadau cymhwysedd sydd eu hangen fel arfer, yn ogystal â’r amserlenni disgwyliedig ar gyfer darparu addasiadau bach, canolig a mawr.

Mae rhagor o wybodaeth am ffrydiau ariannu addasiadau i gartrefi a Safonau Gwasanaeth yng Nghymru ar gael yn Atodiad 1.

Cipolwg ar ddata gwariant a pherfformiad DFGs ac addasiadau i gartrefi yng Nghymru

Er bod amrywiaeth o fesurau a dangosyddion perfformiad wedi cael eu cyflwyno (a’u tynnu’n ôl) dros y blynyddoedd wrth i systemau ddatblygu ac esblygu, mae data sy’n ymwneud â DFGs ac addasiadau i gartrefi yn dal yn gymharol gyfyngedig, o ran yr hyn sy’n cael ei gofnodi a pha mor aml mae data’n cael ei gyhoeddi.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn casglu data penodol sy’n ymwneud â DFGs drwy ffurflenni blynyddol gan awdurdodau lleol (sy’n canolbwyntio ar nifer y ceisiadau a gwblhawyd a’r costau), ac mae’r diweddaraf ar gyfer 2023/24.(4)

Mae rhywfaint o ddata ychwanegol ar addasiadau tai yn fwy cyffredinol hefyd yn cael ei gasglu gan awdurdodau lleol, cymdeithasau tai ac asiantaethau Gofal a Thrwsio drwy ffurflenni arolwg o ganlyniad i reoliadau adrodd safonol.(5) Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y data hwn ddiwethaf yn 2020/21 ar ffurf dadansoddiad lefel uchel.(6) Mae prif ganfyddiadau’r data wedi’u crynhoi isod:

Data 2023/24:

  • Cwblhawyd 4,595 o DFGs gorfodol yng Nghymru yn ystod 2023/24.
  • Gwariwyd £44.3m ar DFGs gorfodol ledled Cymru, cynnydd o 25% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Gwariant DFG yng Nghymru yn ystod 2023/24 oedd yr uchaf a adroddwyd yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, gan ragori ar lefelau cyn y pandemig.
  • Y gwariant cyfartalog fesul DFG gorfodol oedd £9,600, cynnydd o £700 o’i gymharu â 2022/23.
  • Roedd y gwariant cyfartalog yn amrywio o £7,200 (Caerffili) i £13,300 (Sir Fynwy).
  • Gwariwyd £3.4 miliwn ar DFGs nad ydynt yn orfodol (grantiau nad ydynt yn ofynnol yn gyfreithiol ac sy’n cael eu cynnig yn ôl disgresiwn awdurdodau lleol i helpu i ariannu
    addasiadau y tu hwnt i’r cynllun gorfodol), cynnydd o 62% o’i gymharu â 2022/23.

Data 2020/21:

  • Cwblhawyd cyfanswm o 31,263 o addasiadau i gartrefi yn ystod 2020/21.
  • Roedd y canlyniadau a ragwelwyd ar gyfer addasiadau yn cynnwys atal cwympiadau (42%), mwy o annibyniaeth mewn bywyd bob dydd (34%) a hwyluso rhyddhau o ysbytai
    (11%).
  • Roedd 98% o’r rhai a roddodd adborth yn fodlon gyda’r addasiadau i’w cartrefi.
  • Darparodd asiantaethau Gofal a Thrwsio 67% o’r addasiadau, tra bod awdurdodau lleol yn cyfrif am 26%.
  • Yr amseroedd cyflawni cyfartalog ar gyfer addasiadau bach, canolig a mawr oedd 7 diwrnod, 159 diwrnod a 391 diwrnod yn y drefn honno.
  • Amcangyfrifwyd bod cyfanswm y gwariant ar addasiadau ledled Cymru yn ystod 2021/22 yn tua £60 miliwn.
  • Y costau canolrifol ar gyfer addasiadau bach, canolig a mawr oedd £117, £3,840 a £16,237 yn y drefn honno.
  • Ariannwyd 80% o’r addasiadau gan ffynonellau heblaw Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl (e.e. Rhaglen Addasiadau Brys).
  • Dim ond 2.5% o gartrefi a addaswyd oedd yn y sector rhentu preifat, er bod hyn yn cynrychioli 13% o stoc dai Cymru; roedd 80% yn cael eu darparu mewn cartrefi perchen-feddianwyr.

Er bod y data a nodir uchod yn rhoi rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol, mae nifer o adolygiadau wedi tynnu sylw at fylchau sylweddol yn yr wybodaeth sy’n cael ei chasglu a’i chyhoeddi, a’r
ffyrdd mae hyn yn cyfyngu ar gyfleoedd i graffu ac i ddysgu o brofiadau pobl. Amlygwyd y materion hyn yn gryf mewn adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru:(7)

“Mae atebolrwydd a thryloywder wrth ddarparu addasiadau wedi bod yn wael ers tro byd… Mae Llywodraeth Cymru yn casglu rhywfaint o ddata perfformiad gan gymdeithasau tai ac asiantaethau Gofal a Thrwsio ond nid yw’n darparu’r wybodaeth hon i’r cyhoedd.

“Mae gwendidau’r trefniadau goruchwylio presennol yn golygu nad yw’n bosibl craffu’n effeithiol er mwyn deall effeithlonrwydd ac effaith y system addasu ‘gyfan’. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd barnu pa mor dda y mae sefydliadau’n perfformio ac effaith gadarnhaol addasiadau ar fywydau pobl anabl a phobl hŷn.

“Mae monitro’n parhau i ganolbwyntio gormod ar fecanwaith darparu addasiadau a dim digon ar effaith, lles a manteision ehangach buddsoddiad pob corff cyhoeddus…”

Mae materion allweddol sy’n ymwneud â data perfformiad, yn ogystal ag agweddau pwysig eraill ar ddarparu DFGs ac addasiadau i gartrefi, sydd wedi cael eu nodi drwy adolygiadau ac
ymchwil, yn cael eu harchwilio yn yr adran isod.

Craffu ar DFG yng Nghymru

Fel y nodwyd uchod, mae DFGs yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi ansawdd bywyd pobl, casgliad sydd wedi’i gynnwys yn adolygiad HWYLUSO Llywodraeth Cymru o’r system
addasiadau i gartrefi yng Nghymru,(8) a nododd hefyd:

“Mae [Addasiadau] yn helpu i leihau’r galw y gellir ei osgoi ar y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol. Gall addasiadau syml fel rheilen risiau neu ganllaw, sy’n costio cymharol ychydig, atal cwympiadau ac anafiadau difrifol a chostau sylweddol e.e. mae’n costio tua £28,000 i drin torasgwrn y glun. Mae anafiadau o’r fath hefyd yn ffactor arwyddocaol wrth i rywun orfod symud i ofal preswyl.

“Mae addasiadau i gartrefi nid yn unig yn atal derbyniadau brys neu heb eu cynllunio i’r ysbyty ond gallant hefyd hwyluso rhyddhau’n gynharach o’r ysbyty…i’w galluogi i fyw’n ddiogel ac mor annibynnol â phosibl.”

Er ei bod yn ymddangos bod pwysigrwydd a manteision DFGs yn cael eu deall yn dda ar draws gwasanaethau cyhoeddus, fel y nodwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru,(9) mae amrywiaeth
o ymchwil wedi nodi nifer o faterion a themâu cyffredin sy’n effeithio ar berfformiad y system DFGs (mae Atodiad 2 yn rhoi manylion yr ymchwil a adolygwyd ar gyfer yr adran hon, yn
ogystal â chrynodeb o ganfyddiadau allweddol pob cyhoeddiad).

Ymwybyddiaeth gyfyngedig ymysg y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol

Mae adroddiadau wedi tynnu sylw at broblemau parhaus o ran dod o hyd i wybodaeth glir, gyson a hygyrch am y broses DFGs, sy’n aml yn golygu nad yw pobl yn siŵr pa gamau y gallai fod angen iddynt eu cymryd.

Ochr yn ochr â hyn, mae’n ymddangos bod pobl wedi cael eu hannog i beidio â gofyn am gymorth o ganlyniad i adroddiadau am bwysau ar wasanaethau cyhoeddus a chanfyddiadau ‘nad oes arian ar gael’,10 rhywbeth sydd hefyd, i bob golwg, wedi gwneud rhai gweithwyr proffesiynol yn fwy amharod i hyrwyddo gwasanaethau oherwydd pryderon am gapasiti.

Mae rhywfaint o dystiolaeth hefyd o ymwybyddiaeth gyfyngedig ymysg gweithwyr iechyd proffesiynol o addasiadau i gartrefi a’r cymorth sydd ar gael i alluogi’r rhain, gan arwain at golli cyfleoedd posibl o ran cyfeirio a chefnogi unigolion.(11)

Mae cymhlethdod yn rhwystr allweddol

Mae pobl hŷn a grwpiau cynrychioliadol wedi dweud eu bod yn teimlo bod y system DFGs yn gymhleth ac yn ddryslyd, yn enwedig o ran ffrydiau cyllido gwahanol a sut mae awdurdodau
lleol yn mynd ati i gynnal prawf modd, sy’n amrywio’n sylweddol ledled Cymru.

Ar ben hynny, gall cysylltu ar draws gwahanol dimau ac adrannau yn ystod y broses DFG ychwanegu cymhlethdod ac effaith at brofiadau pobl, rhywbeth y mae ymchwil yn awgrymu y
gellid ei liniaru drwy ‘un pwynt mynediad’.12 Er bod y dull hwn wedi cael ei fabwysiadu mewn rhai ardaloedd, nid yw wedi cael ei fabwysiadu’n gyson ledled Cymru o hyd.

Mae arferion anghyson yn arwain at ganlyniadau gwahanol

Mae canllawiau cyfyngedig i awdurdodau lleol pan gyflwynwyd grantiau cyfleusterau i’r anabl wedi arwain at amrywiadau sylweddol mewn systemau, polisïau a dulliau o ddarparu
addasiadau ar draws gwahanol ardaloedd, rhywbeth sydd â’r potensial i greu gwasanaethau anghyfartal.(13)

Mae tystiolaeth hefyd bod statws tenantiaeth yn effeithio ar fynediad pobl at addasiadau, gyda pherchnogion preifat yn aml yn ei chael hi’n anoddach dod o hyd i wybodaeth am addasiadau,
ac yn wynebu costau gwahanol o’i gymharu â thenantiaid mewn tai cymdeithasol.(14)

Cyfleoedd i leihau amseroedd aros

Mae amseroedd aros ar gyfer DFGs a gwaith dilynol wedi bod yn ffocws allweddol i lawer o’r ymchwil a wnaed hyd yma, gydag amseroedd ar gyfer asesiadau gan therapyddion galwedigaethol yn fater penodol a pharhaus. Ochr yn ochr â hyn, nid yw’n ymddangos bod llawer o gysondeb o ran brysbennu neu ddiffinio addasiadau sy’n flaenoriaeth uchel, a gallai’r naill a’r llall helpu i gyflymu’r broses.

Mae tystiolaeth hefyd yn dangos bod y defnydd o Aseswyr Dibynadwy – gweithwyr proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi a’u hawdurdodi i asesu ar gyfer addasiadau bach a chanolig heb fod
angen therapydd galwedigaethol – yn dal i fod braidd yn gyfyngedig, er gwaethaf eu potensial i leihau amseroedd aros ar gyfer asesiadau.(15)

Yn yr un modd, mae ymchwil yn awgrymu y gallai camau pellach i ddileu addasiadau bach a chanolig o’r broses DFG yn gyfan gwbl, gan ddefnyddio ffrydiau cyllido gwahanol fel y Rhaglen
Addasiadau Brys (RRAP) helpu i leihau amseroedd aros.(16)

Rôl prawf modd

Mae cytundeb ar draws yr ymchwil a adolygwyd nad yw’r prawf modd sy’n ymwneud â DFGs yn ffordd effeithiol o asesu anghenion unigolyn ac nad yw’n ystyried y costau ychwanegol y gallai rhywun eu hwynebu wrth fyw gydag anabledd neu salwch tymor hir.(17)

Ar ben hynny, mae ymchwil ehangach hefyd yn dangos y gallai prawf modd atal pobl rhag gwneud cais, gydag ymarferwyr yn amcangyfrif bod hyd at 30% o ddarpar ymgeiswyr yn tynnu’n ôl o ganlyniad i brawf modd.(18)

Awgrymwyd hefyd y gallai prawf modd hefyd fod yn fath o ‘borthor’ sy’n atal ymholiadau, rhywbeth sy’n ymddangos fel pe bai’n cael ei gefnogi gan y farn a rennir gan rai rhanddeiliaid y
byddai dileu’r prawf modd yn arwain at ‘lifogydd’ o geisiadau, gan greu pwysau ychwanegol ar gyllid ac adnoddau.(19)

Fodd bynnag, nid yw’r farn hon yn cael ei harddel yn gyffredinol, gydag eraill yn dadlau y byddai dileu’r prawf modd yn rhyddhau adnoddau drwy leihau biwrocratiaeth a chostau gweinyddol.(20)

Heriau cwrdd â chostau a galw cynyddol

Mae tystiolaeth yn dangos bod y gyllideb sydd ar gael i awdurdodau lleol i ddarparu DFGs yn methu’n gyson â bodloni costau chwyddiant a’r galw cynyddol, sy’n golygu bod llawer o
awdurdodau lleol yn ei chael hi’n anodd diwallu anghenion pobl.

Yn ogystal â’r ffaith bod gwariant mewn termau real wedi aros yr un fath dros nifer o flynyddoedd, mae’n ymddangos hefyd mai ychydig iawn o gynllunio strategol neu flaenoriaethu sydd wedi bod i sicrhau y byddai’r cynnydd disgwyliedig yn y galw yn cael ei ddiwallu.(21)

Cytunir yn eang fod y trothwy grant uchaf o £36,000, sydd bellach wedi bod ar waith ers dros ugain mlynedd, yn rhy isel i ariannu’n llawn y gwaith sy’n ofynnol mewn llawer achos.(22) Er bod awdurdodau lleol yn gallu gwneud taliadau ‘atodol’ dewisol i dalu costau sy’n uwch na’r trothwy, mae anghysondeb o ran sut mae hyn yn cael ei gymhwyso, a allai olygu nad yw gwaith yn mynd rhagddo neu fod unigolion yn gorfod dod o hyd i gyllid ychwanegol, rhywbeth a allai ddatgymell unigolion rhag gwneud cais.(23)

Rheoli a mesur perfformiad

Tynnwyd sylw at gyfyngiadau sy’n ymwneud â’r data a gasglwyd am agweddau allweddol ar DFGs ac addasiadau i gartrefi ar draws nifer o adolygiadau.

Er enghraifft, cafodd data sy’n ymwneud ag amseroedd aros o un pen i’r llall ar gyfer DFGs ei gyhoeddi’n genedlaethol rhwng 2006 a 2019 ond nid yw ar gael mwyach, sy’n golygu ei bod yn anodd asesu data cadarn y gellir ei gymharu ar amseroedd aros mewn gwahanol ardaloedd.

Mae tystiolaeth hefyd yn dangos bod anghysondebau yn y ffyrdd y mae amseroedd aros yn cael eu mesur gan awdurdodau lleol: mae rhai yn defnyddio’r ymchwiliad cychwynnol fel y ‘man
cychwyn’ – fel y nodir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru – ond mae eraill yn dechrau mesur o’r pwynt asesu gan therapydd galwedigaethol.(24)

Er bod rheoliadau adrodd wedi cael eu safoni i gasglu data perfformiad a gweithgarwch allweddol, nid yw’r dangosyddion a ddefnyddir yn casglu digon o wybodaeth am ganlyniadau na
phrofiadau pobl, ac nid oes mecanwaith ar hyn o bryd i gofnodi cymhlethdod achosion. Ar ben hynny, mae’n bwysig nodi bod y data hwn wedi cael ei gyhoeddi ddiwethaf yn 2020/21 a bod y
gyfradd ymateb gan awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn dal yn gymharol isel.

Tynnwyd sylw hefyd at y diffyg data cyhoeddedig ar ffrydiau cyllido eraill gan mai dim ond 55% o gyfanswm y gwariant addasu y mae data DFG yn ei gynnwys a dim ond 14% o’r bobl a gafodd waith, sy’n golygu nad yw hyn yn rhoi darlun llawn o berfformiad ar draws y gwaith o ddarparu addasiadau yn gyffredinol.(25)

Arferion cadarnhaol

Ochr yn ochr â’r materion a’r themâu cyffredin a amlygwyd uchod, mae ymchwil hefyd wedi nodi rhai arferion cyffredin sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar wasanaethau.

Mae hyn yn cynnwys defnyddio Aseswyr Dibynadwy a chynlluniau grant wedi’u targedu i gyflymu gwaith symlach; un pwynt mynediad i lywio ffrydiau cyllido; integreiddio gwasanaethau tai a therapi galwedigaethol yn agosach; a rhestrau o gontractwyr dibynadwy a chofrestrau tai hygyrch i wella’r ddarpariaeth.

Fodd bynnag, nid yw’r dulliau hyn yn cael eu defnyddio’n gyson ledled Cymru, sy’n golygu y gall profiadau pobl amrywio’n sylweddol yn dibynnu ar ble maen nhw’n byw.

Canfyddiadau’r Comisiynydd

Casglu data a gwybodaeth gan awdurdodau lleol

Fel y nodwyd yn yr adroddiad hwn, mae addasiadau i gartrefi a DFGs yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gefnogi iechyd, lles ac annibyniaeth llawer o bobl hŷn ledled Cymru. Felly, mae’n hanfodol deall pa mor effeithiol mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau yn y meysydd hyn ac, yn bwysig iawn, beth mae hyn yn ei olygu o ran profiadau pobl hŷn drwy gydol y prosesau hyn.

Mae adborth a rannwyd gyda’r Comisiynydd gan bobl hŷn ledled Cymru yn awgrymu bod nifer o unigolion yn wynebu materion wrth lywio’r system addasiadau i gartrefi, yn arbennig pan fo DFG yn gysylltiedig, neu’n wynebu arosiadau hir i waith gael e gwblhau.

Roedd y Comisiynydd eisiau edrych yn fanylach ar y materion sy’n wynebu pobl hŷn, o ystyried eu heffaith bosibl ar ansawdd bywyd, ond roedd yn cydnabod y byddai gan y data sydd ar gael
gyfyngiadau o ran y wybodaeth y gallai ei chynnig am faterion cyfredol neu pam y gallent fod yn digwydd.

Er mwyn cael darlun cliriach o’r sefyllfa bresennol yng Nghymru o ran DFGs, ysgrifennodd y Comisiynydd at brif weithredwyr awdurdodau lleol ym mis Gorffennaf 2025 i ofyn am yr wybodaeth ganlynol:

  • Amseroedd aros o un pen i’r llall o safbwynt y cwsmer
  • Data demograffig ar y rhai sy’n derbyn DFG (oedran, rhyw ac ethnigrwydd)
  • Barn ar rwystrau a heriau sy’n ymwneud â’r system DFG
  • Safbwyntiau ar sut y gellid gwneud y broses DFG yn fwy effeithlon neu effeithiol, yn enwedig o ran lleihau amseroedd aros a gwella profiad cyffredinol cwsmeriaid
  • Enghreifftiau o arferion da lleol.

Cafwyd ymatebion gan 21 o’r 22 awdurdod lleol. Ni ddarparodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ymateb.

Amseroedd aros o un pen i’r llall

Gall yr amser y mae’n ei gymryd i wahanol gamau o’r broses DFG gael eu cwblhau – o nodi’r angen am addasiadau, i wneud ceisiadau, i waith yn cael ei gwblhau – chwarae rhan hollbwysig
yn y canlyniadau a brofir gan berson hŷn.

Er enghraifft, gallai oedi olygu bod rhywun yn cael codwm neu anaf difrifol arall gartref, neu gallai olygu bod unigolyn yn cael ei adael heb ddewis ond symud i gartref gofal ar ôl cael ei ryddhau o’r ysbyty.

Er mwyn adlewyrchu’r dull a ddefnyddiwyd mewn fframweithiau Dangosyddion Gwasanaeth Cenedlaethol a Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus blaenorol (a ddefnyddiwyd fel sail ar gyfer data amseroedd aros a gyhoeddwyd tan 2019) a chaniatáu rhyw fath o gymhariaeth, gofynnodd y Comisiynydd i awdurdodau lleol gynnwys manylion am y canlynol yn eu hymatebion:

  • Unrhyw brosesau brysbennu neu ganolfan gyswllt gychwynnol
  • Asesiadau Therapyddion Galwedigaethol Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Yr amser a gymerwyd gan y Tîm Tai i gwblhau’r prawf modd rhagarweiniol a llawn
  • Amser i gwblhau unrhyw arolwg eiddo, cyhoeddi amserlen waith, derbyn cais am grant, a rhoi cymeradwyaeth grant (gan gynnwys Tîm Tai ALl, asiantaeth/pensaer trydydd parti neu asiantaeth Gofal a Thrwsio)
  • Prosesau ar y safle gan gynnwys ceisiadau cynllunio a’r holl waith adeiladu hyd at y dyddiad y cafodd yr holl waith ei ardystio gan yr Awdurdod Lleol fel gwaith sydd wedi’i gwblhau

Roedd y rhan fwyaf o’r 21 ymatebwyr yn gallu ffitio eu hatebion i’r categorïau hyn, gyda rhai’n darparu dadansoddiad manylach nag eraill. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi’r canlynol mewn
perthynas â nifer fach o ymatebion a gafwyd, sy’n tynnu sylw at rai o’r anghysondebau yn y ffordd y mae gwybodaeth yn cael ei chasglu a’i chofnodi:

  • Darparodd Merthyr un ffigur mewn ymateb i’r cwestiwn am amser aros o un pen i’r llall, heb unrhyw ddadansoddiad o wahanol gamau.
  • Darparodd Powys ymateb asesu therapydd galwedigaethol o 6-8 wythnos, felly defnyddiwyd 7 wythnos (49 diwrnod calendr).
  • Nid oedd Sir Ddinbych wedi cynnwys unrhyw amser prosesu cyn i’r DFG gyrraedd Tai e.e. brysbennu, asesiad therapydd galwedigaethol. At ddibenion yr adroddiad hwn,
    defnyddiwyd yr amser cyfartalog o 84 diwrnod ar gyfer brysbennu, asesiad Therapi Galwedigaethol ac atgyfeirio ymlaen i Tai, wedi’i gyfrifo o’r 20 Awdurdod Lleol a
    ddarparodd yr wybodaeth hon, ar gyfer amser aros o un pen i’r llall Sir Ddinbych.

Beth mae’r data yn ei ddweud wrthym

Ar sail yr ymatebion a gafwyd, yr amser aros cyfartalog o un pen i’r llall ar gyfer addasiadau cysylltiedig â DFG yng Nghymru yn ystod 2024/25 oedd 370 diwrnod calendr.

Adroddodd Torfaen am yr amser aros byrraf ar gyfartaledd, sef 196 diwrnod. Ceredigion a adroddodd am yr amser aros hiraf ar gyfartaledd o 692 diwrnod, a oedd yn sylweddol uwch na’r ffigur uchaf nesaf o 486 diwrnod yng Nghonwy (gwahaniaeth o bron i 7 mis).

Dylid nodi hefyd bod y wybodaeth a ddarparwyd gan awdurdodau lleol yn seiliedig ar ffigurau cyfartalog, sy’n golygu y bydd rhai unigolion yn aros hyd yn oed yn hwy nag y mae’r ffigurau hyn yn ei ddangos.

Nifer y diwrnodau calendr ar gyfartaledd rhwng y cyswllt cyntaf a chwblhau’r gwaith, 2024/25, ar gyfer cwblhau Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl.

Graff yn dangos yr Amser Aros Cyfartalog ar gyfer Grantiau Anabledd, 2024/5, mewn dyddiau calendr. // Graph showing the Average DFG Waiting Time, 2024/5, in calendar days.

Mae edrych ar y data a rannwyd gan awdurdodau lleol yn erbyn y data a gyhoeddwyd rhwng 2005 a 2019 yn dangos bod yr amser aros cyfartalog ar gyfer 2024/5 yn cyd-fynd yn fras â’r cyfartaledd dros y cyfnod hwn (370 o’i gymharu â 332 diwrnod).

Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig nodi, er bod y ffigur o 370 diwrnod yn sylweddol well o’i gymharu â’r blynyddoedd a welodd yr amseroedd aros hiraf ar gyfartaledd, sef 593 a 545 diwrnod yn y drefn honno, mae hefyd yn dal yn gymharol uchel o’i gymharu â’r ffigurau o 213 a 207 diwrnod yn y pen isaf, a gofnodwyd yn 2018-19 a 2019-20. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid aros tua phum mis a hanner ychwanegol i’r broses gyfan gael ei chwblhau.

Newid mewn amseroedd aros DFG rhwng 2005 a 2019, a chymhariaeth â data 2024/25 y gofynnwyd amdano gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Graff sy'n dangos nifer cyfartalog y calendr (pob awdurdod lleol) i gwblhau Grant Cyfleusterau i'r Anabl o'r cyswllt cyntaf â'r awdurdod lleol. // Graph showing the average number of calendar (all local authorities) to complete a DFG from first contact with the local authority.

Mae edrych ar amseroedd aros cyfartalog ar wahanol gamau o’r broses hefyd yn rhoi cipolwg defnyddiol ar pam y gallai pobl hŷn wynebu cyfnodau hir o aros neu oedi.

Er enghraifft, mae’r data’n dangos bod pobl mewn chwarter o awdurdodau lleol Cymru’n aros dros dri mis ar gyfartaledd am asesiadau neu atgyfeiriadau gan therapyddion galwedigaethol.

Mae’n ymddangos bod oedi ar hyn o bryd, nad yw’n syndod efallai, yn effeithio ar amseroedd aros cyffredinol: ac eithrio un awdurdod lleol, y rheini sydd â’r amseroedd aros hiraf ar
gyfartaledd ar y cam ‘asesu / atgyfeirio gan therapyddion galwedigaethol’ oedd â’r amseroedd aros hiraf yn gyffredinol hefyd.

Yn yr un modd, mae’r data a gafwyd yn dangos bod pobl mewn nifer o awdurdodau lleol (7 allan o 22 ardal) yn aros dros bedwar mis ar gyfartaledd i waith adeiladu gael ei gwblhau neu ei
gymeradwyo, o’i gymharu ag amseroedd cwblhau llawer byrrach mewn sawl ardal o rhwng un a thri mis.

Unwaith eto, efallai fel y gellid disgwyl (er bod ambell eithriad), mae’n ymddangos bod amseroedd aros hirach ar hyn o bryd yn cael effaith sylweddol ar amseroedd aros cyffredinol.

Data demograffig

Mae deall demograffeg unigolion sy’n derbyn DFGs yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y cymorth yn cyrraedd y rheini sydd ei angen a bod adnoddau’n cael eu dyrannu’n deg ac yn effeithiol.

Mae data demograffig yn cynnig cipolwg ar y rhwystrau y gallai rhai grwpiau eu hwynebu, yn ogystal ag anghydraddoldebau posibl sy’n gallu golygu bod pobl yn cael eu heithrio.

Mae’n bwysig deall sut a pham y gallai rhai grwpiau fod â phrofiadau gwahanol iawn o lywio drwy’r system DFGs er mwyn cefnogi camau gweithredu ar unwaith o ran allgymorth a chymorth, yn ogystal â chynllunio tymor hwy i sicrhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu’n deg i gynyddu eu heffaith.

Felly, gofynnodd y Comisiynydd i awdurdodau lleol ddarparu data ar y rhai sy’n derbyn DFG wedi’u dadansoddi yn ôl oedran, rhyw ac ethnigrwydd. Darparodd 20 y data hwn yn llawn; nid
oedd Castell-nedd Port Talbot wedi cynnwys y data hwn yn ei ymateb. Fel y nodwyd uchod, ni ddarparodd Pen-y-bont ar Ogwr ymateb i’r Comisiynydd o gwbl.

Beth mae’r data yn ei ddweud wrthym

Oedran

Roedd y mwyafrif helaeth o’r rhai a dderbyniodd DFGs yng Nghymru yn ystod 2024/25 yn 60 oed a hŷn, sy’n cyfrif am 77% o’r ceisiadau a gwblhawyd. Mae hyn yn golygu bod dros 3,100
o’r 4,032 o DFGs a gwblhawyd ac y tynnwyd sylw atynt mewn data y gofynnodd y Comisiynydd amdano gan awdurdodau lleol, wedi mynd i bobl hŷn.

Wrth edrych ar grwpiau oedran penodol, gwelwn fod y nifer fwyaf o DFGs wedi cael eu dyfarnu i bobl 75-79 oed (19%), ac yna pobl 80-84 oed (14%).

Mae’r ffigurau hyn yn atgyfnerthu pa mor bwysig yw hi nad yw pobl hŷn yn cael eu gweld fel grŵp unffurf, gan gydnabod y gallai’r cymorth sydd ei angen ar rywun yn eu 60au fod yn
wahanol iawn o’i gymharu â rhywun yn eu saithdegau hwyr.

Er enghraifft, nid yw tua thraean o bobl 75 oed a hŷn ar-lein o gwbl, ac mae sgiliau digidol llawer mwy yn gyfyngedig, sy’n dangos bod angen i wybodaeth fod ar gael ar ffurf copïau papur, er enghraifft, a sicrhau bod prosesau ymgeisio ‘all-lein’ ar gael i’r rheini sydd eu hangen neu’n eu ffafrio. Efallai y bydd angen mwy o gymorth ar rai unigolion hefyd i lywio drwy’r prosesau hyn.

Yn yr un modd, mae’n bwysig cydnabod yr effaith bosibl y gallai arosiadau hir neu oedi ei chael o ran ‘datgyflyru’ o ganlyniad i aros yn yr ysbyty neu mewn cartref gofal os nad yw rhywun yn
gallu dychwelyd adref yn ddiogel – rhywbeth sy’n gallu digwydd yn gyflymach wrth i ni heneiddio.

Rhywedd

Darparwyd data am rywedd derbynwyr DFG gan 14 o’r 21 awdurdod lleol a ymatebodd. O’r saith na ymatebodd i’r cwestiwn hwn, dywedodd rhai nad oedd y data hwn yn cael ei gasglu nac ar gael.

Mae’r data a gafwyd yn dangos bod 56% o’r rhai a gafodd DFG yn fenywod, a 41% yn ddynion. Cafodd 2% eu categoreiddio fel ‘mae’n well gen i beidio â dweud’.

Er bod y ffigurau hyn yn cyd-fynd yn fras â’r cydbwysedd rhwng y rhywiau ymysg pobl 60 oed a hŷn yng Nghymru (53% o’i gymharu â 47%),26 mae’n ymddangos bod dynion yn cael eu
tangynrychioli ychydig.

O ystyried bod dynion yn llai tebygol o ymgysylltu â gwasanaethau – fel gwasanaethau iechyd neu gymorth – ac efallai eu bod yn fwy amharod i ofyn am help,27 gallai hyn awgrymu bod bylchau yn y ffordd mae awdurdodau lleol yn estyn allan at ddynion hŷn i sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar yr hyn sydd ei angen arnynt.

Ethnigrwydd

Roedd 14 o’r 21 awdurdod lleol a ddarparodd ymatebion yn gallu rhannu data ar ethnigrwydd y rhai sy’n derbyn DFG.

Ceir crynodeb o’r data a ddarparwyd gan awdurdodau lleol isod:

Tabl yn dangos dosbarthiad ethnig y rhai sy'n derbyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl. // Table showing the ethnic distribution of those receiving DFGs.

Mae’r ffigurau hyn yn dangos bod unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu tangynrychioli’n sylweddol, sy’n cynnwys dim ond 1.3% o’r derbynwyr ar sail y data a gafwyd, er
eu bod yn cynrychioli 6% o’r boblogaeth yng Nghymru.

Mae’n bwysig nodi y gallai’r ffigur o 1.3% fod yn amcangyfrif rhy isel oherwydd na ddarparwyd unrhyw ddata ethnigrwydd gan Gaerdydd, yr awdurdod lleol mwyaf amrywiol a phoblog o ran
ethnigrwydd yng Nghymru, a nifer o awdurdodau lleol eraill.

Fodd bynnag, hyd yn oed gan ystyried yr effaith bosibl y gallai hyn fod wedi’i chael ar y ffigurau hyn, mae cyfran y bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n derbyn DFG yn dal i ymddangos yn bryderus o isel.

Mae hyn yn debygol o adlewyrchu’r rhwystrau ychwanegol y mae pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn aml yn eu hwynebu wrth geisio cael gafael ar wasanaethau a chymorth, sy’n gallu
cynnwys anawsterau iaith a chyfathrebu, ymwybyddiaeth gyfyngedig o’r gwasanaethau sydd ar gael, darpariaeth sy’n amhriodol yn ddiwylliannol, a phrofiadau o wahaniaethu neu ragfarn a all atal ymgysylltu â systemau cymorth ffurfiol, mater a amlygwyd mewn adroddiad yn 2024 gan y Comisiynydd28 ac ymchwil ehangach.(29)

Rhwystrau, heriau a gwelliannau: safbwyntiau awdurdodau lleol

Yn ogystal â gofyn am y data a archwiliwyd uchod, gofynnodd y Comisiynydd hefyd i awdurdodau lleol rannu eu barn am y rhwystrau a’r heriau y maent yn eu hwynebu o fewn y system, yn ogystal â’r camau sydd eu hangen i sicrhau newid a gwelliannau. Roedd y Comisiynydd hefyd wedi gwahodd awdurdodau lleol i rannu enghreifftiau o arferion da lleol sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i brofiadau pobl hŷn.

Atebodd 18 o’r 21 awdurdod lleol a roddodd ymatebion y cwestiynau hyn, a oedd yn datgelu nifer o themâu a materion cyffredin, yn ogystal â rhai safbwyntiau gwahanol, fel y nodir isod.

Heriau a rhwystrau

Diffygion a darnio cyllid

Mae cyllidebau DFG ac addasiadau tai dan bwysau, ac er bod y cyllid sydd ar gael drwy’r cynllun HWYLUSO ar gyfer addasiadau bach a chanolig yn ddefnyddiol, gall hyn fod yn annigonol.

Mae cyllid ‘llithriad’ ychwanegol, sydd ar gael drwy’r gronfa Tai â Gofal, yn aml yn cael ei ddyrannu ddiwedd y flwyddyn, sy’n golygu nad yw awdurdodau lleol yn gallu cynllunio na chyflawni addasiadau mewn pryd.

Prawf modd

Mae’n ymddangos bod dileu’r prawf modd ar gyfer gwaith canolig yn dilyn canllawiau gan Lywodraeth Cymru yn effeithio ar awdurdodau lleol mewn gwahanol ffyrdd.

Mae rhai’n dweud bod dileu’r prawf modd wedi arwain at fwy o alw, a’r angen i ariannu addasiadau hyd yn oed ar gyfer y rheini a allai fforddio talu. Fodd bynnag, mae eraill yn adrodd bod dileu’r prawf modd wedi arwain at brofiad gwell i gwsmeriaid ac amseroedd aros byrrach drwy dynnu’r addasiadau hyn o’r broses DFG gymhleth.

Cytunwyd y dylid adolygu a symleiddio’r prawf modd statudol ar gyfer DFGs, gan gynnwys ystyried incwm ond nid gwariant megis costau tai.

Fframwaith deddfwriaethol a pholisi hen ffasiwn a chymhleth

Ystyrir yn gyffredinol bod Deddf 1996 a gyflwynodd DFGs wedi dyddio, ac nad yw bellach yn adlewyrchu’n llawn anghenion ac amgylchiadau’r bobl y cafodd ei chynllunio i’w cefnogi.

Tynnwyd sylw hefyd at ddiffyg canllawiau arfer gorau Cymru gyfan fel rhwystr i ddysgu a bwrw ymlaen â gwelliannau.

Costau’n cynyddu’n gyflym

Mae awdurdodau lleol yn adrodd bod cynnydd sylweddol mewn costau deunyddiau a llafur yn golygu bod nifer cynyddol o waith mawr yn uwch na’r cap DFG gorfodol o £36,000, gydag
enghreifftiau’n cael eu rhannu o gostau’n cyrraedd tua £80,000 mewn rhai achosion.

Mae hyn yn golygu bod angen cwtogi ar ddyluniadau / cynlluniau, eu hailddylunio neu, mewn rhai achosion, ystyried bod prosiectau’n anymarferol.

Galw cynyddol

Mae demograffeg newidiol a phoblogaeth gynyddol o bobl hŷn, ynghyd â newidiadau mewn polisi (fel dileu’r prawf modd ar gyfer gwaith canolig) wedi arwain at gynnydd yn y galw
cyffredinol am addasiadau a DFGs.

Capasiti a sgiliau contractwyr

Tynnodd awdurdodau lleol sylw at y ffaith bod yna brinder syrfewyr, contractwyr a chrefftwyr, yn enwedig yn lleol, gan adlewyrchu data uchod sy’n dangos y gall fod arosiadau hir ar y cam hwn o’r broses mewn rhai ardaloedd.

Gall tasgau mwy cymhleth hefyd ofyn am sgiliau arbenigol, gan gyfyngu ymhellach ar y gronfa o gontractwyr a chrefftwyr sydd ar gael i gwblhau’r gwaith angenrheidiol.

Oedi gyda phrosesau a chydymffurfio

Gall biwrocratiaeth sy’n ymwneud â deddfwriaeth gaffael a chynllunio (yn enwedig lle mae estyniadau’n cael eu hadeiladu) ychwanegu rhwystrau yn y broses addasiadau a all arwain at oedi.

Gall oedi hir hefyd gael ei achosi gan y trefniadau a’r cytundebau sydd eu hangen lle gallai gwaith effeithio ar wasanaethau cyfleustodau neu gynnwys adeiladu dros systemau draenio neu
garthffosydd.

Cymhlethdodau gweithredol

Gall anawsterau ymarferol wrth addasu stoc dai Cymru sy’n heneiddio (ymysg yr hynaf yn y DU a Gorllewin Ewrop)(30) ychwanegu amser, cymhlethdod a chost at addasiadau i gartrefi a
phrosesau DFG.

Efallai y bydd anghytundebau dylunio hefyd rhwng ymgeiswyr a Therapyddion Galwedigaethol y mae angen eu datrys cyn y gellir bwrw ymlaen â’r gwaith.

Dim adroddiadau perfformiad safonol

Mae anghysondebau o ran adrodd ar berfformiad yn ei gwneud yn anodd cymharu cynnydd ar draws awdurdodau lleol, nodi oedi a lle maent yn digwydd, neu dargedu gwelliannau’n effeithiol.

Mae diffyg adroddiadau safonol hefyd yn cyfyngu ar dryloywder, goruchwyliaeth, a rhannu arferion da.

Atebion a gynigir

Yn ogystal â thynnu sylw at y rhwystrau a’r heriau a archwiliwyd uchod, rhannodd awdurdodau lleol eu barn hefyd am y camau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r problemau y maent yn eu
hwynebu, gwneud systemau’n fwy effeithiol a gwella profiadau pobl.

Pwysleisiwyd yr angen i ddiwygio’r system gyllido, gan gynnwys cynyddu a neilltuo cyllid ar gyfer addasiadau, a chodi’r cap gorfodol o £36,000 ar DFG i adlewyrchu chwyddiant.

Tynnwyd sylw hefyd at bwysigrwydd galluogi awdurdodau lleol i gael mynediad at y Gronfa Tai â Gofal (HCF) gan mai dim ond yn anuniongyrchol y gellir cael mynediad at hyn ar hyn o bryd
– sy’n cyfyngu ar gynllunio a darparu’n brydlon – yn ogystal â’r potensial i symleiddio llwybrau cyllido drwy gyfuno’r HCF â’r cynllun HWYLUSO.

Ar ben hynny, cafwyd awgrymiadau y dylid galluogi landlordiaid cymdeithasol cofrestredig trosglwyddo stoc i gael gafael ar Grantiau Addasiadau Ffisegol (PAG), ac y dylid ehangu amodau ad-dalu wrth werthu, sy’n caniatáu i awdurdodau lleol adennill cyllid grant pan werthir eiddo o fewn cyfnod penodol, er mwyn gallu ailgylchu arian ar gyfer addasiadau yn y dyfodol.

Roedd y farn am y prawf modd yn fwy amrywiol, fel yr adlewyrchir yn yr adran uchod. Awgrymodd rhai awdurdodau lleol y dylid adfer y prawf modd ar gyfer addasiadau canolig i
reoli’r galw, tra bod eraill o blaid ei ddileu er mwyn cyflymu’r ddarpariaeth. Roedd galwadau hefyd i ailwampio a symleiddio’r prawf modd statudol ar gyfer DFGs.

Tynnwyd sylw hefyd at y potensial i gyflymu prosesau caffael, gydag awgrymiadau y gellid cyflawni hyn drwy fframweithiau strategol cenedlaethol a lleol, a Fframwaith Contractwyr
Addasiadau Cyflym – cronfa wedi’i chymeradwyo ymlaen llaw o gontractwyr dibynadwy sy’n gallu gwneud gwaith addasu’n gyflym ac am gostau y cytunwyd arnynt – a fyddai’n symleiddio
caffael ac yn cynyddu capasiti.

Yn yr un modd, awgrymwyd y gellid gwella prosesau cynllunio a chyfleustodau drwy ddirprwyo pwerau cynllunio ar gyfer DFGs a sefydlu cytundebau lefel gwasanaeth gyda darparwyr cyfleustodau i leihau’r oedi sy’n gysylltiedig â chysylltiadau a chytundebau adeiladu dros garthffosydd.

Roedd yr ymatebion yn awgrymu y byddai cymorth ar lefel genedlaethol yn fuddiol, gan gynnwys adnewyddu safonau gwasanaethau Llywodraeth Cymru a Chanllaw Ymarfer Da
newydd i Gymru gyfan. Ar ben hynny, gellid galluogi gwelliannau ychwanegol drwy gyflwyno llwybrau carlam ar gyfer achosion brys, diweddaru fframweithiau cyfreithiol lle bo angen ac
archwilio ffyrdd y gallai gwasanaethau iechyd a gwasanaethau tai gydweithio’n fwy effeithiol i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r agenda atal yng Nghymru.

Enghreifftiau o arferion da

Rhannwyd yr arferion da canlynol gan awdurdodau lleol, gan dynnu sylw at enghreifftiau o gamau gweithredu sydd wedi cael effaith gadarnhaol y gellid eu cyflwyno’n ehangach a’u mabwysiadu mewn meysydd eraill:

Llwybrau integredig a chydleoli: Mae gwasanaethau tai a therapyddion galwedigaethol yn gweithio gyda’i gilydd drwy brosesau ar y cyd – fel ymweliadau ar y cyd rhwng therapyddion
galwedigaethol a swyddogion technegol, paneli  mlddisgyblaethol, a modelau un pwynt mynediad – i wella cydgysylltu a symleiddio cymorth.

Brysbennu a blaenoriaethu drws ffrynt: Mae brysbennu cynnar yn cael ei wneud gan ddefnyddio Aseswyr Dibynadwy ar gyfer achosion nad ydynt yn gymhleth, gyda llwybrau llwybr cyflym clir, yn enwedig ar gyfer rhyddhau o’r ysbyty a gofal lliniarol, a phrosesau blaenoriaethu therapyddion galwedigaethol ar waith i uwchgyfeirio achosion brys.

Partneriaethau’r trydydd sector: Mae gwaith yn cael ei wneud mewn partneriaeth â Gofal a Thrwsio i gefnogi ymgeiswyr hŷn drwy’r broses DFG ac i gyfeirio achosion mân addasiadau at
Raglen Addasiadau Brys (RRAP) Gofal a Thrwsio.

Cymorth i ymgeiswyr ac eiriolaeth/asiantaeth fewnol: Mae rolau cyswllt cwsmeriaid penodol, pecynnau eiriolaeth a chefnogaeth, a gwasanaethau asiantaeth grantiau mewnol yn helpu i dywys ymgeiswyr drwy’r broses DFG.

Symleiddio’r gwaith papur adeg asesu: Mae therapyddion galwedigaethol yn llenwi ffurflen gais DFG yn y cartref. Defnyddir gwiriadau prawf modd cynnar ac offer hunanasesu ar-lein hefyd i osod disgwyliadau ynghylch cyfraniadau prawf modd.

Fframweithiau caffael a chontractwyr cymeradwy: Defnyddir rhestrau contractwyr cymeradwy ochr yn ochr â thendro awtomataidd a digidol, cytundebau fframwaith dyfarnu uniongyrchol (ar gyfer gwaith penodol), bandiau cost sydd wedi’u pennu ymlaen llaw, a digwyddiadau ymgysylltu â chontractwyr i symleiddio caffael a sicrhau ansawdd.

Llwybrau dewisol at gyflymu darpariaeth nad ydynt yn dibynnu ar brawf modd: Mae llwybrau nad ydynt yn dibynnu ar brawf modd yn cael eu defnyddio ar gyfer gwaith bach a chanolig, gan gynnwys benthyciadau sy’n seiliedig ar Orchymyn Diwygio Rheoleiddio ac arwystlon eiddo, ychwanegiadau dewisol, ac ailgylchu arwystlon wedi’u had-dalu i’w hail-fuddsoddi mewn addasiadau yn y dyfodol.

Cyfarpar ac atebion modiwlaidd: Defnyddir ffrydiau ariannu offer sefydlog, sy’n darparu cyllidebau penodol ar gyfer eitemau addasu safonol, a phodiau cawod ac ystafelloedd cawod
modiwlaidd i gyflymu’r gwaith gosod a galluogi ailddefnyddio.

Defnyddio HWYLUSO/Cronfa Tai â Gofal i leddfu’r pwysau ariannol: Mae HWYLUSO yn cael ei ddefnyddio ar gyfer eitemau llai ac i gefnogi rhyddhau’n gynt o’r ysbyty, ac mae cyllid Tai â Gofal yn cael ei ddefnyddio i helpu i fynd i’r afael â bylchau yn y gyllideb leol lle mae ceisiadau llwyddiannus yn cael eu gwneud.

Opsiynau tai ehangach: Ystyrir adleoli lle mae addasiadau’n anymarferol neu’n anymarferol yn ariannol, gyda gwasanaethau addasu’n gysylltiedig â chofrestrau tai hygyrch a rhannu gwybodaeth â rhaglenni Grant Tai Cymdeithasol i hysbysu cynlluniau yn y dyfodol.

Targedau a gwelliant parhaus: Mae targedau gwasanaeth lleol (e.e. amser tan ymweliad technegol, gwaith tendro) yn cael eu monitro, a chefnogir gwelliannau parhaus drwy adolygiadau ar y cyd cyfnodol rhwng Tai a therapi galwedigaethol, yn ogystal â fframweithiau blaenoriaethu.

Casgliadau a argymhellion

Casgliadau

Mae’r data a gwybodaeth sydd wedi’u casglu gan awdurdodau lleol yn dangos bod llawer o’r problemau oedd wedi’u hamlygu gan ymchwil ac adolygiadau dros gyfnod sylweddol yn dal yn
bodoli mewn rhyw ffordd, gydag anghysondeb mewn polisïau ac arferion ar draws Cymru.

Mae hyn yn golygu bod pobl hŷn yn dal yn gorfod delio â systemau cymhleth yn aml, yn ogystal ag wynebu amseroedd aros hir neu oedi er eu bod yn agored i niwed neu mewn sefyllfaoedd lle mae eu hiechyd, eu diogelwch a’u hannibyniaeth mewn perygl.

Mae’n gwbl annerbyniol bod pobl hŷn mewn rhai ardaloedd yng Nghymru yn aros bron i ddwy flynedd ar gyfartaledd ar gyfer addasiadau hanfodol yn eu cartrefi, o ystyried y gallai’r
addasiadau hyn fod yn holl bwysig i atal anafiadau, colli annibyniaeth a gorfod mynd i ysbyty neu gartref gofal.

Ond yn fwy na hynny, mae pobl hŷn yn y sefyllfaoedd hyn yn methu cyfleoedd i gael yr ansawdd bywyd gorau posib, wedi’u cefnogi gan amgylchedd cartref sy’n bodloni eu hanghenion ac sy’n cynnig dewis a rheolaeth iddynt.

Mae hefyd yn bryderus bod cyfartaledd yr amseroedd aros yng Nghymru yn ymddangos fel petai nhw wedi cynyddu 80% ers 2018/19, yn codi o 207 i 370 o ddiwrnodau – cyfartaledd aros
ychwanegol o tua 5 mis.

Mae’r ffigurau hyn hefyd yn dangos problem arall sy’n gysylltiedig â chyfyngiadau difrifol gyda’r data sy’n cael ei gasglu a’i gyhoeddi ynghylch addasiadau yn y cartref a Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl.

Gan fod cyfnod sylweddol wedi bod ers i’r data ar amseroedd aros o’r dechrau i’r diwedd gael ei gyhoeddi, nid oes modd deall a yw’r ffigur o 370 diwrnod yn eithriad, neu’n cynrychioli tuedd o
amseroedd aros yn cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf. Pe bai data wedi bod ar gael i alluogi’r math yma o graffu, mae’n bosib byddai cyfleodd wedi bodoli ynghynt i nodi problemau a allai fod
yn arwain at oedi, ac i ymateb iddynt.

Ar ben hyn, nid yw’r data cyfyngedig sydd yn cael ei gasglu yn cynnig gwir ddealltwriaeth o brofiadau a chanlyniadau pobl. Mae hyn yn golygu mai cyfyngedig yw’r cyfleoedd i ddysgu ac i ymateb.

Er bod data demograffeg ar y cyfan yn adlewyrchu data poblogaeth o ran oedran a rhywedd, mae’n hynod bryderus bod pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol hŷn yn cael eu tangynrychioli. Mae hyn yn rhywbeth sy’n debygol o adlewyrchu rhwystrau ychwanegol mae’r unigolion hyn yn eu hwynebu wrth drio cael gafael ar wasanaethau a chymorth.

Mae adborth ehangach oedd wedi’i rannu gan awdurdodau lleol hefyd yn dangos nifer o broblemau cyffredin, nid yn unig o ran cynnydd mewn costau ac yn y galw, ond hefyd y broses ei hun, anghysondebau a diffyg canllawiau cyfredol.

Er bod rhai arferion da i’w gweld, ar y cyfan mae’n ymddangos bod gormod o bobl hŷn yn cael trafferth neu’n wynebu oedi o fewn system sy’n edrych yn fwy a mwy anghynaliadwy. Mae hyn
yn golygu bod pobl hŷn yn byw mewn tai sydd ddim yn addas ar gyfer eu hanghenion efallai, neu’n peri risg i’w diogelwch hyd yn oed, gan arwain at bobl yn cael eu derbyn i’r ysbyty neu i dai gofal, yn aml yn dilyn anaf neu argyfwng arall.

Argymhellion

Mae’r Comisiynydd felly yn galw am y camau gweithredu canlynol, yn seiliedig ar ganlyniadau’r data a’r problemau a ddaeth i’r amlwg yn yr ymatebion:

Camau gweithredu i awdurdodau lleol

  • Adolygu’r data sydd eisoes yn cael ei gasglu ar y rhai sy’n cael y Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl er mwyn nodi bylchau yn y wybodaeth sy’n cael ei chasglu, yn enwedig data cydraddoldeb er mwyn gallu gwella’r gwaith dadansoddi ac adrodd.
  • Nodi ffyrdd o gasglu data sy’n gysylltiedig â phrofiadau pobl o broses y Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl a’r canlyniadau, er mwyn cefnogi dysgu a gwella.
  • Sicrhau bod gwybodaeth am y Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl a’r broses leol yn glir ac yn hygyrch, ac yn hawdd cael gafael arni mewn fformatau heb fod yn rhai digidol.
  • Cysylltu â phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol hŷn (yn ogystal â sefydliadau sy’n cynnig gwasanaethau neu gymorth) i godi ymwybyddiaeth a chynyddu’r niferoedd sy’n cael addasiadau yn y cartref a’r Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl, yn ogystal â chefnogi proses yr ymrwymiadau yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
  • Archwilio sut byddai modd mabwysiadau arferion da sydd eisoes yn bodoli (gan gynnwys enghreifftiau yn yr adroddiad hwn) i wella gwasanaethau.

Camau i Lywodraeth Cymru

  • Cyflwyno dangosyddion perfformiad cyson, Cymru gyfan a mesurau sy’n canolbwyntio ar bobl, wedi’u cefnogi gan fframwaith adrodd safonol, er mwyn sicrhau data cadarn a
    chymaradwy ar y Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl ac addasiadau yn y cartref. Dylai’r rhain gael eu cyflwyno o fewn 12 mis ar ôl ffurfio’r Llywodraeth nesaf.
  • Cyhoeddi data ar addasiadau yn y cartref a’r Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl o fewn 12 mis ar ôl diwedd y flwyddyn flaenorol er mwyn sicrhau gwell tryloywder,
    monitro, goruchwylio a chraffu, yn ogystal â chyfleoedd i nodi ac ymateb i broblemau yn gyflymach.
  • Comisiynu ymchwil i archwilio profiadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol hŷn o addasiadau yn y cartref a’r Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl er mwyn sicrhau bod modd mynd i’r afael â’r rhwystrau.
  • Gweithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi ymgysylltiad â phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol hŷn i gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar addasiadau yn y cartref a’r Grantiau
    Cyfleusterau i Bobl Anabl, wrth gyfrannu at amcanion y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i wella tegwch a mynd i’r afael â rhwystrau systematig.
  • Gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, darparwyr gwasanaethau addasiadau yn y cartref, asiantaethau cymorth a phobl hŷn er mwyn datblygu Canllaw Ymarfer Cymru Gyfan wedi’i ddiweddaru a Safonau Gwasanaeth newydd i Gymru.
  • Archwilio sut byddai modd cynyddu’r terfyn grant gorfodol presennol o £36,000 ar gyfer y Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl.
  • Adolygu trefniadau profion modd presennol yng Nghymru er mwyn deall costau a manteision profion modd, a sicrhau gwell cysondeb.
  • Sicrhau bod bylchau sgiliau sy’n effeithio ar ddarparu addasiadau yn y cartref a’r Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl yn cael eu hadlewyrchu yng nghynlluniau sgiliau a’r gweithle yn y dyfodol. Bydd cyfleoedd i wneud cynnydd arwyddocaol ar yr awgrymiadau hyn cyn Mai 2026 yn gyfyngedig oherwydd etholiad Senedd Cymru. Bydd y Comisiynydd yn gweithio gyda Llywodraeth nesaf Cymru i sicrhau cynnydd yn y meysydd allweddol hyn.

Camau gweithredu ar unwaith

Bydd angen cymryd y camau gweithredu uchod dros y tymor hir. Ond mae cyfleoedd i gymryd rhai camau ar unwaith, gan ddefnyddio’r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn gynharach yn y flwyddyn.

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod unrhyw gyllid canlyniadol mae’n ei chael ar gael i awdurdodau lleol a darparwyr y trydydd sector i’w galluogi i gyfeirio adnoddau i rannau o’r system lle, yn lleol, mae problemau neu rwystrau penodol.

Gall hyn gynnwys:

  • Cynyddu’r capasiti tymor byr er mwyn cyflymu asesiadau neu gamau cynllunio/cymeradwyo.
  • Nodi unigolion a allai fod yn agored i niwed a fyddai’n manteisio ar gymorth ychwanegol neu ar gael eu rhoi ar lwybr carlam y system.
  • Gwneud gwaith allgymorth i ymgysylltu â grwpiau sy’n fwy tebygol o wynebu rhwystrau wrth geisio cael gafael ar wasanaethau neu gymorth.
  • Gwella gwybodaeth leol am addasiadau yn y cartref a’r Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl, gan gynnwys darparu’r wybodaeth hon mewn fformatau hygyrch a rhai heb fod yn
    ddigidol.
  • Gwella’r data sydd wedi’i gasglu/gwneud ymchwil er mwyn darparu mwy o wybodaeth am anghenion lleol ac i ble dylid cyfeirio adnoddau er mwyn cael yr effaith a’r cyrhaeddiad
    mwyaf posib.

Atodiadau

Atodiad 1: Gwybodaeth am Ffrydiau Cyllido a Safonau Gwasanaeth

Mae nifer o wahanol ffrydiau cyllido neu gynlluniau yng Nghymru y gellir eu defnyddio i ddarparu addasiadau i gartrefi. Gallai darparwyr gwasanaeth gwahanol fod yn gysylltiedig yn dibynnu ar p’un a yw preswylydd yn berchen, yn rhentu’n breifat, yn denant i’r Cyngor, neu’n denant i Gymdeithas Dai.

Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl (DFG)

Mae DFG yn grant gorfodol sy’n cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol ac sy’n cael ei ddefnyddio i gyfrannu at gost addasu cartrefi. Yng Nghymru, defnyddir DFG yn gyffredinol i
ariannu addasiadau mwy a mwy costus. Yr uchafswm y gellir ei ddyfarnu ar gyfer DFG yw £36,000. Mae’r grant ar gael i bobl o bob oed ac ym mhob deiliadaeth tai, er y bydd angen i bobl sy’n rhentu eu cartref gael caniatâd gan eu landlord cyn gwneud cais.

Mae’r DFG yn destun prawf modd (ac eithrio pan wneir cais am grant gan riant neu warcheidwad plentyn anabl (dan 16 oed) neu berson ifanc (dan 19 oed). Felly, efallai y bydd yn rhaid i ymgeiswyr gyfrannu at gost yr addasiadau. Fodd bynnag, yn 2021 cyfarwyddodd Llywodraeth Cymru awdurdodau lleol i ddileu’r prawf modd ar gyfer DFGs bach a chanolig fel amod ar gyfer derbyn cyllid HWYLUSO.

Mae’r fframwaith statudol ar gyfer DFGs wedi’i nodi yn Neddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996. Er mwyn i grant gael ei gymeradwyo, rhaid i awdurdodau lleol fod yn fodlon bod y gwaith yn angenrheidiol ac yn briodol i ddiwallu anghenion y deiliad anabl a’i fod yn “rhesymol ac yn ymarferol i wneud y gwaith perthnasol gan ystyried oedran a chyflwr” yr annedd. Mae adran 23 Deddf 1996 yn nodi’r dibenion y mae’n rhaid rhoi grant DFG ar eu cyfer neu y caniateir rhoi grant o’r fath ar eu cyfer. Mae adran 3 Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl
(Uchafsymiau a Dibenion Ychwanegol) (Cymru) 2008 yn ychwanegu dau ddiben ychwanegol at DFGs yng Nghymru. Rhaid i awdurdod lleol roi gwybod i chi am ei benderfyniad i gymeradwyo neu wrthod cais am grant o fewn 6 mis i’w dderbyn. Os gwrthodir eich cais, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i chi beth yw’r rhesymau dros ei wrthod.

HWYLUSO

Fel arfer, mae mân addasiadau sy’n costio llai na £1,000 yn cael eu darparu am ddim a heb brawf modd i bobl hŷn neu’r rheini sydd angen gwneud newidiadau i’w cartref oherwydd anabledd. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant HWYLUSO i awdurdodau lleol fel adnodd hyblyg y gellir ei ddefnyddio i dalu am addasiadau bach a chanolig.

Mae rhai awdurdodau lleol yn dirprwyo eu cyllid HWYLUSO i asiantaethau Gofal a Thrwsio Cymru lleol. Gall awdurdodau lleol a chymdeithasau tai hefyd ddewis talu am fân addasiadau i
denantiaid o’u cronfeydd eu hunain.

Rhaglen Addasiadau Brys (RRAP)

Mae’r Rhaglen Addasiadau Brys yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i darparu drwy asiantaethau Gofal a Thrwsio ledled Cymru.

Pwrpas RRAP yw ariannu mân addasiadau cyflym, cost isel ac ataliol, fel canllawiau a chanllawiau cydio, neu alluogi pobl i ddychwelyd o’r ysbyty i’w cartrefi eu hunain cyn gynted â phosibl, yn aml fel rhan o wasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach Gofal a Thrwsio. Mae ar gael i berchen-feddianwyr a thenantiaid preifat.

Grant Addasiadau Ffisegol (PAG)

Mae’r Grant Addasiadau Ffisegol yn cefnogi cymdeithasau tai i dalu’r gost o wneud addasiadau i eiddo y maent yn berchen arno. Dyrennir arian i ddarparwyr tai cymdeithasol cymwys yn flynyddol, ac fe’i defnyddir i gefnogi addasiadau canolig neu fawr. Ym mis Ionawr 2021, cyhoeddwyd bod cymdeithasau tai wedi cael rheolaeth dros eu cyllideb PAG, er mwyn eu galluogi i fabwysiadu dull mwy strategol o ymdrin ag addasiadau a chynyddu’r stoc o dai hygyrch yng Nghymru yn fwy cyffredinol.

Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002

Gall awdurdodau lleol hefyd ddefnyddio eu harian eu hunain ar gyfer gwaith addasu cartrefi. Dan Orchymyn 2002, gall awdurdodau lleol gyflwyno mathau dewisol o gymorth (e.e. grantiau neu fenthyciadau) a gallant osod eu hamodau neu derfynau ariannol eu hunain. Gellid defnyddio hyn i ychwanegu at DFG, neu weithiau yn lle DFG.

Yn ogystal â’r ffynonellau cyllid uchod, mae rhai awdurdodau lleol ac asiantaethau Gofal a Thrwsio yn dweud eu bod wedi gwneud cais llwyddiannus am Gronfa Tai â Gofal (HCF) gan
Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ategu eu gwariant addasu, er nad yw swm y Gronfa Tai â Gofal ar gyfer addasiadau drwy’r llwybr hwn ar gael yn rhwydd.

Safonau Gwasanaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Safonau Gwasanaeth ar gyfer addasiadau tai,(31) sy’n nodi lefel y gwasanaeth a ddisgwylir gan bob darparwr sy’n ymwneud â darparu addasiadau tai. Mae’r safonau’n nodi sut y dylai darparwyr gyfathrebu â defnyddwyr gwasanaeth, ansawdd disgwyliedig y gwasanaethau a’r offer, a pha wiriadau cymhwysedd sydd eu hangen fel arfer. Mae’r rhain yn nodi amserlenni disgwyliedig ar gyfer cyflawni addasiadau bach, canolig a mawr.

 

Tabl yn dangos y Math o Addasiad a'r safon gwasanaeth gofynnol ddisgwyliedig a gyhoeddwyd // Table showing the Type of Adaptation and the Published expected minimum service standard.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau hefyd ar DFGs, a ddiwygiwyd ddiwethaf yn 2010.(32)

Atodiad 2: Trosolwg o brif ganfyddiadau adolygiadau addasu tai yng Nghymru 2005-2025

Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb o brif ganfyddiadau’r adolygiadau canlynol sy’n canolbwyntio ar y system addasiadau i gartrefi yng Nghymru:

  • Adolygiad Jones, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, 2005
  • CEL Transform, “Adolygiad o Gynnydd ynghylch Gweithredu’r Argymhellion ynghylch Darparu Gwasanaethau Addasu yng Nghymru”, Tachwedd 2010
  • Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, “Ymchwiliad”, Gorffennaf 2013
  • Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru, “Adolygiad o Addasiadau Byw’n Annibynnol”, Ionawr 2015
  • Llywodraeth Cymru, “HWYLUSO: Cymorth ar gyfer Byw’n Annibynnol, System Uwchraddedig ar gyfer Addasu Cartrefi”, Chwefror 2017
  • Swyddfa Archwilio Cymru, “Addasiadau Tai”, Chwefror 2018
  • Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC), “Tai a Phobl Anabl: Argyfwng Cudd Cymru”, Mai 2018
  • LIN Tai a Choleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol, “Adaptations Without Delay: A Guide to Planning and Delivering Home Adaptations Differently”, Mehefin 2019

Nodir prif ganfyddiadau pob adroddiad isod.

Jones, “Adolygiad o Addasiadau Tai gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl yng Nghymru”, Mawrth 2005

  • Mae ‘mân’ addasiadau’n amrywio yn ôl deiliadaeth ac awdurdod lleol, o lai na £350 i lai na £2,500.
  • Uchafswm y grant DFG gorfodol, £30,000.
  • Yn 2003/4, canfuwyd bod DFGs yn cymryd 595 diwrnod ar gyfartaledd i’w cwblhau.
  • Mae tai yn ariannu 97% o addasiadau tai, gwasanaethau cymdeithasol 3% ac iechyd 0%.
  • Mae pob awdurdod lleol yn dweud bod RRAP yn “effeithiol ac yn gweithio’n dda”.
  • Argymhelliad i gyflwyno dangosydd perfformiad statudol ar gyfer DFGs.
  • Argymhelliad i gyflwyno cofrestri tai wedi’u haddasu ar gyfer dyrannu tai cymdeithasol wedi’u haddasu yn fwy priodol i bobl yr oedd angen addasiadau arnynt.

CEL Transform, “Adolygiad o Gynnydd ynghylch Gweithredu’r Argymhellion ynghylch Darparu Gwasanaethau Addasu yng Nghymru”, Tachwedd 2010

  • Mae ‘mân’ addasiadau’n dal i amrywio. Terfyn o £500 wedi’i gynnig ar gyfer PAGs, mae awdurdodau lleol yn defnyddio costau amrywiol o £800 i £3,000. Nid oes gan
    gymdeithasau trosglwyddo gwirfoddol ar raddfa fawr (LSVT) fynediad at PAG a disgwylir iddynt dalu cost addasiadau gofynnol o’u hadnoddau eu hunain.
  • Cynyddodd uchafswm DFG yng Nghymru i £36,000 o dan ddeddfwriaeth.
  • Mae amseroedd cyfartalog DFG wedi gostwng o 545 (2005/6) i 349 diwrnod (2009/10). Mân addasiadau’n cael eu darparu y tu allan i’r system DFG ym mhob awdurdod lleol ac eithrio dau, gan leihau amseroedd aros o 85 diwrnod i 57 diwrnod. Rhai nad ydynt yn Therapi Galwedigaethol bellach yn cael eu defnyddio ar gyfer rhai asesiadau mân waith.
  • Gwariant y Grant Addasiadau Ffisegol (cyllid Llywodraeth Cymru i Gymdeithasau Tai) i fyny o £1.5m yn 2004/5 i £8m yn 2008/9.
  • Cyflwynwyd dangosydd perfformiad statudol gyda chanlyniadau cadarnhaol o ran codi proffil addasiadau, er bod rhywfaint o drafodaeth ynghylch a yw mesuriadau’n gywir ac yn briodol. Mae yna drafodaeth eisoes ynghylch symud oddi wrth ddangosyddion perfformiad.
    • Mae gan bob awdurdod lleol gofrestr dai wedi’i haddasu.

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, “Ymchwiliad”, Gorffennaf 2013

  • Cyfartaledd amser aros DFG yn gostwng i 325 diwrnod.
  • Cyflwyno ffrydiau ariannu ychwanegol, sy’n mynd â’r cyfanswm i saith.
  • Argymhellwyd monitro perfformiad uwch gan gynnwys yr amser a gymerir o’r ymholiad cychwynnol i gwblhau’r addasiad yn llawn, gan gynnwys DFGs, RRAP, ac ailgartrefu.
  • Argymhelliad i wneud cofrestrau tai a addaswyd yn ofyniad statudol.
  • Trafodaethau ar un pwynt mynediad a lledaenu arferion da lle mae therapyddion galwedigaethol yn eistedd mewn timau tai.

Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru, “Adolygiad o Addasiadau Byw’n Annibynnol”, Ionawr 2015

  • Dim diffiniad clir o fân addasiadau, yn amrywio o lai na £200 ac mor uchel â £5,000. Gweithdy’n argymell y dylid pennu diffiniad cenedlaethol o £1,000.
  • Adolygiad yn canfod system dameidiog gyda nifer o bwyntiau mynediad.
  • Mae trothwyon prawf modd ar gyfer DFGs yn amrywio ar draws awdurdodau lleol.
  • Adroddiadau bod tensiynau rhwng yr awydd am system symlach a realiti system gymhleth lle mae ffrydiau cyllido ychwanegol, fel RRAP, wedi cael eu creu’n llwyddiannus
    i dynnu pwysau oddi ar rannau eraill o’r system addasu.
  • Cynnig ar gyfer system dair haen ffurfiol gyda mân addasiadau ac addasiadau lefel ganolig o bosibl yn cael eu tynnu o brofion modd.
  • DFGs yn cael eu disgrifio fel “prif ffynhonnell anghydraddoldebau yn y system”.

Llywodraeth Cymru, “HWYLUSO: Cymorth ar gyfer Byw’n Annibynnol, System Uwchraddedig ar gyfer Addasu Cartrefi”, Chwefror 2017

  • Cyflwyno Hwyluso, gyda’r nod o ddarparu gwasanaeth symlach a safonol ledled Cymru.
  • Mae’n cyflwyno canllawiau cenedlaethol ynghylch addasiadau bach, canolig a mawr ni waeth beth yw deiliadaeth:
    • Bach: canllawiau cydio, canllawiau grisiau ac ati. Dim angen i Therapydd Galwedigaethol gymryd rhan. Hyd at £1,000
    • Canolig: cawodydd cerdded-i-mewn, lifftiau grisiau, rampiau. Defnyddio Aseswyr Dibynadwy, efallai y bydd angen prawf modd neu Therapi Galwedigaethol ar rai. Rhwng £1,001 a £10,000
    • Mawr: angen newidiadau strwythurol mawr i eiddo. Asesiad therapydd galwedigaethol a chymorth arbenigol. Dros £10,000.
  • Dim prawf modd ar gyfer addasiadau bach. Parhau i gynnal profion modd ar addasiadau mwy ar gyfer pobl sy’n berchen ar eu cartrefi eu hunain. Dim prawf modd ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSL).

Swyddfa Archwilio Cymru, “Addasiadau Tai”, Chwefror 2018

  • Mae’r adroddiad yn feirniadol o’r system gymhleth ac annheg, gan argymell bod Llywodraeth Cymru yn gosod safonau ar gyfer pob addasiad, beth bynnag fo’u
    daearyddiaeth a’u deiliadaeth. Dywedodd 18 o’r 22 awdurdod lleol fod ganddynt bolisïau diwygiedig ar gyfer DFG.
  • Gwelwyd nad yw pobl hŷn a phobl anabl bob amser yn gwybod ble i fynd i gael addasiadau. Argymell un ffurflen gais ar gyfer pob sefydliad mewn awdurdod lleol a gwybodaeth fwy hygyrch.
  • Argymell cyflwyno system ffurfiol ar gyfer achredu contractwyr.
  • Dylai Llywodraeth Cymru adolygu a ddylai prawf modd DFG barhau. Dim ond 20 o’r 22 awdurdod lleol sy’n ariannu DFGs yn y Sector Rhentu Preifat.
  • Mae rhai Byrddau Iechyd Lleol bellach yn cyfrannu ychydig tuag at addasiadau ond yn dal i fod heb ddull gweithredu strategol.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, “Tai a Phobl Anabl: Argyfwng Cudd Cymru”, Mai 2018

  • Dim ond 15% o awdurdodau lleol a ddywedodd fod defnyddioldeb y data sydd ganddynt ar bwy sydd angen cartrefi hygyrch yn ‘dda’, a dim ond 26% o awdurdodau lleol sy’n comisiynu arolygon i ddeall y galw am dai hygyrch.
  • Mae 52% o awdurdodau lleol yn dweud bod cyllid yn her fawr.
  • Dim ond 21% o awdurdodau lleol sy’n dweud eu bod yn cwblhau addasiad o fewn 8 wythnos. 18 wythnos (126 diwrnod) yw’r amser aros ar gyfartaledd.
  • Mae 52% o awdurdodau lleol yn defnyddio cofrestr tai hygyrch.
  • Dim ond 35% o awdurdodau lleol sy’n teimlo bod eu gwasanaethau cymorth tai yn gallu ateb y galw.

LIN Tai a Choleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol, “Adaptations Without Delay: A Guide to Planning and Delivering Home Adaptations Differently”, Mehefin 2019

  • Awgrymwyd symud i ffwrdd oddi wrth ‘bach, canolig, mawr’ a ddiffinnir yn ôl math a chost, tuag at edrych ar gymhlethdod y sefyllfa. Gwelwyd bod y rhan fwyaf o’r gwaith ‘mawr’ yn syml. Diffiniadau newydd a awgrymir:
    • Cyffredinol (syml, lefel isel)
    • Wedi’u targedu (syml, cymedrol)
    • Arbenigol (cymhleth, risg uchel)
  • Yn credu bod angen dull mwy ataliol o ymdrin â’r addasiadau sydd eu hangen.
  • Wedi canfod bod asesiadau gofal cymdeithasol yn cyfrannu at oedi.

Dogfen Ymchwil, Llywodraeth Cymru, “Dadansoddiad Gwariant o Addasiadau Tai yng Nghymru”, Gorffennaf 2021

  • Mae gan 6 o 8 ffrwd ariannu amser aros canolrifol o lai na phythefnos.
  • Y gost gyfartalog fesul addasiad mewn RSL yw £2,369 o’i gymharu ag £818 mewn tai preifat.
  • Lefelau gwariant gwahanol yn parhau rhwng awdurdodau lleol:
    • Grŵp 1: dros £15,000 fesul 1,000 o bobl (Caerdydd a Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Sir Gaerfyrddin).
    • Grŵp 2: £5,000 i £15,000 fesul 1,000 o bobl (Casnewydd, Ceredigion, Sir Benfro, Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Torfaen, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot). Yn y categori hwn, mae pob un o dan £10,000 y pen ac eithrio Casnewydd.
    • Grŵp 3: Dan £5,000 Blaenau Gwent, Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir y Fflint, Powys).
  • (Data ddim ar gael ar gyfer Merthyr Tudful a Wrecsam).
  • Argymhellwyd cyhoeddi data ar gyfer RRAP a PAG.

Cyfeiriadau

1 Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio Llywodraeth y DU 1996. Ar gael yn: https://www.legislation.gov.uk/
ukpga/1996/53/contents
2 Swyddfa Archwilio Cymru (2018) Addasiadau Tai. Ar gael yn: https://www.audit.wales/cy/publication/addasiadautai
3 Llywodraeth Cymru (2019) Safonau Gwasanaeth Addasiadau Tai. Ar gael yn: https://www.gov.wales/sites/default/
files/publications/2019-04/housing-adaptations-standards-of-service.pdf
4 Llywodraeth Cymru (2025) Cymorth ar gyfer gwelliannau tai: Ebrill 2023 i Fawrth 2024. Ar gael yn: https://www.
llyw.cymru/cymorth-ar-gyfer-gwelliannau-tai-ebrill-2023-i-fawrth-2024-html
5 Llywodraeth Cymru (2015) Adolygiad o Addasiadau Byw’n Annibynnol. Ar gael yn: https://www.gov.wales/sites/
default/files/statistics-and-research/2019-07/150123-review-independent-living-adaptions-en.pdf
6 Llywodraeth Cymru (2024) Addasiadau tai: dadansoddiad 2020 i 2021. Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/
addasiadau-tai-dadansoddiad-ebrill-2020-i-mawrth-2021
7 Swyddfa Archwilio Cymru (2018) Addasiadau Tai. Ar gael yn: https://www.audit.wales/cy/publication/addasiadautai
8 2017, System Uwchraddedig ar gyfer Addasu Cartrefi Llywodraeth Cymru
9 Swyddfa Archwilio Cymru (2018) Addasiadau Tai. Ar gael yn: https://www.audit.wales/publication/housingadaptations
10 Ibid
11 Ymchwiliad Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2013) i
Addasu Cartrefi. Ar gael yn: https://senedd.wales/media/u1vhdtnw/cr-ld9416-e-english.pdf
12 Llywodraeth Cymru (2015) Adolygiad o Addasiadau Byw’n Annibynnol. Ar gael yn: https://www.gov.wales/sites/
default/files/statistics-and-research/2019-07/150123-review-independent-living-adaptions-en.pdf
13 CEL Transform (2010) Adroddiad ar gyfer Adolygiad Llywodraeth Cynulliad Cymru o’r cynnydd o ran gweithredu
argymhellion ar ddarparu Gwasanaethau Addasu yng Nghymru. Ar gael yn: https://www.gov.wales/sites/default/
files/statistics-and-research/2019-09/101130-provision-adaption-services-en.pdf
14 Swyddfa Archwilio Cymru (2018) Addasiadau Tai. Ar gael yn: https://www.audit.wales/cy/publication/addasiadautai
15 Llywodraeth Cymru (2015) Adolygiad o Addasiadau Byw’n Annibynnol. Ar gael yn: https://www.gov.wales/sites/
default/files/statistics-and-research/2019-07/150123-review-independent-living-adaptions-en.pdf
16 Ibid
17 Llywodraeth Cymru (2015) Adolygiad o Addasiadau Byw’n Annibynnol. Ar gael yn: https://www.gov.wales/sites/
default/files/statistics-and-research/2019-07/150123-review-independent-living-adaptions-en.pdf
18 Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (2021) Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl: Newid y prawf modd Ar gael yn:
https://wcpp.org.uk/wp-content/uploads/Disabled-Facilities-Grants-Changing-the-means-test.pdf
19 Llywodraeth Cymru (2015) Adolygiad o Addasiadau Byw’n Annibynnol. Ar gael yn: https://www.gov.wales/sites/
default/files/statistics-and-research/2019-07/150123-review-independent-living-adaptions-en.pdf
20 Ibid
40 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Amser i Addasu: Archwilio’r amseroedd aros am Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl yng Nghymru 41
21 Swyddfa Archwilio Cymru (2018) Addasiadau Tai. Ar gael yn: https://www.audit.wales/cy/publication/addasiadautai
22 Llywodraeth Cymru (2021) Dadansoddiad o wariant ar addasiadau i dai yng Nghymru. Ar gael yn: https://www.
llyw.cymru/dadansoddiad-or-gwariant-ar-addasiadau-i-dai-yng-nghymru-crynodeb-html
23 Llywodraeth Cymru (2005) Adolygiad o Addasiadau Tai gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl –
Cymru. Ar gael yn (https://www.gov.wales/review-housing-adaptations-including-disabled-facilities-grants)
24 Llywodraeth Cymru (2015) Adolygiad o Addasiadau Byw’n Annibynnol. Ar gael yn: https://www.gov.wales/sites/
default/files/statistics-and-research/2019-07/150123-review-independent-living-adaptions-en.pdf
25 Swyddfa Archwilio Cymru (2018) Addasiadau Tai. Ar gael yn: https://www.audit.wales/publication/housingadaptations
26 Stats Cymru (2026) Amcangyfrifon poblogaeth yn ôl awdurdod lleol, blwyddyn, rhyw ac oedran. Ar gael yn:
https://stats.gov.wales/en-GB/82d9faea-b515-41cd-aedb-8f4594f66ce5/filtered/52sa748mfnvv?page_size=500
27 Department of Health and Social Care (2025) Men’s health: a strategic vision for England. Ar gael yn: https://
www.gov.uk/government/publications/mens-health-strategy-for-england/mens-health-a-strategic-vision-for-englandaccessible-version
28 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (2024) Heneiddio yng Nghymru: Safbwyntiau Pobl Hŷn Ddu, Asiaidd ac Ethnig
Leiafrifol. Ar gael yn: https://olderpeople.wales/resource/growing-older-in-wales-perspectives-of-black-asian-andminority-ethnic-older-people/
29 Comisiwn Anghydraddoldebau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig(2021). Adroddiad ac Argymhellion.
Ar gael yn: https://www.towerhamlets.gov.uk/Documents/BAME-Inequality-Commission/BAME-InequalitiesCommission-Report-and-Recommendations-2021.pdf
30 Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (2025) Gwersi o raglenni ôl-osod i leihau allyriadau preswyl. Ar gael yn:
https://wcpp.org.uk/wp-content/uploads/WCPP-Lessons-from-international-retrofit-programmes-to-cut-residentialemissions.pdf
31 Llywodraeth Cymru (2019) Safonau Gwasanaeth Addasiadau Tai. Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/sites/
default/files/publications/2019-04/housing-adaptations-standards-of-service.pdf
32 Llywodraeth Cynulliad Cymru (2009). Canllawiau Adnewyddu Tai: Atodiad D – Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl. Ar
gael yn: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-04/annexd-e.pdf

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges