Angen Help?

Rhaglen Ailgydbwyso Gofal a Chymorth

A nurse speaking to her older male patient

Rhaglen Ailgydbwyso Gofal a Chymorth

 

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiynau’r Ymgynghoriad – Pennod 1 – Rhan 8 – Cod Ymarfer – Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth

Cwestiwn 1.1: Ydych chi’n credu y bydd yr egwyddorion a’r safonau a amlinellir yn y Cod yn helpu i sicrhau cysondeb ledled Cymru ar gyfer prosesau ac arferion
comisiynu, ac yn lleihau dyblygu a chymhlethdod?

Mae’n hanfodol bod comisiynu yn lleihau cymhlethdod ac yn ailgydbwyso gofal a chymorth er mwyn canolbwyntio ar ansawdd a chanlyniadau, â’r hyn sy’n bwysig i
bobl hŷn yn elfen ganolog, os ydym am sicrhau’r ddarpariaeth gofal cymdeithasol sydd ei hangen arnom nawr ac yn y dyfodol. Mae’r egwyddorion a’r safonau yn gam
tuag at hyn, ond bydd llawer yn dibynnu ar ddehongli a gweithredu’n lleol. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod system gadarn ar waith sy’n monitro a yw’r nodau
hyn yn cael eu cyflawni.

Mae’r Comisiynydd yn croesawu’r pwyslais ar berthnasoedd cyd-gynhyrchiol i sicrhau hawliau pobl i allu mynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau, i gymryd
rhan mewn penderfyniadau ac i gael eu cefnogi drwy eiriolaeth i’w galluogi i wneud hynny. Fel ‘arbenigwyr o brofiad’, dylai pobl hŷn fod yn bartneriaid cyfartal o ran y
penderfyniadau a wneir sy’n effeithio arnynt. Mae gan bobl hŷn ystod eang o fewnwelediadau a safbwyntiau gwerthfawr y dylid eu defnyddio wrth gomisiynu ym
mhob cam o’r broses. Mae hyn yn golygu y dylai pobl hŷn ymgysylltu, a dylid clywed eu lleisiau, drwy gydol y cylch comisiynu, o asesu anghenion y boblogaeth, drwy
ddatblygu strategaeth gomisiynu, cynllunio a dylunio gwasanaethau, caffael a monitro’r ffordd y caiff gwasanaethau eu cyflenwi, i adolygu a chrynhoi’r hyn a
ddysgwyd i lywio’r rownd gomisiynu nesaf.

Cwestiwn 1.2 Ydych chi’n credu y bydd y safonau a amlinellir yn y Cod yn helpu i sicrhau cysondeb ledled Cymru ar gyfer prosesau ac arferion comisiynu, ac yn
lleihau dyblygu a chymhlethdod?

Mae’r Comisiynydd yn cefnogi Safon 3: “Casglu data perthnasol a chywir i sicrhau bod comisiynu’n seiliedig ar ddata ystyrlon a sicrhau bod digon o gapasiti a gallu
dadansoddol i lywio cynllunio comisiynu cadarn.” Serch hynny, mae Asesiadau o Anghenion y Boblogaeth yn amrywio ar draws Cymru, ac mae angen mwy o ddata cadarn i asesu anghenion gofal cymdeithasol y
boblogaeth yn fwy manwl ac i ba raddau y mae’r anghenion hynny heb eu diwallu ar hyn o bryd. Mae llawer o’r data sy’n cael ei gasglu ar hyn o bryd o dan Ddeddf 2014
yn ymwneud â’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu ar hyn o bryd, ac nid yw data’r boblogaeth wedi’i ddadgyfuno’n ddigonol yn ôl oedran. Nid oes darlun clir ledled
Cymru o niferoedd, nodweddion ac anghenion pobl hŷn sy’n aros yn yr ysbyty ac yn y gymuned am ofal cartref, na’r rhai sy’n byw gydag eiddilwch ac mewn perygl o
ddigwyddiad sy’n newid bywyd a allai arwain at angen gofal cymdeithasol, na phreswylwyr cartrefi gofal fel grŵp poblogaeth.

Mae rhagolygon o’r angen tebygol am ofal cymdeithasol yn y dyfodol yn dueddol o gael ei seilio ar amcanestyniadau syml sy’n seiliedig ar oed. Mae casglu data
cadarn sy’n datgelu nodweddion y bobl sy’n defnyddio gofal cymdeithasol, angen gofal cymdeithasol, neu mewn perygl o angen gofal cymdeithasol yn hanfodol os
ydym am asesu a diwallu anghenion y boblogaeth yn effeithiol. Dylai casglu data hefyd gynnwys ffactorau fel niferoedd y bobl sy’n byw ar eu pen eu hunain, y
ddarpariaeth tai hygyrch a pha fathau o wasanaethau y mae pobl hŷn eisiau eu defnyddio. Mae’n hanfodol hefyd fod data yn cael ei gasglu i sicrhau y gall
gwasanaethau gofal cymdeithasol ymateb i anghenion diwylliannol ac anghenion ieithyddol.

Mae pobl hŷn yn rhan gynyddol bwysig o’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ym maes gofal cymdeithasol, mewn gwasanaethau sy’n cael eu rhedeg
gan awdurdodau lleol a gwasanaethau a gomisiynir, mae 3-4% o’r staff dros 65 oed. Serch hynny, mewn gwasanaethau awdurdodau lleol, mae tua 25% o’r gweithlu
gofal cymdeithasol rhwng 56-65, ac mae’r ffigur yn 15% ar gyfer gwasanaethau a gomisiynir.i Mae’n hanfodol bod casglu data ar y gweithlu yn galluogi cyflogwyr i roi
ystyriaeth benodol i sut mae cadw gweithwyr hŷn yn ogystal â’u denu. Gallai hyn gynnwys edrych ar yr iaith a ddefnyddir wrth recriwtio i’w gwneud yn fwy deniadol i
bobl hŷn yn ogystal ag amlygu unrhyw opsiynau gweithio hyblyg a buddion eraill i gyflogwyr.ii Mae sicrhau bod gweithwyr yn gallu ymdopi â’u cyfrifoldebau gofalu eu
hunain yn hynod bwysig i alluogi pobl hŷn i chwilio, dychwelyd ac aros mewn cyflogaeth. Dylai casglu data gronynnog, wedi’i haenu yn ôl oedran ar nodweddion y
gweithlu hŷn alluogi cynigion cyflogaeth a chadw sydd wedi’u teilwra’n well ac yn fwy deniadol i bobl hŷn.

Cwestiwn 1.3: Ydych chi’n credu y bydd y gofynion mewn perthynas â’r iaith

Gymraeg yn helpu i sicrhau cysondeb wrth ddarparu gwasanaethau Cymraeg a’r cynnig rhagweithiol?
Mae gallu cael mynediad at gymorth iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddewis iaith unigolyn yn hynod o bwysig fel yr amlinellir yn nhudalen 16 o ddogfen y Fframwaith
Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yng Nghymru. Serch hynny, mae’r Fframwaith yn ymatal rhag nodi bod yn rhaid darparu
gwasanaethau yn Gymraeg lle bynnag y bydd rhywun yn gofyn amdanynt, ac y dylai rheolwyr y farchnad sicrhau bod cyflenwad digonol o wasanaethau Cymraeg i
gyflawni hyn. Mae’r Comisiynydd yn disgwyl, fan lleiaf, bod pobl hŷn yn gallu derbyn gwasanaethau yn eu dewis iaith, a pheidio â gorfod cael eu hanfon ymhell o gartref,
neu hyd yn oed allan o Gymru, lle na allant wneud hynny, i dderbyn unrhyw wasanaeth o gwbl.

Yr her o ran cysondeb yw sicrhau bod digon o staff ar gael ar wahanol lefelau, arbenigeddau ac ardaloedd daearyddol er mwyn i sefydliadau fod yn hyderus wrth
wneud y cynnig rhagweithiol ac yn gallu darparu’r gwasanaeth. Mae Mwy na Geiriau: Cynllun Pum Mlynedd 2022-27 Llywodraeth Cymru (Mwy na geiriau (gov.wales) yn
bositif ond mae angen rhoi mwy o bwyslais ar helpu pobl i ddatblygu neu wella eu sgiliau Cymraeg er mwyn gallu cynnig gofal drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae data’r
SYG, a welir yn Atodiad A o’r Cynllun, yn dangos bod 16% o bobl sy’n 16 oed neu’n hŷn yng Nghymru a oedd yn cael eu cyflogi mewn ‘Gweithgareddau dynol, iechyd a
gwaith cymdeithasol’ yn ystod yr wythnos cyn Cyfrifiad 2011 yn gallu siarad Cymraeg. Mae hyn yn cymharu â 17% ar draws yr holl ddiwydiannau. Nid yw data o’r
cyfrifiad diweddaraf ar gael eto.

Cwestiwn 1.4: Ydych chi’n credu y bydd y gofynion mewn perthynas â Chydraddoldeb yn helpu i hyrwyddo a gwella hawliau unigolion sy’n derbyn gofal a
chymorth, a hawliau gofalwyr?

Hawliau

Mae graddau’r effaith anghymesur ar hawliau pobl hŷn yn ystod y pandemig COVID-19, yn benodol y rhai mewn cartrefi gofal, wedi cael cryn sylw. Torrwyd ar hawliau
dynol nifer o breswylwyr cartrefi gofal, gan gynnwys eu hawl i fywyd teuluol a phreifat a’u hawl i beidio â chael eu hamddifadu o’u rhyddid heb ganiatâd cyfreithlon.
Parhaodd bywydau nifer o breswylwyr i gael eu cyfyngu am gyfnod llawer hirach nag a brofwyd gan weddill cymdeithas.
Yn ogystal, mae’r Comisiynydd yn ymwybodol o enghreifftiau lle gofynnwyd i breswylydd adael cartref gofal, eu cartref, oherwydd anghydfod ynglŷn â’r ffordd y
caiff gwasanaeth ei ddarparu, gan arwain at doriad yn y berthynas rhwng y cartref gofal a theulu’r preswylydd. Ni all fod yn dderbyniol i ofyn i berson hŷn adael eu
cartref oherwydd eu bod nhw neu eu teulu wedi ceisio cynnal eu hawliau. I nodi camau y gellir eu cymryd i gryfhau hawliau pobl hŷn mewn cartrefi gofal yn
benodol, mae’r Comisiynydd wedi sefydlu grŵp o sefydliadau arbenigol ar draws y DU. Mae un o’r meysydd i’w archwilio wedi bod yn ymwneud â chyflwyno ‘contract
sy’n seiliedig ar hawliau’ mewn cartrefi gofal. Byddai contract sy’n seiliedig ar hawliau yn nodi’n glir y ddyletswydd ar ddarparwyr gofal i gynnal hawliau penodol.
Byddai dull o’r fath yn ymgorffori hawliau dynol (a hawliau cyfreithiol eraill) wrth ddarparu gwasanaethau o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod cynnal hawliau
preswylwyr wrth wraidd popeth y mae staff yn ei wneud.

Mae’r Cod Ymarfer yn cyfeirio at saith egwyddor comisiynu effeithiol a moesegol, sy’n sail i’r Cod, ac y mae’n rhaid eu gwreiddio mewn arferion comisiynu. Tra bod y
Comisiynydd yn croesawu’r ffaith bod cyd-gynhyrchu cynhwysol wedi’i gynnwys o fewn yr egwyddor ‘Mae perthnasoedd yn bwysig’, ni ellir cyflawni cysylltiadau teg
heb sicrhau bod pobl yn cael gwybod am eu hawliau cyfreithiol ac yn cael eu cefnogi i gymryd rhan mewn trafodaethau, er enghraifft, drwy ddarparu eiriolaeth. Yn yr un
modd, mae Safon 1 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol ddangos tystiolaeth fod comisiynu gwasanaethau gofal a chymorth yn cael ei
gyd-gynhyrchu gydag unigolion sydd angen gofal a chymorth. Mae sicrhau bod pobl sy’n gweithio yn y sector gofal a chymorth yn gwybod am yr hawliau sydd gan bobl a
bod yr hawliau hyn yn cael eu hyrwyddo’n weithredol yn hanfodol i alluogi diwylliant o gyd-gynllunio. At hynny, mae Safon 3 yn ei gwneud yn ofynnol i benderfyniadau
comisiynu ac adnoddau gael eu seilio ar dystiolaeth o asesiad o ba wasanaethau fyddai orau i sicrhau’r canlyniadau sy’n bwysig i unigolion. Unwaith eto, mae sicrhau
bod staff yn gwybod ac yn rhoi gwybod i bobl am eu hawliau yn hanfodol i sgyrsiau ‘beth sy’n bwysig’ effeithiol.

Mae’r Comisiynydd yn croesawu’r ffaith bod cydymffurfio â hawliau dynol wedi’i gynnwys yn y safonau comisiynu a bod yn rhaid i gomisiynwyr roi sylw dyledus i egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth gyflawni eu swyddogaethau, gan sicrhau bod amrywiaeth a chydraddoldeb yn ganolog i’r ddarpariaeth gwasanaethau gofal a chymorth. Mae’n bositif fod yr adran hon yn cynnwys cyfeiriad at
Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn. Fodd bynnag, nid yw’n glir pam nad yw dogfennau perthnasol eraill wedi’u cynnwys yn y rhestr hon fel Cymru o Blaid Pobl Hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio gan Lywodraeth Cymru, Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru a Chynllun Gweithredu Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru.

Bydd casglu data effeithiol ar gydraddoldeb yn allweddol i sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu cynnal. Mae’r Comisiynydd yn ymwybodol mai bwriad y Swyddfa
Gofal Cymdeithasol Genedlaethol yw sicrhau bod data yn cael ei ddefnyddio’n fwy effeithiol. Serch hynny, nid yw’r Cod Ymarfer yn bwriadu cyflwyno casglu data
ychwanegol. Nid yw’r gofynion adrodd presennol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn gofyn am gasglu data ar oedran. Felly, ni ellir ystyried gwybodaeth
sylfaenol am weithrediad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac effeithiolrwydd gwasanaethau gofal a chymorth drwy nodwedd warchodedig
oedran. Mae effaith hyn i raddau helaeth yn gwneud profiadau pobl hŷn yn anweledig. Yn yr un modd, nid ydym yn casglu data ar lefel genedlaethol ar nifer y
preswylwyr cartrefi gofal y gofynnir iddynt adael eu cartrefi, y rhesymau am hyn ac a oedd y troi allan yn gysylltiedig â chwyn ddiweddar. Mewn llythyr diweddar at y
Comisiynydd oddi wrth y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, dywedwyd y byddai’r defnydd o ffioedd ‘atodol’ neu ‘daliadau ychwanegol’ ar gyfer pobl sydd
angen llety cartref gofal yn cael ei fonitro o ran cydymffurfio â’r Fframwaith Cenedlaethol hwn. Serch hynny, nid oes gofyniad data newydd i gasglu gwybodaeth
am nifer y bobl y gofynnir iddynt gyfrannu at leoliad cartref gofal ar ffurf ‘ffi ychwanegol’ pellach. Felly, mae systemau ar gyfer monitro i ba raddau y mae
hawliau pobl hŷn yn cael eu cynnal yn parhau i fod yn aneglur.

 

Cynhwysiant a mynediad digidol

Mae’r Comisiynydd yn bryderus nad yw’r datganiad ar gynhwysiant a mynediad digidol ar dudalen 16 o’r Fframwaith Cenedlaethol yn ystyried y nifer sylweddol o
bobl hŷn, gan gynnwys gofalwyr, sydd heb fynediad i’r rhyngrwyd neu nad oes ganddynt yr hyder a’r sgiliau i ymgysylltu yn y ffordd hon – mae ffigurau diweddaraf
Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos nad oes gan 29% o bobl dros 75 oed fynediad i’r rhyngrwyd gartref ac nid yw 32% o bobl dros 75 oed yn defnyddio’r
rhyngrwyd.iii

Er y gall cynyddu’r defnydd o dechnoleg ddigidol gynnig buddion posib i’r rhai sy’n gallu cael mynediad ati, mae hefyd yn bwysig cydnabod y risg o eithrio’r rhai nad
ydynt, neu na allant, gael mynediad at wasanaethau gofal yn y ffordd hon. Rhaid i’r gwaith o ehangu gwasanaethau digidol gael ei wneud gyda phobl mewn golwg. Mae
hyn yn golygu uwchsgilio’r gweithlu i gadw’r elfen ddynol o unrhyw fodd o gyfathrebu a chynnig opsiynau hyblyg i ofalwyr sydd angen mynediad at gofnodion gofal.
Ym mis Tachwedd 2021, defnyddiodd y Comisiynydd ei phwerau cyfreithiol i gyhoeddi canllawiau ffurfiol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd yng Nghymru, gan
nodi’r camau y dylent fod yn eu cymryd er mwyn i bobl hŷn gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau mewn byd sy’n fwyfwy digidol, i sicrhau bod hawliau
pobl hŷn yn cael eu gwarchod a’u cynnal.iv Gofynnwyd i awdurdodau lleol a byrddau iechyd roi manylion y camau y maent yn eu cymryd i sicrhau y gall pobl hŷn gael
mynediad at wybodaeth a gwasanaethau drwy gyfryngau nad ydynt yn ddigidol, abod pobl hŷn sydd eisiau mynd ar-lein yn cael eu cefnogi i wneud hynny.v

Dylai’r Fframwaith Cenedlaethol gynnwys cyfeiriad at y canllawiau.

 

Rhagfarn ar sail oedran

Er bod oedran yn nodwedd warchodedig, mae rhagfarn ar sail oedran yn aml yn faes cydraddoldeb sy’n cael ei esgeuluso. Ystyr rhagfarn ar sail oedran yw stereoteipio,
rhagfarn a/neu wahaniaethu yn erbyn pobl ar sail eu hoedran neu eu hoedran canfyddedig. Mae adroddiad y Ganolfan Heneiddio’n Well ‘Rhagfarn ar sail oedran:
Beth yw’r niwed?’ yn nodi’r ystod o effeithiau negyddol y mae rhagfarn ar sail oed yn eu cael ar bopeth o iechyd meddwl a chorfforol i lesiant ariannol a chyflogaethvi.
Mae’n hanfodol bod camau ymarferol i gydnabod a herio rhagfarn ar sail oedran yn cael eu rhoi ar waith gan Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd, gan gynnwys
hyfforddiant staff a pholisïau penodol ar gynhwysiant oedran. Dylai hyn wella profiadau pobl hŷn boed yn weithwyr neu bobl sydd angen gofal a chymorth a
sicrhau bod pobl hŷn yn cael yr un cyfleoedd gofal a chymorth ag oedolion eraill. Tynnodd ymchwil a gyhoeddwyd gan 55/Redefined a Reed Talent Solutions ar
effaith rhagfarn ar sail oedran yn y gweithle sylw at y ffaith bod un o bob pump o bobl dros 50 oed wedi dweud eu bod am i gyflogwyr gael strategaeth glir i fynd i’r afael â
rhagfarn ar sail oedran, sy’n dangos y rôl bwysig y mae diwylliant sefydliadol yn ei chwarae o ran a yw pobl hŷn yn teimlo bod croeso iddynt.vii Er hynny, fodd bynnag,
dangosodd y gwaith a wnaed gan y Ganolfan Heneiddio’n Well yn 2021 mai dim ond un o bob chwe chyflogwr ddywedodd eu bod yn debygol iawn o gyflwyno polisïau ar
gynhwysiant oedran yn y gweithle yn ystod y 12 mis nesaf.viii Mae cyfle i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd arwain ar y mater hwn.
Cwestiwn 1.6: Ydych chi’n credu y bydd y gofynion a’r canllawiau statudol yn y Cod yn helpu i wella canlyniadau ar gyfer unigolion sy’n derbyn gofal a chymorth, a
gofalwyr? Mae’r pwyslais ar ansawdd gwasanaethau a’r canlyniadau sy’n bwysig i bobl hŷn i’w groesawu. Yn rhy aml, mae’r pwyslais ar brosesau comisiynu hyd yma wedi bod ar
fframweithiau cytundebol a manylebau gwasanaeth yn hytrach nag ansawdd bywyd pobl hŷn sy’n derbyn gofal a chymorth. Ym marn y Comisiynydd, dylai ansawdd gwasanaethau a chanlyniadau gynnwys:

• cynnal hawliau pobl hŷn;
• cael eu hamddiffyn rhag dod â gwasanaeth i ben;
• sicrhau bod gan bawb fynediad at eu harian eu hunain;
• mynediad at eiriolaeth annibynnol i sicrhau bod pobl yn gallu cymryd rhan

mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Mae’n hanfodol bod nodau ansawdd gwasanaethau a chanlyniadau’n cael eu cymhwyso’n gyson drwy gydol y broses gomisiynu, o asesu’r boblogaeth,
strategaeth a chynllunio i gaffael, cyflenwi a monitro gwasanaethau, ac adolygu a gweithredu’r gwersi a ddysgwyd. Ar hyn o bryd gall bwriadau comisiynu gael eu
gwanhau neu eu negyddu gan y broses gaffael, a cheir diffyg gwybodaeth a chydweithio a rennir wrth fonitro contractau i sicrhau bod pobl hŷn yn ddiogel, yn
cael gofal da ac yn mwynhau ansawdd bywyd da, a bod y gwersi a ddysgwyd yn cael eu defnyddio i lywio’r rownd gomisiynu nesaf. Dylai monitro contractau gasglu
data sy’n nodi i ba raddau y mae bwriadau, ansawdd a chanlyniadau comisiynu yn cael eu cyflawni, a dylid eu dadansoddi a’u defnyddio i lywio’r rownd gomisiynu
nesaf.

Cwestiwn 1.7: Ydych chi’n credu y bydd y gofynion a’r canllawiau statudol yn y Cod yn helpu i ail-ganolbwyntio ar yr agweddau sylfaenol ar y farchnad ofal, gan symud
oddi wrth bris tuag at fesur gwerth sy’n seiliedig ar ansawdd y gwasanaeth a’r gost gyffredinol? Mae breuder y farchnad gofal cymdeithasol yn cael effaith uniongyrchol ar allu
Llywodraeth Cymru i ysgogi newid ac, o ganlyniad, yn cael effaith uniongyrchol ar fywydau pobl hŷn. Mae’r Comisiynydd yn ymwybodol o enghreifftiau lle mae
gweithiwr cymdeithasol wedi cynghori preswylwyr a’u teuluoedd sy’n poeni am ansawdd eu gofal i beidio â ‘siglo’r cwch’ gan nad oes darpariaeth briodol arall ar
gael. Dylai’r Cod sicrhau bod comisiynwyr yn arfer eu cyfrifoldebau rheoli’r farchnad i sicrhau marchnad gofal cymdeithasol sefydlog lle na chaiff pobl eu gorfodi i dderbyn
gofal o ansawdd gwael a thoriadau posibl i’w hawliau rhag ofn y daw gwasanaeth i ben.

Mae’r farchnad cartrefi gofal yn fregus yn rhannol oherwydd bod y trefniadau sydd yn eu lle ar hyn o bryd i gyllido cartrefi gofal yn anghyson ledled Cymru ac nid ydynt
wastad yn adlewyrchu gwir gost gofal. Mae’r farchnad cartrefi gofal yn cael ei chynnal gan strwythurau ffioedd anghyfartal lle gall hunan-gyllidwyr fod yn rhoi
cymhorthdal tuag at gostau lleoliadau a ariennir yn gyhoeddus, a chartrefi gofal yn codi ffioedd atodol – mae ffioedd atodol weithiau’n cael eu gwahardd yn benodol
mewn canllawiau – ac mae’n bryderus bod prinder trefniadau gwneud iawn i bobl sy’n dymuno gwrthwynebu ffioedd atodol.
Argymhellodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus fod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyfyngiadau rhwymol, i gyfyngu ar y meysydd lle
codir ffioedd atodol, a gweithredu system gwneud iawn annibynnol, gadarn. Roedd yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y ddau argymhelliad hyn.
Dywedodd Llywodraeth Cymru yn ei ymateb i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y gallai fod yn barod i roi eglurhad pellach am ffioedd
atodol, yn amodol ar ystyriaethau adroddiad y Grŵp Arbenigol, ac y byddai’n barod i ystyried newidiadau i’r rheoliadau a’r fframweithiau presennol yng nghyd-destun
unrhyw system newydd.

Mewn trafodaethau pellach gyda’r Comisiynydd, nododd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer comisiynu
gofal a chymorth yng Nghymru yn gosod safonau ac egwyddorion ar gyfer arferion comisiynu ac yn cyflwyno dull cyson o godi ffioedd atodol.
Er bod y Comisiynydd yn croesawu’r Fframwaith Cenedlaethol newydd a’r goruchwyliaeth ehangach o ran cydymffurfiaeth, mae hi hefyd yn credu bod angen
mwy o oruchwyliaeth wrth yr Awdurdod Defnyddwyr a Marchnata (CMA) fel y corff sy’n monitro cydymffurfiaeth â chyfraith defnyddwyr.
Lle mae unigolion yn cael problemau wrth fynnu eu hawliau defnyddwyr neu eu hawliau o dan Ofal Iechyd Parhaus y GIG, mae’n bwysig bod y Cod a’r Fframwaith
Cenedlaethol yn nodi llwybrau gwneud iawn sy’n hawdd ac yn hygyrch. Safonau Masnach yw’r llwybr statudol ar gyfer gwneud iawn, ond yn aml nid yw Adrannau
Safonau Masnach lleol yn ddigon medrus yn y maes hwn o’r gyfraith i roi cymorth effeithiol. Nid yw’r dewis arall, cyfreithiwr preifat, yn opsiwn i lawer o unigolion
oherwydd y costau dan sylw. Mae’n hollbwysig felly sicrhau bod unigolion yn gwybod â phwy y gallan nhw gysylltu pan fydd mater yn codi ac y ceir ateb cyflym.
Cwestiynau’r Ymgynghoriad – Pennod 2 – Cynigion ar gyfer Fframwaith Tâl a Dilyniant

 

Cwestiwn 2.1 Mae egwyddor y fframwaith tâl a dilyniant yn seiliedig ar gynnig fframwaith cenedlaethol sy’n gallu cefnogi egwyddorion gwaith teg. Ydych chi’n
credu bod y Fframwaith yn gallu cefnogi’r dyhead hwn a’r manteision a amlinellir uchod?

Croesawodd y Comisiynydd y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r Cyflog Byw Gwirioneddol i’r sector gofal ac yn croesawu’r fframwaith tâl a dilyniant drafft fel
cam pellach tuag at wella tâl gweithwyr gofal, telerau ac amodau cyffredinol yn y sector a llwybrau gyrfa ar gyfer y rhai sydd am symud ymlaen. Mae darparu gofal
personol yn swydd fedrus, a rhaid i hynny gael ei adlewyrchu mewn polisïau sy’n ymwneud â thâl ac amodau. Mae angen cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad
personol a dilyniant mewn ffordd weithredol a’u hamlygu fel bod pobl yn gallu defnyddio eu sgiliau ac adeiladu gyrfa o fewn gofal cymdeithasol.
Fodd bynnag, gall tâl a dilyniant ym maes gofal cymdeithasol ond mynd mor bell yn absenoldeb mwy o fuddsoddiad a buddsoddiad parhaus. Mae cydraddoldeb rhwng
cyflog ac amodau ar gyfer swyddi tebyg yn y GIG a gofal cymdeithasol yn hanfodol. Mae’r Comisiynydd yn falch, yng Nghymru, bod Llywodraeth Cymru, cyflogwyr ac
undebau llafur wedi dod at ei gilydd mewn partneriaeth i sefydlu’r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol a bod y Fforwm wedi ehangu ei ffocws i edrych yn
ehangach ar feysydd eraill sydd eu hangen i sicrhau amodau a thelerau gweithio teg i weithwyr gofal, gan gynnwys iechyd a diogelwch yn y gweithle a chynrychiolaeth y
gweithlu yn y sector annibynnol. Mae’r Comisiynydd yn edrych ymlaen at weld canlyniadau data Gofal Cymdeithasol Cymru ar y gweithlu gofal, a gwerthusiad
annibynnol y Fforwm i weithredu’r Cyflog Byw Gwirioneddol a’i effeithiau ar recriwtio a chadw yn ystod y tair blynedd nesaf.

Cwestiynau’r Ymgynghoriad – Pennod 5 – Rhan 9 – Canllawiau Statudol (Trefniadau Partneriaeth)

Cwestiwn 5.3: Ydych chi’n cytuno y bydd y diwygiadau arfaethedig i’r rheoliadau a’r canllawiau statudol yn helpu i gryfhau trefniadau partneriaeth rhanbarthol a rôl
Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol? A oes gennych chi unrhyw awgrymiadau eraill o ran yr hyn y gellid ei gynnwys?

Mae’r Comisiynydd yn bryderus, er bod rhywfaint o waith da yn digwydd ar lawr gwlad, gan gynnwys prosiectau gartref o’r ysbyty a datblygiad model yr Asesydd
Dibynadwy, prin yw’r enghreifftiau o brosiectau’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol (RIF) sy’n integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r Comisiynydd hefyd yn
bryderus ynghylch a oes digon yn cael ei wneud i gyflymu a phrif ffrydio modelau llwyddiannus, ac a yw prosiectau sy’n cael eu hariannu gan y Gronfa Integreiddio
Rhanbarthol yn cael eu cyd-gynhyrchu gyda phobl leol a chymunedau lleol. Mae’n hanfodol bod y canllawiau yn sicrhau bod Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol
yn: rhoi ystyriaeth lawn i bwrpas y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol i gyflymu’r defnydd o fodelau gwasanaethau integredig ac yna eu prif ffrydio i’r ddarpariaeth
gwasanaethau arferol; cynnwys pobl leol a chymunedau lleol wrth gynllunio a chynhyrchu prosiectau; gwario cyllid y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn briodol;
adrodd ar ddata ansoddol cadarn yn ogystal â data meintiol ar brosiectau sy’n cael eu hariannu gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol; sicrhau atebolrwydd am y
canlyniadau.

Mae’r Comisiynydd hefyd yn poeni, er gwaetha’r bwriad i gynnig cyllid am dair blynedd i fudiadau’r sector gwirfoddol a chymunedol o 2022, gyda’r posibilrwydd o’i
ymestyn am dair blynedd arall, ceir darlun cymysg o gontractau tymor hwy yn cael eu cynnig i fudiadau’r trydydd sector. Mae’r argyfwng costau byw yn golygu bod
cynaliadwyedd ariannol darparwyr lleol hyd yn oed yn fwy ansicr nag o’r blaen. Dylai’r canllawiau sicrhau bod contractau tymor hwy a chyllid yn llifo’n gyflym i
fudiadau llawr gwlad i sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau. Dylai Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol weithio mewn partneriaeth â’r sector gwirfoddol i atal y
rhwystrau sy’n wynebu darparwyr gwasanaethau lleol bach rhag ymgysylltu â’r broses gomisiynu.

 

Nodiadau

i Addysg a Gwella Iechyd Cymru (2021), Tueddiadau Gweithlu’r GIG yng Nghymru (o 31ain Mawrth 2021). Ar gael yn: Adroddiad y gweithlu gofal cymdeithasol

ii Centre for Ageing Better. (2021) Understanding and improving recruitment language, imagery, and messaging. Ar gael yn: understanding-recruitment-language-GROW.pdf (ageing-better.org.uk)

iii Llywodraeth Cymru (2023) Arolwg Cenedlaethol Cymru: Ebrill i Fawrth 2023. Ar gael yn: https://www.gov.wales/national-survey-wales-april-2022-march-2023

iv Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sicrhau mynediad at wybodaeth a gwasanaethau mewn oes ddigidol, Tachwedd 2021 Canllawiau newydd i sicrhau bob pobl hŷn yn gallu cael gafael ar yr
wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt mewn oes ddigidol – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

v Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Mynediad at wybodaeth a gwasanaethau mewn oes ddigidol: Crynodeb o’r ymatebion gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd, Medi 2022 Mynediad at wybodaeth
a gwasanaethau mewn oes ddigidol: Crynodeb o’r ymatebion gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

vi The Centre for Ageing Better, Ageism: What’s the harm? (https://ageingbetter. org.uk/sites/default/files/2023-02/Ageism-harms.pdf

vii Gweler 55/Redefined and Reed Talent Solutions, The Unretirement Uprising (2022). t.17. Ar gaelyn: https://work-redefined.co/resources/the-unretirement-uprising-report

viii Ageism-harms.pdf (ageing-better.org.uk), t.13.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges