Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Yn dathlu cyfraniad economaidd menywod hŷn yng Nghymru

i mewn Newyddion

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn defnyddio Diwrnod Rhyngwladol y Menywod i ddathlu cyfraniad economaidd menywod hŷn yng Nghymru, cyfraniad gwerth biliynau o bunnoedd y flwyddyn nad yw yn aml yn cael ei weld.

Mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi ffeithlun sy’n tynnu sylw at y cyfraniad enfawr hwn ac yn ei gymharu â gwerth sectorau allweddol yn economi Cymru.

Drwy edrych ar ystod o ffynonellau data, mae’r Comisiynydd wedi canfod bod menywod hŷn yn cyfrannu oddeutu £350 miliwn y flwyddyn fel trethdalwyr, £1.4bn fel gofalwyr di-dâl, £402 miliwn fel gwirfoddolwyr a dros £125 miliwn drwy ddarparu gofal plant. Yn gyfan gwbl, mae hyn yn gyfraniad gwerth dros £2.3bn y flwyddyn i economi Cymru.

Mewn cymhariaeth, mae amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota yn werth £693 miliwn, ac mae gwasanaethau bwyd a llety yn werth £2.1b.

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn rhoi cyfle i ddathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol merched ledled y byd.

“Ond mae’n bwysig cofio bod menywod yn gwneud cyfraniad hanfodol bob dydd, cyfraniad nad yw yn aml yn cael ei weld, yn enwedig o ran menywod hŷn.

“Dyna pam yr oeddwn am amlygu’r cyfraniad economaidd y mae menywod hŷn yn ei wneud yng Nghymru – fel trethdalwyr, gofalwyr di-dâl, gwirfoddolwyr a thrwy ofal plant – cyfraniad sydd ar hyn o bryd yn werth dros £2.3bn ac yn debygol o gynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd i ddod.

Felly, gadewch inni ddefnyddio Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni i ddathlu’r cyfraniad enfawr y mae menywod hŷn yn ei wneud i’n heconomi, ein cymunedau a’n bywydau.

 


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges