Angen Help?

Ymateb i’r strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant

An older woman smiling while taking to another person

Ymateb i’r strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant

Mehefin 2024

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y strategaeth ddrafft iechyd meddwl a llesiant ar gyfer Cymru 2024 i 2034.

 

Ffactorau ehangach sy’n effeithio ar iechyd meddwl

Mae’r Comisiynydd yn croesawu ymdrech Llywodraeth Cymru i gynnwys pobl hŷn wrth ddatblygu’r strategaeth ddrafft. Ym mis Mawrth 2024, cynhaliwyd ymchwil ar ran y Comisiynydd gyda thros 500 o bobl 60 oed a hŷn sy’n byw yng Nghymru, gan ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys iechyd meddwl.[i]

Dywedodd dwy ran o dair o’r ymatebwyr mai ‘ymdeimlad cryf o gymuned’ oedd y peth gorau am fynd yn hŷn yng Nghymru, gan dynnu sylw at y rôl hollbwysig y mae ein ffrindiau a’n cymdogion, yn ogystal â’r amwynderau yn ein cymunedau, yn aml yn ei chwarae o ran cefnogi ein hiechyd a’n llesiant, a’n galluogi i heneiddio’n dda. Mae’n gadarnhaol gweld rôl cymunedau o ran hyrwyddo a diogelu iechyd meddwl da ar draws bywyd yn cael ffocws a gwerth sylweddol yn nogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru, ynghyd â chydnabod penderfynyddion ehangach iechyd wrth lywio’r strategaeth.

Wrth i bobl hŷn gael eu nodi yn y strategaeth ddrafft fel grŵp poblogaeth a allai fod angen cymorth ychwanegol i ddiogelu eu hiechyd meddwl, dylid sefydlu cysylltiad strategol clir â chyhoeddiad Llywodraeth Cymru, ‘Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio’, gyda’i chynllun gweithredu cysylltiedig yn cael ei gynnwys fel rhan o’r ffocws ar anghydraddoldeb a hyrwyddo tegwch.

Mae pwysigrwydd strategol cyffredin model Dinasoedd a Chymunedau Oed-Gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd yn arbennig o berthnasol yn y cyd-destun hwn. Mae’r ffordd mae’n cael ei weithredu yng Nghymru ar hyn o bryd yn ffordd allweddol o gynorthwyo cymunedau i gymryd rhan mewn cynllunio a darparu ar y cyd ag asiantaethau cyhoeddus a gwirfoddol sy’n rhanddeiliaid, gan eu cynnwys mewn ymdrechion i hyrwyddo a diogelu iechyd meddwl da i bawb. Mae parhau i fuddsoddi ac ymgysylltu â’r dull hwn o gydlynu cyfranogiad cymunedol yn hanfodol, a dylai gael ei gydnabod a’i gefnogi’n fwy penodol yn y strategaeth a’r cynllun cyflawni terfynol.

Mae profiadau o wahaniaethu hefyd yn rhan o benderfynyddion ehangach iechyd meddwl.  Mae gan oedraniaeth y potensial i effeithio ar iechyd meddwl unigolyn a’r mathau o gymorth a thriniaeth sy’n cael eu cynnig/derbyn ar gyfer problemau iechyd meddwl.  Gall gwahaniaethu gael effaith niweidiol ar iechyd meddwl pobl fel y dangosir gan astudiaethau presennol, sy’n canolbwyntio’n bennaf ar hiliaeth neu brofiadau o wahaniaethu canfyddedig yn gyffredinol.  Mae tystiolaeth sylweddol o effeithiau niweidiol gwahaniaethu ar iechyd meddwl.[ii]  O ran oedraniaeth yn benodol, canfu astudiaeth o bobl hŷn (50 oed a hŷn) yn Lloegr fod canfyddiad o brofiad o oedraniaeth yn gysylltiedig â thebygolrwydd uwch o symptomau iselder.  O’r bobl hŷn a oedd yn rhan o’r astudiaeth, dywedodd dros chwarter eu bod wedi profi gwahaniaethu ar sail oedran, gyda 41% yn dweud eu bod yn cael gwasanaeth neu driniaeth salach mewn lleoliadau meddygol.[iii]  Daeth yr ymchwil i ben drwy bwysleisio ‘pwysigrwydd mynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran, gyda’r manteision posibl yn cynnwys gwell iechyd meddwl a llesiant, cynnal iechyd corfforol, ac atal clefydau ymysg oedolion hŷn’.[iv]  Mae angen i strategaeth Llywodraeth Cymru fynd i’r afael yn benodol ag oedraniaeth fel problem gymdeithasol ond hefyd o ran y materion penodol y gallai pobl hŷn eu hwynebu o ganlyniad i agweddau oedraniaethol gan wasanaethau a gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol.

 

Iechyd meddwl pobl hŷn

Gwerthfawrogwyd y cyfle i gymryd rhan yn yr Adolygiad Annibynnol o Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, ac mae’n dda gweld bod y materion a amlygwyd yn ystod yr adolygiad yn cael eu crybwyll yn yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb sy’n cyd-fynd â’r ddogfen ymgynghori.  Mae hyn yn cynnwys data gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar nifer yr achosion o gyflyrau iechyd meddwl ymysg pobl hŷn, effaith digwyddiadau bywyd a phenderfynyddion ehangach iechyd meddwl ar bobl hŷn, ynghyd ag ymateb y Comisiynydd i ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd i anghydraddoldebau iechyd meddwl.

Ers yr adolygiad, roedd ymchwil a gynhaliwyd ar ran y Comisiynydd ym mis Mawrth 2024 yn dangos bod lefelau optimistiaeth ymysg pobl hŷn yng Nghymru yn gostwng yn sylweddol.  Dim ond 39% o’r cyfranogwyr oedd yn obeithiol am y dyfodol, ac roedd 37% yn besimistaidd.  Mae hyn yn newid sylweddol o 80% ac 8% yn y drefn honno yn 2021.  Roedd yr un ymchwil yn dangos bod 17% o’r ymatebwyr yn disgwyl cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl yn ystod y flwyddyn nesaf.  Byddai ymestyn y canlyniad hwn i lefel genedlaethol yn golygu bod bron i 150,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn disgwyl cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl, heb ystyried ffactorau fel yr achosion uchel o iselder a gorbryder ymysg pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal neu’r tebygolrwydd uwch o brofi salwch meddwl cyffredin fel gorbryder neu iselder ymysg menywod Du wrth gymharu â phobl wyn.[v]

Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod yr amrywiaeth o dystiolaeth ar iechyd meddwl pobl hŷn, gan gynnwys y dystiolaeth a nodir uchod, yn cael ei defnyddio i lywio’r cynlluniau arfaethedig ar gyfer cymorth ychwanegol i bobl hŷn.

 

Hawliau pobl hŷn

Mae’r Comisiynydd yn cefnogi’r datganiadau gweledigaeth a’r egwyddorion a nodir yn y strategaeth ddrafft, yn enwedig y dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau, ac mae’n annog cyrff cyhoeddus i fabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau fel ffordd o weithio i ddiogelu a hyrwyddo hawliau dynol pobl hŷn wrth gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn golygu y dylai cyrff cyhoeddus ddilyn yr egwyddorion a ganlyn:

  • Gwreiddio hawliau dynol pobl hŷn
  • Grymuso pobl hŷn
  • Peidio â gwahaniaethu a chydraddoldeb
  • Cyfranogiad

Mae’r egwyddorion yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau sy’n seiliedig ar hawliau a nodir yn y strategaeth.

 

Ynysu cymdeithasol ac allgáu digidol

Croesewir yn arbennig y bwriad i’r strategaeth ategu’r gwaith o gyflwyno presgripsiynu cymdeithasol i fynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol.  Roedd 21% o’r bobl hŷn a gymerodd ran mewn ymchwil a gynhaliwyd ar ran y Comisiynydd ym mis Mawrth 2024 yn disgwyl wynebu ynysu cymdeithasol yn ystod y flwyddyn nesaf.  Byddai hyn yn cyfateb i 184,000 o bobl hŷn yn genedlaethol.  Ym mis Rhagfyr 2023, cyhoeddodd y Comisiynydd bapur briffio ar unigrwydd ac arwahanrwydd ymysg pobl hŷn a galwodd ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei strategaeth unigrwydd 2020.[vi]

Ym mis Ionawr 2024, rhybuddiodd y Comisiynydd fod mwy o ddefnydd o dechnoleg ddigidol yn rhoi pobl hŷn mewn perygl o gael eu heithrio’n gymdeithasol.[vii]  Nid yw 33% o bobl dros 75 oed a 13% o bobl 65-74 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd, gan gynnwys teledu clyfar a dyfeisiau llaw.[viii]  Gall technoleg ac atebion digidol helpu llawer o bobl hŷn i ofalu am eu hiechyd a’u llesiant.  Fodd bynnag, mae’r gydnabyddiaeth yn y strategaeth iechyd meddwl a llesiant ddrafft bod angen canolbwyntio hefyd ar allgáu digidol ac ar ddarparu sianeli amgen ac adnoddau all-lein ar gyfer y bobl hynny nad ydynt yn gallu cael gafael ar wasanaethau’n ddigidol, neu sy’n dewis peidio â gwneud hynny (mae llawer ohonynt yn defnyddio gofal iechyd yn amlach na’r cyfartaledd).  Mae angen i hyn fod yn realiti yn hytrach nag yn ddyhead.  Dylid cynnwys mynediad all-lein at wasanaethau, gan gynnwys iechyd meddwl a llesiant, o’r dechrau fel rhan o ddull dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.

 

Cynlluniau cyflawni a dangosyddion

Mae’r strategaeth ddrafft yn cynnwys nifer o ddangosyddion mesuradwy y bydd Llywodraeth Cymru yn eu monitro fel rhan o weithredu’r strategaeth.  Bydd yn bwysig asesu manylion targedau tymor byr pan fydd hyn yn cael ei nodi mewn cynlluniau cyflawni a dangosyddion pellach yn cael eu nodi i ategu’r gwaith o werthuso’r strategaeth pan gaiff ei chomisiynu.  Dylai’r strategaeth, y cynlluniau cyflawni a’r dangosyddion roi sylw i’r meysydd isod.

O ystyried y dull gweithredu ar gyfer pob oed yn y strategaeth, mae angen eglurder ynghylch sut bydd gweithredu’n mynd ati i osgoi oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran a’r camau gweithredu a’r mesurau a fydd yn sicrhau hyn.  Mae tystiolaeth y Comisiynydd i ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd i anghydraddoldebau iechyd meddwl[ix] yn nodi enghreifftiau (o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion) o beth yw gwahaniaethu ar sail oedran mewn gwasanaeth.  Gellir cyffredinoli’r rhain i gyd-destunau eraill.  Dylai cynlluniau cyflawni a dangosyddion ymgorffori’r fframwaith hwn.

Mae angen mynd i’r afael â’r diffygion o ran casglu data am salwch meddwl ymysg y boblogaeth hŷn yng Nghymru a amlygwyd yn ymateb y Comisiynydd i ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd i anghydraddoldebau iechyd meddwl, a rhaid rhannu data yn ôl oedran (yn ddelfrydol, mewn bandiau oedran pum mlynedd) a nodweddion gwarchodedig eraill i adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth hŷn.

Mae mynediad pobl hŷn at wasanaethau iechyd meddwl yn bryder ers tro byd.  Roedd Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-22 Llywodraeth Cymru yn cynnwys mesurau i wella mynediad oedolion hŷn at therapïau seicolegol a gofal mewn argyfwng a gofal y tu allan i oriau.  Byddai’n ddefnyddiol gweld tystiolaeth o welliannau hyd yma o ran mynediad pobl hŷn at wasanaethau o ganlyniad i’r mesurau hyn. Rhaid i’r strategaeth a’r cynllun cyflawni newydd sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu dangos argaeledd a mynediad at wasanaethau iechyd meddwl priodol i ddiwallu anghenion pobl hŷn.

Mae’r strategaeth ddrafft iechyd meddwl a llesiant yn tynnu sylw at yr effaith y gall pontio rhwng gwasanaethau ei chael ar iechyd meddwl.  Gall symud i gartref gofal, er enghraifft, arwain at ganlyniadau emosiynol enfawr i lawer o bobl hŷn a’u gofalwyr di-dâl.[x]  Ar adegau pontio, mae angen i bobl hŷn a’u gofalwyr di-dâl gael dulliau ymarfer sy’n seiliedig ar drawma ac sy’n seiliedig ar berthynas, sy’n cydnabod effeithiau emosiynol profiadau pontio, ac sy’n ceisio hyrwyddo llesiant emosiynol a meddyliol.

Mae tystiolaeth yn dangos bod rhai pobl hŷn yn amharod i siarad am iechyd meddwl / llesiant meddyliol, oherwydd eu bod yn cysylltu termau o’r fath â “salwch meddwl”, sy’n parhau i gael ei stigmateiddio’n fawr. Gall fod yn ddefnyddiol defnyddio iaith / terminoleg wahanol wrth fynd i’r afael ag iechyd meddwl gyda phobl hŷn (mae rhai awduron wedi awgrymu bod y term “llesiant emosiynol”, er enghraifft).[xi]  Fodd bynnag, mae’n bwysig peidio â bod yn rhagnodol a chydnabod y bydd gan wahanol bobl hŷn ffyrdd gwahanol o drafod materion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.  Mae angen i derminoleg Gymraeg hefyd adlewyrchu’r geiriau mae pobl hŷn yn fwy tebygol o deimlo’n gyfforddus yn eu defnyddio.  Mae angen i bobl hŷn sy’n dewis defnyddio’r Gymraeg fel iaith gyntaf gael eu cefnogi a’u galluogi i gael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg.

Bydd yn hanfodol bod y cynllun cyflawni, y dangosyddion a’r gwerthusiad yn cael eu dylunio mewn ffordd sy’n ei gwneud yn bosibl dangos a yw’r strategaeth yn gwneud gwahaniaeth clir i iechyd meddwl a llesiant pobl hŷn.

 

Casgliad

Mae ystyried y meysydd uchod a’r meysydd a amlygwyd yn yr asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn rhan annatod o ddatblygu’r cynllun cyflawni a’r cynlluniau arfaethedig ar gyfer cymorth ychwanegol i bobl hŷn.  Yn ogystal â’r meysydd a nodir yn yr adran ‘Cynlluniau a dangosyddion cyflawni’ uchod, dylai’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant a’r cynlluniau cyflawni cysylltiedig:

  • Fynd i’r afael yn benodol ag oedraniaeth fel problem gymdeithasol ond hefyd y materion penodol y gallai pobl hŷn eu hwynebu o ganlyniad i agweddau oedraniaethol gan wasanaethau a gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol.
  • Dangos cysylltiad strategol clir â chyhoeddiad Llywodraeth Cymru ‘Cymru Oed-Gyfeillgar: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio.
  • Sicrhau bod yr holl dystiolaeth sydd ar gael ar iechyd meddwl pobl hŷn, gan gynnwys yr elfennau sy’n gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig eraill, yn cael ei defnyddio i lywio’r cynlluniau arfaethedig ar gyfer cymorth ychwanegol i bobl hŷn.
  • Mabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau yn gyson.
  • Cydnabod y ffaith, er bod technoleg ac atebion digidol yn gallu cynorthwyo llawer o bobl hŷn i ofalu am eu hiechyd a’u llesiant, mae angen cynnwys mynediad all-lein at wasanaethau, gan gynnwys iechyd meddwl a llesiant, o’r dechrau fel rhan o ddull dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.

Byddai’r Comisiynydd a’i thîm yn fodlon trafod yr ymateb hwn ymhellach.

 

Notes

[i] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Pobl hŷn yn gwerthfawrogi’r cymorth gan gymunedau cryf yng Nghymru, meddai’r Comisiynydd, Mai 2024 https://comisiynyddph.cymru/newyddion/pobl-hyn-yn-gwerthfawrogir-cymorth-gan-gymunedau-cryf-yng-nghymru-meddair-comisiynydd/

[ii] Sarah E Jackson, Ruth A Hackett, Andrew Steptoe, Associations between age discrimination and health and wellbeing: cross-sectional and prospective analysis of the English Longitudinal Study of Ageing, Lancet Public Health 2019; Vol. 4, e200.  Ar gael yn: Associations between age discrimination and health and wellbeing: cross-sectional and prospective analysis of the English Longitudinal Study of Ageing – The Lancet Public Health

[iii] Sarah E Jackson, Ruth A Hackett, Andrew Steptoe, Associations between age discrimination and health and wellbeing: cross-sectional and prospective analysis of the English Longitudinal Study of Ageing, Lancet Public Health 2019; Vol. 4, e203.  Ar gael yn: Associations between age discrimination and health and wellbeing: cross-sectional and prospective analysis of the English Longitudinal Study of Ageing – The Lancet Public Health

[iv] Sarah E Jackson, Ruth A Hackett, Andrew Steptoe, Associations between age discrimination and health and wellbeing: cross-sectional and prospective analysis of the English Longitudinal Study of Ageing, Lancet Public Health 2019; Vol. 4, e207.  Ar gael yn: Associations between age discrimination and health and wellbeing: cross-sectional and prospective analysis of the English Longitudinal Study of Ageing – The Lancet Public Health

[v] Rethink Mental Illness, Black, Asian and Minority Ethnic (BAME) mental health https://www.rethink.org/advice-and-information/living-with-mental-illness/information-on-wellbeing-physical-health-bame-lgbtplus-and-studying-and-mental-health/black-asian-and-minority-ethnic-mental-health/#:~:text=Compared%20to%20white%20people%3A,likely%20to%20experience%20psychosis%2C%20and

[vi] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Papur Briffio: Mynd i’r afael ag Unigrwydd ac Ynysigrwydd yng Nghymru – Rhagfyr 2023, https://comisiynyddph.cymru/adnodd/briffio-mynd-ir-afael-ag-unigrwydd-ac-ynysigrwydd-yng-nghymru-rhagfyr-2023/

[vii] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Dim Mynediad:  Profiadau pobl hŷn o allgáu digidol yng Nghymru, Ionawr 2024 https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2024/01/Dim-Mynediad-Profiadau-pobl-hyn-o-allgau-digidol-yng-Nghymru.pdf

[viii] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Deall Poblogaeth Cymru sy’n Heneiddio:  Ystadegau Allweddol, Mawrth 2024 https://comisiynyddph.cymru/adnodd/deall-poblogaeth-cymru-syn-heneiddio-ystadegau-allweddol/

[ix] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Ymateb i’r Ymgynghoriad – Anghydraddoldebau Iechyd Meddwl, Mawrth 2022 https://comisiynyddph.cymru/adnodd/ymatebion-ymgynghori-anghydraddoldebau-iechyd-meddwl/

[x] Age Cymru. 2023. Diogelu’r Pethau Pwysig: integreiddio iechyd meddwl yn y broses o symud i fyw mewn cartref gofal. Ar gael yn: https://www.ageuk.org.uk/globalassets/age-cymru/welsh-language-documents/care-home-guides/preserving-what-matters-report-welsh-v4.pdf

[xi] Williamson, T. 2011. Promoting Older Men’s Mental Health and Emotional Wellbeing. Working with Older People.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges