Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol 2024-25
Cynnwys
Adroddiad ar Berfformiad
Yn yr Adroddiad ar Berfformiad, rwyf wedi amlinellu fy mlaenoriaethau strategol a’r prif bethau a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Rhagair 04 Fy rôl fel Comisiynydd 06 Gwerthoedd 07 Cipolwg ar y flwyddyn 2024-25 10 2024-25 mewn rhifau 11 Gwaith a gyflawnwyd yn ystod 2024-25 12 Grymuso pobl hŷn 12 Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb 16 Galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda 22 Adolygiad o gyllid a pherfformiad ariannol 36 Adroddiad ar Gynaliadwyedd 38
Adroddiad Atebolrwydd
Mae fy Adroddiad Atebolrwydd yn amlinellu prif nodweddion y ffordd rwy’n rheoli’r sefydliad ac yn arfer llywodraethu corfforaethol da. Mae’n cynnwys y canlynol:
Adroddiad Llywodraethu Corfforaethol 42 Datganiad Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu 47 Datganiad Llywodraethu 48 Adroddiad ar Staff a Thaliadau 58 Tystysgrif ac adroddiad archwilydd annibynnol Archwilydd Cyffredinol Cymru 69 i’r Senedd
Y Datganiadau Ariannol
Mae’r Datganiadau Ariannol, ochr yn ochr â nodiadau esboniadol ac ategol, yn cynnwys y canlynol:
Datganiadau Ariannol 76 Nodiadau i’r Cyfrifon 80
Rhagair
Mae 2024-25 wedi bod yn flwyddyn o newid sylweddol yn Swyddfa’r Comisiynydd, gyda thymor chwe blynedd fy rhagflaenydd, Heléna Herklots CBE, yn dod i ben yn ystod haf 2024, cyn i mi ddechrau yn y swydd ddiwedd mis Medi.
Hoffwn ddiolch i Heléna am ei gwaith caled ar ran pobl hŷn a’r gwahaniaeth a wnaeth, yn enwedig yn ystod yr amgylchiadau anodd iawn a gafodd eu creu gan y pandemig. Mae ei gwaith wedi rhoi llwyfan cryf i mi adeiladu arno a fydd yn fy nghefnogi i sicrhau newid cadarnhaol a’r gwelliannau y mae pobl hŷn eisiau ac angen eu gweld.
Hoffwn ddiolch hefyd i aelodau fy nhîm am reoli’r broses o bontio i Gomisiynydd newydd mor effeithiol, ac am roi croeso mor gynnes i mi.
Ers i mi ddechrau yn fy swydd, rwyf wedi teithio ar hyd a lled Cymru yn cwrdd ac yn siarad â phobl hŷn ac yn clywed yn uniongyrchol am y materion sy’n effeithio ar eu bywydau. Rwyf hefyd wedi craffu a dylanwadu ar amrywiaeth eang o bolisïau ac arferion, a siarad amdanynt, gan ymdrin â materion fel hawliau, costau byw, tlodi a cham-drin, gan sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed a bod eu hanghenion yn cael eu cydnabod a’u hystyried.
Mae’r ymgysylltu hwn a’m gwaith ehangach wedi rhoi cipolwg gwerthfawr iawn ar yr heriau a’r rhwystrau o ddydd i ddydd y sy’n wynebu pobl hŷn, ac mae wedi helpu i siapio fy Strategaeth a’m Rhaglen Waith, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2025.
Mae fy Rhaglen Waith yn canolbwyntio ar sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud yn erbyn pedwar canlyniad cenedlaethol allweddol, y mae’n rhaid eu cyflawni i wireddu fy ngweledigaeth ar gyfer Cymru – gwlad sy’n arwain y ffordd o ran grymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar sicrhau bod pobl hŷn yn:
- Cael gafael ar yr wybodaeth, y gwasanaethau a’r cymorth sydd arnynt eu hangen;
- Teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi, yn eu cymunedau ac yn eu perthnasoedd;
- Cael eu trin yn deg a bod eu cyfraniad yn cael ei gydnabod; a
- Gallu sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a bod ganddynt ddewis a rheolaeth dros
eu bywydau.
Yn ogystal â thywys fy ngwaith fy hun, mae’r canlyniadau hyn yn darparu fframwaith ar gyfer y camau y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus a gwasanaethau yng Nghymru eu cymryd i ymateb i’r ystod o heriau a rhwystrau sy’n wynebu pobl hŷn a chyflawni’r gwelliannau mae pobl hŷn eu heisiau a’u hangen.
Mae’n hanfodol bod llunwyr polisïau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn defnyddio’r canlyniadau hyn fel sail ar gyfer gweithredu, gan ddefnyddio’r dulliau newid sydd ar gael iddynt i wella gwasanaethau a chymorth i bobl hŷn ac ymateb i’w lleisiau’n fwy effeithiol.
Mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn parhau i’w fonitro’n agos fel Comisiynydd, ac ni fyddaf yn oedi cyn dal cyrff cyhoeddus i gyfrif lle bo angen, os byddaf yn teimlo nad oes digon o gynnydd yn cael ei wneud.
Drwy weithio gyda’n gilydd, mae gennym gyfleoedd i greu Cymru lle mae pob person hŷn yn cael ei werthfawrogi, ei gynnwys a’i gefnogi i fyw gydag urddas ac annibyniaeth. A thrwy wrando, gweithredu a galluogi newid ystyrlon, gallwn adeiladu cymdeithas lle mae tyfu’n hŷn yn rhywbeth i’w ddathlu – Cymru sy’n arwain y ffordd ar gyfer pobl hŷn.
Rhian Bowen-Davies Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
“Fy ngweledigaeth i ar gyfer Cymru: Gwlad sy’n arwain y ffordd wrth rymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag
anghydraddoldebau ac yn galluogi pawb i fyw ac i heneiddio’n dda.” Fy rôl fel Comisiynydd
Paratowyd y cyfrifon hyn yn unol â’r Cyfarwyddyd a roddwyd gan Weinidogion Cymru, a hynny yn unol â Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006, (y Ddeddf), Atodlen 1, Paragraff 10 (1) (b).
Rôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yw gwarchod a hybu hawliau pobl 60 oed a hŷn ledled Cymru, gan graffu a dylanwadu ar amrywiaeth eang o bolisïau ac arferion er mwyn gwella eu bywydau.
Rwy’n darparu cymorth a chefnogaeth yn uniongyrchol i bobl hŷn drwy fy nhîm Cyngor a Chymorth, ac rwy’n gweithio i rymuso pobl hŷn a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ac y gweithredir ar yr hyn y maen nhw’n ei ddweud.
Fy nghylch gwaith fel Comisiynydd
Fel y nodwyd yn Neddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006, a sefydlodd y swydd, cylch gwaith y Comisiynydd yw:
- Hybu ymwybyddiaeth o fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru a’r angen i ddiogelu’r buddiannau hynny;
- Hyrwyddo’r cyfleoedd a ddarperir i bobl hŷn yng Nghymru, a dileu rhagfarn yn eu herbyn;
- Hybu’r arferion gorau o ran y ffordd y mae pobl hŷn yn cael eu trin yng Nghymru; a
- Pharhau i adolygu digonolrwydd ac effeithiolrwydd y gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.
Ymddygiadau a Gwerthoedd Mewnol y Sefydliad
Mae gwerthoedd ein sefydliad yn disgrifio’r diwylliant rydym am ei feithrin a’r newid rydym am ei arwain. Maen nhw wedi cael eu siapio gan bwy ydym ni a’r hyn rydym ni’n credu ynddo.
Maent yn darparu sylfaen sy’n llywio sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd a chydag eraill ar ran pobl hŷn, gan ein cefnogi i weithredu gydag uniondeb, trugaredd a phwrpas.
Ein gwerthoedd:
- Eofn ac uchelgeisiol
- Yn barod i addasu ac ymateb
- Teg a chynhwysol
- Parchus ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn
- Agored ac atebol
Cipolwg ar y flwyddyn 2024-25 Ebrill 2024
Estyn allan at bobl hŷn ledled Cymru yn gofyn iddynt rannu sut mae cau canghennau banciau lleol wedi effeithio ar eu bywydau, er mwyn cyfrannu at dystiolaeth i Ymchwiliad Pwyllgor Tŷ’r Cyffredin ar fancio ar y stryd fawr yng Nghymru.
Tynnu sylw at sut mae cysylltu gwahanol genedlaethau yn lleihau stereoteipio, rhagfarn a gwahaniaethu ar sail oedran fel rhan o Wythnos Ryngwladol Pontio’r Cenedlaethau.
Mai
Cyhoeddi adroddiad yn tynnu sylw at brofiadau bywyd pobl hŷn Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru.
Galwadau am weithredu i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o benderfyniadau Na cheisier dadebru cardio-anadlol (DNACPR) a sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu cynnal.
Mehefin
Cyflwyno’r brif araith mewn gweminar fyd-eang y Cenhedloedd Unedig sy’n edrych ar sut gall mynd i’r afael ag oedraniaeth helpu i atal cam-drin pobl hŷn.
Dod â sefydliadau allweddol o bob cwr o’r DU at ei gilydd, gan gynnwys Age UK a Chomisiynydd Pobl Hŷn Gogledd Iwerddon, ar gyfer cynhadledd ar-lein i edrych ar y prif faterion sy’n effeithio ar bobl hŷn a sut gellir mynd i’r afael â’r rhain.
Gorffennaf
Cyhoeddi diweddariad ar yr ymateb i adroddiad ‘Dim Mynediad’, sy’n canfod, er bod cynnydd yn cael ei wneud, bod angen mwy o weithredu i atal pobl hŷn rhag cael eu heithrio’n ddigidol.
Cynnal digwyddiad bwrdd crwn gyda sefydliadau iechyd allweddol i gytuno ar gamau gweithredu mewn ymateb i argymhellion yn yr adroddiad practisau meddygon teulu, ochr yn ochr â lansio canllaw gwybodaeth newydd i helpu pobl hŷn i ddeall eu hawliau’n well wrth gael mynediad i bractisau yng Nghymru.
Awst
Lansio canllawiau newydd i gyrff cyhoeddus er mwyn gwneud gwybodaeth am sgamiau a thwyll ariannol yn fwy effeithiol, ar ôl ymgysylltu â phobl hŷn ledled Cymru.
Cyhoeddi adroddiad sy’n tynnu sylw at gynnydd yn ystod trydydd tymor y Comisiynydd o ran cefnogi pobl i heneiddio’n dda a mynd i’r afael â phroblemau dwfn a hirsefydlog a brofir gan bobl hŷn.
Medi
Rhian Bowen-Davies yn dechrau yn ei swydd fel Comisiynydd, gan gyflwyno ei gweledigaeth i greu Cymru sy’n arwain y ffordd o ran grymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda.
Comisiynydd Newydd yn dechrau ei Sioe Deithiol Ymgysylltu, i gyfarfod a siarad â phobl hŷn ledled Cymru a chlywed yn uniongyrchol am y materion sy’n effeithio ar eu bywydau.
Hydref
Galw ar y Canghellor i ganslo cynlluniau i wneud prawf modd yn gymwys ar gyfer y Taliad Tanwydd Gaeaf, oherwydd pryderon am yr effaith ar iechyd a lles pobl hŷn.
Rhannu gwybodaeth ac arbenigedd â chydweithwyr rhyngwladol mewn digwyddiad bwrdd crwn sy’n edrych ar sut gellir atal trais rhywiol ac ymateb iddo’n fwy effeithiol.
Tachwedd
Cynnal digwyddiad bwrdd crwn gyda sefydliadau allweddol sy’n gweithio ar draws gwasanaethau iechyd i archwilio cynnydd o ran bwrw ymlaen ag argymhellion yn adroddiad Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu y Comisiynydd a nodi lle mae angen cymryd camau pellach.
Darparu tystiolaeth i Ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ar dlodi tanwydd yng Nghymru.
Rhagfyr
Lansio ymgynghoriad cenedlaethol ‘Dweud eich Dweud’, gan annog pobl hŷn i rannu eu profiadau a’u syniadau am y camau y dylai’r Comisiynydd eu cymryd i sicrhau newid cadarnhaol.
Darparu tystiolaeth lafar i Ymchwiliad Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb Senedd y DU i hawliau pobl hŷn.
Ionawr 2025
Cyflwyno’r brif araith yn nigwyddiad Uwch Arweinwyr y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, gan alw am fwy o weithredu i atal pobl hŷn rhag cael eu heithrio’n ddigidol a gwneud gwasanaethau cyhoeddus ar-lein yn fwy hygyrch.
Cynnal ymchwil arolygon barn gyda phobl 60 oed a hŷn ledled Cymru i gasglu data ar lefel y boblogaeth am brofiadau pobl o fynd yn hŷn a materion a phryderon allweddol sy’n effeithio ar fywydau pobl hŷn.
Chwefror
Cynnal sesiynau grŵp ffocws ‘Dweud eich Dweud’ gyda gofalwyr hŷn di-dâl a phobl sy’n byw gyda dementia i edrych ar faterion penodol sy’n effeithio arnyn nhw, a’r camau gweithredu a fyddai’n cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau.
Cael dros 400 o ymatebion i’r ymgynghoriad ‘Dweud eich Dweud’ gan bobl hŷn ledled Cymru, gan ddarparu tystiolaeth amhrisiadwy i helpu i siapio strategaeth a rhaglen waith y Comisiynydd.
Mawrth
Defnyddio pwerau cyfreithiol i gyhoeddi canllawiau ffurfiol i awdurdodau lleol ledled Cymru i helpu i sicrhau bod pobl hŷn yn cael cyfleoedd ystyrlon i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymwneud ag ymgysylltu ac ymgynghori.
Darparu tystiolaeth i Ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd i ddyfodol meddygaeth deulu yng Nghymru.
Grymuso pobl hŷn
Ymgysylltu ac ymgynghori â phobl hŷn: Canllawiau i awdurdodau lleol
Mae pobl hŷn yn aml yn codi pryderon eu bod yn ei chael hi’n anodd dweud eu dweud a dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau neu eu cymunedau. Mae hyn yn gallu gwneud iddynt deimlo’n ddi-rym ac nad yw eu safbwyntiau’n bwysig.
O ganlyniad i hyn, cyhoeddwyd Canllawiau ffurfiol i awdurdodau lleol ledled Cymru yn nodi’r camau y dylent fod yn eu cymryd, i sicrhau bod pobl hŷn yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu ac ymgynghori mewn ffordd ystyrlon.
Cyhoeddwyd y Canllawiau gan ddefnyddio pwerau cyfreithiol y Comisiynydd, sy’n golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried wrth gyflawni eu swyddogaethau.
Maent wedi’u cynllunio i helpu awdurdodau lleol i gynllunio a darparu gweithgareddau ymgysylltu ac ymgynghori, yn ogystal â helpu i sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau statudol.
Mae’r Canllawiau’n adlewyrchu’r hyn mae pobl hŷn wedi’i ddweud wrth y Comisiynydd am sut maen nhw’n teimlo y byddai modd gwella’r gweithgareddau hyn, yn ogystal â defnyddio egwyddorion ehangach sy’n galluogi dulliau cynhwysol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o ymgysylltu ac ymgynghori.
Mae adborth gan awdurdodau lleol yn dangos bod y canllawiau wedi cael derbyniad da a’u bod yn cael eu defnyddio i gefnogi’r gwaith o ddatblygu strategaethau a chynlluniau ymgysylltu diwygiedig.
Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu yng Nghymru: Gwybodaeth i bobl hŷn
Un o’r canfyddiadau allweddol yn yr adroddiad Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu a gyhoeddwyd yn 2023-24 oedd bod pobl hŷn yn aml yn ansicr ynghylch y gwasanaethau y mae’n rhaid i feddygon teulu eu darparu, yn ogystal â’r gwasanaethau a’r cymorth ychwanegol sydd ar gael yn aml.
Felly, cyhoeddwyd canllaw newydd i bobl hŷn ym mis Gorffennaf 2024, sy’n darparu amrywiaeth eang o wybodaeth, gan gynnwys:
- Hawliau pobl hŷn i wasanaethau meddygol allweddol
- Opsiynau wrth gysylltu â phractis a gwneud apwyntiadau
- Tîm y practis a rolau cyffredin
- Lleisio eich barn
- Codi pryderon neu gwynion
Mae’r canllaw hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sefydliadau sy’n gallu darparu gwybodaeth a chymorth os yw pobl hŷn yn cael trafferth cael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt gan eu practis, neu sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
Anfonwyd copïau papur at bob practis yng Nghymru, gan weithio gyda Chydwasanaethau’r GIG, yn ogystal â’u rhannu â phartneriaid cymunedol a phobl hŷn mewn digwyddiadau.
Codi ymwybyddiaeth o sgamiau
Teithiodd tîm y Comisiynydd ledled Cymru i ddarparu sesiynau codi ymwybyddiaeth er mwyn helpu i ddiogelu pobl hŷn rhag sgamiau a thwyll ariannol. Mynychwyd y sesiynau hyn gan dros 200 o bobl hŷn.
Bwriad y sesiynau oedd helpu pobl hŷn i adnabod sgamiau posibl, gan rannu gwybodaeth am ddulliau sy’n cael eu defnyddio’n gyffredin gan droseddwyr, a’r camau y gall pobl eu cymryd i amddiffyn eu hunain. Roedd y sesiynau hefyd yn tynnu sylw at pam y gall pobl hŷn fod mewn perygl penodol oherwydd canfyddiad o fregusrwydd neu dybiaethau bod ganddynt lefelau uchel o asedau.
Rhannwyd gwybodaeth ymarferol am y camau y gall pobl hŷn eu cymryd i amddiffyn eu hunain rhag sgamiau, yn ogystal â thynnu sylw at yr hyn y mae angen i bobl ei wneud os ydynt yn credu eu bod wedi cael eu sgamio a darparu manylion sefydliadau sy’n gallu darparu cymorth a chefnogaeth.
Darparwyd sesiynau tebyg hefyd i nifer o sefydliadau allweddol ledled Cymru, gan gynnwys y rhwydwaith EROSH, Sefydliad y Merched, Heddlu Gogledd Cymru ac Un Llais Cymru.
Canllawiau cyfathrebu ar gyfer adnoddau twyll a sgamiau
Cynhaliwyd grwpiau ffocws a sesiynau trafod gyda phobl hŷn ledled Cymru i edrych ar ffyrdd o wneud gwybodaeth am sgamiau a thwyll ariannol a ddatblygwyd gan gyrff cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector yn fwy diddorol ac effeithiol.
Yn ystod y sesiynau hyn, rhoddodd pobl hŷn adborth ar adnoddau presennol a oedd wedi cael eu cynhyrchu gan amrywiaeth o sefydliadau, gan rannu eu barn a’u syniadau am y pethau a fyddai’n annog pobl i ddarllen ac ymgysylltu â nhw.
Defnyddiwyd y wybodaeth a gasglwyd gan bobl hŷn yn y digwyddiadau hyn i greu cyfres o ganllawiau defnyddiol a rannwyd yn eang â rhanddeiliaid ledled Cymru.
Mae’r canllawiau’n darparu gwybodaeth ddefnyddiol am y pethau allweddol y mae angen eu hystyried wrth ddatblygu adnoddau am sgamiau a thwyll ariannol i rymuso a diogelu pobl hŷn, gan gynnwys y mathau o iaith a delweddau sydd fwyaf effeithiol.
Amddiffyn hawliau pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal
Cyhoeddwyd canllaw gwybodaeth newydd ym mis Gorffennaf 2024 i helpu pobl hŷn a’u teuluoedd i ddeall eu hawliau a’r hyn y dylent ei ddisgwyl os gofynnir i unigolyn adael ei gartref gofal.
Mae’r canllaw yn cynnwys gwybodaeth am hawliau pobl a’r prosesau y dylid eu dilyn os bydd amgylchiadau o’r fath yn codi, yn ogystal â darparu atebion i gwestiynau allweddol a allai fod gan bobl. Mae hefyd yn darparu manylion a gwybodaeth gyswllt ar gyfer sefydliadau sy’n gallu cynnig cymorth a chefnogaeth i lywio’r hyn a all fod yn gyfnod heriol ac ansicr.
Mae copïau o’r canllaw wedi cael eu dosbarthu i sefydliadau cymunedol ledled Cymru, a’u rhannu mewn digwyddiadau ymgysylltu a diwrnodau gwybodaeth a fynychwyd gan y Comisiynydd a’r tîm.
Galluogi diwylliannau cadarnhaol ym maes gofal cymdeithasol
Mae aelodaeth o’r Grŵp Llywio Diwylliannau Cadarnhaol, sy’n cael ei gynnal gan Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, wedi darparu cyfleoedd i sicrhau bod profiadau pobl hŷn o ofal cymdeithasol, a’r heriau y gallent eu hwynebu, yn cael eu cydnabod a’u deall.
Mae’r gwaith gyda’r Grŵp Llywio wedi canolbwyntio’n benodol ar ddylanwadu ar adnodd newydd ar gyfer rheolwyr a staff gofal cymdeithasol sy’n cael ei ddatblygu i alluogi perthynas fwy empathig â defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd, sydd i fod i gael ei gyhoeddi yn ystod 2025-26.
Gwella’r canllawiau ar ‘uwchgyfeirio pryderon’
Fel rhan o grŵp adolygu polisi Llywodraeth Cymru ar uwchraddio pryderon – y broses y mae’n rhaid ei dilyn pe byddai cartrefi gofal a gwasanaethau eraill sy’n cael eu rheoleiddio yn datblygu problemau a/neu mewn perygl o gau – darparwyd mewnbwn i gefnogi’r gwaith o ddatblygu canllawiau newydd.
Mae hyn wedi canolbwyntio ar sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu hamddiffyn a’u cefnogi’n briodol yn ystod cyfnod sy’n aml yn anodd ac yn gythryblus iawn.
Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb Heneiddio yng Nghymru: Safbwyntiau Pobl Hŷn Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Cyhoeddwyd adroddiad ym mis Mai 2024 yn seiliedig ar brofiadau bywyd pobl hŷn Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, i dynnu sylw at y materion penodol sy’n effeithio ar eu bywydau a sut gellir mynd i’r afael â’r rhain.
Casglwyd profiadau pobl drwy weithio gyda’r sefydliadau a’r unigolion yr oedd pobl hŷn Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn ymgysylltu’n rheolaidd â nhw, a oedd yn hwyluso ymgysylltu ledled Cymru. Roedd y bobl hŷn a gymerodd ran yn gallu pennu lefel y wybodaeth yr oeddent am ei rhannu, gan ymateb drwy gyfweliadau wyneb yn wyneb a grwpiau ffocws neu drwy holiaduron ysgrifenedig.
Cyn cyhoeddi’r adroddiad, trefnwyd digwyddiadau ymgysylltu dilynol gyda’r bobl hŷn a’r sefydliadau a oedd wedi cymryd rhan, yn y fformat a oedd fwyaf addas iddynt. Cynhaliwyd rhai o’r rhain fel digwyddiadau wyneb yn wyneb, tra bod grwpiau eraill wedi derbyn fideo, neu adborth ysgrifenedig.
Roedd y camau dilynol hyn yn galluogi’r bobl hŷn a’r sefydliadau a wnaeth alluogi’r ymchwil i glywed am y canfyddiadau a thrafod sut roedd yr adroddiad yn cofnodi eu safbwyntiau a’u profiadau. Yn ystod sesiynau dilynol wyneb yn wyneb, roedd gan bobl hŷn ddiddordeb yn yr hyn roedd yr ymchwil wedi’i ganfod, a’r camau a gymerwyd o ganlyniad, sy’n cynnwys gwaith sy’n canolbwyntio ar allgáu digidol a mynediad i bractisau meddygon teulu, sy’n ddau fater allweddol a godwyd fel rhan o’r ymchwil hwn.
Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu yng Nghymru: Diweddariad cynnydd
Cyhoeddwyd adroddiad cynnydd ym mis Gorffennaf 2024 i roi manylion y camau sy’n cael eu cymryd o ganlyniad i’r gwaith Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu a wnaed yn 2023.
Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd gan fyrddau iechyd a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â sefydliadau allweddol eraill.
Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at amrywiaeth o gamau gweithredu sydd ar y gweill yn dilyn adroddiad ac argymhellion 2023 y Comisiynydd, gan gynnwys:
- Monitro cwynion yn well
- Hyfforddiant i wella gwasanaeth i gwsmeriaid a phrofiadau pobl o gael mynediad i bractisau meddygon teulu
- Moderneiddio amgylcheddau practisau meddygon teulu
- Gweithio ar y cyd i wella parhad gofal
- Edrych sut gellid cryfhau’r berthynas rhwng gofal cymdeithasol a gofal sylfaenol, er mwyn i bobl gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ddilyn cyngor meddygol
- Cefnogi pobl hŷn i gael gafael ar wasanaethau digidol a’u defnyddio
- Gwybodaeth ac adnoddau newydd i gleifion
- Casglu profiadau a safbwyntiau pobl hŷn yn fwy effeithiol
Cafodd yr adroddiad groeso cadarnhaol hefyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a ddywedodd y byddai’n helpu i lywio gwaith Llywodraeth Cymru yn adolygu safonau mynediad yn ystod 2024, yn ogystal â’u helpu i ystyried agweddau eraill ar ‘beth yw mynediad da i bractisau meddygon teulu’ i bobl hŷn.
Bwrdd Crwn Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu
Ym mis Gorffennaf 2024, cynhaliwyd digwyddiad bwrdd crwn i edrych ar sut byddai’r camau gweithredu y galwyd amdanynt yn adroddiad ‘Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu’ yn cael eu datblygu. Cafodd y digwyddiad ei gynnal a’i gefnogi gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a daeth â sefydliadau allweddol ynghyd – gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol, Cymdeithas Feddygol Prydain, Sefydliad Rheolwyr Practisau Cyffredinol, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Llais, y Coleg Nyrsio Brenhinol, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac Age Cymru.
Roedd y cyfranogwyr yn cydnabod bod pwysau ar draws y sector cyhoeddus yn effeithio ar fynediad pobl at wasanaethau, a bod angen canolbwyntio ar bobl hŷn o ran cyfathrebu’n well, teilwra gwasanaethau a sicrhau mwy o gysondeb, gan fod eu hanghenion, eu dewisiadau a’u disgwyliadau yn aml yn wahanol i rai cenedlaethau iau.
Yn ystod y digwyddiad, cytunodd y cyfranogwyr i weithio gyda’i gilydd i wneud y canlynol:
- Canolbwyntio ar sicrhau parhad gofal mewn gwasanaethau meddygon teulu i gleifion hŷn
- Cyfathrebu’n well â phobl hŷn i sicrhau eu bod yn teimlo bod eu practis yn eu gwerthfawrogi, annog pobl hŷn i ddod ymlaen ar gyfer gofal iechyd, cynyddu eu dealltwriaeth o newidiadau mewn gofal sylfaenol a rolau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill a meithrin perthynas o ymddiriedaeth â nhw
- Bwrw ymlaen â gwaith ar ofal ataliol gyda phractisau meddygon teulu a chymunedau.
- Adolygu rhaglenni sydd eisoes ar waith drwy lens cydraddoldeb ac amrywiaeth i gael darlun cliriach o safbwyntiau pobl hŷn
- Cefnogi pobl hŷn i ddefnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol eu hunain neu drwy eraill fel nad ydynt yn cael eu hallgáu’n ddigidol
- Edrych o fewn y systemau adrodd presennol i ganfod ac i ledaenu arferion da
- Edrych sut gellid cryfhau’r berthynas rhwng gofal cymdeithasol a gofal sylfaenol, er mwyn i bobl gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ddilyn cyngor meddygol
- Trafod anawsterau trafnidiaeth â’r rhannau perthnasol o Lywodraeth Cymru
- Mabwysiadu dull systematig o adrodd ar sut mae practisau meddygon teulu yn rhoi gwybod i bobl hŷn am newid
- Rhoi gwybod i bobl hŷn ac i gydweithwyr drwy eu rhwydweithiau am ganllaw gwybodaeth y Comisiynydd ar gael mynediad i bractisau meddygon teulu (gweler isod)
Cynhaliwyd digwyddiad dilynol ym mis Tachwedd 2024 a oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod cynnydd da’n cael ei wneud mewn nifer o’r meysydd hyn, gydag amrywiaeth eang o waith yn mynd rhagddo i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn yr adroddiad ‘Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu’.
Codi ymwybyddiaeth o’r berthynas rhwng oedraniaeth a cham-drin pobl hŷn
Gan adeiladu ar ddigwyddiad bwrdd crwn llwyddiannus a gynhaliwyd yn 2023, a ddaeth â rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd i archwilio’r rôl y gall oedraniaeth ei chwarae o ran galluogi cam-drin pobl hŷn, sefydlwyd gweithgor i godi ymwybyddiaeth o’r mater hwn yn ehangach.
Datblygodd y grŵp bapur briffio ar gyfer ymarferwyr, a oedd yn tynnu sylw at y corff cynyddol o ymchwil i’r mater hwn ac yn archwilio sut mae oedraniaeth yn aml yn ymwneud â cham- drin pobl hŷn, yn ogystal â sut gall agweddau oedraniaethol mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol siapio’r camau a gymerir pan fydd pryderon am gam-drin yn cael eu codi neu pan fydd cam-drin yn cael ei nodi.
Dosbarthwyd y papur briffio yn eang i randdeiliaid allweddol a’u rhwydweithiau, gan gynnwys aelodau o Grŵp Gweithredu’r Comisiynydd ar Atal Cam-drin, Gofal Cymdeithasol Cymru a’r Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol.
Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Atal Cam-drin Pobl Hŷn yng Nghymru
Cynhaliwyd digwyddiad bwrdd crwn dan gadeiryddiaeth y Comisiynydd ym mis Mehefin 2024 gan ddod â’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol a rhanddeiliaid allweddol eraill at ei gilydd, i archwilio’r cynnydd o ran cyflawni Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru i Atal Cam-drin Pobl Hŷn.
Yn ogystal ag ystyried yr ymatebion cychwynnol i’r Cynllun, roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i benderfynu ar y camau nesaf i fwrw ymlaen â chamau i atal cam-drin pobl hŷn a gwella gwasanaethau a chymorth.
Mae gwaith hefyd wedi parhau gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i nodi sut y gellid datblygu a chyflawni camau gweithredu allweddol yn y Cynllun ymhellach, ochr yn ochr â chraffu ar ddiweddariadau cynnydd ffurfiol pan gyhoeddir y rhain.
Dylanwadu ar gyflawni Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)
Mae gwaith wedi parhau gyda’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol, sy’n goruchwylio’r gwaith o gyflawni’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yng Nghymru. Mae hyn wedi canolbwyntio ar sicrhau cynnydd pellach o ran cyflawni’r strategaeth, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau ffrwd waith penodol sy’n canolbwyntio ar bobl hŷn.
Mae’r gweithgareddau hyn wedi cynnwys datblygu blaenoriaethau ymchwil i alluogi gwell cydnabyddiaeth a dealltwriaeth o brofiadau pobl hŷn o VAWDASV, a’r heriau sy’n eu hwynebu’n aml wrth gael gafael ar wasanaethau a chymorth, yn ogystal â diffinio rhinweddau a nodweddion gwasanaeth VAWDASV effeithiol o safbwynt pobl hŷn.
Grŵp Adolygu Safonau Diogelu
Cafodd y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Diogelu eu cyflwyno yn 2023 i sicrhau bod gan bob ymarferydd fynediad at Weithdrefnau Diogelu Cymru a’u bod yn cydymffurfio â nhw. Roedd bod yn aelod o’r Grŵp Adolygu Safonau Diogelu yn golygu bod modd craffu ar sut mae’r safonau’n cael eu rhoi ar waith a’r effaith maen nhw’n ei chael.
Un o brif elfennau’r gwaith hwn yn ystod 2024-25 fu datblygu cynnwys modiwlau hyfforddiant diogelu ar gyfer amrywiaeth o ymarferwyr, i helpu i sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth i weithredu’r Safonau’n effeithiol, sy’n hanfodol i gefnogi arferion da a gwelliannau parhaus.
Ymchwiliad i dlodi tanwydd yng Nghymru
Darparwyd tystiolaeth ysgrifenedig a llafar i Ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd i dlodi tanwydd yng Nghymru, gan dynnu sylw at y materion sy’n aml yn cael eu codi gan bobl hŷn. Fel rhan o’r dystiolaeth, tynnwyd sylw at faterion fel effaith byw mewn eiddo hŷn ar filiau ynni, sy’n aml wedi’u hinswleiddio’n wael, yn llaith ac yn anodd eu gwresogi, yn ogystal â materion eraill fel costau uchel nwy petrolewm hylifedig neu olew gwresogi oherwydd nad ydynt wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad.
Codwyd hefyd y caledi, y trallod a’r rhwystredigaeth y mae’r problemau hyn yn eu creu i bobl hŷn gyda’r Pwyllgor.
Croesawodd y Comisiynydd ganfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor, a oedd yn adlewyrchu’n gryf y dystiolaeth a gyflwynwyd a’i galwadau am weithredu mewn meysydd allweddol.
Dim Mynediad: Diweddariad Cynnydd
Cyhoeddwyd diweddariad cynnydd ym mis Gorffennaf 2024 i roi manylion y camau sy’n cael eu cymryd yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad ‘Dim Mynediad’ yn gynharach yn y flwyddyn.
Roedd y diweddariad yn rhoi cipolwg ar y camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a oedd yn cefnogi cynnydd yn erbyn yr argymhellion yn ‘Dim Mynediad’.
Roedd hyn yn cynnwys:
- Canllawiau newydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r sector cyhoeddus i ddylunio gwasanaethau cynhwysol drwy osgoi dull digidol yn unig, a gynhyrchwyd gyda chymorth y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
- Gwyrdroi’r penderfyniad i leihau cyllideb Cymunedau Digidol Cymru (DCW) yn sylweddol, sy’n canolbwyntio ar leihau allgáu digidol, yn dilyn pryderon a godwyd gan y Comisiynydd
- Archwilio sut gallai Canllawiau’r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus ddarparu mecanwaith i gefnogi cynhwysiant digidol
- Archwilio anghenion gwahanol rannau o boblogaeth Cymru o ran cynhwysiant digidol fel rhan o’r gwaith ar y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yng Nghymru
- Mwy o gyfranogiad gan bobl hŷn yn y gwaith o gynllunio gwasanaethau cyhoeddus drwy grwpiau ffocws ac ymgynghoriadau cyhoeddus
- Gwaith gan fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i wneud eu gwefannau’n fwy hygyrch
- Cefnogaeth wyneb yn wyneb i bobl hŷn ddysgu sgiliau digidol sy’n cael eu darparu mewn llyfrgelloedd, hybiau, canolfannau cymunedol a lleoliadau eraill
- Adfer y copïau papur o’r taflenni a’r canllawiau gwybodaeth sydd ar gael
Er bod y cynnydd sy’n cael ei wneud a mwy o ymwybyddiaeth o effaith allgáu digidol i’w groesawu, roedd y diweddariad ar gynnydd hefyd yn cynnwys galwadau am ragor o gamau ymarferol i sicrhau nad yw pobl hŷn yn cael eu heithrio rhag cael gafael ar yr wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, rhywbeth sy’n dal i gael ei fonitro.
Galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda Cefnogi cymunedau ledled Cymru i fod yn fwy oed- gyfeillgar
Darparwyd tua 40 o sesiynau cymorth i bartneriaethau Oed-gyfeillgar sy’n cael eu harwain gan awdurdodau lleol ledled Cymru yn 2024-25. Roedd y rhain yn cynnwys cyfarfodydd un-i-un, ar- lein ac wyneb yn wyneb, gan gynnig arweiniad ar ddatblygu strategaethau a chynlluniau Oed- gyfeillgar, yn ogystal â chymorth gyda cheisiadau i ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar.
Darparwyd cymorth ychwanegol, ymarferol a phwrpasol hefyd i ddwy ardal awdurdod lleol – Ceredigion a Chasnewydd – i’w galluogi i wneud cais llwyddiannus i ymuno â rhwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd a manteisio ar fuddion bod yn aelod.
Cymuned Ymarfer Oed-gyfeillgar
Drwy gydol 2024-25, ehangwyd Cymuned Ymarfer Oed-gyfeillgar Cymru i greu rhagor o gyfleoedd i aelodau rannu gwybodaeth, cyfnewid syniadau a thynnu sylw at arferion da i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cymunedau Oed-gyfeillgar ledled Cymru.
Erbyn hyn, mae’r aelodaeth yn cynnwys grwpiau pobl hŷn, awdurdodau lleol, byrddau iechyd, mudiadau’r sector gwirfoddol, sefydliadau academaidd a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Mae’r Gymuned Ymarfer wedi hwyluso trafodaethau ar draws ffiniau sirol a rhanbarthol er mwyn gallu rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth a’u defnyddio’n fwy effeithiol, yn enwedig o ran goresgyn rhwystrau sy’n gallu atal camau gweithredu rhag cael eu cymryd. Mae’r materion allweddol a ystyriwyd yn y Gymuned Ymarfer wedi cynnwys mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, presgripsiynu cymdeithasol a mynediad at gyfleoedd cyllido.
Cynyddu gwybodaeth a rhannu gwersi a ddysgwyd
Roedd cyfarfodydd Grŵp Partneriaeth Cymru Oed-gyfeillgar yn gyfle i ddod â phobl hŷn a phartneriaid lleol at ei gilydd gyda sefydliadau cenedlaethol allweddol – gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chymorth Cynllunio Cymru – i rannu gwybodaeth ddefnyddiol, yn ogystal â manylion datblygiadau polisi perthnasol yn lleol ac yn genedlaethol.
Yn ehangach, rhannwyd gwybodaeth a gwersi a ddysgwyd â rhanddeiliaid allweddol mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweminarau, gan gynnwys y Grŵp Trawsbleidiol ar Undod Rhwng Cenedlaethau, Cartrefi Cymunedol Cymru, Chwaraeon Cymru, y Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar ac Un Llais Cymru.
Hyrwyddo arferion da o Gymru ledled y DU ac yn rhyngwladol
Rhannwyd arferion da a phrofiadau o Gymru a chymunedau Oed-gyfeillgar Cymru â chydweithwyr ledled y DU, i gefnogi camau gweithredu sy’n canolbwyntio ar alluogi pobl i heneiddio’n dda.
Roedd y rhain yn cynnwys cynnal gweminar ar y cyd â Chynghrair Pobl Hŷn yr Alban i archwilio sut i oresgyn heriau sy’n ymwneud â darparu gweithgareddau Oed-gyfeillgar mewn ardaloedd gwledig, yn ogystal ag arwain sesiwn yng nghynhadledd y DU y Ganolfan Heneiddio’n Well i archwilio themâu tebyg.
Yn ogystal â hyn, roedd cyfranogiad yn Rhwydwaith y DU o Ddinasoedd a Chymunedau Oed- gyfeillgar yn parhau drwy aelodaeth gyswllt, a oedd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i rannu gwybodaeth a hyrwyddo arferion da.
Ar lefel fyd-eang, roedd cymryd rhan mewn 20 o ddigwyddiadau Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd yn rhoi cyfleoedd i weithio gydag Aelodau Cyswllt eraill ledled y byd a rhannu arweiniad a phrofiad â nhw. Roedd hyn yn cynnwys cyfrannu at fentrau Sefydliad Iechyd y Byd fel yr Hyb Gwybodaeth Cynllunio Dinesig a Thiriogaethol a Strategaeth Rhanbarth Ewrop ar Ageing is Living: Promoting a Lifetime of Health and Well-being (2026-2030).
Cyflwynwyd darlith hefyd i aelodau o dros 60 o gymunedau ledled Norwy, yn dilyn cais gan Weinyddiaeth Iechyd Norwy, er mwyn iddynt allu dysgu mwy am y camau sy’n cael eu cymryd a’r cynnydd sy’n cael ei wneud i wneud Cymru’n genedl oed-gyfeillgar.
Darparu Cyngor a Chymorth i Bobl Hŷn ledled Cymru
“Gwasanaeth gwych, byddwn yn ei argymell yn fawr i bobl eraill.”
Darparodd Tîm Cyngor a Chymorth y Comisiynydd gymorth, cefnogaeth a gwybodaeth i 525 o bobl hŷn yn ystod 2024-25, cynnydd o 38% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Darparodd y Tîm gyngor a chymorth cyfrinachol i bobl hŷn dros y ffôn, drwy lythyr ac e-bost, yn ogystal ag wyneb yn wyneb mewn digwyddiadau ymgysylltu.
Roedd cyfran sylweddol o’r ymholiadau a dderbyniwyd gan y tîm yn ymwneud ag iechyd (20%) a gofal cymdeithasol (20%), gan ddilyn gyda materion yn ymwneud â chyllid (17%) a thai (14%). Cefnogodd y tîm faterion eraill hefyd gan gynnwys cam-drin, gwahaniaethu ar sail oedran, trafnidiaeth a gwasanaethau cymunedol.
Roedd y materion a godwyd drwy’r Tîm Cyngor a Chymorth a oedd yn benodol i 2024-25 yn cynnwys:
- Anawsterau wrth gael gafael ar wasanaethau’r GIG, gan gynnwys gwasanaethau meddygon teulu a gofal sylfaenol a phryderon ynghylch triniaeth mewn ysbyty
- Pryderon wedi’u codi ynghylch gwasanaethau gofal cymdeithasol, gan gynnwys ddim yn gwybod sut a ble i gael gafael ar gymorth, amseroedd aros hir am asesiadau a phryderon ynghylch ansawdd gofal
- Pryderon ariannol gan gynnwys newidiadau i’r meini prawf ar gyfer Lwfans Tanwydd Gaeaf, costau byw uwch a thalu am ofal
- Materion tai gan gynnwys rhestrau aros am dai cymdeithasol, cynnal a chadw a chymhorthion ac addasiadau
- Allgáu digidol a hygyrchedd gwasanaethau i bobl hŷn.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, roedd adborth gan bobl hŷn am ansawdd y gwasanaeth a gynigir gan y Tîm Cyngor a Chymorth yn gadarnhaol iawn:
- Roedd 97% o ymholwyr yn cytuno’n gryf neu’n cytuno eu bod yn cael eu trin â pharch gan Dîm Cyngor a Chymorth y Comisiynydd
- Roedd 86% o’r ymholwyr yn cytuno’n gryf neu’n cytuno bod y cyngor a’r cymorth a dderbyniwyd yn ddefnyddiol
- Roedd 87% o’r ymholwyr yn cytuno’n gryf neu’n cytuno y byddent yn argymell y Gwasanaeth Cyngor a Chymorth i eraill
“Mae’r cyngor prydlon, defnyddiol a phroffesiynol a roddwyd wedi gwneud argraff fawr arnaf. Yn ystod fy ymholiad ffôn cychwynnol, roeddwn i’n teimlo bod rhywun yn gwrando arna i ac yn deall fy ymholiad. Dilynwyd hyn y diwrnod gwaith nesaf gan ddogfennau perthnasol a’r rhannau mwyaf perthnasol wedi’u hamlygu. Mae fy nheulu’n mynd drwy gyfnod anodd, yn ceisio negodi gofal ar gyfer aelod o’r teulu sy’n dod i ddiwedd ei oes. Roedd cael cefnogaeth y gwasanaeth hwn yn golygu llawer. Diolch.”
Mae’r wybodaeth a’r dystiolaeth a gasglwyd gan bobl hŷn drwy’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth yn amhrisiadwy o ran tynnu sylw at yr heriau a’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu, yn ogystal â materion sy’n dod i’r amlwg y mae angen i lunwyr polisïau a phenderfyniadau fynd i’r afael â nhw. Mae hyn yn helpu i lywio gwaith y Comisiynydd a galwadau am weithredu ac yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu Strategaeth a Rhaglen Waith y Comisiynydd, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2025.
Ymgysylltu â phobl hŷn
Roedd cwrdd a siarad â phobl hŷn ledled Cymru yn dal yn flaenoriaeth allweddol yn ystod 2024- 25, gydag ymweliadau ag amrywiaeth eang o grwpiau a lleoliadau ledled y wlad.
Roedd hyn yn cynnwys ymweliadau â grwpiau a chlybiau cymdeithasol a gweithgareddau, grwpiau cymorth (fel y rheini ar gyfer gofalwyr a phobl sy’n byw gyda dementia), cynlluniau tai gofal ychwanegol a chartrefi gofal. Cyfarfu’r Comisiynydd a’i thîm hefyd â fforymau pobl hŷn ledled Cymru, yn ogystal â grwpiau eraill fel Hynafgwyr Windrush, Men’s Sheds a Merched y Wawr.
Roedd yr ymweliadau ymgysylltu hyn yn cynnig cyfleoedd i glywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn am y materion a’r heriau sy’n effeithio ar eu bywydau ac, yn bwysig iawn, i bobl rannu eu barn a’u syniadau am sut gellir mynd i’r afael â’r rhain yn effeithiol.
Fe wnaeth cyfarfodydd rheolaidd hefyd barhau â Chadeiryddion sefydliadau pobl hŷn cenedlaethol – Cymru Egnïol, Cynghrair Pobl Hŷn Cymru, Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol a Fforwm Pobl Hŷn Cymru – i edrych ar y materion allweddol, clywed am brofiadau eu haelodau a rhannu gwybodaeth a diweddariadau allweddol.
Er mwyn estyn allan at bobl hŷn nad ydynt ar-lein, mae copïau papur o ganllawiau gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol eraill wedi cael eu dosbarthu ledled Cymru, yn ogystal â chylchlythyrau a phosteri sy’n darparu gwybodaeth neu’n annog pobl hŷn i gysylltu am gyngor a chymorth neu i rannu eu hadborth, eu safbwyntiau a’u syniadau.
Mae erthyglau papur newydd mewn cyhoeddiadau cenedlaethol a lleol hefyd wedi cael eu defnyddio i estyn allan at bobl hŷn ledled Cymru ac ymgysylltu â nhw, gan dynnu sylw at safbwynt y Comisiynydd ar faterion allweddol a’i galwadau am weithredu, yn ogystal â’r materion a’r pryderon sy’n cael eu codi mewn digwyddiadau ymgysylltu. Ochr yn ochr â hyn, mae gwybodaeth am waith y Comisiynydd ac amrywiaeth eang o adnoddau wedi cyrraedd miloedd o sianeli cyfryngau cymdeithasol i bobl hŷn a rhanddeiliaid – yn enwedig Facebook, sy’n cael ei ddefnyddio gan nifer fawr o bobl 60 oed a hŷn.
Siapio Strategaeth a Rhaglen Waith y Comisiynydd
Roedd Ymgynghoriad ‘Dweud eich Dweud’ y Comisiynydd, a lansiwyd ym mis Rhagfyr 2024, yn gwahodd pobl hŷn i gysylltu i rannu eu profiadau ac i dynnu sylw at y camau gweithredu a fyddai’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau.
Gallai pobl hŷn wneud yn siŵr bod eu lleisiau’n cael eu clywed drwy lenwi holiadur byr, a oedd yn seiliedig ar bedwar canlyniad cenedlaethol allweddol a oedd yn canolbwyntio ar sicrhau’r canlynol i bobl hŷn:
- Yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth, y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt
- Yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi, yn eu cymunedau ac yn eu perthnasoedd
- Yn cael eu trin yn deg a bod eu cyfraniad yn cael ei gydnabod
- Yn gallu sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a bod ganddynt ddewis a rheolaeth dros eu bywydau
Gellid llenwi’r holiadur yn Gymraeg neu yn Saesneg, ar-lein neu ar gopi caled. Dosbarthwyd y fersiwn ar-lein yn eang, a dosbarthwyd copïau papur, y gellid eu dychwelyd drwy Radbost hefyd mewn digwyddiadau ymgysylltu a thrwy sefydliadau rhanddeiliaid ledled Cymru.
Hefyd, gallai pobl hŷn gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd dros y ffôn i rannu eu profiadau, eu safbwyntiau a’u syniadau os mai dyna fyddai orau ganddynt.
Rhannwyd gwybodaeth am yr ymgynghoriad a’r holiadur drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol a chylchlythyr y Comisiynydd (sy’n cael ei ddosbarthu i dros 1612 o unigolion yn electronig ac ar ffurf copi caled), yn ogystal â gyda sefydliadau rhanddeiliaid er mwyn iddynt allu ei gylchredeg drwy eu rhwydweithiau.
I gefnogi’r ymgynghoriad, cafodd pecyn cyfathrebu ei greu a’i rannu’n eang a oedd yn cynnwys negeseuon a awgrymir ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, copi ar gyfer gwefannau a chylchlythyrau a phosteri y gellid eu hargraffu a’u harddangos mewn mannau cymunedol.
Roedd y Comisiynydd hefyd wedi hyrwyddo’r holiadur ac wedi annog pobl hŷn i ymateb mewn nifer o gyfweliadau teledu a radio yn ystod y cyfnod ymgynghori, ac wedi rhannu gwybodaeth am sut gallai pobl hŷn gysylltu â’i swyddfa fel rhan o straeon am ei hymweliadau ymgysylltu a rannwyd â’r wasg leol.
Ochr yn ochr â hyn, cafwyd cyfres o hysbysebion hefyd mewn papurau newydd ledled Cymru i dargedu pobl hŷn nad ydynt efallai ar-lein neu sydd â chyswllt â sefydliadau rhanddeiliaid, gan eu hannog i ymateb a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
Roedd yr ymateb i’r holiadur yn gadarnhaol iawn, gyda chyfanswm o 432 o ymatebion wedi dod i law.
Digwyddiadau ymgysylltu a grwpiau ffocws ‘Dweud eich Dweud’ gyda phobl hŷn
I ategu’r wybodaeth a’r dystiolaeth a gasglwyd gan bobl hŷn drwy’r holiadur ‘Dweud eich Dweud’, fe wnaethom gwrdd a siarad â dros 1,000 o bobl hŷn mewn amrywiaeth eang o ymweliadau a digwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru. Roedd yr ymgysylltu hwn yn amhrisiadwy, gan ddarparu cyfleoedd pwysig i glywed am y materion sy’n bwysig i bobl hŷn, yn ogystal ag am y newid a’r gwelliannau a fyddai’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau.
Yn ogystal â’r ymgysylltu hwn, trefnwyd cyfres o grwpiau ffocws a chyfarfodydd hefyd, wedi’u targedu at bobl hŷn nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed yn aml, gan gynnwys pobl hŷn sy’n byw gyda dementia, gofalwyr di-dâl a Hynafgwyr Windrush.
Ymgysylltu â sefydliadau sy’n rhanddeiliaid
Drwy gydol 2024-25, fe ymgysylltwyd yn eang â sefydliadau rhanddeiliaid ledled Cymru, y DU, ac yn ehangach, er mwyn dylanwadu ar bolisi ac ymarfer, rhannu gwybodaeth a chasglu tystiolaeth a data am brofiadau pobl hŷn.
Roedd hyn yn cynnwys cyfrannu at amrywiaeth eang o grwpiau a rhwydweithiau cynghori, yn ogystal â dod â sefydliadau allweddol at ei gilydd mewn digwyddiadau fel y trafodaethau bwrdd crwn a amlygwyd uchod. Mae hyn yn galluogi’r Comisiynydd a’r tîm i sicrhau bod profiadau pobl hŷn yn cael eu clywed, eu deall ac yr ymatebir iddynt.
Ymgysylltwyd yn rheolaidd â chyrff cyhoeddus a sefydliadau allweddol fel y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Cydffederasiwn GIG Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae hyn wedi rhoi cyfleoedd i dynnu sylw at y materion sy’n effeithio ar bobl hŷn, mynegi pryderon, galw am weithredu lle bo angen, a nodi cyfleoedd i gydweithio er budd pobl hŷn.
Ar ben hynny, mae prif areithiau wedi cael eu cyflwyno mewn cynadleddau a gweminarau sy’n rhoi sylw i faterion fel trawsnewid gofal iechyd, mynd i’r afael ag oedraniaeth, diogelu hawliau pobl hŷn, cynhwysiant digidol a hygyrchedd, a phwysigrwydd gwneud cymunedau’n oed- gyfeillgar. Mae cymryd rhan yn y digwyddiadau hyn wedi darparu cyfleoedd i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed, llywio trafodaeth a dadl a dylanwadu ar ffyrdd o feddwl a gwneud penderfyniadau ar lefel Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Adeiladwyd ar waith partneriaeth hefyd a’i gynnal ledled 2024-25 i alluogi dulliau gweithredu cydgysylltiedig a strategol i fynd i’r afael â materion allweddol ac i ddarparu cyfleoedd i godi pryderon gyda llais cyfunol pwerus.
Mae hyn wedi cynnwys gwaith parhaus gydag aelodau’r Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin a’r Grŵp Hawliau Cartrefi Gofal, yn ogystal â Rhwydwaith o sefydliadau pobl hŷn allweddol ledled y DU. Mae’r grwpiau hyn wedi edrych ar faterion allweddol sy’n effeithio ar bobl hŷn, a’r camau y mae angen i lywodraethau eu cymryd i sicrhau bod y cymorth a’r gwasanaethau cywir ar waith wrth i ni heneiddio.
Ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, Aelodau’r Senedd a Chyrff Cyhoeddus
Mae ymgysylltu a, lle bo’n briodol, gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill wedi parhau drwy gydol 2024-25. Fodd bynnag, mae pryderon wedi cael eu codi a galwyd am welliannau mewn amgylchiadau lle nad yw polisïau a/neu arferion yn diogelu ac yn cefnogi pobl hŷn yn ddigonol.
Mae hyn wedi cynnwys galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
- Cymryd camau pellach i fynd i’r afael â materion a nodwyd yn Adolygiad Arolygiaeth Gofal Cymru o benderfyniadau Peidio â Cheisio Adfywio Cardio-pwlmonaidd (CPR) yng Nghymru.
- Darparu cymorth ac adnoddau ychwanegol i awdurdodau lleol nodi gofalwyr di-dâl, gwella ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr, a sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt, ar ôl i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gyhoeddi adroddiad.
- Gweithio gyda byrddau iechyd i ymateb ar frys i faterion difrifol a amlygwyd gan Adroddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol ar ‘ofal coridor’ a mynd i’r afael â’r materion systemig ehangach a gyfrannodd at y methiannau a nodwyd.
- Sicrhau cynnydd ystyrlon i wella’r gwersi a ddysgwyd a chamau gweithredu sy’n ymwneud ag Adolygiadau Ymarfer Oedolion yng Nghymru, ar ôl codi pryderon bod llawer o faterion a nodwyd yn yr adolygiad thematig diweddaraf yn adlewyrchu materion tebyg yr adroddwyd arnynt yn 2021.
Darparwyd ymatebion hefyd i ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar amrywiaeth o faterion allweddol i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed a bod eu profiadau’n cael eu deall. Roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys costau gofal cymdeithasol, prosesau cwyno, iechyd meddwl, atal hunanladdiad a hunan-niweidio, hunan-esgeulustod, a blaenoriaethau diwylliannol.
Mae ymgysylltu ag Ysgrifenyddion Cabinet, Gweinidogion a swyddogion allweddol Llywodraeth Cymru hefyd yn golygu bod modd codi materion sy’n effeithio ar bobl hŷn yn uniongyrchol a phwyso am weithredu i fynd i’r afael â’r rhain. Yn ystod 2024-25, roedd hyn yn cynnwys yr ymgysylltu canlynol:
- Y Prif Weinidog – edrych ar flaenoriaethau a’r ffyrdd y gallai pobl hŷn gael eu diogelu a’u cefnogi gan gyllideb Llywodraeth Cymru
- Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol – archwilio sut y gellid cynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn yng Nghymru drwy dargedu a chyfathrebu’n well
- Y Dirprwy Weinidog Plant a Gofal Cymdeithasol – asesu cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Atal Cam-drin Pobl Hŷn ac archwilio sut gallai Llywodraeth Cymru gefnogi cymunedau ledled Cymru i fod yn fwy Oed-gyfeillgar.
- Y Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol – archwilio cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol a sut y gellid gwella telerau ac amodau gweithwyr gofal cymdeithasol, yn ogystal â chamau i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â Threfniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yng Nghymru
Ochr yn ochr â hyn, roedd gwaith hefyd yn parhau gydag aelodau’r Senedd yn ehangach, gan ddarparu tystiolaeth i ymchwiliadau ac ymgynghoriadau’r Pwyllgor ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys:
- Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd: Tlodi Tanwydd yng Nghymru
- Pwyllgor Cyllid y Senedd: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26
- Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Dyfodol Meddygaeth Deulu yng Nghymru
Cynhaliwyd cyfarfodydd gydag Aelodau o bob plaid yn y Senedd i rannu gwybodaeth am brofiadau heneiddio ac i drafod y polisïau a’r camau gweithredu sydd eu hangen i wella bywydau pobl hŷn, gan helpu i lywio dadleuon a phenderfyniadau.
Mae gwaith wedi parhau gyda’r Grŵp Trawsbleidiol ar Undod Rhwng Cenedlaethau, sy’n dod ag Aelodau o’r Senedd, ymchwilwyr academaidd allweddol, ymarferwyr sydd â phrofiad o redeg prosiectau pontio’r cenedlaethau a chynrychiolwyr pobl hŷn ac iau at ei gilydd. Mae’r Grŵp yn cefnogi camau gweithredu i gryfhau’r cysylltiadau rhwng cenedlaethau a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau sy’n pontio’r cenedlaethau, gyda’r nod o greu cymdeithas fwy cynhwysol.
Ymgysylltwyd hefyd â’r llywodraeth a gwleidyddion ar lefel y DU pan oedd materion sy’n effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru yn ymwneud â materion nad ydynt wedi’u datganoli. Yn ystod 2024-25 roedd hyn yn cynnwys darparu tystiolaeth lafar i Ymchwiliad Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb Senedd y DU i hawliau pobl hŷn – a oedd yn ymdrin â nifer o faterion allweddol gan gynnwys hawliau dynol, effaith oedraniaeth ac i ba raddau mae’n digwydd a chynrychiolaeth pobl hŷn yn y cyfryngau – yn ogystal â thystiolaeth ysgrifenedig i’r Ymchwiliad a oedd yn canolbwyntio ar fynediad at fancio, tlodi a chynhwysiant digidol.
Mae profi modd y Taliad Tanwydd Gaeaf hefyd wedi cael ei wrthwynebu’n gryf oherwydd ei effaith sylweddol ar lawer o bobl hŷn, gyda galwadau i adfer hyn fel hawl gyffredinol i sicrhau bod pawb sydd ei angen yn ei gael, sy’n hanfodol i ddiogelu iechyd a lles pobl.
Gweithio gyda’r cyfryngau
Mae gweithio gyda’r cyfryngau yn galluogi bod ymwybyddiaeth yn cael ei chodi o faterion a phryderon sy’n effeithio ar bobl hŷn, ynghyd â chyfleoedd i dynnu sylw at brofiadau pobl hŷn, trafod y camau sydd eu hangen i gyflawni newid a gwelliannau, a chynnig gwybodaeth a sylwadau ar ystod eang o bolisïau ac arferion.
Mae presenoldeb cryf yn y cyfryngau wedi cael ei gynnal drwy gydol 2024-25, gyda datganiadau i’r wasg a datganiadau’n cael eu cyhoeddi ar amrywiaeth eang o faterion, yn rhagweithiol ac mewn ymateb i faterion sy’n dod i’r amlwg.
Arweiniodd ymgysylltu â’r cyfryngau yn ystod 2024-2025 at 184 o eitemau newyddion ar draws cyhoeddiadau cenedlaethol, lleol a ledled y DU, yn ogystal â chyfweliadau radio a theledu. Arweiniodd hyn at 1,422,996,214 o gyfleoedd i weld eitemau ar ein gwaith yn ystod y cyfnod hwn.
Mae adborth gan bobl hŷn yn dangos eu bod yn gwerthfawrogi’n fawr bod pryderon ynghylch y materion sy’n effeithio ar eu bywydau yn cael eu codi’n gyhoeddus, a rhywun yn sefyll dros eu hawliau.
Mae pobl hŷn a’u teuluoedd hefyd yn aml yn cysylltu â’n Gwasanaeth Cyngor a Chymorth i ofyn am gymorth a chefnogaeth o ganlyniad i sylw yn y cyfryngau.
Edrych ymlaen
Fel y dangoswyd uchod, mae ein Strategaeth a’n Rhaglen Waith wedi cael eu siapio gan leisiau a phrofiadau pobl hŷn o bob cwr o Gymru, yn dilyn rhaglen helaeth o ymweliadau cyswllt wyneb yn wyneb â channoedd o bobl hŷn, a chanfyddiadau Ymgynghoriad cenedlaethol ‘Dweud eich Dweud’, yr ymatebodd dros 400 o bobl hŷn iddo.
Bydd amrywiaeth eang o waith yn cael ei wneud yn ystod 2025-26 sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau, y gefnogaeth a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt, a’u bod yn teimlo’n ddiogel gartref ac yn eu cymunedau, gyda dewis a rheolaeth dros eu bywydau.
Bydd gwaith hefyd yn canolbwyntio ar sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu trin yn deg a bod y cyfraniad sylweddol y maent yn ei wneud i’n bywydau a’n cymunedau yn cael ei gydnabod.
Bydd y camau allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod yn cynnwys:
- Archwilio profiadau pobl hŷn o ofal cymdeithasol yng Nghymru
- Adolygu mynediad at wasanaethau deintyddol
- Gwella mynediad pobl hŷn at drafnidiaeth gyhoeddus
- Diogelu hawliau pobl hŷn nad ydynt ar-lein fel nad ydynt yn cael eu heithrio rhag cael gafael ar wybodaeth, gwasanaethau a gweithgareddau bob dydd
- Gweithio gyda phartneriaid i wella diogelwch cymunedol
- Gwella gwasanaethau a chymorth i bobl hŷn sy’n cael eu cam-drin, gan gynnwys trais rhywiol
- Lansio hyfforddiant newydd i helpu llunwyr polisïau a staff y sector cyhoeddus i ddeall yn well effaith niweidiol oedraniaeth a sut y gellir herio hyn
- Gwella mynediad pobl hŷn at eiriolaeth annibynnol er mwyn iddynt allu sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn ystod cyfnodau anodd ac adegau o argyfwng.
- Gweithio gydag awdurdodau lleol i wneud cymunedau ledled Cymru yn fwy oed-gyfeillgar i gefnogi pobl i fyw ac i heneiddio’n dda
Ochr yn ochr â hyn, bydd amrywiaeth eang o bolisïau ac arferion y llywodraeth yn destun craffu ar lefel genedlaethol a lleol, ynghyd â dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau a dwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif lle bo angen.
Bydd cymorth a chefnogaeth hefyd ar gael i bobl hŷn ledled Cymru drwy’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth, sy’n helpu i sicrhau bod hawliau pobl yn cael eu cynnal ac yn grymuso pobl hŷn i herio arferion a phenderfyniadau gwael.
Adolygiad o gyllid a pherfformiad ariannol Cyllid
Yn y cronfeydd wrth gefn statudol ar ddiwedd y flwyddyn (Mawrth 2025), roedd £105,000 (£103,000: 31 Mawrth 2024).
Perfformiad Ariannol 2024-25
Mae Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr 2024-25 yn £1,614,000 (2023-24: £1,657,000).
Yn ystod 2024-25, defnyddiais 99% o’r gyllideb adnoddau a ddyrannwyd i mi gan Lywodraeth Cymru.
Crynodeb o’r rhagolwg ariannol
Ar 31 Hydref 2023, cyflwynodd fy rhagflaenydd Amcangyfrif 2024-25 i Lywodraeth Cymru yn gofyn am gyllideb o £1,748,000. Cafodd hyn ei fodelu ar y Comisiynydd yn cael cynnydd o £44,000 (2.7%), gyda’r risgiau o barhau â chyllideb wastad yn cael eu hamlygu.
Ar 19 Rhagfyr 2023, dywedodd swyddogion Llywodraeth Cymru wrth y Comisiynydd y byddai cyrff y Comisiynydd (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Comisiynydd y Gymraeg a’r Comisiynydd Plant) i gyd yn cael gostyngiad o 5% yn eu cyllideb oherwydd pwysau difrifol ar eu cyllideb eu hunain.
Y gyllideb wreiddiol a ddyrannwyd ar gyfer 2024-25 oedd £1,616,000, sy’n £132,000 neu 7.5% yn llai na’r gyllideb y gofynnwyd amdani gan Lywodraeth Cymru.
Er mwyn rheoli’r gostyngiad hwn yn y gyllideb, nododd y Comisiynydd arbedion cost. Fel rhan o’r broses hon, rhoddwyd cynllun Ymadael Gwirfoddol ar waith, a arweiniodd at arbedion o tua £92,000 y flwyddyn. O ganlyniad, lliniarwyd y pwysau ar gyllideb 2024-25.
Yn dilyn llythyr cadarnhau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2024, cadarnhawyd y cyllid adnoddau ar gyfer 2024-25 fel £1,736,000 a chyllid arian parod o £1,716,000.
Roedd hyn yn cynnwys cyllid cyfalaf o £100,000 ar gyfer datblygu System Rheoli Gwaith Achos a oedd wedi cael ei dyrannu i ddechrau yn ogystal â’r cyllid adnoddau. Hysbyswyd Llywodraeth Cymru nad oedd yn bosibl defnyddio’r gwariant cyfalaf hwn yn y flwyddyn ariannol hon ac felly cafodd cyfanswm diwygiedig y cyllid adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer 2024-25 ei ddiwygio i £1,636,000, gyda chyllid arian parod o £1,616,000.
Ar 31 Hydref 2024, cyflwynais Amcangyfrif 2025-26 yn gofyn am gyllideb o £1,722,000. Nid oedd hyn yn cynnwys y cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol a gyhoeddwyd yng nghyllideb Llywodraeth y DU ym mis Hydref 2024 ac roedd yn cynnwys cynnydd o 3% mewn costau byw ar gyfer y flwyddyn.
Ym mis Mawrth 2025, cefais wybod mai’r gyllideb adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer 2025- 26 oedd £1,750,000. Roedd hyn yn cynnwys £20,000 wedi’i ddyrannu ar gyfer y System Rheoli Achosion. Felly, y gyllideb adnoddau ddiwygiedig a ddyrannwyd ar gyfer 2025-26 yw £1,730,000, sy’n gynnydd o 5.7% ers dyraniad y flwyddyn flaenorol.
Roeddwn i’n croesawu’r cynnydd mewn cyllid adnoddau, ond nid oedd hyn yn cynnwys sicrwydd ar gyfer y newidiadau i’r cynnydd mewn Yswiriant Gwladol o fis Ebrill 2025 ymlaen, sydd, ar gyfer fy swyddfa i, yn cyfateb i £21,000.
Gan fod y gyllideb adnoddau a ddyrannwyd i mi yn llai na’r hyn sy’n ofynnol i dalu am ofynion costau cyffredinol, rwyf wedi addasu cyllideb y rhaglen waith ar gyfer 2025-26 i adlewyrchu’r diffyg hwn ac i sicrhau nad wyf yn torri rheolaeth y gyllideb adnoddau.
Mae’r cynllun ariannol tymor canolig yn dangos bod pwysau o hyd ar y gyllideb, a disgwylir y bydd diffyg o £40,000 yn 2026-27 a £90,000 yn 2027-28.
Dolen i’r wefan: Amcangyfrif y Comisiynydd
Rhian Bowen Davies Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
11 Medi 2025
Adroddiad ar Gynaliadwyedd
Mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn flaenoriaeth allweddol, a bwriad y sefydliad yw gwneud penderfyniadau sy’n ystyriol a chynaliadwy pan fo hynny’n bosibl.
Fodd bynnag, fel sefydliad bach, gydag adeilad swyddfa ar brydles, prin yw’r cyfleoedd i gael effaith sylweddol. Oherwydd hyn, mae ein gwaith i wella cynaliadwyedd yn canolbwyntio ar ein defnydd o ynni ac allyriadau.
Gweithio o bell
Mae polisi gweithio hybrid y sefydliad, a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2022, yn galluogi staff i weithio’n hyblyg, sicrhau gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, a gwneud penderfyniadau am eu hamgylchedd gwaith.
Gweithio o bell sy’n cael ei ffafrio gan yr holl staff ac mae hyn yn lleihau ôl troed carbon y sefydliad yn sylweddol gan fod llai yn teithio i’r gwaith a bod llai o bwysau ar randdeiliaid i deithio i gyfarfodydd. Mae’r cam hwn hefyd yn hwyluso’r newid at weithio heb bapur.
Gofod swyddfa
Yn 2022-23 fe wnaeth y sefydliad leihau ei ofod swyddfa o fwy na 75%. Roedd yr hen swyddfa yn 4,640 troedfedd sgwâr ac mae’r swyddfa newydd yn 976 troedfedd sgwâr.
Hwn oedd y cyfrannwr mwyaf at leihau ôl troed carbon y sefydliad.
Cyfleusterau swyddfa
Fel tenantiaid, ychydig iawn o ddylanwad sydd gennym dros y cyflenwad a’r ddarpariaeth dŵr a nwy. Mae trydan y swyddfa yn cael ei gyflenwi gan dariff ynni 100% gwyrdd, ac mae’r holl oleuadau yn LED ac yn effeithlon o ran ynni.
Mae gweithdrefnau’n bodoli ar gyfer ailgylchu deunyddiau, gan gynnwys papur, cardfwrdd a gwastraff bwyd. Ceir gwared â phapurau’n cynnwys gwybodaeth sensitif drwy gyfleusterau ailgylchu gwastraff cyfrinachol.
Rydym yn rhoi blaenoriaeth i ddeunyddiau sy’n ystyriol o’r amgylchedd gan gynnwys papur ac amlenni wedi eu hailgylchu a defnyddio cynnyrch glanhau ecogyfeillgar yn unig.
Cyfarfodydd
Wrth drefnu cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid proffesiynol, bydd staff yn ystyried y ffordd fwyaf effeithiol o gynnal y cyfarfod hwnnw, gan ystyried y gofynion teithio, sy’n eu galluogi i ddefnyddio fideo-gynadledda fel ffordd allweddol o ymgysylltu yn hytrach na theithio a chwrdd wyneb yn wyneb.
Teithio
Pan fo angen i staff deithio i wahanol rannau o Gymru er mwyn sgwrsio â phobl hŷn a rhanddeiliaid proffesiynol, mae gofyn iddynt bennu’r dull mwyaf amgylcheddol gyfeillgar o deithio megis defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu rannu car.
Adolygiad o ôl troed carbon
Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’n hôl troed carbon, rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2024, fe wnaethom weithio mewn partneriaeth â darparwr cynaliadwyedd ac ymwybyddiaeth o garbon blaenllaw i asesu ein hallyriadau, datblygu strategaethau lleihau, a darparu hyfforddiant pwrpasol i uwchsgilio’r holl staff.
Mae’r tabl isod yn rhoi amcangyfrif o ôl troed carbon 2024-25 y sefydliad:
Meysydd allyriadau Amcangyfrif o gyfanswm 2024-25
Ynni a thanwydd: 2.3 tCO2e Defnyddio trydan
Gweithio gartref: 7.01 tCO2e Defnyddio offer swyddfa; Gwresogi cartref
Gweithwyr yn cymudo: 6.13 tCO2e Ceir/trafnidiaeth gyhoeddus/cerdded
Teithio ar gyfer Busnes: 2.07 tCO2e Ceir/trafnidiaeth gyhoeddus/hedfan
Cynhyrchu gwastraff: 0.02 tCO2e Cyffredinol; Papur; Cardfwrdd
Amcangyfrif o gyfanswm cyffredinol sy’n 17.53 tCO2e
Gan ystyried y defnydd o ynni, cymudo gan weithwyr, teithio busnes, gwaredu a chynhyrchu gwastraff, a gweithio o bell, mae’r ôl troed carbon amcangyfrifedig hwn o 17.53 tCO2e yn cael ei ystyried yn fach ar gyfer sefydliad bach..
Addysg
Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2025, cwblhaodd y Prif Swyddog Gweithredu y cwrs Llythrennedd Carbon ac Eco-lythrennedd Nabod Natur.
Bydd y modiwl hyfforddi pwrpasol, sy’n cael ei ddatblygu a’i gyflwyno gan y prif ddarparwr ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd, yn cael ei gwblhau gan yr holl staff yn Ch1 2025-26.
| Meysydd allyriadau | Amcangyfrif o gyfanswm 2024-25 |
|---|---|
| Ynni a thanwydd: Defnyddio trydan | 2.3 tCO2e |
| Gweithio gartref: Defnyddio offer swyddfa; Gwresogi cartref | 7.01 tCO2e |
| Gweithwyr yn cymudo: Ceir/trafnidiaeth gyhoeddus/cerdded | 6.13 tCO2e |
| Teithio ar gyfer Busnes: Ceir/trafnidiaeth gyhoeddus/hedfan | 2.07 tCO2e |
| Cynhyrchu gwastraff: Cyffredinol; Papur; Cardfwrdd | 0.02 tCO2e |
| Amcangyfrif o gyfanswm cyffredinol sy’n 17.53 tCO2e |
Gwrthbwyso ôl troed carbon
I gydnabod yr effaith negyddol y mae allyriadau carbon yn parhau i’w chael ar y blaned, rhoddir rhodd ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol i wrthbwyso allyriadau carbon y sefydliad. Defnyddir yr arian i gefnogi prosiectau ledled y byd sy’n lleihau allyriadau carbon drwy fesurau osgoi a chynhyrchu ynni glân/adnewyddadwy.
Monitro
Adolygwyd y Polisi Cynaliadwyedd yn ystod 2024, a rhoddwyd polisi a chynllun gweithredu wedi’u diweddaru ar waith.
Dolen i’r wefan: Polisi Cynaliadwyedd
Rhian Bowen Davies Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
11 Medi 2025
Adroddiad Atebolrwydd
Mae fy Adroddiad Atebolrwydd yn amlinellu prif nodweddion y ffordd rwy’n rheoli’r sefydliad.
Mae’r adran hon yn cynnwys:
- Fy adroddiad Llywodraethu Corfforaethol, sy’n cynnwys manylion ynghylch sut rwy’n dangos cydymffurfiaeth a gwaith llywodraethu corfforaethol cadarn.
- Mae fy Adroddiad Taliadau a Staff yn darparu gwybodaeth am daliadau uwch reolwyr, fy natgeliad cyflog teg a gwybodaeth am faterion eraill sy’n ymwneud â chyflogaeth.
- Mae Adroddiad yr Archwiliad yn cynnwys barn derfynol ein harchwilydd am y datganiadau ariannol.
Adroddiad Llywodraethu Corfforaethol
Mae gwybodaeth am fy strwythur llywodraethu, gan gynnwys fy Uwch Dîm Arwain a’m Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, i’w gweld yn fy Natganiad Llywodraethu ar dudalennau 48 i 56.
Mae’r wybodaeth hon ar fy ngwefan hefyd.
Dolen i’r wefan: Y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Adroddiad y Cyfarwyddwr
Rôl y Comisiynydd
Mae rôl a phwerau statudol y Comisiynydd yn cael eu diffinio gan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 a’r Rheoliadau cysylltiedig.
Mae’r Ddeddf yn amlinellu’r camau y gall y Comisiynydd eu cymryd i sicrhau bod buddiannau pobl hŷn yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo pan fydd cyrff cyhoeddus yn gweithredu eu swyddogaethau, a’r cymorth y gall y Comisiynydd ei roi’n uniongyrchol i bobl hŷn.
Fel Corfforaeth Undyn a Swyddog Cyfrifyddu, rwyf yn bersonol gyfrifol am gyfarwyddo a rheoli’r sefydliad. Rwy’n annibynnol ar Weinidogion Cymru ac yn gyfrifol am bennu cyfeiriad strategol fy swyddfa.
Daeth tymor Heléna Herklots fel Comisiynydd i ben ar 19 Awst 2024. Roedd cyfnod interim cyn i mi ddechrau yn y swydd ar 30 Medi 2024.
Dirprwy Gomisiynydd
Yn unol â Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006, (y Ddeddf), Atodlen 1, Paragraff 4 (3), rhaid i mi benodi Dirprwy Gomisiynydd. Caiff y Dirprwy Gomisiynydd gyflawni swyddogaethau’r Comisiynydd pan fydd swydd y Comisiynydd yn wag neu unrhyw bryd na fydd y Comisiynydd, am unrhyw reswm, yn gallu gweithredu.
Kelly Davies yw’r Dirprwy Gomisiynydd penodedig ac ymgymerodd â’r ddyletswydd hon yn ystod y cyfnod interim.
Codi pryderon
Ym mis Tachwedd 2016, daeth rôl y Comisiynydd yn ‘berson rhagnodedig’ o dan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 (y Ddeddf) ar gyfer materion yn ymwneud â hawliau a lles pobl hŷn yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn amddiffyn gweithwyr sy’n chwythu’r chwiban, ar yr amod bod y gweithiwr sy’n cyflwyno’r datgeliad yn credu’n rhesymol ei fod yn berthnasol i gylch gwaith y Comisiynydd a bod y wybodaeth sy’n cael ei datgelu ac unrhyw honiadau a geir ynddi yn wir gan fwyaf.
Nid yw’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’m swyddfa ymchwilio i bob datgeliad a ddaw i law, gan mai dim ond datgeliadau sy’n dod o fewn cwmpas fy swyddogaethau statudol ac o fewn paramedrau fy mhwerau statudol y mae modd i mi ymchwilio iddynt.
Nid oes unrhyw bryderon wedi cael eu codi o ganlyniad i fod yn ‘berson rhagnodedig’ yn ystod 2024-25 (2023-24: dim).
Yr Iaith Gymraeg
Ers 25 Ionawr 2017, rwyf wedi ymrwymo i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, fel y nodir gan Lywodraeth Cymru o dan Adran 44 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Mae Safonau’r Gymraeg yn nodi nifer o ffyrdd y mae’n rhaid i mi ddarparu a hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg, a hwyluso a hybu’r defnydd o’r iaith yn y gweithle.
Yn ystod 2024-25, rwyf wedi cydymffurfio â’r holl Safonau ac wedi parhau i ddangos fy ymrwymiad i sicrhau bod y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal.
Yn ystod 2024-25, ni dderbyniwyd unrhyw gwynion o dan gydymffurfiaeth polisi cwynion Safonau’r Gymraeg (2023-24: dim).
Ar 31 Mawrth 2025, roeddwn yn cyflogi 17 aelod o staff. Cynhaliwyd arolwg y Gymraeg yn ystod mis Mawrth 2025. Roedd yn gofyn i staff hunanasesu eu sgiliau gan ddefnyddio matrics rhuglder ar gyfer Gwrando, Darllen, Ysgrifennu a Siarad. Ymatebodd yr holl staff i’r arolwg, fel y gwnes i. Dangosodd y canlyniadau fod 59% o’r sefydliad yn ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg rhugl, sy’n fwy na’r ganran o 37% y llynedd, a’r ganran uchaf a gofnodwyd erioed
Rwy’n parhau i ddarparu cyfleoedd yn ystod oriau gwaith i bob gweithiwr gael hyfforddiant y Gymraeg, wedi’i ariannu’n llawn gan y sefydliad. Yn ystod 2024-25, manteisiodd un aelod o staff ar y cyfle hwn.
Dolen i’r wefan: Safonau’r Gymraeg
Cynllun cydraddoldeb strategol
Fel hyrwyddwr a llais annibynnol ar ran pobl hŷn ledled Cymru, rwy’n gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb ym mhob agwedd ar fywydau pobl hŷn.
Mae llawer o’r materion sy’n wynebu pobl hŷn yn seiliedig ar anghydraddoldeb a methiant i gydnabod a chynnal eu hawliau.
Mae deall yr holl amrywiaeth o brofiadau bywyd pobl hŷn yn hanfodol i sicrhau bod cymorth a gwasanaethau’n diwallu anghenion pobl.
Yn dilyn ymgysylltu a chyfnod ymgynghori, cyhoeddwyd Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2024 – 2026 yn Ebrill 2024, sy’n nodi’r camau gweithredu a fydd yn cael eu cymryd dros gyfnod o ddwy flynedd i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymhellach yn ein gwaith mewnol ac allanol.
Mae’r Cynllun yn cwmpasu cyfnod o ddwy flynedd er mwyn pontio cyfnod Comisiynwyr newydd. Bydd Cynllun Strategol pedair blynedd (2026-30) yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2026.
Gosodwyd yr amcanion canlynol ar gyfer 2024-26:
- Bydd y Comisiynydd yn hyrwyddo diwylliant mewnol sy’n groesawgar ac yn gefnogol, gan sicrhau cyfle cyfartal i bob gweithiwr.
- Bydd y Comisiynydd yn cynyddu ymwybyddiaeth a chyrhaeddiad y Gwasanaeth Cyngor a Chymorth
- Bydd y Comisiynydd yn cryfhau ymgysylltu, cyfathrebu ac ymwneud â phobl hŷn sydd â nodweddion gwarchodedig er mwyn sicrhau bod eu lleisiau’n sail i waith ehangach
- Bydd y Comisiynydd yn parhau i sicrhau bod profiadau pobl hŷn yn llywio ac yn dylanwadu ar systemau a gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal â chynllunio ac ymarfer
Cyhoeddir adroddiad cynnydd 2024-25 yn erbyn yr amcanion hyn erbyn 30 Medi 2025.
Dolen i’r wefan: Cynllun Cydraddoldeb Strategol
Trefniadau Pensiwn
Rwyf fi a’r staff a gyflogir yn uniongyrchol gennyf yn gymwys i fod yn aelodau o Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Ceir manylion pellach yn yr Adroddiad ar Staff a Thaliadau.
Polisi Taliadau
Rwy’n gwneud fy ngorau i gydymffurfio â Pholisi Taliadau Prydlon Llywodraeth Cymru. Y targed yw gwneud taliadau o fewn 30 diwrnod i dderbyn anfonebau nad oes anghytuno yn eu cylch ar gyfer nwyddau a gwasanaethau a dderbyniwyd.
Roedd perfformiad taliadau’r flwyddyn, ar gyfartaledd, yn 94.1% o daliadau prydlon (97.57% yn 2023-24). Ni thalwyd llog oherwydd taliadau hwyr.
Llywodraethu Gwybodaeth
I gydnabod pwysigrwydd hanfodol rheoli risgiau diogelwch sy’n ymwneud â rheoli data, ym mis Ionawr 2025 cafodd fy sefydliad ei ailardystio ar gyfer IASME
(Sicrhau Gwybodaeth i Fusnesau Bach a Chanolig) Achrediad Lefel Un, a fydd yn cefnogi’r achrediad Cyber Essentials Plus sydd gan fy sefydliad eisoes.
Mae diogelu data personol yn bwysig iawn, ac yn ystod y flwyddyn, rwyf wedi parhau i weithio i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data, gan gynnwys y Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.
Mae trefniadau ar waith i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel. Mae hyn yn cynnwys data personol a gedwir sy’n ymwneud ag ymholiadau a wnaed ar ran pobl hŷn yng Nghymru, a thystiolaeth a gasglwyd gennyf fi wrth gyflawni fy swyddogaethau. Yn 2024-25, ni chafwyd unrhyw achosion cysylltiedig â diogelwch data mewnol (2023-24: 0).
Yn ystod 2024-25, derbyniais bedwar cais am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (2023-24: 1) Ymatebwyd i bob cais o fewn yr amserlenni penodol.
Ni chefais unrhyw Geisiadau am Fynediad at Ddata gan y Testun (2023-24: 0).
Cofrestri
Byddaf yn cyhoeddi manylion am fy nhreuliau fy hun – y rhai uniongyrchol a’r rhai a geir ar fy rhan – ar fy ngwefan bob chwarter. Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn edrych yn ofalus ar fy nhreuliau ym mhob cyfarfod.
Dolen i’r wefan: Treuliau’r Comisiynydd
Rwy’n cadw cofrestr o’r holl roddion a’r lletygarwch sydd wedi’u derbyn a’u gwrthod, yn rhinwedd fy nyletswyddau swyddogol. Caiff y gofrestr hon ei diweddaru bob chwarter a’i chyhoeddi ar fy ngwefan. Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn adolygu’r gofrestr hon ym mhob cyfarfod.
Dolen i’r wefan: Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch
Gwrthdaro rhwng buddiannau
Fel rhan o’u telerau penodi, mae gofyn i holl weithwyr cyflogedig ac aelodau fy Mhwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg fabwysiadu Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan. Yr egwyddorion hyn, ynghyd â’m diwylliant a’m gwerthoedd corfforaethol, yw’r sail i’m Cod Ymddygiad. Mae’n rhaid i weithwyr cyflogedig ac aelodau’r Pwyllgor ddilyn y Cod hwn a’i gadw’n gyfredol.
Mae’r Cod Ymddygiad yn nodi bod holl weithwyr cyflogedig ac aelodau fy Mhwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn cymryd camau i osgoi gwrthdaro rhwng buddiannau, drwy gofrestru a datgan unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau personol a gwaith y Comisiynydd wrth iddynt godi.
Mae cofrestr o Fuddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill Cyfarwyddwyr ac aelodau Pwyllgor ar gael ar fy ngwefan.
Dolen i’r wefan: Cofrestr Buddiannau
Trafodion partïon cysylltiedig
Yn ystod 2024-25, nid oeddwn i nac unrhyw aelod arall o’m Huwch Dîm Arwain na’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, nac unrhyw aelod o’u teuluoedd, yn ymwneud yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol ag unrhyw drafodion gyda’r swyddfa, ac eithrio’r taliadau cyflog a’r hawliadau arferol am dreuliau.
Trefniadau archwilio
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn archwilio’r Cyfrifon hyn, yn unol â pharagraff 12, Atodlen 1 o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006. Cost archwilio cyfrifon 2024-25 yw £19,000 (£19,000: 2023-24). Ni chynhaliwyd unrhyw waith archwilio anstatudol ychwanegol yn ystod 2024-25 (£dim: 2023-24).
Yn ystod 2024-25, ymgymerais â thendr ar y cyd ar gyfer gwasanaethau archwilio mewnol gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg. Dyfarnwyd contract tair blynedd i TIAA Ltd, a oedd yn dechrau ym mis Ebrill 2025, gydag opsiwn i ymestyn y contract hwnnw am ddwy flynedd arall.
Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd
Ni chafwyd unrhyw ddigwyddiadau o bwys rhwng diwedd y flwyddyn ac adeg cymeradwyo’r cyfrifon hyn.
Datgelu gwybodaeth archwilio berthnasol
Fel Swyddog Cyfrifyddu, rwy’n ymwybodol nad oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol nad yw’r archwilydd yn ymwybodol ohoni, ac rwyf wedi cymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau fy mod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol, ac i sicrhau bod yr archwilwyr hefyd yn ymwybodol o’r wybodaeth honno.
Rhian Bowen Davies Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
11 Medi 2025
Datganiad Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu
Yn unol â Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006, (y Ddeddf), Atodlen 1, Paragraff 10, rhaid i mi:
- Gadw cofnodion cyfrifyddu priodol; a
- Pharatoi cyfrifon mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol yn unol â chyfarwyddiadau a roddir, gyda chydsyniad y Trysorlys, gan Weinidogion Cymru.
Mae’r cyfrifon hyn yn cael eu paratoi ar sail croniadau a rhaid iddynt roi darlun cywir a theg o sefyllfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ei incwm a’i wariant, Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol, a’r llif arian ar gyfer y flwyddyn ariannol.
Wrth baratoi’r cyfrifon, mae’n ofynnol i mi gydymffurfio â gofynion Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth, ac yn benodol:
- glynu wrth y Cyfarwyddyd Cyfrifon, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a defnyddio polisïau cyfrifyddu addas yn gyson;
- gwneud penderfyniadau ac amcangyfrifon ar sail resymol;
- nodi a ddilynwyd safonau cyfrifyddu perthnasol fel y nodir hwy yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth, a datgelu ac esbonio unrhyw wyriadau o bwys yn y cyfrifon; a
- pharatoi’r cyfrifon ar sail busnes hyfyw.
Yn ogystal, gallaf gadarnhau bod yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy ar y cyfan, ac rwy’n cymryd cyfrifoldeb personol am yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon a’r dyfarniadau sydd eu hangen i benderfynu bod y rhain yn deg, yn gytbwys, ac yn ddealladwy.
Mae Prif Weinidog Cymru wedi fy mhenodi’n Swyddog Cyfrifyddu Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae cyfrifoldebau Swyddog Cyfrifyddu yn cynnwys y cyfrifoldeb dros briodoldeb a chysondeb y cyllid cyhoeddus y mae’r Swyddog Cyfrifyddu’n atebol amdano, dros gadw cofnodion priodol, a dros ddiogelu asedau’r Comisiynydd, fel y’i nodir yn y memorandwm – ‘Rheoli Arian Cyhoeddus’ – a gyhoeddwyd gan Drysorlys Ei Fawrhydi, a ‘Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru’ a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Fel y Swyddog Cyfrifyddu, rwyf wedi cymryd pob cam y dylwn i fod wedi eu cymryd i sicrhau fy mod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol a bod archwilwyr yn Swyddfa Archwilio Cymru yn ymwybodol o’r wybodaeth honno. Cyn belled ag yr ydw i’n ymwybodol, does dim gwybodaeth archwilio berthnasol nad yw’r archwilwyr yn ymwybodol ohoni.
Datganiad Llywodraethu Cyfrifoldebau
Mae’r Datganiad Llywodraethu hwn yn nodi sail dyletswyddau statudol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sut caiff fy ffordd o gyflawni fy nyletswyddau ei llywodraethu a’i rheoli, a sut rwyf i, fel Comisiynydd, yn cynnal atebolrwydd am yr hyn a wnaf i a’r sefydliad.
Rôl y Comisiynydd
Sefydlwyd swydd statudol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru fel Corfforaeth Undyn o dan Adran 1 o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru)2006. (COP (Wales) Act 2006).
Nodir fy nghyfrifoldebau fel y Swyddog Cyfrifyddu yn Natganiad Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu.
Fel Swyddog Cyfrifyddu, rwy’n gyfrifol am sefydlu a chynnal trefniadau priodol i reoli adnoddau, gan gynnwys trefniadau llywodraethu cadarn a chanfod a rheoli risgiau a chyfleoedd.
Fel Corfforaeth Undyn a’r Swyddog Cyfrifyddu, rwyf yn bersonol gyfrifol am gyfarwyddo a rheoli’r sefydliad. Fodd bynnag, mae adran 5 o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 yn datgan y “caiff unrhyw berson, gan gynnwys unrhyw aelod o’i staff, gyflawni swyddogaeth y Comisiynydd ar ei ran, i’r graddau a awdurdodir gan y Comisiynydd”. Rwyf felly wedi sefydlu Cynllun Dirprwyo lle gall aelodau o fy nhîm sydd wedi’u pennu ymlaen llaw fy helpu i gyflawni fy nyletswyddau statudol. Nid yw’r Cynllun Dirprwyo hwn yn lleihau fy atebolrwydd fel y Swyddog Cyfrifyddu mewn unrhyw ffordd.
Gan nad oes gennyf Fwrdd Corfforaethol, fel y gallai fod gan gyrff cyhoeddus eraill yn nodweddiadol, mae gennyf Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (Pwyllgor) i’m cynorthwyo sydd yn rhoi sicrwydd ynghylch sut caiff y sefydliad ei lywodraethu, gan gynnwys rheoli risg, a phriodoldeb a chysondeb wrth ddefnyddio cyllid cyhoeddus.
Rwy’n annibynnol ar Weinidogion ac, yn ddarostyngedig i Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006, yn gyfrifol am bennu cyfeiriad strategol fy swyddfa.
Rwy’n atebol i Senedd Cymru am fy ngweithredoedd i a gweithredoedd fy swyddfa. Gall y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus graffu ar fy adroddiad blynyddol a’m cyfrifon ac ar effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y modd yr wyf yn defnyddio’r adnoddau a ddarperir i mi er mwyn cyflawni fy nyletswyddau statudol.
Strwythur Llywodraethu
Mae fy strwythur llywodraethu yn cynnwys Uwch Dîm Arwain a Phwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
O dan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006, mae’n rhaid i mi enwebu Dirprwy a all gyflawni dyletswyddau statudol y Comisiynydd os yw’r swydd yn wag, neu os na fyddaf i yn gallu gweithredu unrhyw dro am unrhyw reswm. Fy Nirprwy enwebedig yw Kelly Davies, sydd hefyd yn Brif Swyddog Gweithredu.
Yr Uwch Dîm Arwain
Rwyf wedi sefydlu Uwch Dîm Arwain i sicrhau dull integredig o reoli risg, llywodraethu, monitro perfformiad a nodi camau unioni angenrheidiol. Yn ystod 2024-25, roedd yr Uwch Dîm Arwain yn cynnwys y Prif Swyddog Gweithredu (a’r Dirprwy Gomisiynydd), y Cyfarwyddwr Polisi, y Pennaeth Cyllid ac Adnoddau, a minnau.
Fel grŵp, cyfarfu’r Uwch Dîm Arwain bob mis a chynhaliwyd cyfarfodydd ychwanegol i drafod eitemau a oedd yn cynnwys cryn dipyn o risg weithredol neu strategol. Mae cyfrifoldebau’r Uwch Dîm Arwain wedi’u nodi yn y Cylch Gorchwyl, ond yn fras rydym yn:
- Cefnogi datblygu nodau strategol a rhaglen waith flynyddol y sefydliad;
- Asesu perfformiad cyffredinol y sefydliad yn gyffredinol yn ôl yr amcanion sydd wedi’u nodi yn y rhaglen waith a chyflawni’r Cynllun Strategol;
- Dyrannu adnoddau fy sefydliad yn effeithlon ac effeithiol i gyflawni’r nodau a’r amcanion hynny;
- Asesu a rheoli risgiau a chyfleoedd; a
- Sicrhau bod gwerthoedd ac ymddygiad y sefydliad yn hybu diwylliant y sefydliad.
Fel Comisiynydd, rwy’n atebol am unrhyw benderfyniad a wneir.
Y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Mae gennyf Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg annibynnol i’m cefnogi fel Swyddog Cyfrifyddu, i fonitro ac adolygu pa mor gynhwysfawr ac effeithiol yw fy fframwaith llywodraethu corfforaethol, gan gynnwys archwilio a rheolaeth ariannol, a threfniadau ar gyfer rheolaeth fewnol, gan gynnwys systemau canfod a rheoli risg.
Fframwaith llywodraethu
Mae fy Uwch Dîm Arwain a’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn rhoi sicrwydd i mi ynghylch fy fframwaith llywodraethiant, ac yn fy helpu i gyflawni fy swyddogaethau statudol mewn modd sy’n gyson â’r egwyddorion sy’n berthnasol i Gorfforaeth Undyn o fewn Cod Llywodraethiant Corfforaethol y Deyrnas Unedig a’r Safon Llywodraethu Da ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus, hynny yw, yn gyson â’r safonau uchel a ddisgwylir gan gorff sy’n cael ei gyllido’n gyhoeddus.
Darperir sicrwydd ychwanegol gan archwilwyr mewnol (TIAA Ltd.) ac archwilwyr allanol (Archwilio Cymru).
Mae llywodraethu corfforaethol da yn hanfodol mewn unrhyw sefydliad sy’n cael ei reoli’n dda. Mae’r fframwaith llywodraethu rwy’n ei ddilyn yn seiliedig ar systemau, polisïau a phrosesau allweddol y mae’r sefydliad yn cael ei gyfarwyddo a’i reoli drwyddynt.
Mae’r systemau rheolaeth fewnol hyn yn gweithio mewn modd cydlynol, gan adlewyrchu pwysigrwydd dull gweithredu integredig o lywodraethu a rheoli. Dim ond sicrwydd rhesymol, yn hytrach na sicrwydd llwyr, o effeithiolrwydd y gall y rhain ei ddarparu. Mae’r rheolaethau hyn wedi eu cynllunio i sicrhau bod y risgiau sy’n fy wynebu fel Comisiynydd yn aros o fewn y lefelau goddefgarwch risg a nodwyd yn y Strategaeth Rheoli Risg.
Mae fy Mhwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a’r Uwch Dîm Arwain yn cytuno i gadw at fy Nghod Ymddygiad a rhoi gwybod i mi mewn amser real am unrhyw newidiadau yn eu buddiannau busnes, a nodir yn ffurfiol yn ystod cyfarfod chwarterol y Pwyllgor. Mae hyn yn sicrhau bod gwrthdaro posibl rhwng buddiannau, gan gynnwys risgiau i’m hannibyniaeth, yn cael eu nodi’n barhaus a bod camau priodol yn cael eu cymryd i’w lliniaru. Caiff y gofrestr buddiannau ei chyhoeddi ar fy ngwefan.
Aelodaeth y Pwyllgor
Rwy’n penodi aelodau’r Pwyllgor am dymor cychwynnol o bedair blynedd, y gellir ei ymestyn am hyd at bedair blynedd arall.
Mae cymysgedd sgiliau aelodau’r pwyllgor yn parhau i gael ei adolygu i sicrhau bod gan yr aelodau’r amrywiaeth, y sgiliau, y wybodaeth a’r profiad cronnus i graffu ar strwythurau a gweithdrefnau llywodraethu a rheolaeth fewnol cyffredinol y sefydliad.
Mae cyfarfodydd y Pwyllgor yn ystod y flwyddyn yn rhoi’r cyd-destun a’r wybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor i fy helpu i gyflawni fy swyddogaethau statudol.
Yn ystod y flwyddyn roedd yr aelodaeth fel a ganlyn:
- Claire Bevan, dechreuodd ei chyfnod ym mis Ebrill 2020 ac wedyn fe’i penodwyd yn Gadeirydd ym mis Ebrill 2022;
- Julia Evans, dechreuodd ei chyfnod ym mis Ionawr 2019;
- David Powell, dechreuodd ei gyfnod ym mis Ebrill 2020;
- Chris Knight, dechreuodd ei gyfnod ym mis Ebrill 2022; a
- Sian Richards, dechreuodd ei chyfnod ym mis Ionawr 2024.
Mae gan y Pwyllgor brofiad sylweddol o sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru. Mae aelodau’r pwyllgor i gyd yn annibynnol ac felly nid ydynt yn darparu gwaith i mi mewn unrhyw swyddogaeth weithredol.
Cyfarfodydd y pwyllgor
Yn ystod 2024-25, fe wnaeth y sefydliad gynnal pum cyfarfod pwyllgor ffurfiol ac un cyfarfod anffurfiol. Drwy gydol y flwyddyn, mae’r Cyfarwyddwr Archwilio Mewnol ac Arweinydd Archwilio Cymru yn parhau i gael cyswllt â Chadeirydd y Pwyllgor.
Yn ystod y cyfarfodydd ffurfiol, cyflwynir cyfres o adroddiadau i’r Pwyllgor i’w galluogi i graffu’n effeithiol arnynt ac yna fy sicrhau ar lywodraethiant y sefydliad. Mae eu gwaith yn ystod 2024-25 wedi’i nodi yn adran ffocws y Pwyllgor isod.
Mae’r cyfarfodydd anffurfiol yn gyfle i mi ddefnyddio mwy ar arbenigedd amrywiol y Pwyllgorau yn ystod trafodaethau manwl ar feysydd gweithredol a strategol penodol a oedd yn cynnwys lefel uchel o risg. Mae’r cyfarfodydd hefyd yn rhoi’r cyd-destun a’r wybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor i fy helpu i gyflawni fy swyddogaethau statudol.
Mae’r Pwyllgor wedi mabwysiadu dull hybrid ar gyfer cyfarfodydd. Cynhaliwyd dau gyfarfod wyneb yn wyneb, gyda’r papurau’n parhau i gael eu dosbarthu’n electronig. Mae’r aelodau’n cael eu diweddaru mewn amser real hefyd, drwy e-bost, am unrhyw faterion sy’n codi. Mae aelodau’r pwyllgor yn cytuno eu bod yn cael gwybodaeth berthnasol, amserol a chywir.
Crynhoir presenoldeb yn y cyfarfodydd yn y tabl isod:
Nifer y cyfarfodydd a fynychwyd
Aelod Ffurfiol Anffurfiol Claire Bevan (Y Cadeirydd) 5 / 5 1 / 1 Julia Evans 5 / 5 1 / 1 David Powell 5 / 5 1 / 1 Chris Knight 4 / 5 1 / 1 Sian Richards 5 / 5 1 / 1 Yr Uwch Dîm Arwain Heléna Herklots* 3 / 3 0 / 0 Wedi gadael y swydd ym mis Awst 2024 Rhian Bowen-Davies* 2 / 2 1 / 1 Dechreuodd yn y swydd ym mis Medi 2024 Kelly Davies 5 / 5 2 / 2 Rachel Bowen 5 / 5 2 / 2 Katie Holliday* 3 / 3 0 / 0 Wedi gadael y swydd ym mis Hydref 2024 Delyth Evans* 2 / 2 1 / 1 Dechreuodd yn y swydd ym mis Hydref 2024
| Nifer y cyfarfodydd a fynychwyd | ||
|---|---|---|
| Aelod | Ffurfiol | Anffurfiol |
| Claire Bevan (Y Cadeirydd) | 5 / 5 | 1 / 1 |
| Julia Evans | 5 / 5 | 1 / 1 |
| David Powell | 5 / 5 | 1 / 1 |
| Chris Knight | 4 / 5 | 1 / 1 |
| Sian Richards | 5 / 5 | 1 / 1 |
| Yr Uwch Dîm Arwain | ||
| Heléna Herklots* Wedi gadael y swydd ym mis Awst 2024 | 3 / 3 | 0 / 0 |
| Rhian Bowen-Davies* Dechreuodd yn y swydd ym mis Medi 2024 | 2 / 2 | 1 / 1 |
| Kelly Davies | 5 / 5 | 2 / 2 |
| Rachel Bowen | 5 / 5 | 2 / 2 |
| Katie Holliday* Wedi gadael y swydd ym mis Hydref 2024 | 3 / 3 | 0 / 0 |
| Delyth Evans* Dechreuodd yn y swydd ym mis Hydref 2024 | 2 / 2 | 1 / 1 |
Ffocws y Pwyllgor
Mae’r Pwyllgor yn gweithredu o fewn cylch gorchwyl ffurfiol, sy’n seiliedig ar ganllawiau ar arferion gorau a gyhoeddir gan y Trysorlys.
Yn unol â’r Cylch Gorchwyl, cyflwynwyd adroddiadau chwarterol i’r Aelodau yn ystod cyfarfodydd y Pwyllgor ar Risg Strategol, Iechyd Sefydliadol, Llywodraethu, Cyfathrebu, Cyllid a Seiberddiogelwch, a Cherdyn Sgorio Cytbwys. Mae hyn yn rhoi trosolwg o’r holl ddata llywodraethu allweddol.
Ym mhob cyfarfod, darperir trosolwg i’r Pwyllgor o’m treuliau a’r gofrestr rhoddion a lletygarwch, ac ni chodwyd dim pryderon yn ystod y flwyddyn.
Yn ystod y flwyddyn, roedd y Pwyllgor wedi rhoi sylwadau a chyngor ar y Polisïau Codi Pryderon a Chwynion.
Mae’r Pwyllgor hefyd wedi asesu effeithiolrwydd Archwilio Mewnol ac Allanol; wedi cael sicrwydd gan yr Archwilwyr Mewnol ar systemau llywodraethu allweddol y Comisiynydd; wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen waith y Comisiynydd, wedi adolygu Amcangyfrif Ariannol y Comisiynydd ar gyfer 2025-26, ac Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol 2023-24.
Mae cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor yn cael eu cyhoeddi ar fy ngwefan i sicrhau bod fy nhrefniadau llywodraethu yn fwy tryloyw.
Ym mis Medi 2024, cynhaliwyd cyfarfod eithriadol i ystyried a chymeradwyo Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol 2023-24.
Adolygiad y Pwyllgor o effeithiolrwydd y Fframwaith Llywodraethu
Cyflwynodd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ei adroddiad blynyddol ym mis Ebrill 2025, a oedd yn crynhoi ei gasgliadau o’r gwaith a wnaeth yn ystod 2024-25. Yn yr adroddiad, rhoddodd y Pwyllgor sicrwydd i mi ar y meysydd canlynol yn fy fframwaith llywodraethiant. Cadarnhawyd y canlynol ganddynt:
- mae’n ymddangos bod y trefniadau asesu a rheoli risg yn gadarn ac yn gweithredu’n effeithiol o fewn fframwaith polisi clir;
- mae adroddiadau ariannol yn cyd-fynd â gofynion Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth ac mae adroddiadau’n cael eu paratoi yn unol â pholisïau cyfrifyddu priodol;
- mae ei adolygiadau strategol o’r gofrestr risg yn awgrymu bod y fframwaith rheolaeth fewnol yn gweithredu’n effeithiol;
- mae’r trefniadau llywodraethu ehangach ar gyfer canfod a rhoi gwybod am dwyll a gwyngalchu arian yn gadarn ac yn cyd-fynd ag arferion da;
- mae’r trefniadau seiberddiogelwch yn gadarn a darparwyd sicrwydd pellach drwy gael ardystiad allanol gyda Cyber Essentials ac IASME Lefel 2; ac
- mae’r archwilwyr mewnol ac allanol yn cyfrannu’n gadarnhaol at gyfarfodydd y Pwyllgor.
Ar gyfer 2024-25, mae’r Pwyllgor o’r farn, ar sail canfyddiadau’r archwilwyr a’i arsylwadau ei hun, y gall ddarparu lefel sylweddol o sicrwydd i mi fod y trefniadau sydd yn eu lle yn parhau i fod yn briodol ac yn parhau i weithredu’n effeithiol.
Arfarniad o Effeithiolrwydd y Pwyllgor
Mae’r Pwyllgor yn arfarnu ei effeithiolrwydd a’i weithrediadau ei hun bob blwyddyn. Fe gynhaliodd y Cadeirydd adolygiadau blynyddol gydag aelodau eraill o’r Pwyllgor. Yn dilyn y cyfarfodydd hyn, bu’r Cadeirydd a minnau yn trafod ei pherfformiad hi a pherfformiad y Pwyllgor. Yn sgil y trafodaethau hyn, daeth y Pwyllgor i’r casgliad ei fod yn parhau i weithredu’n effeithiol, gan nodi bod y Cadeirydd a minnau yn gallu cadarnhau ymrwymiad yr aelodau ac yn gallu rhoi sicrwydd fod y Pwyllgor yn effeithiol, a’r amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiad y mae’r aelodau yn eu cynnig i’r Pwyllgor.
Yn ogystal â’r arfarniadau rhwng y Cadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor, mae fy archwilwyr mewnol (TIAA) yn cynnal adolygiad annibynnol bob dwy flynedd o effeithiolrwydd y Pwyllgor. Mae’r adolygiad hwn yn cynnwys trafodaethau ag aelodau’r Pwyllgor.
Fe gynhaliwyd arfarniad y Cadeirydd a’r aelodau Pwyllgor yn ystod mis Mawrth 2025 a dywedodd aelodau’r Pwyllgor y canlynol:
- Roeddent yn croesawu’r tryloywder a’r parch rhwng y Comisiynydd, staff y Comisiynydd a’r Aelodau.
- Maent yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth dda, yn cael gwybodaeth o ansawdd da ac ymatebion amserol i unrhyw gwestiynau sy’n codi.
- Maent yn teimlo bod safon uchel o lywodraethu a nodi a lliniaru ar gyfer rheoli risg.
- Mae cymysgedd da o sgiliau a phrofiad aelodau.
- Bu trosglwyddiad llyfn a llwyddiannus rhwng Comisiynwyr.
Yn fy marn i, mae’r Pwyllgor yn gweithredu’n effeithiol ac yn ychwanegu gwerth at y systemau rheoli mewnol a fy mlaenoriaethau strategol ehangach.
Archwilio Mewnol
Rôl archwiliad mewnol yw rhoi sicrwydd annibynnol a gwrthrychol o ran rheoli risg, rheolaethau a llywodraethu. Mae’r sicrwydd mae’r archwiliad mewnol yn ei roi yn elfen allweddol o’r fframwaith llywodraethu ac yn un o’r ffynonellau sicrwydd allweddol sy’n ofynnol gennyf i a fy Mhwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
Mae’r Gofrestr Risg Strategol yn sail i ffocws gwaith yr archwiliad mewnol ac yn darparu’r dystiolaeth mae’r datganiad sicrwydd blynyddol ar reolaeth fewnol yn seiliedig arni.
Rôl Archwilwyr Mewnol y Comisiynydd, sef TIAA, yw rhoi sicrwydd annibynnol a gwrthrychol o ran rheoli risg, rheolaethau a llywodraethu.
Yn ystod 2024-25, defnyddiodd y TIAA 15 diwrnod ar raglen o archwiliadau mewnol, a daeth yr adroddiad blynyddol i’r casgliad bod y “TIAA yn fodlon bod gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru brosesau rheoli risg, rheolaeth a llywodraethu rhesymol ac effeithiol ar waith ar gyfer y meysydd a adolygwyd yn ystod y flwyddyn.”
Ategwyd y farn archwilio hon gan yr adolygiadau sicrwydd a chynghori a gynhaliwyd yn ystod 2024-25.
Maes a Archwiliwyd Sicrwydd a Roddwyd Pwyntiau Gweithredu
Llywodraethu – Rheolaeth Sylweddol Dim pwyntiau gweithredu Strategol wedi’u codi
Gweinyddu Pensiynau Sylweddol Dim pwyntiau gweithredu wedi’u codi
Rheolaethau Ariannol Sylweddol Dim pwyntiau gweithredu Allweddol gan gynnwys wedi’u codi Bancio, Rheoli Arian Parod a Chyfriflyfr Cyffredinol
Adolygiad dilynol: Argymhellion wedi’u rhoi ar Dim pwyntiau gweithredu yn waith weddill
- Rheoli Iechyd a Diogelwch
- Teithio a Gwariant
Roedd y Pwyllgor yn falch o nodi bod yr Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol yn adlewyrchu lefelau sicrwydd yr adroddiadau a gafwyd yn ystod y flwyddyn, sy’n dangos pa mor gadarn yw mesurau llywodraethu Rheolaeth Strategol, Rheoli Risg a Systemau Ariannol.
Rheoli Risg
Mae’r fframwaith risg a rheoli mewnol yn cael ei ategu gan y Strategaeth Rheoli Risg ac yn elfen allweddol o’r fframwaith llywodraethu corfforaethol a rheolaeth fewnol.
Mae’r fframwaith risg hwn yn cydymffurfio â’r prif egwyddorion sydd wedi’u nodi yn nogfen Llywodraeth EF, Rheoli Egwyddorion a Chysyniadau Risg (Llyfr Oren), gan ystyried maint, strwythur ac anghenion y sefydliad. Ni chafwyd unrhyw adroddiadau bod y sefydliad wedi gwyro oddi wrth y Llyfr Oren.
Mae’r Strategaeth Rheoli Risg yn cydnabod nad yw’n bosibl dileu pob risg, ond, drwy’r Gofrestr Risgiau Strategol, caiff risgiau eu hadnabod a’u rheoli ac yna eu gostwng i lefel dderbyniol.
Mae’r Strategaeth hefyd yn nodi er fy mod yn atebol am bob risg, mae gan y staff rôl hefyd i adnabod risgiau posibl newydd a defnyddio’r camau lliniaru priodol i leihau neu i ddileu risg.
Bydd unrhyw fygythiad neu gyfle sy’n cael effaith sylweddol ar unrhyw un o’r meysydd a restrir isod yn cael ei ystyried yn ofalus gan aelod o’r Uwch Dîm Arwain cyn ei gymryd. Pan fydd effaith
| Maes a Archwiliwyd | Sicrwydd a Roddwyd | Pwyntiau Gweithredu |
|---|---|---|
| Llywodraethu – Rheolaeth Strategol | Sylweddol | Dim pwyntiau gweithredu wedi’u codi |
| Gweinyddu Pensiynau | Sylweddol | Dim pwyntiau gweithredu wedi’u codi |
| Rheolaethau Ariannol Allweddol gan gynnwys Bancio, Rheoli Arian Parod a Chyfriflyfr Cyffredinol | Sylweddol | Dim pwyntiau gweithredu wedi’u codi |
| Adolygiad dilynol: • Rheoli Iechyd a Diogelwch • Teithio a Gwariant | Argymhellion wedi’u rhoi ar waith | Dim pwyntiau gweithredu yn weddill |
sylweddol bosibl, bydd yn cael ei chyfeirio ataf fi fel risg strategol cyn i unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud. Dyma’r meysydd hyn:
- Canlyniad andwyol i fuddiannau a lles pobl hŷn neu unigolyn hŷn;
- Canlyniad andwyol ar gyflawni amcanion sefydliadol;
- Tanseilio annibyniaeth y Comisiynydd;
- Camau gweithredu neu gamau gweithredu posibl sy’n arwain at ddirwy neu feirniadaeth gan gyrff rheoleiddio;
- Camau gweithredu neu gamau posib sy’n arwain at golled ariannol; neu
- Ganlyniad andwyol i enw da’r Comisiynydd.
Mae achos, effaith, rheolaethau a chamau gweithredu arfaethedig i fynd i’r afael â risgiau yn y gofrestr risgiau yn cael eu monitro a’u hadolygu’n ffurfiol bob mis gan yr Uwch Dîm Arwain, i sicrhau bod y sefydliad yn parhau i addasu i’r amgylchedd sy’n newid a bod yr holl risgiau byw yn cael eu rheoli’n effeithiol.
Mae’r Gofrestr Risgiau Strategol hefyd yn cael ei hadolygu’n ffurfiol yng nghyfarfod chwarterol y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. Cyflwynir Cofrestr Risg Strategol gyfredol i’r Pwyllgor, y matrics sgorio, a phapur eglurhaol sy’n rhoi manylion y newidiadau mewn sgorio risg a chamau lliniaru dros y chwarter diwethaf a’r rhesymau dros y newidiadau hyn.
Mae 11 o risgiau sefydlog ar y Gofrestr Risg Strategol, sy’n adlewyrchu’r heriau yng nghyd- destun amgylchedd sy’n newid yn gyflym.
Yn ystod 2024-25, roedd llawer iawn o newid yn y sefydliad gyda’r Comisiynydd a’r Pennaeth Cyllid ac Adnoddau yn newid ar yr un pryd. I gydnabod y cyfnod pontio rhwng Comisiynwyr, ychwanegwyd y disgrifiad risg canlynol at y gofrestr ym mis Ebrill 2024, ‘diffyg sefydlogrwydd a tharfu ar barhad busnes yn ystod y cyfnod pontio i Gomisiynydd newydd’. Cafodd y risg hon ei rheoli’n dda, gyda rheolaethau cryf ar waith, a oedd yn golygu nad oedd y risg yn crisialu ac y gellid ei dileu ym mis Hydref 2024.
Yn ogystal â’r 11 risg sefydlog yn y Gofrestr Risg Strategol, mae adran benodol hefyd sy’n canolbwyntio ar ddigwyddiadau ar gyfer monitro neu faterion posibl yn y dyfodol sy’n cael eu rheoli’n weithredol ond nad ydynt wedi cael eu cydnabod eto fel risgiau strategol. Ni chafwyd unrhyw risgiau newydd a uwchgyfeiriwyd o’r adran hon o’r gofrestr i gael eu cydnabod fel risg strategol.
Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2025, rwyf wedi gweithio gyda fy Uwch Dîm Arwain i adolygu’r gofrestr risg, gan edrych yn benodol ar archwaeth risg.
Mae gennyf agwedd gadarnhaol at reoli risg, sy’n golygu nad wyf yn amharod i gymryd risgiau a reolir. Fodd bynnag, nid wyf yn goddef lefel uchel o risg a fyddai’n arwain at fethiant i gydymffurfio â gofynion llywodraethu, dyletswyddau statudol a gofynion cyfreithiol.
Ym mis Ebrill 2025-26, bydd templed y gofrestr risg yn cael ei ddiweddaru i sicrhau bod parodrwydd i dderbyn risg yn gysylltiedig â phob disgrifiad risg, gan ddefnyddio graddfa Anffafriol, Minimalaidd, Gofalus, Agored ac Awyddus (graddfa’r Llyfr Oren a argymhellir), a bod pob risg yn adlewyrchu fy Nghynllun Strategol 2025-28.
Bydd y Strategaeth Rheoli Risg hefyd yn cael ei diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau hyn.
Codi Pryderon
Mae gen i Bolisi Codi Pryderon sefydledig yn nodi sut gall staff chwythu’r chwiban os ydynt yn amau bod drwgweithredu neu beryglon yn y gweithle. Mae adnabod drwgweithredu yn fewnol yn elfen hanfodol o reoli risg gorfforaethol ac mae’n cyfrannu at lywodraethu effeithiol.
Os bydd fy staff neu eraill yn mynegi pryderon ynghylch y sefydliad na ellir eu datrys yn rhwydd, rwyf wedi sefydlu trefniadau llywodraethu priodol sy’n cynnwys Polisi Codi Pryderon a Pholisi Cwynion. Caiff unrhyw faterion sy’n ymwneud â fy rôl eu cyfeirio at Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
Mae staff newydd yn cael gwybod am y polisi yn ystod eu cyfnod cynefino, ac yn ystod 2024-25 fe wnaeth y Prif Swyddog Gweithredu roi’r wybodaeth ddiweddaraf i staff am y polisi cyfredol.
Yn ystod 2024-25, ni ddaethpwyd ag unrhyw bryderon i’m sylw i nac i sylw Cadeirydd y Pwyllgor o dan fy mholisi Codi Pryderon mewnol (2023-24: 0)
Yn ystod 2024-25, ni wnaed dim cwynion allanol ffurfiol o dan y Polisi Cwynion (2023-24: 0)
Adolygu Effeithiolrwydd
Yn ystod 2024-25, adolygodd fy Uwch Dîm Arwain a minnau’r Gofrestr Risg Strategol, gan adolygu pob disgrifiad risg ac edrych yn benodol ar archwaeth risg.
Ym mis Ebrill 2025, byddaf yn diweddaru templed y gofrestr risg i sicrhau bod archwaeth risg yn gysylltiedig â phob disgrifiad risg.
Byddaf yn parhau i fonitro, cynnal a, phan fo’n briodol, gwella’r fframwaith llywodraethiant i sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu fy anghenion sicrwydd.
Fel Swyddog Cyfrifyddu, mae gennyf ddyletswydd gyfreithiol i reoli adnoddau cyhoeddus yn effeithiol ac, o ganlyniad, rwyf yn adolygu effeithiolrwydd fy fframwaith llywodraethu yn barhaus. Mae gwaith archwilio mewnol, fy Uwch Dîm Arwain a sicrwydd a roddwyd gan fy Mhwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, yn ogystal â sylwadau archwilwyr allanol (Archwilio Cymru) yn sail i’r adolygiad hwn, ac maent wedi’u cynnwys yn y llythyr rheoli ac mewn adroddiadau eraill.
Barn y Comisiynydd ar y Datganiad Llywodraethu
Rwyf wedi ystyried y dystiolaeth a ddarparwyd yn y datganiad llywodraethu hwn ac rwyf o’r farn:
- mae’r strwythurau a’r gweithdrefnau llywodraethu a rheolaeth fewnol cyffredinol wedi bod yn briodol i gefnogi fy swyddogaethau a’m blaenoriaethau;
- eu bod wedi bod ar waith yn ystod y flwyddyn ariannol hon; ac
- maent wedi parhau i weithio’n effeithiol hyd at ddyddiad cyhoeddi’r ddogfen hon.
Mae’r fframwaith llywodraethu uchod wedi bod ar waith am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025, a pharatowyd y datganiad yn unol â chanllawiau’r Trysorlys.
Adroddiad ar staff a thaliadau Polisi Taliadau
Gweinidogion Cymru sy’n pennu fy nghyflog i fel Comisiynydd, yn unol ag Atodlen 1(3) o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006. Mae fy nghontract yn wahanol i ddeiliaid swyddi cyhoeddus eraill gan nad yw’n caniatáu ar gyfer codiadau costau byw chwyddiannol, dyfarniadau cynyddrannol na bonysau. Rwy’n gymwys i ymuno â Phrif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, ac wedi gwneud hynny.
Yn ystod 2024-25, cynhaliwyd arferion gwerthuso swyddi pellach gan sefydliad allanol i gynnal ymarfer gwerthuso swyddi o’r rolau yn fy sefydliad, i sicrhau eu bod ar y graddau priodol a’u bod yn cyd-fynd â system sgorio JEGS y gwasanaeth sifil. Yn dilyn yr adolygiad hwn, roeddwn yn falch o nodi nad oedd unrhyw newidiadau arfaethedig i’r graddfeydd yn fy strwythur presennol. Bydd unrhyw swyddi newydd sy’n cael eu nodi a’u hymgorffori yn strwythur fy sefydliad yn cael eu gwerthuso gan ddefnyddio’r un system sgorio JEGS, er mwyn sicrhau bod eu graddau’n briodol a’u bod yn gymharol â rolau eraill yn fy sefydliad.
Rwy’n pennu cyflogau staff a gyflogir yn uniongyrchol drwy fy strategaeth cyflog a gwobrwyo ac mae codiadau cynyddrannol i gyflogau staff yn cael eu dyfarnu yn unol â thelerau ac amodau’r contract. Wrth benderfynu a ddylid rhoi dyfarniad cyflog i staff, byddaf yn ystyried fforddiadwyedd o fewn fy nghyllideb bresennol a fy nghyllideb hysbys, chwyddiant a’r dyfarniadau cyflog a gynigir gan Lywodraeth Cymru a Chyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Ar ôl ystyried y ffactorau hyn yn 2024-25, dyfarnwyd cynnydd costau byw chwyddiannol o 5% i gyflogau pob un o’r staff (dyfarnwyd 5% yn 2023-24).
Er mwyn gweithio tuag at gydraddoldeb cyflogau ar draws y sector cyhoeddus, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod cyflogau blynyddol fy nhîm, hyd at ac yn cynnwys Band E, yn cyd-fynd â’r pwynt cyflog minima ar bob un o raddfeydd cyflog Llywodraeth Cymru.
Contractau Gwasanaeth
Mae penodiadau staff parhaol yn seiliedig ar deilyngdod ac yn cael eu cynnal drwy gystadleuaeth deg ac agored gydag unigolion a benodir ar delerau ac amodau a sefydlwyd gennyf fi. Nid yw’r staff yn aelodau o’r Gwasanaeth Sifil ond mae ganddynt hawl i fod yn aelodau o Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS).
Ar ôl i mi gael fy mhenodi ym mis Medi 2024, pennwyd cyfnod swydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am gyfnod o saith mlynedd, heb opsiwn i ymestyn, yn unol â Chomisiynwyr eraill Cymru.
Oni nodir yn wahanol, mae penodiadau’r staff sy’n cael eu cynnwys yn yr adroddiad hwn yn benagored. Nid oes oedran ymddeol gorfodol, er y bydd rheolau’r PCSPS ar oed pensiwn cynharaf yn berthnasol.
Rwyf wedi sefydlu ffyrdd o werthuso perfformiad i sicrhau y caiff cyfraniad gweithwyr unigol ei fonitro ar bob cam o’u cyflogaeth gyda’r sefydliad. Rwyf wedi rhoi rhaglen datblygu sefydliadol ar waith i wella gallu a gwella lefelau perfformiad cyffredinol.
Byddai terfynu cyflogaeth yn gynnar, ac eithrio oherwydd camymddwyn neu ymddiswyddiad, yn golygu y byddai’r unigolyn yn derbyn iawndal fel y nodir yng Nghynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil.
Ni wnaeth unrhyw aelod o staff adael y sefydliad dan Gynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil yn ystod 2024-25.
Taliadau (gan gynnwys cyflog) a Hawliau Pensiwn (yn
amodol ar archwiliad)
Mae’r adrannau canlynol yn rhoi manylion taliadau a buddiannau pensiwn fy staff uwch a minnau.
Cyfanswm Unigol y Taliad (yn amodol ar archwiliad)
Mae’r ‘cyflog’ yn cynnwys cyflog gros, taliadau goramser, ac unrhyw lwfans arall i’r graddau bod trethiant y Deyrnas Unedig yn berthnasol iddynt. Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar daliadau a gronnwyd ac a wnaed gan y Comisiynydd ac sydd wedi’u cofnodi felly yn y cyfrifon hyn. Ni dderbyniais i nac unrhyw aelod arall o staff fuddion ymarferol nac unrhyw fonws.
Buddion Pensiwn (5) Cyfanswm
Enw a theitl Cyflog 2024-25 2023-24 2024-25 2023-24 2024-25 2023-24 £000 £000 £000 £000 £000 £000 Heléna Herklots (1) 35-40 90-95 14 35 50-55 125-130 (90-95) (Cyfwerth â blwyddyn lawn) Comisiynydd Rhian Bowen-Davies (2) 45-50 – 18 – 60-65 – (90-95) (Cyfwerth â blwyddyn lawn) Comisiynydd Kelly Davies 75-80 70-75 30 28 105-110 100-105 Prif Swyddog Gweithredol, Dirprwy Gomisiynydd Rachel Bowen 70-75 65-70 28 25 95-100 90-95 Cyfarwyddwr Polisi Katie Holliday (3) 30-35 60-65 15 32 45-50 90-95 (Cyfwerth â blwyddyn lawn) (60-65) Pennaeth Cyllid ac Adnoddau Delyth Evans (4) 20-25 – 10 – 30-35 – (Cyfwerth â blwyddyn lawn) (45-50) Pennaeth Cyllid ac Adnoddau
(1) Ymddiswyddodd Heléna Herklots o swydd y Comisiynydd ar 19 Awst 2024. Mae’r cyflog yn cynnwys taliad pellach o £2,000 a wnaed ar ôl gadael rôl y Comisiynydd ar gyfer gwaith yn ymwneud ag ymchwiliad Covid 19.
(2) Dechreuodd Rhian Bowen-Davies yn ei swydd ar 30 Medi 2024.
(3) Gadawodd Katie Holliday ei swydd ar 6 Hydref 2024.
(4) Dechreuodd Delyth Evans yn ei swydd ar 1 Hydref 2024.
(5) Mae gwerth y buddion pensiwn sydd wedi’u cronni yn ystod y flwyddyn yn cael ei gyfrifo fel (y cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn wedi’i luosi ag 20) ychwanegu (cynnydd gwirioneddol mewn unrhyw gyfandaliad) llai (y cyfraniadau a wnaed gan yr unigolyn). Nid yw’r cynnydd gwirioneddol yn cynnwys cynnydd yn sgil chwyddiant nac unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn sgil trosglwyddo hawliau pensiwn.
| Enw a theitl | Cyflog | Buddion Pensiwn (5) | Cyfanswm | |||
|---|---|---|---|---|---|---|
| 2024-25 £000 | 2023-24 £000 | 2024-25 £000 | 2023-24 £000 | 2024-25 £000 | 2023-24 £000 | |
| Heléna Herklots (1) (Cyfwerth â blwyddyn lawn) Comisiynydd | 35-40 (90-95) | 90-95 | 14 | 35 | 50-55 | 125-130 |
| Rhian Bowen-Davies (2) (Cyfwerth â blwyddyn lawn) Comisiynydd | 45-50 (90-95) | – | 18 | – | 60-65 | – |
| Kelly Davies Prif Swyddog Gweithredol, Dirprwy Gomisiynydd | 75-80 | 70-75 | 30 | 28 | 105-110 | 100-105 |
| Rachel Bowen Cyfarwyddwr Polisi | 70-75 | 65-70 | 28 | 25 | 95-100 | 90-95 |
| Katie Holliday (3) (Cyfwerth â blwyddyn lawn) Pennaeth Cyllid ac Adnoddau | 30-35 (60-65) | 60-65 | 15 | 32 | 45-50 | 90-95 |
| Delyth Evans (4) (Cyfwerth â blwyddyn lawn) Pennaeth Cyllid ac Adnoddau | 20-25 (45-50) | – | 10 | – | 30-35 | – |
Buddion Pensiwn (yn amodol ar archwiliad)
Pensiwn Cynnydd CETV ar CETV ar Y cynnydd cronedig gwirioneddol 31/03/25 31/03/24 gwirioneddol yn ar oedran mewn £000 £000 y CETV pensiwn ar pensiwn £000 31/3/24 ar oedran £000 pensiwn
Heléna Herklots 10-15 0-2.5 242 210 11 Comisiynydd Rhian Bowen-Davies 0-5 0-2.5 13 0 10 Comisiynydd Kelly Davies 20-25 0-2.5 327 281 18 Prif Swyddog Gweithredol, Dirprwy Gomisiynydd Rachel Bowen 0-5 0-2.5 55 30 17 Cyfarwyddwr Polisi Katie Holliday 20-25 0-2.5 327 312 8 Pennaeth Cyllid ac Adnoddau Delyth Evans 0-5 0-2.5 8 0 7 Pennaeth Cyllid ac Adnoddau
Darperir buddion pensiwn drwy drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Cyn 1 Ebrill 2015, yr unig gynllun oedd Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS), sy’n cael ei rannu’n wahanol adrannau – mae clasurol, premiwm a chlasurol a mwy yn darparu buddion ar sail cyflog terfynol, ac mae nuvos yn darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa. O 1 Ebrill 2015 cyflwynwyd cynllun pensiwn newydd ar gyfer gweision sifil – Cynllun Pensiwn Gweision Sifil ac Eraill neu alpha, sy’n darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa. Roedd pob gwas sifil newydd a benodwyd a’r mwyafrif o’r rheini sydd eisoes yn y gwasanaeth wedi ymuno â’r cynllun newydd.
Mae PCSPS ac alpha yn gynlluniau statudol heb eu hariannu. Mae gweithwyr a chyflogwyr yn gwneud cyfraniadau (mae cyfraniadau gweithwyr yn amrywio rhwng 4.6% a 8.05%, yn dibynnu ar eu cyflog). Telir gweddill cost y buddion sy’n cael eu talu gan arian a benderfynir drwy bleidlais gan Senedd y DU bob blwyddyn. Cynyddir pensiynau sy’n cael eu talu’n flynyddol yn unol â’r ddeddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Yn hytrach na’r trefniadau buddion diffiniedig, gall cyflogeion ddewis pensiwn cyfraniadau diffiniedig gyda chyfraniad cyflogwr, y cyfrif pensiwn partneriaeth.
Yn alpha, mae pensiwn yn cronni ar gyfradd o 2.32% o enillion pensiynadwy bob blwyddyn, ac mae’r cyfanswm a gronnwyd yn cael ei addasu’n flynyddol yn unol â chyfradd a bennir gan Drysorlys EF. Gall aelodau ddewis rhoi rhan o’u pensiwn heibio (cyfnewid) i gael cyfandaliad hyd at y terfynau a bennir gan Ddeddf Cyllid 2004. Mae buddion PCSPS yr holl aelodau sy’n newid i alpha o’r PCSPS wedi cael eu ‘bancio’, gyda buddion y rheini sydd â buddion blaenorol yn un o adrannau cyflog terfynol PCSPS yn cael eu seilio ar eu cyflog terfynol pan fyddant yn gadael alpha.
| Pensiwn cronedig ar oedran pensiwn ar 31/3/24 £000 | Cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn ar oedran pensiwn | CETV ar 31/03/25 £000 | CETV ar 31/03/24 £000 | Y cynnydd gwirioneddol yn y CETV £000 | |
|---|---|---|---|---|---|
| Heléna Herklots Comisiynydd | 10-15 | 0-2.5 | 242 | 210 | 11 |
| Rhian Bowen-Davies Comisiynydd | 0-5 | 0-2.5 | 13 | 0 | 10 |
| Kelly Davies Prif Swyddog Gweithredol, Dirprwy Gomisiynydd | 20-25 | 0-2.5 | 327 | 281 | 18 |
| Rachel Bowen Cyfarwyddwr Polisi | 0-5 | 0-2.5 | 55 | 30 | 17 |
| Katie Holliday Pennaeth Cyllid ac Adnoddau | 20-25 | 0-2.5 | 327 | 312 | 8 |
| Delyth Evans Pennaeth Cyllid ac Adnoddau | 0-5 | 0-2.5 | 8 | 0 | 7 |
Y pensiynau cronedig yn yr adroddiad hwn yw’r pensiwn y mae gan yr aelod hawl i’w dderbyn pan fydd yn cyrraedd oed pensiwn arferol, neu’n syth ar ôl peidio â bod yn aelod gweithredol o’r cynllun os yw eisoes wedi cyrraedd oed pensiwn arferol neu dros yr oed hwnnw. Yr oedran pensiwn arferol yw 65 oed neu Oedran Pensiwn y Wladwriaeth, pa un bynnag yw’r uchaf, ar gyfer aelodau alpha. Mae’r ffigurau pensiwn yn yr adroddiad hwn yn dangos y pensiwn maent wedi’i ennill yn y PCSPS neu alpha – fel sy’n briodol. Os oes gan aelod fuddion yn y PCSPS ac alpha, mae’r ffigurau’n dangos gwerth cyfun ei fuddion yn y ddau gynllun, ond sylwer y gall rhannau cyfansoddol y pensiwn hwnnw fod yn daladwy o oedrannau gwahanol.
Pan gyflwynodd Llywodraeth y DU gynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus newydd yn 2015, roedd trefniadau pontio a oedd yn trin aelodau presennol y cynllun yn wahanol ar sail eu hoedran. Arhosodd aelodau hŷn y PCSPS yn y cynllun hwnnw, yn hytrach na symud i alpha. Yn 2018, canfu’r Llys Apêl fod y trefniadau pontio yng nghynlluniau pensiwn y gwasanaeth cyhoeddus yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn aelodau iau (“dyfarniad McCloud”).
O ganlyniad, mae camau’n cael eu cymryd i unioni’r diwygiadau hynny yn 2015, gan wneud darpariaethau’r cynllun pensiwn yn deg i bob aelod. Mae dwy ran i Rwymedi Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus. Arweiniodd rhan gyntaf y rhwymedi at gau’r PCSPS ar 31 Mawrth 2022, gyda’r holl aelodau gweithredol yn dod yn aelodau o alpha o 1 Ebrill 2022 ymlaen. Mae ail ran y rhwymedi yn dileu’r gwahaniaethu ar sail oedran ar gyfer cyfnod y cam unioni, rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022, drwy symud aelodaeth aelodau cymwys yn ystod y cyfnod hwn yn ôl i’r PCSPS ar 1 Hydref 2023.
Mae’r buddion pensiwn cronedig, Gwerth Trosglwyddo sy’n Cyfateb i Arian Parod ac un cyfanswm o dâl a gofnodwyd ar gyfer unrhyw unigolyn y mae’r Rhwymedi Pensiwn Gwasanaethau Cyhoeddus yn effeithio arno, wedi cael eu cyfrifo ar sail eu cynnwys yn y PCSPS ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022, yn dilyn dyfarniad McCloud. Mae’r Rhwymedi Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus yn berthnasol i unigolion a oedd yn aelodau, neu’n gymwys i fod yn aelodau, o gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus ar 31 Mawrth 2012 ac a oedd yn aelodau o gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022. Mae’r sail dros y cyfrifiad yn adlewyrchu’r sefyllfa gyfreithiol y mae aelodau yr effeithir arnynt wedi cael eu trosglwyddo’n ôl i’r PCSPS ar gyfer cyfnod y rhwymedi ac y bydd hyn yn berthnasol oni bai fod yr aelod yn arfer ei hawl ar ôl ymddeol i benderfynu yn hytrach derbyn buddion a gyfrifir o dan delerau’r cynllun alpha ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022.
I gael rhagor o fanylion am drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil, ewch i’r wefan, sef www.civilservicepensionscheme.org.uk”>https://www.civilservicepensionscheme.org.uk”>www.civilservicepensionscheme.org.uk
Gwerthoedd Trosglwyddo Cyfwerth ag Arian Parod
Y Gwerth Trosglwyddo Cyfwerth ag Arian Parod (CETV) yw gwerth cyfalafog buddion y cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol, wedi ei asesu gan actwari. Y buddion y pennir eu gwerth yw buddion cronedig yr aelod ac unrhyw bensiwn amodol sydd i’w dalu i gymar o’r cynllun. Taliad yw’r CETV a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn i sicrhau buddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fydd aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo’r buddion a gronnwyd yn ei gynllun blaenorol. Mae’r ffigurau pensiwn a ddangosir yn ymwneud â’r buddion y mae’r unigolyn wedi eu cronni o ganlyniad i’w aelodaeth gyflawn o’r cynllun pensiwn, nid dim ond ei wasanaeth mewn swydd uwch y mae datgelu yn berthnasol iddi.
Mae’r ffigurau’n cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae’r aelod wedi ei drosglwyddo i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol a gronnwyd i’r aelod o ganlyniad i brynu buddion pensiwn ychwanegol ar ei gost ei hun. Cyfrifir y CETV yn unol â Rheoliadau’r Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygiad) 2008 ac nid yw’n ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol neu bosibl i fuddion o ganlyniad i Dreth Lwfans Oes, a allai fod yn daladwy pan gymerir buddion pensiwn.
Y cynnydd gwirioneddol yn y CETV
Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd yn y CETV sy’n cael ei ariannu gan y cyflogwr. Nid yw’n cynnwys y cynnydd mewn pensiwn a gronnwyd oherwydd chwyddiant, cyfraniadau’r gweithiwr (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall) ac mae’n defnyddio ffactorau prisio cyffredin y farchnad ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.
Cynllun Pensiwn
Mae Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) a’r Cynllun Pensiwn Gweision Sifil ac Eraill (CSOPS) – a elwir yn “alpha” – yn gynlluniau buddion diffiniedig heb eu cyllido ar gyfer sawl cyflogwr, ond nid yw Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn gallu canfod beth yw ei gyfran o’r asedau a’r dyledion.
Fe wnaeth actiwari’r cynllun brisio’r cynllun fel ag yr oedd ar 31 Mawrth 2020. Mae manylion i’w gweld yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa’r Cabinet: Blwydd-daliadau Sifil yma.
Ar gyfer 2024-25, roedd cyfraniadau cyflogwyr o £255,400 yn daladwy i’r PCSPS (2023-24: £242,700) ar gyfradd o 28.97% o enillion pensiynadwy.
Bydd Actiwari’r Cynllun yn adolygu cyfraniadau cyflogwyr, bob pedair blynedd fel arfer yn dilyn prisiad llawn o’r cynllun. Pennir cyfraddau’r cyfraniadau er mwyn talu cost y buddion sy’n cronni yn ystod 2024-25 sydd i’w talu i’r aelod pan mae’n ymddeol, ac nid y buddion a gaiff eu talu yn ystod y cyfnod hwn i bensiynwyr presennol.
Gall gweithiwr ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, sef pensiwn cyfranddeiliaid gyda chyfraniad gan y cyflogwr. Nid oedd unrhyw weithwyr wedi cyfrannu at y cynllun hwn (2023-24: £dim).
Adroddiad Staff (yn amodol ar archwiliad)
Ar 31 Mawrth 2025, roedd y staff cyfwerth ag amser llawn yn 16.40 (31 Mawrth 2024: 17.69)
Mae costau staff yn cynnwys:
2024-25 2023-24
£000 £000 £000 £000 Staff Parhaol Staff Wrth Cyfanswm Cyfanswm Gefn costau staff costau staff
Cyflogau 910 0 910 990 Costau Nawdd 99 0 99 103 Cymdeithasol Costau Pensiwn Eraill 255 0 255 243 Cyfanswm costau net 1,264 0 1,264 1,336
Taliadau Aelodau o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Fel rhan o’u telerau ac amodau, mae aelodau’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn cael eu talu am wyth diwrnod y flwyddyn, ar gyfradd ddyddiol o £350 a £400 i’r Cadeirydd. Mae aelodau hefyd yn cael eu talu am sesiynau hyfforddi a fynychwyd yn ystod y flwyddyn ac am unrhyw waith ychwanegol a wnaed i’r Comisiynydd. I nodi, ni wnaeth aelodau’r Pwyllgor unrhyw waith ychwanegol yn ystod 2024-25.
Wedi’u cynnwys o fewn costau staff mae £14,662 (2023-24: £12,300) sy’n ymwneud â’r taliad, heb fod yn bensiynadwy, i bum aelod o Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg y Comisiynydd.
Yn unol â Pholisi Teithio a Chynhaliaeth y Comisiynydd, mae Aelodau’n cael ad-daliad drwy’r gyflogres am eu costau teithio a chynhaliaeth.
Nifer y Staff (yn amodol ar archwiliad)
Dyma nifer cyfartalog yr unigolion cyfwerth ag amser llawn a gyflogwyd gennyf yn ystod y flwyddyn (gan gynnwys uwch aelodau staff):
2024-25 2023-24
Staff Parhaol 17.47 18.52 Penodiadau Cyfnod Penodol 0.00 0.08 Cyfanswm 17.47 18.52
Ar ddiwedd y cyfnod ariannol, dyma nifer yr unigolion cyfwerth ag amser llawn oedd yn gyflogedig gennyf (gan gynnwys uwch aelodau staff): Ar ddiwedd y cyfnod ariannol, dyma nifer yr unigolion cyfwerth ag amser llawn oedd yn gyflogedig gennyf (gan gynnwys uwch aelodau staff):
| 2024-25 | 2023-24 | |
|---|---|---|
| Staff Parhaol Penodiadau Cyfnod Penodol | 17.47 0.00 | 18.52 0.08 |
| Cyfanswm | 17.47 | 18.52 |
31 Mawrth 2025 31 Mawrth 2024
Staff Parhaol 16.20 17.69 Penodiadau Cyfnod Penodol 0.00 0.00 Cyfanswm 16.20 17.69
Yn y tablau uchod, mae’r staff cyflogedig yn cael eu nodi mewn niferoedd sydd gyfwerth ag amser llawn.
Datgeliad Cyflog Teg (yn amodol ar archwiliad)
Mae’n ofynnol i gyrff adrodd ddatgelu’r berthynas rhwng tâl y Cyfarwyddwr sy’n derbyn y cyflog mwyaf yn eu sefydliad a thâl canolrifol gweithlu’r sefydliad. Mae’r cyfanswm yn cynnwys cyflog yn unig, ac nid yw’n cynnwys taliadau diswyddo, cyfraniadau pensiwn y cyflogwr na gwerth trosglwyddo cyfwerth ag arian pensiynau..
2024-25 2023-24
Band cyflog y cyfarwyddwr sy’n derbyn y £90,000 – £95,000 £90,000 – £95,000 cyflog uchaf (y Comisiynydd) Newid canrannol yn y cyflog cyfartalog o’r -10.89% -3.78% flwyddyn flaenorol Taliad chwartel isaf £41,301 £36,261 Cymhareb cyflogau 25ain canradd 2.24:1 2.54:1 Taliad cyfan canolrifol £48,261 £43,789 Cymhareb cyflogau canolrifol 1.92:1 2.11:1 Taliad chwartel uchaf £52,774 £50,232 Cymhareb cyflogau 75ain canradd 1.75:1 1.84:1
Roedd trosiant staff wedi effeithio ar newid canrannol 2024-25 mewn cyflog cyfartalog o 2023- 24, gyda staff newydd yn dechrau ar y band is neu’n gweithio llai o oriau. Cynyddwyd y cyflogau 5% hefyd oherwydd y dyfarniad costau byw.
Roedd tâl wedi’i fandio’r Cyfarwyddwr sy’n derbyn y cyflog mwyaf (y Comisiynydd) yn £90,000- £95,000 yn 2024-25 (2023-24: £90,000 – £95,000). Nid yw lefel cyflog y Comisiynydd yn cael cynnydd costau byw, felly mae lefel cyflog y Comisiynydd newydd a’r Comisiynydd blaenorol yn aros yr un fath ar £90,000.
Mae cyflog y Comisiynydd yn 1.92 gwaith (2023-24: 2.11) tâl canolrifol y gweithlu, a oedd yn £48,261 (2023-24: £43,789). Mae’r gymhareb yn parhau i ostwng oherwydd bod y taliadau cyffredinol i staff yn cynyddu ar raddfa gyflymach na thâl sefydlog y Comisiynydd.
Yn 2024-25, ni chafodd yr un gweithiwr cyflogedig daliadau a oedd yn fwy na rôl y Comisiynydd (2023-24: dim). Roedd taliadau yn amrywio o £32,697 i £90,000 (2023-24: £31,122 i £90,000).
| 31 Mawrth 2025 | 31 Mawrth 2024 | |
|---|---|---|
| Staff Parhaol Penodiadau Cyfnod Penodol | 16.20 0.00 | 17.69 0.00 |
| Cyfanswm | 16.20 | 17.69 |
| 2024-25 | 2023-24 | |
| Band cyflog y cyfarwyddwr sy’n derbyn y cyflog uchaf (y Comisiynydd) | £90,000 – £95,000 | £90,000 – £95,000 |
| Newid canrannol yn y cyflog cyfartalog o’r flwyddyn flaenorol | -10.89% | -3.78% |
| Taliad chwartel isaf | £41,301 | £36,261 |
| Cymhareb cyflogau 25ain canradd | 2.24:1 | 2.54:1 |
| Taliad cyfan canolrifol | £48,261 | £43,789 |
| Cymhareb cyflogau canolrifol | 1.92:1 | 2.11:1 |
| Taliad chwartel uchaf | £52,774 | £50,232 |
| Cymhareb cyflogau 75ain canradd | 1.75:1 | 1.84:1 |
Y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau (ddim yn amodol ar archwiliad)
Mae’r tabl isod yn dangos enillion canolrifol a chymedrig fy staff fesul awr.
31 Mawrth 2025 31 Mawrth 2024 Menyw Gwryw Menyw Gwryw
Cyfanswm canolrifol £24.50 £27.43 £21.60 £24.43 Cyfanswm cymedrig £27.14 £26.65 £24.70 £22.29
Dyma gyfansoddiad staff fy swyddfa yn ôl rhyw a band ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon:
31 Mawrth 2025
Band A Band B Band C Band D Band E* Band F* Comm*
Menywod 0 1 4 5 1 2 1 Gwrywod 0 0 0 3 0 0 0
*Mae fy Uwch Dîm Arwain i gyd yn fenywod
Ar 31 Mawrth 2025, roedd y cyflog canolrifol ar gyfer dynion yn uwch nac ar gyfer menywod. Fodd bynnag, mae cyflog cymedrig menywod yn uwch gan fod fy Uwch Dîm Arwain i gyd yn fenywod. Mae hyn yn golygu bod y bwlch cyflog o -1.81% rhwng y rhywiau ar gyfer 2024-25, a bod menywod yn ennill £101.81 am bob £100 y mae dynion yn ei ennill.
Ystadegau oedran y gweithlu (ddim yn amodol ar archwiliad)
Niferoedd staff yn ôl oedran ar 31 Mawrth 2025
16-24 25-34 35-44 45-54 55-64 65 a hŷn Heb ddatgelu
0 1 4 9 3 0 0
Trosiant staff (ddim yn amodol ar archwiliad)
2020-21 2021-22 2022-23 2023-24 2024-25
Nifer y staff 3 1 4 4 5 Trosiant 16% 5% 23% 19% 30%
Mae maint fy sefydliad, ac felly maint y sampl sydd ar gael, yn sgiwio gwerthoedd y trosiant yn y tabl uchod, gan fod un person yn gadael y sefydliad yn golygu trosiant o 5%.
Absenoldeb Oherwydd Salwch
Mae’r gyfradd gyfartalog ar gyfer absenoldeb oherwydd salwch fesul aelod o staff wedi gostwng o gymharu â 2023-24, i 3.39 diwrnod (12.62 diwrnod yn 2023-24). Er bod cyfradd absenoldeb salwch gyfartalog y sefydliad yn isel, mae’n werth nodi y gellir ei phriodoli’n bennaf i absenoldeb tymor hwy nad yw’n gysylltiedig â gwaith, sy’n cael ei ddosbarthu fel absenoldeb sy’n para mwy na deg diwrnod gwaith am yr un rheswm. O dynnu’r absenoldeb hwn o’r gyfradd absenoldeb salwch gyfartalog, yna’r gyfradd ar gyfer 2024-25 oedd 0.99 diwrnod, sy’n isel iawn.
| 31 Mawrth 2025 | 31 Mawrth 2024 | ||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Menyw | Gwryw | Menyw | Gwryw | ||||
| Cyfanswm canolrifol | £24.50 | £27.43 | £21.60 | £24.43 | |||
| Cyfanswm cymedrig | £27.14 | £26.65 | £24.70 | £22.29 | |||
| 31 Mawrth 2025 | |||||||
| Band A | Band B | Band C | Band D | Band E* | Band F* | Comm* | |
| Menywod | 0 | 1 | 4 | 5 | 1 | 2 | 1 |
| Gwrywod | 0 | 0 | 0 | 3 | 0 | 0 | 0 |
| 16-24 | 25-34 | 35-44 | 45-54 | 55-64 | 65 a hŷn | Heb ddatgelu | |
| 0 | 1 | 4 | 9 | 3 | 0 | 0 | |
| 2020-21 | 2021-22 | 2022-23 | 2023-24 | 2024-25 | |||
| Nifer y staff | 3 | 1 | 4 | 4 | 5 | ||
| Trosiant | 16% | 5% | 23% | 19% | 30% |
Rwyf wedi ymrwymo i iechyd fy staff ac mae gennyf bolisi absenoldeb salwch cynhwysfawr, yn ogystal â sesiynau lles penodol a Rhaglen Cymorth i Weithwyr.
Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth
Byddaf yn edrych yn ofalus ar fy arferion recriwtio ar ôl pob penodiad er mwyn deall rhwystrau posibl yn well a sicrhau bod arferion recriwtio yn gynhwysol ac yn hygyrch i ystod eang o ymgeiswyr sydd â sbectrwm ehangach o nodweddion gwarchodedig.
Mae gennyf Gynllun Gwarantu Cyfweliad sy’n rhoi’r hawl i unigolion ag anableddau ac o gymunedau Du, Asiaidd, ac Ethnig Lleiafrifol, symud ymlaen i gam nesaf y broses ddethol os ydynt yn bodloni’r meini prawf sylfaenol adeg llunio’r rhestr fer.
Hysbysebir swyddi gwag drwy amrywiaeth o rwydweithiau er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cyrraedd cynifer o bobl â phosibl, ac mae modd cael gwybodaeth mewn amrywiaeth eang o fformatau ar gais. Mae gwybodaeth am nodweddion gwarchodedig pob ymgeisydd yn cael ei chasglu a’i monitro i sicrhau cyfle cyfartal. Hefyd, rwy’n parhau i gasglu, monitro a chyhoeddi data cydraddoldeb ar broffil fy ngweithlu. Rwy’n parhau i fonitro’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn fy ngweithlu, sydd o blaid menywod ar hyn o bryd.
Rwy’n cynnal adolygiad parhaus o’r mathau o gontractau a phatrymau gweithio yn fy ngweithlu er mwyn deall a delio â rhwystrau posibl, gyda’r nod o gadw ymgeiswyr gyda sbectrwm ehangach o nodweddion gwarchodedig.
Rwyf wedi i ymrwymo i sicrhau bod arferion da yn cael eu hadolygu a’u rhoi ar waith er mwyn hyrwyddo amgylchedd gwaith cynhwysol sy’n hyrwyddo dysgu, datblygu a lles cyffredinol, i greu amgylchedd gwaith cadarnhaol ar gyfer yr holl staff. Mae diwylliant fy sefydliad yn un sy’n hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol ymysg yr holl staff ac nid oes lle i unrhyw ymddygiad amhriodol (e.e. bwlio ac aflonyddu).
Polisïau staff yng nghyswllt Gweithwyr Anabl
Ar gais, byddwn yn darparu gwybodaeth recriwtio mewn fformat gwahanol, fel print bras neu Braille. Mae ceisiadau am swyddi hefyd yn cael eu derbyn mewn fformatau gwahanol. Byddwn yn sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud yng nghyswllt y trefniadau ar gyfer y cyfweliad, a bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal yn newis yr unigolyn o iaith.
Byddai addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud, lle byddai modd, i atal pobl anabl rhag bod dan anfantais. Mae hyn yn berthnasol i gyfweliadau a threfniadau ar gyfer aelodau newydd o staff sy’n ymuno â’r sefydliad, a hefyd ar gyfer aelodau presennol o staff sy’n dychwelyd i weithio ar ôl anaf neu salwch.
Gweithio i’r Comisiynydd
Mae gennyf nifer o bolisïau ac arferion yn y gweithle ar waith i adeiladu a chynnal amgylchedd a diwylliant yn y gweithle sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi iechyd a lles staff, fel polisi gweithio hybrid, gweithredu system amser hyblyg a chyfleoedd ar gyfer patrymau gweithio hyblyg.
Mae’r sefydliad wedi buddsoddi’n sylweddol mewn hyfforddiant sy’n cael ei arwain yn allanol ar draws y sefydliad, gan gynnwys gweithdai a sesiynau hyfforddi fel Hyfforddiant Ymyriadau gan Bobl sy’n Digwydd bod yn Dyst; Croesawu Newid a Meithrin Gwytnwch; Maeth ac Iechyd Imiwnedd; Sgyrsiau Cadarnhaol ynghylch Hil; Rhagfarn Ddiarwybod; Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl; ac Ymwybyddiaeth Niwroamrywiaeth.
Mae’r holl staff yn cael cyfarfodydd misol gyda’u rheolwyr llinell lle nodir anghenion hyfforddi unigol, yn ogystal ag adolygiadau canol blwyddyn a diwedd blwyddyn ffurfiol.
Hyrwyddir cyfleoedd dysgu a datblygu i’r holl staff, ac mae buddion fel Cynlluniau Talebau Gofal Plant, Cynlluniau Beicio i’r Gwaith a chynllun disgownt manwerthu ar gael iddynt hefyd. Ar ben hynny, rwy’n darparu llinell gyfrinachol Cymorth i Weithwyr sy’n rhad ac am ddim i staff er mwyn iddynt allu derbyn cyngor cyfrinachol ar amrywiaeth o faterion. Os oes angen, gall staff gael mynediad hefyd at swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl.
Bob blwyddyn, mae staff yn cynnal asesiad Cyfarpar Sgrin Arddangos o’u gweithfan gartref ac yn y swyddfa. Maent yn ymwybodol y byddwn yn trefnu, ar gais, i asesydd ymweld â’u cartrefi a darparu cefnogaeth un-i-un i sicrhau bod yr offer angenrheidiol ganddynt, a’i fod wedi’i osod yn iawn i’w galluogi i weithio’n effeithiol ac yn ddiogel gartref.
Mae’r sefydliad yn parhau i fod yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig. Mae’r achrediad hwn yn golygu bod pob aelod o staff yn y sefydliad yn ennill y Cyflog Byw o leiaf, sy’n seiliedig ar gostau byw yn y DU.
Ni fu erioed achos lle bu’n rhaid i mi drafod gydag undeb llafur ar ran staff.
Ymgysylltu â Gweithwyr
Er mwyn sicrhau bod yr holl staff yn ymgysylltu’n llawn ac yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt, rwy’n cynnal cyfarfodydd tîm ddwywaith yr wythnos i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am faterion fel cynllunio gwaith, materion gweithredol ac ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddynt. Mae fy nhîm a minnau hefyd yn cwrdd wyneb yn wyneb bob chwarter blwyddyn, sy’n rhoi cyfle i ni bwyso a mesur y gwaith rydym ni, fel sefydliad, wedi’i gyflawni ac iddynt gael diweddariadau manwl ar faterion gweithredol neu strategol. Mae staff wedi dweud bod y cyfarfodydd hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar gyfathrebu o fewn y sefydliad.
Yn ogystal â’r trefniadau ffurfiol hyn, rhoddir anogaeth i fy nhîm ddefnyddio’r swyddfa i gyfarfod a chydweithio ar waith.
Rwy’n grymuso staff i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywyd a’u hamgylchedd gwaith, ac i gyfrannu atynt. Enghraifft o hyn yw bod yr holl bolisïau newydd yn cael eu cyflwyno i staff am adborth ar ôl iddynt gael eu datblygu a bod unrhyw bolisïau sydd â newidiadau sylweddol hefyd yn cael eu dosbarthu er gwybodaeth a sylwadau. Yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf 2024, ymgynghorwyd â staff ar Bolisi Cydraddoldeb Traws newydd, a gyflwynwyd ym mis Awst 2024. Cafodd y polisi Urddas a Pharch yn y Gwaith ei adolygu a’i ddiweddaru i adlewyrchu’r ddeddfwriaeth newydd ar aflonyddu rhywiol.
Rhwng mis Awst a mis Medi 2024, cynhaliwyd arolwg pobl gyda’r holl staff i gasglu adborth ar farn gweithwyr am effeithiolrwydd mewnol; i gael tystiolaeth am ddiwylliant sefydliadol; ac i ddarparu unrhyw feysydd allweddol i’w gwella.
Roedd 100% o’r staff yn cytuno’n gryf neu’n cytuno eu bod yn teimlo bod y sefydliad wedi ymrwymo i adeiladu a chynnal gweithle sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi iechyd a lles staff; maent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan eu rheolwr llinell; mae eu rheolwr yn ystyriol o’u bywyd y tu allan i’r gwaith; maent yn cael eu trin yn deg yn y gwaith; maent yn cael eu trin â pharch; ac mae’r sefydliad yn parchu gwahaniaethau unigol.
Cymryd gweithwyr ymlaen heb fod ar y Gyflogres
Nid oedd unrhyw weithwyr wedi’u cymryd ymlaen heb fod ar y gyflogres yn ystod 2024-25; (£dim: 2023-24)
Gwariant ar Wasanaethau Ymgynghori
Roedd gwariant ar wasanaethau ymgynghori yn ystod 2024-25- £2,000: (£dim: 2023-24)
Iawndal am Golli Swydd (subject to audit)
Ni wnaed dim taliadau iawndal yn 2024-25; (£dim: 2023-24)
Rhian Bowen Davies Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
11 Medi 2025
Tystysgrif ac adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru i’r Senedd Barn ar y datganiadau ariannol
Rwy’n tystio fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025 o dan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006.
Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr, y Datganiad o Sefyllfa Ariannol, y Datganiad o Lifau Arian Parod a’r Datganiad o Newidiadau i Ecwiti Trethdalwyr a nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys y polisïau cyfrifyddu arwyddocaol. Y fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth eu paratoi yw’r gyfraith berthnasol a’r safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd yn y DU fel y’u dehonglwyd ac y’u haddaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF.
Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r datganiadau ariannol:
- yn rhoi darlun gwir a theg o sefyllfa materion Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar 31 Mawrth 2025 ac o’i gwariant net, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar y dyddiad hwnnw;
- wedi’u paratoi’n briodol yn unol â’r safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd yn y DU fel y’u dehonglwyd ac y’u haddaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF.
- wedi’u paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006.
Barn ar reoleidd-dra
Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r gwariant a’r incwm yn y datganiadau ariannol wedi cael eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.
Sail y barnau
Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r gyfraith berthnasol a’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU (ISAs (Y DU)) a Nodyn Ymarfer 10 ‘Archwilio Datganiadau Ariannol Endidau’r Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig’. Caiff fy nghyfrifoldebau dan y safonau hynny eu disgrifio ymhellach yn yr adran o’m tystysgrif sy’n nodi cyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol.
Mae fy staff a minnau’n annibynnol ar y corff yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’m harchwiliad o’r datganiadau ariannol yn y DU, gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio yr wyf wedi’i chael yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i’m barnau.
Casgliadau sy’n ymwneud â busnes gweithredol
Wrth archwilio’r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i’r casgliad bod defnyddio’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol i baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.
Yn seiliedig ar y gwaith yr wyf wedi’i gyflawni, nid wyf wedi adnabod unrhyw ansicrwydd perthnasol mewn perthynas â digwyddiadau neu amodau a all, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu’r corff i barhau i fabwysiadu’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o’r dyddiad pan awdurdodir cyhoeddi’r datganiadau ariannol.
Caiff fy nghyfrifoldebau i a chyfrifoldebau’r Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru mewn perthynas â busnes gweithredol eu disgrifio yn yr adrannau perthnasol o’r dystysgrif hon.
Caiff y sail gyfrifyddu busnes gweithredol ar gyfer Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ei mabwysiadu gan ystyried y gofynion yn Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF, sy’n ei gwneud yn ofynnol i endidau fabwysiadu’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol lle disgwylir y bydd y gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn parhau i’r dyfodol.
Gwybodaeth arall
Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth yn yr adroddiad blynyddol, heblaw am y datganiadau ariannol a rhannau eraill o’r adroddiad a archwilir a’m hadroddiad i fel archwilydd ar y rhain. Y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru sy’n gyfrifol am yr wybodaeth arall yn yr adroddiad blynyddol. Nid yw fy marn am y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall a, heblaw i’r graddau a nodir yn benodol fel arall yn fy adroddiad, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd ar yr wybodaeth arall honno. Fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw’r wybodaeth arall yn berthnasol anghyson â’r datganiadau ariannol neu wybodaeth a gafwyd wrth gyflawni’r archwiliad, neu’n ymddangos fel arall fel pe bai wedi cael ei chamddatgan yn berthnasol. Os wyf yn canfod anghysonderau perthnasol o’r fath neu wybodaeth berthnasol o’r fath sy’n ymddangos fel pe bai wedi cael ei chamddatgan, mae’n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn achosi camddatganiad perthnasol yn y datganiadau ariannol eu hunain. Yn seiliedig ar y gwaith yr wyf wedi’i wneud, os wyf yn dod i’r casgliad bod yr wybodaeth arall hon wedi’i chamddatgan yn berthnasol, mae’n ofynnol i mi nodi’r ffaith honno.
Nid oes unrhyw beth gennyf i’w nodi yn hyn o beth.
Barn ar faterion eraill
Yn fy marn i, mae’r rhan o’r Adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol a Staff sydd i’w harchwilio wedi cael ei pharatoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed dan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006.
Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad:
- mae’r rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd a gaiff eu harchwilio wedi cael eu paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed dan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006; ac
- mae’r wybodaeth a roddir yn y Adroddiad Perfformiad a’r Adroddiad Atebolrwydd ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â’r datganiadau ariannol ac yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol.
Materion y cyflwynaf adroddiad arnynt drwy eithriad
Yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth am y corff a’i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi unrhyw gamddatganiadau perthnasol yn yr Adroddiad Perfformiad na’r Adroddiad Atebolrwydd.
Nid oes gennyf unrhyw beth i’w nodi o ran y materion canlynol, y cyflwynaf adroddiad i chi arnynt os bydd yr amgylchiadau canlynol yn berthnasol, yn fy marn i:
- nid wyf wedi cael yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad.
- ni chadwyd cofnodion cyfrifyddu priodol neu ni chafwyd ffurflenni sy’n ddigonol ar gyfer fy archwiliad o ganghennau nad ymwelodd fy nhîm â hwy;
- nid yw’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Atebolrwydd a gaiff ei harchwilio yn gyson â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu;
- nid yw gwybodaeth a nodir gan Weinidogion Cymru ynghylch cydnabyddiaeth ariannol a thrafodion eraill wedi cael ei datgelu;
- nid yw datgeliadau penodol ynghylch cydnabyddiaeth ariannol a nodir gan Lawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF wedi cael eu gwneud neu nid yw rhannau o’r Adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol a Staff sydd i’w harchwilio yn gyson â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu; neu
- nid yw’r Datganiad Llywodraethu’n adlewyrchu cydymffurfiaeth â chanllawiau Trysorlys EF.
Cyfrifoldebau’r Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am y datganiadau ariannol
Fel a esbonnir yn fanylach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru sy’n gyfrifol am:
- gadw cofnodion cyfrifyddu priodol;
- paratoi datganiadau ariannol ac Adroddiad Blynyddol yn unol â’r fframwaith adrodd ariannol perthnasol ac am fod wedi’i argyhoeddi eu bod yn rhoi darlun gwir a theg;
- sicrhau bod yr Adroddiad Blynyddol a’r datganiadau ariannol yn ei cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy;
- sicrhau rheoleidd-dra trafodion ariannol;
- pa bynnag reolaethau mewnol sy’n angenrheidiol ym marn y Comisiynydd Pobl Hŷn
Cymru i allu paratoi datganiadau ariannol heb unrhyw gamddatganiadau perthnasol, boed hynny trwy dwyll neu wall;
- asesu gallu’r Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu fel y bo’n gymwys, faterion sy’n ymwneud â’r busnes gweithredol a defnyddio sail gyfrifyddu busnes gweithredol oni bai bod y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn rhagweld na fydd y gwasanaethau a ddarperir gan y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn parhau i gael eu darparu yn y dyfodol.
Cyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol
Fy nghyfrifoldeb yw archwilio’r datganiadau ariannol, eu hardystio ac adrodd arnynt yn unol â Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006.
Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch p’un a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhai heb unrhyw gamddatganiad perthnasol, boed hynny trwy dwyll neu wall, a chyhoeddi tystysgrif sy’n cynnwys fy marn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw’n gwarantu y bydd archwiliad a gynhelir yn unol â’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU wastad yn canfod camddatganiad perthnasol pan fo’n bodoli. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wall ac fe’u hystyrir yn berthnasol os, yn unigol neu gyda’i gilydd, gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.
Mae afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll, yn golygu achosion o ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau. Rwy’n dylunio gweithdrefnau yn unol â’m cyfrifoldebau, a nodir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol mewn perthynas ag afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll.
Roedd fy ngweithdrefnau’n cynnwys y canlynol:
- Holi’r rheolwyr a’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennaeth ategol mewn perthynas â pholisïau a gweithdrefnau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru sy’n ymwneud ag:
- adnabod, gwerthuso a chydymffurfio â deddfau a rheoliadau a pha un a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio;
- canfod ac ymateb i’r risgiau o dwyll a pha un a oes ganddynt wybodaeth am unrhyw dwyll gwirioneddol, tybiedig neu honedig; a hefyd
- y rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy’n gysylltiedig â thwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau.
- Ystyried fel tîm archwilio sut a lle gallai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion posibl o dwyll. Yn rhan o’r drafodaeth hon, fe wnes i nodi’r potensial ar gyfer twyll yn y meysydd postio cyfnodolion anarferol;
- Cael dealltwriaeth am y fframwaith awdurdod sydd gan Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol eraill y mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn gweithredu oddi mewn iddynt, gan ganolbwyntio ar y deddfau a’r rheoliadau
hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru; a
- Cael dealltwriaeth am berthnasoedd partïon cysylltiedig.
Yn ychwanegol at yr uchod, roedd fy ngweithdrefnau i ymateb i risgiau a ganfuwyd yn cynnwys y canlynol:
- adolygu’r datgeliadau yn y datganiadau ariannol a phrofi yn erbyn dogfennaeth ategol i asesu cydymffurfiaeth â deddfau a rheoliadau perthnasol a drafodir uchod;
- holi’r rheolwyr, y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ynghylch ymgyfreithiad a hawliadau gwirioneddol a phosibl;
- darllen cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg; ac
- wrth fynd i’r afael â’r risg o dwyll trwy wrthwneud rheolaethau gan reolwyr, profi priodoldeb cofnodion dyddlyfr ac addasiadau eraill; asesu a yw’r dyfarniadau a wnaed wrth lunio amcangyfrifon cyfrifyddu’n rhoi arwydd o wyrduedd bosibl; a gwerthuso’r rhesymeg fusnes dros unrhyw drafodion arwyddocaol sy’n anarferol neu y tu allan i gwrs arferol busnes.
Fe wnes i hefyd gyfleu deddfau a rheoliadau dynodedig perthnasol a risgiau posibl o dwyll i holl aelodau’r tîm archwilio ac aros yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau trwy gydol yr archwiliad.
Effeithir ar y graddau y mae fy ngweithdrefnau’n gallu canfod afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll, gan yr anhawster cynhenid o ran canfod afreolaidd-dra, effeithiolrwydd rheolaethau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a natur, amseriad a hyd a lled y gweithdrefnau archwilio a gyflawnwyd.
Ceir disgrifiad pellach o gyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol yn www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities.”>https://www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities.”>www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae’r disgrifiad hwn yn rhan o’m hadroddiad archwilio.
Cyfrifoldebau eraill yr archwilydd
Rwy’n gorfod ateb gofynion o ran cael tystiolaeth sy’n ddigon i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a’r incwm a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol wedi cael eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.
Rwy’n cyfathrebu gyda’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu ynghylch, ymhlith pethau eraill, cwmpas ac amseriad arfaethedig yr archwiliad a chanfyddiadau archwilio arwyddocaol, gan gynnwys unrhyw ddiffygion arwyddocaol mewn rheolaeth fewnol yr wyf yn eu hadnabod yn ystod fy archwiliad.
Adroddiad
Nid oes unrhyw sylwadau gennyf i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.
Adrian Crompton 1 Cwr y Ddinas Archwilydd Cyffredinol Cymru Stryd Tyndall 15 Medi 2025 Caerdydd
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio ac adrodd ar y cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio’n wreiddiol. Cyfiethiad o’r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw’r fersiwn hwn. Comisynydd Pobl Hŷn Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid yr Archwilydd Cyffredinol.
Datganiadau Ariannol
Datganiad o’r Gwariant Net Cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025
2024-25 2023-24 £000 £000
Nodyn
Gwariant gweithredol Costau staff 2 1,264 1,336 Gwariant Gweithredol Arall 3 316 295 Eitemau anariannol 3 32 33 Darpariaeth a ddarparwyd / 0 0 (Rhyddhau’r ddarpariaeth) 1,612 1,664 Gweithgareddau cyllid Llog ariannol ar brydles 10 2 2 Gwariant net ar ôl llog 1,614 1,666
Incwm Grant a gafwyd gan Gomisiynydd 4 0 (9) yr Heddlu a Throseddu Gwariant Net Cynhwysfawr ar 1,614 1,657 gyfer y flwyddyn
Mae’r holl incwm a’r gwariant yn deillio o weithrediadau sy’n parhau.
Nid oes dim enillion na cholledion cydnabyddedig ar gyfer 2024-25 na 2023-24.
Mae’r Comisiynydd yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025
31 Mawrth 2025 31 Mawrth 2024 £000 £000 £000 £000
Note
Asedau anghyfredol: 10 Asedau Hawl-i-Ddefnyddio 47 62 5 Eiddo, Offer a Chyfarpar 17 24 6 Asedau anniriaethol 18 27 Cyfanswm asedau anghyfredol 82 113
Asedau cyfredol: 7 Symiau masnach derbyniadwy a symiau 21 32 derbyniadwy eraill 8 Arian parod a’r hyn sy’n gyfwerth ag 89 57 arian parod Cyfanswm asedau cyfredol 110 89 Cyfanswm asedau 192 202
Rhwymedigaethau cyfredol: 9 Symiau masnach taladwy a symiau (38) (34) taladwy eraill 10 Prydles Hawl-i-Ddefnyddio (17) (16) Cyfanswm rhwymedigaethau (55) (50) cyfredol
Cyfanswm yr asedau ar ôl tynnu’r 137 152 rhwymedigaethau cyfredol
Rhwymedigaethau anghyfredol 10 Prydles Hawl-i-Ddefnyddio (32) (49) Cyfanswm rhwymedigaethau (32) (49) anghyfredol
Cyfanswm yr asedau ar ôl tynnu 105 103 cyfanswm y rhwymedigaethau
Ecwiti trethdalwyr 105 103
Cronfa wrth gefn gyffredinol 105 103
Rhian Bowen Davies Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
11 Medi 2025
Datganiad o’r Llif Arian ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025
31 Mawrth 2025 31 Mawrth 2024
Nodyn £000 £000
Llif arian o weithgareddau gweithredol Gwariant gweithredol yn cynnwys llog (1,614) (1,666) 3 Addasiadau ar gyfer trafodion anariannol 32 33 7 (Cynnydd)/gostyngiad yn y symiau 11 (11) masnach derbyniadwy a symiau derbyniadwy eraill 9 Cynnydd/(gostyngiad) yn y symiau 4 (1) masnach taladwy a symiau taladwy eraill All-lif arian net o weithgareddau (1,567) (1,645) gweithredol
Llif arian o weithgareddau buddsoddi 5 Prynu eiddo, peiriannau a chyfarpar 0 0 6 Prynu asedau anniriaethol 0 0 Enillion o warediadau 0 0 All-lif arian net o weithgareddau 0 0 buddsoddi
Llif arian o weithgareddau cyllido 10 Asedau Hawl-i-Ddefnyddio; Taliadau 2 2 prydles; llog 10 Asedau Hawl-i-Ddefnyddio; Taliadau (19) (17) prydles; cyfalaf 4 Incwm arall 0 9 Cyllid gan Lywodraeth Cymru 1,616 1,637 Cyllid net 1,599 1,631
Cynnydd/(gostyngiad) net mewn 32 (14) symiau cyfwerth ag arian parod am y cyfnod Arian parod a symiau cyfwerth ag arian 8 57 71 parod ar ddechrau’r cyfnod Arian parod a symiau cyfwerth ag arian 8 89 57 parod ar ddiwedd y cyfnod
Datganiad o’r Newidiadau mewn Ecwiti Trethdalwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025
Cronfa Wrth Gefn Gyffredinol 1 Ebrill 2024- 1 Ebrill 2023- 31 Mawrth 2025 31 Mawrth 2024 £000 £000
Balans ar 1 Ebrill 103 123 Gwariant net (1,614) (1,657) Cyfanswm incwm a chostau (1,511) (1,534) cydnabyddedig Cyllid gan Lywodraeth Cymru 1,616 1,637 Balans ar 31 Mawrth 105 103
Nodiadau i’r Cyfrifon 1. Datganiad polisïau cyfrifyddu
Paratowyd y datganiadau ariannol hyn yn unol â Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth (FreM) 2024-25. Mae’r polisïau cyfrifyddu a gynhwysir yn y FreM yn defnyddio Safonau Adroddiadau Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y’u haddaswyd neu y’u dehonglwyd ar gyfer cyd- destun y sector cyhoeddus.
Lle mae FreM yn caniatáu dewis o ran polisi cyfrifyddu, dewiswyd y polisi cyfrifyddu y barnwyd sydd fwyaf priodol ar gyfer amgylchiadau penodol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru at ddibenion rhoi darlun cywir a theg. Disgrifir isod y polisïau penodol a fabwysiadwyd gan y Comisiynydd. Defnyddiwyd hwy’n gyson wrth ymdrin ag eitemau yr ystyrir eu bod yn berthnasol i’r cyfrifon.
1.1 Confensiwn Cyfrifo
Paratowyd y cyfrifon hyn ar sail croniad o dan y confensiwn costau hanesyddol. Nid yw’r Comisiynydd wedi ailbrisio unrhyw ased gan nad oedd unrhyw addasiad ailbrisio yn berthnasol ym marn y Comisiynydd.
1.2 Incwm, Cyllid a Gwariant
Prif ffynhonnell gyllid y Comisiynydd yw Llywodraeth Cymru, a hynny ar ffurf dyraniad cyllid blynyddol.
Os yw cyfrifyddu yn seiliedig ar groniadau, mae’n golygu bod yr incwm a’r gwariant a ddatgelir yn y cyfrifon yn cael eu cyfrif yn y flwyddyn maent yn digwydd, nid pan mae taliadau ariannol yn cael eu gwneud neu eu derbyn.
Mae gwariant yn ymwneud yn uniongyrchol â gweithgareddau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae swydd y Comisiynydd yn berthnasol i Gymru ac yn delio â materion sy’n effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru. Dim ond un segment gweithredol sydd gan y Comisiynydd fel y gwelir yn y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr a’r nodiadau cysylltiedig.
Nid yw’r Comisiynydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW. Adroddir ar yr holl wariant gan gynnwys TAW lle bo hynny’n berthnasol, gan nad oes modd adennill TAW.
1.3 Eiddo, Offer a Chyfarpar
Isafswm lefel cyfalafu Eiddo, Offer a Chyfarpar yw £5,000 gan gynnwys TAW na ellir ei adennill.
Darperir dibrisiant ar gyfradd a gyfrifwyd i ddileu’r asedau drwy randaliadau cyfartal dros yr hyn a amcangyfrifir fel eu hoes ddefnyddiol. Caiff dibrisiant ei ddarparu o’r dyddiad mae oes ddefnyddiol yr ased yn dechrau.
Fel arfer, mae oes asedau fel a ganlyn:
Gwelliannau prydles Tymor y brydles neu hyd at y cymal torri, hyd at uchafswm o 5 mlynedd Offer swyddfa 5 mlynedd Offer cysylltiedig â TG 5 mlynedd Ased Hawl-i-Ddefnyddio Tymor y brydles neu hyd at y cymal torri, hyd at uchafswm o 5 mlynedd
Mae Eiddo, Offer a Chyfarpar yn cael eu cynnwys ar eu cost, oherwydd ym marn y Comisiynydd, ni fyddai unrhyw addasiad sy’n codi o ailbrisio yn berthnasol.
Y Comisiynydd sy’n dal teitl pob eiddo. Mae’r holl eiddo a ddefnyddir gan y Comisiynydd ar brydles.
1.4 Asedau Anniriaethol
Isafswm lefel cyfalafu ased anniriaethol yw £5,000 gan gynnwys TAW na ellir ei adennill.
Cafodd trwyddedau meddalwedd, meddalwedd technoleg gwybodaeth a’r wefan eu cyfalafu fel asedau anniriaethol a’u hamorteiddio ar sail llinell syth dros gyfnod disgwyliedig eu hoes ddefnyddiol (pum mlynedd fel arfer).
1.5 Cyfnewid Arian Tramor
Caiff trafodion mewn arian tramor eu trosi i arian sterling ar y gyfradd gyfnewid sy’n gyfredol ar ddyddiad y trafodion unigol. Caiff imprestau arian tramor eu trosi i arian sterling ar y gyfradd gyfnewid sy’n gyfredol adeg cyllido.
1.6 Pensiynau
Mae’r Comisiynydd a staff a gyflogir yn uniongyrchol yn gymwys i fod yn aelodau o Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS). Gellir ei ddisgrifio fel cynllun buddion diffiniedig heb ei gyllido ar gyfer sawl cyflogwr. Cofnodir cyfraniadau i’r cynllun ar y cyfrif gwariant net pan fyddant i’w talu yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa’r Cabinet: Blwydd-daliadau Sifil.
1.7 Rhagdaliadau
Mae’r Comisiynydd wedi mabwysiadu trothwy de minimis o £1,200 (£100 o dâl cyfatebol misol) er mwyn cydnabod rhagdaliadau. Bydd y tâl wedi’i broffilio yn cael ei ryddhau yn y mis y bydd y treuliau’n codi.
1.8 Tâl prydles gwerth isel
Mae gan y Comisiynydd un brydles tymor byr ar gyfer lle storio. Mae gwerth y brydles hon yn isel ac nid oes disgwyliad rhesymol i gyfnod y brydles bara mwy na deuddeg mis. Mae taliadau prydles felly’n cael eu cydnabod fel treuliau ac yn cael eu nodi yn y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr ar sail llinell syth.
| Gwelliannau prydles | Tymor y brydles neu hyd at y cymal torri, hyd at uchafswm o 5 mlynedd |
|---|---|
| Offer swyddfa | 5 mlynedd |
| Offer cysylltiedig â TG | 5 mlynedd |
| Ased Hawl-i-Ddefnyddio | Tymor y brydles neu hyd at y cymal torri, hyd at uchafswm o 5 mlynedd |
1.9 Arian parod a symiau cyfwerth ag arian parod
Roedd y Comisiynydd wedi tynnu arian yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn, sy’n cael ei adneuo yng nghyfrif Gwasanaeth Bancio’r Llywodraeth ar ôl iddo ddod i law. Caiff arian ei dynnu i lawr i gyfrif banc masnachol er mwyn talu rhwymedigaethau fel y maent yn dod yn ddyledus. Mae arian mân yn cael ei gadw yn swyddfa’r Comisiynydd hefyd.
1.10 Buddion gweithwyr cyflogedig
Cydnabyddir cyflogau a chyfraniadau yswiriant gwladol gweithwyr cyflogedig presennol yn y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr wrth i wasanaethau’r gweithwyr gael eu cyflawni. Mae’r Comisiynydd yn rhoi cyfrif am wyliau blynyddol â thâl fel rhwymedigaeth lle disgwylir i’r iawndal am absenoldeb gael ei setlo o fewn deuddeg mis ar ôl diwedd y cyfnod y mae’r gweithwyr yn cyflawni eu gwasanaeth.
1.11 Asedau Hawl-i-Ddefnyddio
Mae IFRS 16 wedi disodli safon prydlesi presennol IAS 17 ac mae’n mynnu y dylid asesu contractau i gadarnhau a ydynt yn cyfleu’r hawl i ddefnyddio ased yn gyfnewid am ystyriaeth. Os ydynt, rhoddir cyfrif amdanynt yn unol ag IFRS16 gydag ased hawl-i-ddefnyddio a rhwymedigaeth prydlesi yn cael eu cydnabod ar y dyddiad cychwyn. Mae’r ased hawl- i-ddefnyddio yn cael ei fesur ar sail cost i ddechrau, sy’n cynnwys swm cychwynnol rhwymedigaeth y brydles a addaswyd ar gyfer costau uniongyrchol cychwynnol, rhagdaliadau a chymhellion.
Mae’r ased hawl-i-ddefnyddio, sydd yn y set hon o ddatganiadau ariannol yn ymwneud â phrydles y Comisiynydd ar gyfer y swyddfa ar y llawr gwaelod, yn cael ei ddibrisio gan ddefnyddio’r dull llinell syth o ddyddiad cychwyn y brydles hyd at ddiwedd cyfnod y brydles.
Mae rhwymedigaeth y brydles yn cael ei mesur i ddechrau ar sail gwerth presennol taliadau’r brydles nad ydynt yn cael eu talu ar y dyddiad cychwyn, eu disgowntio gan ddefnyddio’r gyfradd llog sydd ymhlyg yn y brydles neu, os nad yw’n rhwydd pennu’r gyfradd honno, gan ddefnyddio’r gyfradd benthyca cynyddrannol a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF. Gan nad oes cyfradd llog ymhlyg ym mhrydles y Comisiynydd ar gyfer y swyddfa, rydym yn parhau i ddefnyddio cyfradd ddisgownt Trysorlys Ei Fawrhydi o 3.51%.
1.12 Safonau Cyfrifyddu sydd wedi cael eu cyhoeddi ond nad ydynt wedi cael eu mabwysiadu eto.
Mae IAS 8 yn gofyn am ddatgelu mewn perthynas â safonau cyfrifyddu newydd, diwygiadau a dehongliadau sy’n berthnasol, neu a fydd yn berthnasol, ar ôl y cyfnod cyfrifyddu.
Ym marn y Comisiynydd, ni fydd unrhyw safonau sydd wedi eu cyhoeddi ac nad ydynt wedi cael eu rhoi ar waith eto yn effeithio ar y sefydliad.
2. Mae costau staff yn cynnwys:
2024-25 2023-24
£000 £000 £000 £000 Staff Staff Wrth Cyfanswm Cyfanswm Parhaol Gefn costau staff costau staff
Cyflogau 910 0 910 990 Costau Nawdd Cymdeithasol 99 0 99 103 Costau Pensiwn Eraill 255 0 255 243 Cyfanswm y costau 1,264 0 1,264 1,336
Mae dadansoddiad o gostau staff wedi’i gynnwys yn yr Adroddiad ar Staff a Thaliadau ar dudalen 58.
3. Gwariant Gweithredol Arall
Mae gwariant gweithredol arall yn cynnwys:
2024-25 2023-24
Nodyn £000 £000
Technoleg gwybodaeth 89 76 Rhaglenni Penodol 65 59 Ffioedd proffesiynol 33 56 Costau gweinyddol eraill 46 39 Hyfforddiant a datblygu 21 13 Costau eraill o ran llety 23 16 Rhentu o dan brydlesi gweithredol 4 4 Teithio a chynhaliaeth 8 4 Ffioedd archwilio – Archwiliad allanol 19 19 Ffioedd archwilio – Archwiliad mewnol 8 9 316 295
Eitemau anariannol: Dibrisiant ased hawl-i-ddefnyddio 10 16 16 Colled ar waredu Offer Diogelu Personol 5 0 1 (PPE) Dibrisiant PPE 5 7 7 Amorteiddio asedau anniriaethol 6 9 9 32 33
Cyfanswm 348 328
Mae’r tabl isod yn rhoi dadansoddiad o’r gwariant ar gyflawni fy nghynllun strategol, a phrosiectau untro uchel eu gwerth eraill.
Maes blaenoriaeth strategol £000 Pôl Piniwn 29 Cynhyrchu adnoddau hygyrch 17 Pobl Hŷn Heb Blant 10 Rhoi tai i bobl hŷn 9 Rhaglenni Penodol 65
Nid yw’r gwariant a ddatgelwyd uchod yn cynnwys dosrannu unrhyw gostau cyflog staff y Comisiynydd, ac mae’n adlewyrchu costau uniongyrchol ychwanegol yn unig..
4. Incwm arall
2024-25 2023-24
Nodyn £000 £000
Grant a gafwyd gan Heddlu De Cymru 0 9 0 0 Cyfanswm y costau 0 9
Cafodd y Comisiynydd gyllid gan Heddlu De Cymru fel cyfraniad tuag at wella cadernid seiber y sefydliad.
5. Eiddo, Offer a Chyfarpar
Offer Swyddfa Gwelliannau Prydles Cyfanswm £000 £000 £000
Cost neu brisiad 6 30 36 Ar 1 Ebrill 2024 Ychwanegiadau 0 0 0 Gwarediadau 0 0 0 Ar 31 Mawrth 2025 6 30 36
Dibrisiant ac Amhariad 5 7 12 Ar 1 Ebrill 2024 Taliadau a godwyd yn ystod y 1 6 7 flwyddyn Gwarediadau 0 0 0 Ar 31 Mawrth 2025 6 13 19
Gwerth llyfr net ar 0 17 17 31 Mawrth 2025 Gwerth llyfr net ar 1 23 24 31 Mawrth 2024
Ni amharwyd ar unrhyw asedau ac maent yn cael eu dangos ar gost yr ystyrir ei fod yn ‘werth teg’.
| Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2025 | 0 | 17 | 17 |
|---|---|---|---|
| Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2024 | 1 | 23 | 24 |
6. Asedau Anniriaethol
Trwyddedau Technoleg Gwefan Cyfanswm Meddalwedd Gwybodaeth £000 £000 £000 £000
Cost neu brisiad 46 64 36 146 Ar 1 Ebrill 2024 Ychwanegiadau 0 0 0 0 Gwarediadau 0 0 0 0 Ar 31 Mawrth 2025 46 64 36 146
Amorteiddiad 46 59 14 119 Ar 1 Ebrill 2024 Taliadau a godwyd yn ystod y 0 2 7 9 flwyddyn Gwarediadau 0 0 0 0 Ar 31 Mawrth 2025 46 61 21 128
Gwerth llyfr net ar 0 3 15 18 31 Mawrth 2025 Gwerth llyfr net ar 0 5 22 27 31 Mawrth 2024
Ni amharwyd ar unrhyw asedau ac maent yn cael eu dangos ar gost yr ystyrir ei fod yn ‘werth teg’.
7. Symiau masnach derbyniadwy
31 Mawrth 2025 31 Mawrth 2024 £000 £000
Symiau a ddaw’n ddyledus o fewn blwyddyn: Dyledwyr masnach 0 9 Rhagdaliadau ac incwm cronedig 21 23 21 32
Rhagdaliad yw swm sy’n cael ei dalu ymlaen llaw, fel arfer am eitemau fel ardrethi neu rent. Caiff ei gydnabod fel ased i ddechrau ac fe gaiff ei osod fel treuliau yn y cyfnod pan dderbynnir y buddiant.
Nid oedd symiau derbyniadwy’n ddyledus ar ôl mwy na blwyddyn.
| Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2025 | 0 | 3 | 15 | 18 |
|---|---|---|---|---|
| Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2024 | 0 | 5 | 22 | 27 |
8. Arian parod a’r hyn sy’n gyfwerth ag arian parod
2024-25 2023-24 £000 £000
57 71
Balans ar 1 Ebrill 32 (14) Newid net mewn balansau arian parod a chyfwerth ag arian parod Balans ar 31 Mawrth 89 57
Roedd y balansau canlynol ar 31 Mawrth yn cael eu dal yn: 5 52 Gwasanaeth Bancio’r Llywodraeth 84 5 Banciau masnachol ac arian mewn llaw Balans ar 31 Mawrth 89 57
9. Symiau Masnach Taladwy a Rhwymedigaethau Eraill
31 Mawrth 2025 31 Mawrth 2024 £000 £000
Symiau a ddaw’n ddyledus o fewn blwyddyn Symiau masnach taladwy 3 4 Croniadau 35 30 Balans ar 31 Mawrth 38 34
10. Asedau Hawl-i-Ddefnyddio
Mae gan y Comisiynydd un brydles pum mlynedd ar gyfer swyddfa fach yn Adeiladau Cambrian, Caerdydd. Dechreuodd y brydles ar 4 Awst 2023.
Adeiladau Cyfanswm £000 £000
Prisiad ar 31 Mawrth 2024 79 79 Ychwanegiadau 0 0 Gwarediadau 0 0 Balans ar 31 Mawrth 2025 79 79
Dibrisiant ar 31 Mawrth 2024 16 16 Ffioedd am y flwyddyn 16 16 Gwarediadau 0 0 Balans ar 31 Mawrth 2025 32 32
Gwerth Net ar y Llyfrau ar 31 Mawrth 2025 47 47 Gwerth Net ar y Llyfrau ar 31 Mawrth 2024 62 62
| Gwerth Net ar y Llyfrau ar 31 Mawrth 2025 | 47 | 47 |
|---|---|---|
| Gwerth Net ar y Llyfrau ar 31 Mawrth 2024 | 62 | 62 |
Dadansoddiad Aeddfedrwydd 2025 2024 £000 £000 Llifoedd arian contractiol heb eu disgowntio sy’n ymwneud â rhwymedigaethau prydles O fewn blwyddyn 19 19 Rhwng blwyddyn a phum mlynedd 32 51 Ar ôl pum mlynedd 0 0 Swm 51 70
Llai taliadau yn y dyfodol a ddyrannwyd i gyfnodau (2) (5) yn y dyfodol
Isafswm taliadau prydles 49 65
Wedi’i gynnwys yn y Symiau masnach taladwy cyfredol 17 16 Symiau masnach taladwy anghyfredol 32 49 49 65
Swm a gydnabyddir yn y Datganiad o Wariant Net 2025 2024 Cynhwysfawr Dibrisiant 16 16 Llog ar rwymedigaethau prydlesau 2 2
Swm a gydnabyddir yn y Datganiad Llifoedd Arian 2025 2024 (net o TAW na ellir ei hadennill) Costau llog 2 2 Ad-dalu prifswm ar brydlesau (19) (17) Cyfanswm llif arian (17) (15)
11. Offerynnau Ariannol
Mae gofynion ariannol y Comisiynydd yn cael eu diwallu drwy gyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Oherwydd hyn, nid yw’r Comisiynydd yn wynebu llawer o risgiau o ran hylifedd.
Mae’r rhan fwyaf o offerynnau ariannol yn ymwneud â chontractau i brynu eitemau anariannol, yn unol â gofynion disgwyliedig y Comisiynydd o ran prynu a defnyddio. O ganlyniad, nid yw’r Comisiynydd yn agored i fawr ddim risg o ran credyd, hylifedd, cyfraddau llog nac arian tramor.
Does dim gwahaniaeth gwirioneddol rhwng y gwerth ar y llyfrau a gwerth teg rhwymedigaethau ac asedau ariannol y sefydliad ar 31 Mawrth 2025 (31 Mawrth 2024: £dim).
12. Prydlesi cyllid a chontractau PFI
Nid oes rhwymedigaethau o dan brydlesi cyllid na chontractau PFI (2023-24: dim). Nid yw’r Comisiynydd wedi ymrwymo i gontractau na ellir eu canslo sy’n brydlesi neu’n gontractau PFI (2023-24: dim).
13. Rhwymedigaethau amodol a ddatgelir dan IAS 37
Nid oes gan y Comisiynydd unrhyw rwymedigaethau amodol nad ydynt yn cael eu datgelu yn rhywle arall yn y cyfrifon hyn (2023-24: dim).
14. Trafodion partïon cysylltiedig
Yn 2024-25 derbyniodd y Comisiynydd gyllid o £1,616,000 gan Lywodraeth Cymru (2023-24: £1,637,000).
Ystyrir Llywodraeth Cymru yn barti cysylltiedig.
Yn ystod 2024-25, ni fu’r Comisiynydd, nac unrhyw aelod arall o’r Uwch Dîm Arwain, nac unrhyw aelod o’u teuluoedd, yn ymwneud yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol ag unrhyw drafodion gyda’r swyddfa yn ystod y flwyddyn, ac eithrio’r taliadau cyflog a’r hawliadau arferol am dreuliau.
15. Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd
Ni chafwyd digwyddiadau o bwys rhwng diwedd y flwyddyn ac adeg cymeradwyo’r cyfrifon hyn.
Cafodd y datganiadau ariannol hyn eu hawdurdodi i’w cyhoeddi gan Rhian Bowen- Davies ar 11 Medi 2025.