Strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio
Mehefin 2024
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y strategaeth ddrafft ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio.
Cyd-destun
Cafodd y pandemig effaith negyddol ar iechyd meddwl llawer o bobl hŷn o ganlyniad i amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys teimlo’n ynysig, gorbryder, trallod a galar, yn ogystal â thriniaeth wedi’i gohirio a’i hoedi. Roedd ymchwil a gynhaliwyd gyda phobl hŷn ar ran y Comisiynydd ym mis Mawrth 2021 yn dangos bod 17% wedi bod angen cymorth iechyd meddwl yn ystod y deuddeg mis blaenorol, ond dim ond 12% oedd wedi gofyn amdano. Gan ystyried hyn yng nghyd-destun y boblogaeth gyfan, gallai hyn olygu bron i 150,000 a 105,000 o bobl yn y drefn honno. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl sy’n marw drwy hunanladdiad yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl y GIG. Mae nifer y bobl hŷn sy’n profi trallod meddwl ac nad ydynt yn gofyn am help yn bryder difrifol.
Mae llawer o bobl hŷn yn dal i boeni am y dyfodol. Yn ôl gwaith ymchwil a gynhaliwyd ar ran y Comisiynydd ym mis Mawrth 2024, mae lefelau optimistiaeth ymysg pobl hŷn yng Nghymru yn gostwng yn sylweddol. Dim ond 39% o’r cyfranogwyr oedd yn obeithiol am y dyfodol, ac roedd 37% yn besimistaidd. Mae hyn yn newid sylweddol o 80% ac 8% yn y drefn honno yn 2021. Roedd yr un ymchwil yn dangos bod 17% o’r ymatebwyr yn disgwyl cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl yn ystod y flwyddyn nesaf. Mae’n hanfodol bod pobl hŷn sydd angen cymorth gyda’u hiechyd meddwl yn teimlo eu bod yn gallu gofyn am gymorth ac yn gallu cael gafael arno’n gyflym, er mwyn eu hatal rhag symud ymlaen i feddwl am hunanladdiad.
Nid yw llawer o’r problemau y mae pobl hŷn yn eu profi yn uniongyrchol gysylltiedig â’u hoedran ond â chyflyrau cymdeithasol ac oedraniaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol sy’n rhwystro pobl rhag cael gafael ar y cysylltiadau, y cymorth a’r gofal sydd eu hangen arnynt. Er enghraifft, mae 19% o bobl 65-69 oed a 21% o bobl 75-79 oed yn byw mewn tlodi incwm cymharol,[i] ac mae 8% o bobl hŷn yng Nghymru yn dweud bod rhywun wedi gwneud iddynt deimlo’n rhy hen i gael gafael ar wasanaethau iechyd.[ii] Gall ffactorau fel unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, colli annibyniaeth, neu broblemau ariannol i gyd gynyddu’r risg o hunanladdiad ymysg pobl hŷn.[iii]
Nid yw pobl hŷn yn aml yn cael eu cynrychioli’n ddigonol mewn nifer o ffynonellau data, sy’n achosi anawsterau wrth geisio canfod y problemau a’r rhwystrau a all ein hatal rhag heneiddio’n dda.[iv]
Hunanladdiad a phobl hŷn
Cyfraddau hunanladdiad
Mae hunanladdiad yn broblem fawr i bobl hŷn, gyda rhai o’r cyfraddau hunanladdiad uchaf yn aml ymhlith y rhai dros 65 oed.[v] Bu farw 21.7 o bob 100,000 o ddynion dros 75 oed oherwydd hunanladdiad tybiedig yng Nghymru yn 2022-23 ac 16.5 o bob 100,000 o ddynion rhwng 65 a 74 oed.[vi] Ar gyfer menywod hŷn, 5.8 a 3.2 oedd y cyfraddau, yn y drefn honno.[vii]
Ledled Cymru a Lloegr, bu cynnydd bach cyson mewn cyfraddau hunanladdiad ymysg dynion 65-74 oed rhwng 2016 a 2022.[viii] Roedd cyfraddau hunanladdiad ymysg dynion a menywod dros 75 oed wedi gostwng neu wedi aros yn gymharol gyson ers y niferoedd brig yn 2018. Fodd bynnag, bu cynnydd bach yn nifer y bobl dros 75 oed wnaeth gyflawni hunanladdiad rhwng 2021 a 2022. Cynyddodd y gyfradd hunanladdiad ymysg pobl dros 90 oed hefyd o 8 o bob 100,000 o bobl yn 2021 i 13.3 o bob 100,000 o bobl yn 2022.[ix] Fodd bynnag, mae hyn yn gyfuniad o ddata Cymru a Lloegr ac mae’r niferoedd yn debygol o fod yn fach.
Mae’n hanfodol bod data sy’n benodol i oedran yng Nghymru ar hunanladdiad ymysg pobl hŷn yn cael ei gasglu, ei dracio a’i fonitro i greu darlun mwy cywir o gyfraddau hunanladdiad ymysg pobl hŷn yng Nghymru ac i ddatblygu unrhyw gamau gweithredu angenrheidiol wedi’u targedu.
Poblogaethau risg uchel
Mae’n gadarnhaol bod pobl hŷn yn cael eu cydnabod fel categori risg uchel posibl yn y Strategaeth ddrafft. Fodd bynnag, mae’r categori ‘pobl sy’n profi problemau sy’n gysylltiedig â henaint’ wedi’i ddiffinio’n wael ac mae angen ei archwilio ymhellach. Mae’r problemau a brofir gan bobl hŷn yn cwmpasu’r ffordd y mae pobl yn cael eu trin o ganlyniad i fod yn hŷn, yn hytrach nag oedran ei hun, gan gynnwys gofal a chymorth annigonol. Mae angen ystyried ac egluro’r categori hwn ymhellach.
Mae pobl hŷn yn grŵp poblogaeth amrywiol. Er enghraifft, mae menywod hŷn o dras De Asiaidd yn grŵp risg uwch ar gyfer hunanladdiad, o’i gymharu â phobl wyn.[x] Dylid dadansoddi’r categori o bobl hŷn i nodi is-gategorïau o bobl hŷn sydd mewn mwy o berygl o hunanladdiad na’r boblogaeth hŷn yn gyffredinol. Dylai data a gesglir yng nghyswllt hunanladdiad a hunan-niweidio gael ei gyhoeddi yn ôl bandiau oedran pum mlynedd a, lle bo’n bosibl, dylai ein galluogi i groesgyfeirio at nodweddion gwarchodedig eraill a datblygu dulliau wedi’u targedu ar gyfer grwpiau risg uchel.
Dulliau
Mae dulliau hunanladdiad hefyd yn amrywio ar draws grwpiau oedran. Mae pobl hŷn yn fwy tebygol o ddewis boddi fel dull ac maent hefyd yn fwy tebygol o ddefnyddio gwrthrych miniog na grwpiau oedran iau.[xi] Er bod pobl hŷn yn llai tebygol o ddefnyddio crogi neu dagu, dyma’r dull mwyaf cyffredin o hyd. Mae’r categori dulliau ‘eraill’ yn fwy mewn pobl 65 oed a throsodd ac mae’n bwysig deall beth mae hyn yn ei gynnwys er mwyn cymryd camau priodol tuag at atal.
Mae angen adlewyrchu’r holl faterion hyn fel rhan o ddatblygu Amcan Lefel Uchel 2: ‘Cydgysylltu gweithredu ar draws y Llywodraeth ac ar draws sectorau sydd, ar y cyd, yn mynd i’r afael â sbardunau hunanladdiad, ac yn lleihau mynediad at ddulliau hunanladdiad’.
Hunan-niweidio
Mae cysylltiadau clir rhwng hunan-niweidio a hunanladdiad,[xii] ac yn ôl yr ymchwil mae hanes blaenorol o hunan-niweidio yn ffactor risg sylweddol ar gyfer hunanladdiad ymysg pobl hŷn.[xiii] Am y rheswm hwn, mae’n hanfodol bod gan bobl hŷn sy’n hunan-niweidio fynediad at ymarferwyr, sydd â’r sgiliau i gynnal asesiadau arbenigol ac ymyriadau ataliol.[xiv]
Mae hunan-esgeulustod fel math o hunan-niweidio ac unrhyw gysylltiad â hunanladdiad yn fwlch nodedig yn y strategaeth. Yn ôl yr ymchwil, mae hunan-esgeulustod yn broblem gyffredin ymysg pobl hŷn oherwydd nifer o ffactorau rhagdueddol (ee unigrwydd, teimlo’n ynysig a dirywiad swyddogaethol).[xv] Mae cydberthynas gref rhwng iselder ymysg pobl hŷn, a lefelau hunan-esgeulustod.[xvi] Efallai y bydd rhai pobl hŷn yn hunan-esgeuluso fel math o hunan-niweidio bwriadol.[xvii] Dylai Llywodraeth Cymru gynnwys hunan-esgeulustod yn y strategaeth a chomisiynu ymchwil i unrhyw gysylltiad â hunanladdiad fel rhan o Amcan Lefel Uchel 1: Sefydlu sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer hunanladdiad a hunan-niweidio yng Nghymru.
Mae llawer o ymarferwyr yn cael trafferth wrth weithio gyda phobl hŷn sy’n hunan-esgeuluso ac mae’n rhaid eu cefnogi i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder i weithio’n effeithiol o fewn y sefyllfaoedd heriol a chymhleth hyn sy’n aml yn anodd iawn.[xviii] Gallai cyhoeddi canllawiau i ymarferwyr Llywodraeth Cymru ar weithio gyda’r rheini sy’n hunan-esgeuluso, ymrwymiad a wnaed yng Nghynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar i Atal Cam-drin Pobl Hŷn yng Nghymru, helpu i fynd i’r afael â bylchau mewn gwybodaeth.[xix] Yn y cyfamser, dylid cynnwys hunan-esgeuluso yn Amcan Lefel Uchel 4: Cynyddu sgiliau, ymwybyddiaeth, gwybodaeth a dealltwriaeth o hunanladdiad a hunan-niweidio ymhlith y cyhoedd, gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau a allai ddod i gysylltiad â phobl sydd mewn perygl o hunanladdiad a hunan-niweidio.
Cam-drin
Rhaid cynnwys camau gweithredu i leihau’r risg o hunanladdiad ymysg pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin a/neu eu hesgeuluso fel rhan o’r strategaeth ar gyfer atal hunanladdiad. Mae hyn yn bwysig iawn o ystyried bod cyflawnwyr a dioddefwyr cam-drin rhywiol yn grwpiau risg uchel yng Nghymru yn y strategaeth ddrafft.
Mae pobl hŷn yn profi’r un mathau o gam-drin â’r rheini mewn grwpiau oedran iau,[xx] gan gynnwys cam-drin corfforol, cam-drin seicolegol neu emosiynol, cam-drin rhywiol a cham-drin ariannol neu faterol.[xxi] Cydnabyddir bod cam-drin domestig yn “fater cynyddol i fenywod hŷn”,[xxii] a bod y tebygolrwydd o ddynion yn cael eu cam-drin yn cynyddu gydag oedran.[xxiii] Mae ymchwil a gomisiynwyd gan Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn tynnu sylw at yr heriau sylweddol y mae dynion hŷn yn eu hwynebu wrth fyw mewn sefyllfaoedd o gam-drin domestig,[xxiv] o ran datgelu eu profiadau a chael gafael ar ofal a chymorth.
Mae ymchwil yn dangos bod rhai pobl hŷn mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin oherwydd eu hamgylchiadau (ee teimlo’n fwy ynysig, dibyniaeth ar eraill am ofal corfforol neu salwch fel dementia).[xxv] Dangosodd astudiaeth gan Sefydliad Iechyd y Byd fod 1 o bob 6 o bobl dros 60 oed yn cael eu cam-drin ledled y byd. Mae hyn yn golygu y gallai 140,000 o bobl hŷn yng Nghymru fod yn cael eu cam-drin neu fod mewn perygl o gael eu cam-drin.[xxvi]
Gall cam-drin a/neu esgeulustod gael effaith ddinistriol ar fywydau pobl hŷn. Mae effeithiau trychinebus cam-drin wedi golygu bod rhai pobl hŷn eisiau dod â’u bywyd i ben; i’r bobl hŷn hyn, mae’n ymddangos mai hunanladdiad yw’r unig ffordd o’u rhyddhau eu hunain o sefyllfaoedd o gam-drin.[xxvii] Mae’n destun pryder nad yw’r gydberthynas rhwng profiadau pobl hŷn o gam-drin a’u risg gynyddol o hunanladdiad yn cael ei chydnabod bob amser.[xxviii] Gall methu â chydnabod y potensial ar gyfer hunanladdiad mewn sefyllfaoedd o gam-drin arwain at golli cyfleoedd hanfodol ar gyfer ymyrryd ac atal.
Mae llofruddiaeth-hunanladdiad yn digwydd pan fydd un partner yn llofruddio’r llall, cyn mynd ati i ladd ei hun. Mae sefyllfaoedd o lofruddiaeth-hunanladdiad yn codi’n anaml ond pan fyddant yn codi, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn digwydd ymhlith cyplau hŷn.[xxix] Gall llofruddiaeth-hunanladdiad ddigwydd oherwydd cam-drin hirdymor mewn perthynas neu oherwydd bod deinameg perthynas yn newid: mae un partner yn dod yn ofalwr ar y llall, er enghraifft, ac yn cael trafferth gyda heriau rôl gofalu.
Dylai cynlluniau ar gyfer rhoi’r strategaeth ar waith gynnwys manylion am sut yr eir i’r afael â cham-drin a phobl hŷn yng nghyswllt atal hunanladdiad, yn enwedig o ran y grwpiau risg uchel a nodwyd o gyflawnwyr a dioddefwyr cam-drin rhywiol.
Cyfathrebu
Mae ymchwil yn dangos nad yw llawer o bobl hŷn eisiau siarad am faterion sy’n ymwneud ag “iechyd meddwl” a “hunanladdiad” oherwydd eu bod yn ystyried y pynciau hyn yn rhai tabŵ.[xxx] Felly, efallai y bydd pobl hŷn yn chwilio am ffyrdd gwahanol o fynegi pryderon sy’n ymwneud â’u hiechyd meddwl, neu o siarad am feddyliau am hunanladdiad. Mae’n bwysig bod y strategaeth yn adlewyrchu’r iaith a ddefnyddir gan bobl hŷn a bod ymarferwyr yn effro i’r arwyddion cynnil y gall pobl hŷn eu defnyddio wrth geisio siarad am faterion o’r fath.[xxxi]
Prin y mae ymgyrchoedd a deunyddiau hyrwyddo ar gyfer cymorth neu wasanaethau yn canolbwyntio ar bobl hŷn neu’n eu cynnwys yn y delweddau a’r iaith a ddefnyddir, sy’n aml yn arwain at ganfyddiad bod gwasanaethau ar gyfer pobl iau yn bennaf. Efallai na fydd pobl hŷn bob amser yn uniaethu â’r math o iaith a ddefnyddir i hyrwyddo gwasanaethau, a allai fod yn rhwystr pellach i ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael a mynediad ato.
Ar ben hynny, yn aml nid yw naratifau cyhoeddus ehangach yn cynnwys profiadau pobl hŷn ac mae’r cyfryngau’n tueddu i ganolbwyntio ar straeon am hunan-esgeulustod a hunan-niweidio ymysg pobl iau.
Dylai’r iaith sy’n cael ei defnyddio a’i deall orau gan bobl hŷn yn ogystal â’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gyrraedd cynulleidfaoedd gwahanol lywio Amcan Lefel Uchel 3: Darparu camau atal, ymyrraeth a chymorth cyflym ac effeithiol i’r grwpiau hynny mewn cymdeithas sydd fwyaf agored i hunanladdiad a hunan-niweidio drwy’r lleoliadau y maent yn ymwneud â nhw fwyaf; ac Amcan Lefel Uchel 6: Dull cyfrifol o ran cyfathrebu, adroddiadau yn y cyfryngau, a defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod terminoleg Gymraeg briodol yn cael ei defnyddio.
Gweithredu sy’n canolbwyntio ar bobl hŷn
Mae’r Comisiynydd yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu Cynllun Cyflawni sy’n amlinellu gweithgareddau manwl ac amcanion SMART, a fframwaith gwerthuso a fydd yn nodi sut bydd cynnydd yn erbyn amcanion y strategaeth yn cael ei gyflawni. Dylai’r Cynllun Cyflawni, yr amcanion a’r fframwaith gwerthuso nodi camau gweithredu sy’n canolbwyntio ar bobl hŷn, yn enwedig yng nghyswllt y materion a ddisgrifir uchod, a chynnwys manylion ynghylch pryd a sut bwriedir ymgysylltu â phobl hŷn. Mae’n hanfodol nad yw pobl hŷn yn cael eu trin fel grŵp unffurf. Mae angen i’r gwaith o ddatblygu polisïau adlewyrchu’r ffaith ein bod yn dod yn fwy amrywiol wrth i ni heneiddio hy o ran profiadau, diddordebau, incwm, iechyd a pherthnasoedd cymdeithasol. Gall pobl hŷn hefyd fod yn rhan o’r grwpiau blaenoriaeth eraill a nodwyd.
Dylid rhoi sylw penodol i oedraniaeth – y stereoteipio, y rhagfarn a/neu’r gwahaniaethu yn erbyn pobl ar sail eu hoedran neu eu hoedran tybiedig – fel rhan o’r Cynllun Cyflawni, gan gynnwys sut mae goresgyn y problemau penodol y gallai pobl hŷn eu hwynebu o ganlyniad i agweddau oedraniaethol posibl gan weithwyr proffesiynol a gwasanaethau iechyd meddwl.
Mae hyn yn arbennig o berthnasol gan fod pobl hŷn yn llai tebygol o gael cynnig yr ystod lawn o gymorth iechyd meddwl sydd ar gael na phobl iau. Tynnodd adroddiad ‘Suffering in Silence’ Coleg Brenhinol y Seiciatryddion sylw at esgeuluso pobl hŷn mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn y DU.[xxxii] Mae’r cyfeiriad at hap-dreial wedi’i reoli yn drawiadol iawn – rhoddwyd astudiaethau achos dau glaf union yr un fath ag iselder i 121 o feddygon a gofynnwyd iddynt asesu, rhoi diagnosis a rhagnodi triniaeth ar eu cyfer. Yr unig wahaniaeth oedd eu hoedran: roedd y naill yn 39 oed a’r llall yn 81 oed. Roedd y diagnosis a’r triniaethau a roddwyd i’r claf iau yn fwy priodol na’r rhai ar gyfer y claf hŷn. Mae’n hanfodol nad yw oedraniaeth yn effeithio ar y cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i bobl hŷn, gan gynnwys atal hunanladdiad a dulliau o nodi pobl sydd mewn perygl o hunanladdiad. Mae iselder yn cael ei gydnabod fel un o’r prif ffactorau sy’n cyfrannu at hunanladdiad, sy’n golygu bod canfyddiadau adroddiad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn bwysicach byth.[xxxiii]
Ar ben hynny, er bod gan dechnoleg ac atebion digidol rôl bwysig i’w chwarae o ran cymorth iechyd meddwl, gan gynnwys atal hunanladdiad a hunan-niweidio, mae angen canolbwyntio hefyd ar allgáu digidol ac ar ddarparu sianeli amgen a chymorth all-lein i’r bobl hynny nad ydynt yn gallu cael gafael ar wasanaethau’n ddigidol, neu sy’n dewis peidio â gwneud hynny. Nid yw 33% o bobl dros 75 oed ac 13% o bobl 65-74 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd, gan gynnwys teledu clyfar a dyfeisiau llaw.[xxxiv] Dylai mynediad all-lein at wasanaethau atal, cymorth a gwybodaeth nawr ac yn y dyfodol gael ei gynnwys o’r cychwyn cyntaf fel rhan o ddull dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Casgliad
Dylai strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio Llywodraeth Cymru gynnwys y materion isod neu eu harchwilio ymhellach:
- Ailystyried, diffinio’n well ac egluro’r categori risg uchel o ‘bobl sy’n profi problemau sy’n gysylltiedig â henaint’ i adlewyrchu’r ffaith bod llawer o’r problemau a brofir gan bobl hŷn yn cwmpasu’r ffordd y mae pobl yn cael eu trin o ganlyniad i fod yn hŷn, yn hytrach na heneiddio ei hun, er enghraifft o ganlyniad i ofal a chymorth annigonol.
- Sicrhau bod Amcan Lefel Uchel 2 (‘Cydgysylltu gweithredu ar draws y Llywodraeth ac ar draws sectorau sydd, ar y cyd, yn mynd i’r afael â sbardunau hunanladdiad, ac yn lleihau mynediad at ddulliau hunanladdiad’) yn cynnwys camau i fynd i’r afael â’r dulliau hunanladdiad a ddefnyddir gan bobl hŷn, yn ogystal â chyfraddau a chategorïau pobl hŷn sy’n wynebu risg uchel iawn.
- Cyhoeddi data ar hunanladdiad a hunan-niweidio yn ôl bandiau pum mlynedd a, lle bo’n bosibl, galluogi croesgyfeirio at nodweddion gwarchodedig eraill, gan ddatblygu dulliau wedi’u targedu ar gyfer grwpiau risg uchel iawn.
- Cynnwys hunan-esgeuluso yn y strategaeth a chomisiynu ymchwil i unrhyw gysylltiad â hunanladdiad fel rhan o Amcan Lefel Uchel 1; dylai hunan-esgeulustod hefyd gael ei gynnwys yn Amcan Lefel Uchel 4 ynghylch cynyddu sgiliau, ymwybyddiaeth, gwybodaeth a dealltwriaeth.
- Esbonio sut yr eir i’r afael â cham-drin a phobl hŷn mewn perthynas ag atal hunanladdiad, yn enwedig o ran y grwpiau risg uchel a nodwyd o gyflawnwyr a dioddefwyr cam-drin rhywiol.
- Sicrhau bod iaith a chyfathrebu a ddatblygir mewn cysylltiad â’r strategaeth yn defnyddio geiriau a delweddau sy’n adlewyrchu pobl hŷn ac yn golygu rhywbeth iddynt. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod terminoleg Gymraeg briodol yn cael ei defnyddio a’i hyrwyddo.
- Dylai’r Cynllun Cyflawni, yr amcanion a’r fframwaith gwerthuso nodi camau gweithredu penodol sy’n canolbwyntio ar bobl hŷn, gan gynnwys sut bydd oedraniaeth yn cael ei herio.
- Cynnwys oedraniaeth yn benodol fel rhan o’r Cynllun Cyflawni, gan egluro pa fesurau fydd yn cael eu cymryd i atal oedraniaeth rhag effeithio ar y cymorth sy’n cael ei gynnig i bobl hŷn.
- Cynnwys mynediad all-lein at wasanaethau atal hunanladdiad a hunan-niweidio, cymorth a gwybodaeth nawr ac yn y dyfodol o’r cychwyn cyntaf fel rhan o ddull dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Byddai’r Comisiynydd a’i thîm yn fwy na pharod i drafod unrhyw un o’r sylwadau hyn ymhellach.
Nodiadau
[i]StatsCymru (2023) Pensiynwyr mewn tlodi incwm cymharol yn ôl oedran y penteulu Mawrth 2023. Ar gael yn: https://statswales.gov.wales/Catalogue/Community-Safety-and-SocialInclusion/Poverty/pensioners/pensionersinrelativeincomepoverty-by-ageoftheheadofhousehold
[ii] ICM Unlimited. (2019), Arolwg Pobl Hŷn yng Nghymru, data a gasglwyd ar ran Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, 14-19 Mawrth 2019, 500 o ymatebwyr 60 oed+ sy’n byw yng Nghymru
[iii]Y Cyngor Cenedlaethol ar Heneiddio. 2024. Suicide and Older Adults: What You Should Know. Ar gael yn: Understanding and Preventing Suicide in Older Adults (ncoa.org)
[iv] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2024, Deall Poblogaeth Cymru sy’n Heneiddio: Ystadegau Allweddol, Mawrth 2024 https://comisiynyddph.cymru/adnodd/deall-poblogaeth-cymru-syn-heneiddio-ystadegau-allweddol/
[v] Hafford-Letchfield, T. et al. 2022. Talking really does matter: Lay perspectives from older people on talking about suicide in later life. Frontiers in Psychology.
[vi] Iechyd Cyhoeddus Cymru 2024, Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig 2022-23, Ionawr 2024 https://icc.gig.cymru/arolygu-hunanladdiad-tybiedig-amser-real/marwolaethau-yn-sgil-hunanladdiad-tybiedig-2022-23/
[vii] Iechyd Cyhoeddus Cymru (2024) Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig Adran 3 – Canfyddiadau – Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru).
[viii] Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 2023, Hunanladdiad yng Nghymru a Lloegr: cofrestriadau 2022 (Saesneg yn unig). Ar gael yn: https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/birthsdeathsandmarriages/deaths/bulletins/suicidesintheunitedkingdom/2022registrations
[ix] Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 2023, Hunanladdiad yng Nghymru a Lloegr: cofrestriadau 2022 (Saesneg yn unig). Ar gael yn: https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/birthsdeathsandmarriages/deaths/bulletins/suicidesintheunitedkingdom/2022registrations Figure 3.
[x] Rethink Mental Illness, Black, Asian and Minority Ethnic (BAME) mental health, Black Asian and Minority Ethnic (BAME) mental health (rethink.org)
[xi] Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 2020, Recent trends in suicide: death occurrences in England and Wales between 2001 and 2018, https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/birthsdeathsandmarriages/deaths/articles/recenttrendsinsuicidedeathoccurrencesinenglandandwalesbetween2001and2018/2020-12-08#suicide-patterns-by-age
[xii] Dennis, M. et al. 2005. Self-harm in older people with depression: Comparison of social factors, life events and symptoms The British Journal of Psychiatry 186(6), tt. 538-539.
[xiii] Hague, G. et al. 2017. Predictors for repeat self-harm and suicide among older people within 12 months of a self-harm presentation International Psychogeriatrics 29(8), tt. 1237-1245.
[xiv] Dennis, M. 2009. Suicide and Self-Harm in Older People. Quality in Ageing 10(1), tt. 16-23.
[xv] Papaioannou ES, Ismo, R. a Sirkka-Liisa, K. 2012. Self Neglect of the Elderly: An Overview. European Journal of Gerontological Practice 18(3), tt. 187-90.
[xvi] Braye, S., Orr, D., a Preston-Shoot, M. 2011. Conceptualising and Responding to Self-Neglect: The Challenges for Adult Safeguarding. Journal of Adult Protection 13(4), tt. 182-193.
[xvii] Hafford-Letchfield, T. et al. 2022. Talking really does matter: Lay perspectives from older people on talking about suicide in later life. Frontiers in Psychology.
[xviii] Braye, S., Orr, D., a Preston-Shoot, M. 2015. Learning lessons about Self-Neglect? An Analysis of Serious Case Reviews. Journal of Adult Protection 15(1), tt. 3-11.
[xix] Llywodraeth Cymru. 2024. Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru i Atal Cam-drin Pobl Hŷn. Ar gael yn: Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Atal Cam-drin Pobl Hŷn [HTML] | LLYW.CYMRU
[xx] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2021. Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy’n Profi Camdriniaeth yng Nghymru. Ar gael yn: Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy’n Profi Camdriniaeth yng Nghymru.pdf
[xxi] GIG (2021). Abuse and Neglect of Vulnerable Adults. Ar gael yn Abuse and neglect of vulnerable adults (safeguarding) – NHS (www.nhs.uk)
[xxii] Milne, A. 2023. Older women and domestic abuse: through a glass darkly. The Journal of Adult Protection.
[xxiii] Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 2021. Trosolwg o Gam-drin Domestig yng Nghymru a Lloegr (Tachwedd 2021):
Domestic abuse prevalence and trends, England and Wales – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk)
[xxiv] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2022. Gwella’r Gefnogaeth a’r Gwasanaethau i ddynion hŷn sy’n cael eu cam-drin yn ddomestig. Ar gael yn: https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2022/08/Gwellar-gefnogaeth-ar-gwasanaethau-i-ddynion-hyn-syn-cael-eu-cam-drin-yn-ddomestig.pdf
[xxv] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (2021). Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy’n Profi Camdriniaeth yng Nghymru. Ar gael yn: https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2022/08/Gwasanaethau-Cymorth-i-Bobl-Hyn-syn-Profi-Camdriniaeth-yng-Nghymru.pdf
[xxvi] Sefydliad Iechyd y Byd (2017). Abuse of Older People on the Rise – 1 in 6 affected. Ar gael yn: https://www.who.int/news/item/14-06-2017-abuse-of-older-people-on-the-rise-1-in-6-affected
[xxvii] Lafferty, A. et al. 2012. Older People’s Experiences of Mistreatment and Abuse. Ar gael yn: Older people’s experiences of mistreatment and abuse. – Drugs and Alcohol
[xxviii] Salvatore, T. et al. 2018. Elder Abuse as a Risk Factor for Suicidal Behaviour in Older Adults. The Forensic Mental Health Practitioner 1(1), tt. 1-11.
[xxix] Salvatore, T. et al. 2018. Elder Abuse as a Risk Factor for Suicidal Behaviour in Older Adults. The Forensic Mental Health Practitioner 1(1), tt. 1-11.
[xxx] Hafford-Letchfield, T. et al. 2022. Talking really does matter: Lay perspectives from older people on talking about suicide in later life. Frontiers in Psychology.
[xxxi] Hafford-Letchfield, T. et al. 2022. Talking really does matter: Lay perspectives from older people on talking about suicide in later life. Frontiers in Psychology.
[xxxii] Roedd y claf iau yn fwy tebygol o gael diagnosis o iselder a gorbryder, ond cafodd y claf hŷn ddiagnosis o ddementia neu salwch corfforol. Roedd y therapïau a ragnodwyd ar gyfer y claf iau yn fwy tebygol o fod yn berthnasol ac yn cynnwys seicotherapi, ffarmacotherapi, ac atgyfeirio ar gyfer triniaeth arbenigol neu glaf mewnol. I’r gwrthwyneb, rhagnodwyd cwnsela cefnogol i’r claf hŷn. Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, (2018), Suffering in silence: age inequality in older people’s mental health care. Ar gael yn Saesneg yn unig: college-report-cr221.pdf (rcpsych.ac.uk).
[xxxiii] Gweler ‘Depression’, cyf. 1-3, Mental Health Statistics, sydd ar gael yn: Mental health statistics · MHFA England.
[xxxiv] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Deall Poblogaeth Cymru sy’n Heneiddio: Ystadegau Allweddol, Mawrth 2024 https://comisiynyddph.cymru/adnodd/deall-poblogaeth-cymru-syn-heneiddio-ystadegau-allweddol/