Angen Help?

Ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Atal Trais ar sail Rhywedd drwy Ddulliau Iechyd y Cyhoedd

Ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Atal Trais ar sail Rhywedd drwy Ddulliau Iechyd y Cyhoedd

Ebrill 2023

Cyflwyniad

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i ymgynghoriad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ar atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd.

Un o flaenoriaethau’r Comisiynydd yw rhoi’r gorau i gam-drin pobl hŷn. Yn ystod y pandemig Covid-19, sefydlodd y Comisiynydd grwpiau ‘Gweithredu ar Atal Cam-drin’ a ‘Grŵp Llywio’, i helpu i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn camdriniaeth sy’n cael ei ragweld ymhlith pobl hŷn 1. Mae angen i gylch gorchwyl yr ymchwiliad adlewyrchu’r ffaith y gellir profi trais a chamdriniaeth drwy gydol cwrs bywyd, gan bobl iau a hŷn fel ei gilydd. Mae ymchwil wedi dangos bod pobl hŷn yn profi’r un mathau o gamdriniaeth â’r rheini mewn grwpiau oedran iau 2. Yn wir, gallai rhai pobl hŷn fod mewn mwy o berygl o gamdriniaeth yn sgil teimladau o unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol 3. Eto i gyd, ceir cryn dystiolaeth i ddangos bod pobl hŷn sy’n profi camdriniaeth wedi’u gwasanaethu’n wael o ran ymyrraeth ymarferwyr a darpariaeth gwasanaethau cymorth arbenigol 4 5.

Mae sylwadau’r Comisiynydd ar feysydd ffocws yr ymchwiliad yn cael eu trafod yn yr adrannau canlynol:

Beth sy’n gweithio i atal trais ar sail rhywedd cyn iddo ddigwydd (atal cychwynnol) ac ymyrryd yn gynharach i atal trais rhag gwaethygu (atal eilaidd)?

Mae gofyn cwestiynau am atal ac ymyrraeth gynnar yn hanfodol i waith yr ymchwiliad, y mae angen iddo ganolbwyntio ar “yr hyn sy’n gweithio” i atal pobl hŷn rhag cael eu cam-drin. Mae trais a chamdriniaeth yn cael goblygiadau corfforol ac emosiynol dinistriol ar bobl hŷn 6, a gall arwain at gyfraddau uwch o farwolaethau 7.

I helpu i atal y cam-drin rhag gwaethygu ymhlith pobl hŷn, dylai’r ymchwiliad (a) archwilio i ba raddau y mae’r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd yn effeithiol o ran diwallu anghenion pobl hŷn a (b), y camau sydd eu hangen i gynyddu effeithiolrwydd y gwasanaethau hyn ar gyfer pobl hŷn. Mae’n bwysig bod yr ymchwiliad yn ystyried y bylchau mewn gwasanaethau cyfredol ac yn archwilio’r angen am fwy o wasanaethau arbenigol, wedi’u hanelu’n benodol at bobl hŷn sy’n cael eu cam-drin.

Mae ymchwilio i “beth sy’n gweithio” yn tanlinellu gwerth ymchwil a data; gan nodi’n glir yr angen i ategu camau gweithredu ac ymyriadau gyda sylfaen dystiolaeth gadarn sydd ‘wedi’i phrofi’, er mwyn sicrhau eu bod mor effeithiol â phosib. Gall ymchwil gael effaith hynod o bositif ar waith ymarferwyr. Pan fydd ymarferwyr yn deall y ffactorau sy’n cynyddu ac yn lliniaru camdriniaeth pobl hŷn er enghraifft, gallant asesu’r risg o niwed yn fwy effeithiol 8. Yn anffodus, serch hynny, mae data ac ymchwil am gamdriniaeth pobl hŷn yn rhy brin o lawer (pa mor gyffredin ydyw ar lefelau lleol; effeithiolrwydd strategaethau atal camdriniaeth ac effeithiolrwydd dulliau ymyrraeth gynnar). Drwy ofyn y cwestiynau hyn, gall yr ymchwiliad dynnu sylw at y mathau o waith ymchwil pellach a’r systemau casglu data gwell sydd eu hangen i helpu i atal pobl hŷn rhag cael eu cam-drin.

 

Pa mor effeithiol yw atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd a beth mwy sydd angen ei wneud i fynd i’r afael ag anghenion gwahanol grwpiau o fenywod, gan gynnwys LHDTC+, pobl ifanc a hŷn sydd mewn perygl o drais yn y cartref ac mewn mannau cyhoeddus?

Yn 2022, fe wnaeth Sefydliad Iechyd y Byd argymell dull iechyd y cyhoedd i fynd i’r afael â cham-drin pobl hŷn 9. Mae dull o’r fath yn edrych yn addawol. Yn ogystal ag eirioli dros ddulliau cadarn o atal ac ymyrryd sy’n seiliedig ar dystiolaeth, mae dull iechyd y cyhoedd yn ddull system gyfan; mae’n cydnabod yr angen i fynd i’r afael â’r agweddau, y tybiaethau a’r credoau negyddol sy’n sail ac yn siapio gweithredoedd ac ymddygiadau camdriniol. Mae ymchwil yn amlygu’n gynyddol y ffyrdd y mae rhagfarn ar sail oedran (agweddau negyddol tuag at oedran), yn dilysu ac yn cynyddu trais a chamdriniaeth tuag at bobl hŷn 10. Mae’n hollbwysig bod dull iechyd y cyhoedd o fynd i’r afael â chamdriniaeth pobl hŷn yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o broblem rhagfarn ar sail oedran a’i gysylltiadau â cham-drin pobl hŷn. Mae datblygu strategaethau i herio agweddau a chredoau rhagfarnllyd am oedran yn hollbwysig i atal pobl hŷn rhag cael eu cam-drin.

Mae cam-drin pobl hŷn yn broblem gudd gan fwyaf 11. Dangosodd ymchwil a gomisiynwyd gan yr OPCW fod profiadau pobl hŷn, er enghraifft, o grwpiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn arbennig o gudd 12. Efallai na fydd pobl hŷn o’r fath yn gofyn am gymorth oherwydd pryderon am faterion fel statws economaidd neu fewnfudo oherwydd byddai’n cael ei ystyried fel rhywbeth sy’n codi cywilydd ar eu teulu neu gymuned 13. Yn yr un modd, efallai y bydd pobl hŷn o’r gymuned LHDTC+ yn wynebu sialensiau ychwanegol wrth ddatgelu’r gamdriniaeth. Fan hyn, efallai bod profiadau negyddol y gorffennol yn arwain at deimladau o ddiffyg ymddiriedaeth tuag at weithwyr proffesiynol a gwasanaethau 14. Mae’n bwysig bod ymchwil ychwanegol yn cael ei gynnal i ddeall profiadau pobl hŷn o’r grwpiau hyn yn well, ac i helpu i sicrhau bod digon o wasanaethau arbenigol ar gael.

Mae’n destun pryder ei bod yn ymddangos bod yr ymchwiliad yn cyfyngu ar ei gylch gorchwyl drwy archwilio profiadau ac anghenion menywod sy’n profi camdriniaeth yn unig. Er nad oes amheuaeth mai menywod yw prif ddioddefwyr VAWDASV (trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol), ni ddylai’r ymchwiliad anwybyddu’r ffaith bod dynion yn cael eu cam-drin hefyd. Mae hefyd yn hysbys bod y tebygolrwydd o ddynion yn cael eu cam-drin yn cynyddu gydag oedran 15. Yn yr ymchwil a gomisiynwyd gan yr OPCW, tynnodd sylw at yr heriau sylweddol y mae dynion hŷn yn eu hwynebu wrth fyw mewn sefyllfaoedd o gam-drin domestig 16, o ran datgelu eu profiadau ac o ran cael mynediad at ofal a chymorth. Mae angen ehangu cylch gorchwyl yr ymchwiliad i sicrhau y rhoddir ystyriaeth i anghenion dynion a menywod sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu sy’n wynebu camdriniaeth.

 

Beth yw rôl y cyhoedd ac arbenigwyr (gan gynnwys yr heddlu, ysgolion, y GIG, y trydydd sector a sefydliadau eraill y mae menywod a merched yn troi atynt am gymorth), wrth adnabod, taclo ac atal trais yn erbyn menywod, a’u rôl wrth gefnogi dioddefwyr a goroeswyr?

Fel y nodwyd uchod, mae angen ehangu cylch gorchwyl yr ymchwiliad i ystyried gwerth dull iechyd y cyhoedd wrth fynd i’r afael â thrais tuag at ddynion a menywod.

Gall fod yn heriol cydnabod ac ymateb i gamdriniaeth ymhlith pobl hŷn 17. Mae ymchwil yn dangos bod rhai ymarferwyr yn methu ag adnabod y gamdriniaeth ymhlith pobl hŷn ac yn gwneud rhagdybiaethau am achos posib anaf corfforol person hŷn, er enghraifft 18. Mewn sefyllfaoedd eraill, daw ymarferwyr yn ymwybodol bod person hŷn yn cael ei gam-drin ond yn methu ag ymyrryd mewn ffyrdd priodol 19. Mae ymchwil diweddar yn dangos bod cydberthynas rhwng ansawdd yr hyfforddiant am gam-drin pobl hŷn, a lefelau hyder ymarferwyr wrth adnabod ac ymateb i gamdriniaeth pobl hŷn 20. Mae’r ymchwil yn dangos os yw ymarferwyr am adnabod ac ymateb yn effeithiol i gamdriniaeth pobl hŷn, rhaid iddynt dderbyn hyfforddiant effeithiol sydd wedi’i dargedu.

Rhaid i hyfforddiant ar gamdriniaeth pobl hŷn alluogi ymarferwyr i herio eu syniadau ynghylch camdriniaeth pobl hŷn (ei achosion posib a deinameg) a dylai amlygu’r anghydraddoldebau o ran mynediad pobl hŷn at gyfiawnder troseddol. Dylai hyfforddiant o’r fath godi ymwybyddiaeth ymarferwyr o’r angen i ystyried ymateb cyfiawnder troseddol wrth weithio gyda phobl hŷn sy’n cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Mae llawer mwy o siawns o atal trais yn erbyn pobl hŷn, os yw’r rhai sy’n cyflawni trais o’r fath yn cael eu dwyn i gyfrif yn llawn am eu gweithredoedd a’u hymddygiad. Mae’n peri pryder mai prin yw mynediad pobl hŷn at gyfiawnder troseddol wrth wynebu trais a chamdriniaeth. Anaml y bydd erlyniadau troseddol yn cael eu dwyn yn erbyn y rhai sy’n cyflawni trais a chamdriniaeth tuag at bobl hŷn 21. Mae sawl rheswm posib dros ddiffyg mynediad pobl hŷn at gyfiawnder troseddol, ac mae rhywfaint o hynny’n ymwneud â diffyg data a gofnodir am droseddau a gyflawnir yn erbyn pobl hŷn 22. Un thema o fewn y llenyddiaeth sy’n berthnasol i egluro
lefelau isel o fynediad at gyfiawnder troseddol yw’r broblem ‘meddylfryd ymarferwyr’ wrth weithio gyda phobl hŷn sy’n cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Dadleuir bod y cysyniad o gam-drin pobl hŷn yn wahanol i sefyllfaoedd eraill o gamdriniaeth ac yn cael ei ystyried fel mater i’w daclo gan asiantaethau iechyd a lles yn hytrach na systemau cyfiawnder troseddol. Yn 2010, nododd John Williams fod ei ‘ddull lles’ wedi dad-droseddoli camdriniaeth pobl hŷn. Er ei fod yn cydnabod na ddylid erlyn pob achos o gam-drin yn erbyn pobl hŷn, dadleuodd serch hynny y dylai fod ymateb ‘priodol’ a ‘chymesur’ gan yr heddlu 23.

Mae’n bwysig, wrth gwrs, bod sefydliadau a gweithwyr proffesiynol yn glir ynglŷn â’u rolau a’u cyfrifoldebau o ran adnabod, taclo ac atal trais a chamdriniaeth. Serch hynny, dylid ehangu gwaith yr ymchwiliad i ystyried nid yn unig yr hyn y mae gwahanol grwpiau o ymarferwyr yn ei wneud, ond hefyd ystyried y ffyrdd y caiff y gwaith hwnnw ei gyflawni (ei effeithiolrwydd). Rhaid ystyried y ffactorau systemig hynny sy’n tanseilio ymdrechion ataliol tuag at atal trais a chamdriniaeth tuag at bobl hŷn ac sy’n peryglu effeithiolrwydd ymyriadau ymarferwyr. Mae gwasanaethau VAWDASV (trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol) yn wynebu her ddigynsail ar hyn o bryd 24. Ystyrir bod materion fel maint llwyth gwaith, pwysau ar amser a phryderon am gynaliadwyedd modelau ariannu cyfredol, yn cael effaith andwyol sylweddol ar waith y sector. Dylai gwaith yr ymchwiliad dynnu sylw at y materion hyn ac ystyried beth sydd ei angen i’w datrys. Bydd archwilio ffyrdd o hybu cydweithio ar draws sefydliadau hefyd yn hanfodol i sicrhau cefnogaeth effeithiol.

 

Casgliadau

Mae’r ymchwiliad yn gyfle pwysig i dynnu sylw at yr heriau ychwanegol sy’n wynebu pobl hŷn wrth brofi trais a chamdriniaeth ac i sicrhau datblygiad gwasanaethau priodol i atal pobl hŷn rhag cael eu cam-drin yng Nghymru. I wneud hynny, rhaid i’r Pwyllgor ehangu ei gylch gorchwyl i sicrhau ystyriaeth lawn o’r heriau penodol sy’n cael eu hwynebu gan bobl hŷn wrth brofi camdriniaeth. Mae’r heriau hyn yn cynnwys ymhlith pethau eraill, diffyg ymchwil a data am gam-drin pobl hŷn, sydd yna’n cyfyngu ar y graddau y gall ymarferwyr ymarfer yn effeithiol mewn ffordd ‘sy’n seiliedig ar dystiolaeth’. Mae’r ymateb hwn wedi amlygu’r angen am fwy o ymchwil yn y maes hwn (gan gynnwys ymchwil ar brofiadau’r bobl hŷn hynny o grwpiau a ymyleiddiwyd); systemau gwell ar gyfer casglu data wedi’i ddadgyfuno a gwell hyfforddiant pwrpasol i ymarferwyr os am atal camdriniaeth a thrais tuag at bobl hŷn.

 

 

 

 

1 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin: Atal Cam-drin Pobl Hŷn – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
2 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2021. Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy’n Profi Camdriniaeth yng Nghymru. Ar gael yn: Gwasanaethau-Cymorth-i-Bobl-Hŷn-sy’n-Profi-Camdriniaeth-yng-Nghymru.pdf (olderpeople.wales)
3 Mysyuk, Y., Westendorp, R.G.J. and Lindenberg, J.2016. How Older Persons explain why they become victims of abuse. Age and Ageing (45), t. 695-702.
4 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Llety a Chefnogaeth i Bobl Hŷn sy’n cael eu Cam-drin. Ar gael yn: https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2022/05/Accommodation-Workshop-Report-w.pdf
5 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2021. Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy’n Profi Camdriniaeth yng Nghymru. Ar gael yn: Gwasanaethau-Cymorth-i-Bobl-Hyn-sy’n-Profi-Camdriniaeth-yng-Nghymru.pdf (olderpeople.wales)
6 Penhale, B. (2003). Older Women, Domestic Violence, and Elder Abuse: A Review of Commonalties, Differences and Shared Approaches. Journal of Elder Abuse and Neglect 15(3-4), t. 163-183.
7 Lachs, M.S., Williams, C.S. and O’Brien, S. (1998). The Mortality of Elder Mistreatment. Journal of American Medical Association (230), t. 428-432.
8 Storey, J.E. 2020. Risk Factors for Elder Abuse and Neglect: A review of the Literature. Aggression and Violent Behaviour (50), t. 1-13.
9 Sefydliad Iechyd y Byd. 2022. Tackling Abuse of Older People: Five Priorities for the United Nations Decade of Healthy Ageing (2021-2030). Ar gael yn: Tackling abuse of older people: five priorities for the United Nations Decade of Healthy Ageing (2021–2030) (who.int)
10 Dow, B., Joosten, M. 2012. Understanding Elder Abuse: A Social Rights Perspective. International Psychogeriatrics 4(6), t. 853-855.
11 Pankhuri, B. and Soletti, A. 2019. Hushed Voices: Views and Experiences of Older Women on Partner Abuse in Later Life. Ageing International 44(1), t. 41-46.
12 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2021. Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy’n Profi Camdriniaeth yng Nghymru. Ar gael yn: Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy’n Profi Camdriniaeth yng Nghymru.pdf (olderpeople.wales)
2021. Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy’n Profi Camdriniaeth yng Nghymru. Ar gael yn: Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy’n Profi Camdriniaeth yng Nghymru.pdf (olderpeople.wales)
14 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2021. Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy’n Profi Camdriniaeth yng Nghymru. Ar gael yn: Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy’n Profi Camdriniaeth yng Nghymru.pdf (olderpeople.wales)
15 Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 2021. Domestic Abuse in England and Wales Overview (Tachwedd 2022):
Domestic abuse in England and Wales overview – Office for National Statistics (ons.gov.uk)
16 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2022. Gwella’r Gefnogaeth a’r Gwasanaethau i Ddynion Hŷn sy’n cael eu Cam-drin yn Ddomestig. Ar gael yn: Gwella’r Gefnogaeth a’r Gwasanaethau i Ddynion Hŷn sy’n cael eu Cam-drin yn Ddomestig.pdf (olderpeople.wales)
17 McCreary, K.E. 2012. Elder Abuse: Ethical Decision-Making. Clinical Scholars Review 5(1), t. 55-59.
18 Matthews, S. A, O., Reynolds, J. 2015. Bruising in Older Adults: What Do Social Workers Need to Know? The Journal of Adult Protection 17(6), t. 351-359.
19 Nursing Times. 2002. Are Nurses Equipped to Manage Actual or Suspected Elder Abuse? Ar gael yn: Are nurses equipped to manage actual or suspected elder abuse? | Nursing Times
20 Fang, J.H., Chen, I. H., Lai, H.R., Lee, P.I., Miao, N.F. 2022. Factors associated with Nurses’ Willingness to Handle the Abuse of Older People. Nurse Education in Practice (65), t.
21 Rees, J. BBC. 2019. Prosecutor wants more convictions for crimes against the elderly. Ar gael yn: Prosecutor wants more convictions for crimes against elderly – BBC News
22 HMCPSI and CPS. 2019. The Poor Relation: The Police and Crime Prosecution Service’s Response to Crimes against Older People. Ar gael yn: https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/wp-content/uploads/crimes-against-older-people.pdf
23 Williams, J. 2012. Elder Abuse: Criminological Perspective. In Brookman, F., Maguire, M., Pierpoint, H. and Bennet, T. Handbook on Crime. Dawson Books.
24 Cymorth i Ferched Cymru. 2022. A Perfect Storm: The Funding Crisis Pushing

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges