Angen Help?

Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb: Hawliau pobl hŷn

A woman looking into the distance and faintly smiling in a wooded area

Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb Senedd y DU: Hawliau pobl hŷn

31 Hydref 2023

Crynodeb gweithredol

  • Mae sefydlu Comisiynydd Pobl Hŷn i Gymru wedi creu swydd sydd mewn sefyllfa unigryw i hybu hawliau pobl hŷn ac i ddwyn Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i gyfrif i sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael ei diogelu.

 

  • Mae gan Ogledd Iwerddon hefyd Gomisiynydd Pobl Hŷn. Byddai creu rolau cyfatebol i Loegr a’r Alban yn gam positif tuag at wella hawliau pobl hŷn yn yr un modd ym mhob rhan o’r DU.

 

  • Yn ystod y pandemig Covid-19, bu’r Comisiynydd yn chwarae rôl flaenllaw drwy dynnu sylw at y risg i hawliau pobl hŷn ac at erydiad yr hawliau hynny, yn enwedig yn achos pobl hŷn a oedd yn byw mewn cartrefi gofal, drwy gymryd camau i sicrhau bod llunwyr polisi’n cael eu hatgoffa o’u hymrwymiadau, ac nad oedd hawliau pobl hŷn yn cael eu hesgeuluso.

 

  • Byddai’n fuddiol pe byddai Llywodraeth y DU yn adolygu ac yna’n gwella lefelau’r amddiffyniad i hawliau pobl hŷn o ran y gyfraith cydraddoldeb a pha mor hawdd neu anodd yw hi i orfodi hawliau o’r fath, gan gynnwys effeithiolrwydd Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb.

 

  • Dylai Llywodraeth y DU gefnogi cyflwyno Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Hŷn i helpu i gael dehongliad mwy eglur a hygyrch o hawliau dynol cyffredinol ac i roi sylw i achosion penodol o golli hawliau y mae pobl hŷn yn eu profi.

 

  • Dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gael gweinidog penodol yn y Cabinet sydd â chyfrifoldeb am bobl hŷn, ac sy’n cael ei adlewyrchu yn nheitl eu portffolio.

 

  • Dylai Llywodraeth y DU ddatblygu, cyhoeddi, a gweithredu strategaeth bositif ar heneiddio’n dda yn y DU, gan roi sylw i’r cyfleoedd sy’n codi wrth i bobl fyw’n hwy.

 

  • Dylai Llywodraeth y DU gymryd camau priodol i sicrhau bod pob corff cyhoeddus yn casglu data ystyrlon ac amserol i ddeall a chraffu ar y ddarpariaeth gyhoeddus ar gyfer oedolion hŷn, a bydd yn gwneud newidiadau adeiladol pan fydd angen am hynny.

 

  • Dylai Llywodraeth y DU gymryd yr awenau i herio allgau digidol, gan ystyried deddfwriaeth, os oes angen, i sicrhau bod opsiynau all-lein ar gyfer gwasanaethau gan gynnwys bancio a chyfleustodau, yn dal ar gael i bawb sydd eu heisiau neu eu hangen.

 

  • Gan adeiladu ar Gwella Bywydau drwy Ymgysylltu Digidol, gallai Llywodraeth Cymru gyhoeddi a sicrhau bod y Pecyn Cymorth ‘What Works’, a baratowyd gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn 2020 ar gael at ddefnydd y cyhoedd.

 

  • Mae’r Comisiynydd wedi defnyddio ei phwerau cyfreithiol yn y gorffennol i roi sylw i effaith allgau digidol ac mae wedi cyhoeddi canllaw i awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Mae’r canllaw yn disgrifio’r hyn y dylai awdurdodau lleol a byrddau iechyd ei ddarparu i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gwybodaeth a gwasanaethau mewn oes ddigidol, a bod hawliau pobl hyn yn cael eu gwarchod a’u cynnal. Mae hon yn enghraifft bositif o’r rôl y gall Comisiynydd Pobl Hŷn ei chwarae.

 

  • Dylai Llywodraeth Cymru roi ystyriaeth fwy manwl i hyfforddiant ac ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o effaith niweidiol oedraniaeth, gan chwilio am gyfleoedd i ymuno ag unrhyw fentrau sy’n bodoli eisoes, pan yn bosibl

 

  • Yn achos cyflogaeth, bydd yn bwysig cymryd camau mewn nifer o feysydd i alluogi pobl hŷn sy’n dymuno gweithio’n hwy i wneud hynny. Mae’r rhain yn cynnwys mynd i’r afael â rhestrau aros mewn gofal iechyd, sicrhau bod yr iaith a ddefnyddir wrth recriwtio yn apelio at bobl hŷn, cynyddu argaeledd a hybu opsiynau gweithio hyblyg, datblygu cymorth i gyflogwyr a gweithwyr hŷn mewn ystod o ddiwydiannau penodol, a herio oedraniaeth.

 

Cyflwyniad

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb ar hawliau pobl hŷn.

Wedi’i sefydlu drwy Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 sy’n cyflwyno’r manylion am rôl a phwerau statudol y Comisiynydd, mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn llais a hyrwyddwr annibynnol dros bobl hŷn ledled Cymru. Rôl y Comisiynydd yw codi ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru, herio gwahaniaethu, annog arferion gorau ac adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae’r Comisiynydd yn canolbwyntio ar bedwar maes gwaith penodol: diogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn, rhoi diwedd ar oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran, atal cam-drin pobl hŷn a galluogi pawb i heneiddio’n dda.

Mae sefydlu Comisiynydd Pobl Hŷn i Gymru wedi creu swydd sydd mewn sefyllfa unigryw i hybu hawliau pobl hŷn ac i ddwyn Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i gyfrif i sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael ei diogelu, a bod y rhwystrau a wynebir yn cael sylw pan wneir penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Hefyd, mae’n bwysig nad yw pobl hŷn yn cael eu trin fel un grŵp unffurf. Dylai polisïau a ddatblygir adlewyrchu’r ffaith ein bod yn mynd yn fwy amrywiol wrth inni heneiddio h.y., o ran profiadau, diddordebau, incwm, iechyd a pherthnasoedd cymdeithasol.

Mae gan Ogledd Iwerddon hefyd Gomisiynydd Pobl Hŷn. Felly, byddai creu rolau cyfatebol i Loegr a’r Alban yn gam positif tuag at wella hawliau pobl hŷn yn yr un modd ym mhob rhan o’r DU.

Ceir sylwadau ar feysydd penodol yr ymgynghoriad isod.

 

Allgau digidol

Wrth inni symud tuag at ddigidoleiddio gwasanaethau’n gyflymach nag erioed, mae allgau digidol yn effeithio ar niferoedd cynyddol o bobl hŷn. Yng Nghymru, nid oes gan 31% o rai dros 75 oed fynediad at y rhyngrwyd gartref, ac nid yw 33% o rai dros 75 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd (gan gynnwys setiau teledu clyfar a dyfeisiadau llaw), o’i gymharu â 13% o rai 65-74 oed a 0% o rai 25-44 oed.[1]

 

Meysydd sy’n achos pryder

Mae pobl hŷn yn dal i rannu profiadau o allgau digidol yn uniongyrchol â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae’r meysydd lle mae allgau digidol yn bryder yn cynyddu, gan effeithio ar bopeth o iechyd, i gyllid a bancio, i weithgarwch cymdeithasol. Ymhelaethir ymhellach ar rai o’r meysydd hyn isod.

Mae gofal iechyd yn golygu amryw o heriau, Thema gyffredin yw her trefnu apwyntiadau meddyg teulu neu eraill ar-lein, gan nad yw rhai pobl hŷn yn gallu gwneud hyn am nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd, am nad ydynt yn dymuno gwneud hynny neu am nad oes ganddynt yr hyder neu’r sgiliau i wneud hynny. Dywed rhai pobl hŷn hefyd nad ydynt yn gallu derbyn apwyntiadau am ymgynghoriadau fideo ac nad ydynt ychwaith yn gallu cael apwyntiadau wyneb yn wyneb, neu fod cais yn cael ei wneud iddynt i anfon ffotograffau digidol pan nad yw hynny’n bosibl.

Wrth i nifer cynyddol o feysydd parcio symud at wneud taliadau drwy ap, dywed pobl hŷn nad ydynt yn gallu ymweld â rhai mannau am nad oes ganddynt ffôn clyfar i dalu am barcio. Mae hyn yn effeithio ar weithgareddau cymdeithasol yn ogystal â’r gallu i ddefnyddio gwasanaethau, fel gofal iechyd, neu i ymgymryd â gweithgarwch pob dydd fel siopa.

Mae cludiant cyhoeddus hefyd yn dangos tueddiad i symud i arferion sy’n gallu allgau. Mae’r cefnu ar amserlenni sy’n cael eu hargraffu a’u cyhoeddi hefyd yn gallu effeithio ar bobl hŷn, gydag enghreifftiau o rifau ffôn a arferai gael eu harddangos ar safleoedd bws i ffonio neu anfon neges destun i weld a oedd bws yn hwyr neu wedi’i ganslo, wedi eu disodli gan god QR. Mae hyn yn golygu bod gwybodaeth o’r fath ar gael i bobl sydd â ffôn clyfar yn unig, ac sydd â’r sgiliau i’w ddefnyddio i’r diben hwn.

Mae cau canghennau lleol banciau’r stryd fawr a symud at fancio ar-lein hefyd wedi cyfrannu at allgau digidol. Mae pobl hŷn wedi cysylltu â’r Comisiynydd i rannu eu pryderon wrth iddynt geisio defnyddio gwasanaethau bancio. Dim ond ar-lein y gellir gwneud llawer o drafodion, neu gael ateb i ymholiadau. Mi all hyn gymryd llawer o amser, ac mae’n gallu bod yn gymhleth. Mae hefyd mwy o risg o amlygiad i dwyll a sgamiau os yw pobl hŷn heb yr ymwybyddiaeth, yr hyder, neu’r sgiliau i herio gweithgarwch amheus. Mae’n ddealladwy bod y sylw a roddir i sgamiau ariannol yn gwneud pobl hŷn (ac eraill) yn amharod i fentro mewn gweithgarwch ar-lein. Mae ymddiriedaeth mewn gwasanaethau digidol yn fater pwysig. Nid yw rhai pobl hŷn eisiau bod ar-lein neu nid ydynt yn ymddiried yn y dechnoleg. Mae opsiynau amgen, lle nad oes yn rhaid mynd ar-lein, yn hanfodol.

Mae cyfleustodau’n faes arall lle mae llawer o gyfrifon bellach ar-lein, heb lawer o ddarpariaeth i bobl nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd. Mae hyn yn achosi problemau wrth geisio anfon darlleniadau nwy a thrydan, a monitro a gwneud taliadau.

Mae mwy a mwy o’r gwasanaethau a ddarperir gan gynghorau lleol bellach ar-lein, sy’n ei gwneud yn llawer anos dod o hyd i rifau ffôn. Dywed pobl hŷn nad ydynt yn gallu adnewyddu eu Bathodyn Glas heb fynd ar-lein, gydag opsiynau amgen – wyneb yn wyneb mewn llyfrgelloedd neu ganolfannau neu dros y ffôn – heb eu crybwyll wrth gysylltu â chanolfannau cyswllt. Dywed pobl hŷn hefyd eu bod yn cael anawsterau wrth gysylltu â systemau budd-daliadau, rhai sy’n cael eu rheoli gan awdurdodau lleol a llywodraeth ganolog, a’u bod yn cymryd yn ganiataol bod pawb ar-lein.

Hefyd mae her y gost ynghlwm o fynd ar-lein a fforddio mynediad at y rhyngrwyd, boed hynny’n fand eang neu ddata talu wrth ddefnyddio. Canfu arolwg a gynhaliwyd ar ran y Comisiynydd ym mis Mawrth 2023 fod traean y bobl hŷn a holwyd yn cwtogi ar eu ffôn/rhyngrwyd o ganlyniad i’r argyfwng costau byw.

Mae peidio bod ar-lein yn rhwystro pobl hŷn rhag manteisio ar ystod ehangach a rhatach o nwyddau a gwasanaethau. Mae rhai gostyngiadau gan archfarchnadoedd, er enghraifft, ar gael i bobl sydd â ffonau clyfar yn unig. Mae mynediad cyfyngedig neu ddim mynediad o gwbl at y rhyngrwyd yn golygu nad yw rhai defnyddwyr yn gallu cael y nwyddau sydd fwyaf addas ar eu cyfer a’u bod mewn perygl o dalu mwy.

I’r bobl hŷn hynny sydd ar-lein, mae gwefannau’n aml wedi’u dylunio’n wael gyda thestun sy’n anodd ei ddarllen neu mi all ddiflannu ar ôl cyfnod penodol. Mi all yr iaith dechnolegol a ddefnyddir hefyd fod yn broblem, gan ei bod yn anghyfarwydd i lawer. Mae technoleg yn newid ac yn esblygu drwy’r amser sy’n golygu bod pobl yn aml yn cael eu gadael ar ôl, heb anghofio’r broblem o geisio cofio llawer o gyfrineiriau. Mi all effeithiau corfforol heneiddio, sy’n gallu effeithio ar fedrusrwydd neu ganolbwyntio, er enghraifft, hefyd effeithio ar allu pobl hŷn i ddefnyddio ffonau clyfar a gwasanaethau ar-lein.

 

Camau sydd eu hangen i atal pobl hŷn rhag cael eu hallgau’n ddigidol

Mae nifer o gamau y gellid eu cymryd i atal pobl hŷn rhag cael eu hallgau’n ddigidol.  Fel man cychwyn, dylai gwasanaethau (sy’n cynnwys, er enghraifft, y gallu i wneud apwyntiadau gofal iechyd, gallu rheoli cyfleustodau a bancio, cysylltu ag awdurdodau lleol) a gwybodaeth hanfodol fod ar gael all-lein yn ogystal ag ar-lein, a dylai opsiynau all-lein gyrraedd yr un safonau uchel. Dylai pobl hŷn gael y dewis a rhaid sicrhau nad ar-lein yw’r unig opsiwn sydd ar gael.

Yng Nghymru, mae pwerau cyfreithiol y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi cael eu defnyddio i roi sylw i gynhwysiant digidol gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi defnyddio pwerau o dan Adran 12 o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) sy’n golygu y gall y Comisiynydd gynhyrchu canllawiau ar arferion gorau yn achos unrhyw fater yn ymwneud â buddiannau pobl hŷn yng Nghymru. Rhaid i’r Comisiynydd ymgynghori â phwy bynnag y barnai sy’n briodol wrth gynhyrchu canllawiau o’r fath. Ar ôl i ganllaw gael ei gynhyrchu, rhaid i gyrff cyhoeddus a’r sawl sy’n darparu gwasanaethau a reoleiddir ystyried y canllaw wrth gyflawni eu swyddogaethau.

Ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddodd y Comisiynydd ganllaw i awdurdodau lleol a byrddau iechyd o dan y Ddeddf – ‘Sicrhau mynediad at wybodaeth a gwasanaethau mewn oes ddigidol: Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd’.[2] Mae’r canllaw yn nodi’r hyn mae angen i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ei wneud i sicrhau bod pobl hŷn yn cael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau mewn oes ddigidol, a bod hawliau pobl hŷn yn cael eu gwarchod a’u cynnal. Mae’r canllaw yn disgrifio’r seiliau cyfreithiol ar gyfer yr hawl i gael mynediad at wybodaeth sy’n elfen allweddol o’r hawl ehangach i ryddid mynegiant ac sydd wedi’i warchod mewn sawl offeryn hawliau dynol, gan gynnwys Cyfamod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol, y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a Deddf Hawliau Dynol 1998.

I gyd-fynd â’r canllaw roedd profforma a oedd yn gofyn am wybodaeth am gamau awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn y maes hwn. Ym mis Medi 2022, cyhoeddwyd ‘Mynediad at wybodaeth a gwasanaethau mewn oes ddigidol: Crynodeb o ymatebion gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd’, a oedd yn seiliedig ar y profformas a gwblhawyd.[3]

Mae pobl hŷn yn dal i dynnu sylw’r Comisiynydd at enghreifftiau a phryderon am allgau digidol. Mae rhagor o waith wedi’i wneud yn y misoedd diwethaf i gasglu profiadau pobl hŷn, gyda phwyslais penodol ar fynediad at wasanaethau a gwybodaeth awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Bydd adroddiad ac argymhellion sy’n nodi pa gamau pellach sydd angen eu cymryd yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y bydd yr ymatebion wedi cael eu dadansoddi.

Gallai Llywodraeth y DU gymryd yr awenau i herio allgau digidol, gan ystyried deddfwriaeth, os oes angen, i sicrhau bod opsiynau all-lein ar gyfer gwasanaethau, gan gynnwys bancio a chyfleustodau, yn parhau ar gael i bawb sydd eu heisiau neu eu hangen.

I bobl hŷn sy’n dymuno mynd ar-lein, rhaid ehangu’r ddarpariaeth o hyfforddiant hygyrch a pherthnasol, gan gynnig yr hyn yn union sydd ei angen ar bobl hŷn ac sy’n gweithio iddynt yn hytrach na thybio beth mae pobl hŷn ei angen neu sydd wedi’i seilio ar yr hyn y gall y darparwyr ei gynnig. Mae’r sgiliau digidol sydd eu hangen ar bobl hŷn yn aml iawn yn dra gwahanol i’r rhai sydd eu hangen ac sydd ar gael yn y gweithle. Mae ymchwil gan Leela Damodaran, Athro Emerita Cynhwysiant a Chyfranogiad Digidol ym Mhrifysgol Loughborough, ac eraill yn dangos yr hoffai pobl hŷn gael cymorth TG sydd ar gael yn hawdd, y gallant ymddiried ynddo ac sy’n cael ei gyflwyno mewn canolfannau cyfarwydd, croesawgar a lleol; sy’n gysylltiedig â gweithgareddau cymdeithasol / diddordebau personol; sydd heb bwysau amser nac asesiadau; sy’n cynnwys datrys problemau; ac sy’n cynnig cyngor diduedd a ‘rhoi cynnig cyn prynu’.

Dylid defnyddio canolfannau cymunedol sydd ar gael yn barod fel canolfannau galw heibio, llyfrgelloedd, clybiau, ysgolion, tafarnau a siopau i ddarparu cymorth TG i bobl hŷn mewn amgylchiadau anffurfiol a dylai’r cymorth hwn fod ar gael dros y tymor hir yn hytrach na chanolbwyntio ar ymyriadau byr. Dylid datblygu gweithio mewn partneriaeth â phobl hŷn, llywodraeth leol, ysgolion, canolfannau iechyd, llyfrgelloedd, mudiadau cymunedol, cwmnïau lleol ac eraill i helpu i roi sylw i broblem gynyddol allgau digidol.

Comisiynwyd Damodaran i gwblhau gwaith ar Enhancing Lives through Digital Engagement: The ‘What Works’ Toolkit, a baratowyd ar gyfer Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU yn 2020 ac mae’n rhoi sylw i gynhwysiant digidol mewn perthynas â grwpiau penodol, gan gynnwys pobl hŷn. Yn dilyn cyfarfod â’r Athro Damodaran, gofynnodd y Comisiynydd am ganiatâd i ddefnyddio’r pecyn cymorth, sy’n adnodd defnyddiol iawn. Ar hyn o bryd, mae’r pecyn cymorth yn dal yn destun embargo er bod mynediad yn cael ei ganiatáu i unigolion at eu defnydd eu hunain ar y ddealltwriaeth na fyddant yn ei gylchredeg yn ehangach. Mae hyn yn amlwg yn cyfyngu ar y defnydd o’r pecyn cymorth, a byddai’n fuddiol fel byddai Llywodraeth y DU yn ei alluogi i gael ei ddefnyddio’n gyhoeddus.

Wrth i fwy o fwy o agweddau ar fywyd pob dydd symud ar-lein neu wrth iddynt ymgorffori elfennau o ddigidoleiddio, mae mater allgau digidol yn mynd yn un ehangach. Dywed pobl hŷn eu bod yn mynd yn ddibynnol neu’n cael eu gorfodi i ddibynnu ar bobl eraill; maent yn cael eu gadael ar ôl, yn teimlo’n “annigonol, heb fod yn ddigon deallus, heb fod yn rhan o’r unfed ganrif ar hugain” a “heibio fy ngorau”. Dylai Llywodraeth y DU gydnabod effaith ehangach allgau digidol ar bobl hŷn a mynd i’r afael â hyn fel her fawr i gymdeithas.

 

Hyrwyddo hawliau pobl hŷn

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i gael Comisiynydd Pobl Hŷn yn dilyn galwadau ac ymgyrchu gan bobl hŷn ac ystod eang o grwpiau ac unigolion sy’n cynrychioli pobl hŷn. Mae’r Comisiynydd yn llais a hyrwyddwr annibynnol ar gyfer pobl 60 oed a hŷn, ac mae hi’n codi ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru, ac mae herio gwahaniaethu’n rhan sylfaenol o’r rôl.

Mae’r Comisiynydd mewn sefyllfa unigryw i hyrwyddo hawliau pobl hŷn, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i gyfrif i sicrhau bod eu hawliau’n cael eu diogelu. Mae sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu cynrychioli ar bob lefel o lywodraeth a helpu i sicrhau bod eu hawliau’n cael eu gwarchod yn allweddol i’r rôl. O ganlyniad, mae’r Comisiynydd yn cefnogi galwadau i sefydlu Comisiynydd Pobl Hŷn i Loegr a’r Alban.

Yn ystod y pandemig Covid-19, bu’r Comisiynydd yn chwarae rôl flaenllaw drwy dynnu sylw at y risg ac at erydiad hawliau pobl hŷn, yn enwedig pobl hŷn a oedd yn byw mewn cartrefi gofal. Cymerodd y Comisiynydd gamau i sicrhau bod llunwyr polisi’n cael eu hatgoffa o’u hymrwymiadau, ac nad oedd hawliau pobl hŷn yn cael eu hesgeuluso.

Rhan bwysig o rôl y Comisiynydd hefyd yw sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed gan lunwyr polisi a’u bod yn deall profiadau bywyd a bod hynny’n llywio penderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pobl hŷn. Yn gynnar yn y pandemig Covid-19, cyhoeddodd y Comisiynydd Lleisiau Cartrefi Gofal a oedd yn rhoi llais i bobl a oedd yn byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal, gan roi darlun o brofiadau pobl yn ystod y pandemig Covid-19.[4]  Roedd yr adroddiad nid yn unig yn dangos y materion a’r heriau a oedd yn wynebu pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal, ond hefyd enghreifftiau o’r arferion da sydd wedi gwneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl hŷn. Defnyddiwyd y materion a amlygwyd yn yr adroddiad, ynghyd â nifer o faterion eraill, mwy penodol, gan y Comisiynydd yn ei gwaith i ddiogelu hawliau pobl hŷn.

Hefyd, ym mis Ebrill 2021, sefydlodd y Comisiynydd Grŵp Hawliau Pobl Hŷn sy’n byw mewn Cartrefi Gofal. Mae’r Grŵp yn dwyn ynghyd sefydliadau o bob rhan o’r DU sy’n gweithio i gryfhau hawliau pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal ac i sicrhau eu bod hwy a’u teuluoedd yn gwybod ac yn deall eu hawliau a’u bod yn gallu eu gweithredu. Maes sy’n achos pryder arbennig yw diogelwch deiliadaeth pobl hŷn mewn cartrefi gofal ac i ba raddau y gall pobl fynnu eu hawliau heb ofni gorfod gadael eu cartref.

Mae’r pandemig Covid-19 wedi dangos yn glir y peryglon i hawliau pobl hŷn, yn enwedig ar adegau o argyfwng, a dylai hyn gael sylw gan Gabinet Llywodraethau Cymru a’r DU. Hoffai’r Comisiynydd weld cyfrifoldeb am bobl hŷn yn cael ei ddynodi’n glir yn nheitlau gweinidogion. Dylai hyn fod yn gyfrifoldeb ar lefel Cabinet, o fewn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

 

Hawliau pobl hŷn o ran y gyfraith cydraddoldeb

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru yn datgan bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus asesu effaith debygol polisïau ac arferion gweithio arfaethedig ar eu gallu i gydymffurfio â’r ddyletswydd gyffredinol a amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Fodd bynnag, ni fydd angen cyhoeddi Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb (EIA) oni bai eu bod yn dangos effaith (neu effaith debygol) sylweddol ar allu’r awdurdod i gyflawni’r ddyletswydd gyffredinol. Yn ystod y pandemig Covid-19, roedd y Comisiynydd yn bryderus am y prinder EIAau a gyhoeddwyd yn gysylltiedig â rhai penderfyniadau a wnaed a oedd yn effeithio ar bobl hŷn, gan ofyn cwestiynau ynglŷn ag i ba raddau mae’r gyfraith cydraddoldeb yn cael ei gweithredu.

Mi all unigolyn sydd wedi profi gwahaniaethu anghyfreithlon o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 brofi sawl her wrth wneud hawliad drwy’r llysoedd. Gall yr heriau hyn gynnwys unigolyn sy’n sylweddoli drostynt eu hunain eu bod wedi profi gwahaniaethu, costau gwneud hawliad, y gofyniad i wneud hawliad o fewn cyfyngiadau amser llym, diffyg mynediad at gyngor cyfreithiol di-dâl a deall cymhlethdodau prosesau’r llysoedd (yn enwedig i bobl sy’n byw ag anabledd neu ag iaith gyntaf heblaw Cymraeg neu Saesneg).

Dylai Llywodraeth y DU adolygu lefel yr amddiffyniad i hawliau pobl hŷn yn achos y gyfraith cydraddoldeb a pha mor hawdd neu anodd yw hi i orfodi hawliau o’r fath. Gallai i ba raddau y mae Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn gweithredu yn y ffordd y bwriadwyd iddynt weithredu a rhoi sylw gwirioneddol i effaith gweithredoedd arfaethedig fod yn rhan o adolygiad o’r fath.

Hefyd mae angen gwella’r trefniadau casglu data, a gallai Llywodraeth y DU wneud hynny neu fynnu ei fod yn cael ei wneud. Canlyniad y diffyg data cydraddoldeb sy’n cael eu casglu, gan gynnwys data ar oedran, yw ei bod yn aml yn anodd deall i ba raddau y mae pobl hŷn yn cael eu gwarchod gan y gyfraith cydraddoldeb.

 

Anghenion a hawliau pobl hŷn a phroses llunio polisïau Llywodraeth

Yn ystod y pandemig Covid-19, roedd y Comisiynydd yn bryderus am hawliau pobl hŷn ac i ba raddau yr oedd eu hawliau’n cael eu cynnal, gan gynnwys a oedd anghenion pobl hŷn yn cael ystyriaeth ddigonol wrth wneud penderfyniadau. Roedd y Comisiynydd yn pryderu’n fwyaf arbennig bod hawliau dynol pobl hŷn a oedd yn byw mewn cartrefi gofal yn cael eu torri. Mewn ymateb i hyn, bu’r Comisiynydd yn gweithio mewn partneriaeth â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru i weld a fu achosion posibl o dorri hawliau dynol pobl hŷn ac i asesu a oedd Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill wedi cydymffurfio â’u dyletswyddau cydraddoldeb a hawliau dynol mewn ymateb i’r pandemig.

O ganlyniad i’r ymyriad hwn gan y Comisiynydd a’r EHRC yng Nghymru a’r pryderon a fynegwyd, cyflwynwyd nifer o newidiadau gan gynnwys gwelliannau’n ymwneud â’r defnydd o asesiadau o effaith a chreu gweithgor newydd o fewn Llywodraeth Cymru i wella ymwybyddiaeth a hyfforddiant i staff ac i rannu arferion da. Hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu ar gyfer cartrefi gofal yng Nghymru mewn ymateb i bryderon y Comisiynydd.

Mae’r rhain yn enghreifftiau perthnasol a phositif o wrth rôl Comisiynydd Pobl Hŷn. Mae’r ffaith fod pobl, ar y cyfan, yn byw’n hwy, yn rhywbeth y dylem ei ddathlu. Fodd bynnag, mae hyn yn golygu blaengynllunio i sicrhau bod strwythurau ar waith i alluogi pawb i heneiddio gystal â phosibl. Dylai hyn gael ei wneud mewn ffordd gydlynus, gan wneud yn siŵr bod holl yr holl agweddau perthnasol ar bolisi llywodraeth yn cael eu cydlynu ac nad yw penderfyniadau ar drafnidiaeth neu dai, er enghraifft, yn cael eu cymryd heb ystyried rhai ar iechyd yr un pryd.

Mae strategaeth Cymru o Blaid Pobl Hŷn Llywodraeth Cymru yn enghraifft bositif o gynllunio at y dyfodol ac mae hi’n ymdrech i ddatgloi potensial y cenedlaethau presennol o bobl hŷn.[5]  Mae’r strategaeth yn gweithio ar draws adrannau’r llywodraeth i roi sylw i ystod o ffactorau sy’n dylanwadu ar sut yr ydym yn heneiddio. Mae’r strategaeth yn mabwysiadu dull seiliedig ar hawliau sy’n hybu cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol mewn ystod o feysydd polisi.

Dylai Llywodraeth y DU ddatblygu, cyhoeddi a gweithredu strategaeth bositif ar gyfer heneiddio’n dda yn y DU ac edrych ar y cyfleoedd sy’n codi yn sgil poblogaeth sy’n byw’n hwy. Dylai hyn gael ei wneud yn drawsadrannol i sicrhau bod gwahanol feysydd polisi’n cydlynu i ategu ei gilydd. Dylid talu sylw penodol i’r meysydd polisi hynny sy’n effeithio ar bobl hŷn lle mae pwerau ar lefel y DU yn hytrach nag yng ngofal y gweinyddiaethau datganoledig. Wrth lunio’r strategaeth, dylid cael trafodaethau â’r gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau nad yw gwaith presennol yn cael ei ddyblygu ac y gwneir y gorau o unrhyw gyfleoedd sy’n deillio o strategaethau sy’n bod eisoes, fel yr un a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Croestoriadedd

Nid yw llawer o’r heriau a’r problemau a wynebir gan bobl hŷn yn unigryw iddynt hwy, ond maent yn aml yn waeth oherwydd yr oedraniaeth y mae pobl yn ei wynebu’n ddyddiol. Fodd bynnag, nid yw cytundebau hawliau dynol presennol yn cynnig llawer o eglurder o ran sut i fynd i’r afael ag oedraniaeth i wireddu hawliau dynol mewn ffordd ragweithiol yn ystod henaint. Mae diffyg Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn yn golygu hefyd nad oes digon o bwyslais bob amser ar bobl hŷn mewn prosesau penderfynu, Dylai Llywodraeth y DU gefnogi cyflwyno Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn a fyddai’n helpu i gael dehongliad mwy eglur a hygyrch o hawliau dynol cyffredinol a rhoi sylw i achosion o dorri hawliau penodol pobl hŷn. Byddai hyn hefyd yn helpu i hyrwyddo prif ffrydio hawliau dynol mewn henaint yn systematig a gallai roi sylw’n fwy effeithiol i’r anfanteision lluosog sy’n digwydd yng nghroestoriadau gwahanol fath o anghydraddoldebau.

Mae angen rhagor o ymchwil i effeithiau sydd y mae gwahanol nodweddion gwarchodedig yn rhyngweithio ag oedraniaeth i greu sefyllfaoedd lle mae unigolion yn profi gwahaniaethu sy’n mynd y tu hwnt i brofi mwy nag un math o wahaniaethu. Mae gwahaniaethu neu anfantais mewn achosion o’r fath yn debygol o fod yn waeth gyda’i gilydd nag yn unigol.

 

Stereoteipio a gwahaniaethu

Mae oedraniaeth yn fath o stereoteipio, rhagfarnu a/neu wahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hoedran neu eu hoedran tybiedig. Gall unrhyw grŵp oedran brofi oedraniaeth.[6]  Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif, yn fyd-eang, bod un o bob dau unigolyn yn rhagfarnu yn erbyn pobl hŷn, sy’n dangos maint yr her sydd angen ei goresgyn.[7]

Yng Nghymru, dim ond 59% o bobl hŷn a ddywedodd eu bod yn teimlo eu bod yn aelod gwerthfawr o gymdeithas ers y pandemig, sy’n dangos bod yr effaith y mae stereoteipio yn ymwneud ag oedran sydd wedi dod yn fwy cyffredin yn ystod y cyfnod hwn yn ei gael ar deimladau pobl hŷn o hunanwerth.[8] Gall y stereoteipiau hyn gyfrannu at oedraniaeth, gan roi’r argraff bod pobl hŷn “wedi byw eu bywydau” a’i bod yn awr yn amser iddynt gamu o’r neilltu i wneud lle i’r cenedlaethau iau.

I ddeall effaith oedraniaeth ar bobl hŷn yn well ac i ba raddau mae gwasanaethau’n euog ohono, mae angen casglu data gwell. Mae diffyg data cydraddoldeb, gan gynnwys data ar oedran, a gasglwyd i gyflawni gofynion cyfreithiol, fel mewn cysylltiad â darpariaethau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, er enghraifft, yn golygu nad ydym yn deall profiadau pobl hŷn yn iawn. Mae’r diffyg data a gesglir ar oedran yn golygu nad oes modd cymharu mynediad at wasanaethau, fel amseroedd aros ar gyfer Asesiadau Gofal a Chymorth, rhwng grwpiau oedran i gael sicrwydd nad yw pobl hŷn yn aros yn hwy nag oedolion ifanc neu nad oes gwahaniaethu yn eu herbyn oherwydd eu hoedran wrth iddynt geisio cael help.

Mae’n bwysig y dylai’r holl ddata a gesglir gan gyrff cyhoeddus ymateb i’r angen i ddadagregu data’n ôl nodweddion gwarchodedig i sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau. Heb gasglu data cydraddoldeb ar y ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus, mi fydd pobl hŷn yn anweladwy. Dylai Llywodraeth y DU gymryd camau priodol i sicrhau bod yr holl gyrff cyhoeddus yn casglu data ystyrlon ac amserol sy’n rhoi dealltwriaeth ac sy’n edrych yn fanwl ar y gwasanaethau a ddarperir i oedolion hŷn, ac a fydd yn galluogi gwneud newidiadau positif lle bydd angen.

Mae cydnabyddiaeth gynyddol i’r ffaith bod oedraniaeth yn dilysu ac yn achosi sawl math o gam-drin a brofir gan bobl hŷn. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn 2022, dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd fod oedraniaeth yn ‘ffactor pwysig’ yng nghamdriniaeth pobl hŷn. Mi all oedraniaeth hefyd arwain ar lefelau uwch o oddefgarwch tuag at gam-drin pobl hŷn. Mewn arolwg a gynhaliwyd gan yr elusen Hourglass, nid oedd un o bob tri o’r ymatebwyr o’r farn bod gweithredoedd rhywiol amhriodol tuag at bobl hŷn yn achos o gam-drin; nid oedd bron i draean (30%) yn gweld ‘gwthio, taro neu guro person hŷn’ fel cam-drin, ac nid oedd bron i draean (32%) yn meddwl bod ‘cymryd eitemau gwerthfawr o gartref perthynas hŷn heb ofyn’ yn cyfrif fel cam-drin. Mae’r ystadegau brawychus hyn yn dangos bod ymddygiadau a fyddai’n cael eu hystyried fel cam-drin pe baent yn cael eu cyflawni yn erbyn pobl iau yn cael eu hystyried yn fwy derbyniol os ydynt yn cael eu cyflawni yn erbyn pobl hŷn.

Mi all oedraniaeth hefyd effeithio ar sut mae gweithwyr proffesiynol yn ymateb i gam-drin yn erbyn pobl hŷn. Weithiau bydd gweithwyr proffesiynol yn araf i ymchwilio i gam-drin yn erbyn person hŷn gan dybio, efallai, bod clais neu anaf corfforol wedi digwydd o ganlyniad i’w heiddilwch corfforol.[9], [10] Mae pryderon hefyd mai anaml iawn y bydd rhai sy’n cam-drin pobl hŷn yn cael eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd ac nad oes gan bobl hŷn sydd mewn perygl o gael eu cam-drin yr un mynediad at gyfiawnder troseddol ar hyn o bryd.[11]  Mae angen rhagor o waith a gweithredu gan Lywodraeth y DU i ddeall ac i fynd i’r afael â’r mater hwn.

Mae data sy’n ymdrin â cham-drin yn erbyn pobl hŷn yn faes arall sydd angen ei wella er mwy cymryd camau mwy effeithiol. Nid yw’r dulliau presennol o gasglu data bob amser yn arwain at ddealltwriaeth o raddfa’r cam-drin domestig a brofir gan ddynion a menywod hŷn. Mae’r Comisiynydd eisoes wedi gwneud gwaith pwysig i wella’r broses casglu data ar gam-drin yn erbyn pobl hŷn. Mae hyn wedi cynnwys cael gwared ar y ‘terfyn oedran uchaf’ yn Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (CSEW) i ddangos yn well niferoedd y bobl hŷn sy’n dioddef o ganlyniad i droseddu. Diddymwyd y terfyn oedran uchaf ar gyfer y modiwlau hunan gwblhau yn gyfan gwbl ym mis Hydref 2021, sy’n golygu y bydd data ‘pob oedran’ ar gael o eleni ymlaen.

Roedd ymateb y Comisiynydd i’r ymgynghoriad ar ail-ddylunio Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (Awst 2022) yn galw am ragor o welliannau wrth ddarparu data sy’n gysylltiedig ag oedran ar droseddu a cham-drin. Yma, gwnaed galwadau ar i’r Arolwg gynnwys data sy’n ymwneud ag oedran ar gyfer troseddau twyll, i gasglu data ar brofiadau pobl hŷn o’r system gyfiawnder troseddol, ac i ddadagregu ymhellach y data a gesglir ar brofiadau pobl hŷn o droseddu i ddangos y gwasanaethau ar sail priodoleddau fel ethnigrwydd, rhywedd a rhywioldeb).[12].

Mae portreadau negyddol o bobl hŷn yn amlwg yn y cyfryngau yn y DU ac maent yn cyfuno stereoteipio mewn ffordd sy’n cael effaith niweidiol. Edrychwyd ar hyn yn adroddiad y Centre for Ageing Better a gyhoeddwyd yn 2020, ‘Doddery but dear?: Examining age-related stereotypes’. [13]  Cynhaliodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru hefyd ymchwil i bortread pobl hŷn yn y cyfryngau newyddion (a gyhoeddwyd fis Mehefin 2021), a chanfu fod dau draean yr erthyglau am bobl hŷn yn negyddol o ran eu cywair neu eu cynnwys. Cafodd tystiolaeth a gasglwyd yn yr adroddiad ei defnyddio i ategu galwad y Comisiynydd am reolydd y wasg IPSO i ddiweddaru cod y golygyddion i gynnwys oedran fel ‘nodwedd warchodedig.[14]

Mae gwell dealltwriaeth o oedraniaeth a’i effeithiau niweidiol yn hanfodol os ydym am ei herio. Gellir gwneud hyn drwy hyfforddiant ac ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, ac mae’r rhain yn bethau y gallai Llywodraeth y DU edrych arnynt yn fanwl, gan chwilio am gyfleoedd i ymuno ag unrhyw fentrau sydd ar gael pan fo hynny’n bosibl.

 

Mynediad i’r farchnad lafur

Mae pobl hŷn yn gadael gwaith cyflogedig am nifer o resymau gwahanol. Mae’r rhain yn cynnwys penderfyniad bwriadol i ymddeol, salwch, cael eu diswyddo, yr angen i ofalu am bobl eraill, ac effeithiau oedraniaeth. Gellir gweithredu i roi sylw i nifer o’r materion hyn ac i helpu pobl hŷn i aros mewn gwaith os mai dyna yw eu dymuniad.[15]

Dangosir isod y prif bethau y gallai Llywodraeth y DU eu gwneud.

 

Rhoi sylw i’r ôl-groniad o bobl sy’n aros am ofal iechyd

Mae’r ôl-groniad ar gyfer triniaeth gan y GIG o ganlyniad i’r pandemig wedi cael effaith ar allu gweithwyr hŷn i aros mewn gwaith; dywedodd tua un o bob pump o weithwyr dros 50 oed a adawodd gyflogaeth ers dechrau’r pandemig eu bod yn awr ar restr aros y GIG am driniaeth feddygol gan y GIG.[16]

Ymhlith y bobl hŷn sydd eisiau gweithio ond nad ydynt mewn cyflogaeth, dywedodd 39% o rai 65–74 oed mai salwch neu gyflwr tymor hir, neu anabledd yw’r rheswm pam nad ydynt yn gallu gweithio.[17] Mae ymchwil yr ONS yn dangos bod cynnydd o 16% wedi bod mewn anweithgarwch economaidd rhwng 2019 a 2022 ymhlith pobl 50-64 oed oherwydd salwch tymor hir.[18]

 

Newid yr iaith a ddefnyddir wrth recriwtio i ddenu pobl hŷn

Nid oes llawer o hysbysebion am swyddi na phrosesau recriwtio sydd wedi’u cynllunio i ddenu pobl hŷn, pwynt a nodwyd mewn ymchwil gan y Centre for Ageing Better a fu’n edrych sut y mae iaith mewn hysbysebion am swyddi’n dylanwadu ar benderfyniad ceiswyr gwaith hŷn i ymgeisio am swyddi. Roedd termau fel “arloesol”, “y gallu i addasu”, “medrus yn dechnolegol” ac “uchelgeisiol” yn gwneud i bobl hŷn beidio ag ymgeisio ond bod termau fel “gwybodus”, “profiadol” ac “ymroddgar” yn apelio atynt.

Gallai Llywodraeth y DU sicrhau bod ei deunyddiau recriwtio ei hun, a rhai’r sefydliadau y mae’n rhoi cyllid iddynt sicrhau bod gweithgarwch recriwtio’n apelio at bobl hŷn drwy addasu eu hiaith a sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu cynnwys mewn delweddau a ddefnyddir ganddynt.

 

Cynyddu’r cyfleoedd i weithio’n hyblyg a hyrwyddo’r rhain ymhlith cyflogeion presennol neu wrth recriwtio

Canfu ymchwil gan y Centre for Ageing Better hefyd fod rhoi pwyslais ar opsiynau i weithio’n hyblyg a buddiannau eraill gan y cyflogwr yn ei gwneud yn fwy tebygol y byddai ymgeiswyr hŷn yn ymgeisio. [19] Dangosodd ymchwil gan yr ONS i bobl hŷn a adawodd y gweithle yn ystod Covid ond a fyddai’n ystyried dychwelyd mai oriau gweithio hyblyg oedd y ffactor mwyaf cyffredin a nodwyd pan oedd pobl hŷn yn ystyried dychwelyd i waith cyflogedig. Pobl dros 60 oed oedd fwyaf tebygol o ddweud bod gweithio hyblyg yn bwysig, gyda dros draean yr ymatebwyr yn dweud bod hwn yn ffactor pwysig.[20]

Mae nifer o resymau pam fod gweithio hyblyg yn bwysig i weithwyr hŷn, ond mae gofal yn ystyriaeth allweddol.[21]  Mae angen i fwy o gyflogwyr ystyried sut y gallant ystyried cyfrifoldebau gofal cyflogwyr, gan gynnwys cyfrifoldebau rhai gweithwyr hŷn, os ydynt am allu recriwtio (ac ar ôl hynny, gadw) staff. Ochr yn ochr â hyn, mi all cyflogwyr roi sicrwydd eu bod yn ymwybodol ac yn gefnogol o bobl â chyfrifoldebau gofal drwy gyflwyno polisïau Adnoddau Dynol fel absenoldeb i ofalwyr neu absenoldeb arbennig. Gallai Llywodraeth y DU adolygu ei harferion cyflogaeth ei hun a mynd ati i hyrwyddo buddiannau gweithio hyblyg ymhlith cyflogeion.

 

Datblygu cymorth i gyflogwyr a phobl hŷn mewn ystod o ddiwydiannau

Mae galwedigaethau pobl a’r math o waith maent yn ei wneud yn dylanwadu ar eu gallu i barhau i weithio yn eu diwydiant neu eu swydd benodol wrth iddynt heneiddio. Mewn rhai diwydiannau bydd niferoedd mwy o weithwyr a fydd angen symud i wahanol rolau neu gael eu hailhyfforddi wrth iddynt heneiddio; mi fydd y newidiadau a all fod yn bosibl i swydd reoli neu weinyddol yn wahanol iawn i’r rhai sydd ar gael i bobl sy’n gweithio ar safle adeiladu, er enghraifft.

Peth arall i’w ystyried yw her salwch a sut i reoli hyn, ac mae’n effeithio’n wahanol ar sectorau gwahanol, gan fod pobl mewn galwedigaethau gwaith llaw yn gallu disgwyl pedair blynedd yn llai o fywyd iach ar ôl 50 oed, o’i gymharu â gweithwyr mewn rolau gweinyddol neu broffesiynol.[22] Mae angen datblygu cymorth penodol ar gyfer gweithwyr hŷn mewn galwedigaethau gwaith llaw i aros mewn cyflogaeth neu i’w helpu i symud i rolau lle mae’r gwaith yn llai corfforol. Mi all hyn fod ar ffurf hyfforddiant a chyngor gyrfaol sydd wedi’i addasu’n llawer mwy ar gyfer yr unigolyn.

Gallai Llywodraeth y DU weithio â chyflogwyr mewn amrywiaeth o ddiwydiannau i gynnal ymchwil benodol ar y mater hwn a datblygu ffordd i alluogi gwahanol grwpiau o weithwyr hŷn i symud i rolau addas neu sut y gellid addasu rolau presennol.

 

Herio stereoteipiau sy’n rhagfarnu ar sail oedran

Mae stereoteipiau sy’n rhagfarnu ar sail oedran yn parhau i awgrymu ei bod yn anos hyfforddi pobl hŷn, eu bod yn amharod i newid, eu bod yn arafach wrth ddefnyddio technoleg ac nad oes ganddynt ddigon o frwdfrydedd i wneud cynnydd.[23] Yn yr un modd, mi all rheolwyr deimlo’n aml ei bod yn llai cost-effeithiol i fuddsoddi mewn hyfforddiant i weithwyr hŷn, felly gweithwyr hŷn yw’r lleiaf tebygol o gael hyfforddiant yn eu swydd. Mae llawer o reolwyr yn teimlo bod gweithwyr hŷn yn agosáu at eu hymddeoliad gyda llai o flynyddoedd ar ôl i elwa ar hyfforddiant. Nid yw hynny’n ystyried y ffaith bod gweithwyr hŷn yn dueddol o fod yn fwy teyrngar na gweithwyr iau ac felly mi allant aros yn hwy yn eu swydd na chyflogeion iau.[24]

Fel y nodwyd eisoes, mae gan oedraniaeth amryw o oblygiadau ac effeithiau ar iechyd, llesiant, yn ogystal â chynhyrchiant economaidd gyda phobl hŷn yn dweud eu bod yn teimlo bod pwysau’n cael ei roi i arnynt i ymddeol ac i adael y gweithle.[25] Mi allai Llywodraeth y DU chwarae rhan flaenllaw mewn hyfforddi staff i fod yn ymwybodol o oedraniaeth, yn y gweithle ac yn fwy cyffredinol, i sicrhau bod effeithiau niweidiol y math hwn o wahaniaethu’n cael eu herio. Dylid edrych ar gynigion polisi a fydd yn effeithio ar gyflogaeth i chwilio am ragfarn anfwriadol ar sail oedran, a’u newid ar sail hynny.

 

 

[1] Llywodraeth Cymru. (2022) Arolwg Cenedlaethol Cymru Ebrill-Mehefin 2021. Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-dangosydd-canlyniadau

[2]  Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. (2022) Mynediad at wybodaeth a gwasanaethau mewn oes ddigidol: Crynodeb o ymatebion gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Ar gael yn:  Mynediad at wybodaeth a gwasanaethau mewn oes ddigidol: Crynodeb o ymatebion gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

[3] Ibid.

[4] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. (2020) Lleisiau Cartrefi Gofal Cymru: Cipolwg ar fywyd yng nghartrefi gofal Cymru yn ystod Covid-19. Ar gael yn: Lleisiau Cartrefi Gofal: Cipolwg ar fywyd yng nghartrefi gofal Cymru yn ystod Covid-19 – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

[5] Llywodraeth Cymru. (2021) Cymru o Blaid Pobl Hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio. Ar gael yn: Cymru o Blaid Pobl Hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio [HTML] | GOV.WALES

[6] Am ragor o wybodaeth am oedraniaeth, gweler: Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. (2020) Gweithredu yn erbyn Oedraniaeth. Ar gael yn: Gweithredu yn erbyn Oedraniaeth – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

[7] Sefydliad Iechyd y Byd. (dim dyddiad) Ageism. Ar gael yn: Ageism (who.int)

[8] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. (2021) Cyflwr y Genedl 2021. Ar gael yn: https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2023/09/Understanding-Wales-ageing-population-18.9.pdf

[9] Ward, D.(2000) Ageism and the Abuse of Older People in Health and Social Care.  British Journal of Nursing 9(9), pp. 560 – 563.

[10] McGarry, J., Simpson, C. and Hinchliff-Smith, K. (2011) The Impact of Domestic Abuse for Older Women: A Review of the Literature. Health and Social Care in the Community 19(1), pp. 3-14.

[11] Wydall, S., Clarke, A., Williams, J. and Zerk, R. (2018) Domestic Abuse and Elder Abuse in Wales: A Tale of Two Initiatives. British Journal of Social Work (48), pp. 962-891.

[12] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. (2022) Ymateb i Ymgynghoriad: Ailddylunio Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr. Ar gael yn: https://olderpeople.wales/wp-content/

uploads/2022/08/Redesign-of-the-CSEW-220729-final-for-submission.pdf

[13] Centre for Ageing Better. (2020) Doddery but dear?: Examining age-related stereotypes. Ar gael yn: Doddery but dear?: Examining age-related stereotypes | Centre for Ageing Better (ageing-better.org.uk)

[14] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. (2023) Adroddiad Blynyddol 2021-22. Ar gael yn: Annual-Report-2021-22-FINAL-website.pdf (olderpeople.wales), p.17.

[15] Cyhoeddodd y Comisiynydd bapur yn ddiweddar ar gyflogaeth a phobl hŷn, a oedd yn canolbwyntio ar Lywodraeth Cymru. Gweler: Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. (2023) Cydweithio: Gwella Cyfleoedd Cyflogaeth i Weithwyr Hŷn yng Nghymru. Ar gael yn: Cydweithio: Gwella Cyfleoedd Cyflogaeth i Weithwyr Hŷn yng Nghymru- Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

[16] Roedd hyn yn codi i 35% yn achos rhai a oedd wedi gadael eu swydd flaenorol o ganlyniad i gyflwr iechyd. Gweler: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. (2022) Reasons for workers aged over 50 years leaving employment since the start of the coronavirus pandemic. Ar gael yn: Reasons for workers aged over 50 years leaving employment since the start of the coronavirus pandemic – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

[17] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. (2022) Deall poblogaeth Cymru sy’n heneiddio. Ar gael yn: 230307-Understanding-Wales-ageing-population-24-November.pdf (olderpeople.wales), y. 9.

[18] Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. (2022) Half a million more people are out of the labour force because of long-term sickness. Ar gael yn:  Half a million more people are out of the labour force because of long-term sickness – Office for National Statistics (ons.gov.uk)

[19] Centre for Ageing Better. (2021) Understanding and improving recruitment language, imagery, and messaging. Ar gael yn: understanding-recruitment-language-GROW.pdf (ageing-better.org.uk)., pp. 5-7.

[20] Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. (2022) Reasons for workers aged over 50 years leaving employment since the start of the coronavirus pandemic. Ar gael yn: Reasons for workers aged over 50 years leaving employment since the start of the coronavirus pandemic – Office for National Statistics

[21] Ibid.

[22] International Longevity Centre. (2022) Health and Place: How Levelling up health can keep older people working. Ar gael yn:  ILC-Hope-policy-brief.pdf (ilcuk.org.uk)

[23] Centre for Ageing Better. (2023) Ageism: What’s the harm? Ar gael yn: Ageism-harms.pdf (ageing-better.org.uk)., p.12.

[24] Ibid., p.13.

[25] Canfu ymchwil a gyhoeddwyd gan 55/Redefined and Reed Talent Solutions fod 30% o bobl a holwyd a oedd wedi ymddeol yn teimlo eu bod wedi cael eu gorfodi i fynd. Gweler 55/Redefined and Reed Talent Solutions. (2022) The Unretirement Uprising. Ar gael yn: https://work-redefined.co/resources/the-unretirement-uprising-report., p.22.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges