Pwysigrwydd cyswllt wyneb yn wyneb â’n hanwyliaid
Mae pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, fel pob un ohonom, yn elwa’n fawr o gyswllt wyneb yn wyneb â’u hanwyliaid a’u ffrindiau. Mae ymweliadau â chartrefi gofal yn chwarae rhan hollbwysig yn iechyd a lles preswylwyr ac ansawdd eu bywyd, yn enwedig i’r rheini sydd fwyaf agored i niwed. Mae tystiolaeth yn dangos, er enghraifft, bod y math hwn o gyswllt yn arafu cynnydd dementia, a bod diffyg cysylltiad yn gallu ei gyflymu.
Mae hefyd yn bwysig cofio bod ‘ymweld’ yn aml yn golygu llawer mwy na rhyngweithio cymdeithasol: mae llawer o berthnasau a ffrindiau’n darparu cymorth ychwanegol i bobl hŷn, fel treulio amser gyda nhw i’w helpu i fwyta ac yfed digon, neu helpu rhywun sy’n annwyl iddynt i gyfleu eu dymuniadau, gan ategu’r gofal sydd ar gael gan staff.
Pan gafodd ymweliadau â chartrefi gofal eu hatal yn gynharach eleni wrth i Gymru fynd i’r cyfnod clo, mynegodd pobl hŷn, eu perthnasau a staff cartrefi gofal bryderon sylweddol am yr effaith yr oedd diffyg ymweliadau yn ei chael ar eu hanwyliaid, fel y nodwyd yn f’adroddiad, Lleisiau Cartrefi Gofal, a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
“Os bydd unrhyw beth yn digwydd i mi ac na fyddaf yn gallu gweld fy mhlant eto ac mae hynny’n fy nigalonni.” Preswylydd mewn cartref gofal
“Ers y cyfnod clo, mae fy mam wedi mynd i lawr allt braidd. Yr hyn sy’n peri cymaint o ofid yw bod mam, rwy’n siŵr, wedi drysu’n lân ac yn teimlo bod ei theulu wedi anghofio amdani.” Perthynas
“Un effaith arall y mae [unigedd] wedi’i chael yw’r effaith ar les emosiynol ein trigolion. Mae llawer yn teimlo eu bod wedi cael eu hanghofio gan eu teulu ac ni allant ddeall pam fod angen i ni eu cadw draw ar hyn o bryd.” Rheolwr Cartref Gofal
Gyda chyfnod o ansicrwydd pellach o’n blaenau, mae’n bwysig deall yn union pa mor anodd fu’r cyfnod clo a’r cyfnod hir ar wahân i lawer o bobl hŷn a’u teuluoedd, a’r effaith y mae hyn eisoes wedi’i chael ar iechyd a lles llawer o breswylwyr cartrefi gofal. Law yn llaw â hyn, bydd cydnabod y risgiau ychwanegol i iechyd a lles pobl a fydd yn cael eu creu pe bai ymweliadau’n cael eu hatal eto yn hollbwysig wrth i benderfyniadau anodd gael eu gwneud yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
Canllawiau ar ymweld â chartrefi gofal
Ar Awst 28, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau wedi’u diweddaru ar alluogi ymweliadau diogel â chartrefi gofal. Mae’r canllawiau, a luniwyd ar y cyd â rhanddeiliaid gan gynnwys Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn rhoi cyngor ar ymweliadau dan do, ymweliadau awyr agored a galluogi preswylwyr gofal i fynd allan i’r gymuned. Mae’n darparu fframwaith i helpu i lywio’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan ddarparwyr cartrefi gofal, ac mae’n cynnwys set o egwyddorion moesegol sy’n sail i’r broses o wneud penderfyniadau.
Ers cyhoeddi’r canllawiau, mae mwy o gartrefi wedi bod yn agor eu drysau i ymwelwyr ac yn galluogi pobl hŷn a’u hanwyliaid i ddod at ei gilydd, weithiau ar ôl misoedd lawer ar wahân.
Roedd y canllawiau’n dweud y gallai ymweliadau ddod i ben os bydd cyfraddau trosglwyddo’r coronafeirws yn lleol yn y gymuned a/neu ar lefel genedlaethol yn codi. Yn anffodus, mae hyn wedi digwydd erbyn hyn. Fodd bynnag, dylai’r egwyddorion sy’n sail i’r canllawiau – sy’n cynnwys diogelu hawliau pobl, cynnwys unigolion mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt a sicrhau bod penderfyniadau’n deg ac yn gymesur – gael eu defnyddio o hyd gan ddarparwyr cartrefi gofal i lywio eu gweithredoedd a’u penderfyniadau.
Asesu risg ar sail unigol
Mae’n hawdd deall pam mae timau achosion lleol a darparwyr cartrefi gofal am gymryd pob gofal sy’n angenrheidiol yn eu barn nhw i amddiffyn pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, a pham y gallai gwaharddiad cyffredinol ar ymweld ymddangos yn briodol o dan yr amgylchiadau presennol.
Fodd bynnag, nid yw gwneud penderfyniadau fel hyn yn ystyried y gwahaniaethau rhwng unigolion, a’r gwahaniaethau rhwng cartrefi gofal, a allai effeithio’n sylweddol ar risgiau posibl sy’n gysylltiedig ag ymweliadau.
Drwy ddefnyddio dull mwy unigol, ac asesu’r risg i bobl ac i leoedd fesul achos, gallai fod cyfleoedd i alluogi ymweliadau lle’r aseswyd y gellid rheoli risgiau posibl i breswylwyr a staff drwy fesurau fel defnyddio cyfarpar diogelu personol, cadw pellter cymdeithasol a hylendid, a chynnal ymweliadau mewn mannau awyr agored.
Mae’n hanfodol bod y risgiau i breswylwyr a staff y gellid trosglwyddo Covid o ganlyniad i ymweliadau yn cael eu hystyried yn erbyn y risg i bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal os bydd eu hiechyd corfforol a meddyliol yn dirywio o ganlyniad i gael eu cadw ar wahân yn hir oddi wrth y rheini sy’n golygu’r mwyaf iddyn nhw.
Mae hefyd yn bwysig cydnabod yr effaith ehangach y bydd gweld y dirywiad hwn – dirywiad na fydd modd ei adfer mewn rhai achosion neu a allai arwain at farwolaeth preswylydd, yn anffodus – yn ei chael ar iechyd meddwl a lles perthnasau a ffrindiau, llawer ohonynt yn bobl hŷn eu hunain.
Symud ymlaen: Beth mae angen iddo digwydd i alluogi ymweliadau diogel â chartrefi gofal yng Nghymru?
Mae hwn yn gwestiwn pwysig i bob un ohonom, o gofio pwysigrwydd cyswllt wyneb yn wyneb â’r rhai sydd bwysicaf inni. Mae’r perthnasoedd hyn yn bwysig i bawb, ni waeth beth yw ein hoedran na ble rydyn ni’n byw, ac mae cael cyfleoedd i dreulio amser gyda theulu a ffrindiau – i siarad, chwerthin neu rannu ein trafferthion a’n pryderon – yn hanfodol i’n cynnal.
Drwy waith caled a chydweithrediad cartrefi gofal, cyrff cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ac eraill, roeddem wedi dechrau gweld y cyfleoedd hyn yn cael eu cynnig eto; gwelsom bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yn cael cwrdd â’u teulu a’u ffrindiau eto.
Mae’r ymateb i’r cynnydd yn nifer yr achosion o’r coronafeirws mewn sawl rhan o Gymru wedi rhoi terfyn sydyn ar hyn mewn llawer o ardaloedd, a gallaf ddeall hynny o gofio’r colli bywydau trasig a welsom mewn cartrefi gofal ledled Cymru yn gynharach eleni.
Fodd bynnag, o ystyried yr effaith sylweddol a hirdymor y bydd atal ymweliadau yn ei chael ar iechyd a lles pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, rhaid inni gwestiynu a yw’r dull hwn yn gymesur ac yn gyfiawn.
Rhaid inni hefyd ystyried pa gamau y gellid eu cymryd, ac yma mha ffyrdd y gallwn gydweithio, i reoli risgiau posibl a galluogi ymweliadau i barhau’n ddiogel ledled Cymru.
Er mwyn penderfynu ar y ffordd ymlaen, a sut y gallwn sicrhau dull gweithredu sy’n fwy galluogol, mae angen inni ddod o hyd i atebion i nifer o gwestiynau allweddol:
- Sut gallwn ni sicrhau bod lleisiau a phrofiadau pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, a’u teuluoedd a’u ffrindiau, yn cael eu casglu a’u defnyddio i oleuo penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan ddarparwyr cartrefi gofal, a’u bod nhw’n cael cymryd rhan mewn trafodaethau am benderfyniadau sy’n effeithio arnynt?
- Sut y gellir cefnogi cartrefi gofal i reoli’r amser a’r costau staff ychwanegol sy’n gysylltiedig â threfnu a chydlynu ymweliadau?
- A allai hyfforddiant neu gefnogaeth bellach i staff cartrefi gofal sicrhau gwelliannau pellach o ran rheoli heintiau?
- A allai cynyddu’r capasiti profi ac amseroedd cwblhau cyflymach ar gyfer canlyniadau profion atal achosion o Covid mewn cartrefi gofal, a allai atal ymweliadau rhag digwydd?
- A allai aelod o’r teulu gael ei wneud yn ymwelydd dynodedig sydd â statws ‘gweithiwr allweddol’ fel y gallai gael gafael ar brofion rheolaidd, cyfarpar diogelu personol a hyfforddiant angenrheidiol er mwyn gallu ymweld â’i berthynas yn ddiogel? Mae hyn wedi cael ei awgrymu gan ofalwyr pobl sy’n byw gyda dementia fel ffordd o alluogi ymweliadau amlach a chaniatáu iddynt barhau i chwarae rhan bwysig yng ngofal eu hanwyliaid, er budd y preswylydd, y gofalwr a’r cartref.
- Sut y gellir cefnogi cartrefi gofal i wneud newidiadau yn eu hadeiladau neu yn yr awyr agored fel bod modd cynnal ymweliadau yn ddiogel? Mae rhai cartrefi wedi arwain y ffordd ac mae arferion da y gellid eu hefelychu, ond efallai y bydd angen cefnogaeth a chymorth ariannol er mwyn gwneud hyn – buddsoddiad da o ystyried ei bod yn debygol y bydd Covid gyda ni am fisoedd lawer i ddod.
- A allai Llywodraeth Cymru gynnig indemniad atebolrwydd cyhoeddus i ddarparwyr cartrefi gofal a’r sector gofal, yn debyg i’r indemniad y mae wedi’i ddarparu i’r GIG? Mae materion yn ymwneud ag yswiriant yn creu pwysau sy’n effeithio ar sefydliadau sy’n rhedeg cartrefi gofal, a allai arwain at osgoi risg o ran ymweliadau.
- Pa ddata sydd ar gael yn gyhoeddus a allai gefnogi’r gwaith o reoli risgiau sy’n gysylltiedig ag ymweld?
Drwy ateb y cwestiynau hyn a gweithio gyda’n gilydd i edrych ar y ffyrdd y gallwn gefnogi dull sy’n galluogi pobl i ymweld â chartrefi gofal, mae gan Gymru gyfle i arwain y ffordd a dangos ei thosturi, ei hundod a’i hymrwymiad i sicrhau bod pobl yn gallu parhau i gynnal cysylltiad â’u hanwyliaid. Er y bydd hyn yn sicr o fod yn heriol, dylai fod yn flaenoriaeth i ni fel cymdeithas.