Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd:Cymru Gwrth-hiliol
Hydref 2023
Cyflwyniad
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (GCC) yn croesawu’r cyfle i ymateb i ymgynghoriad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ar Gymru Wrth-hiliol.
Mae’r Comisiynydd yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o wneud Cymru’n wlad wrth- hiliol erbyn 2030 ac mae Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol yn gam cadarnhaol. Fodd bynnag, er gwaethaf pwyslais ar groestoriadedd a sut mae gwahanol fathau o wahaniaethu yn cyfuno i greu mwy o wahaniaeth, nid yw’r Cynllun ei hun yn cynnwys llawer o fanylion penodol i bobl hŷn.
Am y rheswm hwn, mae’n bwysig nid yn unig ystyried effeithiolrwydd neu’r modd y gweithredir y Cynllun fel y mae, ond mae bylchau o ran mynd i’r afael â sut y dylai pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig hŷn gael eu cynnwys yn ystyrlon mewn mesurau gwrth-hiliol. Mae’r cyfraniad isod yn nodi gwybodaeth ddemograffig cyn tynnu sylw at faterion allweddol a godwyd yn flaenorol sy’n parhau i fod angen sylw neu ystyriaeth bellach.1
Demograffeg
Yn ôl data diweddar y cyfrifiad, roedd nifer y bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig hŷn sy’n byw yng Nghymru yn amrywio o 148 ym Mlaenau Gwent a 178 yn Ynys Môn, i 5,344 yng Nghaerdydd a 1,477 yng Nghasnewydd.2
Mae disgwyl i nifer y bobl hŷn yng Nghymru dyfu yn y blynyddoedd i ddod a bydd hyn yn golygu cynnydd yn nifer y bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig hŷn. Rhagwelir y bydd y nifer cyffredinol (ar draws pob hil) o bobl dros 75 oed yng Nghymru yn codi i 361,000 (11.2% o’r boblogaeth) yn 2026 ac i 384,000 (11.8% o’r
boblogaeth) erbyn 2031.3
Rhagfarn ar sail Oedran
Rhagfarn ar sail oedran yw stereoteipio, dangos rhagfarn a/neu wahaniaethu yn erbyn pobl ar sail eu hoedran neu ganfyddiad o’u hoedran. Gall rhagfarn ar sail oedran fod yn berthnasol i unrhyw grŵp oedran.4 Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod un o bob dau o bobl, yn fyd-eang, yn dangos rhagfarn yn erbyn pobl hŷn, gan dynnu sylw at raddfa’r her y mae angen mynd i’r afael â hi.5
Mewn ymateb i’r ymgynghoriad gwreiddiol ar y Cynllun drafft ym mis Mehefin 2021, cododd y Comisiynydd bryderon na chafodd mater rhagfarn ar sail oedran sylw.
Mae angen cymryd camau ychwanegol i sicrhau nad yw pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig hŷn yn wynebu mwy o anghyfartaledd o ganlyniad i’r cyfuniad o ragfarn ar sail oedran a hiliaeth, nac yn wir nodweddion gwarchodedig eraill. Mae ffocws y Cynllun ar brofiad pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i’w groesawu, ond rhaid i hyn hefyd roi sylw i amgylchiadau penodol pobl hŷn i sicrhau nad yw eu profiadau’n anweledig.
Data a thystiolaeth
Mae’r pwyslais ar bwysigrwydd data o ansawdd da yn y Cynllun i’w groesawu.
Mae’n bwysig bod y nod o ‘Hybu ein defnydd a’n dealltwriaeth o ddata a thystiolaeth i ategu polisïau gwrth-hiliol a mesur cynnydd’ yn cael ei gyflawni a bod cynnydd yn cael ei wneud yn gyflym. Bydd y bwriad i ddata ar ethnigrwydd gynnwys gwybodaeth wedi’i dadansoddi yn ôl rhyw, anabledd a phob nodwedd warchodedig arall lle bo hynny’n bosibl yn rhoi cyfleoedd i ddeall profiad pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig hŷn yn well a mesur cynnydd.
Mae sefydlu Uned Dystiolaeth Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru yn bwysig, ond mae angen casglu data ar oedran, ochr yn ochr â hil, a’i rannu’n grwpiau oedran 5-10 mlynedd. Yn aml mae diffyg data yn gyffredinol ar brofiadau pobl hŷn yng Nghymru, gyda phawb dros 60 neu 65 oed yn cael eu rhoi yn yr un categori. Mae creu Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfle i wella data ar bobl hŷn yn ehangach, ond yn enwedig o ran hil.
Mae disgwyl o hyd am welliannau mewn data sydd ar gael i’r cyhoedd ar oedran a hil. Mae’r data hwn yn hanfodol er mwyn deall profiadau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig hŷn a datblygu polisïau i hyrwyddo heneiddio’n iach wrth fynd i’r afael â heriau a rhwystrau penodol. Byddai’n ddefnyddiol ychwanegu neu gynnwys data cydraddoldeb yng nghasgliadau data presennol, er enghraifft data ar wasanaethau cymdeithasol a gofalwyr.
Cynhwysiant digidol a chyfathrebu
Mae gwaith diweddar a wnaed gan y Comisiynydd Pobl Hŷn i ddeall profiadau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig hŷn yn well wedi codi nifer o themâu gan gynnwys rhwystrau o ran iaith, problemau wrth gyrchu gwasanaethau, gwahaniaethu ac allgáu digidol. Mae mater allgáu digidol yn cael ei godi fwyfwy gyda’r Comisiynydd gan bobl hŷn o amrywiaeth o gefndiroedd. Mae ymchwil yn dangos nad yw un o bob tri o bobl dros 75 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd felly mae’n gadarnhaol bod strategaeth ymgysylltu’r Cynllun yn cynnwys ‘dulliau marchnata traddodiadol, fel taflenni’.
Bydd y rhain yn allweddol i gyfathrebu’r Cynllun a gwneud cynnydd perthnasol i bobl hŷn na allant neu sy’n dewis peidio â defnyddio’r rhyngrwyd. Mae’n hanfodol bod dulliau cyfathrebu o’r fath yn cael eu cynnal, gan ystyried anghenion penodol pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig hŷn.
Defnyddio deddfwriaeth a phwerau presennol
Mae’n dal yn bwysig nodi y gellid ac y dylid cyflawni llawer o’r camau sydd yn y Cynllun drwy weithredu’r ddeddfwriaeth bresennol yn fwy effeithiol megis Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu drwy wneud gwell defnydd o Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED), yn enwedig Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb priodol. Roedd hwn hefyd yn bwynt a wnaed yn yr ymateb gwreiddiol i’r Cynllun drafft ac mae’n werth ailedrych arno.
Bylchau allweddol yng Nghynllun Cymru Gwrth-Hiliol
Yn ymateb gwreiddiol y Comisiynydd Pobl Hŷn i’r Cynllun drafft pwysleisiwyd bod materion pwysig angen mynd i’r afael â nhw neu eu datblygu ymhellach. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Eiriolaeth annibynnol
Mae eiriolaeth annibynnol arbenigol ar gyfer pobl hŷn wedi bod yn un o’r gofynion cyson gan Bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig hŷn. Mae angen eiriolaeth annibynnol wedi’i theilwra ar gyfer pobl hŷn a all ymateb i sensitifrwydd diwylliannol yn ogystal â darparu eiriolaeth mewn amrywiaeth o ieithoedd. Dylai’r Cynllun adlewyrchu’r angen hwn a nodi sut y bydd yn cael ei gyflawni.
- Cam-drin pobl hŷn
Nid oes gan y Cynllun a gyhoeddwyd lawer i’w ddweud am gam-drin domestig. Rhaid i anghenion Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig hŷn fod yn rhan o drafodaethau parhaus ar gam-drin domestig, gyda gwasanaethau cymorth arbenigol yn cael eu datblygu a’u hamlygu.
- Mynediad at wasanaethau dementia
Er bod gan y Cynllun ffocws ar iechyd meddwl a lleihau anghydraddoldebau iechyd, nid oes cyfeiriad at ddementia yn y Cynllun a gyhoeddwyd. Mae angen cynnwys camau gweithredu ar ddementia drwy gydol y nodau a’r camau gweithredu ar ofal iechyd.
- Gweithwyr hŷn
Mae’r Cynllun yn cyfeirio at weithwyr lleiafrifoedd ethnig mewn perthynas â gwaith teg ond nid oes cydnabyddiaeth o’r heriau a’r gwahaniaethu ychwanegol sy’n wynebu gweithwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig hŷn. Mae’n bwysig bod y Cynllun yn mynd i’r afael â’r materion penodol y mae gweithwyr hŷn yn eu hwynebu mewn gwaith ac wrth chwilio am waith. Byddai gwell data ar Bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig hŷn hefyd yn helpu i asesu effeithiolrwydd rhai meysydd gwaith, megis mynediad at brentisiaethau.
Yn anffodus, nid yw’r meysydd hyn yn cael eu hadlewyrchu’n ddigonol yn y Cynllun presennol. Hyd yn oed os yw’r Cynllun yn gwneud cynnydd effeithiol yn gyffredinol, ni fydd yr hawliau a’r cynnydd sydd ei angen i wella profiadau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig hŷn o reidrwydd yn digwydd heb weithredu ychwanegol.
Lle mae camau ychwanegol yn digwydd, dylid adlewyrchu hyn mewn fersiwn wedi’i diweddaru o’r Cynllun.
Casgliad
Mae’r Comisiynydd yn parhau i bryderu nad yw Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth- hiliol yn cyflawni ar gyfer Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig hŷn oherwydd diffyg ffocws penodol ar bobl hŷn ac am nad yw’n ystyried effaith rhagfarn yn ddigonol. Mae’r materion a godwyd yn ymateb gwreiddiol y Comisiynydd i’r cynllun drafft yn parhau i fod yn berthnasol ac mae angen mynd i’r afael â nhw mewn gwaith ychwanegol gan Lywodraeth Cymru os yw Cymru lle gall pawb heneiddio’n dda am ddod yn realiti i Bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig hŷn.
1 Gellir dod o hyd i gopi o ymateb CGC i’r ymgynghoriad gwreiddiol yn: Ymatebion Ymgynghori – Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol: Cymru Gwrth-hiliol – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
2 Data Cyfrifiad 2021
3 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Mai 2023, Deall poblogaeth Cymru sy’n heneiddio-Mai-2023.pdf (pobl hŷn.cymru)
4 Am ragor o wybodaeth am oedraniaeth, gweler: Gweithredu yn erbyn oedraniaeth – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru